Chwilio uwch
 

Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, fl. c.1425–67

Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.

stema
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd

Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).

Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).

Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.

Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:

1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106)
1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108)
1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109)
1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau)
1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233)
1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121)
1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123)
1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121)
1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2)
1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3)
1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118)
1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3)
1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456
1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132)
1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132)
1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3)
1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133)
1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34)
1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).

Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):

Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.

Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.

Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.

Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:

Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawg

Dyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.

Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)