Ychydig iawn sy’n hysbys am Domas ap Watgyn, gwrthrych cerdd 4. Cyfeiliornus yw’r llysenw Fychan a roddir iddo yn GGl gan nad oedd yn aelod o deulu’r Fychaniaid.
Achres
Mae Bartrum yn ei restru fel disgynnydd i Ynyr Gwent (WG1 ‘Ynyr Gwent’ 7), er nad yw’r union gysylltiad yn hysbys. Nodir hefyd i’w chwaer briodi Tomas ap Gwilym, tad Syr Wiliam ap Tomas o Raglan. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerdd mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Tomas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch
Ei yrfa
Ceir yr enw Thomas Watkyns ar restr milwyr dug Iorc yn 1441, ond fel saethydd, sydd ychydig yn annisgwyl i ŵr o’r statws sydd gan Domas ap Watgyn yn ôl awgrym y gerdd hon. Ceir yr enw Jehan Watkyns yn yr un grŵp, ond fel lance, sef gŵr arfog a chanddo farch, a noda Bartrum fod gan Domas ap Watgyn frawd o’r enw John. Os noddwr Guto yw’r saethydd hwn, tybed a oedd yn ifanc o hyd ar y pryd? Mae’r pwyslais sydd yn y cywydd ar Domas yn cymryd lle ei dad yn awgrymu bod hwnnw wedi marw yn lled ddiweddar, ac yn wir gall fod Guto’n awgrymu ei fod wedi derbyn nawdd gan Watgyn (llinell 44). Fodd bynnag, anodd yw cysoni hyn â’r briodas rhwng chwaer Tomas a thad Syr Wiliam ap Tomas a nodir gan Bartrum, oherwydd yr oedd Wiliam yn ddigon hen i briodi yn 1406 (Thomas 1994: 4). Llai problematig yw’r briodas a noda Bartrum rhwng chwaer arall i Domas a Thrahaearn ap Rhosier, yn ôl pob tebyg y gŵr a oedd yn grwner Gwynllŵg yn 1435–6 ac eto yn 1448–9 (Evans 2008: 296; Morgan ap Rhosier).
Llanddewi Rhydderch
Pentref bach rhwng y Fenni a Rhaglan yw Llanddewi Rhydderch. Y tebyg yw bod cartref Tomas ap Watgyn yn sefyll ar safle Court Farm heddiw (SO 354131). Noda Bradney (1991: 282–3) fod hanner maenor Llanddewi Rhydderch ym meddiant John ap Watkin ap Henry yn y bymthegfed ganrif, sef brawd noddwr Guto. Aeth y tiroedd wedyn i’w ferch Agnes ac i’w gŵr hi.
Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991), A History of Monmouthshire, Vol. 1, Part 2a: The Hundred of Abergavenny (Part 1) (reprint, London)
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)