Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn yn bennaf a heb ddim amrywio yn nhrefn y llinellau, mewn 19 llawysgrif a godwyd dros gyfnod sy’n ymestyn o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’r amrywiadau’n fawr nac yn niferus a gellir olrhain yr holl destunau i un gynsail ysgrifenedig. Ceir y testunau hyn i gyd ymysg testunau 44a, a thebyg yw eu cydberthynas yn achos y gerdd hon hefyd, gyda’r cwbl yn ymrannu’r ddwy ffrwd (gw. y stema). Mae gan llawysgrifau i gyd gyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Seiliwyd y testun golygyddol ar BL 31061, LlGC 3049D, Brog I.2, Pen 99, C 2.114.
Trawsysgrifiadau: BL 31061, LlGC 3049D, Brog I.2, Pen 99, C 2.114.
1 fu ’r Er nas mynegir yn y llawysgrifau, bernir mai cywasgiad sydd yma o fu i’r gan mai gwell yw sôn am ddiwedd i fargen yn hytrach na dweud bod y fargen yn ddiwedd. Gthg. GGl fu’r.
5 cardinal Dyma ddarlleniad testunau’r ffrwd gyntaf. Ceir kar dinag yn nhestunau X1, cf. GGl. Am enghreifftiau eraill o’r gair yng ngwaith Guto, gw. 5n (esboniadol).
11 y dau cannoen Dyma ddarlleniad LlGC 3049D, Brog I.2 (y dav kanvn), Pen 99. Ceir dav kanoen yn LlGC 16129D, C 2.114 a Pen 112 ond gwna’r llinell yn fyr o sillaf, a dichon mai ymgais ydyw i ‘gywiro’ y diffyg treiglad i dau ar ôl y fannod; ymhellach ar hyn, gw. TC 131.
12 edewid Seiliwyd y darlleniad hwn ar dewid BL 31061 a ddeellir yn dalfyriad o ffurf orffennol amhersonol y ferf adaw (gw. GMW 149). Mae testun BL 31061 yn afreolaidd mewn mannau, ond dichon ei fod wedi cadw darlleniad gwreiddiol y gerdd (er yn amherffaith) yn yr achos hwn. Yn LlGC 3049D a Pen 99 ceir adwyd, sef, fe ymddengys, cywasgiad o adawyd, ffurf orffennol amhersonol gadael (gw. GPC 1367 (b) am enghraifft), ond er bod yr ystyr yn debyg, gwna’r ffurf y llinell yn fyr o sillaf. Gellid ystyried hefyd adawed Brog I.2, C 2.114, Pen 112, gan fod y darlleniad yn iawn o ran ystyr a hyd y llinell, a’i ffurf yn bosibl (ar y terfyniad gorffennol amhersonol yn -ed, gw. GMW 126), ond tueddir o blaid y ffurf hŷn (gw. GMW 149) edewid. Yn Pen 152 ceir adawyd a dderbyniwyd yn GGl, a cf. o bosibl ddarlleniad LlGC 3049D a Pen 99.
13 flawrwyn Dyma (neu flowrwyn) yw darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio C 2.114, Pen 112 lle darllenir foloryn, ffurf anhysbys.
19 mae i’m GGl mae ’m ond cyfetyb mae i’m i ddarlleniadau LlGC 3049D a C 2.114 a chywesgir i’m a mae yn un sillaf yn naturiol.
25 Tudur Dyma ddarlleniad LlGC 3049D, LlGC 16129D, C 2.114, Pen 112. Ceir dvdvr yn BL 31061, Brog I.2 a Pen 99, fel pe bai’r enw yn y modd cyfarchol, ond chwithig iawn fyddai hynny gan y dengys y ferf [t]osturiai mai yn y trydydd person y cyfeiria Guto at Dudur. Rhoddir yr un argraff hefyd gan atalnodiad GGl Pam, Tudur, na. Trefn naturiol y geiriau cyn eu sgiwio i ddibenion y cwpled a’r gynghanedd fuasai Pam na thosturiai Tudur Penllyn …?
27 chefais ddafad Dyma ddarlleniad BL 31061, LlGC 3049D, Brog I.2 a LlGC 16129D. Ceir cheisias ddafad yn Pen 99; yn C 2.114 ceir dau ddarlleniad a’r cyntaf a llinell drwyddo, sef gefais dafad a cheissiais ddafad. Darllenir cheisiais dafad yn GGl, megis yn Pen 152, ond nid yw’r mwyafrif o’i blaid.
28 rhodd nac un yn rhad Dyma ddarlleniad Pen 99, LlGC 16129D, C 2.114, Pen 112. Ni cheir cystal darlleniadau gan BL 31061 (nag vn Rhad) a Brog I.2 (nag yn rhad) gan eu bod yn fyr o sillaf, na chan LlGC 3049D lle ceir rvdd am rhodd.
36 yr hwrdd Dyma a geir yn yr holl lawysgrifau (ac eithrio Pen 99 ond fe’i croeswyd allan yno), a gwna’r llinell yn rhy hir o sillaf. Gellid dadlau nad oedd yn ffurf wreiddiol y gerdd a’i hepgor ond nid yw llinellau afreolaidd eu hyd yn anhysbys yng ngwaith Guto. Pe sillgollid y fannod (’r), ceid r berfeddgoll ond ni roddai gynghanedd foddhaol gan y byddai dan yr acen.
37 wyn Nid yw wyn y llawysgrifau yn gymorth i benderfynu ai’r enw gwyn (gw. GPC d.g. gwyn2) ynteu gwŷn sydd yma, ond ar sail priodolder ystyr, bernir mai’r cyntaf sydd fwyaf tebygol. Gthg. GGl ŵyn (lluosog oen).
38 wich llaw Dyma ddarlleniad LlGC 3049D, Pen 99. Ceir wich law yn BL 31061, Brog I.2 a Pen 112, ond anghywir yw hynny gan na threiglid y goddrych ar ôl trydydd unigol presennol mynegol y ferf, gw. TC 190. Ceir wichlaw yn C 2.114, camgymeriad amlwg am wich law (ac ysgrifennodd llaw arall ar gyfer wichlaw wag yno wichiaw gwag). Darllenwyd wichiaw wag yn GGl, darlleniad nas ategir gan dystiolaeth orau’r llawysgrifau ac sydd hefyd yn anghywir gan mai gwrywaidd yw cenedl y berfenw gwichiaw.
38 echwyn Dyma ddarlleniad BL 31061, Brog I.2 a Pen 99; achwyn a geir yn y llawysgrifau eraill. Gan fod y syniad o fenthyg mor amlwg yn y cerddi rhwng Guto’r Glyn a Thudur Penllyn, bernir bod echwyn yn rhoi synnwyr mwy priodol nag achwyn yn yr achos hwn. Sylwer, felly, mai echwŷn ‘benthyca’ (yn odli ag wŷn), nid echŵyn, amrywiad ar achwyn ‘cwyno’, sydd yma.
40 breswylwalch Dyma ddarlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio C 2.114 a Pen 112 lle ceir y ffurf anhysbys bresseilwalch.
42 iair Dyma ddarlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio LlGC 3049D sy’n darllen ieir. Gan mai ieir yw’r ffurf a ddisgwylid, ymddengys mai er mwyn cael odl â rhai r … y dewiswyd iair; cf. hefyd yr amrywio seinegol a geir rhwng y deuseiniaid ei ac ai mewn geiriau megis ceir/cair, cei/cai. Er hynny, mae’n bosibl mai ieir oedd y darlleniad gwreiddiol os ynganwyd rhai yn rhei megis y gwneir yn aml heddiw. Anodd yw torri’r ddadl, a beth bynnag fo’r ateb, penderfynwyd o blaid iair ar sail cryfder tystiolaeth y llawysgrifau. Darllenir ieir yn GGl.
42 bob Ceir y ffurf dreigledig yn BL 31061, Brog I.2, LlGC 16129D, C 2.114 a Pen 112, a’r ffurf gysefin pob yn LlGC 3049D a Pen 99. Gan fod i pob swyddogaeth adferfol yn y frawddeg, y ffurf dreigledig a ddisgwylid, ond gallesid peidio â’i dreiglo hefyd am ei fod yn dilyn yr orffwysfa.
49 nghawr Felly Brog I.2 a Pen 99, ac amlwg mai dyma’r darlleniad cywir o ran synnwyr a hyd y llinell. Yn BL 31061 ceir dau ddarlleniad a’r cyntaf a llinell drwyddo, sef ngharwr, sy’n rhy hir ac nad yw’n odli, a’r ffurf anhysbys a rhy hir ngharawr. Ceir ngharawr yn C 2.114 a Pen 112, hwythau, a ngharwr yn LlGC 3049D, cf. BL 31061.
51 aur Dyma ddarlleniad Pen 99, LlGC 16129D, C 2.114 a Pen 112. Nid cystal o ran ystyr yw BL 31061 wy, LlGC 3049D wr a Brog I.2 awr.
52 ddly Yn nhestunau’r ffrwd gyntaf ceir BL 31061 ddeili, LlGC 3049D, Pen 99, Brog I.2 ddlae a LlGC 16129D ddyle. Fel y gwelir, ac eithrio yn achos Brog I.2, gwna’r darlleniadau hyn y llinell yn rhy hir o sillaf. Ond yn nhestunau X1 rhydd y darlleniad cyfatebol deil y nifer cywir o sillafau yn ogystal â synnwyr boddhaol. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth o blaid ffurfiau dylu yn gryfach, a chan y ceir hefyd y ffurf unsill dlyu, gellir darllen ddly (cf. Brog I.2 ddlae) yn ddidramgwydd. Ceir ddyly yn GGl.
56 ffloring Felly holl destunau’r ffrwd gyntaf. Ceir ffelwraig yn nhestunau X1 ond nid yw’r ystyr (o’r ansoddair ffel, fe ymddengys) yn addas yn y cyd-destun – ni restrir y ffurf ychwaith yn GPC 1282.
58 oll Dyma ddarlleniad holl destunau’r ffrwd gyntaf. Ceir ef yn nhestunau X1, ac er y rhydd ystyr foddhaol, ychwanegir at yr ystyr gan oll.
59 f’adolwyn Felly Pen 99; cf. LlGC 3049D, C 2.114 a Pen 112 vy dolwyn.
60 fodd Dyma ddarlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio C 2.114 a Pen 112 sy’n darllen bodd. Amlwg mai fodd sy’n gywir.
63 Ni Felly BL 31061 a Pen 99. Ceir na yn y testunau eraill ond ni yw’r gystrawen arferol gan Guto gyda’r modd dibynnol i fynegi dymuniad negyddol, e.e. 87.36 Ni bwyf innau heb f’annedd.
Dyma ymateb Guto’r Glyn i ymosodiad Tudur Penllyn arno (cerdd 44a) a diwedd yr ymryson a fu rhwng y ddau fardd.
Dechreua’r bardd trwy ganmol cywirdeb ei wasanaeth i Syr Bened ond gan gyfaddef hefyd iddo fethu yn y dasg o ddiogelu’r ŵyn (llinellau 1–12). Try ei sylw wedyn at Dudur Penllyn gan edliw iddo am ei ddychanu a chan fendithio Syr Bened am beidio â’i gredu, a geilw ar Ieuan Brydydd Hir yn dyst i’w eirwiredd (13–24). Â ati wedyn i gwyno am nad yw Tudur, sydd â llond gwlad o ddefaid, yn tosturio wrtho ac yntau heb yr un oen bron ar ei helw. Mae’n dannod i Dudur am geisio perswadio Syr Bened i drosglwyddo’r gwaith o borthmona ei ŵyn iddo ef (25–48). Yn olaf, cais Guto dalu’r pwyth yn ôl i Dudur trwy honni ei fod mewn perygl o orfod talu swm mawr o arian, a fyddai’n ei adael yn dlawd, dros rywun yr oedd wedi mynd yn feichiau drosto. Pwysleisia ei hawl ar ei drefniant gyda Syr Bened gan rybuddio Tudur i gadw draw (49–64).
Dyddiad
c.1450 (gw. cerdd 44).
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 44% (28 llinell), traws 22% (14 llinell), sain 22% (14 llinell), llusg 12% (8 llinell).
1 hen Anodd yw gwybod beth yn union a olyga yma. Os ‘maith’ (cf. yr aralleiriad), ymddengys fod Guto yn meddwl am yr holl amser a gymerodd ei borthmona dros Syr Bened hyd ei ddiwedd. Tybed, er hynny, ai rhywbeth fel ‘gwael, dilewyrch’ a olygir gan gyfeirio at aflwyddiant yr holl fenter?
1 bargen Gw. 44.13.
5 cardinal Cf. disgrifiad Guto o ddeon Bangor yn 61.25 Cardnal yw, cordiwn â’i wledd, ac o Syr Siôn Mechain yn 85.47 Cynnal mae’r cardinal du. Sylwer bod yr acen ar y goben, nid ar y sillaf gyntaf megis heddiw (dan ddylanwad y Saesneg).
9 gwerthodd Efallai na ddylid ei ddeall yn rhy lythrennol. Ni lwyddodd Guto i werthu’r un o ŵyn Syr Bened drosto, felly ymddengys mai eu rhoi ar werth (trwy asiantaeth Guto) a olygir.
13 blawrwyn Yr un ansoddair a ddefnyddia Ieuan Brydydd Hir am Dudur Penllyn, GIBH 2.1–3 Glân Dudur … / … / Penllyn, flawrwyn faeleraidd.
14 hyn Am enghreifftiau eraill o’r ffurf hon ar yr ansoddair dangosol ar ôl enw unigol, gw. GPC 1973 (2).
18 mynwes craig Gw. 44.51n.
19 mae i’m Cywesgir hwy.
22 Ifan Hir Gofynnir yn GGl 331 ai mab Tudur Penllyn a olygir, ond mae’n fwy tebygol, fel y dadleuwyd yn GIBH 100, mai Ieuan Brydydd Hir ydyw.
23–4 Ceir digon o dystiolaeth gan Ieuan Brydydd Hir i gyfoeth o ddefaid Tudur Penllyn yn ei gywydd dychan iddo, gw. GIBH cerdd 2; e.e. 2.27–8 Mae o’r rhain, a mwy yw’r hil, / Meddai ef, yma ddwyfil.
24 llanw difwyn Cyfeiria’r sangiad at foddi’r ŵyn a oedd yng ngofal Guto mewn afon, gw. 44.28, 44a.39–48.
26 Caer Gai Ger Llanuwchllyn, sir Feirionnydd.
33–6 Fel y dywedir yn GGl 331, ‘aralleiriad digrif’ sydd yma o Mathew 7.3 ‘Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?’, a cf. Luc 6.41.
37–8 Tynnir sylw yn GGl 331 at yr adlais sydd yma o’r ddihareb Ni ŵyr yr hwch lawn pa wich y wag, cf. Hay 1955: 195–6; hynny yw, os yw dyn ar ben ei ddigon, ni sylwa ar gynni rhywun arall. Mae gan Dudur Penllyn fwy na digon o ŵyn tra bod Guto heb yr un.
38 ba Amrywiad ar pa, fel adferf, yn yr ystyr ‘pam’, gw. DGG2 180; GPC 2661.
38 Sulien Gw. 43.5–7n.
41 pregeth y llwynawg Y tebyg yw bod Guto’n meddwl am un o’r llu o storïau am y llwynog cyfrwys Renard (Saesneg Reynard) a gylchredai yn yr Oesoedd Canol mewn gwahanol ffurfiau, ar lafar, mewn ysgrifen ac mewn delweddau. Ceir cylch o chwedlau amdano a ysgrifennwyd gan feirdd Ffrengig yn y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg a elwir yn Roman de Renart; gw. Owen 1994. Mae’n bosibl, er hynny, nad teitl rhyw chwedl yw’r geiriau ond bod pregeth i’w gysylltu â Pregethu yn 39 ac mai cyffelybu Tudur Penllyn i lwynog yn gyffredinol y mae Guto, ond ymddengys hynny’n llai tebygol.
42 Sylwer ar y gynghanedd anarferol a gw. 42n iair (testunol). Er mwyn cael odl â iair, rhaid tynnu’r r yn rhawg yn ôl dros yr orffwysfa at ddiwedd rhai (yn CD 168 gelwir y math hwn o beth yn ‘odl gudd’), megis mewn cynghanedd gysylltben.
49 fy nghŵyn Mae rhyw ferf megis dywedaf neu mae yn ddealledig.
49 cawr Yn yr enghreifftiau eraill o’r gair yng ngwaith Guto golyga gawr neu rywun mawr neu gryf o gorff. Ymddengys mai rhywun felly, rhywun mawr a chryf, oedd Robert ap Hywel, yntau, megis Syr Bened.
49–64 Yn y llinellau hyn newidia Guto ei dacteg. Ymddengys fod ar rywun nas enwir chwe ffloring (56) i ryw abad a bod Tudur Penllyn wedi mynd yn feichiau dros y dyledwr. Ymddengys hefyd nad yw’r dyledwr wedi talu’r swm eto, felly awgryma Guto y dylai Tudur Penllyn, yn unol â’i ymrwymiad, dalu’r swm drosto. Bydd hynny’n ei adael heb lawer ar ei helw ond yn unioni’r cam a wnaeth â Guto trwy ei ddychanu. Os felly, mae’n amlwg fod achos cyfreithiol yn gorwedd y tu ôl i’r cywydd hwn. Tybed ai rhyw berthynas i Dudur Penllyn ydoedd dyledwr yr abad?
49–51 Robert … / … o Faelawr, / Mab Hywel Ymddengys fod Robert ap Hywel yn gyfreithiwr a oedd ynglŷn ag achos yr abad (54), a dywedir amdano mai un ydyw A ddly hawl i ddial hyn (52), geiriau sy’n awgrymu bod ganddo’r awdurdod i orchymyn i Dudur Penllyn dalu’r Chwe fflorin (56). Dylid dal sylw hefyd ar gofnod a geir yn CPR 1461–7, 37, ar gyfer 7 Gorffennaf 1461, lle crybwyllir gŵr o’r enw Robert ap Howell: ‘Appointment of John, abbot of Llanegwylfall [= Llanegwystl], David Kyffyn, doctor of laws, Roger Pyllysden, John Hanmer, John Trevor, John Pyllesden and Robert ap Howell as the king’s attorneys to receive attornaments and attendances from all tenants of his lordship of Chyrke and Chyrkelande in the marches of Wales.’ Fel y gellir casglu, roedd hwn yn gyfreithiwr ac yn ŵr o bwys, roedd arglwyddiaeth y Waun yn agos i Faelor Gymraeg ac roedd nifer o aelodau’r comisiwn yn noddwyr i Guto. Dichon yn hawdd, felly, mai’r un dyn a enwir yn y calendr ac yng ngherdd Guto.
Yn WG2 xvii, 160, rhestrir unarddeg gŵr o’r enw Robert ap Hywel ym Mhowys yn y bymthegfed ganrif, ac o’r rhain ceir tri sydd â chysylltiadau â Maelor Gymraeg yn benodol: i. Robert ap Hywel ab Iolyn o’r drydedd genhedlaeth ar ddeg, a anwyd c.1430, y priododd ei fab Dafydd â Jonet ferch Robert ap John o lwyth Edwin, gw. WG2 ‘Edwin’ 17A. Roedd gan deulu Jonet gysylltiadau â Wrecsam ym Maelor Gymraeg. Byddai blynyddoedd a lleoliad y Robert hwn yn cyfateb i eiriau Guto ond ni ellir ei uniaethu gyda sicrwydd â Robert y testun; ii. Robert ap Hywel ap Badi o lwyth Bleddyn ap Cynfyn, gw. WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 19C; iii. Robert ap Hywel ap Dafydd o lwyth Tudur Trefor a oedd â chysylltiadau â Marchwiail, gw. ‘Tudur Trefor’ 21A. Perthyn y ddau olaf, fodd bynnag, i’r bedwaredd genhedlaeth ar ddeg, a anwyd c.1470, a rhy ddiweddar yw hynny os yw dyddiadau Bartrum yn gywir. Yn amseryddol (ac o ystwytho tipyn ar ddyddiad Bartrum), cyfetyb cenhedlaeth Robert ap Hywel ab Iolyn i ddyddiad y cofnod sy’n crybwyll Robert ap Howell, er nad yw hynny’n sail ddigonol dros uniaethu’r ddau.
51 aur melyn Mae’n debygol mai canmoliaeth ystrydebol sydd yma heb unrhyw arwyddocâd neilltuol.
52 a ddly hawl Gw. 49–51n.
54 yr abad Ni ddywedir pwy ydoedd, ond oherwydd y sôn am Faelor (50), naturiol meddwl am abad Glyn-y-groes. Yn ôl CTC 363, roedd Siôn ap Rhisiart yn abad c.1450–1478–80, a byddai cyfnod ei abadaeth yn gweddu i gyfnod y cywydd. (Gthg. Williams 2001: 298 lle amserir abadaeth Siôn ap Rhisiart i 1455–61.) Cyfeiria Guto at abad heb ei enwi yn 91.59–60 hefyd pan ddywed Er bod rhof a’r abad draw / Amodau diymadaw, a gw. 91.59n.
55 baich Felly y meddylir am y swm.
55 o myn ei fodd Hynny yw, os penderfyna Tudur dalu.
56 ni chaiff lawrodd Ni chaiff Tudur gymorth ariannol i dalu’r swm. Trwy ddweud hyn, ychwanega Guto dipyn o halen at y briw trwy bwysleisio anhawster y gweithrediad ariannol sy’n aros Tudur.
58 llyna was tlawd Yr ergyd yw y byddai Tudur yn haeddu bod yn dlawd ar ôl talu’r swm.
59–60 Y synnwyr yw, gan na fyddai Tudur yn rhoi dim o’i ŵyn i Guto (60), yna yn sicr ni chaiff ef ofyn i Syr Bened drosglwyddo ei ŵyn iddo ef yn hytrach nag i Guto (59).
Llyfryddiaeth
Hay, W. (1955), Diarhebion Cymru (Lerpwl)
Owen, D.D.R. (1994) trans., The Romance of Reynard the Fox (Oxford)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
This cywydd is Guto’r Glyn’s response to Tudur Penllyn’s attack on him (poem 44a) and marks the end of the contention between the two poets.
The poet begins by praising the honesty of his service to Sir Benet but by admitting too that he has failed in the task of safeguarding the lambs (lines 1–12). He then turns his attention to Tudur Penllyn, reproaching him for satirizing him and congratulating Sir Benet for not believing Tudur, and calls on Ieuan Brydydd Hir as a witness to his truthfulness (13–24). He then proceeds to complain because Tudur, who has a galaxy of sheep, does not commiserate with him when he has scarcely a lamb in his possession. He scolds Tudur for trying to persuade Sir Benet to transfer to him the job of driving and marketing the lambs (25–48). Finally, Guto tries to get even with Tudur by asserting that he is in danger of having to pay a large sum of money, which would leave him impoverished, for someone for whom he had stood surety. He stresses his entitlement to his arrangement with Sir Benet and warns Tudur to keep his distance (49–64).
Date
c.1450 (see poem 44).
The manuscripts
The poem has been preserved, complete in most instances and with no variation in line sequence, in 19 manuscripts copied between the second half of the sixteenth century and the nineteenth century in north and central Wales. There are only a few variations and the copies probably derive from single written exemplar. These copies are all to be found with those of poem 44a and their relationship is similar. BL 31061, LlGC 3049D, Brog I.2, Pen 99 and C 2.114 have been used as a basis for the edited text.
Previous edition
GGl poem XXXIII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 44% (28 lines), traws 22% (14 lines), sain 22% (14 lines), llusg 12% (8 lines).
1 hen It’s precise meaning is unclear. If ‘lengthy’ (cf. the translation), it is possible that Guto is thinking of all the time that was consumed by his droving for Sir Benet. One wonders also whether it might not mean something like ‘miserable, unsuccessful’ with reference to the failure of the whole enterprise.
1 bargen See 44.13.
5 cardinal Cf. Guto’s description of the dean of Bangor in 61.25 Cardnal yw, cordiwn â’i wledd ‘He is cardinal, we’ll accord with his feast’, and of Syr Siôn Mechain in 85.47 Cynnal mae’r cardinal du ‘the dark cardinal sustains’. Note that the accent is on the penultimate syllable, not on the first as is the case today (under the influence of English).
9 gwerthodd It should not perhaps be understood too literally. Guto did not succeed in selling one of Sir Benet’s lambs for him, so it appears that what is meant is putting them up for sale (through Guto’s agency).
13 blawrwyn Ieuan Brydydd Hir uses the same adjective for Tudur Penllyn, GIBH 2.1–3 Glân Dudur … / … / Penllyn, flawrwyn faeleraidd ‘Goodly Tudur ... / ... / Penllyn, greyish-white, huckster-like’.
14 hyn For other examples of this form of the demonstrative adjective after a singular noun, see GPC 1973 (2).
18 mynwes craig See 44.51n.
19 mae i’m These are elided.
22 Ifan Hir In GGl 331 the question is asked whether Tudur is meant, but it is more probable, as argued in GIBH 100, that it is Ieuan Brydydd Hir.
23–4 There is plenty of testimony to Tudur Penllyn’s wealth of sheep in Ieuan Brydydd Hir’s satirical cywydd to him, see GIBH poem 2; e.g. 2.27–8 Mae o’r rhain, a mwy yw’r hil, / Meddai ef, yma ddwyfil ‘there is of these, and the stock i greater, / two thousand here, he says’.
24 llanw difwyn The sangiad refers to the drowning of the lambs that were in Guto’s care in a river, see 44.28, 44a.39–48.
26 Caer Gai By Llanuwchllyn, Meirionnydd.
33–6 As stated in GGl 331, we have here a humorous paraphrase of Matthew 7.3 ‘Why do you look at the mote in your brother’s eye, but do not notice the beam in your own eye?’, and cf. Luke 6.41.
37–8 GGl 331 suggests that there is an echo here of the old proverb Ni ŵyr yr hwch lawn pa wich y wag ‘The full-fed sow knows not why the empty-bellied one squeals’; cf. Hay 1955: 195–6; i.e., if a man is in clover, he does not notice another man’s hardship. Tudur Penllyn has more than enough lambs while Guto has not one.
38 ba A variant of pa, adverbially, in the sense ‘why’, see DGG2 180; GPC 2661.
38 Sulien See 43.5–7n.
41 pregeth y llwynawg Guto is probably thinking of one of the myriad tales of the crafty fox Reynard which circulated in the Middle Ages in various forms – orally, in writing and iconographically. There exists a cycle of fables about him written by French poets in the twelfth and thirteenth centuries called Roman de Renart; see Owen 1994. It is nonetheless possible that the words do not denote the title of some fable but that pregeth should be linked to Pregethu in 39 and that Guto is likening Tudur Penllyn to a fox generally, but this appears less likely.
42 In order to rhyme with iair, it is necessary to draw the r in rhawg back over the caesura to the end of rhai (in CD 168 this kind of feature is called a concealed rhyme), as in a cynghanedd gysylltben.
49 fy nghŵyn A verb such as dywedaf ‘I shall tell’ or mae ‘is’ is understood.
49 cawr In the other instances of the word in Guto’s work it means a giant or someone big or strong of stature. It appears that Robert ap Hywel was such a person, someone big and strong, like Sir Benet.
49–64 In these lines Guto changes his tactics. Apparently an unnamed person owes six florins to some abbot and Tudur Penllyn has stood surety for the debtor. Apparently the debtor has not yet paid the sum, so Guto suggests that Tudur Penllyn, in accordance with his undertaking, should pay the sum on his behalf. That will leave him without much in his possession but will make good the wrong he did to Guto by satirizing him. If so, it is clear that there is a lawsuit in the background of the poem. Was the abbot’s debtor perhaps a relation of Tudur Penllyn?
49–51 Robert … / … o Faelawr, / Mab Hywel It appears that Robert ap Hywel was a lawyer involved in the lawsuit of the abad (54), and it is stated of him that he is one A ddly hawl i ddial hyn (52), words which suggest that he has the authority to order Tudur Penllyn to pay the Chwe ffloring (56). Attention should also be drawn to an entry in CPR 1461–7, 37, for 7 July 1461, where a man called Robert ap Howell is mentioned: ‘Appointment of John, abbot of Llanegwylfall [= Llanegwystl], David Kyffyn, doctor of laws, Roger Pyllysden, John Hanmer, John Trevor, John Pyllesden and Robert ap Howell as the king’s attorneys to receive attornaments and attendances from all tenants of his lordship of Chyrke and Chyrkelande in the marches of Wales.’ As can be deduced, this man was a lawyer and a person of importance, the lordship of Chirk was near Maelor Gymraeg and a number of the members of the commission were patrons of Guto. It may well be, therefore, that the man named in the calendar and in Guto’s poem are the same person.
In WG2 xvii, 160, there are listed eleven men of the name Robert ap Hywel in Powys in the fifteenth century, and of these three are associated with Maelor Gymraeg specifically: i. Robert ap Hywel ab Iolyn of the thirteenth generation, who was born c.1430 and whose son Dafydd married Jonet daughter of Robert ap John of the tribe of Edwin, see WG2 ‘Edwin’ 17A. Jonet’s family had links with Wrexham in Maelor Gymraeg. The years and location of this Robert would correspond to Guto’s words but he cannot be identified with certainty with the Robert of the text; ii. Robert ap Hywel ap Badi of the tribe of Bleddyn ap Cynfyn, see WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 19C; iii. Robert ap Hywel ap Dafydd of the tribe of Tudur Trefor who had links with Marchwiail, see ‘Tudur Trefor’ 21A. The latter two, however, are of the fourteenth generation, born c.1470, which is too late unless Bartrum’s dates are adjusted. Chronologically (and with a little massaging of Bartrum’s date), Robert ap Hywel ab Iolyn’s generation corresponds to the entry mentioning Robert ap Howell, although that is not a sufficient basis for identifying the one with the other.
51 aur melyn Words of conventional praise, probably, without any special significance.
52 a ddly hawl See 49–51n.
54 yr abad It is not stated who he was. Because of the mention of Maelor (50), it is natural to suppose that the abbot of Glyn-y-groes (Valle Crucis) is meant. According to CTC 363, Siôn ap Rhisiart was abbot c.1450–1478/80, and the period of his abbacy would suit the period of the poem. (Contrast Williams 2001: 298 where Siôn ap Rhisiart’s abbacy is dated 1455–61.) Guto refers to an abbot without naming him in 91.59–60 also when he says Er bod rhof a’r abad draw / Amodau diymadaw ‘Although there are inseparable provisos / between me and the abbot yonder’, 91.59n.
55 baich This is how the sum is thought of.
55 o myn ei fodd I.e., if Tudur decided to pay.
56 ni chaiff lawrodd Tudur will not receive financial assistance to pay the sum. By saying this, Guto adds some salt to the wound by emphasizing the hardship of the financial transaction that awaits Tudur.
58 llyna was tlawd The point is that Tudur would deserve to be poor after paying the sum.
59–60 The sense is, since Tudur would not give any of his lambs to Guto (60), then he certainly may not ask Sir Benet to transfer his sheep to him rather than to Guto (59).
Bibliography
Hay, W. (1955), Diarhebion Cymru (Lerpwl)
Owen, D.D.R. (1994) trans., The Romance of Reynard the Fox (Oxford)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Cyfeirir yn ddirmygus tuag at Dudur Penllyn yng ngherdd 44, cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened, person Corwen, i farchnadoedd yn Lloegr. Atebodd Tudur gyda chywydd yn dychan Guto ac yn ei gyhuddo o dwyllo Syr Bened (cerdd 44a), a chanodd Guto gywydd arall i’w amddiffyn ei hun (cerdd 45). Ceir hefyd ddwy gyfres o englynion yn dychanu Tudur gan Guto (cerdd 46) a chan ei fab, Ieuan ap Tudur Penllyn (cerdd 46a), yn ogystal â chyfres arall o englynion gan Dudur yn ei amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn yr englynion hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.
Achres
Olrheiniai Tudur ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.
Fel y gwelir, roedd Tudur yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.
Ei yrfa
Roedd Tudur yn fardd rhagorol ac yn uchelwr cefnog o Gaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd. Priodolir 35 o gerddi iddo a rhai cyfresi o englynion. Moli a marwnadu, annerch, gofyn, cymodi a dychan a welir ynddynt. Roedd hefyd yn amaethwr a gadwai ddefaid ac ŵyn ac yn berchen gwartheg a cheffylau. Porthmonai’r defaid a’r ŵyn gan werthu eu gwlân, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi 44, 44a a 45. Canai i uchelwyr yng ngogledd a de Cymru ond, ac yntau’n fardd a ganai ar ei fwyd ei hun, mae’n debygol mai fel ymweliadau cyfeillgar yn hytrach nag fel achlysuron clera i gynnal ei hun y dylid gweld y teithiau hyn. Ei brif noddwyr oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, Rheinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug a Dafydd Siencyn o Nanconwy. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau cefnogai’r Lancastriaid, ond canodd hefyd i rai o’r Iorciaid. Roedd ei wraig Gwerful Fychan, ei fab Ieuan ap Tudur Penllyn a’i ferch Gwenllïan hwythau’n prydyddu (ar Wenllïan, gw. GGM 3–4; Johnston 1997). Fel beirdd ‘amatur’ eraill, nad oeddynt mor gaeth i gonfensiynau cerdd dafod, ceir ffresni ac amrywiaeth mwy na’r arfer yng ngherddi Tudur, gyda champ ar ei ddisgrifiadau a min ar ei ddychan. Ymhellach, gw. GTP (xiii am ei ddyddiadau); Roberts 1942: 141–51; idem 1943: 27–35; ByCy Ar-lein s.n. Tudur Penllyn; GIBH 3, cerddi 1–3, At iii–v a’r sylwadau arnynt.
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1997), ‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, 3: 27–32
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35