Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 15 o lawysgrifau. Copïau yw LlGC 673D, CM 12, Pen 152 a BL 31092 ac nid oes rhaid eu hystyried ymhellach. Nid yw Llst 122 yn cynnig unrhyw beth o werth nas ceir yn Llst 30, felly anwybyddwyd hithau. Rhoddwyd ystyriaeth, felly, i dair llawysgrif o’r Gogledd, sef Llst 30, Pen 99 a LlGC 3051D, ac i Stowe 959, LlGC 13061B a phum copi Llywelyn Siôn o’r De.
Ymranna’r llawysgrifau yn bendant yn ddau draddodiad, un gogleddol ac un deheuol, cf. yn enwedig llinellau 1, 21–2, 38, 39, 40, 47, 50, 55. Tuedda darlleniadau’r Gogledd yn gryf i ragori ar ddarlleniadau’r De, a’r llawysgrif orau oll yw Llst 30. Ond mae gwerth arbennig i’r copi deheuol Stowe 959 hefyd. Er mai copi digon llwgr ydyw mewn mannau, mae’n aml yn cytuno â’r copïau gogleddol yn erbyn y llawysgrifau eraill o’r De. Lle nad oedd rheswm da dros ffafrio un traddodiad rhagor y llall, dilynwyd traddodiad y Gogledd. Ond ymddengys fod un cwpled dilys wedi ei gadw yn llawysgrifau’r De yn unig, ac fe’i cynhwyswyd yn y testun golygedig (23–4). Ymddengys hefyd fod dau gwpled wedi eu trawsosod yn y copïau deheuol (63–4 a 65–6). Mae’n werth nodi bod trefn y llinellau fel arall yn unffurf yn yr holl lawysgrifau (ond collwyd dau gwpled yn Stowe 959), sy’n awgrymu bod y ddau draddodiad yn perthyn yn agos iawn i’w gilydd. Cadarnheir hyn gan 67 lle yr ymddengys fod darlleniad gwallus yn gyffredin i bob copi.
Trawsysgrifiadau: Llst 30, Stowe 959 a LlGC 6511B.
1 Teimlwr gwŷr, teml iôr gwiwrent Darlleniad y copïau gogleddol a dderbyniwyd, ac fe’i ceir yn unffurf ynddynt (ond LlGC 3051D gwy). Darlleniad LlGC 13061B yw Teml gwŷr yn taimlo gwiwrent, ac felly hefyd gopïau Llywelyn Siôn, ac yn Stowe 959 ceir Temel yr gwr taimlwr gwiwrent. Gwelir bod y darlleniad olaf hwn fel petai’n pontio rhwng y ddau arall, er bod Stowe 959 yn perthyn i’r traddodiad deheuol o ran llinellau eraill (21–2, 55). Ar sail hynny derbyniwyd darlleniad y Gogledd; dyna hefyd y darlleniad anos yn ddiau.
3–4 uchelfaer / … deucan aer Dyma raniad y geiriau yn y copïau gogleddol. Amwys yw Stowe 959, ac o ddilyn copïau eraill y De ceid uchel faer / … daucannaer, ac felly gamaceniad yn llinell 4.
4 Watgyn … wayw Felly yng nghopïau’r Gogledd; yn y De ceir gwatgyn a gwayw, ond nid yn Stowe 959 (watkin … naw), felly dilyner copïau’r Gogledd.
5 lle’r Felly yn llawysgrifau’r Gogledd a Stowe 959, a cheir ateg yn LlGC 13061B yn lle r hefyd.
6 llen llen yn Pen 99, LlGC 13061B, Stowe 959 a phob copi gan Lywelyn Siôn ond Llst 134, a llenn yn Llst 30, LlGC 3051D a Llst 134. Byddai defnydd ffigurol o llen ‘mantell’ yn cyd-fynd yn dda â’r defnydd tebyg o gwawl yn yr un llinell, a dyna a dderbyniwyd yma. Ond gellid gwawl llên dduwiawl ‘amddiffynnwr dysg ddwyfol’.
6 dduwiawl Felly Llst 30, LlGC 3051D, Stowe 959 (cywiriad) a Llywelyn Siôn; gthg. Pen 99, Stowe 959 (gwreiddiol) a LlGC 13061B ddwywawl.
7 lle’r Darlleniad y Gogledd; nis ceir yn y copïau deheuol, sy’n cynnig y o flaen y ferf rhoed i gynnal rhif y sillafau. Darlleniad y Gogledd yw’r darlleniad anos.
8 llaw Gthg. LlGC 3051D a Card 2.630 llew: llithriad annibynnol yn y ddau achos, yn ôl pob tebyg.
9 aur Darlleniad y De (ond Stowe 959 ay); yn y Gogledd ceir o. Nid yw’r naill na’r llall yn rhagori o ran y mesur na’r gynghanedd, ond mae’n haws cael synnwyr o dderbyn aur.
12 fydd Ceir y darlleniad hwn yn y Gogledd a’r De, ond yw yn Pen 99 a phedair o lawysgrifau Llywelyn Siôn. Mae’r dystiolaeth lawysgrifol yn gryf o blaid fydd.
13 uwch d’oreufainc Darlleniad dau gopi gogleddol, sef Llst 30 a LlGC 3051D a hefyd Stowe 959 yn y De, sy’n awgrymu’n gryf mai dyna’r darlleniad cywir. Yn Pen 99 ceir fyth dor ievfaink. Diau mai llygriad ysgrifenedig (camddarllen vwch yn vyth) yw hwn, a sylwer mai ychwanegiad yw i. Yn LlGC 13061B a chopïau Llywelyn Siôn ceir or dorf ievaink, darlleniad apelgar iawn a dderbyniwyd yn GGl. Fodd bynnag, mae’n afreolaidd o ran y gynghanedd ac nid yw’r dystiolaeth lawysgrifol o’i blaid.
14 i Felly yn Llst 30 a Pen 99; ceir y yn Stowe 959, sy’n cynrychioli’r arddodiad i yn ôl pob tebyg. Gthg. LlGC 3051D yn y Gogledd a LlGC 13061B a Llywelyn Siôn yn y De, sydd oll yn cynnig o. O ran y dystiolaeth lawysgrifol gellid pleidio’r naill neu’r llall, ond ni fu’r fath deitl â dug o Ffrainc, ac efallai y newidiwyd i yn o dan ddylanwad o’r yn yr un llinell.
15 Alun Felly ym mhob llawysgrif ond rhai Llywelyn Siôn a LlGC 13061B, sy’n cynnig ailvn neu eilvn.
17 caud Ategir hyn gan Llst 30, Pen 99, LlGC 13061B a Card 2.630. kaid a geir yn y lleill (ond Stowe 959 kaed). Mae’r llawysgrifau a’r treiglad yn glod o blaid caud (ond gw. y nodyn nesaf).
18 caut ran Y tro hwn ategir caut gan holl lawysgrifau’r Gogledd, tra ceir kaud yn LlGC 13061B a Card 2.630, a kaid neu kait yn y lleill (yn Stowe 959 newidiwyd kaed yn kaet). Os darllenir caud byddai’n rhaid cadw cysefin y gwrthrych er mwyn caledu -d yn -t ar gyfer y gynghanedd (caud rhan … caterwen), gw. CD 206. Mae hyn yn groes i’r arfer, gw. TC 204, ond nid yw’r dystiolaeth lawysgrifol o blaid darllen ceid. Darllener, felly, caut; awgrymir yn GMW 121 fod y newid o -d i -t eisoes wedi digwydd ar lafar erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
20 nad Felly yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Dim ond LlGC 13061B, Stowe 959 a thri o gopïau Llywelyn Siôn sydd o blaid nid. Dilynir yr ymadrodd (f)y nghred gan gymal enwol fel arfer, cf. GDC 7.23–4, GDGor 1.83–4, GILlF 12.77–80 a GMRh 10.51–2; ond gthg. GLl 10.77–8 lle ceir prif gymal ar ei ôl.
21 perwch … bawb Ymranna’r llawysgrifau rhwng De a Gogledd, a darlleniad y Gogledd a dderbyniwyd. Gthg. LlGC 13061B kaiswn siartr i vod gartref, a gefnogir gan yr holl gopïau deheuol. Anodd yw penderfynu rhyngddynt, ond efallai mai darlleniad y Gogledd yw’r darlleniad anos. Cyffredin yw gwibio rhwng yr ail unigol a’r lluosog, cf. 27.
22 Rhyfelwn, trigwn i’n tref Unwaith eto, ymranna’r copïau rhwng De a Gogledd, a darlleniad y Gogledd a dderbyniwyd. Yn LlGC 13061B a Card 2.630 gwahanol yw trefn y berfau: trigwn, rhyfelwn yn rhêf. Mae hyn yn creu cynghanedd sain drosgl ddilys. Dyma’r drefn hefyd yn y copïau deheuol eraill, ond bod y ferf gyntaf wedi ei newid yn kaiswn (LlGC 6511B a Llst 134), paidwn (Card 5.44 a LlGC 970E) neu tarywn (Stowe 959). Bid a fo am y drefn, gallwn fod yn sicr mai trigwn a geid yn y llinell yn wreiddiol. Ceir rhyw awgrym yn GPC 3815 d.g. yn1 mai ymadrodd deheuol yw yn nhref, ond ni ddylid pwyso’n drwm ar hynny, yn enwedig o gofio mai yn y De y canwyd y cywydd hwn. Anodd iawn torri’r ddadl yma.
23–4 Ni cheir y cwpled hwn yn llawysgrifau’r Gogledd, ond nid ymddengys fod rheswm da dros ei wrthod.
23 gwindeiau Darlleniad Stowe 959 gwindaiai, a ddehonglir fel lluosog dwbl gwindy. Am y ffurf, cf. TA IX.85 a GPC 1663. Yn LlGC 13061B a chopïau Llywelyn Siôn ceir gwin deav, ac yn Card 5.44, Llst 134 a LlGC 970E mae ef wedi sillafu Deav â phriflythyren, gan awgrymu, felly, mai ‘Deheubarth’ oedd yr ystyr yn ei farn ef. Rhydd gwindeiau y synnwyr gorau, ac ef yw’r darlleniad anos hefyd.
24 cynhaliwn Ceir -i- yn Llst 134, Card 5.44 a BL 13061B.
32 Dy faner i’r glêr yw’r glod Unwaith eto, cytuna Stowe 959 â chopïau’r Gogledd ac yn erbyn LlGC 13061B a chopïau Llywelyn Siôn, sy’n cynnig dy vaner glêr yw dy glod.
34 a’r Llawysgrifau’r Gogledd ar. Anodd dewis rhwng hyn ac y, darlleniad y copïau deheuol.
36 hy’ Darlleniad LlGC 3051D hy. Dyna a geir hefyd yn LlGC 13061B a thair o lawysgrifau Llywelyn Siôn, ond gyda’r orgraff hu (hv), fel petai’r copïwyr yn gweld cynghanedd sain yn y llinell yn lle croes. Ymddengys mai hi a geid yn Llst 30, ond fe’i cywirwyd yn hys, yn yr un inc, hyd y gellir barnu. Yn Pen 99, gwelir hy wedi ei newid yn hys. Ceir hys yn Stowe 959 a hvs yn Card 5.44 a Llst 134, copïau Llywelyn Siôn. Mae’r dystiolaeth yn pwyso o blaid hy’, yn sicr felly yn achos cynsail y Gogledd. Mae’r ffaith fod hu (hv) yn LlGC 13061B a thair o lawysgrifau Llywelyn Siôn yn awgrymu mai cywiriad ganddo ef yw hvs yn y ddau gopi arall o’i eiddo. Gall, felly, mai cywiriad ydyw hys yn Stowe 959 hefyd, neu fod hyf gydag s hir yn y gynsail wedi ei gamddarllen fel hys. Nid yw’n arferol defnyddio ysu am yfed, cf. yr enghreifftiau yn GPC 3821.
36 Da la Her Felly Pen 99, LlGC 13061B. Yn Llst 30 cywirwyd dela her yn dala her. daly her neu Dalv her a geir gan Lywelyn Siôn, ac ala her yn Stowe 959. Dim ond LlGC 3051D sy’n cynnig dal her ac felly’n achub hyd y llinell. Mae’r dystiolaeth, felly, yn gryf o blaid Da la Her, a gellir cywasgu’r llafariad gyntaf ar lafar.
38 yw’n Darlleniad y Gogledd; ni cheir y rhagenw yn y copïau deheuol. Anodd dewis rhyngddynt.
38 Powtwn Amrywia’r ffurfiau yn y llawysgrifau: powtwn yn y Gogledd, pwtwn yng nghopïau’r De.
38 Paitio paetio Llst 30, paitio Pen 99, paytio LlGC 3051D, paito ym mhob copi deheuol ac eithrio Stowe 959 lle ceir peaito.
39 rhwyddion Darlleniad copïau’r De, sy’n gweddu orau yn y cyd-destun; gthg. Llst 30 a LlGC 3051D rhyddion, Pen 99 rhvddion.
40 yt, gannwr Darlleniad copïau’r Gogledd. Yn y copïau deheuol ceir yw kannwr. Rhydd y darlleniad gogleddol gynghanedd lawnach (ond cf. 4 am ateb tg â d … c. A ellid derbyn cynghanedd draws cannwr … -ceiniaid?).
41–2 Nis ceir yn Stowe 959.
42 a’r ar a geir yn y llawysgrifau ac eithrio LlGC 3051D, Llst 134 a LlGC 970E er. Ni ellir derbyn er ar sail y synnwyr, gan fod y datgeiniaid a’r beirdd yn ymladd ar yr un ochr.
44 yn ymyl Rhaid cywasgu yn er mwyn hyd y llinell. Ceir sawl ymgais i waredu sillaf yn y llawysgrifau: hepgorwyd yn yn Llst 30, ac yn LlGC 13061B a Stowe 959 ysgrifennwyd yml (LlGC 3051D eml) fel petai’n unsill.
45–6 Nis ceir yn Stowe 959.
46 o broesi win Felly yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau; gthg. LlGC 3051D a broisio i win (dyna a dderbyniwyd yn GGl), Card 2.630 o broeso win, Llst 134 o broesio win. Mae tystiolaeth y llawysgrifau, felly, yn gryf o blaid y darlleniad a ddewiswyd, a dyna hefyd y darlleniad cryfaf o ran ystyr.
47 Rhaid fydd i Ddolffin warhau Dilynwyd llawysgrifau’r Gogledd. Yn LlGC 13061B ceir Rhaid yw ir dwlffin wrhav, ac felly hefyd yng ngweddill y copïau deheuol. Gwedda’r amser dyfodol yn well yn y cyd-destun, ond nid mor hawdd yw penderfynu pa ferf a geir ar ddiwedd y llinell.
50 Siôr Llawysgrifau’r Gogledd; yn y De ceir siors. Cf. 78.64 a 107.6 am y ddwy ffurf.
51 Sain Felly yn y copïau gogleddol a Stowe 959; sant yn y lleill.
55 cydsaethu Darlleniad y Gogledd; yn y De ceir ymsaethu neu yn saethu.
57 Doed rhyfel yn lle delom Darlleniad y Gogledd; yn y De ceir doed y rhyfel lle gwelom. Prin fod gwahaniaeth ystyr rhyngddynt.
59 gwnelom (ymglwyfom Darlleniad copïau’r Gogledd (ond LlGC 3051D gwnelon yn glwyfon); yn y De ceir gwelwn ymglwyfwn. Gellid derbyn y ferf gwelwn gyda’r gwrthrych kost a roddir iddi yn y copïau deheuol, gw. y nodyn ar y llinell nesaf, ond nid mor hawdd gyda’r gwrthrych f(b)ost, sy’n debygol iawn o fod yn gywir, gw. ibid.
60 fost Darlleniad copïau’r Gogledd; yn y De ceir kost, ond bost yn Stowe 959. Dyma un o’r enghreifftiau allweddol lle mae’r llawysgrif honno’n cytuno â llawysgrifau’r Gogledd. Nid oes amheuaeth, felly, nad f(b)ost yw’r darlleniad cywir, ar sail tystiolaeth y llawysgrifau ac ar sail yr ystyr. Diau mai ysfa am gael cymeriad rhwng llinellau 59 a 60 a roes fod i kost.
61 Dolffin, medd y min meddw mau Darlleniad copïau’r Gogledd a Stowe 959 (ond dwlffin yn yr olaf); yn LlGC 13061B ceir y dwlffin mêdd y min mav, fel hefyd yng nghopïau Llywelyn Siôn (ond dolffin). Mae darlleniad y Gogledd yn llawer cryfach a mwy boddhaol. Dyma un arall o’r enghreifftiau allweddol lle mae Stowe 959 yn cytuno â llawysgrifau’r Gogledd yn erbyn y rhai deheuol eraill.
63 fwriawdd Stowe 959 vyroedd, yn dangos y terfyniad -oedd a geir yn aml mewn rhai llawysgrifau deheuol yn lle -odd.
64 Dolffin Nis treiglir yn nhrwch y llawysgrifau (dwlffin yn Stowe 959 a LlGC 13061B), ond ddolffin yn Llst 30 a Pen 99, heb reswm gramadegol dros y treiglad (onis cymerwyd yn wrthrych y ferf bwriawdd).
65 tra syniais Llawysgrifau’r Gogledd dra syn(n)iais, Stowe 959 tryssynais. Nid oes rheswm gramadegol am y treiglad a’r tebyg yw bod y gwahaniaeth rhwng t- a d- yn aneglur ar ôl -s ar ddiwedd y gair blaenorol, cf. CD 208–10. Mabwysiedir t- o Stowe 959, felly. Yn y llawysgrifau eraill ceir pan son(i)ais (LlGC 13061B, Card 2.630, LlGC 6511B) neu lle son(n)ais (gweddill copïau Llywelyn Siôn). Dengys y cytundeb rhwng copïau’r Gogledd a Stowe 959, yn ogystal â’r synnwyr, mai’r darlleniad a fabwysiadwyd sy’n iawn, ond ansicr yw pa ferf a geir yma. Yn ôl GPC 3394–5 ceir syniaf1 ‘tybied, meddwl … chwilio, archwilio, gwylio(’n syn)’ a synnaf1 ‘synnu’. Dim ond yn ffurfiau’r ferf gyntaf y ceir -i-. Y gyntaf sydd yma yn ôl copïau’r Gogledd, ond yr ail yn ôl Stowe 959. Mae soniais yn LlGC 13061B a sonais gan Lywelyn Siôn yn tywyllu cyngor ymhellach. Rhaid cofio hefyd fod -i- yn tueddu’n gryf i ddiflannu mewn llawysgrifau deheuol; ac yn olaf, nodir yn GPC 3395 mai amrywiad ar syniaf1 yw synnaf2, beth bynnag, ac mae’r ystyr ‘gwylio(’n syn)’ a nodir dan y gyntaf yn pontio rhyngddynt. Gellid derbyn ‘syllais yn fawr’ neu hyd yn oed ‘tra oeddwn yn syllu’, ond mae’r ystyr yn elwa o dderbyn mai ‘rhyfeddu’ yw ystyr y ferf, bid a fo am y cwestiwn a geid -i- yma’n wreiddiol ai peidio.
67 bras Ni cheir y darlleniad hwn yn yr un o’r copïau. Yn llawysgrifau’r Gogledd, LlGC 13061B a chopïau Llywelyn Siôn ceir brais, ac eithrio brain yn y copi gogleddol Pen 99 (a gywirwyd yn brau gan law arall; ceir brad, nid brest yn ail hanner y llinell, yn y llaw wreiddiol), a brys yn Llst 134. Dengys y cytundeb hwn mai brais a oedd yng nghynsail y copïau oll. Cynnig Stowe 959 yw bwrwys, ac o’r herwydd bu’n rhaid i’r copïydd ddileu a (ar ôl ei ysgrifennu) yn ail hanner y llinell. Teg yw cymryd bwrwys, brys a brain/brau yn gywiriadau gan gopïwyr nad adnabuont y gair brais. Yn sicr nid yw’r gair hwn yn hysbys, a’r tebyg yw, felly, y dylid ei ddiwygio i bras. Os felly, awgrymir yn gryf fod un gynsail wallus y tu ôl i bob copi hysbys o’r gerdd. Sut y cododd y camgymeriad, anodd barnu, ond efallai i bras droi’n braisg drwy gamglywed neu gamgofio, ac i rywun wedyn gywiro’r gynghanedd drwy greu’r rhithffurf brais.
68 brawd hŷn y glêr Ni cheir y darlleniad hwn yn y llawysgrifau ychwaith, ond gellir ei amddiffyn fel y ffurf fwyaf tebygol o esgor ar y darlleniadau gwahanol yn y Gogledd a’r De. Mae’r copïau gogleddol yn cynnig brawd hen y gler. Yn y De ceir brawd ty ny glêr (LlGC 13061B) a darlleniadau tebyg (ty yny, du yny, du ny). Gwahanol eto yw Stowe 959 bray tynn y glod. Mae’n debygol fod yr amrywiadau orgraffyddol yn y copïau deheuol eraill yn cynrychioli brawd du yn y glêr, darlleniad synhwyrol ond braidd yn annhebygol. Nid oes awgrym fel arall fod Tomas yn barddoni ac nid yw’r beirdd fel arfer yn ystyried y brodyr crwydrol yn gadarnhaol. Ond gellir cyfrif am y darlleniad hwn drwy gymryd bod rhywun wedi camglywed brawd hŷn y fel brawd du ’n y. Dyma fan cychwyn tebygol y llygru yn Stowe 959 hefyd.
70 ar ffin Llst 30 a LlGC 3051D; yn y De ceir mewn ffin, yn Pen 99 a ffin.
71 ynn a’i deily Llawysgrifau’r Gogledd ynn ai deil, a hefyd Stowe 959 ynai daly; gthg. gweddill y copïau deheuol an daily (neu fân amrywiadau ar hynny). Hawdd cyfrif am y darlleniad olaf hwn drwy gymryd bod y copïwyr yn ystyried deily yn air deusill ac felly wedi hepgor sillaf arall i gadw hyd cywir y llinell. Dyna awgrym cryf mai’r ffurf deily a geid yn eu cynsail, awgrym a led-gefnogir gan Stowe 959.
74 Da la Her LlGC 3051D a Llst 30 yn wreiddiol. Newidiwyd y llafariad gyntaf yn yr olaf, ond nid yw’n eglur beth a fwriadwyd, ai e ynteu o. Eto cf. Pen 99 de la her. Yn LlGC 13061B a chopïau Llywelyn Siôn ceir daly (dalv) her, a dal her yn Stowe 959. Cf. 36n. Fel yno, rhaid cywasgu’r sillaf gyntaf er mwyn hyd y llinell.
76 fy llueddwr Dilynir y copïau gogleddol. Yn y llawysgrifau deheuol ceir yn neu y, a ffurfiau amrywiol ar y gair olaf (LlGC 13061B lluh\yddwr, Llywelyn Siôn llu(h)yddiwr, lluaiddiwr, ll\yeiddiwr, Stowe 959 llyuddwr, ond wedi ei gywiro i llyueddwr).
77 brëyr Dryslyd iawn yw’r llawysgrifau yma. Dim ond yn Stowe 959 brayr y mae’r darlleniad cywir i’w gael yn eglur. Yn Llst 30 a Pen 99 ymddengys mai bray y a ysgrifennwyd yn wreiddiol, ac yna’i gywiro’n brevr. Yn y copi gogleddol arall, LlGC 3051D, ceir brav r. Cf. LlGC 13061B brav y, Card 2.630 a LlGC 6511B brau i, a chopïau eraill Llywelyn Siôn brav ir. Dim ond drwy dderbyn brëyr y gellir cael darlleniad synhwyrol sy’n cynnal y gynghanedd sain.
77 rheimwyr Felly Llst 30; yn Pen 99 cywirwyd rheimwr yn rhimwyr; LlGC 3051D rheinwyr. Ceir Raimwyr gan Lywelyn Siôn, ond rhinwyr yn LlGC 13061B a Stowe 959, ac fe all mai dyna a geid yng nghynsail y copïau deheuol.
Dyma un o gywyddau mwyaf difyr Guto’r Glyn. Mae’n dechrau fel cywydd mawl digon cyffredin, ond trewir nodyn llawer mwy gwreiddiol o linell 11 ymlaen. Noda Guto fod ei noddwr, Tomas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch yng Ngwent, wedi ymrestru gyda byddin Richard, dug Iorc, ar gyfer mynd i Ffrainc, a’i fod yntau a’i fryd ar fynd gydag ef. Mynega’i argyhoeddiad y bydd Tomas yn ennill clod iddo’i hun yn Ffrainc. Yna mae Guto’n awgrymu ymarfer ar gyfer y frwydr, fel petai, drwy ymladd yn erbyn gelyn arall: gwin Ffrengig Tomas ap Watgyn. Gosodir y gwahanol ddiodydd ar y bwrdd, yn cynrychioli arweinwyr y Ffrancwyr, sef y Dauphin a’i ddau gadfridog enwog La Hire a Poton de Xaintrailles. Tomas yw capten yr ochr arall, y beirdd yw ei wŷr arfog a’r datgeiniaid yn saethwyr, yn dilyn baner y glod, sef y canu mawl. Bloeddia pob byddin ei bloedd ryfel, Sain Siôr yn achos y beirdd, a Sain Denis yn achos y gwin. Yna i’r gad, pob gŵr i ladd casgennaid gyfan o win. Mae Guto’n hollol sicr y cânt fuddugoliaeth enwog. Eto, erbyn 59 mae’n rhaid iddo gydnabod ei gam. Lloriwyd milwyr pybyr Tomas ap Watgyn gan y gelyn, er mawr syndod i Guto (65). Gorffen y cywydd gan droi at Domas a dymuno iddo wneud yn well ar faes y gad go iawn.
Dyddiad
Yn gynnar yn 1441 neu, efallai, yn gynnar yn 1436. Mae tystiolaeth ddogfennol fod Guto a Tomas wedi mynd i Ffrainc yn 1441, sy’n ffafrio’r dyddiad hwnnw. Ar y llaw arall mae achos cryf dros ddadlau bod Guto wedi ymladd yn Ffrainc eisoes yn 1436. Ni wyddys a fu Tomas ap Watgyn gydag ef y flwyddyn honno.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd IV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 78 llinell.
Cynghanedd: croes 40% (31 llinell), traws 26% (21 llinell), sain 31% (24 llinell), llusg 3% (2 linell).
1 teimlwr Ni cheir enghraifft ddiogel arall o’r ystyr ‘triniwr’ mor gynnar â Guto’r Glyn (GPC 3467), ond gellir bod yn sicr ohoni o graffu ar ystyron y ferf teimlo.
1 teml Am yr ystyr ‘crug, pentwr’, gw. GPC 3476. Ystyr teml iôr, felly, yw arglwydd sy’n cynnull neu’n meddu ar bentwr (o gyfoeth). Neu gallai teml fod yn drosiad am lys.
2 gwanas Am yr ystyron posibl, gw. GPC 1573. Cyffredin yw disgrifio noddwr fel rhyw fath o ddyfais sy’n cynnal adeilad neu strwythur.
4 Watgyn … deucan Am y gynghanedd, gw. CD 212.
6 gwawl Amwys: mae ‘amddiffynfa’ yn cyd-fynd yn dda â’r llinell flaenorol, ond byddai ‘disgleirdeb’ yn addas hefyd ac ystyried mai am ddysg grefyddol y sonnir, gw. GPC 1605 d.g. gwawl1 a gwawl2.
6 Llanddewi Pentref bach rhwng y Fenni a Rhaglan yw Llanddewi Rhydderch. Y tebyg yw bod cartref Tomas ap Watgyn yn sefyll ar safle Court Farm heddiw (SO 354131).
9 Salmon Y Brenin Solomon o’r Beibl.
14 dug Richard, dug Iorc, a arweiniodd ymgyrchoedd i Ffrainc yn 1436 a 1441.
15 Alun Alun Dyfed, gw. G 20 a WCD 12 lle dywedir ei fod ‘evidently a traditional hero of Dyfed’, a cf. GIG V.10. Cyfeiria Gruffudd ap Maredudd ato yn GGMD i, 3.224 a GGMD iii, 1.14.
23 Dwywent Rhennid Gwent yn ddau gantref, sef Uwch Coed ac Is Coed.
25 talfainc Yn ôl GPC 3430 ‘prif sedd, sedd anrhydedd, gorsedd’, ond yma mae’n rhaid mai’r bwrdd uchel ydyw.
28 trefi Aneglur, ond fe’i deellir yn gyfeiriad at anheddle Tomas ap Watgyn, a alwyd yn ein tref yn 22. Ond efallai mai trefi Ffrainc sydd dan sylw.
34 Dolffin Y Dauphin, mab hynaf ac etifedd brenin Ffrainc. Dan amodau Cyfamod Troyes (1420) dietifeddwyd y dauphin Charles, mab y Brenin Charles VI, a derbyniwyd Harri V o Loegr yn etifedd yn ei le. Bu farw Harri V a Charles VI ill dau yn 1422, ac ym marn y Saeson Harri VI, mab Harri V, oedd brenin cyfreithlon Ffrainc o hynny ymlaen. Am y rheswm hwnnw dalient i gyfeirio at Charles (VII) yn ddifrïol fel ‘y Dauphin’ fel arwydd eu bod yn gwrthod ei hawl i’r orsedd. Benthyciad o’r ffurf Saesneg Canol dolphin yw’r ffurf Gymraeg, gw. GPC 1074.
35 meddyglyn GPC 2401 ‘diod feddyginiaethol … cordial’. Gw. hefyd OED Online s.v. metheglin ‘a spiced or medicated variety of mead, originally peculiar to Wales’.
36 Da la Her La Hire, neu Étienne de Vignolles, un o gadfridogion enwocaf y Ffrancwyr ym mlynyddoedd olaf y rhyfel. Bu farw yn 1443 (Barker 2009: 300). Rhaid cywasgu’r sillaf gyntaf yma er mwyn cael llinell seithsill.
38 Powtwn Poton de Xaintrailles, cadfridog enwog arall y Ffrancwyr.
38 Paitio Poitou, rhanbarth yn Ffrainc i’r de-orllewin o Baris.
42 gwŷr arfawg Dyna filwyr élite y fyddin, y men-at-arms fel y’u gelwir yn Saesneg, mewn gwrthgyferbyniad â’r milwyr cyffredin, a elwir yn saethyddion. Sylwer sut y cedwir y datgeiniaid distadl hyd braich oddi wrth y beirdd go iawn! Yn eironig ddigon, fel saethydd y rhestrir Guto ei hun ym mwstwr dug Iorc, gw. Bywyd Guto’r Glyn.
43 mwstria Cynnull milwyr yw mwstr(i)o. Gofyn y bardd i Domas gynnull y beirdd yn ei dŷ gyda’r un haelioni â’i dad.
46 broesi Benthycair o’r Saesneg broach yw broesio, gw. GPC 331.
48 hocsiedau Mesur o ddiod oedd hocsied (Saesneg hogshead), gw. GPC 1882 ac OED Online s.v. hogshead.
50 Sain Siôr Bloedd ryfel draddodiadol y Saeson.
51 Sain Denis Bloedd ryfel draddodiadol y Ffrancwyr.
52 dau fis Fel pob diod a wneir drwy eplesu, mae angen i fedd aeddfedu. Awgryma Guto fod medd Tomas ap Watgyn yn barod i’w yfed.
53 a gais da Amwys: ‘sy’n ceisio budd (iddo’i hun)’ neu ‘sy’n ceisio (cyflawni) gweithred dda’, gw. GPC 867–8 am ystyron da.
54 pib GPC 2792–3, OED Online s.v. pipe, n.2. Casgen fawr, hefyd mesur gwlyb.
55 iawngu angerdd Gair am ‘ffyrnigrwydd’ yw angerdd yn y farddoniaeth ganoloesol fel arfer, cf. yr enghreifftiau yn GPC2 121–2, ond diau y chwaraeir ar yr ystyr ‘celfyddyd’ hefyd. Yma mae’r gair iawngu yn amlygu eironi’r ffaith fod yr ymosodwyr mor hoff o’r hyn y maent yn ymosod arno.
56 main gynnau Cf. Saesneg gunstones, term cyffredin yng nghyfnod Guto’r Glyn (OED Online s.v. gunstone).
64 gwerin Am yr ystyr ‘milwyr cyffredin’, gw. GPC 1643.
64 gwŷr Yn y cyd-destun, ymddengys ei fod yn gwrthgyferbynnu â gwerin yn yr ystyr a nodwyd uchod. Gelwid milwyr élite y fyddin yn men-at-arms, a chredir mai dyna yw gwŷr yma, cf. 42n.
69 ystyria Am yr ystyr, gw. GPC 3870 d.g. ystyriaf1 ‘cadw mewn cof’.
69 os Fe’i dehonglir yn gysylltair amodol. Ceir enghreifftiau o o(s) yn cyflwyno cwestiwn anuniongyrchol mor gynnar â Dafydd ap Gwilym, gw. GPC 2611 d.g. o2 (ar waelod y tudalen), ac mae’n arfer cyffredin iawn heddiw, cf. y defnydd cyfatebol o if yn Saesneg heddiw yn lle whether. Ond ceir gwell synnwyr yma o lynu wrth yr ystyr amodol. Hynny yw, dylid cymryd sylwedd llinellau 71–4 yn wrthrych y ferf ystyria, nid gweddill y cwpled hwn.
70 ar ffin Ymddengys mai ffin ‘terfyn’ sydd yma, nid ffin ‘dirwy’ fel yn 58. Cefnogir hyn gan y ferf deily yn y llinell nesaf.
71 a’i deily Cyfeiria’r rhagenw gwrthrychol at ffin yn y llinell flaenorol.
73 a gyst da lawer Amwys: gw. GPC 570 d.g. costiaf1 am ystyron y ferf. Gall olygu ‘costio’ yn yr ystyr sydd fwyaf cyffredin heddiw, ‘treulio’ neu ‘gwario’, neu ‘darparu, arlwyo’. Bydd llu Tomas yn darparu llawer o fudd iddo drwy ddial eu curfa ym ‘mrwydr y gwin’ ar La Hire mewn brwydr go iawn. Ond hefyd ‘bydd dy lu yn costio llawer’, bydd yn gostus iawn ac felly’n werthfawr (ac yn dangos mor llawagored yw Tomas).
Llyfryddiaeth
Barker, J. (2009), Conquest: The English Kingdom of France (London)
This is one of Guto’r Glyn’s most entertaining poems. It starts off as a fairly staid praise poem, but from line 11 onwards it becomes much more original. Guto knows that his patron, Thomas ap Watkin of Llanddewi Rhydderch, has agreed to enlist with the army of Richard, duke of York, which is going to France, and Guto intends to go with him. Guto is certain that Thomas will win fame for himself in France. Then he suggests practising for battle, as it were, by fighting another enemy: Thomas ap Watkin’s French wine. The various drinks are set out on the table, representing the French leaders, the Dauphin and his two famous generals La Hire and Poton de Xaintrailles. Thomas captains the other side, the poets are his men-at-arms and the reciters his archers, following the banner of y glod, i.e. praise poetry. Each army raises its war-cry, St George for the poets, and St Denis for the wine. Then to battle, each man to kill a whole cask of wine. Guto is utterly certain of a famous victory. And yet, by 59 he has to acknowledge his mistake. The brave soliders of Thomas ap Watkin have been floored by the enemy, to Guto’s amazement (65). To conclude the poem he turns to Thomas and wishes him better fortune on the real battlefield.
Date
Early in 1441 or, perhaps, early in 1436. There is documentary evidence that Guto and Thomas both went to France in 1441, which favours that date. On the other hand there is a strong case for arguing that Guto had already fought in France in 1436. It is not known whether Thomas ap Watkin was with him that year.
The manuscripts
This poem occurs in 15 manuscripts. LlGC 673D, CM 12, Pen 152 and BL 31092 are copies and will not be considered further. Llst 122 offers nothing of value which cannot be found in Llst 30, and so it too has not been used. Three northern manuscripts, namely Llst 30, Pen 99 and LlGC 3051D, were considered, along with Stowe 959, LlGC 13061B and five copies by Llywelyn Siôn, all from south Wales.
The manuscripts clearly divide into a northern tradition and a southern, cf. particularly lines 1, 21–2, 38, 39, 40, 47, 50, 55. There is a strong tendency for the northern readings to be better than the southern, and the best copy of all is Llst 30. But Stowe 959 has particular value too. Although quite corrupt in places, it often agrees with the northern copies against the rest of the southern ones. Where it was difficult to justify favouring one tradition over the other, the northern reading was adopted. But it appears that one genuine couplet has been preserved only in the southern copies, and it has been included in the edition (23–4). It also appears that 63–4 and 65–6 have been transposed in the southern copies. It is worth noting that otherwise the line order is consistent in all the copies (save that two couplets are missing in Stowe 959), which suggests that the two traditions are closely related. The case for this is strengthened by 67 where there is a probable error common to all copies.
Previous edition
GGl poem IV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 78 lines.
Cynghanedd: croes 40% (31 lines), traws 26% (21 lines), sain 31% (24 lines), llusg 3% (2 lines).
1 teimlwr There is no other secure example of the meaning ‘handler’ as early as Guto’r Glyn (GPC 3467), but the meaning becomes clear from considering some of the examples of the verb teimlo.
1 teml For the meaning ‘mound, pile’, see GPC 3476. A teml iôr must be a lord who accumulates or possesses a mound (of wealth). Otherwise teml could be used figuratively for a court.
2 gwanas For the possible meanings, see GPC 1573. They include ‘peg … nail … hook … buttress’. It is common to describe a patron as some kind of device for upholding a building or other structure.
4 Watgyn … deucan For the cynghanedd see CD 212.
6 gwawl Ambiguous: ‘defence’ fits well with the previous line, but ‘splendour’ or ‘light’ would also be appropriate in the context of spiritual learning, see GPC 1605 s.v. gwawl1 a gwawl2.
6 Llanddewi Llanddewi Rhydderch is a small village between Abergavenny and Raglan. The home of Thomas ap Watkin probably stood on the site of the present Court Farm (SO 354131).
9 Salmon The biblical king Solomon.
14 dug Richard, duke of York, leader of expeditions to France in 1436 and 1441.
15 Alun Alun Dyfed, see G 20 and WCD 12 where he is said to be ‘evidently a traditional hero of Dyfed’, and cf. GIG V.10. Gruffudd ap Maredudd refers to him in GGMD i, 3.224 and GGMD iii, 1.14.
23 Dwywent Gwent was divided into two cantrefs, Uwch Coed and Is Coed.
25 talfainc According to GPC 3430 ‘chief seat, seat of honour, throne’, but here it must be the high table.
28 trefi Unclear, but understood here as a reference to Thomas ap Watkin’s home, which is called ein tref in 22. But perhaps the towns of France are meant.
34 Dolffin The Dauphin, the eldest son and heir of the king of France. Under the terms of the treaty of Troyes (1420) the dauphin Charles, son of king Charles VI, was disinherited, and Henry V of England named heir in his place. Both Henry V and Charles VI died in 1422, and in the view of the English Henry VI, son of Henry V, was the lawful king of France from that time on. For this reason they continued to call Charles (VII) dismissively ‘the Dauphin’ as a sign that they rejected his claim to the throne. The Welsh form is a borrowing of the Middle English dolphin, see GPC 1074.
35 meddyglyn GPC 2401 ‘medicinal draught … cordial’. See also OED Online s.v. metheglin ‘a spiced or medicated variety of mead, originally peculiar to Wales’.
36 Da la Her La Hire, or Étienne de Vignolles, one of the most famous French generals of the last years of the war. He died in 1443 (Barker 2009: 300). The vowel of the first syllable must be elided here to give a seven-syllable line.
38 Powtwn Poton de Xaintrailles, another famous French general.
38 Paitio Poitou, a region in France to the south-west of Paris.
42 gwŷr arfawg The élite soldiers of the army, the men-at-arms as they are known in English, in contrast to the lower-ranking soldiers, who are called archers (saethyddion). Note how the lowly reciters are kept at arms length from the proper poets! It is ironic, therefore, that Guto himself is named only as an archer in the Duke of York’s muster roll, see Guto’r Glyn: A Life.
43 mwstria A muster is an assembly of soldiers. The poet asks Thomas to assemble poets in his house as lavishly as his father did.
46 broesi A borrowing from English broach, see GPC 331.
48 hocsiedau The hogshead was a liquid measure, see GPC 1882 s.v. hocsed and OED Online s.v. hogshead.
50 Sain Siôr St George, the traditional English war-cry.
51 Sain Denis St Denis, the traditional French war-cry.
52 dau fis Like all fermented drinks, mead takes time to mature. Guto suggests that Thomas ap Watkin’s mead is ready to drink.
53 a gais da Ambiguous: ‘who seeks benefit (for himself)’ or ‘who seeks (to achieve) a good deed’, see GPC 867–8 for the meanings of da.
54 pib ‘Pipe’, see GPC 2792–3, OED Online s.v. pipe, n.2: a large cask, also a liquid measure.
55 iawngu angerdd Angerdd usually means ‘passion’ today, but in the medieval poetry it tends strongly to refer to aggressive ardour, cf. the examples in GPC2 121–2; there is surely also a play on the further meaning ‘craft, skill’. Here the word iawngu ‘truly affectionate’ points to the irony of the fact that the attackers are so fond of what they are attacking.
56 main gynnau An exact equivalent of the English term ‘gunstones’, common in Guto’r Glyn’s time for cannonballs (OED Online s.v. gunstone).
64 gwerin For the meaning ‘common soldiery’, see GPC 1643.
64 gwŷr ‘Men’. In the context, it seems to be contrasting with gwerin in the meaning given above. The élite soldiers of the army were called men-at-arms, and that is probably the force of gwŷr here, cf. 42n.
69 ystyria For the meaning, see GPC 3870 s.v. ystyriaf1 ‘be mindful (of)’.
69 os Here interpreted as conditional conjunction. There are examples of o(s) introducing an indirect question as early as Dafydd ap Gwilym, see GPC 2611 s.v. o2 (at the very bottom of the page), and it is a common usage today, cf. the equivalent use of if in today’s English instead of whether. But in this instance the conditional meaning gives better sense. In other words, it is better to take lines 71–4 as the object of the verb ystyria, rather than the rest of this couplet.
70 ar ffin This seems to be ffin ‘boundary’, not ffin ‘fine’ as in 58. This accords better with the verb deily ‘hold’ in the next line.
71 a’i deily The antecedent is ffin in the previous line.
73 a gyst da lawer Ambiguous: see GPC 570 s.v. costiaf1 for the meaings of the verb. It can mean ‘cost’ in the usual sense today, ‘spend’, or ‘provide, bestow’. Thomas’s host will provide a great deal of benefit for him by avenging their defeat in the ‘battle of the wine’ on La Hire in a real battle. But also ‘your army will cost a lot’, and so will be valuable (and a sign of Thomas’s open-handedness).
Bibliography
Barker, J. (2009), Conquest: The English Kingdom of France (London)
Ychydig iawn sy’n hysbys am Domas ap Watgyn, gwrthrych cerdd 4. Cyfeiliornus yw’r llysenw Fychan a roddir iddo yn GGl gan nad oedd yn aelod o deulu’r Fychaniaid.
Achres
Mae Bartrum yn ei restru fel disgynnydd i Ynyr Gwent (WG1 ‘Ynyr Gwent’ 7), er nad yw’r union gysylltiad yn hysbys. Nodir hefyd i’w chwaer briodi Tomas ap Gwilym, tad Syr Wiliam ap Tomas o Raglan. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerdd mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Tomas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch
Ei yrfa
Ceir yr enw Thomas Watkyns ar restr milwyr dug Iorc yn 1441, ond fel saethydd, sydd ychydig yn annisgwyl i ŵr o’r statws sydd gan Domas ap Watgyn yn ôl awgrym y gerdd hon. Ceir yr enw Jehan Watkyns yn yr un grŵp, ond fel lance, sef gŵr arfog a chanddo farch, a noda Bartrum fod gan Domas ap Watgyn frawd o’r enw John. Os noddwr Guto yw’r saethydd hwn, tybed a oedd yn ifanc o hyd ar y pryd? Mae’r pwyslais sydd yn y cywydd ar Domas yn cymryd lle ei dad yn awgrymu bod hwnnw wedi marw yn lled ddiweddar, ac yn wir gall fod Guto’n awgrymu ei fod wedi derbyn nawdd gan Watgyn (llinell 44). Fodd bynnag, anodd yw cysoni hyn â’r briodas rhwng chwaer Tomas a thad Syr Wiliam ap Tomas a nodir gan Bartrum, oherwydd yr oedd Wiliam yn ddigon hen i briodi yn 1406 (Thomas 1994: 4). Llai problematig yw’r briodas a noda Bartrum rhwng chwaer arall i Domas a Thrahaearn ap Rhosier, yn ôl pob tebyg y gŵr a oedd yn grwner Gwynllŵg yn 1435–6 ac eto yn 1448–9 (Evans 2008: 296; Morgan ap Rhosier).
Llanddewi Rhydderch
Pentref bach rhwng y Fenni a Rhaglan yw Llanddewi Rhydderch. Y tebyg yw bod cartref Tomas ap Watgyn yn sefyll ar safle Court Farm heddiw (SO 354131). Noda Bradney (1991: 282–3) fod hanner maenor Llanddewi Rhydderch ym meddiant John ap Watkin ap Henry yn y bymthegfed ganrif, sef brawd noddwr Guto. Aeth y tiroedd wedyn i’w ferch Agnes ac i’w gŵr hi.
Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991), A History of Monmouthshire, Vol. 1, Part 2a: The Hundred of Abergavenny (Part 1) (reprint, London)
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)