Chwilio uwch
 

Mathau Goch o Faelor, fl. c.1423–m. 1450

Cywydd mawl gan Guto yw’r unig gerdd i Fathau Goch sydd wedi goroesi (cerdd 3). Cyfeirir ato’n ganmoliaethus yng ngwaith Lewys Glyn Cothi a Huw ap Dafydd (GLGC 33.22, 111.27–8, 173.30; GHD 27.75–6). Ceir pennill bychan digon di-sut iddo yng ngwaith Lladin William o Worcester lle crybwyllir ach Mathau (gw. isod; Worcestre 1969: 351), ond nid William a’i hysgrifennodd yno ar ymyl y ddalen eithr yr hynafiaethydd Robert Talbot (1505/6–58; arno, gw. DNB Online s.n. Robert Talbot): Morte Mathei Goghe, Cambria / clamitat oghe. At hynny, cyfeirir at Fathau fel Matthew Goffe yn ail ran trioleg o ddramâu Shakespeare am fywyd Harri VI, ac awgrymodd Evans (1995: 29) mai enwogrwydd Mathau a ysbrydolodd y dramodydd i lunio cymeriad dychmygol Fluellen yn ei ddrama am fywyd Harri V.

Achres
Fel y nodir yn y cofnod am Fathau yn DNB Online s.n. Matthew Gough, ni cheir sicrwydd ynghylch ei ach. Y gred gyffredinol yw ei fod yn fab i Owain Goch, beili Hanmer ym Maelor Saesneg, a Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer (roedd Dafydd yn daid i un o noddwyr Guto, Siôn Hanmer). Daw’r wybodaeth honno o waith Lladin a ysgrifennwyd gan y topograffydd a’r awdur William o Worcester c.1479 (Worcestre 1969: 351; arno, gw. DNB Online s.n. William of Worcester). Dywed William fod Hawys yn nyrs i ‘John Lord Talbot, Earl of Shrewsbury’, ynghyd â’i frodyr a’i chwiorydd, sef, yn ôl pob tebyg, yr enwog Siôn Talbod (c.1387–1453), iarll cyntaf Amwythig a Waterford a thad un o noddwyr Guto, Siôn Talbod, ail iarll Amwythig. Os gwir yr hyn a ddywed William, eironig o’r mwyaf yw bod un o gadfridogion grymusaf ymgyrch Harri IV yn erbyn y gwrthryfel Cymreig ar ddechrau’r bymthegfed ganrif wedi ei fagu ar aelwyd tad yng nghyfraith Owain Glyndŵr.

Ni cheir rhyw lawer o le i amau dilysrwydd gwybodaeth William gan iddo wasanaethu Syr John Fastolf o 1438 i 1459, gŵr a ymladdodd gyda Mathau yn Ffrainc ac a adawodd arian yn ei ewyllys er cof amdano. O graffu ar ddogfen Ladin wreiddiol William, gwelir mai Davy Handmere yw’r ffurf ar enw tad Hawys yno. Diau mai Syr Dafydd Hanmer oedd Dafydd Hanmer enwocaf ei ddydd, gŵr y gellid yn hawdd gredu y byddai wedi arddel cyswllt â theulu’r Talbodiaid. Ef, yn ôl pob tebyg, yw Davy Handmere, ond eto i gyd, gan na cheir enw Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer yn yr achresi, nid yw’n gwbl amhosibl ei bod yn ferch i ŵr arall o’r enw Dafydd neu Dafi a fu’n byw yn Hanmer.

Ni roed ystyriaeth hyd yn hyn i’r unig dystiolaeth gyfoes ynghylch achau Mathau, sef y gerdd a ganwyd iddo gan Guto. Ceir yn y golygiad diweddaraf linellau sy’n ymdrin â llinach y noddwr nas ceir yn GGl (3.53–8):

Gŵr o Faelor, gwâr felys,
Gŵr a wnaeth gwewyr yn us;
Gŵr mawr o Drefawr hyd Rôn,
Gwyrennig, ac ŵyr Einion;
Gŵr o Rys ac eryr yw,
Gŵr nod y Goron ydyw.

Nid yw’r wybodaeth hon yn ategu nac yn gwrth-ddweud yr hyn a ddywed William o Worcester ynghylch llinach Mathau, eithr ategir y ffaith mai Maelor oedd bro ei febyd. Perthynas gŵr â’i daid yw’r hyn a olygir gan amlaf gan Guto wrth y gair ŵyr, yn hytrach na pherthynas gŵr a’i hendaid neu orhendaid. A dilyn William o Worcester, roedd Syr Dafydd Hanmer yn daid i Fathau ar ochr ei fam, felly gall mai ar ochr ei dad yr oedd ganddo daid o’r enw Einion. Dywed Guto fod Mathau’n disgyn hefyd o Rys, ac os cywir mai Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer oedd mam Mathau, gellir olrhain ei hach hithau ar ochr ei mam a’i thad yn ôl i ŵr o’r enw Rhys Sais, gor-orwyr i Dudur Trefor (gw. yr achres isod).

Yn ogystal â’r ddwy brif ffynhonnell uchod, ceir hefyd wybodaeth achyddol am Fathau mewn llawysgrifau diweddarach sy’n ymwneud â’i ddisgynyddion honedig. Rhwng 1713 ac 1718 ysgrifennodd yr hynafiaethydd Hugh Thomas o Lundain ach i Fathau yn llawysgrif BL Harleian 4181, 314–5 (ceir yr un wybodaeth yn llaw Hugh yn BL Harleian 6831, 315 (17g./18g.); cf. hefyd HPF iii: 391–2; Lloyd 1873: 313). Achresi yn ymwneud â theuluoedd Brycheiniog a Morgannwg a geir yno’n bennaf, ond ceir ymysg yr eithriadau deulu Mathau. Dywed Hugh ei fod yn fab i Ddafydd Goch ap Rhirid o Lannerch Banna (Penley) ym Maelor Saesneg a’i wraig, Catrin ferch Hywel ap Dafydd o linach Owain Gwynedd. Ni all yr wybodaeth honno fod yn gywir gan fod Dafydd Goch yn perthyn i genhedlaeth a anwyd c.1270, a dilyn dull Bartrum o rifo’r cenedlaethau, dros ganrif yn gynharach na dyddiad geni tebygol Mathau. Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu’r ffynhonnell yn llwyr gan fod ynddi wybodaeth a ategir gan rai ffynonellau eraill. Er enghraifft, i. mae seliau Mathau a oroesodd o’i gyfnod fel milwr yn Ffrainc yn darlunio tri baedd ar darian, sef arfbais teulu Llannerch Banna (gw. Siddons 1980–2: 537–9); ii. mae’r ach a roir i Ddafydd Goch yn ôl at Dudur Trefor yn cyfateb i’r hyn a geir yn achresi Bartrum; iii. adroddir hanes marwolaeth Mathau yn Llundain yn 1450. At hynny, rhoir gwybodaeth led fanwl am ddisgynyddion Mathau hyd ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg a disgrifir arfau herodrol pob cenedlaeth mewn cryn fanylder. Nid hawdd profi dilysrwydd y dystiolaeth ac eto ni ellir ei gwrthbrofi ychwaith.

Un ddadl gref o blaid dilysrwydd ffynhonnell Hugh Thomas yw’r ffaith ei bod, yn anuniongyrchol, yn cynnig esboniad i absenoldeb llinach Mathau yn y cofnodion Cymreig. Oherwydd ni cheir enwau Hawys ferch Syr Dafydd Hanmer, Owain Goch nac ychwaith Dafydd Goch ap Rhirid yn achresi Bartrum. Dywed Hugh fod Dafydd Goch wedi ymsefydlu in England in the Forest of Deane. Digon rhesymol yw tybio bod bwlch yn y cofnodion Cymreig yn sgil y ffaith fod cangen o’r teulu wedi symud i Loegr, er ei bod yn debygol y byddai digon o Gymraeg i’w chlywed yng nghyffiniau Fforest y Ddena yn y bymthegfed ganrif. Fodd bynnag, mae’n annhebygol mai Dafydd Goch a symudodd yno gan fod Guto a William o Worcester yn cysylltu Mathau â Maelor ac, at hynny, dywed Hugh ei hun mai Sieffrai, mab Mathau, oedd y cyntaf o’r teulu i’w eni yn Lloegr. Os felly, gall fod Mathau wedi ei eni ym Maelor ac wedi symud maes o law, o bosibl yng nghwmni ei dad, i Fforest y Ddena, gan golli cyswllt daearyddol â llinach ei gyndeidiau yn y gogledd.

Un posibilrwydd gwerth ei ystyried yw bod tystiolaeth y tair ffynhonnell a drafodwyd uchod (Guto, William o Worcester a Hugh Thomas) yn fodd i ail-lunio achres Mathau o’u hystyried oll ynghyd. Hynny yw, mae’n bur eglur nad oedd Mathau’n fab i Ddafydd Goch, fel yr honna Hugh, ond mae’n ddigon posibl fod bwlch yn yr achres honno y gellid ei lenwi â thystiolaeth y ddwy ffynhonnell arall. Tybed a oedd Mathau’n fab i Owain Goch ab Einion ap Dafydd Goch, a bod enwau Owain Goch a’i daid, Dafydd Goch, wedi eu cymysgu yn nhystiolaeth Hugh? Cynigir yn betrus yr achres isod ar sail yr wybodaeth a geir uchod ynghylch y ddwy ach bosibl, yr wybodaeth yng ngherdd Guto ac achresi eraill hysbys yn WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 31, ‘Hanmer’ 1, ‘Tudur Trefor’ 1, 2, 7, 8, 10, 17.

stema
Achres bosibl Mathau Goch o Faelor

Dengys yr achresi hysbys Cymreig fod tair cenhedlaeth o deulu’r Hanmeriaid wedi arddel cyswllt agos gyda disgynyddion Tudur Trefor, sef Syr Siôn Upton, Phylib Hanmer a Syr Dafydd Hanmer. Ni fyddai’n annisgwyl i ferch Syr Dafydd Hanmer hithau briodi aelod o’r teulu hwnnw. At hynny, gan fod gan Ddafydd Goch frawd o’r enw Dafydd, byddai hefyd yn rhesymol iddo fabwysiadu ail enw er mwyn gwahaniaethu oddi wrtho.

Mewn cymhariaeth â ffynonellau eraill, ceir peth wmbreth o wybodaeth am Fathau a’i deulu gan Hugh Thomas. Amhosibl mewn hyn o nodyn bwyso a mesur dilysrwydd pob darn o wybodaeth, ond atgynhyrchir y dystiolaeth sy’n ymwneud â Mathau yn ei chrynswth isod gan dynnu sylw at rannau nodedig.

Sr Mathew Gochk Kt borne Anno 1386 the 10.R.2d a most Valient & Renowned Souldier Capt: to K.H.5th & 6th Governer of Tanceaux Le Hermitage, Tanquervill & Lysieux. He married Margaret da: to Rhys Moythe of Castle Edwin Esqr & Margaret his wife da: to Sr Brian Harley Kt which Rhys Moythe bore qrly Or a Lion Ramp: Regardant Sa: 2d parled perpale Ar: & S: 3 III Or 3d G: a Griffin Ramp: Or the 4th as the first In the 53 yeare of his age he had Issue his son Ieffrey & afterward Mathew David & Margaret Being at last sent by the Lord Scales to Assist the Lord Major & the Londoners against that arch Rebell Jack Cade he was Slaine upon London Bridg Valiantly fighting in Defence of the King & City July the 4th 1450 in the 64 yeare of his age & 29.H:6

Diddorol nodi bod Mathau wedi ei eni yn 1386 (bu farw yn 1450), oherwydd cyfetyb ei ddyddiadau’n agos i rai ei gyfoeswr o ryfelwr yn Ffrainc, Siôn Talbod c.1387–1453. Ni cheir tystiolaeth fod Mathau wedi ei urddo’n farchog, ond roedd yn ddigon arferol rhoi Sr a Kt wrth enw gŵr nodedig mewn canrifoedd diweddarach ni waeth beth oedd ei statws mewn gwirionedd. Dywedir iddo briodi Marged ferch Rhys Moethau, gwraig a enwir yn achresi Bartrum (WG1 ‘Cydifor ap Gwaithfoed’ 6), lle nodir iddi briodi gŵr o’r enw Dafydd ap Morgan o Rydodyn yng nghwmwd Caeo. Hyd yn oed os derbynnir bod Mathau’n ail ŵr i Farged (neu Farged arall, efallai, nas cofnodwyd yn yr achresi Cymreig), nid yw’n eglur sut y gallai merch o blwyf Llanbadarn Odwyn yng Ngheredigion ddod i gyswllt â milwr proffesiynol fel Mathau. Dylid nodi, fodd bynnag, ei bod yn perthyn i’r un genhedlaeth ag ef.

Er na cheir enw Mathau ym mhrif achresi WG1 ac WG2, fe’i henwir yn ddiweddarach mewn cyswllt â theulu Hanmer yn WG1 ‘Additions and Corrections: Fifth List’, 28. Enwir DWB, y llawysgrif uchod yn llaw Hugh Thomas a llawysgrif BL Harleian 1973, 126, fel ffynonellau’r wybodaeth honno. Nid at Fathau y cyfeirir yn BL Harleian 1973 mewn ychwanegiad yn llaw Randle Holme II (1635–58) eithr at ei fab honedig, Sieffrai Goch, yr honnir iddo briodi Elisabeth ferch Gwilym o deulu’r Herbertiaid, yn groes i’r wybodaeth amdano yn llawysgrif Hugh Thomas (lle nodir iddo briodi Elisabeth ferch Avery Traharne). Ni cheir sicrwydd ai’r un ydoedd, mewn gwirionedd, â Sieffrai Goch ap Mathau yn llawysgrif Hugh Thomas. Yn WG1 ‘Additions and Corrections: Sixth List’, 18, nodir ansicrwydd ynghylch yr wybodaeth uchod am Fathau yn sgil gwybodaeth yn Siddons (1996: 63), lle cyfeirir at ddisgynyddion honedig i Fathau yn Alvingham yn swydd Lincoln mewn dwy ddogfen a luniwyd yn 1619. Nid yw’n eglur a yw’r ach honno’n ddilys, ond nodir Rhys Cain o Groesoswallt ymhlith y ffynonellau. Cyfeirir at yr un wybodaeth yn DWH II 370, lle nodir ffynhonnell arall eto sy’n enwi Mathau fel mab i ŵr o’r enw Wiliam Goch o swydd Gaer. Dywedir ei fod wedi dwyn arfau teulu Gochiaid swydd Gaer a bod ei ferch (a’i etifedd) wedi priodi gŵr o’r enw John Hubert o Lundain. Ymddengys bod yr wybodaeth honno’n deillio o waith yr achyddwr Syr Gilbert Dethick (1499/1500–84; arno, gw. DNB s.n. Sir Gilbert Dethick) a’i fab, Syr William Dethick (1543–1612; arno, gw. DNB s.n. Sir William Dethick). Nid yw’n eglur ar hyn o bryd a yw’n ddilys ai peidio.

Ei yrfa
Er mai brodor o Faelor oedd Mathau, treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Normandi yn brwydro o dan faner Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Ceir isod amlinelliad o’i yrfa yn seiliedig ar y cofnod am Fathau yn DNB Online s.n. Matthew Gough, oni nodir yn wahanol (lloffwyd gwybodaeth o Probert (2001), ond nid ymddengys y dylid pwyso’n drwm bob tro ar y dystiolaeth honno o ran dyddiadau).

1423 Fe’i henwir fel capten Montaiguillon (Probert 1961: 37), ac fe frwydrodd yn Cravant, o bosibl ym myddin Syr John Skydmore (Evans 1995: 29).
1424 Brwydrodd yn Verneuil gyda Syr Rhisiart Gethin, ac yn sgil y frwydr fe’i gwnaed yn gapten Chateau L’Ermitage (Probert 1961: 39).
1424–5 Oddeutu’r adeg hon enillodd Mathau fri am ymlid ac am ddal gŵr a elwid Bastard de la Baume, Safwyad a ymladdai ym mhlaid y Ffrancwyr, a rhoes dug Salisbury farch da iddo am ei ddewrder (Evans 1995: 29; Probert 1961: 39).
1425 Cymerodd ran yn ymgyrch dug Salisbury yn Aensio.
1426 Capten Granville; gwasanaethodd arglwydd Warwick wrth warchae Chateau de Loire, ac yn sgil ei chipio fe’i gwnaed yn gapten y dref (Probert 1961: 39–40).
1427–8 Roedd yn gyfrifol am Laval dan awdurdod Siôn Talbod (Evans 1995: 29; Probert 1961: 40).
1429 Mai–Mehefin Amddiffynnodd Beaugency gyda Syr Rhisiart Gethin yn erbyn Jeanne o Arc, ac fe’i gorfodwyd i ildio’r dref; yn ôl Probert (1961: 40), fe’u carcharwyd yno am gyfnod.
1432 haf Cafodd ei ddal a’i garcharu yn sgil gwarchae St Céneri.
1434 Fe’i carcharwyd yn sgil ei ddal yn marchogaeth gyda Syr Thomas Kyriell ar y ffordd i warchae St Denis (Probert 1961: 41).
1435 Roedd yn gyd-gapten Le Mans dan awdurdod Syr John Fastolf.
1439–42 Capten Bayeux.
1440 Cymerodd ran yn y gwaith o warchae a chipio Harfleur.
1444 Fe’i comisiynwyd fel un o gadlywyddion ymgyrch ar y cyd rhwng y Saeson a’r Ffrancwyr i ymlid herwyr ar hyd a lled y wlad.
1446 Aeth i yrru’r Swisiaid o Alsás, yn ôl pob tebyg gyda Wiliam Herbert; ymddengys iddo ymladd yn Fougères yn Llydaw hefyd (Probert 1961: 42).
1448 11 Mawrth Er iddo gael ei orchymyn gan Harri VI i ildio Maine i’r Ffrancod yn 1447, ni ddigwyddodd hynny tan 1448.
1449 30 Medi Ildiodd Bellême a Carentan ar y cyd â Wiliam Herbert (Probert 1961: 42).
1450 10 Ebrill Cipiodd Valognes gyda Syr Thomas Kyriell.
1450 15 Ebrill Roedd ym myddin y Saeson a orchfygwyd gan y Ffrancod yn Formigny, lle achubwyd ei fywyd gan Wiliam Herbert (Probert 1961: 43).
1450 16 Mai Ildiodd Bayeux a dychwelodd i Brydain.
1450 2 Mehefin Roedd yn Nhŵr Llundain gydag arglwydd Scales pan ymosodwyd ar y ddinas gan wrthryfelwyr o Gent dan arweiniad Jack Cade.
1450 5–6 Mehefin Fe’i lladdwyd yn ymladd ar Bont Llundain ac fe’i claddwyd yn eglwys y Brodyr Gwynion yn y ddinas.

Roedd Mathau Goch yn un o’r milwyr proffesiynol mwyaf nodedig yng ngwasanaeth y Saeson yn y rhyfeloedd yn Ffrainc yn y bymthegfed ganrif. Fe’i disgrifiwyd gan William Worcester fel un a oedd yn ‘surpassing all other esquires who engaged in war at that time in bravery, hardihood, loyalty and liberality’, a gadawodd Sir John Fastolf arian yn ei ewyllys ar gyfer cynnal offerynnau er lles ei enaid. Roedd y Ffrancwyr yn ei adnabod fel ‘Matago’ a daeth ei enw yn gyfystyr â dewrder, er i’r enw ddatblygu’n derm difrïol yn Perche, a oedd wedi dioddef o’i herwydd, a llosgwyd delweddau ohono i ddathlu ei ymadawiad yn 1449.

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1968), ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, Cylchg HC 4: 21–46
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Lloyd, C. (1873), ‘History of the Lordship of Maelor Gymraeg or Bromfield’, Arch Camb (fourth series) xiii: 305–20
Probert, Y. (1961), ‘Mathew Gough 1390–1450’, THSC: 34–44
Siddons, M. (1980–2), ‘Welsh Seals in Paris’, B xxix: 531–44
Siddons, M. (1996), Welsh Pedigree Rolls (Aberystwyth)
Worcestre, W. (1969), Itineraries (Oxford)