Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn neu’n anghyflawn, mewn 20 llawysgrif sy’n dyddio o drydydd chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pur debyg ydynt i’w gilydd, yr un yw trefn eu llinellau a diau eu bod yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig. Mae Gwyn 4 a BL 14894 yn brin o rai llinellau, a drylliau yn unig a geir yn Pen 221, LlGC 1579C a LlGC 1559B. Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd a chanolbarth Cymru.
Ymranna’r testunau yn ddau brif fath, sef y rheini sy’n tarddu o LlGC 17114B, a’r rheini sy’n tarddu o ‘Gynsail Dyffryn Conwy’, sef cynsail X yma (gw. y stema). Sylwer, er hynny, mai cymysgedd o ddarlleniadau LlGC 17114B a thestunau X a geir yn LlGC 6681B. Gwelir hefyd ambell arwydd o groesddylanwadu yn y testunau sy’n tarddu o X. Ni ellir pennu union berthynas y drylliau LlGC 1579C, LlGC 1559B â’r testunau eraill.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B, LlGC 3049D.
1 sy geidwad Darlleniad X; gthg. LlGC 17114B yw keidwad, ond er nad oes gwahaniaeth ystyr, mwy cyson yw cystrawen sy geidwad â 3 sy lew, 5 sy dŵr … sy dirion, 6 sy wych.
3 â’i Darlleniad X; gellid ystyried hefyd LlGC 17114B i.
9 pawb Darlleniad X; bai, yn ddiau, yw LlGC 17114B paw.
10 i LlGC 17114B o, X y ac eithrio BL 14894 i. Ni rydd o synnwyr boddhaol ac amlwg fod y, o’i ddeall fel y fannod, yn anghywir gan na ddisgwylid iddo dreiglo gwenyn. Mae i, ar y llaw arall, yn rhoi synnwyr (cf. GGl) ac ymddengys ddarfod camddeall y i gynrychioli’r fannod yn hytrach na’r arddodiad. Dichon mai fel ‘bai ffodus’ y dylid ystyried darlleniad BL 14894. Ond mae’n bosibl fod y rhan hon o’r testun yn llwgr (gw. hefyd 10n (esboniadol)).
15 a’r Darlleniad X (a rydd r ganolgoll); LlGC 17114B a.
26 ogan LlGC 17114B o gan, camraniad.
28 fab Felly X, LlGC 17114B. Yn GGl darllenir mab gyda Llst 30.
30 euraw Felly X; nid cystal yw eiriav LlGC 17114B.
32 yw’r Felly LlGC 17114B, X ac eithrio C 2.617. Gthg. GGl yw, a geir yn C 2.617, BL 14894. Pe derbynnid y darlleniad hwnnw, byddai hon yn cyfeirio at clod yn 30, ond pa ddarlleniad bynnag a ddilynir, mae tystiolaeth y llawysgrifau yn gryf o blaid mai ywr a oedd yng nghynsail y gerdd.
40 y sydd dan sêr Felly LlGC 17114B a’r rhan fwyaf o destunau cynnar X. Er diddordeb, ceir hefyd ymysg yr ail y darlleniad sydd dan y ser yn Gwyn 4 a LlGC 3051D.
42 cherddor Felly’r rhan fwyaf o’r llawysgrifau; gthg. GGl cherddwr a geir yn C 5.167 a Llst 30 ond yr un yw’r ystyr.
46 rhan o’i Felly X (ond Llst 30 rhannv i). LlGC 17114B rranv i (cf. GGl) ond ailadrodda synnwyr rhoi yn y llinell flaenorol.
55 o thyfodd pennaeth Felly X (ond BL 14894 benaeth). LlGC 17114B Athyvodd gwenith (ond C 5.167 O thyvodd …), a gellid ystyried a. Ond gwell yw o thyfodd, o ran effaith rethregol gynyddol, gan ei fod yn adleisio 53 o threuliodd, ac ni rydd gwenith gystal synnwyr (defnyddir tyfu ynglŷn â chynnydd cymdeithasol neu wleidyddol pennaeth, cf. 62.25–6).
56 eginyn beirdd Gthg. LlGC 17114B egin in berdd. Gellid ystyried egin in (hynny yw egin i’n) hefyd ond amlwg mai gwall yw berdd.
58 mawr Felly LlGC 17114B a’r rhan fwyaf o destunau X. Gthg. GGl marw, a geir yn C 2.617 (a Llst 30) yn unig a hynny fel ‘cywiriad’ o mawr. Ar ddewis y gair mawr yma, gw. 58n mawr (esboniadol). Annisgwyl yw LlGC 3051D oes ir am os mawr.
60 a’r Diddorol yw’r darlleniad or a geir yn LlGC 3051D yn unig. Ar un olwg, mae sôn am droi trai yn llanw, hynny yw, colled yn llwyddiant, yn rhoi gwell synnwyr na sôn am droi llanw a thrai. Gallai llanw a thrai, er hynny, gyfeirio at ansefydlogrwydd pethau, a byddai ‘troi’ neu newid sefyllfa felly yn dwyn sefydlogrwydd yn ei sgil.
Cywydd moliant yw hwn i Rosier ap Siôn Pilstwn o Emral ym Maelor Saesneg. Ar y Pilstyniaid, gw. nodyn ar gefndir cerdd 72. Canodd Guto hefyd i gefnder Rhosier, Siôn ap Madog, a berthynai i gangen arall o’r teulu yn Hafod-y-wern, Bers, ym Maelor Gymraeg (gw. ibid.).
Syml yw cynnwys y gerdd. Dechreuir trwy foli Rhosier Pilstwn am ei nawdd, ei haelioni a’i boblogrwydd ymysg y beirdd (llinellau 1–24). Ni roddodd neb erioed ddrygair i Rosier ac ni fu neb yn haelach, nid yw ei lys byth yn brin o bobl a chaiff pawb ei anrhydeddu yno (25–42). Er iddo dreulio amser yn rhyfela, llwyddodd i fod yn hael hefyd, dymunir amgylchiadau mwy heddychlon iddo a’i ganmol am ei gynnydd (43–52). Wrth gloi’r gerdd, tyn Guto sylw at y ffaith fod gan Rosier etifedd a fydd yn diogelu ei lwyddiant ac a fydd yn gyfaill i’r beirdd (53–62).
Dyddiad
Mae’r cyfeiriadau yn y gerdd at filwriaeth Rhosier ap Siôn yn ddiau yn cyfeirio at ei ran yn Rhyfeloedd y Rhosynnau (gw. Rhosier ap Siôn Pilstwn), a rhaid, felly, mai rywbryd rhwng dechrau’r rhyfeloedd yn 1455 a marw Rhosier yn 1469 y canodd Guto y cywydd iddo. Ond gallai llinellau 47–52 yn hawdd gyfeirio at y cyfnod ar ôl i Rosier dderbyn pardwn gan Edward IV a chynigir, felly, mai rywbryd rhwng Mawrth 1469 a’i farwolaeth y flwyddyn honno y canwyd y gerdd.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 55% (34 llinell), traws 26% (16 llinell), sain 17.5% (11 llinell), llusg 1.5% (1 llinell).
1 teirgwlad Sef, mae’n debyg, Gwynedd, Powys a Deheubarth. Efallai fod yma adlais o waith Rhosier ap Siôn yn brwydro yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, a welid gan y beirdd fel brwydr dros Gymru hefyd.
2 Emral Sef Emral, ym Maelor Saesneg, lle roedd llys Rhosier ap Siôn.
4 nai Owain Roedd Rhosier ap Siôn yn or-nai i Owain Glyndŵr, drwy fod ei nain, Lowri, yn chwaer i Owain. Cymerodd ei gŵr hithau, Robert Pilstwn, ran yn y gwrthryfel, gw. WG1 ‘Puleston’, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; ByCy 768.
8 Pilstwn Hen Syr Roger Puleston, yn ôl pob tebyg, sefydlwr llinach y teulu yn Emral, gw. WG1 ‘Puleston’.
10 want Ymddengys mai’r amrywiad seinegol ar chwant sydd yma, gw. GMW 11. Er hynny, chwant yw’r ffurf arferol gan Guto ac mae want yn fwy deheuol ei naws, cf. 21n. Gw. hefyd 10n (testunol).
13 Beuno Un o brif saint Cymru (?bu farw 642); fe’i cysylltir ag amryw fannau yng ngogledd Cymru, gw. LBS i: 208–21; ByCy 30; CLC2 46.
14 Maelor Sef Maelor Saesneg, gw. 2n.
18 gwledd undydd a blwyddyn Gellid hefyd ei ddeall i olygu (gyda pheth gormodiaith) ‘gwledd yn parhau am flwyddyn a diwrnod’.
21 llys Bilstwn bant Cf. 114.24 O Frysto i Benfro bant lle deellir bant i olygu ‘draw’. Ymddengys mai ffurf fer yr ymadrodd i bant sydd yma, ac mae’r ystyr ‘draw’ yn gweddu i’r ddwy enghraifft. Serch hynny, â Cheredigion, sir Benfro a’r De y cysylltir yr ymadrodd yn bennaf, gw. GPC 2680; cf. 10n. Gellid deall bant yn enw (‘ym mhant llys Pilstwn’), gan olygu rhyw ddyffryn neu lyn (glyn) – ond ymddengys hynny’n annhebygol.
26 Nudd Roedd Nudd ap Senyllt, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–76, 464–65; WCD 509. Gw. hefyd 32n.
31–2 Ymlid … / Y Tri Hael yw natur hon Yr hyn a olygir yw bod gan Rosier ap Siôn gymeriad mor hael fel ei fod yn ysbrydoli beirdd i dywallt y clod pennaf arno.
32 Y Tri Hael Gw. 26n.
35 Mredudd Fychan Mae’n ansicr at bwy y cyfeirir. Yn WG1 rhestrir un ar bymtheg o wŷr o’r enw o wahanol rannau o Gymru yn y cyfnod 1200–1400 ond os cyfetyb gwrthrych y testun i un ohonynt, anodd gwybod i ba un. Ai Maredudd Fychan ap Maredudd ap Hywel ap Phylip Dorddu, a anwyd tua 1400, gŵr o Arddfaelog, plas uchelwyr enwog eu nawdd ger Llanbister, Maelienydd (gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 29; GLl 186–7)? Os felly, mae’n bosibl mai ei fab oedd y Dafydd Amhredudd Fychan a noddodd englynion Tudur Penllyn sy’n ateb deg o feirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn, a oedd wedi ei ddychanu (cerdd 46b). Ond, er bod Guto’n cyfeirio at Faredudd Fychan fel esiampl o urddas, cyfoeth a haelioni (35–8), ni chrybwyllir, hyd y gwyddys, unrhyw Faredudd Fychan gan y beirdd ar yr un gwynt â ‘Thri Hael’ Ynys Prydain (32) neu Ifor Hael, ffigurau a oedd wedi cyrraedd enwogrwydd diarhebol a chenedlaethol am eu haelioni. Dichon, felly, fod enwogrwydd Maredudd wedi ei gyfyngu i gynulleidfa Guto’r Glyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac os felly, nid yr un gŵr fyddai â Maredudd Fychan o Faelienydd.
52 Siob Gwrthrych dioddefus a di-ben-draw ei amynedd ‘Llyfr Job’ yn yr Hen Destament, gw. ODCC3 884; ond roedd yn ddiarhebol hefyd am ei olud a dyna sydd dan sylw yma; cf. 3.65–6 Ni werthai hwn i wrtho / Ei glod ef er golud Io a gw. GLGC 575; Breeze 1992.
55 pennaeth Cyfeirir at etifedd (aer, 58) Rhosier Pilstwn. Os yw’r dehongliad o 57–8 yn gywir, Syr Rhosier Pilstwn a olygir, gw. WG2 ‘Puleston’ (C1).
56 eginyn Â’r defnydd yma o’r terfyniad bachigol -yn ynglŷn ag etifedd, cf. disgrifiad Guto o etifedd Siôn ap Madog Pilstwn, cefnder Rhosier ap Siôn, fel marworyn a [g]wreichionen (y ffurf fenywaidd), 72.61, 68.
57 Rhosier Nid Rhosier ap Siôn ond Rhosier ei fab, gw. 55n.
58 os Mewn enghreifftiau o’r fath ymyla ei ystyr ar ‘gan’. Cf. marwnad Dafydd Nanmor i ferch lle dywed, OBWV 155, Os marw hon yn Is Conwy / Ni ddyly Mai ddeilio mwy, a’r defnydd ohono heddiw mewn ymadroddion megis, ‘Os wyt ti mor wybodus, ateb hyn imi’. Sylwer, er hynny, mai sangiad yw Os mawr aer yma ac nas atebir, felly, gan gymal canlyniadol (apodosis).
58 mawr Cf. y ffordd y sonia Guto am etifedd Siôn ap Madog Pilstwn, gw. 56n, 72.57–8, 61–2, Y mae elain ym Maelawr / I garw moel a fydd gŵr mawr, / … / Etewyn, marworyn mawr, / A fu olau i Faelawr.
58 Mair Sef y Forwyn Fair. Diddorol yw ei henwi ynglŷn ag etifedd.
58 arall Hynny yw, rhywun arall o’r enw Rhosier. Dweud y mae Guto yn y cwpled, gan chwarae ar unrhywiaeth enwau y tad a’r mab, fod un Rhosier yn etifedd i Rosier arall.
61 ei Gallai gyfeirio at Rosier ap Siôn neu ei fab, ond os Rosier ap Siôn a olygir yn y llinell nesaf, ymddengys yn fwy tebygol mai ef a olygir yma hefyd.
61 troes Ymddengys yn fwy tebygol mai Rhosier ap Siôn, yn hytrach na Mair (58) neu (o ddeall troes yn ferf gyflawn) ederyn yw’r goddrych.
61 ederyn Gair a ddefnyddir weithiau gan Guto yn ganmoliaethus ac edmygus; cf. 95.13–14 Duw a eurodd ederyn / Â gwallt o aur, ai gwell dyn?, 29.13–14 Cawn darw acw’n aderyn: / Ceiliog adeiniog wyd ynn.
Llyfryddiaeth
Breeze, A. (1992), ‘Aur Job’, LlCy 17: 134–7
This poem is a cywydd of praise to Rhosier ap Siôn Puleston of Emral in Maelor Saesneg. On the Puleston family, see the background section of poem 72. Guto also sang to Rhosier’s cousin, Siôn ap Madog, who belonged to another branch of the family settled in Hafod-y-wern, Bersham, in Maelor Gymraeg (see ibid.).
The poem is straightforward in content. It begins by praising Rhosier Puleston for his patronage, his generosity and his popularity among the poets (lines 1–24). No one has ever spoken ill of Rhosier and there has been no one more generous, his court is never short of people and everybody is honoured (25–42). Although he has spent time warring, he has succeeded in being generous too, he is wished more peaceful circumstances and praised for his prowess (43–52). In concluding the poem, Guto draws attention to the fact that Rhosier has an heir who will safeguard his success and be a friend of the poets (53–62).
Date
The allusions in the poem to Rhosier ap Siôn’s military activities no doubt have to do with his part in the Wars of the Roses (see Rhosier ap Siôn Puleston), and Guto must, therefore, have presented his poem to him sometime between the outbreak of the wars in 1455 and Rhosier’s death in 1469. However, lines 47–52 could easily refer to the period after Rhosier received a pardon from Edward IV and it may therefore be suggested that the poem was sung sometime during the period between March 1469 and Rhosier’s death in that year.
The manuscripts
The poem has been preserved, complete or incomplete, in 20 manuscripts, dating from the third quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. They are pretty similar to each other, have the same basic line sequence and doubtless derive from a common written exemplar. The manuscripts have links with north and mid Wales. The texts fall into two kinds, those deriving from LlGC 17114B and those, such as Gwyn 4, deriving from the ‘Conwy Valley Exemplar’, with instances of textual cross-influence. The relationship of the fragments LlGC 1579C and LlGC 1559B with the other texts is uncertain. The edited text is based on LlGC 17114B, LlGC 8497B and LlGC 3049D.
Previous edition
GGl poem LXII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 55% (34 lines), traws 26% (16 lines), sain 17.5% (11 lines), llusg 1.5% (1 line).
1 teirgwlad Probably Gwynedd, Powys and Deheubarth. There may be an echo here of Rhosier ap Siôn’s part in fighting in the Wars of the Roses, which the poets saw as a battle for Wales too.
2 Emral Emral, in Maelor Saesneg, where Rhosier ap Siôn had his court.
4 nai Owain Rhosier ap Siôn was a great-nephew of Owain Glyndŵr by virtue of the fact that his grandmother, Lowri, was Owain’s sister. Her husband, Robert Puleston, also took part in the uprising, see WG1 ‘Puleston’, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; DWB 816.
8 Pilstwn Hen Probably Sir Roger Puleston, founder of the Emral branch of the family, see WG1 ‘Puleston’.
10 want Apparently a phonological variant of chwant, see GMW 11. Even so, chwant is the form usually employed by Guto and want is more south Walian in character, cf. 21n.
13 Beuno One of the chief saints of Wales (?died 642); he is associated with various places in north Wales, see LBS i: 208–21; DWB 33–4; NCLW 46.
14 Maelor Maelor Saesneg, see 2n.
18 gwledd undydd a blwyddyn It could also be understood to mean (with some exaggeration) ‘a feast lasting for a year and a day’.
21 llys Bilstwn bant Cf. 114.24 O Frysto i Benfro bant ‘from Bristol to Pembroke yonder’ where bant is understood to mean ‘yonder’. It appears that we have here a shortened form of the expression i bant, and the sense ‘yonder’ suits both instances. Even so, the expression is associated chiefly with Ceredigion, Pembrokeshire and the South, see GPC 2680; cf. 10n. Bant could be understood as a noun (‘in the pant of Puleston’s court’), signifying some valley or glen – but that appears less likely.
26 Nudd Nudd ap Senyllt, together with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and considered a paragon of generosity by the poets, see TYP3 5–76, 464–65; WCD 509. Also 32n.
31–2 Ymlid … / Y Tri Hael yw natur hon Rhosier ap Siôn has such a generous character that he inspires poets to pour the highest praise on him.
32 Y Tri Hael See 26n.
35 Mredudd Fychan It is uncertain who is meant. In WG1 sixteen men of the name are found from different parts of Wales in the period 1200–1400, but if the subject of the text is to be identified with any of them, it is difficult to establish with which one. Was it Maredudd Fychan ap Maredudd ap Hywel ap Phylip Dorddu, born around 1400, a man from Garddfaelog, the quarters of famous aristocratic patrons by Llanbister in Maelienydd (see WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 29; GLl 186–7)? If so, it is possible that his son was the Dafydd Amhredudd Fychan who was patron of Tudur Penllyn’s englynion aimed at ten poets, including Guto’r Glyn, who had lampooned him (poem 46b). However, although Guto refers to Maredudd Fychan here as an example of distinction, wealth and generosity (35–8), there is, as far as is known, no Maredudd Fychan mentioned by the poets in the same breath as the ‘Three Generous Men’ of Great Britain (32) or Ifor Hael, figures who had attained proverbial, nation-wide repute for their generosity, and his fame may therefore have been limited to Guto’s audience in north-east Wales, in which case he would not be identifiable with Maredudd Fychan of Maelienydd.
52 Siob The suffering, infinitely patient subject of ‘The Book of Job’ in the Old Testament, see ODCC3 884; he was also proverbial for his wealth, which is what claims our attention here; cf. 3.65–6 Ni werthai hwn i wrtho / Ei glod ef er golud Io ‘He would not sell his fame to anyone / for the wealth of Job’ and see GLGC 575; Breeze 1992.
55 pennaeth An allusion to the heir (aer, 58) of Rhosier Puleston. If the interpretation of 57–8 is correct, it is Sir Roger Puleston who is meant, see WG2 ‘Puleston’ (C1).
56 eginyn With this use of the diminutive suffix -yn with reference to an heir cf. Guto’s description of the heir of Siôn ap Madog Puleston, cousin of Rhosier ap Siôn, as marworyn ‘small ember’ and gwreichionen ‘spark’, 72.61, 68.
57 Rhosier Not Rhosier ap Siôn but Rhosier his son, see 55n.
58 os In instances of the kind its meaning borders on ‘because’. Cf. Dafydd Nanmor’s elegy to a girl where he says, OBWV 155, Os marw hon yn Is Conwy / Ni ddyly Mai ddeilio mwy ‘If this girl has died in Is Conwy / May should not put forth leaves any more’, and the use of it today in expressions such as, ‘If you’re so knowledgeable, tell me this’. Note, however, that os mawr aer is a sangiad here and that it is not therefore answered by an apodosis clause.
58 mawr Cf. the way Guto speaks of the heir of Siôn ap Madog Puleston see 56n, 72.57–8, 61–2, Y mae elain ym Maelawr / I garw moel a fydd gŵr mawr, / … / Etewyn, marworyn mawr, / A fu olau i Faelawr ‘There is a young stag in Maelor, / progeny of a doe, who will be a great man, / ... / a firebrand, small great ember, / who was a light to Maelor.’
58 Mair The Virgin Mary. The mention of her in connection with an heir is interesting.
58 arall I.e., somebody else called Rhosier. Guto is saying in the couplet, while playing on the identity of the names of the father and the son, that one Rhosier is the heir of another Rhosier.
61 ei It could refer to Rhosier ap Siôn or his son, but if Rhosier ap Siôn is meant in the next line, it appears more likely that it is he who is meant here as well.
61 troes It appears more likely that Rhosier ap Siôn, rather than Mair (58) or (if troes is taken to be an intransitive verb) ederyn is the subject.
61 ederyn A word sometimes used by Guto complimentarily; cf. 95.13–14 Duw a eurodd ederyn / Â gwallt o aur, ai gwell dyn? ‘God gilded the bird / with feathers of gold, is there a better man?’, 29.13–14 Cawn darw acw’n aderyn: / Ceiliog adeiniog wyd ynn ‘We’ll have a bull there as a bird: / you are a winged cockerel for us.’
Bibliography
Breeze, A. (1992), ‘Aur Job’, LlCy 17: 134–7
Canodd Guto gywydd mawl i Rosier ap Siôn Pilstwn (cerdd 74), ac felly hefyd Lewys Glyn Cothi a Gutun Owain (GLGC cerdd 213; GO cerdd LIII). Canodd Gutun Owain gywydd i ofyn cledd gan fab Rhosier, Mathau Pilstwn (ibid. cerdd XVII; ni cheir enw Mathau yn yr achresi, ond mae’n bur eglur ei fod yn fab i noddwr Guto). Ceir cywyddau mawl gan Hywel Cilan ac Ieuan ap Tudur Penllyn i gefnder Rhosier, Edward ap Madog Pilstwn (GHC cerdd XXIII; GTP cerdd 42), a chanwyd nifer o gerddi i gefnder arall iddo, Siôn ap Madog Pilstwn, ac i’w ddisgynyddion yntau. At hynny, canodd Guto gywydd i ofyn ffaling (cerdd 53) gan fodryb Rhosier, Elen ferch Robert Pilstwn. Nid yw’n eglur pwy’n union yw’r Gruffudd Hanmer a’r Rhosier ap Siôn a enwir mewn cywydd gan Hywel Cilan (GHC cerdd XXV), ond mae’n debygol mai noddwr Guto yw’r ail.
Ceir y gerdd hysbys gynharaf i aelod o deulu’r Pilstyniaid gan Ruffudd Fychan ap Gruffudd, a gyflwynodd gywydd i hendaid Rhosier, Rhisiart ap Syr Rhosier Pilstwn o Emral, yn gofyn am delyn (GSRh cerdd 11). Canwyd nifer fawr o gerddi i Bilstyniaid yr unfed ganrif ar bymtheg gan lu o feirdd, yn cynnwys Siôn Trefor, Siôn Cain, Wiliam Llŷn, Simwnt Fychan, Gruffudd Hiraethog, Tudur Aled, Lewys Môn, Mathau Brwmffild, Lewys Morgannwg a Lewys Daron.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5, ‘Hanmer’ 1, ‘Osbwrn’ 2, ‘Puleston’; WG2 ‘Puleston’ C ac C1; GO cerdd XVII. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Rosier mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral
Gwelir bod Rhosier yn perthyn i nifer o noddwyr blaenllaw’r gogledd. Ar ochr ei dad roedd yn gefnder i Siôn ap Madog Pilstwn o Hafon-y-wern ac yn nai i Angharad wraig Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Rhoes ei fodryb Elen nawdd i Guto ac roedd modryb arall iddo, Annes, yn wraig i Dudur Fychan, hanner brawd i Wiliam Fychan o’r Penrhyn. Roedd ei fam yn gyfnither i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. At hynny, roedd ei chwaer, Marged, yn briod â Dafydd, mab Ieuan ab Einion o’r Cryniarth.
Fel y gwelir, bu Rhosier yn briod ddwywaith, ond ceir yn achresi Bartrum fanylion perthynas arall ddibriod a gafodd gyda gwraig o’r enw Marged ferch Iorwerth. Cawsant chwech o blant.
Ei deulu a’i yrfa
Roedd y Pilstyniaid, megis y Salbrïaid, y Conwyaid a’r Hanmeriaid, yn noddwyr o bwys yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Disgynnent o Syr Roger de Puleston, brodor o Puleston yn swydd Amwythig a gafodd dir gan Edward I yn Emral ym Maelor Saesneg, lle ymsefydlodd cyn 1283 (Charles 1972–3: 3, 22). Priododd taid Rhosier, Robert Pilstwn, â Lowri ferch Gruffudd Fychan o Lyndyfrdwy, chwaer i Owain Glyndŵr. Ymladdodd Robert yn y gwrthryfel ym mhlaid Owain.
Yn ôl achresi Bartrum, perthynai Rhosier i’r genhedlaeth a anwyd tua 1400. Profwyd ewyllys ei dad, Siôn, ar 17 Ebrill 1444, felly mae’n bur debygol fod Rhosier yn fyw bryd hynny. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau brwydrodd ar ochr y Lancastriaid, gan ddal castell Dinbych fel dirprwy gwnstabl i’w berthynas, Siasbar Tudur, yn ystod ymgyrch 1460–1 (gyda Siôn Eutun), ac yn 1463 a 1464 bu ef a’i dad yn arwain y Lancastriaid yng ngogledd Cymru. Derbyniodd, er hynny, bardwn gan Edward IV ym Mawrth 1469 (Evans 1995: 70, 72, 84, 156, 89, 90, 102; GO 280). Y tebyg yw mai ef a enwir fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun ym mis Gorffennaf 1461, pan dderbyniodd gomisiwn ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Siôn Hanmer, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51). Bu farw yn 1469. Ymhellach ar y Pilstyniaid, gw. ByCy Ar-lein s.n. Puleston (Teulu).
Llyfryddiaeth
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)