Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 24 llawysgrif, yn gyflawn gan amlaf, wedi eu codi dros gyfnod sy’n ymestyn o ddegawd olaf yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’r amrywiadau geiriol yn nhestunau’r llawysgrifau hyn yn fawr nac yn niferus iawn. Gwelir amrywio mwy sylweddol yn nhrefn linellau rhai testunau, gyda rhai bylchau a pheth gwahaniaeth yn eu dilyniant (fersiynau X3, X5 a LlGC 16129D yn bennaf), ond serch hynny gellir cynnig bod y testunau i gyd i’w olrhain i un gynsail ysgrifenedig. Mae’r llawysgrifau i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Ymranna’r testunau yn ddau brif ddosbarth, X1 a X2 (gw. stema), a hynny yn bennaf ar sail llinell 46 lle ceir y darlleniad Gwn mai un onaddun oedd yn rhai testunau a Minnau a wn mai un oedd yn eraill. Ni ellir dweud bod y naill yn rhagori ar y llall: cyfartal yw eu gwerth a rhaid defnyddio eu tystiolaeth gyfun wrth lunio testun. Nid yw perthynas BL 14966, LlGC 16129D, LlGC 3051D â’r testunau eraill mor glir ag yw perthynas y rheini â’i gilydd, ond gellir eu cysylltu’n llac ag un o’r ddau fersiwn hyn. Ceir y testunau pwysicaf yn llawysgrifau degawd olaf yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol.
Trawysgrifiadau: BL 14882, Brog I.2, BL 14976.
1 ai yma X2 yma (Brog I.2) a gw. 1n (esboniadol). Mae’n fwy tebygol hefyd y buasai rhyw gopïwr nad oedd arwyddocâd ai yn amlwg iddo yn ei hepgor nag y buasai copïwr arall yn ei ychwanegu.
4 Owain X2 o wynn (Brog I.2). Diau mai bai ydyw, ac Owen (ffurf ar Owain) a geir yn BL 14978, Pen 96.
5 gyffion i gyd Gellid dilyn darlleniad X2 (ac eithrio LlGC 16129D) gyffion di gyd [a di gyd yn gywasgiad o di i gyd] (Brog I.2).
6 a Chynfyn Darlleniad BL 14978. Ceir a chyffin yn Pen 96, BL 14976 (a cf. a chyf[ ]line BL 14882); ab kynnddelw yn Brog I.2, a chynddelw yn nhestunau X4. Gallai ab kynnddelw gynrychioli’r darlleniad gwreiddiol gan fod Cynddelw yn dad i’r Hwfa y cyfeirir ato, ond ceir sefydlwr llinach ychwanegol (Heirddion dy gyffion i gyd, fel y dywedir yn 5) o ddarllen Chynfyn. Ni wyddys pwy fuasai Cyffin yn y darlleniad a chyffin ac mae’n debycach o fod yn llithriad am chynfyn.
7 Elise lwyth Darlleniad Brog I.2 a BL 14978. O Elis chwith a geir yn BL 14976, bai digon amlwg.
9 dibwl Derbynnir di bwl X2, X3 a X5. Mwy boddhaol yw o ran synnwyr na dwbl BL 14976 a Pen 152.
12 a daly tŷ Darlleniad Brog I.2 (a Dalv tv). Ceir dal y ty yn BL 14976 (cf. GGl Dal y tŷ), ac ymddengys mai daly ty oedd y darlleniad gwreiddiol ac i hwnnw, efallai am fod daly yn unsill a’r llinell o ganlyniad yn fyr o sillaf, gael ei deall neu’i wneud i olygu dal y tŷ. Dal tŷ hefyd sy’n arferol; am enghreifftiau eraill, gw. 12n (esboniadol) daly tŷ.
17 chaud d’arfeddyd Cyfetyb hwn i ddarlleniad BL 14976 a Pen 152 chayt darfeddyd lle gellir priodoli’r -t i galediad -d d- (gw. TC 25). Darlleniad Brog I.2 yw chaid arfeddyd lle gallai [c]aid gynrychioli ffurf amhersonol amherffaith ddibynnol y ferf cael. Rhoddai hynny synnwyr purion ond pair diffyg y rhagenw genidol dy o flaen arfeddyd fod gweddill y darlleniad yn llai boddhaol.
21 mi dy geifn, mau Seiliwyd hwn ar Brog I.2 mi Dy geifvn mav, gan drin geifvn fel unsill (a’r v, felly, yn anorganig) er mwyn hyd y llinell. Darlleniad BL 14976 yw Dy gyf vn mae /n/, a dyna a geir yn GGl, ond llai boddhaol ydyw: tyr ar gymeriad 21–4 gan roi d am m; hefyd mae’r defnydd o’r ansoddair cyfun yn anarferol (yn ôl GPC 722, golyga, fel enw ynglŷn â rhywun, ‘person sy’n gytûn ag un arall, cyfaill’ ond dyma’r unig enghraifft a ddyfynnir, er bod yr ystyr yn dichonadwy). Os edrychir ar y prif lawysgrifau eraill, gwelir eu bod yn tueddu mwy at Brog I.2 nag at BL 14976 – BL 14882 nn [sic] yr dy gefn may n, LlGC 3056D am Dy gefn mae, BL 14978 mi dy gefn maen, Pen 96 min dy gefn maen – a dangosant fod gair yn cynnwys m yn rhagflaenu dy (ac eithrio BL 14882 sy’n llwgr) a gair unsill yn ei ddilyn. Yn achos darlleniad BL 14976, ymddengys fod rhywun wedi hepgor mi neu’r cyffelyb, efallai am ei fod yn aneglur, a thrin geifvn neu geifyn fel gair deusill a’i newid yn gyfun i unioni hyd y llinell ac / neu i osgoi cynghanedd drychben.
23 Mredudd Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau; gthg. GGl Fredudd, megis yn BL 14976.
25–6 Gwden am ei ben … / I’r Dilynir darlleniad BL 14882, BL 14976, Pen 152 (cf. GGl XXII). Gellid ystyried hefyd ddarlleniad X2 a gwden am benn … y (Brog I.2), neu BL 14978, Pen 96 gwden am i ben … / y (y (ki) mewn cyfosodiad ag i ben). O blaid darlleniad y testun, gellid dadlau bod y gystrawen yn fwy cyson â chystrawen dymuno llwydd neu aflwydd i rywun a bod y darlleniadau eraill o bosibl yn ymgais i osgoi r wreiddgoll.
28 fal hydd Darllenir hafddydd yn X4 (ac eithrio LlGC 16129D) ond ni rydd gystal synnwyr (gw. hefyd 28n (esboniadol)).
30 d’ebol ebol a geir yn BL 14976, Pen 152 (a cf. GGl XXII) ond Debol yn y llawysgrifau eraill. Gwell yw d’ebol o ran cymeriad y cwpled.
39 gwyn … o’i egin Dyma ddarlleniad BL 14976, Pen 152 (a cf. GGl XXII). a gwyn … a gan a geir yn Brog I.2, a gwynn … nid gwann yn LlGC 3056D, CM 243 (… mid…), Llst 118, ond ni rydd a gan lawer o synnwyr a llai boddhaol nag o’i egin yw nid gwann. Anfoddhaol hefyd yw darlleniadau X3 gwyn … a gay (y fo) ac X5 gwyn … y gwan(a afo) (BL 14978), gwynn … y gwann (a fo) (Pen 96, Llst 53), gwyn … y gay(a fo) (Ba(P) 1573).
42 Brydyn Dyma ddarlleniad BL 14976 (cf. GGl). Ceir brydain yn y llawysgrifau eraill. Ymhellach, gw. 42n (esboniadol).
46 Darlleniad BL 14976 (a X3, X5), cf. GGl. Darlleniad X2 yw minae a wnn mae vn oedd (Brog I.2). Gellid dadlau o blaid yr ail ddarlleniad ar y sail ei fod yn cryfhau’r cymeriad ond nid yw’r ddadl honno yn ddigonol ar ei phen ei hun a cheir enghreifftiau eraill yn y gerdd o gwpledau lle nad adroddir sain ddechreuol y llinell gyntaf yn yr ail. Os minnau a wn mai un oedd oedd y darlleniad gwreiddiol, nid yw’n hawdd gweld pam y newidiwyd ef yn ddarlleniad mor wahanol â gwn mai un onaddun oedd. Fodd bynnag, a bwrw bod y ffurf onaddun yn ddieithr i ryw gopïwr erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, nid anodd fuasai iddo ei newid yn un oedd gan ragflaenu mai â’r ymadrodd ystrydebol minnau a wn.
47 nai Darlleniad X2; BL 14976 /n/ nvll, ond yn wyneb y geiriau eraill yn 41–50 sy’n dynodi perthynas deuluol (mab, merch, wyrion, câr), haws credu mai nai y dylid ei ddarllen. Cf. hefyd ddarlleniad X3 a X5 naid (BL 14978 xwaid).
55 o Felly BL 14976; gthg. Brog I.2 i, bai amlwg ac un nas ceir yn X4.
56 ffraeth Darlleniad BL 14976 ac X3, X5 ond Llst 53 ffrae. Diddorol yw sylwi ar yr amrywiadau ffridd yn Brog I.2 a ffres yn X4. O’r rhain, ffraeth a rydd y synnwyr mwyaf boddhaol. Ar ei ystyron, gw. GPC 1309; dichon fod ystyr ddwbl iddo yma, sef ‘huawdl’ ynglŷn â’r prior a ‘buan, bywiog’ ynglŷn â’r ebol. (Efallai mai camddarllen ffraeth am ffrith, amrywiad ar ffridd, a barodd ffridd.)
57 os Ceir o yn BL 14976 ac os yn y llawysgrifau eraill, darlleniad a rydd gynghanedd lawnach.
59 gwddf Gthg. GGl gwddw ond mae angen yr f ar gyfer y gynghanedd, a gwddwf yw’r darlleniad mwyaf cyffredin.
60 o Ceir os yn BL 14976 ac o yn y llawysgrifau eraill.
68 llew Darlleniad X3 a BL 14978. Darlleniad X2 yw a llew (Brog I.2) a darlleniad BL 14976 yw llew yw (yn …). Ymddengys fod y llinell yn chwesill a bod sawl ymgais wedi bod i’w gwneud yn seithsill. Felly hefyd yn Pen 96 yn llew, Ba(P) 1573 llew yni flew ef ne.
70 a ddaw Darlleniad BL 14976; gellid hefyd ystyried yn heol Brog I.2, X4.
Cywydd yw hwn i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd, perthynas i Faredudd a gysylltir gan Guto ô’r Trallwng (llinell 70) . Dilyna batrwm sylfaenol y cerddi gofyn fel y’i disgrifir gan B.O. Huws (1998: 87), sef annerch a moli’r darpar roddwr (1–20); cyflwyno’r eirchiad a’r cais gan nodi’r rhodd a ddeisyfir (21–40); disgrifio’r rhodd trwy ddyfalu (41–68); diweddglo (69–76). Wrth gyflwyno’r eirchiad, defnyddir dull neilltuol ‘lle y byddai’r bardd yn ymabsenoli’n llwyr trwy dadogi’r cywydd ar yr eirchiad a rhoi’r argraff mai ef oedd yn llefaru’ (ibid. 143). Defnyddir sawl term wrth gyfeirio at yr anifail a ddeisyfir: [m]arch (22, 27, 51, 59, 69, 76), ebol (30, 40, 73 a gw. 30n), gorwydd (31, 75), eddestr (55), [p]lanc (74). Efallai mai un o’r pethau mwyaf diddorol yn y dyfalu yw’r meirch chwedlonol y cyffelybir march y noddwr iddynt ac sy’n dangos cynefindra Guto’r Glyn â Thrioedd y Meirch (gw. 41–8 a’r nodiadau).
Dyddiad
Annigonol yw’r dystiolaeth i gynnig dyddiad manwl ar gyfer cyfansoddi’r gerdd. Gellir cynnig yn betrus c.1450.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 76 llinell.
Cynghanedd: croes 47% (36 llinell), traws 20% (15 llinell), sain 25% (19 llinell), llusg 8% (6 llinell).
1 ai yma Nid yw ergyd y cwestiwn yn amlwg. Efallai y dylid ei ddeall fel amrywiad ar y math o gwestiwn rhethregol sy’n agor cywydd weithiau trwy ofyn pwy sydd berchennog rhyw briodoledd arbennig cyn mynd ati i ateb y cwestiwn, cf., e.e., 74.1–4 Pwy sy geidwad teirgwlad hy? / … / … / Pa un yw? Pwy? Nai Owain. Os felly, gwrthdroir y drefn arferol trwy ddweud pwy yw perchennog y priodoledd (sef Mredudd) yn gyntaf ac enwi’r priodoledd (sef bod yn unben bro Hafren) yn ail. Ar y llaw arall, mae’n bosibl deall y cwestiwn yn fwy llythrennol ac fel awgrym fod Maredudd yn bresennol yn rhywle heblaw ei briod gartref ym mro Hafren (2) – efallai yn nhŷ’r eirchiad Rheinallt ap Rhys Gruffudd – pan ddatganwyd y gerdd. Efallai nad yw’n syndod i yma gael ei hepgor mewn rhai llawysgrifau (gw. 1n (testunol)), er nad ychwanega’r darlleniad hwnnw ddim byd at ein gwybodaeth.
2 bro Hafren Dylid cymryd hwn gyda’r cyfeiriad at [G]edewain dir yn 15: rhedai afon Hafren trwy gyrrau deheuol cwmwd Cedewain.
4 Rhwth Tebyg mai llysenw ydyw, yn cyfeirio efallai at geg lydan; cf. y llysenwau Sefnyn, Gweflyn.
6 Hwfa Sef, yn ôl pob tebyg, Hwfa ap Cynddelw, uchelwr o Lifon, Môn, a sylfaenydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, gw. WG1 ‘Hwfa’ 1; Carr 1982: 151–5 et passim.
6 Cynfyn Tad y Bleddyn hwnnw a oedd yn dywysog Gwynedd a Phowys (fl. 1064–75) ac yr hanai teulu brenhinol Powys ohono, gw. Lloyd 1939: 377–8; CLC2 49; WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1.
7 Elise Y tebyg yw mai Elise ap Gwylog a olygir, gŵr a drigai yn yr wythfed ganrif a ddisgynnai o Frochwel Ysgithrog. Roedd Brochwel Ysgithrog yn frenin Powys yn y chweched ganrif ac ystyriai llawer o deuluoedd y diriogaeth honno eu bod yn disgyn ohono; gw. GLMorg 53.9n; WG1 14. Ceir y ffurf Elisau hefyd am Elise, gw. GGl 326.
8 Alo Ustus Sef Alo ap Rhiwallon Fychan ap Rhiwallon Llwyd a anwyd c.1270 yn ôl P.C. Bartrum, WG1. Sonnir iddo ddod i Bowys ar ôl lladd maer Euas. Talfyriad o Rhiwallon yw’r ffurf Alo neu Allo. Gwelir bod Guto’r Glyn yn ei alw’n ustus, a diddorol sylwi iddo briodi Efa ferch Einion Ddistain; gw. WG1 ‘Morgan Hir’ 1, 2. Disgrifir ei arfau yn DWH ii: 4–5.
8 Elystan Sef Elystan Glodrydd, sefydlydd llawer o deuluoedd yn hen deyrnas Rhwng Gwy a Hafren, gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’; WCD 247.
9 dibwl Fe’i rhestrir yn G 328 ond nid yn GPC 956.
12 daly tŷ Am enghreifftiau eraill o’r ymadrodd yng ngwaith Guto’r Glyn, gw. 37.22, 50.42, 59.6, 77.29, 80.16. Cf. yr ymadrodd dal llys yn 55.25 a gw. GPC 882.
12 wrth Ar ei ystyr, gw. GMW 214; GPC 3737, 2 (d). Ceir i dlawd mewn rhai llawysgrifau a golyga hynny’r un peth yn y cyd-destun.
13 brawd Yn gystrawennol, pregeth a ddisgwylid yn y frawddeg enwol ond treiglwyd er mwyn y gynghanedd. Wrth brawd, aelod a olygir o un o’r urddau cardodol megis y Brodyr Duon (y Dominicaniaid) neu’r Brodyr Llwydion (y Ffransisgiaid), pregethwyr o fri.
15 darllain Cyfeiria’r beirdd yn aml at hoffter eu noddwyr o ddarllen ac o ddysg ysgrifenedig, gw. 15.41–52; GLlG 4.49, 8.43–6; GSCyf 1.21; GLGC 58.27–34, 157.27–34.
15 Cedewain Cwmwd yn nhueddau dwyreiniol canolbarth Powys, gw. WATU 38, 255.
16 llyfr brud Llyfr a gynhwysai gerddi yn darogan dyfodol gwleidyddol Cymru. Ceir swm mawr o ganu o’r fath gan feirdd megis Robin Ddu o Fôn, Dafydd Llwyd o Fathafarn, neu Ddafydd Gorlech, yn y bymthegfed ganrif. Sylwer bod y ffurf brut (rhagor brud), yn ôl GPC 334 (a), fel rheol yn golygu ‘cronicl, hanes … stori’.
18 Powys Sylwer mai sillaf leddf yw -wy- yma. Gallai fod yn lleddf neu’n dalgron yn y gair hwn, yn ôl yr angen, gw. CD 241 a cf. GGl 320; GLlGt 2.26n.
21 dy geifn Yr eirchiad, y cyflwyna Guto’r Glyn y cais am yr ebol ar ei ran, sy’n llefaru. Fe’i henwir yn 27–8.
25–6 Roedd da byw yn fynych mewn perygl o gael eu dwyn yn y cyfnod a math o dopos yn y farddoniaeth yw i’r ysbeiliedig ddymuno i’r lleidr gael ei grogi, gw. ymhellach GDC 85–6.
27–8 Rheinallt … / Fab Rhys Gruffudd Sef yr eirchiad. Ni welwyd neb o’r enw yn yr achau ond gallwn dybio ei fod yn byw yn y Trallwng (gw. 70n Trallwng). Sylwer fel y llefara yn y trydydd person; felly hefyd yn 38.
28 fal hydd hir Cf. disgrifiad Guto’r Glyn o farch yn 51.40 Llew rhudd unlliw â’r hyddod.
33 brawd … llwyd Aelod o Urdd y Ffransisgiaid, a adwaenid hefyd fel y Brodyr Llwydion.
33–4 troednoeth … / rhawnllaes Cf. disgrifiad Dafydd ap Gwilym o frawd llwyd yn DG.net 150.1–2, 6 Rhöed Duw hoedl … / … i’r rhawnllaes frawd. / … Noeth droed, ŵr unwallt nyth drain. Gallai rhawnllaes gyfeirio at farf y Brawd yn ogystal â’i wallt.
35 Cynghanedd groes o gyswllt. Sylwer na ellir ei hystyried hefyd yn gynghanedd sain gan fod edwyn yn sillaf dalgron (gw. CD 240) a ffrwyn yn sillaf leddf.
36 oni’i Gellid hefyd ei ddeall i olygu oni ‘hyd oni’ (o yny, gw. GPC 2648 d.g. oni2). Os felly, ystyr ddyfodol fyddai i edwyn yn y llinell flaenorol.
41–5 Yma mae Guto yn disgrifio disgynyddiaeth ddychmygol y march, gan ei gysylltu â meirch enwog o’r gorffennol: cf. GGl 326 a Bromwich 1997. Enw ei dad yw Du o Brydyn (dyma’r unig gyfeiriad at y march hwnnw), ac mae ei fam yn ferch i Ddu’r Moroedd, gan ei wneud ef, felly, yn un o wyrion y march enwog hwnnw o Fôn (gw. 43n).
43 march o Fôn Sef Du’r Moroedd a enwir yn 45. Dywedir amdano yn y Trioedd, TYP3 115, [Du y Moroed] march Elidir Mwyn6a6r, a duc arna6 seith nyn a hanner o Benllech yn y Gogled hyt ym Penllech [Elidir] yMon. Sef seith nyn oedynt: … a Gelbeineuin y goc, a nouyes a’e dwylav ar bedrein y march – a hwnnw 6u hanner y dyn. Nid yw’n syndod fod Guto’r Glyn wedi dweud wyth o ddynion (44) yn lle saith dyn a hanner!
47 yngo Sef ar fferm Maredudd ab Ifan Fychan, fe ymddengys.
47 Myngwyn Iâl March arall enwog mewn traddodiad a grybwyllir gan y Cywyddwyr (fe’i gelwir hefyd y Melyn o Iâl), er na sonnir amdano yn yr un o’r fersiynau o Drioedd y Meirch a oroesodd; gw. TYP3 lxxxvii.
49 Ffwg Gwarin Roedd Fulk Fitzwarine, a dyfynnu Bromwich 1986: 150, yn ‘outlaw in the reign of King John, and a member of a powerful family of Marcher Lords, owners of the castle of Whittington in Shropshire, and long-lasting enemies of their neighbours across the border, the princes of Powys’. Daeth yn arwr chwedlonol a chyfeirir ato’n fynych gan y Cywyddwyr; ymhellach, gw. GLl 166.
51 Ucha’ … Môn Ymddengys fod Guto’r Glyn yn meddwl eto am Ddu’r Moroedd, gw. 43–4.
52 Talebolion Talybolion yw’r ffurf arferol ond dichon fod Guto’n ystumio’r enw oherwydd natur cynnwys ei gerdd; ar ei darddiad cywir, gw. PKM 178.
55 eddestr Yn ôl Bromwich 1997: 107–8, ‘Throughout all versions of the Triads of the Horses the usual word for horse, march, alternates with the far more unusual eddystr, an ancient and rare word … absent from Canu y Meirch (though … the plural edystrawr is attested once in the Gododdin … and eddystr recurs not infrequently in the poetry of the Cywyddwyr).’ Ar y gair, gw. hefyd GPC 1170 d.g. eddystr.
56 pori’r ffrwyn Cyfeirir at arfer ceffylau o gnoi’r enfa yn eu cegau.
57 aber nant Awgryma’r cyd-destun mai fel enwau cyffredin y dylid deall y geiriau yn hytrach nag fel enw lle. Sylwer, er hynny, fod lle o’r enw Abernant (SO 175 974) nid nepell o Blas Meredydd. A yw Guto’n chwarae ar ddwy ystyr?
65 llawn o gig Trawiad cyffredin wrth ddisgrifio march cyhyrog, gw. GLl 22.51n.
66 Llangurig Cyffelybir y march i ryw wrthrych prydferth (delw neu gerflun, mae’n debyg) yn eglwys Llangurig. Dywedir yn LBS ii: 193, am eglwys Curig, ‘It consisted at first, as we may gather, of a humble cell and chapel, which subsequently became a church, though not yet of spacious dimensions, celebrated for the beauty of its architecture and the elegant carving and design of its roof.’ Cf. disgrifiad Lewys Glyn Cothi o feddrod Tomas Fychan, GLGC 125.27–8, Gwely’n fraisg a’i liw’n ei frig, / gloyw ’sgwar fal eglwys Girig.
70 troellog Cf. DN XXII.83 Ynn tarfv trillv ar varch troelloc.
70 Trallwng Yr awgrym yw bod Rheinallt ap Rhys, yr eirchiad, yn byw yno.
71 nai Yn 21 cyfeirir ato fel ceifn, ond fel y dywed Huws (1998: 141), ‘Talai inni gofio yr arferid termau megis ewythr a nai yn llac iawn weithiau am rai a oedd naill ai’n perthyn trwy ail a thrydedd briodas, neu mewn ambell achos, trwy bedwaredd briodas.’ Gw. hefyd GPC 2549.
74 blanc Ceir dwy ffurf, sef blanc a planc (gyda b- yn troi’n p-). Yn ôl GPC 284, benthyciad yw blanc o’r Saesneg Canol Cynnar blank, gair barddonol am ‘farch gwyn neu o liw golau’, a rhoddir i’r Gymraeg yr ystyr ‘ebol’. Yn ôl ibid. 2816 d.g. planc2, ystyr y Saesneg blank yw ‘horse, steed’ a rhoddir i’r Gymraeg yr ystyr ‘ceffyl, hefyd yn ffigurol’. Diau mai ‘ceffyl’ a olygir yma gan y cyfeiriwyd at yr anifail fel ebol yn y llinell flaenorol. Y ffurf blanc yn unig a oedd yn hysbys i Ifor Williams, gw. GGl 326, a gofyn pam na cheir dy flanc, felly, ond diau mai treiglad o’r ail ffurf sydd yma.
76 gwell Hynny yw, sy’n well nag unrhyw un arall.
Llyfryddiaeth
Bromwich, R. (1986), Aspects of Welsh Poetry: Collected Papers (Cardiff)
Bromwich, R. (1997), ‘The Triads of the Horses’, S. Davies and N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture (Cardiff), 102–20
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Lloyd, J.E. (1939), A History of Wales (third ed., London)
This is a cywydd to request a horse from Maredudd ab Ifan for Rheinallt ap Rhys Gruffudd, Maredudd's kinsman who Guto associates with Welshpool (line 70). It follows the basic pattern of the request poems as described by B.O. Huws (1998: 87), namely address and praise of the giver (1–20); introduction of the petitioner and the petition and mention of the gift asked for (21–40); description of the gift by simile (41–68); conclusion (69–76). In introducing the petitioner a particular technique is used where the poet absents himself entirely by adopting the persona of the petitioner and conveying the impression that it was he who was speaking (ibid. 143). Several terms are used in referring to the animal asked for: [m]arch (21, 27, 51, 59, 69, 76), ebol (30, 40, 73 and see 30n), gorwydd (31, 75), eddestr (55), [p]lanc (74). Perhaps one of the most interesting things in the use of simile are the mythical horses to which the patron’s horse is likened and which show Guto’s familiarity with the Triads of the Horses (see 41–8 and the notes).
Date
There is insufficient evidence to offer a precise date for the composition of the poem. A surmise would be around 1450.
The manuscripts
Therer are 24 manuscript copies of the poem dating from the last decade of the sixteenth century to the nineteenth century and with associations with mid and north Wales. The verbal variation in the texts is neither great nor very frequent. More substantial variation can be seen in the line sequences of some of them, accompanied by occasional gaps, but all the texts can nonetheless be derived from a single written exemplar.
The texts fall into two main types. Both are of equal value and their combined testimony must be consulted. The relationship of BL 14966, LlGC 16129D and LlGC 3051D with the other texts is not as clear as their relationship with each other, but they can be loosely affiliated with one of these two versions. The most important texts are to be found in the manuscripts of the last decade of the sixteenth century and the following century. Three manuscripts were used in establishing the editorial text: BL 14882 and BL 14976 for the first version, and Brog I.2 for the second.
Previous edition
GGl poem XXII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 76 lines.
Cynghanedd: croes 47% (36 lines), traws 20% (15 lines), sain 25% (19 lines), llusg 8% (6 lines).
1 ai yma The question is possibly a variation on the kind of rhetorical question that sometimes opens a cywydd by asking who is the proprietor of a certain attribute (or certain attributes) before proceeding to answer the question; cf. 74.1–4 Pwy sy geidwad teirgwlad hy, / … / … / Pa un yw? Pwy? Nai Owain ‘Who is the bold guardian of three countries, / … / … / which one is he? Who? The nephew of Owain.’ If so, the normal sequence is reversed by stating who the proprietor of the attribute (namely Mredudd) is first and naming the attribute (namely being the unben of the vale of Severn) second. However the question can be understood more literally and as suggesting that Maredudd was present at some place other than his own home in bro Hafren (2) – maybe in the house of the petitioner Rheinallt ap Rhys Gruffudd – when the poem was recited.
2 bro Hafren This should be taken with the reference to Cedewain dir in line 15: the river Severn ran through the southern parts of the commote of Cedewain.
4 Rhwth Probably a nickname, referring perhaps to a wide mouth, cf. the nicknames Sefnyn and Gweflyn.
6 Hwfa In all probability Hwfa ap Cynddelw, a nobleman from Llifon, Anglesey, and founder of one of the Fifteen Tribes of Gwynedd, see WG1 ‘Hwfa’ 1; Carr 1982: 151–5 et passim.
6 Cynfyn Father of the Bleddyn who was prince of Gwynedd and Powys (fl. 1064–75) and from whom the dynasty of Powys was descended, see Lloyd 1939: 377–8; CLC2 49; WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1.
7 Elise Probably Elise ap Gwylog, who lived in the eighth century and who was a descendant of Brochwel Ysgithrog. Brochwel Ysgithrog was king of Powys in the sixth century and many of the families of that region thought that they were descended from him; see GLMorg 53.9n; WG1 14. The form Elisau occurs for Elise, see GGl 326.
8 Alo Ustus Alo ap Rhiwallon Fychan ap Rhiwallon Llwyd, born c.1270 according to P.C. Bartrum, WG1. It is said that he came to Powys after killing the mayor of Ewyas. The form Alo or Allo is an abbreviation of Rhiwallon. Guto’r Glyn calls him an ustus and it is interesting to observe that he married Efa daughter of Einion Ddistain (distain ‘principal court steward’, GPC 1049) in Monmouthsire; see WG1 ‘Morgan Hir’ 1, 2. His arms are described in DWH ii: 4–5.
8 Elystan Elystan Glodrydd, founder of many families in Rhwng Gwy a Hafren, see WG1 ‘Elystan Glodrydd’; WCD 247.
9 dibwl This word is listed in G 328 but not in GPC 956.
12 daly tŷ For other examples of the expression in Guto’r Glyn’s work, see 37.22, 50.42, 59.6, 77.29, 80.16. Cf. the expression dal llys in 55.25 and see GPC 882.
12 wrth On its meaning, see GMW 214; GPC 3737, 2 (d). The reading i dlawd occurs in some manuscripts and means the same thing in the context.
13 brawd A member of the mendicant orders such as the Dominicans or Franciscans who were preachers of renown.
15 darllain The poets often refer to their patrons’ fondness of reading and of written learning, see 15.41–52; GLlG 4.49, 8.43–6; GSCyf 1.21; GLGC 58.27–34, 157.27–34.
15 Cedewain A commote in the eastern parts of central Powys, see WATU 38, 255.
16 llyfr brud A book which contained poems prophesying the political future of Wales. There is extant a large quantity of such verse by poets such as Robin Ddu of Anglesey, Dafydd Llwyd of Mathafarn, or Dafydd Gorlech, in the fifteenth century. Observe that the form brut (as opposed to brud), according to GPC 334 (a), as a rule means ‘chronicle, history … story.’
18 Powys Note that -wy- is a falling diphong here. It could be a falling or a rising diphthong in this word according to need, see CD 241 and cf. GGl 320; GLlGt 2.26n.
21 dy geifn It is the petitioner, on whose behalf Guto’r Glyn is making the request for the young horse, who is speaking. He is named in 27–8.
25–6 Livestock were frequently in peril of being stolen in the period and it is a kind of topos in the poetry for the robbed to wish that the robber be hanged, see further GDC 85–6.
27–8 Rheinallt … / Fab Rhys Gruffudd The petitioner. I have seen nobody of this name in the geneaologies but it may perhaps be inferred that he lived in Welshpool, see 70n. Note how he speaks in the third person; so too in 38.
28 fal hydd hir Cf. Guto’r Glyn’s description of a horse in 51.40 Llew rhudd unlliw â’r hyddod ‘a red lion of the same colour as stags’.
33 brawd … llwyd A member of the Franciscans, who were also known as the Greyfriars.
33–4 troednoeth … / rhawnllaes Cf. Dafydd ap Gwilym’s description of a grey friar, DG.net 150.1–2, 6 Rhöed Duw hoedl … / … i’r rhawnllaes frawd. / … Noeth droed, ŵr unwallt nyth drain ‘May God give life … / … to the friar clad in loose horse hair. /… bare foot, man whose hair is like a nest of briars.’ Rhawnllaes may refer to the friar’s beard as well as his hair.
36 oni’i oni may also be understood as representing oni ‘until’, from yny, see GPC 2648 s.v. oni2. If so, edwyn in the previous line would have a future meaning.
41–5 Here Guto describes the horse’s (imagined) ancestry, describing him as a descendant of famous horses of the past; cf. GGl 326 and see further Bromwich 1997. His father is named as Du o Brydyn (this is the only reference to this horse) and his mother is the daughter of Du'r Moroedd, making him, therefore, the grandson of that famous horse from Anglesey (see l. 43n).
43 march o Fôn Du’r Moroedd, who is named in l. 45. In the Triads it is said, TYP3 115, [Du y Moroed] march Elidir Mwyn6a6r, a duc arna6 seith nyn a hanner o Benllech yn y Gogled hyt ym Penllech [Elidir] yMon. Sef seith nyn oedynt: … a Gelbeineuin y goc, a nouyes a’e dwylav ar bedrein y march – a hwnnw 6u hanner y dyn ‘Du y Moroedd (“the Black of the Seas”), horse of Elidir Mwynfawr, who carried on his back seven and a half people from Benllech in the North to Benllech [Elidir] in Môn. These were the seven people: … and Gelbeinefin his cook, who swam with his two hands on the horse’s crupper – and he was the half-person.’ It is not surprising that Guto’r Glyn says ‘eight men’ (wyth o ddynion, 44) instead of seven and a half men!
47 yngo Apparently Maredudd ab Ifan Fychan’s farm is meant.
47 Myngwyn Iâl Another traditionally famous horse mentioned by the cywydd poets (it is also called y Melyn o Iâl ‘the yellow of Yale’), although not mentioned in any of the surviving versions of the Triads of the Horses; see TYP3 lxxxvii.
49 Ffwg Gwarin Fulk Fitzwarine was, to quote Bromwich 1986: 150, ‘an outlaw in the reign of King John, and a member of a powerful family of Marcher Lords, owners of the castle of Whittington in Shropshire, and long-lasting enemies of their neighbours across the border, the princes of Powys’. He became a mythical hero and is frequently mentioned by the Cywyddwyr; further, see GLl 166.
51 Ucha’ … Môn It appears that Guto’r Glyn is once again thinking of Du’r Moroedd, see 43–4.
52 Talebolion Talybolion is the usual form but Guto is perhaps distorting the name because of the nature of his poem’s subject-matter; on its correct etymology, see PKM 178.
55 eddestr According to Bromwich 1997: 107–8, ‘Throughout all versions of the Triads of the Horses the usual word for horse, march, alternates with the far more unusual eddystr, an ancient and rare word … absent from Canu y Meirch (though … the plural edystrawr is attested once in the Gododdin … and eddystr recurs not infrequently in the poetry of the Cywyddwyr).’ On the word, see also GPC 1170 s.v. eddystr.
56 pori’r ffrwyn A reference to the habit of horses of chewing the bit in their mouths.
57 aber nant The context suggests that the words should be understood literally rather than as a place name. It should nonetheless be noted that there is a place called Abernant (SO 175 974) not far from Plas Meredydd. Is Guto playing on two meanings?
65 llawn o gig A familiar phrase when describing a muscular horse, see GLl 22.51n.
66 Llangurig The horse is likened to some beautiful object (an image or statue) in Llangurig church. In LBS ii: 193, it is stated of the church of Curig, ‘It consisted at first, as we may gather, of a humble cell and chapel, which subsequently became a church, though not yet of spacious dimensions, celebrated for the beauty of its architecture and the elegant carving and design of its roof.’ Cf. Lewys Glyn Cothi’s description of Tomas Fychan’s grave, GLGC 125.27–8, Gwely’n fraisg a’i liw’n ei frig, / gloyw ’sgwar fal eglwys Girig ‘A sturdy bed with its colour crowning it, / a brilliant square like the church of Curig.’
70 troellog Cf. DN XXII.83 Ynn tarfv trillv ar varch troelloc ‘Disturbing three hosts on a versatile horse’.
70 Trallwng The implication is that Rheinallt ap Rhys, the petitioner, lived there.
71 nai In 21 he is referred to as a ceifn, but as Huws remarks (1998: 141), it is worth remembering that terms such as ewythr ‘uncle’ and nai ‘nephew’ were sometimes used very loosely for people who were either related through a second and third marriage, or, in some cases, through a fourth marriage. See also GPC 2549.
74 blanc There are two forms, blanc and planc (with b- becoming p-). According to GPC 284, blanc is a borrowing from Early Middle English blank, a poetic term for a white or lightly coloured horse, and the Welsh is given the meaning ‘colt, foal’. According to ibid. 2816 s.v. planc2, the meaning of the English blank is ‘horse, steed’ and the Welsh is given the meaning ‘horse, also figurative’. ‘Horse’ is undoubtedly meant here since the animal has been referred to as an ebol in the preceding line. The form blanc was the only one known to Ifor Williams, see GGl 326, and he asks why dy flanc (mutated) does not, therefore, occur in the text, but what we have here is doubtless a mutation of the second form.
76 gwell I.e., better than anyone else.
Bibliography
Bromwich, R. (1986), Aspects of Welsh Poetry: Collected Papers (Cardiff)
Bromwich, R. (1997), ‘The Triads of the Horses’, S. Davies and N.A. Jones (eds.), The Horse in Celtic Culture (Cardiff), 102–20
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Lloyd, J.E. (1939), A History of Wales (third ed., London)
Maredudd ab Ifan Fychan yw gwrthrych cerdd 39, lle gofyn Guto iddo am farch ar ran Rheinallt ap Rhys Gruffudd, a oedd yn perthyn iddo. Ni wyddys fawr mwy amdano nag a ddywedir yn y cywydd ac ni ddaethpwyd o hyd i’w ach. O ran ei ddyddiadau, ni ellir ond awgrymu ei fod yn fyw c.1450.
Gwybodaeth amdano
Roedd Maredudd yn byw ym mro Hafren (2) ac yng Nghedewain dir (15), yn ddyn duwiolfrydig, hael, dysgedig, cyfeillgar ac yn amaethwr cydwybodol (11–20). Roedd ganddo gyndad – taid, efallai – o’r enw Owain Rwth (4). Cysyllta Guto ef hefyd â Hwfa ap Cynddelw, (Bleddyn ap) [C]ynfyn, Elise ap Gwylog, Alo ap Rhiwallon Fychan ac Elystan Glodrydd (6–8 a gw. y nodiadau), ond nid yw tystiolaeth yr achau yn ddigonol i ddiffinio’i berthynas â’r un o’r rhain yn fanwl.
Yn ôl WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 45, priododd gŵr o’r enw Maredudd ab Ieuan Fychan o Faelienydd ag Elen ferch Dafydd ab Einion ap Hywel o’r Drenewydd a anwyd tua 1400. Ni ddywedir mwy na hyn amdano ond, fel y dywedwyd, lleola Guto ei noddwr yn nhueddau afon Hafren yng Nghedewain, a diddorol yw nodi bod lle o’r enw Plas Meredydd yno rhwng pentref Garthmyl a’r Drenewydd nid nepell o lannau gogleddol afon Hafren (SO 185 977; cf. hefyd 57n). Felly roedd y Maredudd a roes ei nawdd i Guto’n byw yn yr un ardal â thad yng nghyfraith Maredudd ab Ieuan Fychan o Faelienydd, a phe bai gŵr Elen wedi symud o Faelienydd i Gedewain i fyw gyda hi (yn hytrach na’i bod hi wedi symud o Gedewain i Faelienydd i fyw gydag ef), nid yw’n annichon mai hwn oedd noddwr Guto.
Cyflwynodd Lewys Glyn Cothi gerdd i Lewis, mab Maredudd ab Ieuan Fychan o Lanwrin (GLGC cerdd 197; WG1 ‘Seisyll’ 1), ond mae’n bur annhebygol mai’r un gŵr ydoedd â noddwr Guto.
Canodd Guto gywydd i ofyn march gan Faredudd ab Ifan Fychan ar ran Rheinallt ap Rhys Gruffudd (cerdd 39). Ni wyddys ddim mwy amdano nag a ddywedir yn y cywydd ac ni ddaethpwyd o hyd i’w ach. O ran ei ddyddiadau, ni ellir ond awgrymu ei fod yn fyw c.1450.
Gwybodaeth amdano
Yn ôl y gerdd, roedd Rheinallt yn geifn (21) ac yn nai (71) i Faredudd ab Ifan, er na ddylid pwyso gormod ar hyn i ddiffinio perthynas wirioneddol Rheinallt â Maredudd (gw. 71n). Awgrymir gan y geiriau Troellog a ddaw i’r Trallwng (70) ei fod yn byw yn y Trallwng (gw. y nodyn).