Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 38 copi llawysgrif, a’r testun yn anghyflawn yn Pen 221, Llst 55 a Stowe 959. (Nid y gerdd hon yw’r un a restrir gan MCF yn Pen 312, ii, 15–16.) Mae’r berthynas rhwng y llawysgrifau yn anodd iawn i’w diffinio. Cyfansoddwyd y cywydd yn ystod tridegau neu bedwardegau’r bymthegfed ganrif a dichon i wahanol fersiynau ohono gylchredeg ar lafar ar hyd a lled y wlad cyn i’r copïwyr cynharaf ei gopïo o tua 1527 ymlaen. Mae lle i amau mai’r hyn sydd gennym yn y copïau sydd wedi goroesi yw sawl perfformiad o’r gerdd gan un person a hwnnw’n dibynnu’n helaeth ar ei gof pan aeth ati i gofnodi’r cywydd. O’r herwydd, ni cheir patrwm amlwg yn y stema gan na cheir un cynsail ysgrifenedig gyffredin.
Cadwyd y copi hynaf o’r cywydd yn BL 14967, llawysgrif anodd ei lleoli o ran ei chydberthynas â’r gweddill. Ar sail y mwyafrif o’i darlleniadau, y mae’n perthyn yn agos i X1 ac X2. Ond un nodwedd allweddol yw bod ynddi gwpled a gadwyd hefyd yn BL 14978 a BL 14971 a thestunau Llywelyn Siôn (sy’n deillio o X3 yn y stema), gw. llinellau 69–70n. Gan nad oes cydberthynas amlwg rhyngddynt, mae’n debygol iawn fod y cwpled hwn yn y gynsail a bod gweddill y copïau wedi ei golli.
Er na chadwyd y cwpled ychwanegol hwn yn Brog I.2, hon yw’r unig lawysgrif sy’n cynnwys llinellau 53–8 a llinellau 67–8. Fe’u cynhwysir yn y golygiad gan fod yr ystyr yn llifo ac yn cynnwys cyfeiriadaeth werthfawr at achau’r noddwr. Ac eithrio hynny, nid yw’n gopi arbennig o dda o’r testun: fe’i nodweddir gan ddarlleniadau unigryw sy’n digwydd mewn llinellau pan fo’r gystrawen yn anodd neu’n cynnwys geiriau estron neu hynafol (e.e. 16, 17, 21 a 47) a collwyd rhai llinellau eraill hefyd.
Mae X1 (sef cynsail BL 14866 a LlGC 3057D) ac X2 (sef cynsail LlGC 17114B, LlGC 3049D, LlGC 8497B [i] a [ii], Gwyn 4 a C 2.617) yn dilyn yr un drefn llinellau â’i gilydd (ni cheir ynddynt linellau 53–8, 67–8 a 69–70). Eithriad yw LlGC 3057D sydd wedi colli llinellau 39–40 yn ogystal. Mae BL 14866 weithiau’n ategu darlleniadau unigryw LlGC 3057D (e.e. 24 vwgwl) felly dichon fod iddynt gynsail gyffredin: X1 yn y stema. Mae grŵp X2 yn cynnwys LlGC 17114B a chynsail Dyffryn Conwy neu X4: LlGC 3049D, LlGC 8497B [i], Gwyn 4 a chopi arall yn LlGC 8497B [ii]. Ymddengys fod C 2.617 hefyd yn deillio o’r gynsail hon yn achos y gerdd hon. Ar y cyfan, mae testunau X4 yn rhagori. Ond wrth i’r copïwyr godi’r testun gwnaethant ambell i gamgymeriad, e.e. collwyd llinellau 29–32 yn Gwyn 4. Ceir copi arall, diweddarach, yn LlGC 8497B [ii], ond ymddengys mai X4 oedd ei ffynhonnell yn hytrach na’r copi blaenorol yn yr un llawysgrif.
Ymddengys fod cynsail gyffredin hefyd i X5 (BL 14978, BL 14971 a Pen 221) ac X6 (testunau Llywelyn Siôn), sef X3 yn y stema. O ran BL 14978 a BL 14971, collwyd cwpledi eto yn ail ran y cywydd ond nid yr un rhai â Brog I.2 uchod (ond ymddengys iddynt gael eu colli am yr un rheswm sef bod ailadrodd mur mau o fewn ychydig linellau wedi peri i’r copïwyr lithro, gw. 29n). Weithiau dilynir darlleniadau BL 14967 a thro arall ddarlleniadau llawysgrifau Llywelyn Siôn (e.e. llinell 51n). Fodd bynnag, hollol unigryw yw rhai darlleniadau a geir yn nhestunau Llywelyn Siôn sef LlGC 6511B, LlGC 21290E, Llst 134, LlGC 970E a C 5.44. Fe’u dilynir yn LlGC 13062B a LlGC 13063B.
Oherwydd ddiffyg patrwm wrth olrhain natur y berthynas rhwng y llawysgrifau nid oes un testun yn rhagori o ran darlleniadau.
Trawsysgrifiadau: BL 14967, LlGC 17114B, BL 14866, LlGC 3057D, LlGC 3049D, Brog I.2, BL 14978 a Llst 134.
2 yn Normandi Yn X2, BL 14967 a BL 14866 ceir yr arddodiad yn ac fe’i cynhwysir gan fod Guto’n cyfeirio’n benodol trwy’r gerdd at yr ymladd yn Normandi. Er bod yr arddodiad o yn bosibl, sef darlleniad LlGC 3057D, Brog I.2, BL 14978 a llawysgrifau Llywelyn Siôn, byddai’n fwy ystyrlon i’r bardd gyfeirio at ei wrthrych fel un o Faelor. Mae’n bosibl felly i’r gwall hwn ddigwydd yn annibynnol.
3 Mathau Goch, mab maeth y gwin Didreiglad yw mab ym mhob llawysgrif ac eithrio X4 a dilynir y mwyafrif yma.
6 aerau Dyma ddarlleniad X4 yn unig; gthg. gaerav yn X2, LlGC 3057D a Brog I.2; wyr yn BL 14866 ac X3 (ni cheir y llinell yn BL 14967). Mae’n bosibl i’r copïwyr ei newid i gaerav gan nad oeddynt yn gyfarwydd ag ystyr aerau (sy’n air hynafol) ond nid atebir y g yn rhan gyntaf y gynghanedd ac anarferol iawn fyddai cael g berfeddgoll (fe’i newidir i wyr mewn llaw ddiweddarach yn LlGC 17114B). Y copi hynaf sy’n cynnwys y darllenaid wyr yw BL 14866 ond o ddarllen wyr ceid llinell fer a bu rhaid addasu gweddill y llinell: ceir o Ffrainc yn BL 14866 a BL 14978; Arthur o ffriw yn BL 14971 a Pen 99 ac Arthur ai ffriw gan Llywelyn Siôn.
9 a’i bâr coch Derbynnir darlleniad X4 a BL 14866 a chymryd mai ffurf dreigledig pâr ‘gwayffon’ sy’n dilyn y rhagenw ei. Ym mhob copi arall ceir a bar koch (gan gynnwys LlGC 3057D) ac ar bar koch yn LlGC 17114B. Cf. GGl â bar coch, gan ddeall bar yn yr ystyr ‘polyn’. Ond cyfeiria’r bardd at waywffon benodol Mathau yma (cf. llinellau 11 a 14) felly’r darlleniad a’i bâr sydd orau.
12 a’i gafael Ni cheir rheswm tros ddilyn darlleniad GGl yma sef o’u gafael.
14 baladr o’i fabolaeth Darlleniad y llawysgrifau hynaf ac eithrio BL 14967 sy’n darllen Ai balr o vabolaeth. Ychydig yn wahanol yw darlleniad Brog I.2 o vabolaeth a BL 14978 or fabolaeth. Dilynir y mwyafrif o lawysgrifau yma felly ac mae’r ystyr hefyd o blaid hynny.
16 ym min Rhôn Anodd yw gwybod yn union ai Rhôn neu Rôn a rhest neu rest sydd yma. Ni cheir cysondeb yn y copïau mewn perthynas â’r gystain r (gall R a rr gynrychioli rh weithiau). O ran yr enw lle Rhôn mae’r ffurf gysefin neu dreigledig yn bosibl yma ac mae hynny hefyd yn wir am rest (gw. TC 457 am droi r yn rh mewn geiriau benthyg). Ond rhaid ystyried bod y ddau air yn digwydd yn safle’r brif acen a cheir enghreifftiau pellach o rh yn cael ei ddefnyddio yn yr un modd gan Guto, cf. 102.57 Un rhodd wyf innau i’r rhain. Awgrymir, felly, mai Rhôn a rhest sydd fwyaf tebygol yma.
16 a’i wayw mewn Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio X5 am waew yn rest a Brog I.2 a main wayw rhest.
17 La Her a roes law i hwn Dyma ddarlleniad X1 ac X2; gthg. BL 14967 rroi hae i’r gael val maen gwn. Efallai fod yr enw priod La Her yn ddieithr i’r copïydd. Dichon mai hynny hefyd sydd wrth wraidd y darlleniadau amrywiol yng ngweddill y llawysgrifau: X5 alar roi i law ar hwn, Brog I.2 la hier a roes law i hwnn, X6 ala her Roi law i hwnn.
18 Botwn Dilynir X1, X2 (ond y ffurfiau cysefin petai potwn yn LlGC 17114B a LlGC 3057D), ac X5. Ceir bytwnn yn BL 14967 a Brog I.2 a batwnn yn X6.
20 ar hyd Aensio a Maen Ac eithrio BL 14967 ac X3 mae’r llawysgrifau cynnar yn darllen ar yma. Er bod y mwyafrif o’r llawysgrifau’n hepgor y cysylltair a fe’i cynhwysir gan ei bod yn bosibl cywasgu’r llinell. Ceir darlleniadau amrywiol ymhlith llawysgrifau Llywelyn Siôn sef hyd Ainsio y maen yn LlGC 6511B, hyd Ainsio maen yn LlGC 21290E a hyd yn Ainsio maen yn Llst 134. Hynny sydd hefyd yn X5 ond eu bod yn cynnwys y cysylltair y tro hwn (hyd einssio a maen). Diau i’r copïwyr eto gamddeall yr enwau priod.
20 rhi Dyma ddarlleniad X1, X3 a BL 14967, gthg. rhoi yn X2 a rhai yn Brog I.2 (yr olaf a geir yn GGl). Diddorol mai rhi a geir yn LlGC 8497B [ii] tra bo’r gweddill sy’n tarddu o X2 yn darllen rhoi; awgrym efallai mai hynny hefyd sydd i fod yng ngweddill grŵp Dyffryn Conwy. Mae rhi ‘rheolwr, pennaeth’ yn fwy hynafol na rhoi ac mae’r ystyr hefyd yn well o gofio i Fathau Goch weithredu fel capten Aensio a Maen.
23 rhaid yn Rhôn Darlleniad pob llawysgrif, gthg. Raid i Ron yn X4.
24 fugail Dyma ddarlleniad pob llawysgrif ac eithrio X1 bwgwl. Mae’r ddau’n ddigon ystyrlon yma, sef ‘ofn’ neu ‘arswyd’ o ddarllen bwgwl neu ‘amddiffyn’ o ddarllen bugail. Fel y nodir uchod, mae’n bosibl bod mwy nag un perfformiad o’r gerdd ac i’r llinell hon a 25 isod gael eu heffeithio o’r herwydd. Nid yw’n gwbl amhosibl chwaith fod gan Guto ei hun fwy nag un fersiwn o’r gerdd. Yn achos y llinell hon, dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Ar yr amrywio rhwng fugail a fwgwl, gw. Johnston 2007: 20–1.
25 melan Fel yn achos 24, anodd yw dewis rhwng melan sef darlleniad BL 14967 ac X6 neu mau lan, darlleniad X1, X2, Brog I.2 ac X5. Awgrymir, yn betrus, mai darllen melan ‘dur’ sydd orau yma o ran y cyd-destun: â’r bardd rhagddo i sôn am ddur yn llinell 29.
29–32 Collwyd y cwpledi hyn yn Gwyn 4: llithrodd llygaid y copïwr i linell 33 sydd hefyd yn gorffen â’r cyfuniad mur mau. Collwyd hefyd linellau 30–3 yn Brog I.2 a llinellau 33–6 yn BL 14978, awgrym eto i’r ailadrodd o fewn ychydig linellau ddrysu’r copïwyr.
30 Ni fethodd twrn i Fathau Dyma ddarlleniad BL 14967, X1, X2 ac X6 (collwyd y cwpled yn Brog I.2). Ceir y darlleniad unigryw ni metha larwm mathav yn X5.
35 Milwyr a fu’i wŷr efô Hepgorir a ym mhob copi ac eithrio Brog I.2 ond dichon i’r copïwyr ei hepgor er mwyn cywasgu’r llinell. Newidir hefyd amser y ferf: berf amser presennol sydd yn BL 14967 ond nid atebir yr f o’r herwydd. Yn X6 ceir milwyr fydd ac yng ngweddill y llawysgrifau milwyr fu. Mae’r dystiolaeth lawysgrifol yn gryfach tros y darlleniad olaf hwn, sef amser gorffennol y ferf, a’r bardd yn cyfeirio at ymgyrchu a fu yn y gorffennol pan arweiniodd Mathau Goch fyddin o filwyr.
37 rhad ar eu dewrder Didreiglad yw dewrder yn BL 14967 a Brog I.2 a dilynir hynny yma gan fod y cyd-destun o blaid darllen eu dewrder. Treiglir dewrder yn X1 ac X2 ond ceir darlleniadau unigryw yn X3: yr had ar dewrder ar hynt yn X6 ac a rhad o ddewrder ar hynt yn X5.
44 ban ddaliwyd beunydd Dyma ddarlleniad BL 14967, X2 a Brog I.2. Ceir y ffurf amhersonol delid yn X1. Ni threiglir pan ar ddechrau’r llinell yn X3 ac achosodd hyn broblemau i’r copïwyr gyda’r gynghanedd: ceir paunydd yn LlGC 6511B a poenwedd yn BL 14971 i ateb y gytsain.
46 fu i’r Cymry Dilynir y llawysgrifau hynaf sef BL 14967, LlGC 17114B a LlGC 3057D sy’n darllen fv i’r. Ceir amrywiad yn y gweddill gan fod angen ymestyn hyd y llinell.
47 ben iau Nudd Darlleniad X1 ac X2. Yn GGl dilynir BL 14967 a darllen ben iau budd. Tybir i Nudd fynd yn budd dan ddylanwad yr angen i ateb ben yn y gynghanedd. Ceir fersiwn o hynny hefyd yn Brog I.2 ond ychydig yn wahanol sef bennaeth budd, enghraifft arall o gamddeall yr ystyr. Felly hefyd Llywelyn Siôn sydd â’r darlleniad unigryw mewn iav nvdd a BL 14978 a BL 14971 dan gvdd.
48 eurai Sef darlleniad BL 14967 ac a gefnogir gan LlGC 3057D; gthg. aerau yn X2 a BL 14866. Sôn am y gost o dalu ranswm yn sgil carcharu Mathau Goch a wna’r bardd yma felly mae eurai ‘aur’ yn fwy ystyrlon.
50 ar boen dwbl Darlleniad BL 14967, X4, BL 14866 a BL 14978. Treiglir dwbl yn LlGC 3057D a darllen or boen ddwbwl. Ceir y darlleniad unigryw ar benn dwbl gan Llywelyn Siôn a Brog I.2 ac mae LlGC 17114B hefyd yn rhoi darlleniad unigryw dau boen dwbwl.
51 gŵr Llinell sy’n datgelu perthynas agos rhwng llawysgrifau Llywelyn Siôn, BL 14978 a BL 14971 gan eu bod oll yn darllen eryr yma.
53–8 Dyma chwe llinell sydd wedi eu cynnwys yn Brog I.2 yn unig, sef llawysgrif yn llaw Wmffre Dafis a gopïwyd cyn 1599 (cf. Bod 1 a J 101). Cesglir eu bod yn y testun gwreiddiol gan fod y gyfeiriadaeth sydd ynddynt yn ystyrlon a chan fod natur gymhleth perthynas y llawysgrifau yn gyffredinol yn dangos ôl traddodiad llafar ac efallai mwy nag un perfformiad o’r gerdd (gw. uchod). Cyfeirir ar ddwy ardal y gellir eu cysylltu â Mathau, sef Maelor a Threfor, a chyfeirir hefyd at ei achau. Er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw Einion yn daid uniongyrchol i Fathau gall mai ‘cyn-dad’ yn gyffredinol a feddylir. Er bod achau Mathau yn niwlog iawn, mae’n bosibl ei fod yn ddisgynnydd i Einion Goch ac i Rys Sais o lwyth Tudur Trefor, gw. Mathau Goch. Mae’r cymeriad geiriol a llythrennol hefyd o blaid cynnwys y llinellau hyn yma ynghyd â delwedd yr eryr (a ddefnyddiwyd eisoes am Fathau yn llinellau 5 a 41).
60 nid da’r byd Gthg. ond i bar yn y dir i bo yn X3.
67–8 Cwpled arall a gadwyd yn Brog I.2 yn unig, gw. 53–8n. Mae’r ystyr eto’n awgrymu’n gryf y dylid eu cynnwys.
69–70 Mae’r ffaith i’r llinellau hyn ddigwydd yn BL 14967 ac X3 o blaid eu cynnwys yma. Cyfeirir at Faelor, sef ardal enedigol Mathau Goch, ac mae’r cymeriad llythrennol hefyd yn dilyn yr un patrwm â gweddill y cywydd, gw. uchod.
74 y gŵr Sef darlleniad BL 14967, LlGC 3057D ac X5; gthg. i’r gwr yn y gweddill. Mae’r ystyr yn well o ran y cyd-destun gan ddilyn y gŵr.
74 lliwgoch Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio X4 ac X6 sef llawgoch.
Llyfryddiaeth
Johnston, D.R. (2007), ‘Cyngan Oll?’ Cynghanedd y Cywyddwyr Cynnar (Aberystwyth, 2007)
Jones, E.D. (1951–2), ‘The Brogyntyn Welsh Manuscripts’, Cylchg LlGC vii: 85–101
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Cerdd o fawl i un o noddwyr enwocaf Guto’r Glyn yw hon, sef Mathau Goch o Faelor. Roedd Mathau yn gapten ac yn arweinydd milwrol o fri yng ngogledd Ffrainc yn ystod cyfnod olaf y Rhyfel Can Mlynedd.
Wrth adrodd hanes Mathau yn y cywydd, enwir lleoliadau o bwys (llinellau 16, 20 a 22n Mawns) a gelynion Ffrengig enwog y milwr (17–18n). Cyfeiria’r bardd hefyd at y ffaith fod Mathau wedi ei garcharu, sy’n help i ddyddio’r gerdd. Fe’i carcharwyd ddwywaith yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, yn 1432 ac eto yn 1434. Gellir cynnig i Guto’r Glyn ganu’r cywydd hwn o flaen cynulleidfa rywle ym Maelor yn fuan wedi iddo gael ei garcharu (gw. y cyfeiriadau at Faelor yn 26, 53 a 70). Yn ystod y tridegau, bu llawer o filwyr Cymreig yn ymladd gyda Mathau Goch a hawdd credu i rai ohonynt ddychwelyd i Gymru â storïau arwrol amdano ac i hynny ysbrydoli Guto i gyfansoddi’r cywydd. Ond rhaid ystyried hefyd yr wybodaeth fanwl o’r ymladd yn Ffrainc yn y cywydd a’r modd y cyfarchai Guto ei noddwr fel petai’n ei ddatgan o’i flaen. Tybed a fu i Guto’r Glyn ei ganu yng ngogledd Ffrainc o flaen Mathau a’i filwyr? Ar 25 Mehefin 1441 hwyliodd Guto’r Glyn o Portsmouth i Normandi ym myddin Richard, dug Iorc, ac ymddengys i’r llynges lanio ym mhorthladd Harfleur (Salisbury 2007: 1). Dychwelodd Guto i Gymru ym mis Medi 1441. Os canwyd y cywydd hwn gan Guto yn Normandi yn ystod ei daith, gellir ei ddyddio i’r flwyddyn 1441, ac o bosibl rhwng misoedd Mehefin a Medi y flwyddyn honno (ibid. 14). Hon yw’r unig gerdd i Fathau Goch sydd wedi goroesi, ond mae’n bosibl i Guto ei foli fwy nag unwaith fel yn achos Syr Rhisiart Gethin (gw. cerddi 1 a 2).
Ceir naws storïol gref i’r cywydd wrth i’r bardd ddechrau’r ddwy ran gyntaf â’r gair pan. Agorir y gerdd drwy nodi enwogrwydd Mathau yn Normandi (1–4) a chanmol ei allu fel arweinydd milwrol yn erbyn y Ffrancwyr (7–8) ac fel rhyfelwr brawychus (9–10). Rhoddir sylw penodol i’w waywffon sy’n goch gan waed (9, 11, 13–14), ac a fu o gymorth iddo ddwyn buddugoliaeth i’r Saeson.
Manylir yn yr ail ran (15–42) ar frwydr ger Rouen pan ddaeth Mathau wyneb yn wyneb ag un o’i elynion, y cadfridog Ffrengig La Hire, ac ymladd ag ef mewn gornest bersonol (15–16). Delweddir y ddau elyn, yn eironig, fel dau’n cymryd rhan mewn dawns wrth i La Hire estyn ei law i Fathau fel petai’n un o’i gyfeillion agosaf (17–20). Maent yn ‘dawnsio’ ar hyd Anjou a Maine, delwedd hynod effeithiol i ddisgrifio dau elyn yn ymladd o gofio’r cysylltiad rhwng y gair dawns a thema’r ‘Ddawns Angau’ (gw. 20n dawns). Â’r bardd rhagddo i foli Mathau o safbwynt ei filwyr a cheir yr argraff fod Mathau ei hun yn bresennol yn gwrando ar ei eiriau (24–5). Dywed ei fod yn un y gellir dibynnu arno yno yn Rouen (23), yn amddiffynnwr gwych (yn fugail ac yn [f]ur), ac mae ei ysbrydoliaeth yn tanio brwdfrydedd ymysg ei filwyr (31–2). Delweddir y milwyr hynny fel teirw ac fel pelenni o dân (main gwns) a’r goreuon mewn rhyfel (38). Cloir y rhan hon gan gymharu’r milwyr â helwyr, yn bloeddio’r rhyfelgri Hw-a ar y cadfridog Ffrengig La Hire.
Hanes carchariad Mathau a geir ar ddechrau’r drydedd ran (43–52). Sonia am yr effaith a gafodd hynny ar y Cymry, yn arbennig y beirdd a bryderai’n fawr am dynged eu harwr. Ond er cymaint y dioddefaint a ddaeth i’w ran, nid effeithiodd hynny ar Fathau (47–50). Dywed Guto fod y gost o’i ryddhau yn un sylweddol, ond mai’r Ffrancwyr a fydd yn talu am hynny yn y pen draw. Â’r bardd rhagddo i bwysleisio rhinweddau Mathau fel rhyfelwr grymus gan olrhain ei ach a’i gysylltiadau â gogledd-ddwyrain Cymru (Trefor a Maelor). Cyfeirir yn arbennig at ei allu i wrthsefyll y chwant di-chwaeth am gyfoeth mawr a thiroedd, a chanmolir, yn hytrach, y modd y buddsodda ei arian mewn meirch a milwyr. I gloi, hoffai’r bardd i Gymru, Ffrainc a Lloegr ganu clodydd y milwr hwn o Faelor.
Dyddiad
Canwyd y gerdd wedi 1432 neu 1434, ac o bosibl yn 1441 pan oedd Guto’r Glyn yn filwr yn Ffrainc.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd III a Salisbury 2006: 13–15.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 74 llinell.
Cynghanedd: croes 45% (33 llinell), traws 23% (17 llinell), sain 28% (21 llinell), llusg 4% (3 llinell).
2 Normandi Ardal yng ngogledd Ffrainc a oedd yn ganolbwynt i’r Rhyfel Can Mlynedd o 1436 ymlaen hyd at ei ddiwedd yn 1453.
3 mab maeth y gwin Awgrym i Fathau gael magwraeth uchelwrol oherwydd iddo gael ei fagu ar win, diod a gysylltir â statws uchel. Hen ddywediad y Gogynfeirdd yw’r ymadrodd mab maeth y medd, e.e. GMB 25.18 a GBF 2.4, cf. GDEp 7.45 mab maeth y medd; GHS 20.3 mab maeth y wledd.
5 eryr Hen drosiad am arwr yw ei alw’n eryr, gw. hefyd 41 a 57.
6 Arthur Sef y Brenin Arthur.
7 capteiniaid Uniaethir Mathau â chapteiniad grymus eraill yma i nodi pa mor enwog oedd ef. Un ohonynt oedd Syr Rhisiart Gethin, un o noddwyr Guto, gw. cerddi 1 a 2.
9 broch Mochyn daear neu greadur llwyd gwyllt yn perthyn i’r wenci a’r arth a chanddo drwyn blaenfain yw broch, gw. GPC 330, ond nid yw’n drosiad cyffredin am arwr yn y farddoniaeth. Efallai y gwêl Guto debygrwydd rhwng Mathau Goch yn ei arfwisg lwyd a’i waywffon yn ymladd i’r broch llwyd a’i drwyn hir.
9 pâr Deellir bâr yn ffurf dreigledig y gair pâr ‘gwaywffon’, gw. GPC 2684 ac Maes y Gad: Arfau: Gwaywffyn. Cyfeirir at waywffon benodol a oedd ym meddiant Mathau yn y llinellau hyn, cf. 11 a 16 gwayw a 14 paladr, a GLGC 33.22 ef aeth â gwayw Fathau Goch.
10 Rolant Arwr y gân Ffrangeg o gylch chwedlau Siarlymaen, ‘Chanson de Roland’, a gyfansoddwyd c.1100.
13 pêl Ymddengys fod mynd â’r bêl (ffurf gysefin pêl) a mynd â’r bel (o’r Saesneg bell ‘cloch’) yn ddau ymadrodd tebyg i’w gilydd o ran eu hystyr ffigurol ac nid yw’n hawdd gwahaniaethu rhyngddynt yng ngwaith y beirdd. Awgrymir mai ffurf dreigledig pêl sydd yma ac y cyfeirir yn ffigurol at Fathau yn mynd â’r ‘clod, bri, arwydd o ragoriaeth’ gydag ef o’r rhyfel, hynny yw y fuddugoliaeth, gw. GPC 2721, GLM 376, GDGor 7.80n a DG.net 106.4 Er dig i’r byd dygi’r bêl (a gw. y nodyn ibid. sy’n gwrthod awgrym GDG 475–6 a GDLl 16.21–2 mai bel o’r Saesneg bell sydd yno). Ond ceir ystyr gyffelyb i’r ymadrodd mynd â’r bel ‘cloch’ hefyd, gw. GSRh 11.72n sy’n ffafrio’r ystyr ‘bod ar y blaen’. Ymhellach, gw. OED Online s.v. bell, n.1 lle yr esbonnir mai cyfeiriad at gloch buwch neu ddafad sy’n arwain gyr neu ddiadell yw’r gloch yn yr ymadrodd ‘to bear the bell’, sef ‘to take the first place’, a ‘to bear or carry away the bell’ yn golygu ‘to carry off the prize’.
15 gorchest Awgryma’r bardd yma i Fathau ymladd mewn gornest bersonol â’r cadfridog Ffrengig La Hire.
16 Rhôn Sef Rouen yn Normandi, Ffrainc, tref ar lannau afon Seine. Fel prifddinas Normandi bu’r dref yn ganolbwynt allweddol yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Bu ym meddiant y Saeson rhwng ei chipio wedi gwarchae yn 1419 a’i cholli i’r Ffrancwyr yn 1449. Cyfeiria Guto’n aml at y dref (fel ei gyd-feirdd) ac mae’n bosibl iddo ef ei hun ymweld â hi pan oedd yn saethwr ym myddin y dug yn 1441, gw. Salisbury 2007: 1.
16 mewn rhest Math o ddyfais i ddal bôn gwaywffon, gw. GPC 2982 d.g. rest. Yn ôl OED Online s.v. rest, n.2 byddai’r ddyfais hon ar ochr dde’r arfwisg er mwyn dal bôn y waywffon pan fyddai’r marchog yn rhuthro at y gelyn, cf. 98.43–4 Brest dur o Baris dirion / Ac ar y frest rest o Rôn. Ymhellach, gw. Maes y Gad: Arfau: Gwaywffyn.
17 La Her Sef La Hire neu Étienne de Vignoles (c.1390–1443), cadfridog y Ffrancwyr a gelyn y Saeson yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Cefnogodd Jeanne d’Arc yn ystod ymgyrchoedd 1429. Enillodd frwydr Gerbevoy yn 1435 a chafodd ei benodi’n gapten ar Normandi yn 1438.
18 Potwn Sef Jean Poton de Xaintrailles (c.1390?–1461), un o gapteiniaid y Ffrancwyr a chyfaill i La Hire, gw. 17n (cyplysir y ddau hefyd yn 4.36–8). Ymddengys iddo fod yn bresennol yn yr un brwydrau â Mathau, e.e. Verneuil (1424) ac Orléans (1427).
20 dawns Delweddir y brwydro rhwng y ddau elyn fel dawns, delwedd hynod effeithiol o gofio’r ystyr fygythiol sydd i’r gair ‘dawns’ ym marddoniaeth y cyfnod a’i gysylltiad â thraddodiad y ‘Ddawns Angau’ neu’r Danse macabre. Ymhellach, gw. 24.1n, GSDT 122–5 a Saer 1969: 265–83.
20 Aensio Sef Anjou yng ngogledd Ffrainc, talaith i’r de o Maine. Yn 1425 anfonwyd Mathau Goch, Thomas Montacute, iarll Salisbury, a Thomas Scales, Barwn Scales i glirio Maine ac Anjou. Bu’r ymgais yn un llwyddiannus a daeth Mathau Goch yn gapten ar Château L’Ermitage ger Le Mans, gw. Probert 1961: 39. Yn 1441, fodd bynnag, collwyd y ddwy ardal o ganlyniad i gadoediad rhwng Lloegr a Ffrainc (Evans 1995: 33).
20 Maen Sef Maine yng ngogledd Ffrainc, talaith i’r gogledd o Anjou ac i’r de o Normandi. Roedd Mathau yn gapten ar Maine yn 1427 (Probert 1961: 40).
22 Rolant Gw. 10n.
22 Mawns Sef Le Mans, prif dref Maine. Mae’r gaer ar lannau’r afon Sarthe yng ngogledd Ffrainc. Roedd Mathau Goch yn gapten ar Château L’Ermitage ger Le Mans, gw. Probert 1961: 40. Dengys yr enwau estron yn y cwpledi hyn – Anjou, Maine a Le Mans – wybodaeth fanwl Guto am y rhyfeloedd yn Ffrainc.
23 Rhôn Gw. 16n Rhôn.
26 Maelor Brodor o Faelor Saesneg oedd Mathau Goch (boed yn ddisgynnydd i’r Hanmeriaid neu lwyth Llannerch Banna), cf. 53, 70. Am ei gysylltiadau achyddol â Maelor gw. Mathau Goch.
27 urddas gŵr Cyfeiriad at statws uchelwrol Mathau Goch, cf. 3 mab maeth y gwin. Ond gall fod yn gyfeiriad at ei statws anrhydeddus fel arweinydd milwrol hefyd, cf. 58 Gŵr nod y Goron ydyw. Teitl ‘ysgwïer’ a roddwyd iddo yn ewyllys Syr John Fastolf yn 1459 er i ffynonellau diweddarach ei alw yn ‘Syr’ Mathau Goch. Ni cheir prawf iddo gael ei urddo’n farchog yn ôl Probert (1961: 34).
34 Gwŷr antur a gâr yntau Mae’r gystrawen yn amwys: yn yr aralleiriad cymerir mai Gwŷr antur yw’r goddrych, ond gellid cymryd mai yntau yw’r goddrych: ‘yntau a gâr wŷr anturus’.
35 milwyr Yn ôl un cofnod roedd gan Mathau osgordd o 60 picellwr march, 14 picellwr troed a 222 gŵr bwa gydag ef yn Le Mans yn 1435 (Carr 1968: 40), llawer ohonynt yn filwyr Cymreig.
36 main gwns Sef pelenni o dân neu ‘cannonballs’, gw. Evans 1998: 75–105.
36 Maen ac Aensio Gw. 20n Aensio a Maen.
38 blodau Sef ‘y goreuon’ neu’r ‘dewisiol rai’. Ceir llinell debyg yn GLD 27.64 Rhyw flodau rhyfel ydych.
40 Hw-a Bloedd hela, gw. Cummins 1988: 113 a 169. Cf. hue yn Saesneg a ddaw o’r Ffrangeg huer ‘to shout as in war or the chase’, OED Online s.v. hue, v.2. Diddorol yw awgrymiad Lewis (1976: 87): ‘Rhaid fod bechgyn y fintai a oedd yn gwrando ar y cywydd wedi codi ar eu traed a gweiddi gyda’r datganiad.’ Yn wir, cyrhaeddir rhyw uchafbwynt cadarnhaol yma ar ddiwedd yr ail ran fel petai’r bardd yn ceisio codi ysbryd y milwyr.
40 La Her Sef La Hire neu Étienne de Vignoles (c.1390–1443), cadfridog y Ffrancwyr, gw. 17n. Ef yw’r un sy’n cael ei hela gan Fathau Goch a’i filwyr yma.
42 gwarau Deellir yn ffurf ar chwarae; cf. GPC 1577 lle nodir yr enghraifft hon dan gwarae ond rhaid cadw’r terfyniad -au er mwyn yr odl fewnol, cf. 33.43 I minnau, gwarau gwiwraen. Diau mai’r ystyr ffigurol ‘brwydro’ sydd i’r ferf yma, cf. GHD 5.46 Wedi i’r gwŷr ado’r gwarae.
43 y glêr Cyfeirir ddwywaith at y beirdd yn y cywydd hwn, cf. 67 cerddwyr. Nodir iddynt hwy yn arbennig deimlo’n bryderus am ei garchariad sy’n awgrymu, o bosibl, fod Mathau yn noddi’r beirdd yn rheolaidd er ei fod, am ran helaeth o’i oes, yn byw yn Ffrainc.
44–6 Carcharwyd Mathau Goch ddwywaith, yn 1432 ac yn 1434. Digwyddodd y carchariad cyntaf pan ddaliwyd ef yn St Severine (Sainte Ceneri heddiw, gw. Probert 1961: 40) pan ymosododd y Ffrancwyr yn ddirybudd. Yr ail dro cafodd ei ddal ‘through the foundering of his horse’ yn ôl Probert (1961: 41) ar ei ffordd i St Denis (ymhellach, gw. Seward 1978: 174). Dichon fod y swm am ei ryddid yn un sylweddol a gellir cymharu’r hyn a dalwyd i ryddhau un o’i gyd-filwyr, Syr Roger Camoys, sef 2,000 salus, tua £2,500. Cynigiodd Lloyd (1873: 129) fod Guto wedi canu’r cywydd ‘with a view to engage his countrymen to raise a sum for the ransom of Matthew Gough then a prisoner in France’. Gwyddys nad yw hynny’n ystyrlon o ran bwriad y bardd, ond nid yw’n gwbl amhosibl i Fathau dderbyn cymorth ariannol o Gymru i’w ryddhau, gw. Evans 1995: 31.
45 trefi Cipiwyd sawl tref gan y Ffrancwyr tra bu Mathau Goch dan glo, y bwysicaf o bosibl oedd Harfleur a gollwyd i’r Ffrancwyr yn 1432. Wedi ei ryddhau, brwydrodd Mathau i’w hailfeddiannu gan lwyddo erbyn Tachwedd 1440.
47 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, un o ‘Dri Hael Ynys Prydain’, gw. TYP3 5–6, 464–6 ac WCD 509.
49 echwyn Yr ystyr ‘benthyg’ sydd orau o ran y cyd-destun yn hytrach na ‘cwyn, galar’ er bod yr odl gyda dwyn yn awgrymu fel arall, gw. GPC 1162 d.g. echwyn1 sy’n nodi mai’r sain sy’n gwahaniaethu’r ystyr rhwng y ddau air.
50 ar boen Sef ‘ar gost’, hynny yw rhag ofn, cf. 97.17–18 I’r castell y’m cymhellwyd / Ar boen moc erbyn ’y mwyd.
52 Dolffin Rhydd GPC 1074 yr ystyr ‘teitl etifedd brenin Ffrainc o’r flwyddyn 1349 hyd 1830’ i ‘Dolffin’ neu ‘Dwlffin’ sef yr enw Ffrengig Dauphin. Daeth y teitl i fodolaeth ar ôl ychwanegu ardal Dauphiné at frenhiniaeth Ffrainc yn 1349. Ystyr gwlad Dolffin yma felly yw Ffrainc, cf. 1.22n, GSRh 6.78 a GGMD iii, 1.1n.
55 Trefawr Sef Trefor i’r dwyrain o dref Llangollen. Ymrannai plwyf Llangollen yn dri thraean, sef Llangollen, Trefor a’r Glyn. Teulu a gysylltir â’r ardal yw llwyth Tudur Trefor a changen o’r teulu hwnnw oedd teulu Llannerch Banna, hynafiaid posibl Mathau Goch, gw. WG1 ‘Tudur Trefor’ 8.
56 ŵyr Einion Nid enwir Einion yn daid i Fathau yn yr achau ond gall ŵyr olygu ‘disgynnydd’ yn gyffredinol. Yn ôl un ffynhonnell, enw ei dad oedd Dafydd Goch a’i wraig ef oedd Gwenhwyfar ferch Ednyfed ab Iorwerth ab Einion Goch, gw. WG1 ‘Tudur Trefor’ 42.
57 Rhys Mae’r ymadrodd gŵr o Rys yn annelwig, ond os derbynnir ei fod yn fab i Ddafydd Goch o lwyth Tudur Trefor, yna gellir cynnig mai at Rys Sais y cyfeirir gan fod hwnnw’n ddisgynnydd uniongyrchol iddo, gw. Mathau Goch.
58 nod y Goron Dyma brawf o deyrngarwch Mathau i Goron Lloegr.
66 Io Sef Job, o’r Beibl, gw. Breeze 1992: 134–7.
67 cerddwyr Arno yn yr ystyr ‘beirdd’, gw. G 135; ymhellach, gw. Williams 1989–91: 205–11. Gw. hefyd 2.21n uchod.
68 deubab Cyfuniad o deu + pab. Pab Rhufain o 1431 i 1447 oedd Eugenious IV ac awgrymiad Salisbury (2006: 88) yw bod Guto yn cyfeirio ato ef a’r gwrthbab Dug Amadeus VIII o Savoy (oedd yn wrthbab o 1439 i 1449).
70 Melwas Arwr traddodiadol o’r byd Arthuraidd. Ni ddiogelwyd ei chwedl yn gyfan yn y traddodiad Cymraeg ond ymddengys iddo gipio Gwenhwyfar, gwraig Arthur, gw. WCD 469–70; Jones 1935–7: 203–8 a Bromwich 1991: 58–61. Ond cyfeiria’r Cywyddwyr ato’n gyson fel arwr ac weithiau fe’i cysylltir yn benodol â milwriaeth, cf. 75.50 Ni bu Faelor heb Felaws.
73 gorffer Ffurf amhersonol presennol dibynnol y ferf gorfyddaf, sef ‘gorfod’.
Llyfryddiaeth
Breeze, A. (1992), ‘Aur Job’, LlCy 17: 134–7
Bromwich, R. (1991), ‘The Tristan of the Welsh’, R. Bromwich, A.O.H. Jarman and B.F. Roberts (eds.), The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Cardiff), 209–28
Carr, A.D. (1968), ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, Cylchg HC 4: 21–46
Cummins, J. (1988), The Hound and the Hawk: the Art of Medieval Hunting (London)
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, E.D. (1935–7), ‘Melwas, Gwenhwyfar, a Chai’, B viii: 203–7
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Lloyd, C. (1873), ‘History of the Lordship of Maelor Gymraeg or Bromfield’, Arch Camb (fourth series) xiii: 305–20
Probert, Y. (1961), ‘Mathew Gough 1390–1450’, THSC: 34–44.
Saer, D.R. (1969), ‘Delweddaeth y Ddawns Werin a’r Chwaraeon Haf ym Marwnad Guto’r Glyn i Wiliam Herbert’, THSC: 268–83
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Seward, D. (1978), The Hundred Years War (London)
Williams, J.E.C. (1989–91), ‘Cerdd a Phencerdd’, LlCy 16: 205–11
This is a praise poem to one of Guto’r Glyn’s most famous patrons, Matthew Gough of Maelor. Matthew Gough (or Goch) was a prominent military leader and captain in the north of France during the last phase of the Hundred Years’ War.
In the poem, Guto refers to important places (lines 16, 20, 22n Mawns) and well-known French enemies of the soldier while telling his story (17–18n). He also refers to the fact that Matthew had been in captivity which is helpful to date the poem. Matthew Gough was imprisoned twice in France during the Hundred Years’ War: in 1432 and 1434. It’s possible that Guto’r Glyn sang this poem to an audience somewhere in Maelor soon after Matthew’s captivity (see the references to Maelor in lines 26, 53 and 70). Many Welsh soldiers fought alongside Matthew Gough during the 1430s, and we can imagine that some returned home with heroic stories about the captain which inspired Guto to compose his poem. However, the detailed information in the poem about the fighting in France, as well as Guto’s addressing of Matthew directly may suggest otherwise. Is it likely that he sang this poem in the north of France in front of Matthew and his soldiers? On 25 June 1441, Guto sailed from Portsmouth to Normandy with the army of Richard, duke of York and landed at the port of Harfleur (Salisbury 2007: 1). Guto returned to Wales in September 1441. It is possible, therefore, that this poem was composed in 1441, possibly between June and September of that year (Salisbury 2007: 14). This is the only surviving poem to Matthew Gough but it is possible that Guto had praised him more than once, which was the case with Sir Richard Gethin (see poems 1 and 2).
The poem has a strong narrative feeling as the poet begins the first two sections with the verb pan, ‘when’. The first section begins with a reference to Matthew’s fame in Normandy (1–4), noting his ability as a military leader against the French (7–8) and as a vicious warrior (9–10). His blood-stained spear is noted in particular (9, 11, 13–14), the weapon that helped him bring victory to the English.
A battle near Rouen is the subject of the second section (15–42) when Matthew came face to face with one of his enemies, the French general La Hire, fighting him in a single combat (15–16). Ironically, the poet describes the conflict as if the two enemies were taking part in a dance: La Hire extending his hand to Matthew as if he was one of his closest friends (17–20). They ‘danced’ across Anjou and Maine, a powerful image to describe two enemies fighting because of the association between the word ‘dance’ and the theme of the ‘Dance of Death’ (see 20n dawns). The poet praises Matthew from the point of view of his soldiers, implying that Matthew himself is present, listening to his words (24–5). He is someone you can depend on in Rouen (23), an excellent protector (bugail ‘a shepherd’, and mur ‘wall’), and his inspiration sparks enthusiasm among his soldiers (31–2). The soldiers are described as bulls, cannonballs (main gwns) and the choicest of men in war (38). This section ends by comparing the soldiers to huntsmen calling out the hunting call Hw-a on the French general, La Hire.
Matthew’s captivity is the focus of the beginning of the third section (43–52). The poet tells of the effect this had on the Welsh, especially the poets who were deeply worried for the fate of their hero. But the suffering had no effect on Matthew himself (47–50), and although the cost for his ransom was substantial, the French shall pay for it in the end. He again underlines Matthew’s ability to fight, noting his lineage and connection with the north-east of Wales (Trefor and Maelor). One of his greatest qualities is his ability to withstand the desire for wealth and land and to give precedence to horses, men and soldiers. The poem ends by asking Wales, France and England to praise this great soldier from Maelor.
Date
This poem was composed after Matthew’s captivity in 1432 or 1434, or in 1441 when Guto was a soldier in France.
The manuscripts
The poem occurs in 38 manuscripts. It is very unclear how some of the manuscripts are related; it is possible that what lies behind the copies which have survived are several performances of the same poem by one person who depended heavily on his memory. The earliest copy of the poem is preserved in BL 14967. Based on most of its readings, it is closely related to X1 and X2 in the stemma. However, it does have a couplet, 69–70, which also occurs in BL 14978 and BL 14971 and the manuscripts connected with Llywelyn Siôn. Other extra lines occur in Brog I.2, 53–8 and 67–8 and based on their reference to the patron’s lineage and meaning they have been included in this edition. X1 and X2 (and X4) have the same line order apart from LlGC 3057D (which has lost lines 39–40). The copy in BL 14866 sometimes shares the same variants as LlGC 3057D and possibly derives from the same source (X1). The Conwy Valley group is closely related to C 2.617 and possibly LlGC 17114B. On the whole, this group offers some good readings, but it seems that mistakes were made while copying some of the lines (e.g. losing lines 29–32 in Gwyn 4). BL 14978, BL 14971 and Pen 221 and the manuscripts connected with Llywelyn Siôn are all closely related. BL 14978 and BL 14971 are quite similar to BL 14967 on some occasions, but on others the readings are almost the same as the manuscripts of Llywelyn Siôn. However, the Llywelyn Siôn manuscripts are quite different most of the time and in general they are of no value.
Because no pattern has been established as regards to the relation between some of the manuscripts, it is very difficult to establish a proper stemma and most of the manuscripts mentioned above were considered when editing the poem.
Previous editions
GGl poem III and Salisbury 2006: 13–15.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 74 lines.
Cynghanedd: croes 45% (33 lines), traws 23% (17 lines), sain 28% (21 lines), llusg 4% (3 line).
2 Normandi A region in the north of France, central to the last phase of the Hundred Years’ War from 1436 until the end of the war in 1453.
3 mab maeth y gwin A suggestion that Matthew had a noble upbringing because he was nurtured on wine, a drink associated with high status. An old saying of the Gogynfeirdd (or Poets of the Princes) is the phrase mab maeth y medd ‘a son nurtured on mead’: GMB 25.18 and GBF 2.4, cf. GDEp 7.45 mab maeth y medd; GHS 20.3 mab maeth y wledd ‘a son nurtured at the feast’.
5 eryr An old metaphor for a hero is to call him an eagle, see also 41 and 57.
6 Arthur King Arthur.
7 capteiniaid Matthew was one of many Welshmen who were captains in the French wars and the poet unites him with others here to note his fame. One was Sir Richard Gethin, another of Guto’s patrons, see poems 1 and 2.
9 broch A badger or a brock, see OED Online s.v. brock, n.1 and GPC 330 s.v. broch, but it is an unusual metaphor for a hero. Perhaps Matthew Gough dressed in grey armour with his spear had some resemblance to the wild grey creature with its long nose.
9 pâr Mutated form of pâr ‘spear’, see GPC 2684 and The Battlefield: Weapons: Spears. The poet refers to a specific spear that belonged to Matthew Gough here: cf. 11 and 16 gwayw ‘lance’, and 14 paladr ‘spear’, and GLGC 33.22 ef aeth â gwayw Fathau Goch ‘he went with the spear of Matthew Gough’.
10 Rolant A hero of the French song ‘Chanson de Roland’ from the Charlemagne cycle, composed c.1100.
13 pêl The phrases mynd â’r bêl ‘to take the ball’ and mynd â’r bel ‘to take the bell’ are very similar in their figurative meaning and it is difficult to distinguish between them. Here pêl is taken to mean ‘ball’ with the poet referring to Matthew taking the ‘prize, feat, mark of excellence’ with him from the war, in other words, he was victorious, see GPC 2721, GLM 376, GDGor 7.80n and DG.net 106.4 Er dig i’r byd dygi’r bêl ‘to the world’s dismay you carry the ball’ (the latter rejects the suggestion made in GDG 475–6 and GDLl 16.21–2 to read bel ‘bell’). But the phrase mynd â’r bel ‘to take the bell’ is also possible, see OED Online s.v. bell, n.1 ‘to take the first place, to have foremost rank or position, to be the best, to bear or carry away the bell: to carry off the prize’.
15 gorchest The poet implies that Matthew fought in a single combat with the French general, La Hire.
16 Rhôn Rouen in Normandy, France, on the banks of the river Seine. Being the capital of Normandy, the town was an important centre during the Hundred Years’ War. It fell into the hands of the English after a siege in 1419 until it was lost to the French in 1449. Guto and his contemporaries often refer to the town. It is possible that the poet himself visited Rouen while he was an archer in the army of Richard duke of York in 1441, see Salisbury 2007: 1.
16 mewn rhest A device to hold the butt end of the lance on the armour, see GPC 2982 s.v. rest. According to OED Online s.v. rest, n.2 it was attached to the right side of the cuirass against which a thick piece of leather nailed around the butt end of the lance was held during the charge, cf. 98.43–4 Brest dur o Baris dirion, / Ac ar y frest rest o Rôn ‘Arthur’s tunic, Powys is beside it / and on the breastplate a rest from Rouen’. See also The Battlefield: Weapons: Spears.
17 La Her La Hire or Étienne de Vignoles (c.1390–1443), a French general and enemy of the English during the Hundred Years’ War. He was Jeanne d’Arc’s supporter during the campaigns of 1429. He won the battle of Gerbevoy in 1435 and was appointed captain of Normandy in 1438.
18 Potwn Jean Poton de Xaintrailles (c.1390?–1461), one of the French captains and companion to La Hire, see 17n (Guto also links the two in 4.38). It is likely that he was present at the same battles as Matthew Gough, e.g. Verneuil (1424) and Orléans (1427).
20 dawns The conflict between Matthew and his enemy is portrayed as a dance, an effective image because of the sinister meaning of the word dawns ‘dance’ and its association with the ‘Dance of Death’ or the Danse macabre in medieval literature. For further information see 24.1n, GSDT 122–5 and Saer 1969: 265–83.
20 Aensio Anjou in the north of France, a province to the south of Maine. In 1425 Matthew Gough, Thomas Montacute, earl of Salisbury and Thomas Scales, Baron Scales were sent to clear Maine and Anjou. It was a successful attempt and Matthew Gough was appointed captain of Château L’Ermitage near Le Mans, see Probert 1961: 39. However, both regions were lost in 1444 after England and France made a truce (Evans 1995: 33).
20 Maen Maine in the north of France, a province north of Anjou and south of Normandy. Matthew was captain of Maine in 1427 (Probert 1961: 40).
22 Rolant See 10n.
22 Mawns Le Mans, the central town of Maine on the banks of the river Sarthe in the north of France. Matthew Gough was captain of Château L’Ermitage near Le Mans, see Probert 1961: 40. The place names in these lines – Anjou, Maine and Le Mans – indicate Guto’s detailed knowledge of the war.
23 Rhôn See 16n Rhôn.
26 Maelor Matthew Gough was a native of Maelor Saenseg (even if he was a descendant of the Hanmers or the tribe of Llannerch Banna ‘Penley’), cf. 53, 70. For his genealogical connections with Maelor see Matthew Gough.
27 urddas gŵr This is a reference to Matthew’s noble status, cf. 3 mab maeth y gwin (‘a son nurtured on wine’). However, it could be a reference to his honourable status as a military leader, cf. 58 Gŵr nod y Goron ydyw ‘he is a renowned man of the Crown’. The will of Sir John Fastolf in 1459 gives him the title of a ‘squire’, although later sources call him ‘Sir’ Matthew Gough. According to Probert (1961: 34), there is no proof that he was knighted.
34 Gwŷr antur a gâr yntau The syntax is ambiguous here: Gwŷr antur is understood as the subject of the verb, but yntau could be the subject: ‘he also loves adventurous men’.
35 milwyr According to one source, Matthew Gough had a bodyguard of 60 mounted lances, 14 foot lances and 222 archers with him at Le Mans in 1435 (Carr 1968: 40), and many of them were Welsh soldiers.
36 main gwns ‘Cannonballs’, see Evans 1998: 75–105.
36 Maen ac Aensio See 20n.
38 blodau ‘The best’ or ‘the choicest ones’. A similar line occurs in GLD 27.64 Rhyw flodau rhyfel ydych ‘you are like flowers of war’.
40 Hw-a A hunting cry, see Cummins 1988: 113 and 169. Cf. hue in English from the French huer ‘to shout as in war or the chase’, OED Online s.v. hue, v.2. An interesting suggestion by Lewis (1976: 87) is that the soldiers listening to the poem would have stood up and shouted out the cry together. Indeed, this section ends in a positive climax, almost as if the poet is trying to boost the spirit of the soldiers.
40 La Her La Hire or Étienne de Vignoles (c.1390–1443), a French general, see 17n. He is the one being hunted by Matthew Gough and his soldiers here.
42 gwarau A form of chwarae, ‘to play’, see GPC 1577 where this line is quoted under gwarae, but -au is essential for the internal rhyme, cf. 33.43 I minnau, gwarau gwiwraen ‘I myself, very expert play’. The verb ‘play’ probably refers figuratively to ‘fighting’ here, cf. GHD 5.46 Wedi i’r gwŷr ado’r gwarae ‘After the men left the play’.
43 y glêr Guto refers to the poets twice in this poem (y glêr and 67 [c]erddwyr). He mentions that they were especially worried when Matthew was captured, a hint, possibly, that Matthew was a regular patron of poetry even though he lived in France for most of his life.
44–6 Matthew Gough was imprisoned twice, in 1432 and 1434. He was first captured in St Severine (Sainte Ceneri today, see Probert 1961: 40) when French soldiers attacked without warning. The second time he was captured ‘through the foundering of his horse’, according to Probert (1961: 41), on his way to St Denis (see also Seward 1978: 174). Presumably, the cost of ransom for his release was expensive. For example, the sum of 2,000 salus (about £2,500) was paid for the release of Sir Roger Campys, one of his fellow soldiers. A suggestion by Lloyd (1876: 129) is that Guto sang this poem ‘with a view to engage his countrymen to raise a sum for the ransom of Matthew Gough then a prisoner in France’. This is highly unlikely regarding Guto’s intentions, but a contribution for the cost of Matthew’s release from Wales is fairly possible, see Evans 1995: 31.
45 trefi During Matthew’s captivity, the French gained many towns, possibly the most important one was Harfleur, lost to the French in 1432. After his release, Matthew fought for the repossession of Harfleur and succeeded by November 1440.
47 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, one of ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads, see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509.
49 echwyn Probably ‘to borrow’ in this context, rather than ‘to complain’ or ‘to mourn’. However, the rhyme with dwyn (rather than -yn) suggests otherwise, see GPC 1162 s.v. echwyn1.
50 ar boen ‘Or else’ or ‘in case’, cf. 97.17–18 I’r castell y’m cymhellwyd / Ar boen moc erbyn ’y mwyd ‘I was forced to go to the castle / on pain of mockery in time for my food’.
52 Dolffin The title of the eldest son of the king of France, from 1349 to 1830, see OED Online s.v. dauphin, n. The phrase gwlad Dolffin ‘Dauphin’s land’ refers to France, cf. 1.22n, GSRh 6.78 and GGMD iii, 1.1n.
55 Trefawr A place called Trefor to the east of Llangollen. The parish of Llangollen was divided into three, Llangollen, Trefor and Glyn. The main family connected with Trefor were the descendants of Tudur Trefor. Llannerch Banna, or Penley, the possible ancestors of Matthew Gough were descended from Tudur Trefor, see WG 1 ‘Tudur Trefor’ 8.
56 ŵyr Einion There is no record of a man called Einion as Matthew’s grandfather, but ŵyr ‘grandson’ could also mean ‘a descendant’ in general. According to one source, Matthew’s father was Dafydd Goch and his wife was Gwenhwyfar daughter of Ednyfed ab Iorwerth ab Einion Goch, see WG1 ‘Tudur Trefor’ 42.
57 Rhys The phrase gŵr o Rys ‘a man who descends from Rhys’ is vague, but if Matthew’s ancestors were from the tribe of Tudur Trefor, this could be a reference to Rhys Sais: Matthew was one of his direct descendants, see Matthew Gough.
58 nod y Goron A hint of Matthew’s dedication to the Crown.
66 Io Job, from the Bible, see Breeze 1992: 134–7.
67 cerddwyr ‘Poets’, see G 135 and Williams 1989–91: 205–11. See also 2.21n above.
68 deubab Deu ‘two’ and pab ‘pope’. The pope from 1431 to 1447 was Eugenious IV and the suggestion made by Salisbury (2006: 88) is that Guto refers to the pope and the antipope Duke Amadeus VIII of Savoy (who was the antipope from 1439 to 1449).
70 Melwas A traditional hero from the Arthurian legends. In the Welsh tradition, his tale has not been wholly preserved but it seems that he abducted Guinevere, the wife of King Arthur, see WCD 469–70; Jones 1935–7: 203–8 and Bromwich 1991: 58–61. However, the Cywyddwyr refer to him often as a heroic figure with great military skills, cf. 75.40 Ni bu Faelor heb Felaws ‘Maelor has not been without its Melwas’.
Bibliography
Breeze, A. (1992), ‘Aur Job’, LlCy 17: 134–7
Bromwich, R. (1991), ‘The Tristan of the Welsh’, R. Bromwich, A.O.H. Jarman and B.F. Roberts (eds.), The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Cardiff), 209–28
Carr, A.D. (1968), ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, Cylchg HC 4: 21–46
Cummins, J. (1988), The Hound and the Hawk: the Art of Medieval Hunting (London)
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, E.D. (1935–7), ‘Melwas, Gwenhwyfar, a Chai’, B viii: 203–7
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Lloyd, C. (1873), ‘History of the Lordship of Maelor Gymraeg or Bromfield’, Arch Camb (fourth series) xiii: 305–20
Probert, Y. (1961), ‘Mathew Gough 1390–1450’, THSC: 34–44
Saer, D.R. (1969), ‘Delweddaeth y Ddawns Werin a’r Chwaraeon Haf ym Marwnad Guto’r Glyn i Wiliam Herbert’, THSC: 268–83
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Seward, D. (1978), The Hundred Years War (London)
Williams, J.E.C. (1989–91), ‘Cerdd a Phencerdd’, LlCy 16: 205–11
Cywydd mawl gan Guto yw’r unig gerdd i Fathau Goch sydd wedi goroesi (cerdd 3). Cyfeirir ato’n ganmoliaethus yng ngwaith Lewys Glyn Cothi a Huw ap Dafydd (GLGC 33.22, 111.27–8, 173.30; GHD 27.75–6). Ceir pennill bychan digon di-sut iddo yng ngwaith Lladin William o Worcester lle crybwyllir ach Mathau (gw. isod; Worcestre 1969: 351), ond nid William a’i hysgrifennodd yno ar ymyl y ddalen eithr yr hynafiaethydd Robert Talbot (1505/6–58; arno, gw. DNB Online s.n. Robert Talbot): Morte Mathei Goghe, Cambria / clamitat oghe. At hynny, cyfeirir at Fathau fel Matthew Goffe yn ail ran trioleg o ddramâu Shakespeare am fywyd Harri VI, ac awgrymodd Evans (1995: 29) mai enwogrwydd Mathau a ysbrydolodd y dramodydd i lunio cymeriad dychmygol Fluellen yn ei ddrama am fywyd Harri V.
Achres
Fel y nodir yn y cofnod am Fathau yn DNB Online s.n. Matthew Gough, ni cheir sicrwydd ynghylch ei ach. Y gred gyffredinol yw ei fod yn fab i Owain Goch, beili Hanmer ym Maelor Saesneg, a Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer (roedd Dafydd yn daid i un o noddwyr Guto, Siôn Hanmer). Daw’r wybodaeth honno o waith Lladin a ysgrifennwyd gan y topograffydd a’r awdur William o Worcester c.1479 (Worcestre 1969: 351; arno, gw. DNB Online s.n. William of Worcester). Dywed William fod Hawys yn nyrs i ‘John Lord Talbot, Earl of Shrewsbury’, ynghyd â’i frodyr a’i chwiorydd, sef, yn ôl pob tebyg, yr enwog Siôn Talbod (c.1387–1453), iarll cyntaf Amwythig a Waterford a thad un o noddwyr Guto, Siôn Talbod, ail iarll Amwythig. Os gwir yr hyn a ddywed William, eironig o’r mwyaf yw bod un o gadfridogion grymusaf ymgyrch Harri IV yn erbyn y gwrthryfel Cymreig ar ddechrau’r bymthegfed ganrif wedi ei fagu ar aelwyd tad yng nghyfraith Owain Glyndŵr.
Ni cheir rhyw lawer o le i amau dilysrwydd gwybodaeth William gan iddo wasanaethu Syr John Fastolf o 1438 i 1459, gŵr a ymladdodd gyda Mathau yn Ffrainc ac a adawodd arian yn ei ewyllys er cof amdano. O graffu ar ddogfen Ladin wreiddiol William, gwelir mai Davy Handmere yw’r ffurf ar enw tad Hawys yno. Diau mai Syr Dafydd Hanmer oedd Dafydd Hanmer enwocaf ei ddydd, gŵr y gellid yn hawdd gredu y byddai wedi arddel cyswllt â theulu’r Talbodiaid. Ef, yn ôl pob tebyg, yw Davy Handmere, ond eto i gyd, gan na cheir enw Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer yn yr achresi, nid yw’n gwbl amhosibl ei bod yn ferch i ŵr arall o’r enw Dafydd neu Dafi a fu’n byw yn Hanmer.
Ni roed ystyriaeth hyd yn hyn i’r unig dystiolaeth gyfoes ynghylch achau Mathau, sef y gerdd a ganwyd iddo gan Guto. Ceir yn y golygiad diweddaraf linellau sy’n ymdrin â llinach y noddwr nas ceir yn GGl (3.53–8):Gŵr o Faelor, gwâr felys,
Gŵr a wnaeth gwewyr yn us;
Gŵr mawr o Drefawr hyd Rôn,
Gwyrennig, ac ŵyr Einion;
Gŵr o Rys ac eryr yw,
Gŵr nod y Goron ydyw.Nid yw’r wybodaeth hon yn ategu nac yn gwrth-ddweud yr hyn a ddywed William o Worcester ynghylch llinach Mathau, eithr ategir y ffaith mai Maelor oedd bro ei febyd. Perthynas gŵr â’i daid yw’r hyn a olygir gan amlaf gan Guto wrth y gair ŵyr, yn hytrach na pherthynas gŵr a’i hendaid neu orhendaid. A dilyn William o Worcester, roedd Syr Dafydd Hanmer yn daid i Fathau ar ochr ei fam, felly gall mai ar ochr ei dad yr oedd ganddo daid o’r enw Einion. Dywed Guto fod Mathau’n disgyn hefyd o Rys, ac os cywir mai Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer oedd mam Mathau, gellir olrhain ei hach hithau ar ochr ei mam a’i thad yn ôl i ŵr o’r enw Rhys Sais, gor-orwyr i Dudur Trefor (gw. yr achres isod).
Yn ogystal â’r ddwy brif ffynhonnell uchod, ceir hefyd wybodaeth achyddol am Fathau mewn llawysgrifau diweddarach sy’n ymwneud â’i ddisgynyddion honedig. Rhwng 1713 ac 1718 ysgrifennodd yr hynafiaethydd Hugh Thomas o Lundain ach i Fathau yn llawysgrif BL Harleian 4181, 314–5 (ceir yr un wybodaeth yn llaw Hugh yn BL Harleian 6831, 315 (17g./18g.); cf. hefyd HPF iii: 391–2; Lloyd 1873: 313). Achresi yn ymwneud â theuluoedd Brycheiniog a Morgannwg a geir yno’n bennaf, ond ceir ymysg yr eithriadau deulu Mathau. Dywed Hugh ei fod yn fab i Ddafydd Goch ap Rhirid o Lannerch Banna (Penley) ym Maelor Saesneg a’i wraig, Catrin ferch Hywel ap Dafydd o linach Owain Gwynedd. Ni all yr wybodaeth honno fod yn gywir gan fod Dafydd Goch yn perthyn i genhedlaeth a anwyd c.1270, a dilyn dull Bartrum o rifo’r cenedlaethau, dros ganrif yn gynharach na dyddiad geni tebygol Mathau. Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu’r ffynhonnell yn llwyr gan fod ynddi wybodaeth a ategir gan rai ffynonellau eraill. Er enghraifft, i. mae seliau Mathau a oroesodd o’i gyfnod fel milwr yn Ffrainc yn darlunio tri baedd ar darian, sef arfbais teulu Llannerch Banna (gw. Siddons 1980–2: 537–9); ii. mae’r ach a roir i Ddafydd Goch yn ôl at Dudur Trefor yn cyfateb i’r hyn a geir yn achresi Bartrum; iii. adroddir hanes marwolaeth Mathau yn Llundain yn 1450. At hynny, rhoir gwybodaeth led fanwl am ddisgynyddion Mathau hyd ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg a disgrifir arfau herodrol pob cenedlaeth mewn cryn fanylder. Nid hawdd profi dilysrwydd y dystiolaeth ac eto ni ellir ei gwrthbrofi ychwaith.
Un ddadl gref o blaid dilysrwydd ffynhonnell Hugh Thomas yw’r ffaith ei bod, yn anuniongyrchol, yn cynnig esboniad i absenoldeb llinach Mathau yn y cofnodion Cymreig. Oherwydd ni cheir enwau Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer, Owain Goch nac ychwaith Dafydd Goch ap Rhirid yn achresi Bartrum. Dywed Hugh fod Dafydd Goch wedi ymsefydlu in England in the Forest of Deane. Digon rhesymol yw tybio bod bwlch yn y cofnodion Cymreig yn sgil y ffaith fod cangen o’r teulu wedi symud i Loegr, er ei bod yn debygol y byddai digon o Gymraeg i’w chlywed yng nghyffiniau Fforest y Ddena yn y bymthegfed ganrif. Fodd bynnag, mae’n annhebygol mai Dafydd Goch a symudodd yno gan fod Guto a William o Worcester yn cysylltu Mathau â Maelor ac, at hynny, dywed Hugh ei hun mai Sieffrai, mab Mathau, oedd y cyntaf o’r teulu i’w eni yn Lloegr. Os felly, gall fod Mathau wedi ei eni ym Maelor ac wedi symud maes o law, o bosibl yng nghwmni ei dad, i Fforest y Ddena, gan golli cyswllt daearyddol â llinach ei gyndeidiau yn y gogledd.
Un posibilrwydd gwerth ei ystyried yw bod tystiolaeth y tair ffynhonnell a drafodwyd uchod (Guto, William o Worcester a Hugh Thomas) yn fodd i ail-lunio achres Mathau o’u hystyried oll ynghyd. Hynny yw, mae’n bur eglur nad oedd Mathau’n fab i Ddafydd Goch, fel yr honna Hugh, ond mae’n ddigon posibl fod bwlch yn yr achres honno y gellid ei lenwi â thystiolaeth y ddwy ffynhonnell arall. Tybed a oedd Mathau’n fab i Owain Goch ab Einion ap Dafydd Goch, a bod enwau Owain Goch a’i daid, Dafydd Goch, wedi eu cymysgu yn nhystiolaeth Hugh? Cynigir yn betrus yr achres isod ar sail yr wybodaeth a geir uchod ynghylch y ddwy ach bosibl, yr wybodaeth yng ngherdd Guto ac achresi eraill hysbys yn WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 31, ‘Hanmer’ 1, ‘Tudur Trefor’ 1, 2, 7, 8, 10, 17.
Achres bosibl Mathau Goch o Faelor
Dengys yr achresi hysbys Cymreig fod tair cenhedlaeth o deulu’r Hanmeriaid wedi arddel cyswllt agos gyda disgynyddion Tudur Trefor, sef Syr Siôn Upton, Phylib Hanmer a Syr Dafydd Hanmer. Ni fyddai’n annisgwyl i ferch Syr Dafydd Hanmer hithau briodi aelod o’r teulu hwnnw. At hynny, gan fod gan Ddafydd Goch frawd o’r enw Dafydd, byddai hefyd yn rhesymol iddo fabwysiadu ail enw er mwyn gwahaniaethu oddi wrtho.
Mewn cymhariaeth â ffynonellau eraill, ceir peth wmbreth o wybodaeth am Fathau a’i deulu gan Hugh Thomas. Amhosibl mewn hyn o nodyn bwyso a mesur dilysrwydd pob darn o wybodaeth, ond atgynhyrchir y dystiolaeth sy’n ymwneud â Mathau yn ei chrynswth isod gan dynnu sylw at rannau nodedig.Sr Mathew Gochk Kt borne Anno 1386 the 10.R.2d a most Valient & Renowned Souldier Capt: to K.H.5th & 6th Governer of Tanceaux Le Hermitage, Tanquervill & Lysieux. He married Margaret da: to Rhys Moythe of Castle Edwin Esqr & Margaret his wife da: to Sr Brian Harley Kt which Rhys Moythe bore qrly Or a Lion Ramp: Regardant Sa: 2d parled perpale Ar: & S: 3 III Or 3d G: a Griffin Ramp: Or the 4th as the first In the 53 yeare of his age he had Issue his son Ieffrey & afterward Mathew David & Margaret Being at last sent by the Lord Scales to Assist the Lord Major & the Londoners against that arch Rebell Jack Cade he was Slaine upon London Bridg Valiantly fighting in Defence of the King & City July the 4th 1450 in the 64 yeare of his age & 29.H:6Diddorol nodi bod Mathau wedi ei eni yn 1386 (bu farw yn 1450), oherwydd cyfetyb ei ddyddiadau’n agos i rai ei gyfoeswr o ryfelwr yn Ffrainc, Siôn Talbod c.1387–1453. Ni cheir tystiolaeth fod Mathau wedi ei urddo’n farchog, ond roedd yn ddigon arferol rhoi Sr a Kt wrth enw gŵr nodedig mewn canrifoedd diweddarach ni waeth beth oedd ei statws mewn gwirionedd. Dywedir iddo briodi Marged ferch Rhys Moethau, gwraig a enwir yn achresi Bartrum (WG1 ‘Cydifor ap Gwaithfoed’ 6), lle nodir iddi briodi gŵr o’r enw Dafydd ap Morgan o Rydodyn yng nghwmwd Caeo. Hyd yn oed os derbynnir bod Mathau’n ail ŵr i Farged (neu Farged arall, efallai, nas cofnodwyd yn yr achresi Cymreig), nid yw’n eglur sut y gallai merch o blwyf Llanbadarn Odwyn yng Ngheredigion ddod i gyswllt â milwr proffesiynol fel Mathau. Dylid nodi, fodd bynnag, ei bod yn perthyn i’r un genhedlaeth ag ef.
Er na cheir enw Mathau ym mhrif achresi WG1 ac WG2, fe’i henwir yn ddiweddarach mewn cyswllt â theulu Hanmer yn WG1 ‘Additions and Corrections: Fifth List’, 28. Enwir DWB, y llawysgrif uchod yn llaw Hugh Thomas a llawysgrif BL Harleian 1973, 126, fel ffynonellau’r wybodaeth honno. Nid at Fathau y cyfeirir yn BL Harleian 1973 mewn ychwanegiad yn llaw Randle Holme II (1635–58) eithr at ei fab honedig, Sieffrai Goch, yr honnir iddo briodi Elisabeth ferch Gwilym o deulu’r Herbertiaid, yn groes i’r wybodaeth amdano yn llawysgrif Hugh Thomas (lle nodir iddo briodi Elisabeth ferch Avery Traharne). Ni cheir sicrwydd ai’r un ydoedd, mewn gwirionedd, â Sieffrai Goch ap Mathau yn llawysgrif Hugh Thomas. Yn WG1 ‘Additions and Corrections: Sixth List’, 18, nodir ansicrwydd ynghylch yr wybodaeth uchod am Fathau yn sgil gwybodaeth yn Siddons (1996: 63), lle cyfeirir at ddisgynyddion honedig i Fathau yn Alvingham yn swydd Lincoln mewn dwy ddogfen a luniwyd yn 1619. Nid yw’n eglur a yw’r ach honno’n ddilys, ond nodir Rhys Cain o Groesoswallt ymhlith y ffynonellau. Cyfeirir at yr un wybodaeth yn DWH II 370, lle nodir ffynhonnell arall eto sy’n enwi Mathau fel mab i ŵr o’r enw Wiliam Goch o swydd Gaer. Dywedir ei fod wedi dwyn arfau teulu Gochiaid swydd Gaer a bod ei ferch (a’i etifedd) wedi priodi gŵr o’r enw John Hubert o Lundain. Ymddengys bod yr wybodaeth honno’n deillio o waith yr achyddwr Syr Gilbert Dethick (1499/1500–84; arno, gw. DNB s.n. Sir Gilbert Dethick) a’i fab, Syr William Dethick (1543–1612; arno, gw. DNB s.n. Sir William Dethick). Nid yw’n eglur ar hyn o bryd a yw’n ddilys ai peidio.
Ei yrfa
Er mai brodor o Faelor oedd Mathau, treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Normandi yn brwydro o dan faner Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Ceir isod amlinelliad o’i yrfa yn seiliedig ar y cofnod am Fathau yn DNB Online s.n. Matthew Gough, oni nodir yn wahanol (lloffwyd gwybodaeth o Probert (2001), ond nid ymddengys y dylid pwyso’n drwm bob tro ar y dystiolaeth honno o ran dyddiadau).
Roedd Mathau Goch yn un o’r milwyr proffesiynol mwyaf nodedig yng ngwasanaeth y Saeson yn y rhyfeloedd yn Ffrainc yn y bymthegfed ganrif. Fe’i disgrifiwyd gan William Worcester fel un a oedd yn ‘surpassing all other esquires who engaged in war at that time in bravery, hardihood, loyalty and liberality’, a gadawodd Sir John Fastolf arian yn ei ewyllys ar gyfer cynnal offerynnau er lles ei enaid. Roedd y Ffrancwyr yn ei adnabod fel ‘Matago’ a daeth ei enw yn gyfystyr â dewrder, er i’r enw ddatblygu’n derm difrïol yn Perche, a oedd wedi dioddef o’i herwydd, a llosgwyd delweddau ohono i ddathlu ei ymadawiad yn 1449.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1968), ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, Cylchg HC 4: 21–46
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Lloyd, C. (1873), ‘History of the Lordship of Maelor Gymraeg or Bromfield’, Arch Camb (fourth series) xiii: 305–20
Probert, Y. (1961), ‘Mathew Gough 1390–1450’, THSC: 34–44
Siddons, M. (1980–2), ‘Welsh Seals in Paris’, B xxix: 531–44
Siddons, M. (1996), Welsh Pedigree Rolls (Aberystwyth)
Worcestre, W. (1969), Itineraries (Oxford)