Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 12 llawysgrif. Diogelwyd y tri chopi hynaf yn LlGC 3051D, BL 14969 a BL 14976, llawysgrifau o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Ymddengys eu bod yn deillio o’r un ffynhonnell yn y pen draw (X1 yn y stema) ac i’r copïwyr ‘gywiro’ rhai cynganeddion a darlleniadau astrus.
LlGC 3051D yw’r testun agosaf at y gynsail ac er na chadwyd ond diwedd y cywydd yn Llst 122 mae’n amlwg fod y copi yno yn perthyn yn agos i LlGC 3051D (yn gopi, o bosibl). Nodweddir y grŵp hwn â darlleniadau unigryw fel ar longaid (38), sadan (54), o gnwd (56) a llwyngraig (59).
Y ddau destun pwysicaf yn yr ail grŵp yw BL 14969 a BL 14976 ac ymddengys eu bod yn deillio o’r un ffynhonnell er bod mân amrywiadau ymysg y darlleniadau (sef X2 yn y stema). Nodweddir hwy â darlleniadau fel o longaid (38), o gnawd (56) a llawngraig (59). Ceir perthynas agos rhwng BL 14969 a BL 14962 oherwydd eu darlleniadau o linellau 1, 9 a 58. Gellir hefyd awgrymu bod BL 31092 yn gopi o BL 14962. Perthyn Pen 152, C 4.10 a CM 12 yn agos at BL 14976. Mae’r testun golygedig yn dilyn LlGC 3051D yn agos.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3051D, BL 14969 a BL 14976.
1 aur llen Ceir cryn ddryswch yn y testunau eraill gan na threiglir llen oherwydd y calediad (l yn ll ar ôl r) yn X1; LlGC 3051D yn unig sy’n darllen aur llen. Ychwanegwyd y rhagenw ei yn BL 14969 a darllen aur i llen ac mae’n bosibl mai hwn oedd yn X2 hefyd. Mae’r copïydd yn BL 14976 wedi newid ei ddarlleniad yn avr i llonn ar llannerch gan golli’r odl fewnol (a chamddarllen llen gan fod e ac o yn debyg).
1 o’r Llannerch Darlleniad LlGC 3051D a BL 14969. Treiglad meddal yn dilyn yr arddodiad ar a geir yn BL 14976 sef ar lannerch, sy’n ymgais i achub y gynghanedd oherwydd i aur lon / len ddisodli aur llen yn rhan gyntaf y llinell. Cyfeiriad at gartref Elen yw Llannerch yma (gw. y nodiadau esboniadol) ac felly mae’r darlleniad o’r Llannerch yn fwy ystyrlon.
5 o’r winllan Dau ddarlleniad ystyrlon yw o’r winllan yn X2 ac â’r winllan yn LlGC 3051D. Awgryma darlleniad LlGC 3051D fod gan y Llannerch winllan, cf. GIG X.56 Perllan, gwinllan ger gwenllys (am Sycharth) a 116.24 Perllan a gwinllan i gyd (am abaty Glyn-y-groes). Ond gellir dehongli gwinllan yn drosiad am y Llannerch ac mai hynny a olygir gyda bun o’r winllan, cf. y llinell gyntaf Elen … o’r Llannerch a’r cyfeiriad at Elen yn 33 fel yr un winwydden wallt. Yn betrus dilynir darlleniad BL 14969 a BL 14976 yma yn hytrach na LlGC 3051D a chymryd i gopïydd LlGC 3051D gamddarllen a am o.
6 lleddfawg Ceir leddfawg yn LlGC 3051D ond oherwydd y cymeriad llythrennol dilynir y llawysgrifau eraill a pheidio â’i dreiglo.
7 wregis Ceir y terfyniad -ys yn LlGC 3051D ac -is yn BL 14969. Er mwyn cysondeb, rhoddir y terfyniad -is gan ei fod yn digwydd hefyd yn gwregis yn 49 ac yn odli â ffris.
9 mae i Elen Cywesgir mae i yn unsill er mwyn hyd y llinell. Dichon i gopïwyr hepgor i er mwyn arbed sillaf, cf. llinell 31 isod erchi i Elen.
10 ar fainc Dichon mai darlleniad X2 oedd y fainc ac i’r copïydd ei newid yn ar fainc i osgoi’r r berfeddgoll. Mae ar fainc yn gyfuniad ystyrlon, gw. GPC 2323 d.g. mainc ‘barnwyr neu ynadon sy’n cyd-eistedd i wrando achosion cyfreithiol’. Cyfeirir at aelodau o deulu Elen fel swyddogion i’r brenin ac felly’n eistedd ar fainc y llys, cf. llinell 11.
13 gorau hyd Y darlleniad gorau yd verch a geir yn LlGC 3051D sydd o bosibl yn enghraifft o golli’r h ar ddechrau hyd, cf. llinell 49 lle collir h ar ddechrau heb. Ond gellid ei ddeall yn ail berson unigol yr arddodiad i yn ogystal fel a wneir yn Rowlands 1976: 83. Ond nid yw’r bardd yn cyfarch neb arall yn y gerdd hon ac felly mae’r ystyr yn well os dilynir y llawysgrifau eraill a darllen gorau hyd, gw. 13n.
13 gwrda Cwpled anodd i’w ddehongli ac nid yw golygiad GGl o’r llinell, lle ceir coma ar ôl ferch, yn ystyrlon: Gorau hyd ferch, gwrda fain. Mae Rowlands (1976: 83) yn derbyn gwyrdo a geir yn LlGC 3051D ac yn dehongli’r llinell fel disgrifiad o wallt Elen, gan ddehongli’r gair yn gyfuniad o cwyr a to. Ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft arall o’r gair hwn gan y beirdd ond ceir cwyr yn ddisgrifiad achlysurol o wallt merch. Mwy ystyrlon, efallai, oherwydd y cyfeiriadau blaenorol at dad a theulu Elen, yw bod merch gwrda fain yn ddisgrifiad o Elen fel merch i wrda, ac felly dylid rhoi coma ar ôl hyd: Gorau hyd, ferch gwrda fain. Mae’n bosibl i gopïydd LlGC 3051D gamddarllen gwyrdo a bod darlleniad gwrda yn X2 yn well y tro hwn.
31 erchi i Elen LlGC 3051D yn unig sy’n hepgor yr i; mae BL 14969 yn ei chynnwys. Dichon fod erchi Elen yn cynrychioli cywasgiad, cf. 9 Mae i Elen gyda Maelawr; 72.66 Erchi i Dduw ddwy arch ydd wyf.
38 ar longaid Ceir y darlleniad ar longaid yn LlGC 3051D ac o longaid yn X2. Mae’r darlleniad Dewis … / Ar longaid yn hŷn ac yn ystyrlon: ceir enghreifftiau yn GPC 941 o gystrawen hynafol lle y gall ar olygu ‘o blith’ yn dilyn dewis, cf. 49.31 Dewis ar wyrda ieuainc; GLlG 5.80 dewis ar ieuanc. Dichon i’r darlleniad hynafol ddrysu’r copïwyr ac iddynt ei newid yn dewis … / O longaid yn ogystal â hepgor yr r i osgoi’r r wreiddgoll.
45 Ys da ra’r ystorïwr Dau ddarlleniad sy’n rhannu’r llawysgrifau’n ddwy garfan yw ys da ra’r yn LlGC 3051D a’r darlleniad ys da’r â’r yn X2. Dilynwyd y cyntaf yn GGl a’r ail gan Eurys I. Rowlands (1976: 27, a gw. hefyd 84). Dichon i’r treiglad ys da ra beri penbleth i rai copïwyr ond gellir cymryd bod da yn goleddfu gra yn hytrach na’i fod yn draethiad mewn brawddeg enwol, cf. 71.45–6 Ys da ŵr yw ei stôr o win, / Ys da wraig … Dywed Rowlands (ibid.: 84) fod gra ‘ffwr’ yn ddisgrifiad anaddas o’r fantell, ond gall fod yn drosiad am yr ymylwe ffris a oedd i’r ffaling (cf. 49–50). Ymddengys i’r fannod yn ’r ystorïwr gael ei hepgor gan y copïwyr hefyd oherwydd y gynghanedd. Gan ei fod yn cyfeirio at storïwr penodol, sef ef ei hun, mae’n briodol ei chynnwys.
47 coel Mae GGl yn rhoi cael ond nid yw’r llawysgrifau hynaf yn cefnogi hynny.
52 gwiwgryf Dyma ddarlleniad pob llawysgrif er bod GGl wedi darllen gwiwgrys.
54 sodan gwych Y darlleniad sadan gwyd a rydd LlGC 3051D ond ni cheir dehongliad ystyrlon i’r cyfuniad hwn. Ymddengys, felly, gan fod sodan yn air anghyfarwydd, i’r copïwyr ei gamddarllen neu ei gamgopïo (efallai gan fod a ac o yn debyg, cf. llinell 5 lle y ceid ar yn lle or). Ceir peth dryswch hefyd yn Llst 122 sy’n darllen sadan gwydd ac yn LlGC 16129D: sadan modd ne sidan main. Dilynir BL 14969 a BL 14976 gyda’r darlleniad sodan gwych a chymryd mai cyfeirio at sodan o’r Ffrangeg soutane ‘gwisg esgob’ y mae’r bardd, gw. 54n sodan (esboniadol).
55 dwyael fy rhodd Dilynir LlGC 3051D vy rhodd. Nid atebir f yn rhan gyntaf y llinell a dichon i’r copïwyr ei hepgor o’r herwydd.
56 o gnwd Cf. LlGC 3051D, ond o gnawd a geir yn X2. Ni welir rheswm dros wrthod darlleniad LlGC 3051D gan fod y bardd yn cyfeirio at wlân y fantell yma.
58 criafonllwyth Ceir dwy ffurf ar y gair cyfansawdd hwn yn y copïau, sef criafonllwyth a criafonllwyn. Mae’r ddau gopi hynaf yn ffafrio criafonllwyth ac nid oes tystiolaeth i gadarnhau criafonllwyn. Gan fod Ieuan Du’r Bilwg yn defnyddio’r trosiad criawl-llwyn wrth ddyfalu ei ŵn coch, efallai i hynny ddylanwadu ar rai copïwyr, gw. Evans 1986: 107.
58 cwrf Y ddau ddarlleniad yw kwrr yn LlGC 3051D a kwrf yn X2. Mae’r darlleniad cwr unlliw yn ystyrlon a chymryd mai disgrifio ymylwe’r fantell unwaith eto a wna’r bardd (cf. 49–50 a 55). Efallai i’r f gael ei hychwanegu gan y copïydd er mwyn y gynghanedd. Ond mae cwrf unlliw hefyd yn ystyrlon gan fod y ddelwedd o’r fantell lliw orengoch, neu, ‘o’r un lliw â chwrw’ yn ddelwedd ystyrlon iawn. Ymhellach, gellir ystyried disgrifiad y llinell flaenorol o’r fantell Crwyn llew o’r cerwyni lliw. Un o’r ystyron yn GPC 469 d.g. cerwyn yw ‘llestr mawr at ddal cwrw …, twb, casgen, baril …’. Ai disgrifio’r fantell fel cwrf wrth ei lliwio mewn casgenni tebyg i gasgenni cwrw a wna’r bardd? Awgrymir, felly, i’r copïydd yn LlGC 3051D gamddarllen y tro hwn a bod angen dilyn y darlleniad cwrf yn X2.
59 Llawngwrid y’m gwŷl uwch llwyngraig LlGC 3051D yn unig sy’n rhoi llwyngraig. Yn BL 14969 a BL 14976 ceir y llinell llown gwrid im gwyl vwch llowngraic. Tybed a gamddarllenwyd llwyn yn llown gan fod llown ar ddechrau’r llinell? Ni cheir enghreifftiau eraill o llwyngraig, ond cf. GGl 64.53 llwyn dail, 40.1 llwyn gwydr, 85.20 llwyn irgoed. Cf. hefyd GHS 12.40 Llwyn gwridog llawn goradain (‘I ofyn ffaling gan Niclas Ysnél’).
Llyfryddiaeth
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Evans, D.H. (1986), ‘Ieuan Du’r Bilwg (fl. c.1471)’, B xxxiii: 101–19
Cywydd yn gofyn am ffaling gan Elen ferch Robert Pilstwn, gwraig Gruffudd ap Llywelyn o’r Llannerch yn Llŷn yw hwn. Mantell allanol fawr a thrwchus o Iwerddon a oedd yn boblogaidd yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif oedd y ffaling. Roedd y rhan fwyaf ohoni wedi ei gwau o gnu tew wedi ei bannu, ac fel addurn ar ei hymylon ceid gwlân bras a chyrliog. Y lliw coch a gysylltir â hi gan amlaf, ond yn ei gwead hefyd yr oedd oren a melyn i roi lliw cynnes orengoch; ymhellach gw. Gwisgoedd: Dillad: Mentyll.
Ymranna’r cywydd yn dair rhan gan ddilyn patrwm confensiynol y cywydd gofyn. Agorir drwy ganmol harddwch a llinach Elen gan ddefnyddio trosiadau (lloer a lleuad) a chyfeiriadau at ei theulu, y Pilstyniaid o Emral (llinellau 7–8). Maent yn deulu uchel eu parch gan Guto ac awgrymir i rai ohonynt weithredu fel barnwyr mewn llys (10 blodau ar fainc). Dychwelir at ganmol rhinweddau Elen ar ddiwedd y rhan gyntaf hon gan bwysleisio meinder ei chorff lluniaidd a’i haelioni (fel santes neu wraig fonheddig) wrth ddarparu gwleddoedd yn ei chartrefi (13–16). Yn y rhan nesaf cymherir Elen i forynion enwog o’r gorffennol sy’n dwyn yr un enw â hi: Elen ferch Coel, Elen gwraig Macsen Wledig ac Elen Fannog o Droea (17–24). Dywed mai Elen o Lŷn yw’r bedwaredd Elen wych a chyfeirir hefyd at ei gŵr, Gruffudd ap Llywelyn. Canmolir haelioni a lletygarwch Elen unwaith eto wrth ddisgrifio’r beirdd fel ei meibion maeth (30).
Canolbwyntia’r bardd ar y rhodd yn rhan olaf y gerdd (31–66). Cawn ddisgrifiadau gwych o’r fantell gan Guto ac fe’u clymir â chymeriad llythrennol gan newid y cymeriad yn fwriadol wrth gyflwyno disgrifiad newydd. Yn gyntaf, gofynnir am y fantell fel rhodd Calan gan addo y caiff Elen gerdd fawl yn gyfnewid amdani (31, 39–40). Dywed sut y dewisiwyd y fantell o’r llwyth o ffalingau oedd ar long a ddaethai o Iwerddon, y mentyll oll wedi eu gwau’n dynn. Wrth ei disgrifio tynnir sylw at nodweddion hynod y fantell, sef y lliw coch, y ffris ar yr ymylwe, ac ansawdd a safon y gwlân. Disgrifir y gwlân cyrliog ar ymylwe’r fantell fel ffwr, [m]wng ceiliog, a gwallt ffris lliw saffrwm. Uchafbwynt y disgrifio yw’r lliw coch, lliw a bwysleisir wrth restru planhigion sy’n adnabyddus am eu lliw coch cynnes: rhosod, egroes (sef ffrwyth y rhosyn gwyllt) ac aeron cochion criawl. Canmolir hefyd drwch a maint y fantell wrth gyfeirio at ei phwysau a’i chymharu i gynffon wyth paun a thrwch y weirglodd. Cyfeiria’r bardd hefyd at y proses o bannu (62) ac o bosibl at y proses o liwio’r brethyn gwlanog cyn ei lunio’n fantell (57–8). Diweddglo’r gerdd yw moliant i’r llong a ddaeth â’r fantell iddo ynghyd â phwysleisio ei berthynas agos ag Elen, yr arglwyddes o’r Llannerch.
Dyddiad
Nid yw’n hawdd dyddio’r cywydd hwn. O ran dyddiadau Elen, ymddengys i’w dyddiad geni tebygol fod yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae’r ffaith i’r bardd ei chanmol yn rhannu medd er yn ferch yn awgrymu nad merch ifanc mohoni bellach. Rhydd Guto ddisgrifiadau ohono ef ei hun fel gwas ac yn llanc cryf a gwych sy’n awgrymu ei fod yn fardd ifanc pan ganodd y cywydd. At hynny, mae ei ddefnydd o’r gynghanedd groes tipyn yn llai na’i gywyddau diweddarach. Awgrymir, felly, iddo ganu’r cywydd cyn neu o gwmpas canol y bymthegfed ganrif.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LXXVIII; Rowlands 1976: 25–6.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 36% (24 llinell, a seingroes yn llinell 45), traws 32% (21 llinell), sain 26% (17 llinell, a sain o gyswllt yn llinellau 6 ac 16 a sain gadwynog yn llinell 48), llusg 6% (4 llinell).
1 Elen Sef Elen ferch Robert Pilstwn, gwraig Gruffudd ap Llywelyn ap Gruffudd.
1 o’r Llannerch Enw cartref Elen a’i gŵr, Gruffudd ap Llywelyn ap Gruffudd, oedd y Llannerch ym mhlwyf Llannor ym Mhen-llŷn. Mae’n bosibl y gellir ei uniaethu â ffermdy Llannerch Fawr a adeiladwyd ar safle tŷ cynharach. Saif y ffermdy ychydig i’r gogledd o bentref Llannor ac y mae’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg pan oedd y stad yn nwylo disgynyddion Elen o hyd, teulu’r Madryn. Mae Llannerch yn digwydd o hyd mewn enwau lleoedd yng Nghymru, a’r enw fel arfer yn arwyddo darn o dir agored mewn coedwig neu borfa.
6 helm gribawg Un o ystyron cribog yn ôl GPC 592 yw ‘crested’, sef math o addurn a roddid ar helm ac weithiau arfbais yr unigolyn i ddynodi statws, gw. Norris 1999: 308, ‘the crest was an ornament placed on the highest point of the helmet, and was a sign of distinction and exalted position’.
6 Robert Tad Elen oedd Robert Pilstwn o Emral ym Maelor Saesneg. Mae’n debyg iddo farw c.1399 neu’n fuan wedi hynny yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr (am y teulu gw. Rhosier ap Siôn Pilstwn a ByCy 768).
7 gwregis eurawg sêr Defnyddir y trosiad sêr yn ganmoliaethus gan y beirdd, ond mae’n debygol mai cyfeirio at arfbais teulu’r Pilstyniaid a wna’r bardd yma. Disgrifir arfbais y teulu yn DWH ii, 476–7, fel tair seren arian pum pig ar gefndir du. Arddangosid arwyddlun herodrol y teulu ar y gwregys i ddynodi statws y teulu. Dynodai gwregysau aur statws marchog, ond ni cheir prawf i Robert Pilstwn gael ei urddo’n farchog.
8 Rhisiart ap Syr Rosier Taid Elen oedd Rhisiart Pilstwn ac ef oedd y noddwr hysbys cyntaf yn Emral, cartref y Pilstyniaid yn Worthenbury, gyda’i wraig, Lleucu ferch Madog Foel o Eglwyseg. Yr oedd yn ei flodau tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg a chredir iddo farw tua 1388 (Charles 1972–3: 22). Ceir cywydd gofyn am delyn iddo gan Ruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed, gw. GSRh cerdd 11.
9 Maelawr Sef cwmwd Maelor Saesneg yng ngogledd-ddwyrain Cymru lle ymsefydlodd y gangen hon o deulu’r Pilstyniaid yn gyntaf yng Nghymru rywbryd cyn 1282 pan dderbyniodd Syr Roger de Puleston diroedd gan Edward I.
10 blodau ar fainc Yr ystyr a roddir yn GPC 288 d.g. blodau2 yw ‘y pennaf, y rhagoraf, pigion, goreuon, dewision’. Cyfeirir at aelodau o deulu Elen a fu’n eistedd ar fainc mewn llys barn ac yn gwrando ar achosion cyfreithiol, gw. GPC 2323 d.g. mainc ‘barnwyr neu ynadon sy’n cydeistedd i wrando achosion cyfreithiol’, cf. 11.
11 penrheithiau Sef arweinydd y ‘rhaith’; corff o ddynion a gadarnhâi lw un o’r pleidiau mewn achos cyfreithiol, neu yn syml ‘arglwydd, pennaeth, arweinydd’, gw. Jenkins 1970: 104–7 a GPC 2757. Cf. DG.net 6.68 Penrhaith ar Ddyfed faith fu (‘Marwnad Llywelyn ap Gwilym’).
12 pwys Fe’i deellir yma i olygu ‘cefnogaeth’, cf. GPC 2953 d.g. pwys1 2(d) ‘hyder, ymddiriedaeth, dibyniaeth’; cf. 94.38 Pwys cyfraith eglwys a’i thad?
13 Gorau hyd, ferch gwrda fain Llinell anodd. Gellir dehongli hyd fel enw (benywaidd) yma, gw. GPC 1958 d.g. hyd 1(b) lle nodir ystyron megis ‘meithder neu faint parhad peth … o ran amser, ystod, ysbaid (hir)’ a nodir bod iddo rym adferfol weithiau. Un dehongliad, felly, ydyw ei fod yn adferf yma. Ond gan fod hyd weithiau’n gallu golygu ‘taldra’, awgrymir bod y bardd yn cyfeirio at ei chorff fel yr un gorau o ran ei siâp lluniaidd; dilynir hynny gan sangiad sy’n pwysleisio meinder ei chorff.
14 nith Owain Roedd Elen yn nith i Owain Glyndŵr gan fod Lowri, ei mam, yn chwaer iddo, gw. Elen ferch Robert Pilstwn.
16 Arglwyddes neu santes oedd Ceir llinell gyffelyb yn GLGC 110.11 Arglwyddes a santes oedd ac yn GDEp 2.5 Arglwyddes, a santes wyd.
18 tair Elen Mae Guto’n uniaethu Elen â thair Elen enwog, topos cyffredin yn y farddoniaeth. Y tair Elen yma yw Elen Fannog, Elen gwraig Macsen Wledig ac Elen ferch Goel, gw. Lewys Môn (GLM XXIV.71–6) a Thudur Aled (TA LXXVI.95–102, cf. XLV.15–18). Cf. y triawd Tair Elen aith o Ynys Brydayn: Elen verch Coil a briodes Constans ym[er]odr Rvayn, ac iddi hi i bv vab, Constans vawr vab Elen, ac hi a ynilloth y Groys vendegayd. Elen verch Evda ap Creadoc ap Bran ap Llyr llediayth. Pan briodes Maxen ap Llywelyn hi aith i Rvffayn gida[g ef]. Elen chwayr Arthur; gw. Bartrum 1965–6: 242–3. Cynrychiola’r tair yn y cywydd hwn rinweddau disgwyliedig mewn uchelwraig: haelioni, harddwch a doethineb, ac mae’r nodweddion oll i’w canfod yn Elen o’r Llannerch.
19–20 Elen Hael … / Merch Goel Elen ferch Coel Hen Godebog oedd yr Elen a aeth ar bererindod i Gaersalem a darganfod yno’r Wir Grog yn ôl y traddodiad. Ceir peth dryswch yn y traddodiad Cymraeg gan y credai rhai mai’r Elen hon oedd mam Custennin Fawr gan ei chymysgu â’r santes Rufeinig, Helena.
20 meirch gwelwon Ni lwyddwyd i ganfod cysylltiad rhwng Elen ferch Coel a meirch gwelwon. Ond cyfeirir at feirch golau yn eithaf aml yn y farddoniaeth (cf. GLlG 1.36 meirch gwelwon a GLGC 96.50 ar ei feirch gwelwon), ac efallai nad cyfeiriad penodol a geir yma ond un i’r perwyl fod meirch gwelw yn fwy prin ac felly’n fwy drud yn yr Oesoedd Canol.
22 Elen, gwraig i Facsen fu Un o brif gymeriadau’r chwedl ‘Breuddwyd Macsen’ oedd Elen Luyddog ferch Eudaf a gwraig Macsen Wledig. Yn y chwedl adroddir sut y gwelodd Macsen Wledig, ymherodr Rhufain, Elen mewn breuddwyd a syrthio mewn cariad â hi, Nyt oed haus edrech arnei na disgwyl noc ar er heul pan vyd taeraf a thecaf rac y theket hitheu, BrM2 3.67–8, gw. TYP3 342–4 a BrM2 27.
23–4 Ac Elen … / Fannog Helen o Droea a elwir hefyd yn Elen Fannog, gw. TYP3 344–5. Rhestrir Elen Fannog yn y Trioedd fel un o’r ‘Tair Gwragedd a gafas pryd Efa’, gw. TYP3 136. Cymysgwyd enw Elen Fannog yn y traddodiad Cymraeg â Helena, mam Custennin Fawr a hefyd ag Elen Luyddog. Gw. ymhellach Rowlands 1960–1: 238.
24 modrwyog Cf. TA II.45–6 Ail un, o fonedd, i Elen Fannog, / Oedd ail em Droea, ddwylaw modrwyog.
27 gra gwyn Ar gra ‘ffwr, pân a ddefnyddid i addurno gwisgoedd’, gw. GPC 1518. Wrth gyfeirio at y ffwr ar ddillad Elen, mae Guto’r Glyn yn tynnu sylw at ei statws uchel a’i chyfoeth gan fod ffwr yn arwydd o gyfoeth, gw. Jones 2007: 141–2, 173; cf. GGLl 9.66 Gwraig wych yn gwisgo gra gwyn. Gw. hefyd Gwisgoedd: Tecstiliau: Ffwr.
28 Gruffudd Gruffudd ap Llywelyn ap Gruffudd (WG1 ‘Meirion Goch’ 2) oedd ail ŵr Elen. Hanai’r teulu o Gastellmarch, Llangïan, Llŷn.
30 meibion maeth Mae Lewys Glyn Cothi yntau’n pwysleisio haelioni gan ddisgrifio’r beirdd fel meibion maeth i noddwyr hael, gw. GLGC 199.13–14.
31 calennig Roedd hi’n arfer anrhegu bardd â dilledyn yn ystod gwleddoedd mawr (Stacey 2000: 340) ac awgryma’r gair [c]alennig yma mai rhodd mewn gwledd ar ddechrau mis Ionawr yw’r fantell arbennig hon, fel nifer o’r ffalingau (gw. Jones 2009: 90). Ond defnyddir y gair hefyd am ‘rodd’ yn gyffredinol, cf. DG.net 15.57–8 Menig, pur galennig, pôr / Mwyn gyfoeth, menig Ifor.
33 margen Un o’i ystyron yn ôl GPC 2360 yw ‘cytundeb, cydymwneud busnes’ a’r ergyd yma yw bod y rhodd o dlws arian a gawsai’r bardd gan Elen yn y gorffennol yn arwydd o gariad a chyfeillgarwch (cf. 34n), nid yn dâl ffurfiol am ei wasanaeth fel bardd. Ar sail y cyfeillgarwch hwnnw, felly, mae’r bardd yn gofyn i Elen am ffaling.
34 cae arian Arfer gyffredin oedd rhoi [c]ae fel arwydd o serch, gan amlaf yn rhodd i’r bardd gan ei gariadferch yn gyfnewid am gerdd. Yma, ymddengys mai tlws gwerthfawr a feddylir gan y gair cae, ond gall hefyd olygu unrhyw fath o wrthrych gwerthfawr, e.e. modrwy, gwregys, broets neu benwisg hyd yn oed, gw. Gwisgoedd: Ategolion: Gemwaith.
34 Tegau Sef Tegau Eurfron, gwraig Caradog Freichfras, gw. TYP3 264–5 a WCD 600–2. Fe’i crybwyllir yn aml gan y beirdd fel patrwm o brydferthwch. Diddorol hefyd yw bod ei mantell yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain, gw. TYP3 258–60, GSH 9.74n, GDEp 11.37–8n, ac yn arbennig Thomas 1970–2: 1–9.
35 Gwyddel Dywed y bardd mai Gwyddel a ddaeth â’r mentyll o Iwerddon i Gymru, sy’n ategu mai mantell o wlân Gwyddelig yw’r rhodd. Cyfeirir hefyd at y cyswllt ag Iwerddon yn y cywyddau eraill sy’n disgrifio’r ffaling, gw. Jones 2009: 88–9.
40 ffaling Benthyciad o’r Wyddeleg Canol (efallai trwy’r Saesneg) fallaing, ‘clog’ neu ‘fantell’, o’r Lladin Canol phalinga, -us, clogyn garw, gw. GPC 1275 ac OED Online s.v. falding, n. Am drafodaeth, gw. Breeze 2000: 112–14; Linthicum 1935: 40. Ceir llawer o ddisgrifiadau o’r ffaling ym marddoniaeth y bymthegfed ganrif, gw. Jones 2009: 85–100.
42 Maharen Aur Cyfeiriad at un o chwedlau cynharaf y Groegiaid sy’n adrodd hanes Iason a’i anturiaethau wrth geisio’r cnu aur, gw. OCD3 154, 361. Cyffredin yw’r gymhariaeth yn y cywyddau am fentyll, cf. GLGC 163.49–50 Yng Nghalcos y dangosynt / Oen ac aur ar ei ŵn gynt; Evans 1986: 170 (1.38) croen evraid …
43 un angel wyf Ergyd y cyfeiriad yw bod y bardd yn ‘unigryw’ yn ei glog ysgarlad coch ac yn well na bodau dynol, cf. TA XX.71. Cyffelybir yr hugan a gafodd Guto’r Glyn gan Rhisiart Gethin i fantell angel yr archangel Mihangel gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, gw. GHS 24.53–6.
44 A wisg gwrlid o sgarlad Cynghanedd groes gytbwys ddiacen gyda’r cytseiniaid -g g- yn gwrthsefyll calediad yn dilyn s, gw. CD 207, 210.
44 sgarlad Benthyciad o’r Hen Ffrangeg escarlate ‘lliw coch disglair ac iddo wawr oren’, GPC 3832. Roedd yn lliw a ddynodai statws uchel, cf. GGLl 12.70 Gwisgo wrls ac ysgarlad.
45 ys da ra Rhaid cymryd bod da yn goleddfu gra oherwydd y treiglad, yn hytrach na’i fod yn draethiad mewn brawddeg enwol, cf. 71.45–6 Ys da ŵr yw ei stôr o win, / Ys da wraig, rhoes Duw’r egin. Am gra, gw. 27n.
49 cyfliw brig Gall cyfliw olygu ‘o’r un lliw’ neu ‘lliw’, gw. GPC 700. Defnyddir brig yn aml i ddisgrifio blaen rhywbeth a thebygol mai’r hyn a ddisgrifia’r bardd yma yw ymylon y gwlân cyrliog ar ochrau’r fantell, gw. GPC 324 d.g. brig (a) ‘blaen llysiau’, cf. CTC 107.43 Barugog yw brig y gŵn.
49 cofl heb wregis Trosiad o’r fantell fel rhywbeth yn cofleidio’r fynwes, gw. GPC 537 d.g. cofl ‘coflaid’. Hoffai’r beirdd gynganeddu cofl + cyfliw, cf. DG.net 154.46, GSCyf 3.6, GIBH 3.13, GLl 5.8.
50 Cwnsallt o saffrymwallt ffris Mantell laes a wisgid dros arfwisg oedd cwnsallt, gw. GPC 644, cf. DG.net 34.37–8 Gwisgo gwe lan amdanaf, / Gwnsallt bybyr harddwallt haf. Disgrifir ei deunydd a’i lliw yma’n saffrymwallt ffris. Cyfuniad o saffrwm a gwallt i gyfeirio at y lliw melyngoch, a ffris, sef math o ‘frethyn tewban cyrliog’. Defnyddir ffris yn aml gan y beirdd i ddisgrifio’r ffaling, cf. GHS 12.46 Ffris a gaiff o ros i gyd; GLGC 163.63 ac ar ffrwst gwisgo’r we ffris.
52 egroes Enw lluosog neu dorfol ar y ffrwyth sy’n tyfu ar blanhigyn y rhosyn gwyllt. Cyfeirir at y ffrwyth (sy’n cael ei alw hefyd yn ‘grawn mieri Mair’ ac ‘aeron marchfieri’) yn aml gan y beirdd i ddisgrifio rhywbeth coch, cf. Evans 1986: 107 (1.28) bron ragrith, brynar egores (‘Cywydd i ddiolch am ŵn coch’).
54 sodan Benthyciad o’r Ffrangeg soutane, ‘gwisg esgob’, gw. OED Online s.v. sotana, n. ‘gown or cassock’. Cofnodir yr enghraifft gynharaf yn OED o’r ffurf sotana yn 1622.
54 sidan gwaun Mae’r bardd yn dyfalu’r fantell i blanhigyn y sidan gwaun, cotton grass neu Eriophorum yn Saesneg. Planhigyn hir ac iddo ben gwyn fel ffwr ydyw ac yn ôl GPC 3270 dyma’r enghraifft gynharaf o’r cyfuniad.
55 dail rhos Cyfeiriad o bosibl at betalau rhosod coch, gw. GPC 879 a cf. dail llwynog am ‘foxgloves’. Os cyfeirir at y dail yn benodol, nid yw’n amhosibl fod dail rhos hefyd yn drosiad sy’n cyfleu ansawdd pigog ymylwe’r fantell, cf. GHS 12.39 Lluest o ros llaes ei drain.
57 cerwyni lliw Math o lestr mawr a ddefnyddid i ddal cwrw neu ryw ddiod arall oedd cerwyn, felly mae’n bosibl mai cyfeirio at gasgenni neu dybiau a ddefnyddid i lifo’r wlanen yw cerwyni lliw, gw. GPC 469 ‘llestr at ddal unrhyw wlybwr’.
58 criafonllwyth Cyfuniad o criafon + llwyth. Aeron coch sy’n tyfu ar y gerddinen yw criafon; cf. Evans 1986: 107 (1.31–2) gweddûs vm, mal i gwyddoch, / gael dwyn y ciriawl-llwyn coch.
59 llawngwrid Enghraifft o ddau ansoddair yn llunio cyfansoddair; ni threiglir yr ail elfen ar ôl llawn, gw. TC 71.
59 llwyngraig Cyfuniad o llwyn a craig, unig enghraifft. Defnyddir craig gan y beirdd i ddynodi safle llys y noddwr, e.e. GGLl 14.66 uwchlaw’r graig (am Nannau). Gall y cyfuniad â llwyn yma gyfeirio at leoliad y Llannerch uwchlaw llwyn o goed a chraig. Posibilrwydd arall yw bod Llwyngraig yn enw lle. Yn ArchifMR d.g. Llwyn-y-graig, rhestrir Llwyn-y-graig ger Cilcain yn sir y Fflint, ond er bod teulu Elen, y Pilstyniaid, yn dod o ogledd-ddwyrain Cymru, ni lwyddwyd i ddarganfod cysylltiad rhynddynt a Chilcain yn benodol.
62 ffynnodd ei phannu Y proses o guro defnydd er mwyn ei lanhau a’i dewhau yw pannu. Mae’r proses fel arfer yn sicrhau bod y defnydd wedi ei ffeltio ac felly’n cadw’n weddol sych mewn tywydd gwlyb. Cyfeirio at y proses hwn y mae’r bardd pan ddywed ei fod ‘wedi llwyddo’ yn achos y fantell dan sylw.
63 cyd Gellir dehongli cyd yma, fel er, i olygu ‘although, even though’, GPC 658 d.g cyd3, neu fel cyhyd ‘as long’, gw. GPC 744. Mae’r ail ystyr yn taro’n well yma.
65 pân Benthyciad o’r Hen Ffrangeg pan(n)e, gw. GPC 2678, ‘Ffwr, ermin, manflew’. Cf. GLGC 154.17–18 Syr Huw a wisg amser haf / y capan pân o’r pennaf.
Llyfryddiaeth
Bartrum, P.C. (1965–6), ‘Arthuriana from the Genealogical Manuscripts’, Cylchg LlGC xiv: 242–3
Breeze, A. (2000), ‘An Irish Etymology for Chaucer’s Falding’, The Chaucer Review, 35: 112–14
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Evans, D.H. (1986), ‘Ieuan Du’r Bilwg (fl. c.1471)’, B xxxiii: 101–19
Jenkins, D. (1970), Cyfraith Hywel: Rhagarweiniad i Gyfraith Gynhenid Cymru’r Oesau Canol (Llandysul)
Jones, A.M. (2007), ‘Gwisgoedd ac Ategolion yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol c.700–c.1600’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Jones, A.M. (2009), ‘ “Val y gwydel am y ffalling”: Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’r Fantell Wyddelig’, LlCy 32: 85–100
Linthicum, M.C. (1935), ‘ “Fadyng” and “Medlee” ’, Journal of English and Germanic Philology, 34: 39–41
Norris, H. (1999), Medieval Costume and Fashion (New York)
Rowlands, E.I. (1960–1), ‘Adolygiad’, LlCy 6: 222–47
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Stacey, R.C. (2000), ‘Clothes Talk from Medieval Wales’, T.M. Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 338–46
Thomas, G.C.G. (1970–2), ‘Chwedlau Tegau Eurfron a Thristfardd, Bardd Urien Rheged’, B xxiv: 1–9
This is a request for a special kind of Irish mantle from Elen daughter of Robert Puleston, the wife of Gruffudd ap Llywelyn of Llannerch, Llŷn. A ffaling was a large, thick outer garment in the shape of a mantle, which was usually produced in Ireland and popular in Wales during the fifteenth century. The mantle was woven in a thick, full fleece and, as a decoration on the edges, a coarse woollen cloth or frieze was used. The ffaling was usually red, but yellow and orange were also used within the weave of the cloth to give a warm, vivid colour, see Costumes: Items of Clothing: Mantles.
The cywydd is in three sections and follows the recognized pattern of a cywydd gofyn (a request poem). Elen’s beauty and lineage is praised in the first section with the use of metaphors (lloer and lleuad ‘moon’) and references to her family, the Pulestons of Emral (7–8). Their reputation is regarded very highly by Guto and he suggests that some members of her family acted as judges in court (10 blodau ar fainc ‘the best of men on the bench’). He returns to praising Elen’s qualities at the end of the first section, noting her slender body and her generosity in providing feasts in her homes. The next section begins with the poet comparing Elen to famous maidens who shared her name: Elen daughter of Coel, Elen wife of Maxen and Elen Fannog of Troy (17–24). Guto names Elen of Llŷn as the fourth great Elen, referring also to her husband, Gruffudd ap Llywelyn. Her hospitality and generosity are again noted by describing the poets as her meibion maeth ‘foster sons’ (30).
The gift of a mantle is the focus of the last section. Indeed, in this part of the poem Guto gives some fine descriptions of the mantle which are brought together with the cymeriad llythrennol (the linking of consecutive lines by means of the same initial letter). When a new description is introduced, the poet deliberately changes the cymeriad. Firstly, he asks for the mantle as a New Year’s gift, promising Elen that she will receive a praise poem in exchange (31, 39–40). He explains how his mantle was chosen out of a shipload of mantles from Ireland, all tightly woven. He describes the mantle specifically, drawing special attention to its characteristic features: its red colour, the fur-like cloth on its edges and the quality and texture of the wool. The coarse woollen frieze on the edges is the abundant growth of a hay-field. He also refers to the fulling process (62) and possibly the process of dyeing the woollen cloth before making it into a mantle (57–8). The poem ends with praise to the ship which delivered the mantle to the poet, as well as noting his close relationship with Elen, the lady of Llannerch.
Date
It is not easy to date this poem. It is possible that Elen was born in the late fourteenth century and that she was therefore quite old when this poem was composed. The fact that Guto praises her for distributing mead ‘since she was a young girl’ seems to confirm that she is no longer young. Guto describes himself as a handsome and strong young man which could possibly mean that he was a young poet at the time. Also, his use of the cynghanedd groes is noticeably less frequent than in his later cywyddau. It is suggested, therefore, that the poem was composed before or around the middle of the fifteenth century.
The manuscripts
This poem occurs in 12 manuscripts. The three oldest copies are LlGC 3051D, BL 14969 and BL 14976 and it is probable that they all derive from the same exemplar (X1 in the stemma), although there are some variations (presumably due to an attempt to ‘correct’ some cynganeddion and difficult readings). LlGC 3051D seems to be the closest copy to the original version of the poem. There are clearly some variant readings in the other early copies, BL 14969 and BL 14976. They are closely related and probably derive from the same source (X2 in the stemma). Pen 152, C 4.10i and CM 12 are possibly copies of BL 14976 and the other copies are dependent on those already discussed.
Previous editions
GGl poem LXXVIII; Rowlands 1976: 25–6.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 36% (24 lines, with a seingroes in line 45), traws 32% (21 lines), sain 26% (17 lines, with a sain o gyswllt in lines 6 and 16 and a sain gadwynog in line 48), llusg 6% (4 lines).
1 Elen Elen daughter of Robert Puleston, the wife of Gruffudd ap Llywelyn ap Gruffudd.
1 o’r Llannerch Llannerch in the parish of Llannor on the Llŷn Peninsula was the home of Elen and her husband Gruffudd ap Llywelyn ap Gruffudd. The medieval house was probably an earlier building on the site known as Llannerch Fawr farm today. The farmhouse stands a little to the north of the village of Llannor and dates to the seventeenth century when the estate was still in the hands of Elen’s descendant, the family of Madryn. Llannerch is a familiar form in Welsh place names, usually meaning a clearing in a forest or a pasture.
6 helm gribawg One of the meanings given for cribog in GPC 592 is ‘crested’, that is, an ornament or device worn on the top of a helmet to signify high status, see Norris 1999: 308, ‘the crest was an ornament placed on the highest point of the helmet, and was a sign of distinction and exalted position’.
6 Robert Elen’s father was Robert Puleston of Emral in Maelor Saesneg. He died c.1399 or soon after the rebellion of Owain Glyndŵr (for the family, see Rhosier ap Siôn Puleston and ByCy 768).
7 gwregis eurawg sêr A reference to the coat of arms of the Pulestons. In DWH ii, 476–7, the family crest is described as three silver stars on a black background. Displaying heraldic symbols on belts and armour was quite common by the fifteenth century. A golden belt was usually worn by knights, but there is no proof that Robert Puleston was knighted.
8 Rhisiart ap Syr Rosier Elen’s grandfather was Richard Puletson and he was the first known patron of poets at Emral, the home of the Pulestons in Worthenbury, with his wife, Lleucu, daughter of Madog Foel of Eglwyseg. He flourished from about the middle of the fourteenth century to 1388 when he died (Charles 1972–3: 22). Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed composed a poem to request a harp from him, see GSRh poem 11.
9 Maelawr The Pulestons first settled in the commote of Maelor Saesneg in north-east Wales some time before 1282 when Sir Roger de Puleston received lands from Edward I.
10 blodau ar fainc For blodau ‘the flower, the prime, best’, see GPC 288 s.v. blodau2. The poet refers to members of Elen’s family who were possibly judges in court, see GPC 2323 s.v. mainc ‘court of law, bench of judge or justice’, cf. 11.
11 penrheithiau The penrhaith was the chief compurgator or the foreman of a jury, or simply ‘chief, head (of the law), lord, sovereign’ see Jenkins 1970: 104–7 and GPC 2757. Cf. DG.net 6.68 Penrhaith ar Ddyfed faith fu ‘he was the chief lawyer of wide Dyfed’ (‘Elegy for Llywelyn ap Gwilym’).
12 pwys Possibly meaning ‘support’ here, cf. GPC 2953 s.v. pwys1 2(d) ‘confidence, trust; dependence’; cf. 94.38 Pwy’r blaenaf, parabl ynad, / Pwys cyfraith eglwys a’i thad? ‘Who is the foremost authority, word of a magistrate, / on church law and its father?’
13 Gorau hyd, ferch gwrda fain, A difficult line. Hyd could be interpreted as a noun meaning ‘extent in time or duration, length or course of time’, see GPC 1958 s.v. hyd1 (b). However hyd can sometimes mean ‘length’ or ‘height’, and it is more likely, therefore, that this is a reference to Elen’s shapely body which is followed by a sangiad emphasizing her slender form.
14 nith Owain Elen was Owain Glyndŵr’s niece; Lowri, Elen’s mother, was his sister, see Elen daughter of Robert Puleston.
16 Arglwyddes neu santes oedd Cf. GLGC 110.11 Arglwyddes a santes oedd ‘she was a lady and a saint’ and GDEp 2.5 Arglwyddes, a santes wyd ‘you are a lady and a saint’.
18 tair Elen Guto identifies Elen with three famous Elens; a familiar topos in the poetry. The three here are Elen daughter of Coel, Elen the wife of Maxen and Elen Fannog of Troy, see Lewys Môn (GLM 24.71–6) and Tudur Aled (TA LXXVI.95–102, cf. XLV.15–18). They represent qualities which are to be expected in a noble lady: generosity, beauty and intelligence; Elen of Llannerch has all of these qualities according to Guto.
19–20 Elen Hael … / Merch Goel Elen the daughter of Coel Hen Godebog went on pilgrimage to Caersalem to discover the Holly Grail, according to tradition. There is some confusion in the Welsh tradition: some believed that this Elen was the mother of Constantine, confusing her with the Roman heroine, Helena.
20 meirch gwelwon No connection was found between Elen daughter of Coel and pale or white horses. However, references to pale horses occur quite frequently in the poetry. This might not be a specific reference, but a suggestion that light-coloured horses were quite rare and therefore more expensive in the Middle Ages.
23 Elen, gwraig i Facsen fu One of the main figures in the narrative ‘The Dream of Maxen’ was Elen Luyddog, daughter of Eudaf and wife of Macsen Wledig or Magnus Maximus. Maxen, the emperor of Rome, dreams of Elen and falls in love with her, see BrM2 3.67–8, TYP3 341–3 and BrM 27.
23–4 Ac Elen … / Fannog Helen of Troy, see TYP3 344–5. Elen Fannog is listed in the Triads as one of the ‘Three Women who received Eve’s Beauty’, see TYP3 136. She is confused often in the Welsh tradition with Helena, the mother of Constantine and also with Elen Luyddog. See further Rowlands 1960–1: 238.
27 gra gwyn For gra ‘fur, ermine’, see GPC 1518. The poets often use the word to denote high status because good-quality fur was expensive in the fifteenth century, see Jones 2007: 141–2, 173; cf. GGLl 9.66 Gwraig wych yn gwisgo gra gwyn ‘a fine woman wearing white fur’. See also Costumes: Textiles: Fur.
28 Gruffudd Gruffudd ap Llywelyn ap Gruffudd (WG1 ‘Meirion G’ 2) was Elen’s second husband. He descended from the family of Castellmarch, Llangïan, Llŷn.
30 meibion maeth Lewys Glyn Cothi also describes the poets as meibion maeth, the ‘foster sons’ of generous patrons, see GLGC 199.13–14.
31 calennig Gift-giving usually occurred during one of the great feasts (Stacey 2000: 340) and the word calennig here suggests that the mantle was a New Year’s gift, see Jones 2009: 90. However, poems of request often use the word calennig for ‘gift’ in general, cf. DG.net 15.57–8 Menig, pur galennig, pôr / Mwyn gyfoeth, menig Ifor ‘the lord’s gloves (a faultless gift), / pleasant wealth, the gloves of Ifor’.
33 margen One of its meanings, according to GPC 2360, is ‘bargain, bargaining, (terms of) contract, deal’. Guto suggests here that the gift of a silver jewel (which he presumably received from Elen in the past) signified the love and friendship between them (cf. 34n) and was therefore not an official payment for his service as a poet. In the same vein he asks for the mantle as a sign of their friendship.
34 cae arian It was a common custom to give a cae as a love token, usually a gift for a poet from his loved one in exchange for a poem. In this case, the cae seems to be a jewel of some sort, but it could also be anything precious, e.g. ring, girdle, brooch or even a headdress. See Costumes: Accessories: Jewellery.
34 Tegau Tegau Eurfron, the wife of Caradog Freichfras, see TYP3 264–5 and WCD 600–2. She is often mentioned in the poetry as an example of beauty. It is also interesting, in relation to this poem, that her mantle was listed as one of the Thirteen Treasures of the Island of Britain, see TYP3 258–60, GSH 9.74n, GDEp 11.37–8n, and especially Thomas 1970–2: 1–9.
35 Gwyddel According to Guto, an Irishman brought these mantles from Ireland to Wales. References to the Irish connection are plentiful in the other poems describing the ffaling, see Jones 2009: 88–9.
40 ffaling A borrowing from the Middle Irish (possibly through the English) fallaing, ‘cloak’ or ‘mantle’, from the Middle Latin phalinga, -u, ‘a coarse cloak’ see GPC 1275 and OED Online s.v. falding, n. Further, see Breeze 2000: 112–14 and Linthicum 1935: 40. There are many descriptions of the mantle in fifteenth-century Welsh poetry, see Jones 2009: 85–100.
42 Maharen Aur A reference to one of the earliest Greek legends which tells the story of Jason and his quest to find the golden fleece, see OCD3 154, 361. This comparison is a topos in poems requesting a mantle, cf. GLGC 163.49–50 Yng Nghalcos y dangosynt / oen ac aur ar ei ŵn gynt; ‘Formerly at Colchis they showed a lamb with gold on its mantle’; Evans 1986: 170 (1.38) croen evraid ‘golden skin’.
43 un angel wyf The poet suggests that he stands out in his scarlet cloak and is therefore superior to human beings, cf. TA XX.71. The cloak he received from Rhisiart Gethin is also described as the mantle of archangel Michael by Ieuan ap Hywel Swrdwal, see GHS 24.53–6.
44 sgarlad A borrowing from the Old French escarlate ‘scarlet cloth (or other rich colour)’, see GPC 3832. It was also a colour which signified high status, cf. GGLl 12.70 Gwisgo wrls ac ysgarlad ‘wearing fur and scarlet’.
45 ys da ra For gra, see 27n.
49 cyfliw brig Cyfliw can mean ‘of the same colour’ or ‘colour’, see GPC 700, and brig is often used to describe the tip end of something. The poet is probably describing the edges or borders of the mantle (in coarse wool), see GPC 324 s.v. brig (a) ‘top of plants’, cf. CTC 107.43 Barugog yw brig y gŵn ‘the borders of the mantle are covered with hoar-frost’.
49 cofl heb wregis A metaphor for the mantle which embraces the body, see GPC 537 s.v. cofl ‘embrace’.
50 Cwnsallt o saffrymwallt ffris A cwnsallt was a long mantle worn over armour, see GPC 644, cf. DG.net 34.37–8 Gwisgo gwe lan amdanaf, / Gwnsallt bybyr harddwallt haf ‘and to wear fine woven web, / a fine cloak of the fair hair of summer’. Its colour and material is described here as saffrymwallt ffris; a combination of saffrwm + gwallt to refer to the yellow/red colour of the mantle and frieze, a type of coarse cloth. Frieze is often used by the poets to refer to the ffaling, cf. GHS 12.46, GLGC 163.63.
52 egroes A plural or collective noun for the hips or berries of the dog-rose. The poets often refer to the fruit to convey the colour red, cf. Evans 1986: 107 (1.28).
54 sodan A borrowing from the French soutane, see OED Online s.v. sotana, n. ‘gown or cassock’, where the earliest example is dated 1622.
54 sidan gwaun The poet describes the mantle as the plant cotton-grass or Eriophorum: a slender plant with a white head of fur-like texture. According to GPC 3270 this is the earliest example.
55 dail rhos A possible reference to the petals of red roses, see GPC 879 and cf. dail llwynog ‘foxgloves’. If this is a specific reference to the petals, it is likely that dail rhos is also a metaphor for the spiky texture on the edges of the mantle, cf. GHS 12.39.
57 cerwyni lliw A cerwyn was a type of large vessel used to hold beer or any other drink, therefore it is possible that Guto is referring to caskets or tubs used to dye the woollen cloth, see GPC 469.
58 criafonllwyth A combination of criafon ‘rowan-berries’ and llwyth ‘load’, cf. Evans 1986: 107 (1.31–2).
59 llwyngraig A combination of llwyn and craig, the latter often used by the poets to denote the location of a patron’s house, e.g. GGLl 14.66 uwchlaw’r graig ‘above the rock’ (a description of Nannau). The combination with llwyn here could refer to the location of Llannerch above a grove of wood and rock. Llwyngraig may also be a place name. Listed in ArchifMR s.v. Llwyn-y-graig is a place near Cilcain in Flintshire, but even though the Pulestons, Elen’s family, came from north-west Wales, I have found no connection between them and Cilcain.
62 ffynnodd ei phannu Pannu is the process of cleansing and thickening cloth by beating and washing it. The process ensures that the material is felted and therefore remains waterproof. Guto claims that this process had been ‘successful’ in the case of his mantle.
63 cyd Cyd could be interpreted as ‘although, even though’, see GPC 658 s.v. cyd3, or ‘as long’, see GPC 744; the second is more suitable here.
65 pân Pân is borrowed from the Old French pan(n)e, see GPC 2678, ‘to line (clothes &c.) with fur, cover with fur’. Cf. GLGC 154.17–18.
Bibliography
Bartrum, P.C. (1965–6), ‘Arthuriana from the Genealogical Manuscripts’, Cylchg LlGC xiv: 242–3
Breeze, A. (2000), ‘An Irish Etymology for Chaucer’s Falding’, The Chaucer Review, 35: 112–14
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Evans, D.H. (1986), ‘Ieuan Du’r Bilwg (fl. c.1471)’, B xxxiii: 101–19
Jenkins, D. (1970), Cyfraith Hywel: Rhagarweiniad i Gyfraith Gynhenid Cymru’r Oesau Canol (Llandysul)
Jones, A.M. (2007), ‘Gwisgoedd ac Ategolion yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol c.700–c.1600’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Jones, A.M. (2009), ‘ “Val y gwydel am y ffalling”: Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’r Fantell Wyddelig’, LlCy 32: 85–100
Linthicum, M.C. (1935), ‘ “Fadyng” and “Medlee” ’, Journal of English and Germanic Philology, 34: 39–41
Norris, H. (1999), Medieval Costume and Fashion (New York)
Rowlands, E.I. (1960–1), ‘Adolygiad’, LlCy 6: 222–47
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Stacey, R.C. (2000), ‘Clothes Talk from Medieval Wales’, T.M. Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 338–46
Thomas, G.C.G. (1970–2), ‘Chwedlau Tegau Eurfron a Thristfardd, Bardd Urien Rheged’, B xxiv: 1–9
Cywydd Guto i ofyn am ffaling yw’r unig gerdd i Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch yn Llŷn (gw. cerdd 53). Rhoes disgynyddion Elen nawdd i Hywel Rheinallt ac i Lewys Daron (GLD cerddi 1–3 a thudalen 92).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Puleston’, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5 a ‘Meirion Goch’ 2. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch
Un o blant Robert Pilstwn o Emral a Lowri ferch Gruffudd Fychan o Lyndyfrdwy oedd Elen Pilstwn (fe’i gelwir hefyd yn Elin ac Eleanor Puleston, gw. WG1 ‘Puleston’). Derbyniodd un o’i chyndeidiau, Syr Roger de Puleston, dir gan Edward I ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac erbyn y bymthegfed ganrif roedd teulu’r Pilstyniaid yn un o deuluoedd mwyaf awdurdodol a phwerus y gogledd-ddwyrain. Priododd aelodau o’r teulu i mewn i deuluoedd brodorol grymus, megis tad Elen, Robert Pilstwn, a briododd Lowri, chwaer i Owain Glyndŵr.
Rhoir dyddiad geni Elen tua 1370 yn achresi Bartrum. Roedd yn briod â’i hail ŵr, Gruffudd ap Llywelyn, pan ganodd Guto ei gywydd iddi (am ei gŵr cyntaf, Gronw ab Ieuan o’r Gwynfryn yn Llŷn, gw. Gresham 1973: 19). Ymgartrefodd gyda Gruffudd yn y Llannerch ym mhlwyf Llannor (hi oedd ei drydedd wraig). Ni wyddom lawer amdano ac eithrio ei fod yn ddisgynnydd i Feirion Goch, arglwydd y Rhiw a Chastellmarch yn Llŷn (WG1 ‘Meirion Goch’ 2). Ganwyd iddynt dair merch, sef Annes, Marged a Chatrin. Roedd Marged yn briod â Madog ap Ieuan o Flodfel (WG1 ‘Gollwyn’ 5). Roedd Elen yn chwaer yng nghyfraith i Edward ap Dafydd o Fryncunallt, a briododd ei chwaer, Angharad; roedd Elen hefyd yn fodryb i Rosier ap Siôn Pilstwn ac i Siôn ap Madog Pilstwn.
Llyfryddiaeth
Gresham, C.A. (1973), Eifionydd: A Study in Landownership from the Medieval Period to the Present Day (Cardiff)