Y llawysgrifau
Ceir copi o’r cywydd hwn mewn 39 llawysgrif. Un copi wedi ei rannu rhwng dwy lawysgrif yw LlGC 664B a LlGC 19901B. Ni cheir ond y cwpled agoriadol yn Pen 221. Ar ffurf dyfyniadau a nodiadau mae’r ddau gopi yn Llst 55 ac nid ydynt o werth wrth sefydlu testun golygedig.
Gellir rhannu’r llawysgrifau fel a ganlyn. Ceir grŵp yn y de-ddwyrain a gynrychiolir orau gan Pen 83. Ceir grŵp arall yn y gogledd sy’n ymrannu yn ddau, a gynrychiolir gan C 3.4 a BL 14967. Saif Pen 55, y llawysgrif hynaf, ar ei phen ei hun oherwydd y drefn llinellau unigryw, ac nid yw’n sicr a ddylid ei chyfrif gyda grŵp y de-ddwyrain ynteu ar ei phen ei hun.
Mae’r holl gopïau yn gyson i’w ryfeddu ynglŷn â threfn y llinellau, ac eithrio Pen 55, lle yr ymddengys fod trosglwyddo llafar wedi peri newidiadau sylweddol (ond mae darlleniadau Pen 55 yn rhai da). Collwyd ambell gwpled mewn rhai copïau, ac ad-drefnwyd ambell un yn achlysurol, ond ar wahân i hynny mae’r cysondeb yn rhagorol. Y drefn a ddilynwyd yn y golygiad yw trefn C 3.4, a gefnogir, ar wahân i’r mân anghysonderau a grybwyllwyd uchod, gan bob llawysgrif ond Pen 55.
Mae’r darlleniadau yn eithaf cyson. Lle mae llawysgrifau’r de-ddwyrain yn cytuno ag un o grwpiau’r gogledd, mae’n ddiogel derbyn y darlleniad. Lle mae de a gogledd yn gwrthgyferbynnu, nid yw mor hawdd penderfynu. Y llinell fwyaf anodd yn hyn o beth yw 40. Fel arall prin iawn yw’r darlleniadau ansicr lle mae’r ansicrwydd o bwys.
Defnyddiwyd pob llawysgrif na ellir bod yn weddol sicr iddi darddu o lawysgrif hysbys arall, sef cyfanswm o 21. Ond mewn gwirionedd, rhydd Pen 55, Pen 83, C 3.4 a BL 14967 ymron popeth a dderbyniwyd yn y testun golygedig.
Trawsysgrifiadau: Pen 55, Pen 83, C 3.4, BL 14967, LlGC 17114B.
1 hydr Mae rhai copïau’n drysu rhwng hydr a hyder (LlGC 16964A, Brog I.2, tri o gopïau Llywelyn Siôn). Gan fod hyder yn ddeusill, cywirodd Llywelyn Siôn hyd y llinell drwy hepgor o’r.
3 llew Ceir lliw dan ddylanwad llinell 4 yng ngrŵp BL 14967 a hefyd mewn tri chopi yng ngrŵp C 3.4 (C 3.4 ei hun, Bangor (Mos) 5 a LlGC 17114B).
3 fal Ceir mewn yn llawysgrifau’r de dan ddylanwad llinell 2, ac eithrio dwy sy’n cynnig mal (Pen 83, LlGC 16964A).
10 aur Ceir uwch yn lle aur yn llawysgrifau Llywelyn Siôn a LlGC 21248D. Ceir iarll yn Pen 83 a LlGC 16964A. Mae’r cyd-destun yn cefnogi aur.
14 wyd Mae wyd yn ddiogel oherwydd ei fod yn Pen 55 a C 3.4. Ceir hwnt yng ngrŵp BL 14967, sef er mwyn gwella’r gynghanedd, yn ddiau.
16 Ad-drefnwyd hanner cyntaf y llinell yn Pen 55, ond cytuna’r llawysgrifau deheuol eraill â rhai y gogledd, gan sicrhau y darlleniad.
16 daint Yn Pen 55 a chopïau’r gogledd, ac felly mae’n gywir. dant sydd yn y copïau deheuol eraill.
17 ys Cadarnheir ys gan y ffaith ei fod yn digwydd yn Pen 55 a chopïau’r gogledd (a chan y synnwyr). Ceir os yn y copïau deheuol eraill.
20 rhudd Mae cryn ddryswch yma: ceir rhwydd gan Llywelyn Siôn, yn LlGC 3056D ac yn Stowe 959, rin yn Pen 83 a LlGC 16964A. Ond ceir tystiolaeth gref dros rhudd yn C 3.4, BL 14967, LlGC 3049D, Gwyn 4, BL 14866, Bangor (Mos) 5 ac eraill. Yn Pen 55 ceir rrydd, a allai gynrychioli rhudd neu rhydd.
20 llanw Ceir y darlleniad hwn yn Pen 55, C 3.4, LlGC 3049D, Gwyn 4, Bangor (Mos) 5, BL 14866, LlGC 3056D ac eraill, ac mae’r rhychwant hwn yn dystiolaeth gref iawn o’i blaid. Ymddengys, felly, fod rhaid cyfrif llanw yn ddeusill. Mewn rhai copïau ceir sillaf arall rywle yn y llinell. Yn BL 14967 a LlGC 16964A saif y ar ddechrau’r llinell, gan roi saith sillaf, ac mewn rhai copïau deheuol ceir ny neu yn ar ôl llanw (Pen 83, BL Stowe 959, Llywelyn Siôn, LlGC 21248D). Gan fod cynifer o gopïau o wahanol rannau o’r stema yn cefnogi’r ynganiad deusill, gallwn gymryd mai diwygiadau ar ran y copïwyr fu ychwanegu’r geiriau bach hyn.
23 od gwn Cadarnheir hyn gan C 3.4, llawysgrifau’r de ac eraill. Ceir dryswch yn Pen 55 ydg6na, BL 14967 o dygwnn, Brog I.2 hyd gwn a LlGC 21248D (1) da i gwnn.
24 cywyddol Ceir chywyddwr gan Llywelyn Siôn ac mewn tair llawysgrif arall (Stowe 959, LlGC 3056D, Brog I.2).
25 mwy Ceir ym yn Pen 55, ond cadarnheir mwy gan bob llawysgrif arall.
25 er Parodd yr arddodiad drafferth i rai copïwyr, ond cadarnheir er gan y synnwyr a chan Pen 55, BL 14967, LlGC 3049D, Gwyn 4, LlGC 3056D, Brog I.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn.
25 amnaid Ceir eneid yn Pen 83, LlGC 16964A a hefyd BL 14971; hawdd gweld hyn yn llygriad a allai ddigwydd fwy nag unwaith yn annibynnol.
28 clo BL 14971 klai.
30 i roi Fe’i cadarnheir gan Pen 55 a C 3.4. Cynigia grŵp BL 14967 wrth roi (ond i roi yn BL 14866). Ceir am roi yn BL 14971 a LlGC 21248D (1), dwy lawysgrif go annibynadwy.
32 i Dryswyd rhwng i ac wrth fel yn y llinell flaenorol. Cytuna Pen 55 â BL 14967 yn erbyn C 3.4, felly dilynwyd hwy.
33 bai Pen 55 yn unig sy’n rhoi bo.
34 brydyddesau Cadarnheir brydyddesau (y lectio difficilior) gan Pen 55, LlGC 16964A a’r llawysgrifau gogleddol i gyd. Ceir briodasau yng ngweddill y copïau deheuol. Hawdd deall y newid.
35 fedr C 3.4 vydyr, diau oherwydd y sôn am farddoni.
37 sud Ceir hud yng ngrŵp BL 14967 (ond nid yn y llawysgrif honno ei hun) a hefyd mewn rhai copïau gogleddol eraill (Brog I.2, LlGC 552B, BL 14971 a LlGC 21248D). Er gwaethaf y dystiolaeth hon, mae’n rhaid ei wrthod o ran ystyr. Dichon iddo godi o gamglywed sud ar ôl -s. Ceir sud yn BL 14967 ei hun a hefyd yn C 3.4, felly ymddengys mai sud a gefnogir gan draddodiad y gogledd. Ond mae’r copïau deheuol o blaid drud, a hefyd Bangor (Mos) 5 yn y gogledd. sud sy’n gweddu orau o ran ystyr, ond dylid nodi bod drud yn bosibl yn yr ystyr ‘drudfawr’ (a bod -s dd- yn gallu caledu i -s d-, gw. TC 24–5).
38 haul Lyn-nedd Camrannwyd i greu haul yn nedd yn Pen 55, LlGC 3049D, Gwyn 4, Bodley Welsh e 7 a LlGC 552B. Arweiniodd hyn wedyn at greu yn nef yn LlGC 17114B. Yn Pen 83 ni threiglir glyn. Mae hynny’n wir hefyd yn Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn, lle ceir hael glan i gael cynghanedd â’r darlleniad hwn. Dyma enghraifft o lygriad yn esgor ar lygriad pellach.
39 glêr Cadarnheir glêr gan holl gopïau’r de a rhai copïau gogleddol (LlGC 17114B, Bodley Welsh e 7, LlGC 552B).
40 Dyma’r llinell fwyaf anodd. Yn y de: Mal Sais ymyl Euas wyd; yn y gogledd: Mab y crinwas Euas wyd. Ceir yr ymadrodd mab y crinwas mewn trioedd: ai dyna’r lectio difficilior? Gw. ymhellach y nodyn esboniadol.
41 gwledd Felly ym mhob copi ond Pen 55, lle ceir g6in.
41 i glêr Dyma a geir yn BL 14967, LlGC 17114B, Bangor (Mos) 5, Brog I.2, Bodley Welsh e 7, LlGC 3049D, Gwyn 4, BL 14866 a LlGC 21248D (1). Gthg. Pen 55, Pen 83 a LlGC 16964A yr (ir) gler, a cheir ich cler ac ych gler yn C 3.4, Stowe 959 a Llywelyn Siôn. At ei gilydd, felly, mae’r dystiolaeth gryfaf o blaid i glêr.
43 clared clarai yn BL 14967, sef math arall o win.
43 âi Anodd iawn gwybod beth a ddylai fod yma. Ymddengys fod LlGC 17114B, Gwyn 4 a LlGC 16964A o blaid âi. Amwys yw LlGC 3049D a y, ond ceir cysylltiad rhyngddo a BL 14866 a yf. Credaf mai âi sydd y tu ôl i’r darlleniadau hyn. Digon tebyg yw C 3.4 a Pen 83, sydd o blaid â i’ch. Sylwer bod llinell 41 o blaid yr amser amherffaith. Yn BL 14967 ceir aeth ich, sy’n debygol o fod wedi codi o âi i’ch. Rhydd Llywelyn Siôn i’ch heb ferf, a cheisia gyfrif clerwyr yn deirsill (kalerwyr) i wneud iawn am y sillaf sydd eisiau. Haws gweld hyn yn codi o âi i’ch nag o a gâi’ch, ond digon tila yw’r ddadl hon. Mae Pen 55, Bangor (Mos) 5, Stowe 959, LlGC 552B, Bodley Welsh e 7, BL 14971 a LlGC 21248D (1) o blaid a gâi’ch. Nid yw’n bosibl torri’r ddadl yn derfynol.
47 Mae rhai copïau wedi ychwanegu am o flaen cerdd, gan greu llinell wythsill (LlGC 17114B, LlGC 3056D, BL Stowe 959, BL 14971, Llywelyn Siôn). Ceisiodd Llywelyn Siôn ddatrys hyn mewn rhai o’i gopïau drwy hepgor ap ac mewn eraill drwy roi’r ffurf ryfedd ddae (ai Dai?) yn lle ddafydd.
48 bwrdio Parodd y gair Saesneg hwn drafferth i rai copïwyr: BL 14866 brydiau, LlGC 16964A brydio.
48 ym Ategir gan Pen 55, C 3.4, LlGC 3049D, LlGC 17114B ac eraill, felly ni raid ystyried yn (BL 14967, Pen 83, LlGC 21248D (1) a LlGC 16964A). Y trydydd dewis yw a wnâi, a geir gan Llywelyn Siôn a hefyd yn Stowe 959 a LlGC 3056D, a hefyd yn Gwyn 4 (ond nid yn LlGC 3049D, sydd fel arfer yn debyg iawn i Gwyn 4). Mae’n cynnwys n berfeddgoll o flaen yr acen.
49 Harri Mae Bodley Welsh e 7 a LlGC 552B wedi llygru Harri yn gwae fi.
49 os Gellir gwrthod ai yn C 3.4 ac eraill yn wyneb y ffaith fod Pen 55 a BL 14967 yn cytuno ar os.
50 Cytuna copïau’r de â grŵp C 3.4 ar Heb roddi hwya’ breuddwyd, felly dyna sy’n gywir. Gwelir ailgyfansoddi yng ngrŵp BL 14967 I’n hoedi un hy ydwyd. Dichon nad oedd ystyr y llinell wreiddiol yn eglur i bawb.
52 yw Ceir ymraniad rhwng yw ac yw’r; cefnogir yr ail gan Llywelyn Siôn, Stowe 959, Pen 83, LlGC 16964A, Gwyn 4 a Pen 55. Ceir cynghanedd groes o gyswllt yn y llinell heb ’r.
53 pam nad Mae C 3.4, Gwyn 4 a LlGC 3049D o blaid pa nad, ond gan fod Pen 55, BL 14967, Llywelyn Siôn, Stowe 959, Brog I.2 ac eraill yn cytuno ar pam nad, hynny a dderbynnir. Byddai’r ddau’n ystyrlon.
54 di oedd Cefnogir ti/di oedd gan y copïau deheuol i gyd a hefyd yn LlGC 17114B a BL 14866 yn y gogledd. Ond mae’r rhan fwyaf o’r copïau gogleddol o blaid ydoedd, a dau gopi (LlGC 3049D a Gwyn 4) yn pleidio gynt. Rhaid derbyn y darlleniad a rennir gan y gogledd a’r de.
55 a Ceir cryn ddryswch ynghylch a ar ddechrau’r llinell. Cytuna Pen 55 a C 3.4 ar a, felly derbynnir hynny. Rhydd eraill a o flaen difai neu o o flaen ferch.
57 gweithydd Mae’r llawysgrifau deheuol yn drysu ar gweithydd (Stowe 959 gweiddydd a gywirwyd yn gwewddydd, Llywelyn Siôn gwe(h)ydd), ond fe’i ceir yn yn Pen 55 ac yn gyffredinol yn y copïau gogleddol.
59 sant Rhaid derbyn sant fel y lectio difficilior a hefyd am fod mwyafrif llethol y llawysgrifau o’i blaid, gan gynnwys Pen 55, C 3.4, BL 14967 a rhai Llywelyn Siôn. Y dewis arall yw sawl (LlGC 17114B, Bodley Welsh e 7, LlGC 21248D (1) a LlGC 552B).
59 glywo Ceir glywo yn gyffredinol yn y gogledd (mae glybu BL 14967 yn gamgopïad o hyn). Yn y de ceir glywas a glywais (Llywelyn Siôn). Dichon fod glywaf yn Pen 55 yn tarddu o gamrannu glywo fy, a bod glywas yn ffrwyth camgopïo glywaf. Gallai Llywelyn Siôn fod wedi troi glywas yn glywais er mwyn y synnwyr. Derbynier glywo.
60 ef a rydd Cynigia Llywelyn Siôn vo roddai ac a roddai.
61 gelwynt Rhydd sawl copi gwelynt (e.g. Pen 83, BL 14866 a LlGC 16964A), ond mae’n llygriad hawdd a allai fod wedi codi fwy nag unwaith. Mae mwyafrif y copïau o blaid gelwynt.
64 Mae’r copïau cynnar yn unfryd. Rhydd Llywelyn Siôn i troe hwnn vel y tri hael, ond nid oes cefnogaeth iddo hyd yn oed yn Stowe 959.
65 fodd Rhydd Pen 55 feddwl, ond mae’r lleill yn unfryd o blaid fodd.
65 hwnnw Cynigia Gwyn 4 a LlGC 3049D hwn (llawysgrifau cysylltiedig yw’r rhain), sy’n creu llinell fer.
65 fyddaf Mae LlGC 552B wedi camrannu fydda yn fu dda.
66 dy natur Mae’r llawysgrifau cynnar yn unfryd heblaw bod ny natvr yn Gwyn 4 ac ei natur yn LlGC 3049D, newidiadau tebyg iawn i’w gilydd. Ar sail yr ystyr rhaid gwrthod fy natvr (LlGC 3056D) hefyd. Ailgyfansoddwyd y llinell yn Bodley Welsh e 7 yn ness troi dy nattvr awna.
67 gyda’r Dim ond Pen 55 sy o blaid gyda’m.
69 neu’th Felly Pen 55 a hefyd BL 14967. Mae’r cytundeb hwn yn dystiolaeth gref o’i blaid, fel hefyd y ffaith fod neu yn hynafol. Yn y lleill ceir geirynnau gwahanol o flaen y rhagenw (voth, veth, ef ath, eth). Rhydd Llywelyn Siôn veth aerwywyd (sef gosod mewn cadwyni?). Ffrwyth camglywed ydyw hyn.
70 callestr wyd Camddeallodd Llywelyn Siôn kallestr a’i droi yn rhyw fath o ferf kellaist, gan gysylltu llythyren olaf y gair â’r gair nesaf i greu rhwyd.
Ni fu perthynas Guto’r Glyn â’i noddwyr wastad yn fêl i gyd, fel y dengys y cywydd hwn i Harri Gruffudd, cerdd a ddaeth, fe ymddengys, yn enwog i feirdd cenedlaethau diweddarach fel enghraifft o ehofndra’r bardd proffesiynol (gw. llinell 34n). Ynddi mae mawl yn troi’n ddirybudd yn ddychan, cymysgfa ddiddorol iawn sy’n dangos y bardd yn chwarae â genre. Llinellau 15–16 yw’r trobwynt, ac mae’r newid i ddychan yn arbennig o drawiadol ar ôl clywed 14 llinell o fawl digymysg. Mae’r bardd yn mynegi ei gŵyn â chryn ochelgarwch: ys da ŵr wyd, dywed, o ran perchentyaeth, ond y drwg yw nad oes modd cael arian gennyt. Siom fawr yw hyn oll i un a fu’n herod ac yn gywyddol i Harri (23–4), a datblygiad diweddar ydyw, oherwydd cofia’r bardd mor hael oedd Harri gynt.
Yna dysgwn am esgus Harri: mae ganddo lawer o brydyddesau sy’n mynnu tâl (33–6). Hwy sy’n elwa ar draul y gwŷr wrth gerdd. Un posibilrwydd yw bod Harri’n siarad yn gellweirus am ei ferched ei hun a’r angen i roi gwaddol iddynt, cellwair sy’n ennyn canmoliaeth eironig gan y bardd (35). Eto mae Haycock (2010) yn dehongli’r gair prydyddesau yn llythrennol fel carfan o feirdd benywaidd. Ateg i’w dadl, yn ddiau, yw’r cyfeiriad at Wladus sy’n dilyn yn unionsyth, oherwydd yr oedd hi’n barddoni yn ddi-os (cf. cerdd 34). Gadawaf y cwestiwn yn agored yma (ond gw. ymhellach 34n, 36n a 47n). Nid yw Guto yn sicr pa mor ddifrifol yw Harri, ac felly mae’n cynnig dau bosibilrwydd (49–52): naill ai fod Harri o ddifri (arswyd!) neu mai jôc yw hyn oll sydd wedi parhau yn rhy hir. Wedyn, dyma Guto’n lleisio edliw a ddefnyddir yn aml gan feirdd wrth annog noddwyr cyndyn: roedd dy rieni’n well na hyn!
Yn yr adran olaf, mae Guto yn ystyried ei rôl ei hun. Wyneb yn wyneb ag ymddygiad mor anghydnaws ag eiddo Harri Gruffudd, gorfodir iddo bregethu fel brawd pregethwr, neu fel Taliesin a lwyddodd i wella ymddygiad cyffelyb Brân Galed. Bydd Harri’n gwrando arno, mae’n siŵr, ac yno fe gaiff mawrglod; ond os na wna, yna mae wedi derbyn ei gosb eisoes – sef y gerdd gynnil, bigog hon.
Dyddiad
Nid oes modd dyddio’r cywydd hwn, ond, ac ystyried y cyfeiriad at Wladus yn 37, mae’n debygol o berthyn i’r un cyfnod yn fras â cherdd 34, sef yn yr 1440au neu’r 1450au.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 41% (29 llinell), traws 39% (27 llinell), sain 20% (14 llinell).
1 Deheudir Rhannau traddodiadol Cymru oedd Gwynedd, Powys a Deheubarth. Cyfystyr â’r olaf yw Deheudir.
2 du o lir Gw. GPC 1097 d.g. du ‘black-a-lyre, black cloth from Liere in Brabant’, OED Online s.v. lyre, n.2. Ceir enghreifftiau pellach yn TA LXXXIV.12 a CXII.40 a GIBH At.v.65n.
4 llai no dulwyd Dymuna’r bardd na fydd gwallt Harri’n britho mwy nag ychydig. A oes elfen o ysmaldod yma? Fe geir llai yn yr ystyr ‘llwyd, gwineuddu’, gw. GPC 2090 d.g. llai2, ac efallai fod y bardd yn chwarae â’r ystyr honno hefyd.
7 ysgwïer GPC 3849 ‘person nesaf ei radd islaw marchog’.
7 coler Coler aur oedd arwydd marchog, ac ymddengys mai coler arian a wisgai ysgwïer, cf. GDEp 16.1–2 Ysgwïer, gwisg aerwy gwyn, / Arian filwr â’n felyn, 17.27–8 Dau goler arian sidan y sydd, / Duw a ro newid o aur newydd. Ergyd llinellau 7–12 yma yw y dylid cyfnewid ategolion arian Harri am rai aur, hynny yw, ei urddo’n farchog.
10 gyda’th dri nai Nid awgrymir bod y rhain eisoes yn farchogion, ac nid yw’n sicr pwy ydynt.
11 Dwynwen Nawddsantes Llanddwyn, Ynys Môn, ond cysylltid hi hefyd â Brycheiniog, yn nes at gynefin Harri Gruffudd; credid mai Brychan Brycheiniog oedd ei thad.
12 ysbardun wen Ysbardun arian, cf. 7n.
16 troi Chwarae ar eiriau: troi’r pridd a wna’r og, gw. isod, felly mae Harri yn troi’n gybydd ac yn frathog ac yn llym fel og yn troi’r tir.
16 og GPC 2638 ‘offeryn amaethyddol ar lun ffrâm ac iddi ddannedd haearn’.
20 llyn rhudd Gwin coch.
20 llanw rhyd Cyfeirir at fasddwr (rhyd) am ei fod yn llifo’n gyflymach na dŵr dwfn ac felly’n ddelwedd dda ar gyfer gwin Harri Gruffudd.
21 ychwaith Am yr ystyr ‘dim’ yma, gw. GPC 839 d.g. chwaith2, ychwaith lle nodir ei fod yn cael ei ddefnyddio yn enwol ar ôl geiryn negyddol. Deellir chwaith / Na dim yn gyfystyron, ac o’ch arian yn ddibynnol ar y ddau, yn hytrach nag aralleirio ‘dim o’ch arian / Na dim byd arall’.
23 herod Gw. GPC 1858. Mae’r union ystyr yn aneglur, ond mae a wnelo rywsut â swyddogaeth bardd. Adlais bwriadol yw’r cwpled hwn o 32.15.
29 diemwnd Y sylwedd caletaf mewn natur yw deimwnt. Defnyddir ef o leiaf ers y bedwaredd ganrif ar ddeg i dorri gwydr, gw. Wigelsworth 2006: 38.
32 gwŷr Morgannwg Beirdd o Forgannwg, fe ymddengys. Un a allai fod yn eu plith oedd Gwilym Tew, a ganodd o leiaf unwaith i Harri Gruffudd, yn gofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd ym Mro Morgannwg, gw. Jones 1981: cerdd III. Priododd Mil ap Harri Ddu â Jane, merch Harri Stradling. Canodd Gwilym hefyd i Siôn ap Rhys o Lyn-nedd (Jones 1981: cerdd VI), sef brawd y ferch a enwir yn llinell 37 isod, mae’n debygol.
34 prydyddesau Gair prin iawn a ddefnyddir gan mwyaf i ddyfalu adar, cf. yr enghreifftiau yn GPC 2918. Am adlais o’r llinell hon ac o’i chyd-destun gan fardd o’r unfed ganrif ar bymtheg, Ifan Delynior, gw. Lewis 1956–8: 171 (V.36). Dyma awgrym fod yr hyfdra a ddengys Guto’r Glyn yma wedi mynd yn enwog ymhlith y beirdd yn nes ymlaen.
36 gwaddoli Yn yr Oesoedd Canol disgwylid i dad y briodferch roi arian neu eiddo (gwaddol) i’w gŵr newydd. Os merched Harri yw’r prydyddesau (cf. y drafodaeth uchod), yna mae gwaddoli i’w ddeall yn llythrennol. Os beirdd go iawn oeddynt, yna fe geir digon o dystiolaeth am ddefnyddio gwaddol a gwaddoli yn ffigurol yng nghyd-destun gwobrwyo beirdd, cf. yr enghreifftiau yn GPC 1544.
37 Gwladus Y tebyg yw mai merch Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd yw hon, cf. y llinell nesaf a cherdd 34.
40 mab y crinwas Gw. GPC 2293 d.g. mab, a cf. TYP3 506 a’r gyfres o drioedd yn ymwneud â chybydd-dod yn MA2 899–900. Yn Davies 1632 d.g. mab y crinwas rhoddir vir sordidè avarus (‘dyn ffiaidd o gybyddlyd’).
42 rwmnai GPC 2991 ‘gwin coch melys o un o wledydd y Môr Canoldir’.
42 amner GPC2 233 d.g. amner1 ‘pwrs, cod’, benthyciad o’r Saesneg Canol aumener, cf. GMBen 20.29n.
43 clared GPC 490 ‘math o win melynaidd neu oleugoch ei liw yn wreiddiol, ond yn ddiweddarach gwin coch fel y math o winoedd a wneir yn neau Ffrainc ac a allforir o Bordeaux’.
45 cefn y nos GPC 446 d.g. cefn ‘midnight, dead of night’.
46 cainc eos Rhyw fath o dôn, gw. Sally Harper, ‘Dafydd ap Gwilym, Bardd a Cherddor’, DG.net. Delwedd gyffredin am fardd neu delynor yw eos; gw. 106.48n (esboniadol).
47 Dafydd ap Gwilim Bardd Cymraeg enwocaf yr Oesoedd Canol. Dyma dystiolaeth ddiddorol am ei enwogrwydd ac am boblogrwydd ei waith yn amser Guto’r Glyn. O’r un cyfnod y daw’r casgliadau cynharaf o waith Dafydd sydd ar glawr, gw. Huws 2000: 84–97. Ceir dwy ffordd o ddeall y cyfeiriad hwn. Os beirdd go iawn yw’r prydyddesau (34n), yna gellid deall mai hwy sy’n canu cerddi Dafydd ap Gwilym, gan adael canu mawl Guto’n amddifad o gynulleidfa. Os cyfeiriad ffigurol at ferched Harri yw prydyddesau, yna dealler mai Guto sy’n canu gwaith Dafydd, ond heb dderbyn y tâl priodol am hynny.
47 Gwilim Yr orgraff fwy arferol yw Gwilym, ond fe geir y ddwy ffurf. Yma mae’r llawysgrifau’n unfryd o blaid Gwilim yn y llinell hon i odli â dim yn yr un nesaf, er y dylid nodi bod dym yn digwydd, gw. G 356–7 a Bowen 1997: 139.
50 hwya’ breuddwyd Nid yw’r ystyr yn hollol eglur, ond mae breuddwyd yn aml yn dwyn ystyr negyddol, cf. GLlG 12.98 Breuddwyd oer, briddo dy dâl; GMBr 1.1–2 Gwae wlad brudd, gweled breuddwyd, / Oll am ei roi’n llam y rhwyd; GSH 8.49–50 Briw Tudur, llafn hirddur, Llwyd, / Banbri, oedd ben y breuddwyd. Cf. Saesneg ‘bad dream’ am ddigwyddiad hunllefus.
54 dy ddewrdad Gruffudd ap Harri, a oedd yn fyw o hyd yn 1425.
55 Mawd Mam Harri, merch Gwilym Llwyd ap Gerald (Gerallt) Barri.
56 nith Rydderch Hynny yw, fel petai hi’n berthynas agos i Rydderch Hael, mab Tudwal Tutglyd ac un o’r Tri Hael, gw. TYP3 5–7, 504–5; WCD 567–8; isod 64n. Ceir yr ymadrodd nai Rhydderch droeon, cf. GHS 24.55n Iawn y rhoddes nai Rhydderch / Singls aur ar draws angel serch (Ieuan ap Hywel Swrdwal i Syr Rhisiart Gethin).
57 cywydd gŵr Sef y cywydd mawl.
58 brawd pregethwr Aelod o urdd y Dominicaniaid neu’r Brodyr Pregethwyr. Gan amlaf nid oedd agwedd y beirdd at y gwŷr hyn yn arbennig o gynnes, gw. Davies 1995: 237–55. Ymostyngiad, felly, yw i Guto orfod disgyn i’w lefel hwy oherwydd crintachrwydd Harri. Ceir awgrym, hefyd, fod cybydd-dod Harri yn anfoesol ac y dylid pregethu yn ei erbyn.
59 sant Nid yw’r ergyd yn eglur. A gymherir Harri â sant? Ynteu a wrthgyferbynnir ymddygiad hael y seintiau, sy’n gwrando ar weddïau dynion, â chybydd-dod Harri sy’n gwrthod rhoi arian i’r beirdd? Neu a yw’r cwpled yn weddi fer am gyfryngiad rhyw sant: ‘Bydded i’r sant glywed fy ngeiriau: / Bydd Harri’n rhoi mwy o roddion.’
61 Brân Galed Cf. TYP3 292, Jones 1973–4: 105–12 a WCD 53.
62 Gwŷr y Gogledd Cymry gogledd Prydain yn yr Oesoedd Canol Cynnar, y tyfodd llu o chwedlau o’u cwmpas mewn oesoedd diweddarach.
63 Taliesin Bardd delfrydol y traddodiad Cymraeg. Nid yw’r hanes y cyfeirir ato yma wedi goroesi.
64 Tri Hael Tri chymeriad a oedd yn enwog am eu haelioni: Nudd Hael ap Senyllt, Mordaf Hael ap Serfan, Rhydderch Hael ap Tudwal Tutglyd, gw. TYP3 5–6.
70 callestr Carreg galed iawn.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1997), ‘Pynciau Cynghanedd: Odli I, U ac Y’, LlCy 20: 138–43
Davies, J. (1632), Dictionarium Duplex (Londinium)
Davies, M.T. (1995), ‘Dafydd ap Gwilym and the Friars: The Poetics of Mendicancy’, SC xxix: 237–55
Haycock, M. (2010), ‘Dwsin o Brydyddesau? Achos Gwladus “Hael” ac Eraill’, Dwned, 16: 93–114
Huws, D. (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Jones, G.E. (1973–4), ‘Brân Galed, Brân fab Ymellyrn’, B xxv: 105–12
Lewis, H. (1956–8), ‘Cywyddau Ymryson Ifan Dylynior, Syr Dafydd Trefor a Ieuan ap Madog’, B xvii: 161–75
Wigelsworth, J.R. (2006), Science and Technology in Medieval European Life (Westport, Connecticut)
Guto’r Glyn’s relationship with his patrons was not always a bed of roses, as this poem for Henry Griffith shows. It seems to have become well-known among subsequent generations of poets as an example of the arrogance of the professional bard (see line 34n). It is a praise poem which turns unexpectedly into satire, a very interesting hybrid which shows Guto playing with genres. The turning point comes in lines 15–16 and is all the more striking after we have heard 14 lines of uncontroversial praise. The poet expresses his complaint with great care: ‘you are a good man’, he says, as far as hospitality goes, but it is impossible to get money out of you. This is a sore disappointment for one who has been poet to Henry for a long time, and it is a recent development too, for Guto can still remember how generous Henry once was.
Now we learn what Henry’s excuse is: he has many ‘poetesses’ who demand payment from him (33–6). It is they who are benefitting at the expense of the male poets. One possibility is that Henry is speaking metaphorically of his own daughters, all needing dowries from him (gwaddoli in 34 literally means ‘give a dowry’), a joke which earns ironic praise from the poet (35). But Haycock (2010) interprets prydyddesau literally as female poets, and her argument is certainly strengthened by the mention in the very next couplet of Gwladus, who undoubtedly did act as a poet (cf. poem 34). I shall leave the question open here (but see further 34n, 36n and 47n). Guto is not quite sure how serious Henry is, so he sets out the options in lines 49–52: either Henry means it (horror!) or it’s all a joke that has been spun out for too long. Guto then uses a favourite gambit for poets who are reproaching unwilling patrons: your parents were better than this!
In the final section Guto considers his own role. Faced with Henry Griffith’s unacceptable behaviour, he is having to be a preachy friar, or to imitate Taliesin, who managed to persuade Brân Galed to mend his miserly ways. Henry will listen to him, Guto is sure, and then he will get ‘great praise’; but if not, then he has already received his punishment – this subtle, biting poem.
Date
The poem cannot be dated, but considering the reference to Gwladus in 37, it is likely to belong to roughly the same period as poem 34, i.e. the 1440s or 1450s.
The manuscripts
There are 39 manuscript copies. LlGC 664B and LlGC 19901B are two parts of a single copy, now split and bound into two separate manuscripts. The first couplet alone is found in Pen 221. The two copies in Llst 55 consist of quotations and notes and are valueless for establishing the edited text.
The remaining manuscripts may be divided as follows. There is a south-eastern group, best represented by Pen 83. There is a northern group which in turn is subdivided into two groups, best represented by C 3.4 and BL 14967. Pen 55, the oldest copy, stands apart on account of its anomalous line-order, and it is uncertain whether it should be counted with the south-eastern group or on its own.
All the copies are remarkably similar as regards the order of the lines. The only exception is Pen 55, where oral transmission, so it appears, has led to drastic changes (though the readings in this manuscript are good). Other than Pen 55, it should be noted that some copies have lost a few couplets, and a few couplets have been displaced, but apart from that the line-order is outstandingly consistent.
The readings are fairly uniform. Where the south-eastern manuscripts agree with one of the two northern groups, it is safe to accept the reading. Where south and north line up against each other, it is harder to reach a decision. The most difficult line in this regard is line 40. Few of the uncertain readings materially affect the meaning.
Every manuscript which cannot be reasonably certainly derived from another known manuscript was considered, 21 in total. But essentially Pen 55, Pen 83, C 3.4 and BL 14967 give almost every reading adopted in the edition.
Previous edition
GGl poem LXXXII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 41% (29 lines), traws 39% (27 lines), sain 20% (14 lines).
1 Deheudir The three traditional divisions of Wales were Gwynedd, Powys and Deheubarth (literally ‘the southern region’). Deheudir is synonymous with this last.
2 du o lir See GPC 1097 s.v. du ‘black-a-lyre, black cloth from Liere in Brabant’; OED Online s.v. lyre, n.2. There are further examples in TA LXXXIV.12 and CXII.40 and GIBH At.v.65n.
4 llai no dulwyd The poet’s hope is that Henry’s hair will go only slightly grey. Is there an element of humour here? There is an adjective llai ‘grey, dun, brown’, see GPC 2090 s.v. llai2, and it may be that the poet is playing on that here as well.
7 ysgwïer GPC 3849; OED Online s.v. esquire, n.1. The next social rank below that of knight.
7 coler Knights wore a golden collar, and it appears that esquires were distinguished by a silver collar. There are many references to this visual system in the works of the Welsh poets: see, for instance, GDEp 16.1–2 Ysgwïer, gwisg aerwy gwyn, / Arian filwr â’n felyn (‘Esquire, dressed in a silver collar, / Silver warrior who’ll become golden’), 17.27–8 Dau goler arian sidan y sydd, / Duw a ro newid o aur newydd (‘Two silken, silver collars there are, / May God exchange them for fresh gold.’). The force of lines 7–12 is that Henry’s silver accessories should be exchanged for gold ones: that is, he should be knighted.
10 gyda’th dri nai There is no implication that these men are already knights, and it is not certain who they were.
11 Dwynwen The patron saint of Llanddwyn, Anglesey, but she was also connected with the Brecon region, closer to where Henry Griffith lived, since it was believed that Brychan Brycheiniog, the legendary founder of the Welsh kingdom of Brycheiniog, was her father.
12 ysbardun wen Literally a ‘white spur’, i.e. one of silver, cf. 7n.
16 troi There is a pun on this verb, which can mean ‘become’ and also ‘turn’, as in the action of a harrow in turning the soil, see below. Henry Griffith is becoming like a harrow whose teeth bite into the soil.
16 og GPC 2638; a harrow, see OED Online s.v. harrow, n.1 ‘a heavy frame of timber (or iron) set with iron teeth or tines, which is dragged over ploughed land to break clods, pulverize and stir the soil, root up weeds, or cover in the seed’.
20 llyn rhudd Red wine.
20 llanw rhyd Since shallow water flows faster than deep, it is a good metaphor for the flowing of Henry Griffith’s wine.
21 ychwaith For the meaning here, see GPC 839 s.v. chwaith2, ychwaith as a noun meaning ‘anything’ after a negative particle. So ychwaith and dim are understood as synonyms and o’ch arian is dependent upon both. This is preferable to taking only ychwaith with o’ch arian and understanding dim as referring to other things: ‘any of your money / Or anything else’.
23 herod See GPC 1858. The precise meaning is unclear, but it is clearly a reference to the poet’s role. This couplet deliberately echoes an earlier poem to Henry Griffith, see 32.15.
29 diemwnd Diamond is the hardest substance in nature and has been used at least since the fourteenth century to cut glass, see Wigelsworth 2006: 38.
32 gwŷr Morgannwg Apparently poets from Glamorgan. We can tentatively name one of them: Gwilym Tew addressed Henry Griffith at least once, asking for a horse for Harry Stradling of St Donats in the Vale of Glamorgan, see Jones 1981: poem III. Miles ap Harry, Henry Griffith’s son, married Jane, Harry Stradling’s daughter. Gwilym also composed for Siôn ap Rhys of Glyn-nedd (Jones 1981: poem VI), probably the brother of the girl named in line 37 below.
34 prydyddesau A very rare word used almost exclusively in poetic descriptions of birds singing, see examples in GPC 2918. For a reminiscence of this line and of its context by a sixteenth-century poet (Ifan Delynior), see Lewis 1956–8: 171 (V.36). It suggests that the boldness which Guto’r Glyn shows here became famous among the poets.
36 gwaddoli In the Middle Ages it was expected that a father would provide dower, a payment for his daughter’s husband. If Henry Griffith’s daughters are the prydyddesau (cf. the discussion at the beginning of these notes), then gwaddoli is to be taken literally. If they were real poets, then there is plenty of evidence for gwaddol and gwaddoli being used figuratively to describe the rewarding of poets, cf. the examples in GPC 1544.
37 Gwladus Almost certainly the daughter of Rhys ap Siancyn of Glyn-nedd, cf. the next line.
40 mab y crinwas Literally the ‘son of the mean lad’, see GPC 2293 s.v. mab, and cf. TYP3 506 and the series of triads concerning miserliness in MA2 899–900. Davies 1632 s.v. mab y crinwas offers the definition vir sordidè avarus (‘a sordidly avaricious man’). mab y crinwas may be rendered as ‘arch-miser’.
42 rwmnai GPC 2991; OED Online s.v. rumney, n. ‘a sweet wine of Greek origin, much used in England during the 15th and 16th centuries’.
42 amner GPC2 233 s.v. amner1 ‘purse, bag’, cf. GMBen 20.29n. It is a borrowing of Middle English aumener, see OED Online s.v. almoner, n.2.
43 clared GPC 490 ‘claret’; OED Online s.v. claret, n.2 ‘originally … wines of yellowish or light red colour, as distinguished alike from “red wine” and “white wine” ’.
45 cefn y nos GPC 446 s.v. cefn offers ‘midnight, dead of night’ for this combination, literally ‘at the back/crest of the night’.
46 cainc eos Literally ‘the nightingale’s branch’. cainc is often used for ‘tune’ in medieval Welsh, and this is probably the name of a specific tune, see Sally Harper, ‘Dafydd ap Gwilym, Poet and Musician’, DG.net. The nightingale (eos) was a very frequent image for a poet or harpist.
47 Dafydd ap Gwilim The most famous Welsh poet of the Middle Ages. Dafydd ap Gwilym flourished about a century before Guto’r Glyn and composed mainly love-poems. There is now a web edition of his poems with a complete English translation, see DG.net. This reference is interesting testimony to his popularity in Guto’r Glyn’s time. The earliest surviving collections of Dafydd’s work do in fact date from around this time, see Huws 2000: 84–97. There are two ways of interpreting this reference. If the prydyddesau are real poets (34n), then it could be they who are asked to sing poems by Dafydd ap Gwilym, leaving Guto and his praise poetry without an audience. If prydyddesau is simply figurative for Henry’s daughters, then we may understand that Guto is asked to recite poems of Dafydd ap Gwilym, but is not being properly paid for them.
47 Gwilim The more normal spelling is Gwilym, and both alternatives occur. Here the manuscripts are unanimously in favour of Gwilim in this line and dim in the next, though it should be noted that there was a by-form dym, see G 356–7 and Bowen 1997: 139.
50 hwya’ breuddwyd The meaing is not entirely clear, but breuddwyd (‘dream’) often has negative connotations, cf. GLlG 12.98 Breuddwyd oer, briddo dy dâl (‘A cold dream, putting earth on your forehead’); GMBr 1.1–2 Gwae wlad brudd, gweled breuddwyd, / Oll am ei roi’n llam y rhwyd (‘Woe to the whole unhappy country, seeing a dream, / on account of him falling into the mischance of the net’); GSH 8.49–50 Briw Tudur, llafn hirddur, Llwyd, / Banbri, oedd ben y breuddwyd (‘The wounding of Tudur Llwyd, a long steel blade, / Banbury was the nadir of the dream’). Cf. English ‘bad dream’ for a nightmarish occurrence.
54 dy ddewrdad Gruffudd ap Harri. He was still alive in 1425.
55 Mawd Henry Griffith’s mother, daughter of Gwilym Llwyd ap Gerald (Gerallt) Barry.
56 nith Rydderch I.e. as if she were a close relation of Rhydderch Hael, the son of Tudwal Tutglyd and one of the Tri Hael, the ‘Three Generous Men’, see TYP3 5–7, 504–5; WCD 567–8; below 64n. The expression nai Rhydderch occurs frequently, cf. GHS 24.55n Iawn y rhoddes nai Rhydderch / Singls aur ar draws angel serch (‘Well did this nephew of Rhydderch / Place a golden garment upon the angel of love’) (Ieuan ap Hywel Swrdwal for Sir Richard Gethin).
57 cywydd gŵr Literally ‘a poem for a man’, i.e. praise poetry.
58 brawd pregethwr A member of the Order of Preachers or the Dominican Order. As a rule the poets were not hugely well-disposed towards them, see Davies 1995: 237–55. It is something of a condescension on Guto’s part, therefore, that he should be reduced to their level in having to preach good manners to Henry Griffith. There is also an implication that Henry’s miserliness is immoral and must be preached against.
59 sant The force is unclear. Is Henry being compared with a saint? Or is a contrast being drawn between the generosity of the saints, who listen to men’s prayers, and Henry’s meanness in refusing to give money to the poets? Alternatively the couplet might be a short prayer to a saint for intercession: ‘Let the saint hear my words: / Henry will give more gifts.’
61 Brân Galed Cf. TYP3 292, Jones 1973–4: 105–12 and WCD 53.
62 Gwŷr y Gogledd The ‘Men of the North’, the Welsh of northern Britain in the early Middle Ages, who gave rise to a host of legends in later ages.
63 Taliesin The archetypal poet in Welsh tradition. The story referred to here does not survive.
64 Tri Hael Three men who were famed for their generosity: Nudd Hael ap Senyllt, Mordaf Hael ap Serfan, Rhydderch Hael ap Tudwal Tutglyd, see TYP3 5–6.
70 callestr Flint, an extremely hard rock. The same image is found in English ‘hard as flint’.
Bibliography
Bowen, D.J. (1997), ‘Pynciau Cynghanedd: Odli I, U ac Y’, LlCy 20: 138–43
Davies, J. (1632), Dictionarium Duplex (Londinium)
Davies, M.T. (1995), ‘Dafydd ap Gwilym and the Friars: The Poetics of Mendicancy’, SC xxix: 237–55
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Haycock, M. (2010), ‘Dwsin o Brydyddesau? Achos Gwladus “Hael” ac Eraill’, Dwned, 16: 93–114
Huws, D. (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff)
Jones, G.E. (1973–4), ‘Brân Galed, Brân fab Ymellyrn’, B xxv: 105–12
Lewis, H. (1956–8), ‘Cywyddau Ymryson Ifan Dylynior, Syr Dafydd Trefor a Ieuan ap Madog’, B xvii: 161–75
Wigelsworth, J.R. (2006), Science and Technology in Medieval European Life (Westport, Connecticut)
Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd
Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).
Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).
Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.
Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:
1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106) 1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108) 1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109) 1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau) 1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233) 1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123) 1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2) 1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3) 1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118) 1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3) 1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456 1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132) 1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132) 1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3) 1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133) 1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34) 1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.
Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.
Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawgDyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.
Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)