Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn chwe llawysgrif, un o drydydd chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg (Ystad Mostyn A1), dwy o ail chwarter yr ail ganrif ar bymtheg (LlGC 21248D, Llst 123), un o drydydd chwarter y ddeunawfed ganrif (C 4.110) a dwy o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (C 1.20, LlGC 760D). Testunau annibynnol ar ei gilydd a geir yn Ystad Mostyn A1, LlGC 21248D a C 4.110, ac ymddengys bod y rhain yn tarddu o gynsail gyffredin. Gan fod y testun o leiaf ddeuddeg llinell yn fyrrach na hyd arferol cywyddau Guto, mae’n debyg fod y gynsail honno’n ddiffygiol, ac mae lle i gredu bod ambell ddarlleniad ynddi yn llwgr hefyd (gw. nodiadau 1–2 ac 13 isod). Mae darlleniadau Ystad Mostyn A1 yn rhagori mewn mannau (gw. nodiadau 8, 30 a 38 isod), ac mae’n bosibl bod y ddwy lawysgrif arall un cam yn bellach oddi wrth y gynsail. Mae Llst 123 yn gopi o Ystad Mostyn A1, ac mae’n werthfawr gan fod y ddau gwpled cyntaf yn eisiau yn honno. Seiliwyd y testun golygyddol ar Ystad Mostyn A1, LlGC 21248D a C 4.110.
Trawsysgrifiadau: LlGC 21248D, Ystad Mostyn A1 a C 4.110.
1–2 hynwyf / … ydd wyf Dyma ddarlleniad LlGC 21248D; gthg. Llst 123 hennwydd / … y ddwydd, C 4.110 henwyd / … ydd wyd, darlleniadau sydd efallai’n adlewyrchu’r hyn a geid yn y gynsail. Ceir y gair henwydd (gw. GPC 1854) ond nid y ffurf ferfol wydd fel ail berson unigol presennol mynegol bod. O ran ffurf, gallai henwyd fod yn ail berson unigol presennol mynegol y ferf hanfod (gw. GMW 147) ond nid yw’r ystyr yn taro a gwell yw wyf LlGC 21248D yn y cyd-destun nag wyd.
6 a’r C 4.110 yn unig sy’n cefnogi darlleniad GGl, A’i.
8 na Felly Ystad Mostyn A1; gthg. LlGC 21248D a C 4.110 Ni. Os darllenir yr ail, gwneir y cymal yn un amodol, ond mwy naturiol yn y cyd-destun yw’r gorchmynnol; cf. 31 Canen’, molen’ y milwr.
13 cyweiriad Mae darlleniadau’r llawysgrifau i gyd yn anfoddhaol yn y fan hon. Mae hyn yn seiliedig ar LlGC 21248D. Ceir ceidwad trwm yn Ystad Mostyn A1 a C 4.110 (a cf. GGl), a rhydd hynny gynghanedd wallus a llinell fer o sillaf. Ond mae’n debyg mai dyna oedd darlleniad y gynsail, ac mai ymgais i gywiro’r llinell yw darlleniad LlGC 21248D, kair ai waew trwm, sy’n wan o ran synnwyr ac yn gadael cael yn y llinell nesaf yn ddigyswllt. Mentrwyd diwygio, felly, gan adfer cynghanedd a hyd y llinell a rhoi synnwyr boddhaol, sef ‘diwygiad sylweddol i’r llys [yw] cael Nudd Twrcelyn iddo’. Er nad yw cyweiriad yn digwydd yn yr ystyr hon cyn Geiriadur William Salesbury (gyda’r Saesneg ‘reparation’), fe’i ceir yn yr ystyr ‘darparwr’ gan Huw Cae Llwyd, GHCLl III.39.
13 cwrt Gthg. GGl cwm nad yw yn y llawysgrifau nac yn rhoi cynghanedd.
20 dorrai’r Gellid dilyn LlGC 21248D a hepgor y fannod. Llwgr yw darlleniad C 4.110 yma, Un dewi ei dorch.
21 yn rhoi Mae darlleniad LlGC 21248D, iw roi, yn bosibl hefyd, gan gyfeirio at y dorch.
22 Ieuan LlGC 21248D ievan (cf. Ystad Mostyn A1 Ifan). C 4.110, O fron, a ddilynwyd yn GGl. Ar Ieuan, gw. y nodyn esboniadol cyfatebol.
22 henllwyd Felly LlGC 21248D ac Ystad Mostyn A1. C 4.110 hen-llin (a cf. GGl). Rhydd darlleniad C 4.110 synnwyr boddhaol, ond gwell dewis tystiolaeth ddiogelach y llawysgrifau eraill.
24 moler un Felly LlGC 21248D a C 4.110. Yn GGl darllenir Molwn ŵr, cf. Ystad Mostyn A1 molen wr, ond rhydd gynghanedd wallus.
25 cryf a dyf yw Dafydd Felly LlGC 21248D ac Ystad Mostyn A1 (kry ady). Yn C 4.110 ceir gwyn a dyn adenydd, a dilynwyd hyn yn GGl ond ni rydd gystal synnwyr.
29 ganiadau Felly LlGC 21248D. Gthg. Ystad Mostyn A1 ganiadu, C 4.110 gam a dŷn glân.
30 garllydan Felly Ystad Mostyn A1 (cf. GGl gâr llydan). Yn LlGC 21248D a C 4.110 ceir gair llydan, sy’n bosibl o’i ddeall yn gyfeiriad at glod Dafydd, ond hwn yw’r darlleniad anos ac mae’n ddisgrifiad priodol o garw nerthol.
33 canu’r wyf Mae darlleniad Ystad Mostyn A1, kanv yr wyr, yn ddeniadol gan fod Guto wedi sôn am ei wasanaeth i daid Dafydd ar ddechrau’r cywydd, ond mae’n debyg fod C 4.110 Canu’r wy yn adlewyrchu darlleniad y gynsail (cf. LlGC 21248D kanv wyf), ac mai diwygiad y copïydd oedd wyr.
34 cyn C 4.110 A, a ddilynir yn GGl ond ni rydd gystal synnwyr gan nad yw Guto wedi gweld Dafydd ap Gwilym eto, cf. cynnar yw ym yn y llinell flaenorol.
35 fy nhiriogaeth LlGC 21248D a C 4.110 fynhiriogfaeth. Yn narlleniadau y rhain gosodwyd f ar ôl yr g i gyfateb i’r f yn nhrigfan ond cwbl artiffisial yw hynny. Dichon yr yngenid yr f yn nhrigfan yn lledlafarog; cf. 9.45 Dued yw ynys Deifi!
38 gweilch Dilynir Ystad Mostyn A1 yma yn erbyn LlGC 21248D a C 4.110. At y nawdd a dderbyniai Guto gan dad a thaid Dafydd y cyfeirir.
41 od af, o deuaf Felly LlGC 21248D a cf. darlleniad Ystad Mostyn A1 Oda odeva. A da o deuaf a geir yn C 4.110 ond ni rydd gystal cystrawen na synnwyr.
Cywydd o fawl yw hwn i Ddafydd ap Gwilym o blasty Llwydiarth yng nghwmwd Twrcelyn, Môn. Ymddengys fod Dafydd yn ifanc ac yn filwr pan ganodd Guto’r cywydd hwn iddo (gw. llinellau 13, 24–6, 31 a cf. Wiliam 1991: 7); o ran hynny, milwr oedd ei dad, yntau, meddai Tudur Penllyn (gw. GTP 23.25–6). Ymddengys hefyd i Guto, yn anghyffredin braidd, ganu cyn gweld Gwilym (33–4).
Mae’r gerdd yn fyr (44 llinell) o’i chymharu â’r rhan fwyaf o gerddi Guto, ac mae’n debyg mai’r rheswm am hynny yw bod cynsail gyffredin y llawysgrifau yn ddiffygiol a bod rhan neu rannau o’r gerdd ar goll.
Dyddiad
Perthynai Dafydd, yn ôl Bartrum, i’r genhedlaeth a anwyd tua 1430, ac fel y dywedwyd, roedd yn ifanc adeg cyfansoddi’r cywydd. Gellir cynnig, felly, mai tua 1450–5 y canodd Guto ef. Byddai hynny’n gyson â’r cyfeiriad at daid Dafydd, oherwydd gwyddys bod hwn yn ei fedd erbyn canu’r cywydd (gw. 3–6) a buasai farw yn Ionawr 1450/1 ar ôl gyrfa hir (Wiliam 1991: 43; Carr 1982: 217).
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXVI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 44 llinell.
Cynghanedd: croes 52% (23 llinell), traws 20.5% (9 llinell), sain 20.5% (9 llinell), llusg 7% (3 llinell).
2 Dafydd o Ddafydd Dull byr o ddweud Dafydd ap Gwilym ap Dafydd.
3 patent Fe’i hyngenir ‘patend’ ar gyfer y gynghanedd: cf. 22.15 Er meddiant Alecsander.
3–6 Yr oedd batent … / … / … i Wilym Dywed Guto fod taid (3 hendad) Dafydd ap Gwilym wedi ei freinio (hynny yw, Guto) â thir a thai trwy batent (sef dogfen swyddogol yn rhoi hawl neu fraint, gw. GPC 2701) cyn i Wilym farw ac wedi rhoi sêl (6) y patent i Wilym. Tebyg na ddylid deall dim o hyn yn llythrennol. Fel y dywedir yn GGl 332, ‘Honna Guto iddo gael patent ar dir y taid; mai ef a gafodd yr holl eiddo, ond bod y sêl wedi ei rhoi i’r mab, rhyw arwydd o’i hawl i gyfrannu! Dull arall o ddweud y câi’r bardd a fynnai ganddo.’
9 tenant Cf. deiliad yn 1.
11 Twrcelyn Y cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Môn yr oedd Llwydiarth yn brif lys iddo, gw. WATU 216, 257.
12 Nid rhan deg ond trwy un dyn Hynny yw, un dyn yn unig sy’n rhannu’n deg / yn rhoi’n dda yn Nhwrcelyn, sef Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth.
14 Nudd Sef Nudd ap Senyllt, a oedd, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–7, 464–6; WCD 509.
15–16 Ni bu … / … barwniaid Canmolir Dafydd ap Gwilym, mewn dull braidd yn drofaus, am gyflawni dyletswydd uchelwr tuag at y tlodion ac am ei dras.
18 Cynwrig a Meurig Yn ôl GGl 332, Cynfrig ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth, hen hen hendaid Dafydd ap Gwilym (gw. WG1 ‘Carwed’ 2), a olygir wrth Cynwrig. Ond yn ôl Wiliam 1991: 43, llystad Dafydd ydyw, sef ail ŵr ei fam Elen, gw. WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1). Yn ôl Wiliam hefyd, Meurig ap Llywelyn ap Hwlcyn, ewythr Dafydd, brawd ei fam Elen, yw Meurig. Gellid dadlau, er hynny, mai Meurig Llwyd o Nannau a olygir gan fod Elen yn ddisgynnydd iddo trwy ei mam Mali, gw. WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1), WG1 ‘Iarddur’ 5, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, a chyfeiria Lewys Glyn Cothi at y cyswllt hwn mewn cywydd i Elen i ofyn iddi am huling gwely lle dywed ei bod o frig Meurig tir Meirion (GLGC 227.11). Anodd yw penderfynu ond, yn wyneb arfer gyson y beirdd o enwi hynafiaid eu noddwyr, ymddengys yn fwy tebygol mai Cynwrig ab Iorwerth Fychan a Meurig Llwyd a olygir.
19 llwyth Hywel Gorhendaid Dafydd ap Gwilym ar ochr ei dad, Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (ar Gynwrig, gw. 18n), gw. WG1 ‘Carwed’ 2. Yn ôl Carr (1982: 216), hwn oedd gwir gychwynnydd llinach Llwydiarth.
19 llath haearn Efallai mai ‘gwaywffon’ a olygir; cf. 13 [g]wayw. Awgrymir bod traddodiad milwrol yn y teulu (fel, yn wir, y disgwylid yn achos pob teulu uchelwrol), ac yr oedd Dafydd ap Gwilym yn filwr (24, 31). Â’r llinell, cf. 100.6 Llwyth Iarddur, â’r llath hirddu.
20 A dorrai’r dorch yn dair darn Roedd gan Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (gw. 19n llwyth Hywel) dri mab, Ieuan, Cynwrig a Llywelyn, gw. WG1 ‘Carwed’ 2, ac mae’n debyg fod hyn yn cyfeirio at rannu’r dreftadaeth rhyngddynt. Cadwyn o fetel cyfrodedd a wisgid am y gwddf neu’r fraich oedd torch, ac fe’i defnyddir yma’n ffigurol am etifeddiaeth werthfawr.
20 tair darn Gwrywaidd yw cenedl darn gan amlaf ond gall fod yn fenywaidd hefyd, gw. GPC 896.
21 Ierwerth Ddu Iorwerth Ddu ab Iorwerth ap Gruffudd, sef un o gyndeidiau Dafydd ap Gwilym ar ochr ei fam, gw. WG1 ‘Hwfa’ 7, 8. Dau fab a nodir iddo, felly nid yw ‘rhoi wrth wyth’ i’w ddeall yn llythrennol.
22 Ieuan Hendaid Dafydd ap Gwilym ar ochr ei dad, Ieuan ap Hywel ap Cynwrig, gw. WG1 ‘Carwed’ 2.
25–6 a dyf … / … fydd Awgryma hyn nad oedd Dafydd wedi gorffen tyfu yn gymdeithasol – neu fynd o nerth i nerth – eto.
26 Môn mam Gymru Cf. sylw enwog Gerallt Gymro yn y ‘Disgrifiad o Gymru’, Jones 1938: 176, ‘Dywedir megis y gallai mynyddoedd Eryri fod yn ddigon o borfeydd i holl yrroedd Cymru i gyd pes cesglid hwy i’r un man, felly hefyd y gallai ynys Fôn, oherwydd ei ffrwythlondeb mewn cnydau gwenith, ddigoni holl Gymru am amser. Ac felly, arferir dywedyd yn Gymraeg, “Môn, Mam Cymru”.’
39 i Fe’i llyncir gan mi ond mae’n bosibl nad oedd yno’n wreiddiol gan y ceid cystrawen gyda berfau’n dynodi symudiad lle hepgorid arddodiad a threiglo’r gyrchfan, gw. GMW 19; TC 227–8; GLl 4.33n a cf. 32.1–2 Brysiaf, lle mae browysedd, / Brys mawr, lys Euas y medd. Os felly, gellid ei ddeall yn ymgais gan gopïwr diweddarach i ddiwygio llinell nad oedd ei hystyr yn eglur iddo.
39 Llannerch-y-medd Canolfan fasnach ger llys Llwydiarth.
44 enaid Gall olygu ‘cyfaill’ hefyd, megis ynglŷn â noddwr bardd, felly chwaraeir ar ystyron.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Jones, T. (1938) (cyf.), Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru (Caerdydd)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)
This is a cywydd of praise to Dafydd ap Gwilym of Llwydiarth in the commote of Twrcelyn, Anglesey. It appears that Dafydd was young and a soldier when Guto addressed this poem to him (see lines 13, 24–6, 31 and cf. Wiliam 1991: 7); for that matter, his father too, according to Tudur Penllyn, was a soldier (see GTP 23.25–6). It appears that Guto, rather unusually, sang the poem before seeing Gwilym (33–4).
The poem is short (44 lines) for one of Guto’s poems, and the reason for that is probably that the common source from which the manuscript texts derive was defective and that part or parts of the poem were missing.
Date
According to Bartrum, Dafydd was of the generation born around 1430, and as stated above he was young when the poem was composed. It may be suggested therefore that Guto presented it about 1450–5. That would be in keeping with the reference to Dafydd’s grandfather, who is known to have been in his grave by the time the poem was sung (see 3–6) and who had died in January 1450/1 after a long career (Wiliam 1991: 43; Carr 1982: 217).
The manuscripts
The poem has been preserved in five manuscripts from the seventeenth to the nineteenth centuries which can be derived from a common written exemplar. The edited text is based on the three earliest ones, LlGC 21248D, Llst 123 and C 4.110.
Previous edition
GGl poem XXXVI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 44 lines.
Cynghanedd: croes 52% (23 lines), traws 20.5% (9 lines), sain 20.5% (9 lines), llusg 7% (3 lines).
2 Dafydd o Ddafydd A brachylogy for Dafydd ap Gwilym ap Dafydd.
3 patent It is pronounced ‘patend’ for the sake of the cynghanedd: cf. 22.15 Er meddiant Alecsander ‘Not for all the might of Alexander’.
3–6 Yr oedd batent / … / … i Wilym Guto says that Dafydd ap Gwilym’s grandfather (3 hendad) had invested him (i.e., Guto) with land and houses by means of a patent (an official document conferring an entitlement or privilege, see GPC 2701) before Gwilym died and had given the sêl (6) of the patent to Gwilym. Probably none of this should be understood literally. As stated in GGl 332, ‘Guto claims that he received a patent on the land of his grandfather; that he received the whole property, but that the seal had been given to his son, a sign of his right to give! Another way of saying that the poet could have whatever he wanted from him.’
9 tenant Cf. deiliad in 1.
11 Twrcelyn The commote in north-east Anglesey of which Llwydiarth was the chief court, see WATU 216, 257.
12 Nid rhan deg ond trwy un dyn I.e., only one man shares fairly / gives well in Twrcelyn, namely Dafydd ap Gwilym of Llwydiarth.
14 Nudd Nudd ap Senyllt, who, together with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and regarded by the poets as a paragon of generosity, see TYP3 5–7, 464–6; WCD 509.
15–16 Ni bu … / … barwniaid Dafydd ap Gwilym is praised, in a rather clumsy way, for fulfilling an aristocrat’s duty towards the poor and for his lineage.
18 Cynwrig a Meurig According to GGl 332, Cynwrig signifies Cynfrig ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth, the great-great-great-grandfather of Dafydd ap Gwilym (see WG1 ‘Carwed’ 2). According to Wiliam 1991: 43, however, he is Dafydd’s stepfather, namely the second husband of his mother Elen, see WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1). Also Meurig is to be identified with Meurig ap Llywelyn ap Hwlcyn, uncle of Dafydd, brother of his mother Elen (ibid.). It could nonetheless be argued that Meurig Llwyd of Nannau is meant since Elen was descended from him through her mother Mali, see WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1), WG1 ‘Iarddur’ 5, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, and Lewys Glyn Cothi refers to this connection in a cywydd to Elen asking her for a bed cover where he states that she is o frig Meurig tir Meirion ‘sprung from Meurig of the land of Meirion’ (GLGC 227.11). It is difficult to decide which is the case but in view of the poets’ consistent practice of naming their patrons’ forbears, it appears more probable that the poet means Cynwrig ab Iorwerth Fychan and Meurig Llwyd.
19 llwyth Hywel Dafydd ap Gwilym’s great-great-grandfather on his father’s side, called Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (on Cynwrig, see 18n), see WG1 ‘Carwed’ 2. According to Carr (1982: 216), he was the true founder of the Llwydiarth line.
19 llath haearn Perhaps ‘spear’; cf. 13 [g]wayw. It is suggested that the family had a military tradition (as, indeed, would be expected in the case of every aristocratic family), and that Dafydd ap Gwilym was a soldier (24, 31). With the line cf. 100.6 Llwyth Iarddur, â’r llath hirddu ‘Iarddur’s tribe, with the long, black spear’.
20 A dorrai’r dorch yn dair darn Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (see 19n llwyth Hywel) had three sons, Ieuan, Cynwrig and Llywelyn, see WG1 ‘Carwed’ 2, and this probably refers to the division of the inheritance, represented symbolically by the torque, a traditional ornament of twisted metal worn around the neck or arm.
20 tair darn The gender of darn is usually masculine but it can also be feminine, see GPC 896.
21 Ierwerth Ddu Iorwerth Ddu ab Iorwerth ap Gruffudd, one of the ancestors of Dafydd ap Gwilym, see WG1 ‘Hwfa’ 7, 8. Only two sons are recorded, so the reference to dividing between eight is not to be taken literally.
22 Ieuan Dafydd ap Gwilym’s great-grandfather on his father’s side, Ieuan ap Hywel ap Cynwrig, see WG1 ‘Carwed’ 2.
25–6 a dyf … / … fydd This suggests that Dafydd had not yet ceased to increase socially or go from strength to strength.
26 Môn mam Gymru Cf. Gerald of Wales’s famous words in his ‘Description of Wales’, Jones 1938: 176, ‘It is said that, just as the mountains of Snowdonia could supply sufficient grazing for all the herds of Wales if they all gathered to the same place, so too could the isle of Anglesey, because of its fertility in wheat crops, satiate the whole of Wales for a while. And so it is customary to say in Welsh, “Anglesey, Mother of Wales”.’
39 i It is absorbed by mi but it was possibly not there originally since a construction existed with verbs denoting motion where the preposition was omitted and the object of destination lenited, see GMW 19; TC 227–8; GLl 4.33n and cf. 32.1–2 Brysiaf, lle mae browysedd, / Brys mawr, lys Euas y medd ‘I am hurrying, where there is revelry, / a big hurry, to the court of Ewyas of the mead’. If so, it could be understood as an attempt by a later scribe to emend a line that he did not fully understand.
39 Llannerch-y-medd A market centre near the court of Llwydiarth.
44 enaid It can mean ‘friend’ too, as with regard to a patron, so there is a play on meaning.
Bibliography
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Jones, T. (1938) (cyf.), Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru (Caerdydd)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)
Un gerdd fawl yn unig (cerdd 62) a gadwyd gan Guto i Ddafydd ap Gwilym, ond cadwyd cerddi iddo gan rai beirdd eraill. Canodd Tudur Penllyn gywydd mawl i Ddafydd lle gofynnir cymod gan ei fam, Elen (GTP cerdd 23), a chanodd Lewys Glyn Cothi awdl farwnad iddo (GLGC cerdd 228). Canodd Lewys gywydd i ofyn huling gwely i Elen (ibid. cerdd 227) a cheir cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd i Elen a’i hail ŵr, Cynwrig ap Dafydd (DE cerdd XLV; ar Gynwrig, gw. Huw Lewys). At hynny, ceir cywyddau marwnad i daid Dafydd, Dafydd ab Ieuan, gan Ddafydd ab Edmwnd a Hywel Cilan (DE cerdd XLI; GHC cerdd XX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Carwed’ 2, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, ‘Hwfa’ 8, ‘Iarddur’ 5; WG2 ‘Carwed’ 2B, ‘Hwfa’ 8C1. Dangosir mewn print trwm wŷr a enwir gan Guto yn ei gywydd i Ddafydd, a thanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth
Gwelir bod Dafydd yn nai i Huw Lewys o Brysaeddfed ac yn perthyn o bell i Meurig Fychan ap Hywel Selau o Nannau, dau o noddwyr Guto.
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn byw ym mhlasty Llwydiarth yng nghwmwd Twrcelyn yng ngogledd-ddwyrain Môn. Perthynai Llwydiarth i blastai Bodsilin, Bodedern, Prysaeddfed a’r Chwaen yng nghwmwd Llifon yng ngorllewin Môn, gan fod mam Dafydd, Elen, yn ferch i Lywelyn ap Hwlcyn (GGl 323). Buasai hynafiaid Dafydd, o amser ei gyndaid Iorwerth Fychan ab Iorwerth yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn rhaglawiaid a rhingylliaid yn Llwydiarth. Bu Dafydd yn rhingyll yn 1472–3 yn ogystal â ffermio Penrhosllugwy a Nantmawr a thiroedd siêd yn Amlwch y buasai ei daid yn eu ffermio gynt (Carr 1982: 216–17). Bu hefyd yn cyflawni gwasanaeth milwrol (cerdd 62 (esboniadol) a 19n). Ei wraig oedd Efa ferch Rhys o Blasiolyn yn Ysbyty Ifan a Lowri ferch Hywel, a bu iddynt amryw o feibion a merched (GTP 121; Wiliam 1991: 7). Gall mai tua 1480 y bu farw (ibid. 7).
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)