Y llawysgrifau
Ceir pedwar copi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau, ond seiliwyd y golygiad ar un testun yn unig, sef eiddo BL 14967 (gw. y stema). Copïwyd dros ugain o gerddi Guto gan law anhysbys yn rhan gyntaf y llawysgrif honno, a rhai ohonynt ynghyd. Ond ar ei phen ei hun, o safbwynt awduraeth a genre, y cofnodwyd y gerdd hon, sy’n awgrymu iddi gael ei chodi o gynsail annibynnol (cywyddau serch gan Ddafydd ab Edmwnd a Thudur Aled a gopïwyd y naill ochr iddi, gw. DE cerdd I a TA cerdd CXXV). Copïwyd saith cerdd arall o eiddo Guto ar eu pen eu hunain yn y llawysgrif, a saif y testunau hynny’n aml ar wahân i draddodiadau llawysgrifol eraill (gw. nodiadau testunol cerddi 3, 9, 26, 88 a 99). Ni ellir cymharu testun BL 14967 ag unrhyw draddodiad llawysgrifol arall yn achos y gerdd hon, ac mae’n ffodus, felly, ei fod, ar y cyfan, yn destun digon glân. Y prif ddiffyg yw bod tuedd gan y copïydd i hepgor ar hap ambell lythyren neu air bach (gw. nodiadau llinellau 10, 13, 26 yn, 28, 38, 40 a 42). Am fân ddiffygion eraill, gw. nodiadau llinellau 14, 20, 26 cadwynborth, 31, 33 a 48. Pedair llinell yn unig a geir yn LlGC 1559B, sef llinellau 37–8 a 43–4.
Trawsysgrifiad: BL 14967.
1 Gelli-wig Dilynir y llawysgrif gelli wic. Rhaid i’r acen syrthio ar y sillaf olaf er mwyn y gynghanedd. Ymhellach, gw. y nodyn esboniadol ar y llinell hon.
3 Llyweni Dilynir y llawysgrif. Ceir yr un ffurf yn GLM 556 a TA 696. Sylwer mai lleweni a geir yn nhestun LlGC 1559B yn llinell 37.
4 ar Gthg. diwygiad diangen yn GGl er.
6 islaw’r bryn Anwybyddwyd -r yn GGl islaw bryn er mwyn y gynghanedd. Bernir mai naill ai r berfeddgoll ydyw neu enghraifft o fai camosod.
10 gorau Dilynir y diwygiad diweddarach: goe {gorau}. Bernir mai gore a geid yn X ac a gamgopïwyd yn BL 14967 (cf. 33n).
13 Tomas yw gras y gaer wen Dilynir diwygiad GGl Tomas y[w] gras y gaer wen (cf. 11 Gorau yw llys y gŵr llwyd).
14 deyrnas Am ryw reswm rhoddwyd llinell drwy’r gair hwn yn y llawysgrif, yn ôl pob tebyg gan y copïydd. Yn wir, mae’n amheus ai hwn yw’r darlleniad cywir gan mai gair teirsill ydyw gan amlaf gan y beirdd, ond rhaid ei ystyried yn air deusill yma. At hynny, nid yw ystyr deyrnas hwylbren yn gwbl eglur.
20 rhwydd Dilynir diwygiad y llawysgrif: ha rrwydd. Gellid derbyn hawdd o safbwynt ystyr a chynghanedd, ond mae’n fwy tebygol i glust y copïydd roi gair cyfystyr i rhwydd i gyfateb yn nes, yn gynganeddol, â heddiw cyn iddo sylweddoli ei gamgymeriad.
26 cadwynborth Dilynodd GGl ddiwygiad y copïydd, kadwynboryrth. Efallai iddo newid ei ddarlleniad am fod mwy nac un porth yn Ninbych. Gan mai at Domas y cyfeirir, bernir bod y ffurf unigol yn fwy addas.
26 yn Dilynir y diwygiad diweddarach: y{n}.
28 caer y Fflint Dilynir y diwygiad diweddarach: kaer {y} fflint.
29 Dôn Ceir gwall copïo, fe ymddengys, yn GGl dyn.
31 Elsbeth Diwygir darlleniad y llawysgrif, elsabeth, er mwyn cael llinell seithsill. Sylwer y prawf y gynghanedd mai Elsabèth yw’r ffurf a ddefnyddiwyd gan Ddafydd ab Edmwnd yn ei gywydd mawl i Domas a chan Lewys Môn yn ei farwnad iddo (gw. DE 87 elsabeth ail siob weithion; GLM LIX.45 Elsabéth, o lysu’i byd).
33 gorau Diwygir darlleniad y llawysgrif, goere, sef camgopïad, yn ôl pob tebyg, o gore (cf. 10n).
36 y’i cad Cf. llawysgrif i kad. Fe’i dehonglwyd fel y yn GGl y cad, ond ceir gwell ystyr yn narlleniad y golygiad presennol.
37 Llyweni Gw. 3n.
38 hiliwyd Gthg. llawysgrif hilwyd. Bernir mai hiliwyd a geid yn X ac a gamgopïwyd yn BL 14967. Sylwer mai hiliwyd a geir yn LlGC 1559B.
39 Siesi Ceir diwygiad diangen yn GGl Siesir (gw. ibid. 359 ‘llin Siesir “Cheshire”’). Nid at swydd Gaer y cyfeirir eithr at Jesse.
40 Llath aur brenhinllwyth oedd Dilynir y llawysgrif, lle ceir llinell chwesill. Gellid ei diwygio: Llath aur y brenhinllwyth oedd neu Henllath aur brenhinllwyth oedd.
42 brynnau Dilynir darlleniad y llawysgrif, brynau, a chymryd mai brynnau a geid yn X yn unol â sillafiad arferol y ffurf luosog (gw. GPC 339 d.g. bryn).
45 Ys da ŵr yw ’i stôr o win Cf. y llawysgrif ysta wr yw istor o win. Er mwyn cael llinell seithsill hepgorwyd yw yng ngolygiad GGl Ys da ŵr ei stôr o win, lle ceir cynghanedd anfoddhaol o ganlyniad.
48 sydd Dilynir diwygiad y llawysgrif soydd.
60 uddun’ Gthg. llawysgrif vddyn. Dilynir y ffurf a geir yn llinell 48 er hwylustod.
Noddwr y cywydd mawl hwn yw Tomas Salbri ap Harri Salbri o Leweni, yn hytrach na’i fab, Tomas Salbri ap Tomas Salbri Hen, fel y nodir yn GGl 359. Mae’n sicr mai’r mab a enwir yn llinellau 23–4 Tomas … / mab Tomas, ond mae’n bur annhebygol mai ef oedd noddwr y gerdd, a diau mai ei dad oedd hwnnw. Yr un yw barn Rowlands (1967–8: cerdd 3) a Wiliam Bodwrda yn y teitl a roes i’r dryll o’r gerdd hon a gofnododd yn LlGC 1559B G’ Gl’ ir hen Dom’ Sal’. Sylwer ar drefn yr ach yn rhan gyntaf y gerdd: Tomas … / Salbri → o gorff Harri → gwaed Rawling, sef Tomas Salbri ap Harri Salbri ap Rawling Salbri. Yn llinell 21, enwir Wiliam a’i alw’n frawd i’r gŵr a gyferchir, a diau mai Wiliam Salbri ap Harri Salbri ydyw, sef brawd i Domas Salbri Hen. Enwir Tomas … / mab Tomas yn llinellau 23–4 am fod ei enwogrwydd ar gynnydd fel noddwr hael tebyg i Wiliam ei ewythr. Yna, yn rhan olaf y gerdd, nid awgrymu bod rhieni’r deg plentyn wedi marw a wneir yn llinell 57 Dengnyn heb y ddeuddyn dda, eithr bod y bardd yn paratoi ei fathemateg farddol ar gyfer ei gwpled olaf, lle molir y deuddeg ynghyd. Yn wir, rhoir mwy o sylw na’r arfer i deulu’r noddwr yn y gerdd hon. Fel y nodwyd eisoes, enwir un o frodyr Tomas Salbri a dau o’i blant yn uniongyrchol. Gall fod y ffaith mai cyfanswm crwn o ddeg plentyn a gafodd Tomas wedi apelio i feddwl trefngar y bardd, fel y gwnaeth yn achos Dafydd ab Edmwnd yntau o bosibl pan ganodd gywydd tebyg i’r teulu nodedig hwn (gw. DE cerdd XLIV).
Canolbwyntir ar lys y Salbrïaid yn Lleweni yn rhan gyntaf y gerdd (llinellau 1–16), llys sy’n rhagori ar lys enwog Arthur yng Nghelliwig hyd yn oed. Wrth olrhain achau Tomas lleolir y llys yn fanwl a chyfeirir at gyswllt agos ei deiliad â Dinbych. Yn ail ran y gerdd (17–28), gofynnir a geir cystal noddwr ag ef bellach heblaw am ei frawd, Wiliam Salbri. Caiff Guto hyd iddo ym mab hynaf y noddwr, sef ail Domas Salbri a enwir mewn perthynas â threfi Dinbych a’r Fflint. Troir at ei chwaer, Elsbeth, yn nhrydedd ran y gerdd (29–36) a rhoi iddi fawl cyfartal â’i brawd wrth ei chysylltu â bro mebyd ei mam yn swydd Gaer. Ar deulu Lleweni yn ei grynswth y canolbwyntir yn rhan olaf y gerdd (37–60), sef y ddau riant a’u deg plentyn. Gwneir cymhariaeth briodol rhwng Tomas a Jesse, tad Dafydd Broffwyd yr Hen Destament, gan osod y naill batriarch yng nghroen y llall. Yna mydryddir rhifau’n gelfydd yn niweddglo’r gerdd cyn dymuno bywyd hir i’r giwed gyfan gyda’i gilydd.
Dyddiad
Mae’n debygol iawn mai at Domas Salbri ap Tomas Salbri y cyfeirir yn llinell 47 cwnstabl yw un, ac mae’n bur eglur ei fod yn dal y swydd honno pan ganwyd y cywydd. Fel y gwelir yn y nodyn ar Domas Salbri, roedd Tomas ap Tomas yn gwnstabl Dinbych yn 1466 a 1483–4, ond dengys llinellau 27–8 fod ganddo gyswllt agos â thref y Fflint hefyd adeg canu’r gerdd. Roedd yn ddirprwy siryf y dref honno yn 1470 a 1472 ac yn siryf o 1495 hyd ddiwedd ei oes yn 1505, a bu’n stiward yno rhwng 1482 a 1485 ac eto o 1495 i 1499. Gan fod Tomas Salbri ap Harri Salbri yn ei fedd erbyn 1490 gellir diystyru pob dyddiad diweddarach, a gwelir o ganlyniad ei bod yn bur debygol mai rywdro rhwng 26 Mehefin 1483 a 25 Mehefin 1484 y canwyd y gerdd hon pan oedd Tomas ap Tomas yn gwnstabl Dinbych ac yn stiward y Fflint.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd CIV; Rowlands 1967–8: cerdd 3.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 63% (38 llinell), traws 22% (13 llinell), sain 15% (9 llinell), dim llusg.
1 Celli-wig Yn ôl traddodiad, llys Arthur yng Nghernyw (gw. TYP3 3–4; GGrG 1.34n). Syrthiai’r acen ar y goben neu’r sillaf olaf yn ôl y gofyn: GLGC 126.47 ac o ystlys llys Gelliwig (rhaid rhoi’r acen ar y sillaf olaf er mwyn y gynghanedd); TYP3 1 Arthur yn Pen Teyrned yg Kelli Wic yg) Kernyw; gthg. Meurig ab Iorwerth yn GDC 13.52 O lwys gall awen, lys Gelliwig (lle syrth yr acen ar y goben). Yn ôl Guto roedd gan Domas [l]ys well (4) yn Lleweni, a’r un yw neges Gronw Gyriog wrth foli llys Madog ab Iorwerth yng Nghoedymynydd (gw. GGrG 1.33–4 Lluniaf gant moliant mawl heuedig / I Fangor rhagor rhag Celliwig ‘Lluniaf gant o folawdau [o] foliant taenedig / I Fangor yn fwy na Chelliwig’).
1 ei llys Sef llys Celliwig (gw. y nodyn uchod) ac efallai ei neuadd yn benodol.
2 yr wyth ynys Topos digon cyfarwydd gan y beirdd ond annelwig hefyd gan nad yw’n eglur pa wyth ynys a olygir. Tybed (fel yr awgrymir gan Rowlands 1967–8: 3.2n) a geir cyswllt rhwng yr ymadrodd ac Ynys Wyth, sef enw arall am Ynys Wair (Isle of Wight)? Ar yr ynys honno, gw. TYP3 249.
3 llwyn Ni raid tybio mai at goedwig go iawn y cyfeirir, eithr at dylwyth helaeth Tomas yn Lleweni (cf. 43–4 llwyn erioed … / … yw llin Tomas).
3 Llyweni Sef Lleweni heddiw, plasty a saif ar lannau gorllewinol afon Clwyd (gw. 8n Clwyd) i’r gogledd-ddwyrain o Ddinbych (gw. 15n; WATU 145; Evans 1955: 13–19; Hubbard 1986: 249 (hanes diweddar)). O ran y ffurf, cf. GLM 556 a TA 696.
5 iwmyn Ffurf luosog ar iwmon (gw. GPC 2042 d.g. ‘gwas neu ganlynwr is ei safle nag ysgwïer; rhydd-ddeiliad tir is ei safle nag uchelwr’).
5–6 Tomas … / Salbri Tomas Salbri ap Harri Salbri, noddwr y gerdd.
8 parth â Gw. GPC 2695 d.g. parth … parth â (i) ‘towards (of place and time)’ neu (ii) ‘(with regard) to, in respect of, for’.
8 Clwyd Afon Clwyd. Saif Lleweni ar ei glannau gorllewinol ger Dinbych (gw. 3n Llyweni).
9 Harri Harri Salbri ap Rawling Salbri, tad Tomas. Roedd yn ei flodau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg a goroesodd cywydd iddo gan Sypyn Cyfeiliog (gw. GDB cerdd 2).
12 Rawling Rawling Salbri ap Wiliam Salbri, taid i Domas ar ochr ei dad.
13–14 Tomas … / o Salbri Gw. 5–6n.
14 teyrnas hwylbren Tybed ai’r tir sy’n eiddo i Domas, a ddisgrifir fel hwylbren gan mai ef sy’n ei gynnal? Cf. 15 addwynbost ‘colofn urddasol’.
15 Dinbych Bwrdeistref yng nghwmwd Is Aled yng nghantref Rhufoniog (gw. WATU 56 d.g. Denbigh; Owen 1978; Hubbard 1986: 143–55). Roedd Tomas yn gwnstabl y dref yn 1454.
17 tir Is Conwy Cyfeirir at Wynedd Is Conwy, sef ardal a gynhwysai gantrefi Dyffryn Clwyd, Rhos, Rhufoniog a Thegeingl (gw. WATU 85 d.g. Gwynedd a 261). Saif Lleweni (gw. 3n Llyweni) yng nghantref Rhufoniog (gw. 15n).
18 y Mars Ffurf amrywiol ar y Mers, y Gororau, sef benthyciad o’r Saesneg march(e) (gw. GPC 2362 d.g. mars).
19 y ddwy nasiwn Cymru a Lloegr. Bernir y cyfrifid Tomas yn Gymro a’i wraig, Elsbeth, yn Saesnes. Cf. sylwadau Iestyn Daniel ar gywydd Sypyn Cyfeiliog i rieni Tomas, sef Harri Salbri ac Annes Cwrtes (GDB 48): ‘ymddengys mai’r brif elfen yw gwaith Harri Salbri, ac i raddau ei wraig, yn cadw heddwch rhwng Cymry a Saeson yn eu rhan hwy o’r byd o ganlyniad i anghydfod neu ymladd rhwng y ddwy hil’.
21–2 Wiliam … / ei gâr a’i frawd Sef Wiliam Salbri ap Harri Salbri, brawd i Domas. Yn ôl achresi Bartrum (WG2 ‘Salesbury’ 1), bu farw yn Ffrainc.
23–4 Tomas … / mab Tomas Tomas Salbri (Ieuanc) ap Tomas Salbri (Hen), mab i noddwr y gerdd a gŵr i Sioned ferch Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn.
25 craig wen Adeiladwyd castell Dinbych (gw. 15n) ar graig fawr uchel. Cf. disgrifiad ohono mewn arolwg a wnaed ym mhedwardegau’r unfed ganrif ar bymtheg ac a ddyfynnir yn Owen (1978: 165): ‘The dominant physical feature [of the town] was the castle which had been “beyld high upon a Rocke of Stone very stately and Bowtifully yn a very swete air”.’
26 cadwynborth Hon yw’r unig enghraifft o’r gair a nodir yn GPC 381 ‘porthcwlis, dôr ddyrchafad’. Roedd gan gastell Dinbych (gw. y nodyn isod) borth o bwys, ond ceid hefyd byrth ym muriau’r dref (gw. Hubbard 1986: 143–5).
26 Dinbych Gw. 15n. Roedd Tomas Salbri ap Tomas Salbri yn gwnstabl Dinbych yn 1466 a 1483–4 ac mae’n eglur ei fod yn un o wŷr mwyaf blaengar y dref.
28 caer y Fflint Sef castell bwrdeistref y Fflint yng nghwmwd Cwnsyllt (Coleshill) yng nghantref Tegeingl (gw. WATU 70; Hubbard 1986: 346–52). Ar gyswllt hirdymor Tomas Salbri ap Tomas Salbri â’r dref, gw. y nodyn uchod ar ddyddiad y gerdd.
28 corff hael i ŵr Guto ei hun, yn ôl pob tebyg, yw’r [g]ŵr hwn sy’n derbyn nawdd gan y corf hael, sef Tomas.
29 wyrion Siancyn Dôn Sef deg plentyn Tomas ac Elsbeth (gw. 49n). Roedd Elsbeth, gwraig Tomas, yn ferch i Siancyn Dôn ap Syr Siôn Dôn o Utkinton yn swydd Gaer. Ceir y cyfenw Dôn mewn cywyddau gan Lewys Môn, Ieuan Llwyd Brydydd, Lewys Glyn Cothi, Gutun Owain, Huw ap Dafydd ap Llywelyn a Thudur Aled, ac mewn rhai achosion prawf y gynghanedd neu’r odl y dylid rhoi acen drom arno (gw. GLM 548; GILlF 10.56; GLGC 222.53; GO LVIII.10; GHD 11.7; TA V.5 a’r nodyn ar dudalennau 558–9).
29 Dôn deg Tybed a oes yma chwarae geiriol? Cf. Iolo Goch yn ei gywydd i Syr Hywel y Fwyall, GIG II.43 A’i llawforynion, ton teg; IGP 8 ‘and her handmaidens, fair skin’. Gall ton ‘croen’ fod yn air gwrywaidd neu fenywaidd yn ôl GPC 3520 d.g. ton2 (b).
30 yr ychwaneg Sef Elsbeth (gw. y nodyn isod), yr hyn sy’n ychwanegol at y tri a enwyd eisoes, sef Tomas ei thad (gw. 5–6n), Wiliam ei hewythr (gw. 21n) a Thomas ei brawd (gw. 23–4n).
31 Elsbeth Fel yn achos noddwr y gerdd, nid yw’n eglur ar yr olwg gyntaf pwy yw’r Elsbeth hon, ai’r fam (fel y tybir yn GGl 359) ynteu’r ferch. Gwraig Tomas oedd Elsbeth ferch Siancyn Dôn (gw. 29n wyrion Siancyn Dôn) o Utkinton yn swydd Gaer, ac mae ei chefndir daearyddol yn sicr yn cyd-fynd â’r hyn a ddywed Guto yn llinellau 34–5 Gorau merch yn Lloegr ei modd. / O groestir swydd Gaer wastad. Ond sylwer mai mewn perthynas ag wyrion Siancyn y cyfeirir at yr Elsbeth hon yma, sy’n awgrymu mai Elsbeth ferch Tomas a olygir. Priododd hithau Huw Conwy ap Robin a chyfeirir ati fel a ganlyn gan Lewys Glyn Cothi mewn cywydd a ganodd i’r ddau ohonynt (GLGC 222.47–8): Gwraig Huw wrol, gwraig Hiriell, / o sir Gaer, nid oes wraig well. Mae’n bur debygol, felly, mai at Elsbeth ferch Tomas y cyfeirir yma. Tybed a gafodd ei rhoi ar faeth gyda theulu ei mam ac iddi arddel cyswllt agos â swydd Gaer o ganlyniad? Eisoes enwyd ei brawd, Tomas, ac mae’n bosibl mai oherwydd bod y mab a’r ferch yn rhannu’r un enw â’r ddau riant y cyfeirir atynt yma.
31 Elsbeth felenbleth, flaenblaid Cf. Ieuan Llwyd Brydydd yn ei gywydd i Forgan Holand ap Siôn ac Elsbeth ferch Huw Conwy ei wraig, a oedd yn ferch i’r Elsbeth a enwir yma, GILlF 10.51 Elsbeth, fwyn eurbleth fawrblaid.
32 y Groes Naid Sef croes Geltaidd a fu ym meddiant tywysogion Gwynedd ac y credid bod ynddi ran o’r wir groes. Fe’i cipiwyd i Lundain yn dilyn y Goncwest. Arni, gw. Jones 1912: 100–3; Tennant 1951–2.
34 gorau merch yn Lloegr Ar gyswllt posibl Elsbeth ferch Tomas â swydd Gaer, gw. 31n Elsbeth.
35 croestir Hon yw’r unig enghraifft o’r gair a nodir yn GPC 608 ‘? tir eglwysig’. Safai pentref Utkinton yn swydd Gaer oddeutu pum milltir i’r de-ddwyrain o abaty Sistersaidd Vale Royal, a gall mai yn sgil enwogrwydd y ganolfan honno y’i gelwir yn groestir yma.
35 swydd Gaer wastad Diau bod tirwedd swydd Gaer yn arbennig o wastad mewn cymhariaeth â bryniau Dyffryn Clwyd (cf. 42 brynnau Henllan). Ar y gwastadedd yn Utkinton yr oedd cartref Elsbeth wraig Tomas (gw. 31n Elsbeth).
37 Llyweni Gw. 3n Llyweni.
39 llin Siesi Sef llinach Jesse, ffermwr o Fethlehem a thad Dafydd Broffwyd yr Hen Destament. Gw. I Samuel 16–17 ac yn arbennig, yng nghyd-destun y gymhariaeth â Thomas, 17.12 ‘Yr oedd Dafydd yn fab i Effratead o Fethlehem Jwda. Jesse oedd enw hwnnw, ac yr oedd ganddo wyth mab, ac erbyn dyddiau Saul yr oedd yn hen iawn.’ Fe’i cyfrifid yn wreiddyn llinach brenhinoedd Israel a hynafiad Iesu Grist ei hun maes o law, yn arbennig mewn cyswllt â ‘choeden Jesse’. Gw. Llyfr Eseia 11.1 ‘O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef’; ODCC3 875 d.g. Jesse window. Ymddengys i Lewys Môn gymharu Tomas ag ef eto mewn cywydd mawl i’w fab, Tomas Salbri ap Tomas Salbri (gw. 23–4n; GLM LVI.21–8 Deulwyth aur, dwy lythyren; / doed Dôns ywch a Dytwns hen: / o’r tu yr oedd, aur trwyddaw, / mae’r gŵr llwyd mawr gar eu llaw: / aur tawdd, ni fynnawdd ei fod, / am war Siesy ’Mars isod. / Y tad fyth, (Oes tyaid fwy?) / y mab wyd ymhob adwy). Ymhellach, gw. ibid. 411.
40 llath ‘Trawst’ neu ‘goeden’ yw’r ystyr yma, sef ‘coeden Jesse’ (gw. 39n).
40 brenhinllwyth Llwyth brenhinol Israel ar ôl Dafydd Broffwyd (gw. 39n).
41 Llywarch ap Brân Llywarch ap Brân ap Dinawal, un o hynafiaid Tomas drwy ei nain, Marged ferch Ieuan ap Cadwgon. Gw. Richards 1998: 84 ‘Mae’r mapiau’n nodi Llys Llywarch ap Brân ym mhlwyf Llanedwen, Môn. Ganed ef tua 1120 a chyfrifid yntau a’i ddisgynyddion weithiau ymysg Pymtheg Llwyth Gwynedd yng nghwmwd Menai. Dywedir hefyd mai ef a goffeir yn Nhrelywarch yn Llanfwrog.’
42 Brenhinllwyth brynnau Henllan Cf. Tudur Aled yn ei gywydd marwnad i Domas, TA LXXVIII.8 Blaendrwyth, brenhinllwyth Henllan.
42 brynnau Ffurf luosog ar bryn (gw. GPC 339 d.g.).
42 Henllan Plwyf yng nghwmwd Is Aled yng nghantref Rhufoniog lle safai llys Lleweni (gw. 3n Llyweni; WATU 90; Hubbard 1986: 179–82).
44 Tomas Gw. 5–6n.
47 cwnstabl yw un Mab Tomas, ail Domas Salbri (gw. 23–4n a 26n Dinbych).
49 deg Sef deg plentyn Tomas ac Elsbeth (gw. 31n Elsbeth): pum merch (Sioned, Constans, Elsbeth, a enwir yn llinell 31, Alis a Chatrin) a phum mab (Tomas, a enwir yn llinellau 23–4, Rhobert, Harri Fychan, Siôn a Ffwlc).
50 y rhain Sef rhieni’r deg (gw. 49n), Tomas ac Elsbeth.
58 Tomas a’i briod Tomas ac Elsbeth.
Llyfryddiaeth
Evans, W.A. (1955), ‘The Salusburys of Llewenni and the Carmelite Friary in Denbigh’, TCHSDd 4: 13–25
Hubbard, E. (1986), The Buildings of Wales: Clwyd (Denbighshire and Flintshire) (London)
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London)
Owen, D.H. (1978), ‘Denbigh’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 164–87
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Rowlands, J. (1967–8), ‘A Critical Edition and Study of the Welsh Poems Written in Praise of the Salusburies of Llyweni’ (D.Phil. [Oxford])
Tennant, W.C. (1951–2), ‘Croes Naid’, Cylchg LlGC vii: 102–15
This praise poem was composed for Tomas Salbri ap Harri Salbri of Lleweni. In GGl 359, his son, Tomas Salbri ap Tomas Salbri, is named incorrectly as patron. This second Tomas Salbri is indeed addressed in lines 23–4 Tomas … / mab Tomas ‘Tomas … son of Tomas’, but it is very unlikely that he is the main patron. The first Tomas Salbri is identified as patron by Rowlands (1967–8: poem 3) and by the scribe Wiliam Bodwrda in the title which he gave to a fragment of the poem in LlGC 1559B G’ Gl’ ir hen Dom’ Sal’ ‘Guto’r Glyn to the Old Tomas Salbri’. This is confirmed by the genealogical sequence in the first part of the poem: Tomas … / Salbri → o gorff Harri → gwaed Rawling, namely Tomas Salbri ap Harri Salbri ap Rawling Salbri. In line 21, a Wiliam is named as the patron’s brother, in all likelihood Tomas Salbri’s brother, Wiliam Salbri ap Harri Salbri. The patron’s son, Tomas … / mab Tomas, is named in lines 23–4 probably because of his growing renown as a patron in his uncle’s image. Furthermore, line 57 Dengnyn heb y ddeuddyn dda ‘ten individuals except the two good individuals’ should not be interpreted as a reference to the death of the parents, but rather as an introduction to the mathematical poetics of the last couplet, where the whole family, all deuddeg ‘twelve’, is praised together. Indeed, more attention than usual is given in this poem to the patron’s family. As noted above, one of Tomas Salbri’s brothers is named, as well as two of his children. The fact that Tomas fathered an orderly total of ten children may have appealed to the meticulous mind of the poet, as is also evident in the poet Dafydd ab Edmwnd’s similar poem to this notable family (see DE poem XLIV).
Guto praises the Salbri family’s court at Lleweni in the first part of the poem (lines 1–16), which is better equipped than even Arthur’s famous court at Celliwig. He locates the court in detail as he traces Tomas’s lineage, linking him closely with the nearby town of Denbigh (Dinbych). In the second part of the poem (17–28), Guto asks if there is anyone except Tomas’s brother, Wiliam Salbri, who is as good a patron as he. He finds his answer in the form of the patron’s son, a second Tomas Salbri who is praised in connection with the towns of Denbigh and Flint. Guto then turns his attention to this Tomas’s sister, Elsbeth, in the third part of the poem (29–36), who is given an equal amount of praise in connection with her mother’s homeland in Cheshire. Both parents and their ten children are praised collectively in the last part (37–60). Tomas is fittingly compared to Jesse of the Old Testament, father of King David, and is praised in his image as a great patriarch. The poem concludes with some artful poetic number crunching as Guto wishes long life to all twelve as a group.
Date
It is very likely that cwnstabl yw un ‘one’s a constable’ (47) is a reference to the patron’s son, Tomas Salbri ap Tomas Salbri. As it is shown in the note on Tomas Salbri, his son Tomas ap Tomas was constable of Denbigh in 1466 and 1483–4, but lines 27–8 show that he was also closely associated with the town of Flint at the time. He was deputy sheriff of Flint in 1470 and 1472 and sheriff from 1495 until his death in 1505, and he was also town steward between 1482 and 1485 and again between 1495 and 1499. Any date after 1490 can be disregarded as there is no reason to believe that Tomas Salbri ap Harri Salbri lived to see the last decade of the century. Therefore, it is likely that this poem was performed sometime between 26 June 1483 and 25 June 1484, when Tomas ap Tomas was both constable of Denbigh and steward of Flint.
The manuscripts
There are four copies of this poem in the manuscripts, three of which derive from BL 14967, and this edition is based on this manuscript only. Its text was copied from a lost source which may not have contained any other poems by Guto. Although BL 14967 is not a notably early manuscript, its defects are insignificant on the whole and its readings generally sound.
Previous editions
GGl poem CIV; Rowlands 1967–8: poem 3.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 63% (38 lines), traws 22% (13 lines), sain 15% (9 lines), no llusg.
1 Celli-wig Arthur’s court in Cornwall in early tradition (see TYP3 3–4; GGrG 1.34n). The stress could fall upon the last or the penultimate syllable: GLGC 126.47 ac o ystlys llys Gelliwig ‘and from the side of Celli-wig court’ (where the stress must fall upon the last syllable in line with the rules of cynghanedd); TYP3 1 Arthur yn Pen Teyrned yg Kelli Wic yg) Kernyw ‘Arthur as Chief of Princes in Celliwig in Cornwal’; contrast Meurig ab Iorwerth in GDC 13.52 O lwys gall awen, lys Gelliwig ‘of bright, wise muse, Celliwig’s court’ (where the stress must fall upon the penultimate syllable). Guto argues that Tomas had a llys well ‘better hall’ (4) in Lleweni, and the poet Gronw Gyriog uses a similar argument in his poem of praise to Madog ab Iorwerth’s court at Coedymynydd (see GGrG 1.33–4 Lluniaf gant moliant mawl heuedig / I Fangor rhagor rhag Celliwig ‘I’ll compose a hundred more eulogies of widespread praise for Bangor than Celliwig’).
1 ei llys ‘Its hall’, namely Celliwig’s (see 1n above).
2 yr wyth ynys ‘The eight islands’ was a familiar topos, yet it is unclear which eight islands are referred to. It may be that the phrase has some connection with Ynys Wyth, another name for Ynys Wair (Isle of Wight) (as suggested by Rowlands 1967–8: 3.2n; see TYP3 249).
3 llwyn Not to be understood literally as a ‘wood’, but figuratively for Tomas’s large family at Lleweni (cf. 43–4 llwyn erioed … / … yw llin Tomas ‘Tomas’s lineage is always a wood …’).
3 Llyweni Today Lleweni is a sizeable mansion on the west bank of the river Clwyd (see 8n Clwyd), north-east of Denbigh (see 15n; WATU 145; Evans 1955: 13–19; Hubbard 1986: 249 (recent history)). On the form, cf. GLM 556 and TA 696.
5 iwmyn A plural form of iwmon (see GPC 2402 s.v. ‘yeoman (attendant); yeoman (freeholder)’).
5–6 Tomas … / Salbri Tomas Salbri ap Harri Salbri, the patron.
8 parth â See GPC 2695 s.v. parth … parth â (i) ‘towards (of place and time)’ or (ii) ‘(with regard) to, in respect of, for’.
8 Clwyd The river Clwyd. Lleweni is located on its west bank near Denbigh (see 3n Llyweni).
9 Harri Harri Salbri ap Rawling Salbri, Tomas’s father. He lived in the second half of the fourteenth century and one praise poem to him by Sypyn Cyfeiliog has survived in the manuscripts (see GDB poem 2).
12 Rawling Rawling Salbri ap Wiliam Salbri, Tomas’s grandfather on his father’s side.
13–14 Tomas … / o Salbri See 5–6n.
14 teyrnas hwylbren Possibly Tomas’s land, who is described as a hwylbren ‘mast’ who sustains it. Cf. 15 addwynbost ‘noble column’.
15 Dinbych A borough in the commote of Is Aled in the cantref of Rhufoniog (see WATU 56 s.v. Denbigh; Owen 1978; Hubbard 1986: 143–55). Tomas was constable of Denbigh in 1454.
17 tir Is Conwy Guto is referring to the land of Gwynedd Is Conwy, which included the cantrefs of Dyffryn Clwyd, Rhos, Rhufoniog and Tegeingl (see WATU 85 s.v. Gwynedd and 261). Lleweni (see 3n Llyweni) was in the cantref of Rhufoniog (see 15n).
18 y Mars A variant form of y Mers ‘the March’, which was borrowed from the English march(e) (see GPC 2362 s.v. mars).
19 y ddwy nasiwn ‘The two nations’, Wales and England. Tomas was probably considered a Welshman and his wife, Elsbeth, an Englishwoman. Cf. Iestyn Daniel’s remarks on the poet Sypyn Cyfeiliog’s praise poem to Tomas’s parents, Harri Salbri and Annes Cwrtes, in GDB 48, where it is argued that the poem emphasizes Harri’s and, to a lesser extent, his wife’s work in reconciling the Welsh and the English in their part of the country.
21–2 Wiliam … / ei gâr a’i frawd Wiliam Salbri ap Harri Salbri, Tomas’s ‘kinsman and brother’. According to Bartrum’s genealogies (WG2 ‘Salesbury’ 1), he died in France.
23–4 Tomas … / mab Tomas Tomas Salbri (Ieuanc ‘the younger’) ap Tomas Salbri (Hen ‘the old’), the patron’s son, husband of Sioned daughter of Wiliam Fychan ap Gwilym of Penrhyn.
25 craig wen The castle at Denbigh (see 15n) was built upon a large rock. Cf. a description of the rock in a survey of the town in the 1640s, cited in Owen (1978: 165): ‘The dominant physical feature [of the town] was the castle which had been “beyld high upon a Rocke of Stone very stately and Bowtifully yn a very swete air”’.
26 cadwynborth This is the only example noted in GPC 381 ‘portcullis’. Denbigh castle (see note below) had a notable gatehouse, yet there were also other gatehouses in the town walls (see Hubbard 1986: 143–5).
26 Dinbych See 15n. Tomas Salbri ap Tomas Salbri was constable of Denbigh in 1466 and 1483–4 and was certainly one of the town’s most prominent individuals.
28 caer y Fflint The castle of the borough of Flint in the commote of Coleshill (Cwnsyllt) in the cantref of Tegeingl (see WATU 70; Hubbard 1986: 346–52). On Tomas Salbri ap Tomas Salbri’s long connection with the town, see the note above on the date of the poem.
28 corff hael i ŵr ‘A generous individual [= Tomas] to a man [= Guto]’.
29 wyrion Siancyn Dôn ‘Siancyn Dôn’s grandchildren’. Guto is referring to Tomas and Elsbeth’s ten children (see 49n). Elsbeth, Tomas’s wife, was a daughter of Siancyn Dôn ap Syr Siôn Dôn of Utkinton in Cheshire. The surname Dôn is named in poems by Lewys Môn, Ieuan Llwyd Brydydd, Lewys Glyn Cothi, Gutun Owain, Huw ap Dafydd ap Llywelyn and Tudur Aled, and in some cases the cynghanedd or rhyme shows that the name should be accentuated (see GLM 548; GILlF 10.56; GLGC 222.53; GO LVIII.10; GHD 11.7; TA V.5 and the note on pages 558–9).
29 Dôn deg There may be a play on words here. Cf. the poet Iolo Goch in his praise poem for Sir Hywel y Fwyall, IGP 2.43 A’i llawforynion, ton teg ‘and her handmaidens, fair skin’. The word ton ‘skin’ can be masculine or feminine according to GPC 3520 s.v. ton2 (b), therefore [t]on deg is possible.
30 yr ychwaneg ‘The addition’, namely Elsbeth (see 31n Elsbeth) in addition to the three men who have already been named, that is Tomas her father (see 5–6n), Wiliam her uncle (see 21n) and Tomas her brother (see 23–4n).
31 Elsbeth As in the case of the identity of the patron, it is not immediately clear who Elsbeth is – the mother (as argued in GGl 359) or the daughter. Tomas’s wife was Elsbeth daughter of Siancyn Dôn (see 29n wyrion Siancyn Dôn) of Utkinton in Cheshire, and her background certainly corresponds with what Guto says in lines 34–5 Gorau merch yn Lloegr ei modd. / O groestir swydd Gaer wastad ‘the best woman in England in terms of her means. She was received from the church land of low-lying Cheshire.’ But because Elsbeth is named in connection with wyrion Siancyn ‘Siancyn’s grandchildren’ it is likely that Guto is referring to Elsbeth daughter of Tomas. This Elsbeth married Huw Conwy ap Robin and is referred to by the poet Lewys Glyn Cothi as Gwraig Huw wrol, gwraig Hiriell, / o sir Gaer, nid oes wraig well ‘Brave Huw’s wife, Hiriell’s wife, from Cheshire, there is no better wife’ (GLGC 222.47–8). It is therefore very likely that Guto is referring to Tomas’s daughter, who was possibly fostered with her mother’s family and developed a close connection with Cheshire. Guto had already named her brother, Tomas, and it may be due to the fact that he and Elsbeth shared their parents’ names that they are praised.
31 Elsbeth felenbleth, flaenblaid ‘Golden-plaited Elsbeth of a prominent family’. Cf. the poet Ieuan Llwyd Brydydd in a praise poem to Morgan Holand ap Siôn and his wife, Elsbeth daughter of Huw Conwy, who was a daughter of the Elsbeth who is named in this line (see the note above), GILlF 10.51 Elsbeth, fwyn eurbleth fawrblaid ‘fair, golden-plaited Elsbeth of a large family’.
32 y Groes Naid A renowned Celtic cross which once belonged to the princes of Gwynedd and was believed to contain a piece of the true cross. It was moved to London following the Conquest. See Jones 1912: 100–3; Tennant 1951–2.
34 gorau merch yn Lloegr ‘The best woman in England’. On Elsbeth daughter of Tomas’s possible connection with Cheshire, see 31n Elsbeth.
35 croestir This is the only example of the word noted in GPC 608 ‘? … church land’. The village of Utkinton in Cheshire was situated some five miles south-east of the Cistercian abbey of Vale Royal, and Guto may be referring to the abbey’s land and its vicinity.
35 swydd Gaer wastad Cheshire’s landscape is certainly level and ‘low-lying’ in comparison with the hills of Dyffryn Clwyd (cf. 42 brynnau Henllan ‘the hills of Henllan’). Tomas’s wife, Elsbeth, came from Utkinton on the Cheshire plains (see 31n Elsbeth).
37 Llyweni See 3n Llyweni.
39 llin Siesi ‘Jesse’s lineage’. Jesse of the Old Testament was a farmer of Bethlehem and father of King David. See I Samuel 16–17 and specifically in the context of the comparison between Jesse and Tomas, 17.12 ‘Now David was the son of that Ephrathite of Bethlehem Judah, whose name was Jesse; and he had eight sons: and the man was an old man in the days of Saul, stricken in years among men.’ He was believed to be the root of the lineage of the kings of Israel and an ancestor of Christ, especially in connection with the ‘tree of Jesse’. See also the Book of Isaiah 11.1 ‘And there shall come forth a shoot out of the stock of Jesse, and a branch out of his roots shall bear fruit’; ODCC3 875 s.v. Jesse window. The poet Lewys Môn also seems to have compared Tomas with Jesse in a praise poem to his son, Tomas Salbri ap Tomas Salbri (see 23–4n; GLM LVI.21–8 Deulwyth aur, dwy lythyren; / doed Dôns ywch a Dytwns hen: / o’r tu yr oedd, aur trwyddaw, / mae’r gŵr llwyd mawr gar eu llaw: / aur tawdd, ni fynnawdd ei fod, / am war Siesy ’Mars isod. / Y tad fyth, (Oes tyaid fwy?) / y mab wyd ymhob adwy ‘Two golden tribes, two letters; may Dôns and old Dytwns come to you: from the place he was, gold through him, the great holy man is beside them: molten gold, he did not desire to be so, on Jesse’s nape in the March below. The father always (is there a larger houseful?), you are the son in every breach’). See further ibid. 411.
40 llath ‘Beam’ or ‘tree’, namely the ‘tree of Jesse’ (see 39n).
40 brenhinllwyth Israel’s ‘royal tribe’ after King David (see 39n).
41 Llywarch ap Brân Llywarch ap Brân ap Dinwal, one of Tomas’s ancestors on his grandmother’s side, Marged daughter of Ieuan ap Cadwgon. Richards (1998: 84) draws attention to a place named Llys Llywarch ap Brân ‘Llywarch ap Brân’s court’ in the parish of Llanedwen on Anglesey, and notes that Llywarch was born in about 1120 and was sometimes considered a founder of one of the fifteen tribes of Gwynedd in the commote of Menai. His name may also have survived in Trellywarch in Llanfwrog.
42 Brenhinllwyth brynnau Henllan Cf. the poet Tudur Aled in his elegy for Tomas, TA LXXVIII.8 Blaendrwyth, brenhinllwyth Henllan ‘the best liquor, royal tribe of Henllan’.
42 brynnau A plural form of bryn ‘hill’ (see GPC 339 s.v.).
42 Henllan A parish in the commote of Is Aled in the cantref of Rhufoniog where the court of Lleweni was situated (see 3n Llyweni; WATU 90; Hubbard 1986: 179–82).
44 Tomas See 5–6n.
47 cwnstabl yw un ‘One’s a constable’, namely Tomas’s son, a second Tomas Salbri (see 23–4n and 26n Dinbych).
49 deg Tomas and Elsbeth’s ‘ten’ children (see 31n Elsbeth): five daughters (Sioned, Constans, Elsbeth, who is named in line 31, Alis and Catrin) and five sons (Tomas, who is named in lines 23–4, Rhobert, Harri Fychan, Siôn and Ffwlc).
50 y rhain ‘These’, namely Tomas and Elsbeth who had ten children (see 49n).
58 Tomas a’i briod ‘Tomas and his spouse’, Elsbeth.
Bibliography
Evans, W.A. (1955), ‘The Salusburys of Llewenni and the Carmelite Friary in Denbigh’, TCHSDd 4: 13–25
Hubbard, E. (1986), The Buildings of Wales: Clwyd (Denbighshire and Flintshire) (London)
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London)
Owen, D.H. (1978), ‘Denbigh’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 164–87
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Rowlands, J. (1967–8), ‘A Critical Edition and Study of the Welsh Poems Written in Praise of the Salusburies of Llyweni’ (D.Phil. [Oxford])
Tennant, W.C. (1951–2), ‘Croes Naid’, Cylchg LlGC vii: 102–15
Un gerdd yn unig gan Guto i Domas Salbri a oroesodd, sef cywydd mawl (cerdd 71). Ceir yn y llawysgrifau dri chywydd marwnad iddo: gan Dudur Aled, TA cerdd LXXVIII (gw. hefyd y nodyn ar dudalen 668); gan Lewys Môn, GLM cerdd LIV; gan Gutun Owain, GO cerdd LVII. Er mai Tomas a gyferchir gyntaf mewn cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd, ymddengys mai cerdd fawl i’w blant ydyw’n bennaf ac nad oedd Tomas yn fyw pan y’i canwyd (DE cerdd XLIV a’r nodyn ar dudalen 156).
Canwyd y gerdd gynharaf sydd ar glawr i aelod o deulu enwog Salbrïaid Lleweni gan Sypyn Cyfeiliog (Dafydd Bach ap Madog Wladaidd) i dad Tomas, sef Harri ap Rawling Salbri (GSCyf cerdd 2, 46–52). Diogelwyd i fab Tomas, sef ail Domas Salbri, liaws o gerddi: dau gywydd mawl ac awdl farwnad gan Dudur Aled, TA cerddi X, XXIV a XXV; tri chywydd mawl ac un cywydd marwnad gan Lewys Môn, GLM cerddi LV, LVI, LVII a LIX; cywydd mawl gan Gutun Owain, GO cerdd LVIII. Priodolwyd i Dudur Aled ac i Lewys Môn gywydd mawl arall iddo, ac fe’i golygwyd fel gwaith y ddau yn eu tro (TA cerdd XXVI; GLM cerdd LVIII).
Priododd Elsbeth, ferch Tomas Salbri, ag uchelwr o Fryneuryn yn Llandrillo yn Rhos, sef Huw Conwy. Noddodd Huw ac Elsbeth gerddi gan nifer o feirdd: cywydd yn ei foli ef ac Elsbeth gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 222; cywydd mawl i’r pâr gan Gutun Owain, GO cerdd XLVII; cywydd i lys Huw ym Mryneuryn gan Dudur Penllyn, GTP cerdd XV. Canodd Ieuan Llwyd Brydydd yntau gywydd mawl i ferch Elsbeth, sef Elsbeth arall a briododd Morgan Holand ap Siôn (GILlF 10.51).
Achresi
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Llywarch ap Brân’ 1, ‘Llywarch Howlbwrch’ 1, 2, ‘Marchudd’ 22; WG2 ‘Holland’ 2, ‘Marchudd’ 6 B1, 22 B1, ‘Salesbury’ 1, 2; GSCyf 46–52; GLM 461. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng ngherdd Guto i Domas. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Tomas Salbri ap Harri Salbri o Leweni
Gan fod Guto’n rhoi rhywfaint o sylw i ddau o blant Tomas yn y gerdd a ganodd iddo, sef Tomas ac Elsbeth, dengys yr achres isod eu teuluoedd hwythau.
Disgynyddion Tomas Salbri o Leweni
Roedd Sioned, gwraig gyntaf Tomas Salbri ap Tomas Salbri, yn ferch i un o noddwyr Guto, sef Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn. At hynny, priododd Marged ferch Tomas ŵyr i un o noddwyr Guto, sef Edward ap Wiliam ap Siôn Hanmer. Ail wraig Tomas Salbri ap Tomas Salbri (os priodi a wnaethant) oedd Marged ferch Siencyn.
Gyrfa Tomas Salbri
Yn HPF iv: 330 nodir i Domas Salbri farw ym mrwydr Barnet yn 1471, ond diau bod Roberts (DE 156–7) yn llygad ei le’n diystyru’r dystiolaeth honno yn wyneb yr hyn a ddywed Gutun Owain yn ei farwnad i Domas (GO LVII.13–16; anwybydder, o ganlyniad, GDT 6.37–8n a TA 668):Mil pedwar cant, – ail Antwn, –
Oedd oed Tuw pan gladdwyd hwn,
A’r ail rrif ar ôl y rrain,
Ydoedd ddec a dav ddevgain.Bu farw Tomas yn 1490. Nodir yn y DNB Online s.n. Salusbury family fod Tomas yn gwnstabl Dinbych yn 1454, ac mae’n bosibl mai ef a enwir gan Owen (1978: 255) fel stiward yn llys bwrdeistref Rhuthin ym mis Rhagfyr 1447. Gan fod tad Tomas, Harri Salbri, yn ei flodau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, mae’n bur debygol fod Tomas mewn cryn dipyn o oedran pan fu farw yn 1490, onid oes amryfusedd yn yr achresi (GSCyf 46–52; Owen 1978: 178; nid yw’n eglur pwy yw’r Henry de Salusbury a enwir fel bwrdais yn Ninbych yn 1418, ibid. 183). Yn ôl GLM 463, claddwyd Tomas yn nhŷ’r Brodyr Gwynion yn Ninbych.
Yn ôl Evans (1955: 14), ‘there are vague references in some Welsh poems of the period to the prowess of Thomas Salusbury (known as Hen Domas) of Llewenni [sic] in the battle of Bloreheath in 1459 – on the Shropshire, Staffordshire border, and one of the first battles of the Wars of the Roses … This Thomas was killed at the Battle of Barnet in 1471’. Ni nodir ffynonellau Evans ac ni ddaethpwyd o hyd i’r cyfeiriadau annelwig honedig yng ngwaith y beirdd. Cesglir mai Tomas Salbri neu Domas ap Harri arall a fu farw yn 1471.
Tomas Salbri ap Tomas Salbri, fl. c.1466–m. 1505
Bu farw etifedd Tomas Salbri bymtheng mlynedd wedi ei dad ym mis Ionawr 1505, ac ef a’i wraig, Sioned (a fu farw yn 1515), oedd yr olaf o’r Salbrïaid i’w claddu yn nhŷ’r Brodyr Gwynion yn Ninbych (DNB Online s.n. Salusbury family; DE 157; Evans 1955: 14–15; GLM 463). Yn 1497 ymladdodd Tomas ym myddin Harri VII ym mrwydr Blackheath (neu frwydr Pont Deptford), yn ne-ddwyrain Llundain heddiw, yn erbyn lluoedd o Gernyw a wrthwynebai’r dreth uchel a roes y brenin arnynt er mwyn ariannu ei ryfela yn erbyn yr Alban. Cafodd ei urddo’n farchog yn sgil y fuddugoliaeth ar 17 Mehefin (DNB Online s.n. Salusbury family; DE 157, ond sylwer mai 22 Mehefin yw’r dyddiad a nodir yno).
Fe’i penodwyd yn gwnstabl Dinbych ar 23 Ionawr 1466 ac eto ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Richard III, sef rywdro rhwng 26 Mehefin 1483 a 25 Mehefin 1484 (Evans 1955: 14; GGl 359; DE 157; Owen 1978: 178). Y tebyg yw mai ef hefyd a enwir yn Owen (ibid.) fel un o fwrdeiswyr Dinbych yn 1476. Dengys GLM 463 iddo dderbyn comisiwn i grynhoi gwŷr ac arian i ymladd yn Ffrainc yn 1491, ei fod yn fforestwr ac yn rhaglaw arglwyddiaeth Dinbych yn 1501 ac iddo dderbyn comisiwn arall i gynnal arolwg o’r arglwyddiaeth yn 1503. Yn ôl GGl 359 cymerodd brydles ar felinau Fflint yn 1482 a bu’n stiward y Fflint rhwng 1482 ac 1485 (1489 yn ôl DN xxxiii) ac eto o 1495 i 1499. Fe’i penodwyd yn ddirprwy siryf y dref yn 1470 ac 1472 ac yn siryf o 1495 hyd ddiwedd ei oes (ibid.; DE 157).
Llyfryddiaeth
Evans, W.A. (1955), ‘The Salusburys of Llewenni [sic] and the Carmelite Friary in Denbigh’, CHSDd 4: 13–25
Owen, D.H. (1978), ‘Denbigh’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 164–87