Dyma wrthrych cerdd 28, cywydd mawl. Nid oes unrhyw gerddi eraill iddo wedi goroesi, hyd y gwyddys.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Godwin’ 8A1 ac A4. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi
Mab anghyfreithlon i Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro (m. 1469), oedd y Wiliam Herbert hwn, a hanner brawd, felly, i’r ail iarll, a elwid hefyd Wiliam Herbert, ac i Water Herbert. Ei daid oedd Syr Wiliam ap Tomas. Roedd y tri brawd hyn yn noddwyr i Guto’r Glyn yn y 1470au. Mae’n rhaid bod Wiliam yn oedolyn erbyn 1462 fan bellaf (gw. isod), ac felly roedd yn hŷn o dipyn na’i hanner frawd, ail iarll Penfro, a aned c.1455.
Gan fod cymaint o wŷr o’r enw Wiliam Herbert yn ne Cymru yn y bymthegfed ganrif, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddynt. Mae Griffiths (1972: 186) a Thomas (1994: 95) wedi casglu cyfeiriadau at ‘Wiliam Herbert, ysgwïer’, gan awgrymu mai brawd i’r iarll cyntaf ydoedd, nid mab. Dichon fod cofnodion am fwy nag un Wiliam Herbert wedi eu cymysgu yma. Eto, mae’n ymddangos bod Robinson (2002: 37–9) wedi llwyddo i gasglu’r hyn sy’n berthnasol i Wiliam Herbert o Benfro ac i ddangos mai mab yr iarll cyntaf ydoedd. Ymddengys mai’r un gŵr ydoedd ag Wiliam Herbert o Lanfihangel Troddi, a bod ei gysylltiad â’r lle hwnnw yn perthyn i gyfnod diweddarach na’r cyfnod a dreuliodd ym Mhenfro.
Dilynir arweiniad Robinson yma. Mae’n hollol sicr o’r testun mai cywydd i fab yr iarll cyntaf yw cerdd 28. Ond nid yr ail iarll ei hun yw’r Wiliam Herbert a gyferchir (cf. 28.14). Rhaid, felly, fod a wnelom yma â mab anghyfreithlon i’r iarll cyntaf, sy’n llwyr gyson ag adluniad Robinson o yrfa Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi.
Ei yrfa
Cyn dyfodiad Edward IV i’r orsedd yn 1461 buasai tiroedd iarllaeth Penfro ym meddiant Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI. Bu’n rhaid i Siasbar ffoi yn 1461 a rhoddwyd ei diroedd yn ne-orllewin Cymru yng ngofal cefnogwr pennaf Edward yng Nghymru, sef Wiliam Herbert o Raglan. Gwnaeth Herbert ei fab anghyfreithlon yn drysorydd ac yn stiward Penfro rywdro cyn Gŵyl Fihangel 1462. Ceir tystiolaeth ei fod yno o hyd yn 1467. Tywyll yw’r hanes wedyn ac nid oes sicrwydd beth a ddigwyddodd i’r Wiliam Herbert hwn ar ôl i’w dad gael ei ddienyddio yng Ngorffennaf 1469.
Fodd bynnag, yn y 1470au ceir prawf fod Wiliam yn parhau i fod yn ardal Penfro. Ef oedd stiward Stackpole Elidor o 1472/3 hyd 1507/8, ac yn 1476 fe’i disgrifir fel ‘William Herbert of Pembroke the bastard’ mewn cytundeb a wnaeth gyda’i hanner brodyr, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, a Water Herbert.
Ymddengys fod cysylltiad Wiliam Herbert â Llanfihangel Troddi wedi dechrau yn 1483, pan roddwyd y faenor iddo gan ei hanner brawd, yr iarll (Robinson 2002: 24, 37). Gan fod y ddogfen sy’n cadarnhau’r trefniant hwn yn ei alw ‘William Herbert esquire, late of Pembroke’, mae’n debygol nad oedd bellach yn byw ym Mhenfro. Mae’n rhaid fod cerdd 28 yn dyddio i’r amser cyn 1483, felly, ac yn wir cyn 1479, pan fu’n rhaid i ail iarll Penfro ildio’i deitl a derbyn teitl iarll Huntingdon yn ei le (Thomas 1994: 79). Y tebyg yw bod y cywydd yn perthyn i’r 1470au cynnar, gan fod naws y cyfeiriadau at farwolaeth yr iarll cyntaf yn awgrymu colled weddol ddiweddar.
Ffynnodd Wiliam Herbert dan nawdd ei frawd cyfreithlon. Enillodd hefyd ffafr y Brenin Rhisiart III (1483–5) a hyd yn oed Harri VII (1485–1509). Bu farw yn 1524 ac fe’i claddwyd yn Nhrefynwy.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Robinson, W.R.B. (2002), ‘The Administration of the Lordship of Monmouth under Henry VII’, The Monmouthshire Antiquary, XVIII: 23–40
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)