Chwilio uwch
 

Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, fl. c.1444–m. 1469

Canodd Guto gywydd mawl i Rosier ap Siôn Pilstwn (cerdd 74), ac felly hefyd Lewys Glyn Cothi a Gutun Owain (GLGC cerdd 213; GO cerdd LIII). Canodd Gutun Owain gywydd i ofyn cledd gan fab Rhosier, Mathau Pilstwn (ibid. cerdd XVII; ni cheir enw Mathau yn yr achresi, ond mae’n bur eglur ei fod yn fab i noddwr Guto). Ceir cywyddau mawl gan Hywel Cilan ac Ieuan ap Tudur Penllyn i gefnder Rhosier, Edward ap Madog Pilstwn (GHC cerdd XXIII; GTP cerdd 42), a chanwyd nifer o gerddi i gefnder arall iddo, Siôn ap Madog Pilstwn, ac i’w ddisgynyddion yntau. At hynny, canodd Guto gywydd i ofyn ffaling (cerdd 53) gan fodryb Rhosier, Elen ferch Robert Pilstwn. Nid yw’n eglur pwy’n union yw’r Gruffudd Hanmer a’r Rhosier ap Siôn a enwir mewn cywydd gan Hywel Cilan (GHC cerdd XXV), ond mae’n debygol mai noddwr Guto yw’r ail.

Ceir y gerdd hysbys gynharaf i aelod o deulu’r Pilstyniaid gan Ruffudd Fychan ap Gruffudd, a gyflwynodd gywydd i hendaid Rhosier, Rhisiart ap Syr Rhosier Pilstwn o Emral, yn gofyn am delyn (GSRh cerdd 11). Canwyd nifer fawr o gerddi i Bilstyniaid yr unfed ganrif ar bymtheg gan lu o feirdd, yn cynnwys Siôn Trefor, Siôn Cain, Wiliam Llŷn, Simwnt Fychan, Gruffudd Hiraethog, Tudur Aled, Lewys Môn, Mathau Brwmffild, Lewys Morgannwg a Lewys Daron.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5, ‘Hanmer’ 1, ‘Osbwrn’ 2, ‘Puleston’; WG2 ‘Puleston’ C ac C1; GO cerdd XVII. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Rosier mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral

Gwelir bod Rhosier yn perthyn i nifer o noddwyr blaenllaw’r gogledd. Ar ochr ei dad roedd yn gefnder i Siôn ap Madog Pilstwn o Hafon-y-wern ac yn nai i Angharad wraig Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Rhoes ei fodryb Elen nawdd i Guto ac roedd modryb arall iddo, Annes, yn wraig i Dudur Fychan, hanner brawd i Wiliam Fychan o’r Penrhyn. Roedd ei fam yn gyfnither i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. At hynny, roedd ei chwaer, Marged, yn briod â Dafydd, mab Ieuan ab Einion o’r Cryniarth.

Fel y gwelir, bu Rhosier yn briod ddwywaith, ond ceir yn achresi Bartrum fanylion perthynas arall ddibriod a gafodd gyda gwraig o’r enw Marged ferch Iorwerth. Cawsant chwech o blant.

Ei deulu a’i yrfa
Roedd y Pilstyniaid, megis y Salbrïaid, y Conwyaid a’r Hanmeriaid, yn noddwyr o bwys yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Disgynnent o Syr Roger de Puleston, brodor o Puleston yn swydd Amwythig a gafodd dir gan Edward I yn Emral ym Maelor Saesneg, lle ymsefydlodd cyn 1283 (Charles 1972–3: 3, 22). Priododd taid Rhosier, Robert Pilstwn, â Lowri ferch Gruffudd Fychan o Lyndyfrdwy, chwaer i Owain Glyndŵr. Ymladdodd Robert yn y gwrthryfel ym mhlaid Owain.

Yn ôl achresi Bartrum, perthynai Rhosier i’r genhedlaeth a anwyd tua 1400. Profwyd ewyllys ei dad, Siôn, ar 17 Ebrill 1444, felly mae’n bur debygol fod Rhosier yn fyw bryd hynny. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau brwydrodd ar ochr y Lancastriaid, gan ddal castell Dinbych fel dirprwy gwnstabl i’w berthynas, Siasbar Tudur, yn ystod ymgyrch 1460–1 (gyda Siôn Eutun), ac yn 1463 a 1464 bu ef a’i dad yn arwain y Lancastriaid yng ngogledd Cymru. Derbyniodd, er hynny, bardwn gan Edward IV ym Mawrth 1469 (Evans 1995: 70, 72, 84, 156, 89, 90, 102; GO 280). Y tebyg yw mai ef a enwir fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun ym mis Gorffennaf 1461, pan dderbyniodd gomisiwn ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Siôn Hanmer, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51). Bu farw yn 1469. Ymhellach ar y Pilstyniaid, gw. ByCy Ar-lein s.n. Puleston (Teulu).

Llyfryddiaeth
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)