Y llawysgrifau
Ceir 36 copi o’r gerdd hon mewn llawysgrifau. Y cwpled agoriadol yn unig sydd yn Pen 221 a llinellau 39–52 yn unig yn LlGC 1559B a LlGC 1579C. Mae trefn y llinellau yn amrywio lawer iawn sy’n dangos i’r copïau gael eu heffeithio gan draddodiad llafar. Gellir olrhain traddodiad y llawysgrifau i bedair fersiwn o’r cywydd yn y stema a fu’n cylchredeg ar lafar o bosibl ac o’r herwydd wedi dylanwadu ar ei gilydd.
Ceir trefn llinellau unigryw a chwpled (43–4) ar goll yn BL 14967, nodwedd gyffredin ar y llawysgrif hon sy’n awgrymu ôl traddodiad llafar ac felly nad yw’n gopi gwych iawn. Perthyn LlGC 5272C yn agos i BL 14967 ar wahân i’r ffaith fod testun LlGC 5272C yn gyflawn. Awgrymir eu bod yn tarddu o X1 yn y stema. Un cwpled yn unig sy’n effeithio ar y drefn 1–74 yn LlGC 5272C sef cwpled 43–4, yr un cwpled, yn ddiddorol ddigon, sydd yn eisiau yn BL 14967. Mae’r ddau yn darllen tair yn hytrach na tri yn 71 a tene n i chorff yn 45, sy’n dangos eu bod o bosibl yn rhannu’r un gynsail, sef X1 yn y stema.
Un o’r copïau cynharaf yw LlGC 17114B a dengys y darlleniadau fod LlGC 3050D yn gopi ffyddlon ohoni (megis y darlleniad carw yn hytrach na cawr, a dyrffin yn hytrach na dryffin). Ymddengys hefyd fod Pen 99 yn gopi o LlGC 17114B er nad yw’r dystiolaeth mor eglur (gw. 5 a 34). Nid yw’n gwbl amhosibl fod gan John Davies, copïydd Pen 99, fwy nag un testun o’i flaen wrth gopïo; byddai hynny’n egluro’r ffaith fod llawer o ddarlleniadau X4 yn ei destun ef o’r cywydd. Huw Arwystl a fu’n gyfrifol am gofnodi’r testun yn Pen 82 ac mae’n dilyn y drefn 1–74. Ond ceir ynddo ddarlleniadau gwahanol, megis lewder yn 9 (yn hytrach na leder) gan rannu’r un darlleniad â X6. Pen 82 yw’r copi hynaf sy’n darllen i rwyd, gw. 1n. Er bod y testun yn un cynnar (canol yr unfed ganrif ar bymtheg), nid yw’n cynnig darlleniadau da iawn a cheir nifer o wallau amlwg ynddo (cf. 101). Copi aneglur iawn yw’r un yn BL 14998 ond, ar y sail ei fod yn dilyn y drefn 1–74 ac yn rhannu’r un darlleniadau â Pen 82 a LlGC 17114B, dichon fod BL 14998 hefyd yn tarddu o’r un gynsail. Cesglir felly fod LlGC 17114B a Pen 82 yn rhannu’r un gynsail, sef X2 yn y stema.
Mae fersiynau’r cywydd yn y llawysgrifau sy’n tarddu o X2 ac X3 oll yn cynnig testun cyflawn ac yn dilyn y drefn 1–74: LlGC 17114B, Pen 82, LlGC 3049D, Gwyn 4, LlGC 8497B, LlGC 3050D a Pen 99. Grŵp o lawysgrifau sy’n tarddu o Ddyffryn Conwy a adweinir fel X3 yn y stema. Y tri hynaf yw LlGC 3049D, Gwyn 4 a LlGC 8497B. Ceir perthynas agosach rhwng Gwyn 4 a LlGC 3049D (cf. e.e. 29 a 34). Copi o’r cywydd yn Gwyn 4 yw’r un yn LlGC 21248D, a LlGC 3021F yn ei thro’n gopi o LlGC 21248D.
Mae’r grŵp nesaf o lawysgrifau yn tarddu o X4 yn y stema, sef LlGC 3051D, Bod 1 (→ Brog I.4), Pen 78, BL 14976 (→ Pen 152, C 4.10, BL 12230), BL 15040, LlGC 21290E, C 5.44, LlGC 970E, Llst 134, LlGC 13062B, LlGC 6511B, a BL Stowe 959. Ni chadwyd y darlleniad ap Rys yn 3, pan fai’n yn 12, a pan oedd yn 17 yn X4 o nodi rhai enghreifftiau.
Awgrymir yn betrus mai cangen o’r gynsail hon yw testun Pen 78, LlGC 3051D, Bod 1 a Brog I.4 gan eu bod yn cynnig yr un darlleniadau â Llywelyn Siôn ar adegau, megis y dyffryndir yn 10, a pan fu yn 17. Ond mae eu testun hefyd yn dilyn ambell i ddarlleniad X2 ac X3 megis leder yn 9. Mae eu cynsail, sef X5 yn y stema, wedi amrywio trefn y llinellau gan golli un cwpled, sef 35–6. Ychydig yn wahanol yw’r drefn yn LlGC 3051D yng nghymal olaf y cywydd, ond mae hynny’n ddealladwy gan fod y bardd yn dyfalu’r gyllell ac efallai i’r copïydd gamgopio un neu ddau o’r cwpledi disgrifiadol. Hynodir y grŵp hwn gan ddarlleniadau unigryw megis fab Rys yn 3, ar waed Idwal yn 4, llei bai yn 12, anad gwr yn 14, bwrw cwn i yn 27, a dyrr yn 31 a dwy ag un yn 71. Fodd bynnag, mae’n anodd gweld yn union pa un sy’n gopi o’r llall a gellir ond awgrymu bod Bod 1, Pen 78 a Brog I.4. yn perthyn yn agosach gan mai’r un yw’r drefn llinellau. Mae Pen 78 a LlGC 3051D yn perthyn i’r un degawd (sef y 1580au) ac mae’n debyg fod Brog I.4 yn gopi o Bod 1.
Yr un tarddiad, fe ymddengys, sydd i destun BL 14976, cynsail sy’n rhannu’r un darlleniadau â llawysgrifau Llywelyn Siôn, fel y dengys y darlleniad mab Rys yn 3 ac arweddog yn llinell 61. Fodd bynnag, fel yn achos X5, dilynir rhai darlleniadau llawysgrifau X2 ac X3 hefyd, megis lewder yn 9 (pan fo Llywelyn Siôn yn darllen haelder) ac annwyd yn 14 (pan wyd gan Llywelyn Siôn). Ceir trefn llinellau gwahanol eto i BL 14976 ond mae’r cywydd yn gyflawn y tro hwn. Perthyn BL 15040 yn agos iawn i BL 14976, ond gan fod trefn y llinellau yn dilyn LlGC 6511B, dichon fod y testun yn nes at gynsail llawysgrifau Llywelyn Siôn. Copi o BL 14976 yw Pen 152 a BL 12230 yn ei thro’n gopi o Pen 152.
Ceir darlleniadau unigryw a threfn llinellau amrywiol yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, sef LlGC 6511B, LlGC 21290E, C 5.44, LlGC 970E, Llst 134 a LlGC 13062B. Credir yn gyffredinol eu bod oll yn deillio o ffynhonnell gyffredin. Fodd bynnag, dylir nodi fod y gwall copïo yn LlGC 21290E (sef camgopïo’r cwpled 15–16 a rhoi llinell 16 yn gyntaf) yn digwydd hefyd yn Llst 134, LlGC 970E a C 5.44. Nid yw’n digwydd yn LlGC 6511B. Perthyn testun gwael BL Stowe 959 i’r un gynsail â llawysgrifau Llywelyn Siôn ond collwyd mwy o gwpledi.
Trawsysgrifiadau: BL 14967, LlGC 17114B, LlGC 3049D, Pen 78 a BL 14976.
1 y’th wnânt Darlleniad BL 14967 a LlGC 17114B. Ceir y darlleniad i rwyd yn Pen 82 ac ith wnair yn X3. Ond mae’r gynghanedd yn berffaith os yw gwnânt yn cael ei ynganu’n ‘gwnând’ a bod -nd yn cael ei ateb gan -nt (gw. CD 219). Ymddengys i’r copïwyr hepgor yr ail n yn wnant, eto er mwyn ‘gwella’ y gynghanedd a darllen wnaed yn y copïau diweddarach.
3 ap Rys Darlleniad X1, X2 ac X3. Ceisio ateb b yn mab a fu’n gyfrifol am newid y darlleniad yn X4 a darllen fab rys y mab hir oial yn Pen 78 (a gweddill X5) a mab rys a mab hir o ial yn X6 a X7. Ond pan ddaw h ar ôl cytsain feddal caledir y gystain: -b h- = p.
4 ŵyr Dudur, o waed Ceir y darlleniad unigryw ag o dvdyr gwaed Idwal yn LlGC 5272C: awgrym o gynsail lafar efallai? Ceisiwyd ‘gwella’ y gynghanedd gan X5 ac ateb yr r yn ŵyr.
5 mawr d’enw Ni ddangosir y cywasgiad ym mhob llawysgrif, e.e. yn LlGC 17114B mawr yw denw (ceir yr un darlleniad yn LlGC 3050D a Pen 99), mawr dy enw yn LlGC 6511B, LlGC 970E a C 5.44 ac yw d’enw yn y gweddill. Dichon mai camddeall mai unsill yw enw a fu wrth wraidd hynny. Dilynir BL 14967 a X3 yma felly.
7–8 Ni cheir y cwpled hwn yn X7.
8 fal cawr LlGC 17114B a LlGC 3050D yw’r unig rai sy’n darllen carw.
9 leder Dyma ddarlleniad BL 14967, LlGC 17114B, X3 ac X5. Ceir y darlleniad unigryw lewder yn Pen 82 (ac yn BL 14998 hefyd) a rhai o lawysgrifau X4, sef BL 15040 a BL 14976. Unigryw eto yw darlleniad Llywelyn Siôn haelder. Ac eithrio Pen 82 mae’r llawysgrifau cynnar o blaid darllen leder ‘arweinydd’ yma.
10 i’r dyffryndir Mae’r holl gopïau sy’n deillio o X1, X2 ac X3 yn darllen i’r dyffryndir yma ac eithrio Pen 99, awgrym fod gan y copïydd hwnnw fwy nag un copi o’r gerdd o’i flaen efallai. Fodd bynnag, yn GGl ceir darlleniad y llawysgrifau sy’n tarddu o X4, sef y dyffryndir. Mae’r dystiolaeth yn gryfach dros ddarlleniad y gweddill yma.
12 pan fai ’n Dyma ddarlleniad BL 14967, LlGC 17114B, X3 a Pen 99. Ceir y darlleniad unigryw nerth Rys lle bai ner/raid/nair a thrin yn X5 a nerth Rys i mewn aur a thrin gan Llywelyn Siôn. Mae X6, sef BL 14976 a BL 15040, yn cynnig darlleniad tebyg ond yn rhoi’r cysylltair a ar ddechrau’r llinell a nerth Rys mewn aur a thrin, a dyna ddarlleniad GGl hefyd. Gan fod yma gynghanedd draws nid yw’r gynghanedd o gymorth ond dengys y dystiolaeth lawysgrifol mai pan fai’n sydd fwyaf tebygol.
13 ben-fforestwr Treiglir gan ddilyn y llawysgrifau cynharaf, sef BL 14967 a LlGC 17114B.
14 annwyd Mae llawysgrifau X1, X2 ac X3 ynghyd â grŵp X6 yn darllen annwyd yma (ac eithrio LlGC 5272C sydd a’r darlleniad enaid gwr). Yn X4 ceir mân amrywiadau eto, sef anad gwr yn LlGC 3051D a Bod 1, ac ynad gwr yn Pen 78. Cynigir darlleniad gwahanol eto gan lawysgrifau Llywelyn Siôn, sef pan wyd gwr. Mae’r dystiolaeth yn gryfach tros annwyd felly.
15 neidio Dilynir y llawysgrifau, ond byddai’r ffurf amrywiol neitio (gw. GPC 2564) yn rhoi gwell cynghanedd.
17 pan oedd Gellir rhannu’r ddau ddarlleniad i hanner cyntaf y llinell hon yn weddol hawdd gan fod X1, X2 ac X3 yn darllen pan oedd ac X4 yn darllen pan fu. Efallai i ddechrau llinell 19 pan fu effeithio ar y darlleniad.
28 ba Ni threiglir pa yn BL 14967, LlGC 17114B a Pen 78, ond dilynir yma lawysgrifau grŵp Dyffryn Conwy a’i dreiglo.
28 als cig Llinell astrus gyda nifer o ddarlleniadau wedi eu newid gan y copïwyr. Yn Pen 82, LlGC 3049D a Gwyn 4 ceir y darlleniad ba les yw kwn heb alys kic gan roddi wyth sill i’r llinell. Hepgorir yw yn LlGC 17114B ac yn LlGC 8497B i wneud y llinell yn llai, fe ymddengys. BL 15040 yn unig sy’n darllen ba les yw kwn heb als kic a dilynir y darlleniad hwnnw gan awgrymu’n betrus mai y epenthetig a welir yn alys. Un enghraifft yn unig a rydd GPC2 181, sef GDG3 152.60 A las â gwawd, lun als gwêr. Yn DG.net 28.60 erys yr un darlleniad ond gyda’r nodyn canlynol: ‘Wyr als a geir gan LlS, ac alys gwer yn CM 5. Gwddf yw als, ond mae’r ymadrodd yn dywyll.’ Beth yw’r darlleniadau eraill felly? Ymddengys mai alys hefyd oedd yn gyntaf yn BL 14967 alyas kic, yn LlGC 8497B a{x}.lys cic, ac yn LlGC 3050D heb alys{alvais} kig. Edward Kyffin fu’n gyfrifol am yr olaf ac ef, fe ymddengys, fu’n gyfrifol am newid y darlleniad yn LlGC 5272C: ba les kwn eb alfais kic. Gan Lywelyn Siôn ceir ba les kwn heb a las kig a dilynwyd hynny yn GGl. Rhaid derbyn als felly o ran y darlleniad ac awgrymu’n betrus ei fod yn golygu ‘gwddf’ a bod y bardd yn cyfeirio at gig y carw (gw. y nodiadau esboniadol).
31 a wna Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio grŵp X5.
34 A roist gynt ar wast y gŵr Dyma linell drafferthus arall i’r copïwyr a hefyd i olygyddion GGl (sy’n dilyn darlleniad unigryw X6 Arw wisg gynt ar wasg y gŵr). Cymysgwyd rhwng y ddau air gwasg a gwast yn y llawysgrifau, gan fod y llythrennau t ac c mor debyg i’w gilydd ac ystyr y ddau air hefyd bron yr un peth. Rhydd GPC 1594 yr ystyr ‘meinedd neu ganol corff; rhwymyn, &c., a wisigir am ganol y corff, gwregys; arfwisg am ganol y corff’ i gwasg, a rhoir yr un ystyr bron yn GPC 1598 i wast, sef ‘gwasg corff, canol corff, bodis, staes’. O ran y dystiolaeth mae’r llawysgrifau cynharaf yn ffafrio’r darlleniad wast. Rhaid darllen, felly, a roist yn y rhan gyntaf a dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau cynharaf. Mae Llywelyn Siôn hefyd yn ategu’r darlleniad hwn.
35–6 Ni cheir y cwpled hwn yn grŵp X5.
38 dwyn i Siôn Hepgorir yr i yma yng nghopïau Llywelyn Siôn i geisio gwneud y llinell yn fyrrach, ond unsill yw enw fel uchod.
40 drwy hydd LlGC 17114B, LlGC 3050D a LlGC 5272C yn unig sy’n darllen ’r hydd yma. Digon posibl i’r llawysgrifau eraill golli’r gytsain r a cheisio ‘gwella’ y gynghanedd.
41 ysgell Darlleniad X1, X2, X3 a grŵp Llywelyn Siôn yw isgell. Ceir isgell yng nghywydd Rhys Goch Eryri am gyllell, gw. GRhGE 5.82 Asgell gwayw isgell gwyar a chymerir mai ‘cawl, potes, sew, grefi’ yw’r ystyr (fel trosiad am waed neu wyar), gw. GPC 2037. Nid yw hynny’n gwbl ystyrlon yma, fodd bynnag. Y darlleniad asgell sydd yn LlGC 3051D, BL 14976 a BL 15040 ac yn y golygiad yn GGl ond ar y cyfan mae’r dystiolaeth yn gryfach tros isgell. Yn betrus, felly, awgrymir fod isgell yn ffurf ar ysgell, sef ‘planhigyn pigog’, trosiad am y gyllell. Nodir yn GPC 3835 fod ysgell yn amrywiad ar ysgall ond mae’r enghraifft gynharaf yn perthyn i ganol yr unfed ganrif ar bymtheg.
45 tenau ’n ei chorff Dyma ddarlleniad sy’n rhannu’r llawysgrifau cynharaf. Yn LlGC 17114B, LlGC 3049D a Gwyn 4 ceir y darlleniad yw i chorff sy’n gwneud y llinell yn rhy hir. Mae BL 14967 yn darllen yn ichorff sydd eto’n rhy hir, a chywasgiad o hynny a geir yn LlGC 5272C a grŵp X5, tene n i chorff. Hepgorir yw/yn yn gyfangwbl yn LlGC 8497B, Llywelyn Siôn, BL 14976 a BL 15040. Byddai disgrifiad o’r gyllell yn dew ‘yn ei chorff’ yn ystyrlon ac yn cyd-fynd a’r ailadrodd yn ail ran y llinell tew’n ei chil.
50 unlliw’r haul Mae’r llinell yn rhy hir gyda’r darlleniad vn lliw ar havl yn rhai o’r llawysgrifau a rhaid ei chywasgu.
52 gymynu hydd Dilynir darlleniad mwyafrif y llawysgrifau ac eithrio LlGC 5272C, LlGC 3050D a BL 15040 (sy’n cynnwys y fannod gan ddarllen cymynu’r hydd). Ond nid disgrifiad penodol ydyw o’r carw ond datganiad cyffredinol i ganmol y gyllell, cf. 40n.
53 fy mhen-cun Ceir y darlleniad ym hen cun yn BL 14967, LlGC 17114B, LlGC 8497B a grŵp X6. Ond oherwydd y disgrifiad o’r gyllell yn disgyn hyd ei esgair yn 54 a’r cyfeiriad ato fel fy marwn yn 55, dichon mai dilyn y llawysgrifau eraill sydd orau yma a bod y bardd yn cyfeirio at Siôn Hanmer fel fy mhen-cun.
58 ŵyr Dichon fod dehongliad GGl yn hollol gywir a bod y bardd yn sôn am y gyllell hela fel ŵyr neu ddisgynnydd i gleddyf Olifer. Ceir y darlleniad amheus a wyr hawnt klyr gan Llywelyn Siôn.
61 orweiddiog Yn GGl dilynir darlleniad Llywelyn Siôn yma, sef arweddog, ond mae gorweiddiog yn gwbl ystyrlon ar gyfer y trosiad estynedig o’r cleddyf a’r cleddyfau bach fel mam a’i babanod.
62 ni bu’r Ceir darlleniad unigryw yn grŵp X5 ni bo’r baich yn hytrach na ni bu’r baich.
63 o daw Rhydd X5 ddarlleniadau unigryw eto, sef ochain yn Pen 78, o chair yn LlGC 3051D a Bod 1 ac o chais yn Brog I.4. Tybed a oedd y cwpled hwn yn anodd i’w ddarllen yn nhestun X5 ac felly’n gwneud i gopiwyr y llawysgrifau sy’n tarddu ohono ‘ddyfalu’ y darlleniad cywir?
71 tair ac un Dyma linell allweddol i ddatgelu perthynas y llawysgrifau. Y darlleniad yn BL 14967 a LlGC 5272C yw tair ag vn, prawf eu bod yn perthyn yn agos iawn i’w gilydd ac yn tarddu o X1. Darlleniad X2, X3 ac X6 yw tri ac vn ac efallai i’r cymeriad llythrennol ddylanwadu ar eu darlleniad; amrywiad ar hynny yw darlleniad Llywelyn Siôn, tri ynt ac vn. Unigryw yw’r darlleniad dwy ag vn sydd yn X5. Dilynir y llawysgrifau cynharaf yma, sef X1, gan fod y bardd eisoes wedi cyfeirio at yr arf fel ‘tair’ yn 57 Yn dair y mynnwn eu dwyn.
74 y faslart Ceir i faslart ac y faslart fel darlleniadau amrywiol yn y llinell hon yn y llawysgrifau cynnar. Yn BL 14967, LlGC 17114B a Pen 82 ceir y vaslard ac yn X5, LlGC 5272C a LlGC 3050D i vaslart. Mae X2 oll yn darllen dy faslard. Mae’r fannod yn fwy ystyrlon: cyfeirir yn y llinellau blaenorol at yr hyddod, felly byddai y faslart yn llifo’n well. Hefyd, dichon fod y bardd yn adleisio’r llinell gyntaf yma, yn dripheth y’th wnânt, Ruffudd, gan gyfarch Gruffudd yn yr un modd.
Cerdd i ofyn cyllell hela yw hon i Ruffudd ap Rhys ap Tudur ar ran Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Gofynnir am arf a elwir yn wtgnaiff (llinell 37), yn sgien (39) ac yn faslart (74), sef geiriau benthyg a’u hunion ystyr yn ansicr (gw. Blackmore 1971: 52; gelwir y gyllell hefyd yn bidog gam yn nheitl y cywydd yng nghopïau llawysgrifau Llywelyn Siôn). O graffu’n fanylach ar ddisgrifiadau Guto o’r gyllell hon, gwelir ei bod yn fath arbennig o gyllell hela. Mae hi’n gyllell hir sy’n ymestyn o’r gwregys hyd at y goes (53–4), a’i llafn yn grwm (41, 45–6) ac yn disgleirio fel yr haul (43–4, 50, cf. 59). Fe’i gwnaed o ddur a haearn (40), a charn y gyllell o gorn (60). Yng ngwain y gyllell mae lle i ddwy gyllell fechan atodol, a chedwir hwy ym mola’r wain, sef y rhan fwyaf llydan sydd yn chwyddedig (42, 61–2, 67–8). Gofynna Guto am y tair cyllell felly, sef yr un fawr a’r ddwy gyllell fechan atodol a fydd yn caniatáu i’w noddwr, Siôn Hanmer, ddal yr hydd a darnio’r cig yn llai. Hynodrwydd y gyllell yn ei chyfanrwydd, felly, yw ei bod yn un amlbwrpas. Yn ôl Blackmore (1971:11) dyma’r union fath o gyllell y gwelid ei hangen yn ystod y bymthegfed ganrif:
What was needed was a weapon of convenient length which could be used for hacking away undergrowth as well as dealing a wounding blow. What developed was something between the great curved-bladed falchion, which appears on so many grand paintings and tapestries, and the Hauswehr or peasant knife, which served for a multitude of household and forestry tasks.
Awgryma’r dystiolaeth archeolegol hefyd fod cyllyll hela fel hon yn boblogaidd yn y cyfnod hwn, a dengys y gweiniau sydd wedi goroesi fod pocedi bychain yng ngwain y brif gyllell i gario cyllyll bychain atodol yn ddigon cyffredin (Cowgill et al. 2000: 55). Fodd bynnag, ni cheir yr un gyllell sy’n dilyn yr un disgrifiad â’r gyllell hon ymhlith y darganfyddiadau o safleoedd archeolegol yng Nghymru o’r cyfnod hwn. Cafwyd hyd i ddagr ganoloesol yn Abertawe ond fe ymddengys mai un syth ar ffurf croes ydyw honno ac iddi ddeufin ar ei llafn yn hytrach nag un llafn hir ar ffurf bwa (Stewart 1984: 314–18). Daethpwyd o hyd i ddagr o’r bymthegfed ganrif hefyd yng nghastell Dolforwyn, Aber-miwl, ond un fechan, tebyg i ddagr fodern yw honno.
Canwyd dwy gerdd arall gan feirdd cynharach yn gofyn am gyllell, sef un gan Rys Goch Eryri sy’n gofyn am gyllell gan y gof Dafydd ap Hywel (GRhGE cerdd 5), ac un gan Iolo Goch (GIG XI.16–18). Gwelir tebygrwydd amlwg rhwng cywydd Guto a cherddi’r ddau fardd arall. Disgrifir cyllell Rhys Goch Eryri hefyd fel un amlbwrpas a chyllyll bychain yn atodol iddi (gw. GRhGE 5.49n a 5.50n). Fodd bynnag, mae’n bosibl fod y beirdd yn gyfarwydd â throsiadau stoc wrth ddyfalu ac mai dyna sydd wrth wraidd y tebygrwydd rhwng y ddau ddisgrifiad a’r delweddau (gw. Huws 1994: 225).
Ymranna’r cywydd yn dair rhan. Cyfarch Gruffudd ap Rhys a wna’r bardd yn y rhan gyntaf (1–22) a chanmol ei dras (1–8) a’i allu i warchod y fforest a’r tiroedd isel (9–16). Datgelir bod Gruffudd yn meddu ar ddwy o’r pedair camp ar hugain (15–16) a chanmolir hefyd ei filwriaeth (17–23). Dywed ei fod yn rhyfelwr penigamp ac iddo brofi hynny tra oedd yn ymladd draw yn y tŵr (17–18) ac ar ymgyrch yn y gogledd yn erbyn yr Albanwyr (19–22).
Yn yr ail ran cyflwynir yr erchiad, sef Siôn Hanmer. Nodir ei fod yntau a Gruffudd ap Rhys â diddordeb mawr mewn hela, yng nghoedwigoedd mynyddoedd y Berwyn yn achos Siôn Hanmer, ac mewn man, anhysbys erbyn hyn, a elwir yn Barc Enwig (23–7). Gofynnir yn uniongyrchol am y gyllell cyn mynd ati i’w disgrifio a datgan y bydd enw da Gruffudd yn siŵr o barhau yn gyfnewid am yr arf. Disgrifir ei llafn pigog, ei disgleirdeb, ei siâp a’i chymwysterau i ladd anifeiliaid (gw. uchod).
Yn y rhan olaf, â’r bardd rhagddo i ddisgrifio’r gyllell eto a sut y bydd ei noddwr yn gwisgo’r gyllell hardd ar ei glun gyda balchder (53–6). Yna, cyfeirir at arfau arwyr chwedlonol, Hawd y Clŷr a Charnwennan. Tua’r diwedd pwysleisir bod yn ei gwain ddwy gyllell fechan a’i bod felly’n ymddangos fel petai’n feichiog. Gyda’r pwyslais ar y rhif tri, dywed y bardd fod yna dair cyllell, a nodir hyblygrwydd y tair i ladd yr hydd ac i wneud tri llwyth o fenswn (67–74). I gloi, dywed mai’r cig carw hwnnw fydd y wobr i berchennog y gyllell am fod mor hael.
Dyddiad
Nid yw’n bosibl cynnig dyddiad i’r cywydd hwn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXX.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 74 llinell.
Cynghanedd: croes 49% (36 llinell); traws 23% (17 llinell); sain 21.5% (16 llinell); llusg 6.5% (5 llinell).
1 yn dripheth Hoff arferiad y beirdd oedd dweud eu neges fesul y rhif tri, a neges y bardd yma yw bod gan Ruffudd dair rhinwedd benodol sy’n ei wneud yn uchelwr arbennig, sef ei ddewrder (llew), ei ostyngeiddrwydd (oen) a’i haelioni (llaw Nudd).
2 Nudd Sef Nudd Hael ap Senyllt, cf. 11, safon o haelioni. Ar Nudd yn un o ‘Dri Hael Ynys Prydain’, gw. TYP3 5–7, 464–6 a WCD 509.
3 Iâl Sef cwmwd yn y Gogledd-ddwyrain ger y ffin â Lloegr a oedd yn cynnwys Bryneglwys, Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla, Llantysilio a Llanferres, gw. WATU 94. Fel pen-fforestwr Iâl byddai Gruffudd ap Rhys hefyd wedi derbyn tiroedd yn y cwmwd yn ôl Pratt (2004: 116–17). Mae’n bosibl iddo hefyd etifeddu tiroedd yn yr ardal hon drwy ei fam a oedd yn ferch i Ieuan Llwyd ap Llywelyn o Iâl.
4 ŵyr Dudur Roedd Gruffudd ap Rhys ap Tudur yn ŵyr i Dudur ap Hywel ap Tudur o Goedan, Môn. Enwir Tudur yn Stent Môn a gynhaliwyd yng Nghoedan, 21 Medi 1352 (Carr 1971–2: 192–3).
4 Idwal Cyfeiriad at un o gyndeidiau Gruffudd ar ochr ei fam, Gwerful ferch Ieuan Llwyd ap Llywelyn o Iâl o bosibl. Cyfeirir at ŵr o’r enw Idwal yn gyson yn y cerddi i Lwydiaid Bodidris wrth olrhain eu hachau, gw. GO XL.5–6 Aer Tudur, fowart Idwal, / Wyr Ieuan yw, orau’n Iâl; TA LII.35–6 O bydd oediog baedd Idwal, / Nerth a fydd in wrth fodd Iâl. Awgrymir, felly, fod mam Gruffudd yn ddisgynnydd i ryw Idwal, efallai Idwal Foel ab Anarawd a ddaeth yn frenin Gwynedd yn 916, gw. WCD.
6 maen gwyrthfawr Delwedd gyffredin yn y canu mawl yw’r noddwr fel carreg wyrthiol, cf. cerdd 63.
6 Maelawr Sef Maelor Gymraeg, fe ymddengys. Ffurfiai Iâl (gw. 3n) a Maelor Gymraeg un arglwyddiaeth yng ngogledd-orllewin Cymru yn yr Oesoedd Canol, gw. WATU 148.
6 Môn Roedd Gruffudd ap Rhys ap Tudur yn orwyr i Hywel o Goedan ym mhlwyf Llanfellech, Môn.
7 y brenin Gan na wyddom pryd y cyfansoddwyd y gerdd, mae’n anodd gwybod ai’r brenin yma yw Harri VI (brenin Lloegr 1422–61 a 1470–1) neu Edward IV (1461–70 a 1471–83). Cyfeirio at ffyddlondeb Gruffudd i’r brenin y mae’r bardd.
8 Northfolc eryr Trosiad cyfarwydd yw’r eryr am yr arwr mewn barddoniaeth Gymraeg i arwyddo hirhoedledd ac fe’i defnyddid hefyd fel un o enwau’r mab darogan. Fodd bynnag, mae’r ffaith i’r bardd alw’r noddwr yn Northfolc eryr yn awgrymu cyfeiriad penodol at gysylltiad posibl Gruffudd â Norfolk yn nwyrain Lloegr. Tybed a fu Gruffudd yn ymladd dan arweiniad dug Norfolk dros Edward IV? John Mowbray oedd pedwerydd dug Norfolk (1444–76), teitl a oedd hefyd yn golygu y byddai’n berchen ar diroedd yn arglwyddiaeth Iâl a Maelor Gymraeg yn y cyfnod hwn. Yn 1464 treuliodd y dug gyfnod byr yng nghastell Holt, sir Ddinbych, i gadw trefn ar Lancastriaid gogledd Cymru, gw. Evans 1998: 90 a DNB Online s.n. John Mowbray (VII).
9 leder Sef ‘arweinydd’, daw o’r Saesneg Canol leder(e), gw. GPC 2056.
11 Tryffin Prin yw’r cyfeiriadau at yr enw hwn yn y farddoniaeth a cheir tri phosibilrwydd: i. Tryffin fab Aedd, brenin yn Nyfed ar ddiwedd y bumed ganrif (mae Rhiserdyn yn disgrifio milwriaeth chwyrn Syr Hywel y Fwyall fel a ganlyn: Drudlyrf dâl traffyrf, deulid Tryffin, GSRh 6.60); ii. Tryffin, un o blant Merfyn ap Rhodri Mawr, gw. EWGT 101; iii. digwydd yr enw hefyd yn y trioedd, sef Drudwas ap Tryffin a oedd yn un o’r Tri Marchoc Aurdavodiawc oedd yn Llys Arthur, gw. TYP3 330–1.
12 pan fai ’n aer a thrin Rhydd GPC 37 yr ystyr ‘rhyfel, brwyd’ d.g. aer1 a ‘brwydr rhyfel, gwrthdaro, cynnen, ymrafael’ d.g. trin yn GPC 3597.
13 pen-fforestwr Y prif swyddog a oedd yn gofalu am y coedwigoedd a’r anifeiliaid, gw. Linnard 1982: 30. Am y fforest a swyddogaeth y pen-fforestwr yng nghyfraith Hywel Dda, gw. Jenkins 2000: 276–7.
15 Neidio, rhedeg, naid rhydain Rhestrir neidio a rhedeg fel dwy o’r pedair camp ar hugain y canmolai’r beirdd eu noddwyr am eu meistroli, cf. IGE2 cerdd C; GGH 75.62n a GRhGE 12.23. Mae’n bosibl fod neidio ... naid rhydain (ystyr rhydain yw ‘carw ifanc’ neu ‘elain’) yn fath arbennig o naid, gw. Diddordebau Uchelwyr: Gemau: Campau Corfforol.
17 taraw ’n y tŵr Cyfeirir at ergydio ar dŵr yn rhywle, efallai castell neu adeilad arall o bwys (gan gofio mai’r tŵr enwocaf yn y cyfnod hwn oedd Tŵr Llundain), lle dangosodd Gruffudd ap Rhys ddewrder eithriadol.
20 rhod Ceir sawl ystyr i rhod yn GPC 3083–4 ond nid ymddengys fod yr un ohonynt yn briodol yma, cf. 57.6n. Fodd bynnag, mae’r ystyr ‘olwyn, &c., fel dyfais poenydio neu gosbi’ yn ddisgrifiad posibl o Ruffudd a chymryd bod ystyr megis ‘ymladdwr troellog, ffyrnig’ wedi datblygu o’r ystyr wreiddiol, cf. 57.6 Penrhyn dŵr; pwy un rhod ym?
20 Ysgòt Benthyciad o’r Saesneg Scot. Fel gelynion yr edrychid ar yr Albanwyr yn y cyfnod hwn.
24 cynhyrchu Dyma’r enghraifft gynharaf o’r berfenw yn ôl GPC 789, ond nid yw’r ystyr ‘arddangos’ neu ‘gyflwyno’ yn gweddu yma. Mae’r ystyr ‘tyfu’, ‘magu’ neu ‘feithrin’ yn well ond ni cheir yr ystyr hon cyn yr unfed ganrif ar bymtheg.
25 Siôn Hanmer Gw. Siôn Hanmer a cherdd 75.
26 Berwyn Mynyddoedd y Berwyn yn Edeirnion sy’n ymestyn uwchben plwyf Llandrillo hyd at Lyndyfrdwy. Gan fod Owain Glyndŵr o Lyndyfrdwy yn ewythr i Siôn Hanmer, dichon fod helfa ar fynyddoedd y Berwyn yn ddigon cyfarwydd iddo. Ceir yr argraff ei fod yn lle da i hela ceirw, cf. cywydd gan Tudur Penllyn sy’n gofyn am filgi du gan Feirig ap Rhys. Dywed yno y byddai hyddod y Berwyn yn digalonni o weld yr helgi (GTP 33.56–7). Cf. Smith and Smith 2001: 209 ‘In winter their forests and heaths remained the undisturbed haunts of deer, wolf, fox and boar.’
27 Parc Enwig Enw ar ran o’r fforest a oedd yn magu ceirw ac anifeiliaid eraill i’w hela oedd ‘parc’ yn y cyfnod hwn, gw. Steane 1985: 168. Ceir yr unig gyfeiriad arall at Enwig mewn cerdd gan Ieuan ap Huw Cae Llwyd, gw. HCLl XLIX.47–8: Gwn tân yw d’anian hyd Enwig – weithiau, / Mawr wyd o olau am Ryd-helig.
28 als Disgwylir trosiad am y gyllell yma ac mae’r deongliadau isod yn ansicr iawn. Ceir yr unig enghraifft arall o’r gair als gan Ddafydd ap Gwilym, cf. DG.net 28.60 A las â gwawd, lun als gwêr lle nodir, ‘Gwddf yw als, ond mae’r ymadrodd yn dywyll’, cf. GPB 8.3n lle awgrymir bod y gair alsbrog yn gyfuniad o als o’r Saesneg hals ‘gwddw’ a broc ‘llwytgoch’. Gellir awgrymu, o bosibl, mai taro’r gyllell yng ngwddf y carw fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o’i ladd a byddai angen cyllell gref iawn i wneud hynny. Posibilrwydd arall yw mai’r ystyr ‘to embrace’ a geir yma, gw. OED Online s.v. halse, v.2, ond nid yw’r ystyr yn eglur iawn o fewn y cyd-destun.
31 llath ‘Gwialen feinsyth a chymharol hir’ yma, gw. GPC 2100, sef un o brif arfau’r heliwr yn ôl Blackmore 1971: 11. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith fod Siôn yn cario arf felly ar ei glun neu am ei ganol yn ystyrlon a rhaid dehongli gwiw lath fel trosiad am y gyllell.
37 wtgnaiff Mae’n anodd gwybod union ystyr y term wood-knife. Rhydd OED yr ystyr ‘A dagger of short sword used by huntsmen for cutting up the game, or generally as a weapon’, gw. OED Online s.v. wood-knife, n. Cf. Blackmore (1971: 12) ‘There are some grounds for assuming that the word “woodknife” could, in some instances, have meant the heavy chopping knife and accompanying tools which are now usually described as a hunting trousse or Waidpraxe. But in fact, nearly all the various kinds of hunting or riding swords had sewn to the outside of their scabbards one or more sheaths to house small knives, bodkins, or steels; and even the much smaller belt knives often had a similar set of accessories in their scabbards.’
39 sgien Ni cheir prawf fod hwn yn enw ar fath arbennig o gyllell yn hytrach na chyfeiriad cyffredinol at gyllell neu gleddyf o unrhyw fath, cf. GPC 3835 d.g ysgïen a hefyd OED Online s.v. skene n.1: ‘the word was also loosely applied by writers of the 16th and 17th centuries to a dagger or small sword of any kind’. Daeth yn ddiweddarach i olygu arf i hela a oedd yn boblogaidd gan y Gwyddelod brodorol yn Iwerddon ac yn Ucheldiroedd yr Alban, gw. Blackmore 1971: 56. Mae lle i gredu bod diffiniad mwy penodol i ysgïen lle ceir ef mewn ewyllys o Loegr yn 1472/3, fel y nododd Blackmore (1971: 53): ‘The fact that it was placed in the category of the baselard suggests that this skene was more the length of a short sword than that of a knife.’
40 dur Yn ôl y darganfyddiadau o gleddyfau canoloesol, dur oedd y deunydd mwyaf cyffredin, gw. Cowgill et al. 2000: 8 ‘The blades were forged mainly from wrought iron, but this was not hard enough to give a good cutting edge, and an additional harder iron section was often built into them.’
41 ysgell groesgam Ni ellir bod yn sicr o’r ddelwedd hon. Gall ysgell fod yn ffurf amrywiol ar ysgall, sef ‘planhigyn pigog’ yn ôl GPC 3831, ac felly’n drosiad am lafn pigog y gyllell. Gall mai cyfeirio at siâp yr arf sy’n ymddangos fel croes a wna’r bardd felly gyda’r gair croesgam. Ond digwydd croes yn aml fel gair am yr hyn a elwir yn ‘cross guard’, sef bar ardraws byr ar waelod carn cleddyf, cf. 110.50 A’i roi’n grair ar wain neu groes. Byddai ‘llafn pigog a’r groes wedi plygu’ yn ffordd arall o aralleirio’r llinell.
43 asgell Un o’r ystyron a rydd GPC2 220 i asgell yw ‘gwaywffon, paladr’ ond awgryma Day (2010: 219) fod asgell yn gallu golygu pen neu lafn yr arf, cf. GRhGE 5.82.
45 cil Am yr ystyr ‘cefn, tu ôl, gwar’, gw. GPC 478 d.g. cil1.
46 gogwydd Mae’r ystyr ‘crymu’ neu ‘gwyro’ yn ddigon ystyrlon yma (gw. GPC 1439) os yw’r bardd yn cyfeirio at siâp crwm y llafn. Fodd bynnag, ymddengys y gall gogwydd fod yn gyfeiriad at ongl arbennig yng nghefn di-fin y llafn a oedd yn nodweddu rhai cyllyll hela yn y cyfnod hwn, gw. Day 2013: 271.
51 ysgemydd Yn GPC 3854 ceir yr ystyr ‘plocyn (torri neu ddienyddio), cymyngyrff’, cf. cymynu hydd yn y llinell nesaf. Ymddengys fod y gyllell yn arf addas i ddienyddio; dyma bwyslais unwaith eto ar y ffaith fod y gyllell yn un amlbwrpas.
53 ar glun Byddai’r gyllell yn cael ei chario am ganol y wast a’i diogelu yng ngwregys yr heliwr, cf. 58.
53 cun Yr ystyr yma yn ôl GPC d.g. cun1 yw ‘arglwydd, pennaeth, llywiawdwr’. Ond diddorol hefyd yw’r ystyr d.g. cun2, sef ‘haid o gŵn neu ³eiddiaid; mintai, llu’.
57 adain eryr Disgrifiad o siâp llafn y gyllell, cf. GRhGE 5.48: fal adain edn.
58 Hawd y Clŷr Sef enw cleddyf Olifer yn y cyfieithiad Cymraeg o storïau Siarlymaen, gw. YCM2 152 (llinell 13). Mae’n air benthyg o’r Hen Ffrangeg Halteclere, cf. GRhGE 5.71–2 a GIG XI.39–40. Dywed Rhys fod y gyllell yn nith brwydr ... Rhawd y Clŷr ac yntau Iolo Goch ei bod yn Cyfnitherw ... I hawd y Clŷr. Dichon mai ŵyr, hynny yw ‘wyres’, y mae Guto’n ei olygu yma.
61 beichiog Delweddir gwain y gyllell yn feichiog gan fod ganddi gyllyll bychain ynddi hefyd. Mae Rhys Goch Eryri yn galw’r llafn fach ar wain y gyllell yn traensiwr, gw. GRhGE 5.51n.
61 gorweiddiog Disgrifiad o’r wain yn gorwedd fel petai’n feichiog, cf. Cowgill et al. 2000: 35: ‘The shape of the knife scabbards reflects their function. They are often asymmetrical, one side being more curved than the other to fit the cutting edge.’
62 baich Mae’r bardd yma’n chwarae ar ystyr baich, a all gyfeirio at ‘rith y groth (am wraig feichiog)’, gw. GPC 250 d.g. baich2, neu’r cyllyll wedi eu llwytho yn y wain.
64 torllwyth Rhydd GPC 3529 yr ystyr ‘dau neu ragor o anifeiliaid a enir gyda’i gilydd, tor(raid), ael, nythaid; beichiogiad’ i torllwyth. Dyma ddisgrifiad arall o wain y gyllell, cf. GRhGE 5.50 Cofiawdr ddur, dorllwyth cyfa.
65 ennill Fe’i deellir yma yn yr ystyr ‘cael neu genhedlu (plant)’, gw. GPC 1216 d.g. ennill2.
65 Carnwennan Enw cyllell y Brenin Arthur, gw. CO3 66: ‘ystyr carn yw “hilt” neu “haft” cleddyf neu gyllell’.
73 triphwn Cyfleu’r llwythi o gig fenswn a fyddai’n cael eu darparu yn y wledd ar ôl hela gyda’r gyllell a wna’r bardd.
74 triphwyth Dichon mai ‘rhodd’ neu ‘daliad’ yw ystyr pwyth yma, gw. GPC 2957.
74 baslart Defnyddir y term Saesneg baselard i olygu dagr gyffredin ac iddi garn ar ffurf y llythyren ‘I’. Ond roedd ystyr ehangach iddo yn yr Oesoedd Canol ac roedd o bosibl yn gyfystyr ag wtgneiff, gw. y nodyn cefndir uchod, GRhGE 185, Blackmore 1971: 14.
Llyfryddiaeth
Blackmore, H.L. (1971), Hunting Weapons (London)
Carr, A.D. (1971–2), ‘The Extent of Anglesey, 1352’, AAST: 192–3
Cowgill, J., de Neergaard, M. and Griffiths, N. (2000), Knives and Scabbards: Medieval Finds from Excavations in London (London)
Day, J.P. (2010), ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Day, J. (2013), ‘ “Arms of stone upon my grave”: weapons in the poetry of Guto’r Glyn’, D.F. Evans et al. (goln.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif/Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth), 233–82
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Huws, B.O. (1994), ‘Astudiaeth o’r Canu Gofyn a Diolch rhwng c.1350 a c.1630’, (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Jenkins, D. (2000) ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, T.M.Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Linnard, W. (1982), Welsh Woods and Forest: History and Utilization (Cardiff)
Pratt, D. (2004), ‘Medieval Bromfield and Yale: The Machinery of Justice’, TCHSDd, 53: 19–78
Smith, J.B. and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth, ii: The Middle Ages (Cardiff)
Steane, J. (1985), The Archaeology of Medieval England and Wales (London)
Stewart, D. (1984), ‘A Medieval Dagger and an Iron Missile Point in Swansea Museum’, B xxxi: 314–18
This is a poem to request a hunting knife from Gruffudd ap Rhys ap Tudur, which Guto composed on behalf of Siôn Hanmer of Halghton and Llai. The requested item is called an wtgnaiff (line 37 ‘wood-knife’), ’sgïen (39 ‘skene’) and baslart (74 ‘baselard’), which are borrowed words with uncertain meanings (see Blackmore 1971: 52; the knife is also called a bidog gam ‘crooked dagger’ in some manuscripts). However, after looking in detail at Guto’s metaphors and images when describing the knife, it is clear that it is a special type of hunting knife. It is long, extending from the belt to the leg (53–4), the blade is curved (41, 45–6) and it shines like the sun (43–4, 50, cf. 59). The materials used to make the knife were steel and iron (40), and the hilt is of horn (60). Inside the wider part of the sheath are two little pockets to carry two additional small knives (42, 61–2, 67–8). Guto is asking, therefore, for three knives in all, a large one and two smaller knives, so that his patron, Siôn Hanmer, could catch the stag with the large blade and chop it into smaller eatable pieces with the other two. The benefit of owning such a weapon, therefore, was that it was multifunctional. According to Blackmore (1971: 11) the need for such a weapon occurred during the fifteenth century:
What was needed was a weapon of convenient length which could be used for hacking away undergrowth as well as dealing a wounding blow. What developed was something between the great curved-bladed falchion, which appears on so many grand paintings and tapestries, and the Hauswehr or peasant knife, which served for a multitude of household and forestry tasks.
Archaeological evidence also suggests that hunting knives like these were popular in this period, and the leather sheaths which have survived demonstrate that smaller pockets to carry additional smaller knives were very common (Cowgill et al. 2000: 55). However, no knives like these occur among the finds from archaeological sites in Wales from this period. A medieval knife was found in Swansea, but it is a cross-shaped knife with a straight blade rather than the curved blade described in the poem (Stewart 1984: 314–18). A fifteenth-century knife was discovered at Dolforwyn castle, near Aber-miwl, but this was a much smaller knife similar to the modern dagger.
There are two other poems by earlier poets asking for knives, one by Rhys Goch Eryri who asks a smith for a knife (GRhGE poem 5) and one by Iolo Goch (GIG XI.16–18). There are clear similarities between these two poems and the poem by Guto. For example, the knife requested by Rhys Goch Eryri is also a multifunctional one with extra, smaller knives inside the sheath (see GRhGE 5.49n and 5.50n). However, it is possible that the poets used specific stock metaphors when describing (dyfalu), which would explain why the same images and phrases were used in these poems (see Huws 1994: 225).
There are three sections to the cywydd. The poet begins by addressing Gruffudd ap Rhys (1–22). He gives praise to his lineage (1–8) and his ability to protect the forest and the lowlands (9–16). He reveals that Gruffudd possesses two of the twenty-four noble skills (15–16) and he also commends his military skills (17–23). He is a brilliant warrior, something he proved when he was fighting in a tower somewhere (17–18) and on a campaign to the north against the Scots (19–22).
In the second section Guto introduces the petitioner, Siôn Hanmer. He notes that Hanmer shares an interest in hunting with Gruffudd ap Rhys, in the parks and forests of the Berwyn in Siôn Hanmer’s case and in an unidentified place called Parc Enwig ‘Enwig’s Park’ (23–7). He asks directly for the knife, declaring that Gruffudd’s good name will prevail in return for the weapon. Guto goes on to describe the knife: its sharp blade, its lustre, its shape and its usefulness as a weapon to kill deer (see above).
In the last section the poet continues to describe the knife, stating that his patron will wear this beautiful thing on his thigh with pride (53–6). He refers to the weapons of legendary heroes, Hawd y Clŷr ‘Hauteclere’ and Carnwennan. Towards the end of the poem he highlights the fact that there are two extra knives inside the sheath, as if it were pregnant. The poem ends with an emphasis on the number three, relating to the three knives which have the versatility to kill three stags and to carve three loads of venison (67–74). This venison shall be the prize for the owner of the knife.
Date
It is not possible to date this poem.
The manuscripts
There are 36 complete and incomplete copies of this poem. The line order differs significantly in all of the copies, which strongly suggests that they have been affected by oral tradition. Lines 43–4 are missing from BL 14967, and the line order there is unique. However, being an early copy of the poem, some of its readings should be considered carefully. It is closely related to LlGC 5272C (which is a later copy of the poem but with the text complete).
LlGC 17114B is also an early copy, but in it the poem is complete and follows the line order 1–74. However, there are some peculiar readings and possible confusion due to the copyist depending on his memory. Pen 82 follows some of these readings, and even though this is also an early copy, it does not offer a good text of the poem. Both of these manuscripts may have the same source (X2 in the stemma). The poem is also complete (again with the line order 1–74) in LlGC 3049D, Gwyn 4, LlGC 8497B (the Conwy Valley group) LlGC 3050D and Pen 99. These derive from X3 in the stemma and overall they offer a good version of the poem.
The other manuscripts seem to derive from another common source (X4 in the stemma). However, apart from some clear similarities, it is hard to know how they are related. Pen 78, LlGC 3051D, Bod 1 and Brog I.4 offer the same variant readings as Llywelyn Siôn’s copies (LlGC 6511B, LlGC 21290E, C 5.44, LlGC 970E, Llst 134 and LlGC 13062B). However, there are some similarities also to X2 and X3. BL 14976 also shares the same source as Llywelyn Siôn’s copies as well as Stowe 959 but their relationship is unclear.
There seem to be four different versions of the poem which possibly circulated orally, and as a result influenced each other as well as the copyists of the manuscripts. The most important copies are BL 14967, LlGC 17114B, LlGC 3049D, Pen 78 and BL 14976.
Previous edition
GGl poem LXXX.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 74 lines.
Cynghanedd: croes 49% (36 lines); traws 23% (17 lines); sain 21.5% (16 lines); llusg 6.5% (5 lines).
1 yn dripheth An old custom in medieval literature was the use of the number three. Its significance here is to point out that Gruffudd has three particular qualities that make him a special nobleman: his bravery (llew ‘lion’), his modesty (oen ‘lamb’) and his generosity (llaw Nudd ‘a hand like Nudd’s’).
2 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, one of the ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads, see TYP3 5–6, 464–7 and WCD 509.
3 Iâl A commote in the north-east, on the English border, which includes Bryneglwys, Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla, Llantysilio and Llanferres, see WATU 94. As chief forester of Yale, land within the commote was probably granted to Gruffudd ap Rhys (see Pratt 2000: 116–17). It is also possible that he inherited some of the land in this region through his mother, who was the daughter of Ieuan Llwyd ap Llywelyn of Yale.
4 ŵyr Dudur Gruffudd ap Rhys ap Tudur was the grandson of Tudur ap Hywel ap Tudur of Coedan, Anglesey. Tudur’s name occurs in an Anglesey extent that was held at Coedan, 21 September 1352 (Carr 1971–2: 192–3).
4 Idwal Possibly a reference to one of Gruffudd’s ancestors on his mother’s side, Gwerful daughter of Ieuan Llwyd ap Llywelyn of Yale. The name Idwal occurs frequently in the poems to the Lloyds of Bodidris, e.g. GO XL.5–6; TA LII.35–6. It is possible, therefore, that Gruffudd’s mother was a descendant of someone called Idwal, possibly Idwal Foel ab Anarawd, king of Gwynedd in 916, see WCD.
6 maen gwyrthfawr A familiar image in praise poetry is to describe the patron as a miraculous stone, cf. poem 63.
6 Maelawr Bromfield or Maelor Gymraeg. Yale (see 3n) and Bromfield formed a lordship in the north-west of Wales in the Middle Ages, see WATU 148.
6 Môn Gruffudd ap Rhys ap Tudur was the great-grandson of Hywel of Coedan, in Llanfellech, Anglesey.
7 y brenin Because we do not know when this poem was composed, it is difficult to decide whether the ‘king’ referred to here is Henry VI (king of England 1422–61 and 1470–1) or Edward IV (king of England 1461–70 and 1471–83). The poet refers to Gruffudd’s loyalty to the king.
8 Northfolc eryr eryr ‘eagle’ is a familiar metaphor for a hero and to signify longevity, and it is sometimes used as a name for the son of prophecy. However, the fact that Guto calls his patron Northfolc eryr ‘the eagle of Norfolk’ suggests that Gruffudd had associations with Norfolk in the east of England. Is it likely that Gruffudd fought under the duke of Norfolk during the reign of Edward IV? John Mowbray was the fourth duke of Norfolk (1444–76), a title that also made him the owner of lands in the lordship of Bromfield and Yale in this period. In 1464 the duke spent a short time at Holt castle in order to keep control of the Lancastrians of north Wales, see Evans 1998: 90 and DNB Online s.n. John Mowbray (VII).
9 leder Borrowed from the Middle English leder(e) ‘one who leads’, see OED Online s.v. leader, n.1 and GPC 2056.
11 Tryffin References to this name are quite rare in the poetry and there are three possibilities: i. Tryffin fab Aedd who was the king of Dyfed at the end of the fifth century (Rhiserdyn describes the vigorous force of Sir Hywel y Fwyall as like that of Tryffin, see GSRh 6.60); ii. Tryffin appears as the name of one of Merfyn ap Rhodri Mawr’s sons, see EWGT 10; iii. Tryffin also occurs in one of the Welsh Triads, Tri Marchoc Aurdavodiawc oedd yn Llys Arthur, see TYP3 330–1.
12 pan fai ’n aer a thrin GPC 37 gives the meaning ‘war, battle’ for aer1 and ‘battle, war, conflict, contention, quarrel’ for trin, see GPC 3597.
13 pen-fforestwr The chief forester was responsible for the trees and the animals within the forest, see Linnard 1982: 30. For the forest and the duties of the chief forester in the laws of Hywel Dda, see Jenkins 2000: 276–7.
15 Neidio, rhedeg, naid rhydain Jumping and running are listed as two of the twenty-four noble feats which the poets commend their patrons for mastering, cf. IGE2 poem C; GGH 75.62n and GRhGE 12.23. It is likely that neidio ... naid rhydain ‘jumping a fawn’s leap’ was a special type of a jump, see Noblemen’s Interests: Games: Physical Feats.
17 taraw ’n y tŵr Guto refers to a blow struck against a tower somewhere, possibly a castle or another significant building (bearing in mind that the most famous tower in this period was the Tower of London), where Gruffudd ap Rhys displayed great strength and bravery.
20 rhod There are several meanings for rhod in GPC 3083–4, but they are all unsuitable here, cf. 57.6n. However, ‘wheel (as instrument of torture)’ is possible as a description of Gruffudd, assuming that a meaning such as ‘a fierce, twisting fighter’ developed from the initial meaning, cf. 57.6 Penrhyn dŵr; pwy un rhod ym? ‘who’s a better fierce warrior for me?’.
20 Ysgòt A borrowing from the English Scot. Scots were often regarded as enemies in the Middle Ages.
24 cynhyrchu This is the earliest example of the verb-noun cynhyrchu according to GPC 789, but ‘to bring forward’ or ‘to present’ are unsuitable here. The meanings ‘to grow’ or ‘to nurture’ are better, although there are no examples before the sixteenth century.
25 Siôn Hanmer See Siôn Hanmer and poem 75.
26 Berwyn The Berwyn mountains which extend above the parish of Llandrillo towards Glyndyfrdwy. Siôn Hanmer’s uncle was Owain Glyndŵr of Glyndyfrdwy and it is quite possible that hunting on the Berwyn mountains would be familiar to him. There is reason to believe that it was a good area to chase deer or stags, cf. a poem by Tudur Penllyn asking for two black hounds where he implies that the deer on the Berwyn mountains would be saddened by the arrival of the hounds (GTP 33.56–7). See also Smith 2001: 209 ‘In winter their forests and heaths remained the undisturbed haunts of deer, wolf, fox and boar.’
27 Parc Enwig A parc ‘park’ usually refers to an area within a forest where deer and other animals were kept and bred for hunting, see Steane 1985: 168. The only other reference to Enwig is in a poem by Ieuan ap Huw Cae Llwyd, see HCLl XLIX.47–8: Gwn tân yw d’anian hyd Enwig – weithiau, / Mawr wyd o olau am ryd helig ‘Your nature is often like that of a fiery gun as far as Enwig, / You are a great light around Rhydhelyg.’
28 als A metaphor for the knife is to be expected here and the following interpretations are very uncertain. The only other example of als is by Dafydd ap Gwilym, cf. DG.net 28.60 A las â gwawd, lun als gwêr ‘who was killed by poetry, shape of a wax neck’ where the editor notes that ‘als is “neck” but the phrase is obscure’, cf. GPB 8.3n where it is suggested that the word alsbrog is a combination of the English hals ‘neck’ and broc ‘brock’. We can interpret it as a reference to slashing the deer in the neck, that is, the most efficient way to kill the animal, and therefore a knife with a sharp blade was essential. Another possibility is that the meaning is ‘to embrace’, see OED Online s.v. halse, v.2, but the meaning is unclear in this context.
31 llath For ‘rod, staff, wand’ or ‘spear, lance’, see GPC 2100. A spear was one of the main weapons for hunting, see Blackmore 1971: 11. However, it is possible that gwiw lath here is a metaphor for the knife itself (Guto notes that Siôn will carry it on his hip or waist).
37 wtgnaiff It is hard to distinguish the precise meaning of the word ‘wood-knife’. For ‘A dagger of short sword used by huntsmen for cutting up the game, or generally as a weapon’, see OED Online s.v. wood-knife, n. Cf. Blackmore (1971: 12) ‘There are some grounds for assuming that the word “woodknife” could, in some instances, have meant the heavy chopping knife and accompanying tools which are now usually described as a hunting trousse or Waidpraxe. But in fact, nearly all the various kinds of hunting or riding swords had sewn to the outside of their scabbards one or more sheaths to house small knives, bodkins, or steels; and even the much smaller belt knives often had a similar set of accessories in their scabbards.’
39 ’sgïen There is no evidence to suggest that ysgïen is a word for a specific type of knife, cf. GPC 3835 s.v. ysgïen; OED Online s.v. skene, n.1, ‘the word was also loosely applied by writers of the 16th and 17th centuries to a dagger or small sword of any kind’. In later periods it became a name for a hunting weapon used by the Irish and the Scots, see Blackmore 1971: 56. In an English will dated 1472/3 a skene appears to have a more distinctive meaning as Blackmore (1971: 53) notes: ‘The fact that it was placed in the category of the baselard suggests that this skene was more the length of a short sword than that of a knife.’
40 dur According to the archaeology finds of medieval swords and knives, iron was the most common material for the blades, see Cowgill et al. 2000: 8 ‘The blades were forged mainly from wrought iron, but this was not hard enough to give a good cutting edge, and an additional harder iron section was often built into them.’
41 ysgell croesgam This image is uncertain. ysgell could be a variant form of ysgall ‘thistle’, see GPC 3831, and a metaphor for the sharp pointed blade of the knife. Therefore, it is possible that the poet is referring with the word croesgam to the shape of the weapon, which is similar to a cross. However, croes occurs quite frequently in the poetry as a word for ‘cross guard’, that is, a guard consisting of a short transverse bar at the bottom of a sword hilt, cf. 110.50 A’i roi’n grair ar wain neu groes ‘and place it as my defence upon the scabbard or cross guard of my sword’. Therefore ‘a pointed blade with a bent cross guard’ is another possible translation.
43 asgell One of the meanings of asgell in GPC2 220 is ‘spear, shaft’, but Day (2010: 219) suggests that it could be used to denote the head or blade of a spear, cf. GRhGE 5.82.
45 cil For the meaning ‘back, nape of the neck’, see GPC 478 s.v. cil1.
46 gogwydd The meaning ‘slant’ or ‘bend’ is possible here (see GPC 1439), perhaps referring to the curved shape of the blade. However, gogwydd could also be a figurative reference to an angle in the blunt back of the blade which was characteristic of some hunting knives in this period, see Day 2013: 271.
51 ysgemydd GPC 3854 gives the meaning ‘(executioner’s) block’, cf. cymynu hydd in the next line. The knife was also a suitable weapon for an execution, again emphasizing that the knife had many uses.
53 ar glun The hunter would carry the knife on his waist and secured to his belt, cf. 58.
53 cun A ‘lord’, ‘chief’ or ‘ruler’ according to GPC 629 s.v. cun1. Interestingly, the other meaning noted s.v. cun2 is ‘pack of dogs or wolves; throng, host’.
57 adain eryr A comparison of the shape of the blade as the wing of an eagle, cf. GRhGE 5.48: fal adain edn ‘like a bird’s wing’.
58 Hawd y Clŷr Oliver’s sword in the Welsh translation of the stories of Charlemagne (see YCM2 152). The word is borrowed from the Old French Halteclere, cf. GRhGE 5.71–2 and GIG XI.39–40. Rhys Goch Eryri also states that his knife is the ‘niece’ of Halteclere and Iolo Goch in his poem calls his knife a ‘cousin’ of Halteclere. It is likely that ŵyr here means ‘grand-daughter’.
61 beichiog The scabbard of the knife is described as pregnant because of the two extra small knives included. Rhys Goch Eryri calls the small blade attached to the scabbard a traensiwr, see GRhGE 5.51n.
61 gorweiddiog The knife’s sheath is described as pregnant, cf. Cowgill et al. 2000: 35: ‘The shape of the knife scabbards reflects their function. They are often asymmetrical, one side being more curved than the other to fit the cutting edge.’
62 baich The poet plays with the meaning baich ‘foetus’, see GPC 250 s.v. baich2, and baich1 ‘load’, that is, the small knives loaded inside the knife’s sheath.
64 torllwyth GPC 3529 gives the meaning ‘litter, farrow, brood, multiple births, pregnancy’ for torllwyth; another description of the knife’s sheath, cf. GRhGE 5.50 Cofiawdr ddur, dorllwyth cyfa.
65 ennill The meaning here is ‘to beget; bear, conceive’, see GPC 1216 s.v. ennill2.
65 Carnwennan King Arthur’s sword, see CO3 66 which draws attention to the meaning of carn as ‘hilt, haft’.
73 triphwn After hunting with the knife, the pieces of venison at a feast will be numerous according to the poet.
74 triphwyth It is possible that pwyth here means ‘gift’ or ‘payment’, see GPC 2957.
74 baslart The English term baselard is now used for a dagger with a handle shaped like the letter ‘I’. However, in the Middle Ages, its meaning was much broader, see GRhGE 185; Blackmore 1971: 14.
Bibliography
Blackmore, H.L. (1971), Hunting Weapons (London)
Carr, A.D. (1971–2), ‘The Extent of Anglesey, 1352’, AAST: 192–3
Cowgill, J., de Neergaard, M. and Griffiths, N. (2000), Knives and Scabbards: Medieval Finds from Excavations in London (London)
Day, J.P. (2010), ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Day, J. (2013), ‘ “Arms of stone upon my grave”: weapons in the poetry of Guto’r Glyn’, D.F. Evans et al. (eds.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif/Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth), 233–82
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Huws, B.O. (1994), ‘Astudiaeth o’r Canu Gofyn a Diolch rhwng c.1350 a c.1630’, (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Jenkins, D. (2000) ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, T.M.Charles-Edwards et al. (eds.) The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Linnard, W. (1982), Welsh Woods and Forest: History and Utilization (Cardiff)
Pratt, D. (2004), ‘Medieval Bromfield and Yale: The Machinery of Justice’, TCHSDd, 53: 19–78
Smith, J.B. and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Steane, J. (1985), The Archaeology of Medieval England and Wales (London)
Stewart, D. (1984), ‘A Medieval Dagger and an Iron Missile Point in Swansea Museum’, B, xxxi: 314–18
Gofynnwyd i Ruffudd ap Rhys am gyllell hela mewn cywydd a gyfansoddodd Guto ar ran Siôn Hanmer (cerdd 76). Hon yw’r unig gerdd a oroesodd i Ruffudd.
Achres
Gan mai prin yw’r wybodaeth ynghylch ach Gruffudd yn y cywydd a ganodd Guto iddo, yn betrus y cynigir yr achres isod, a seiliwyd ar WG1 ‘Llywarch ap Brân’ 5, ‘Sandde Hardd’ 10, ‘Sandde Hardd’ 10 (A) a BL 14976, 99r.
Hanai’r teulu o Fôn a chysylltir Hywel, hendaid Gruffudd, â Choedan ym mhlwyf Llanfechell (gw. y cyfeiriadau at yr ynys yn 76.6, 18). Ei orhendaid oedd Tudur ap Gruffudd, gŵr a gefnodd ar y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 ac a dderbyniodd raglawiaeth Talybolion yn wobr am ei wasanaeth (Carr 1982: 198). Roedd Hywel o Goedan yn briod â Gwenhwyfar ferch Madog o’r Hendwr yn Llandrillo, gwraig y canodd Gronw Gyriog farwnad iddi. Dywed Gronw fod Gwenhwyfar wedi ei chladdu yng nghangell tŷ’r Brodyr Llwydion yn Llan-faes, sy’n amlygu statws uchel y teulu (GGrG cerdd 2). Enwir Tudur, mab Hywel a Gwenhwyfar a thaid i Ruffudd ap Rhys, yn stent Môn a gynhaliwyd yng Nghoedan ar 21 Medi 1352 (Carr 1971–2: 192–3).
Rhieni Gruffudd ap Rhys oedd Rhys ap Tudur o Fôn a Gwerful ferch Ieuan Llwyd o Iâl. Ni ddiogelwyd unrhyw wybodaeth am ei dad, ond pwysleisir ei ddewrder a’i filwriaeth gan Guto (76.12). Yn GGl 351, honnir bod Gruffudd yn ŵr o Lanferres, ond ni chrybwyllir hynny yng ngherdd Guto. Fodd bynnag, yng nghopi BL 14976 o’r gerdd ceir y nodyn canlynol mewn llaw ddiweddarach: O’r Gruffydd yma y daw Sion Lewis ap Dafydd Llwyd ap Gruff ap Rys o Lanferres yn Ial. O ganlyniad, mae’n bosibl mai yno yr oedd cartref Gruffudd, ac mai drwy deulu ei fam yr ymgartrefodd yno (yn ôl WG1 ‘Llywarch ap Brân’ 5, ymsefydlodd ei frawd, Siencyn, ym Maentwrog a Thrawsfynydd yn Ardudwy). Ni nodir disgynyddion i Ruffudd yn achresi Bartrum. O ddilyn yr achres honno, gwelir bod Gruffudd yn disgyn o’r un llinach â Llwydiaid Bodidris yn Llandegla, teulu enwog o noddwyr. Canodd Gutun Owain gywydd i Dudur ab Ieuan Llwyd, ewythr Gruffudd (GO cerdd XL), a chanodd Tudur Aled, Lewys Môn, Siôn ap Hywel a Gruffudd Hiraethog gerddi i Ddafydd Llwyd ap Tudur a’i ddisgynyddion.
Ei yrfa
Ychydig iawn sy’n hysbys am yrfa Gruffudd ap Rhys ac eithrio’r hyn a geir yng ngherdd Guto. Dywed yn eglur fod Gruffudd yn ŵr o Iâl a’i fod yn ben-fforestwr (76.13) yn yr ardal honno, sef yr ardal a gysylltir â theulu ei fam. Mae’n ddigon posibl fod perchnogi tir mewn ardal arbennig yn rhan o’r tâl a roed i fforestwr (Pratt 1994: 116–17). Yn ôl Pratt, gofalai’r pen-fforestwr am yr holl goedwigoedd a pharciau o fewn yr arglwyddiaeth, ond ar ôl gwrthryfel Owain Glyndŵr, prin y gwelid Cymro brodorol yn y fath swydd. Â rhagddo i fanylu: ‘Beneath [the chief forester] came three Welsh foresters, responsible for the parks in each of the three bailiwicks of Marford, Wrexham, and Yale and subordinate to these again, the parker or keeper for each individual park or warren.’ Er bod enwau nifer o benaethiaid fforestydd Brwmffild a Iâl yn hysbys, ni ddaethpwyd o hyd i enw Gruffudd (Pratt 1975: 203–4). Mae’n fwy tebygol, felly, mai un o’r fforestwyr bychain oedd Gruffudd ac mai gormodiaith yw ei alw’n ben-fforestwr.
Cafodd Gruffudd yrfa filwrol hefyd yn ôl Guto (76.17–20):Pan oedd draw’r taraw ’n y tŵr,
Paun Môn fu’r pen-ymwanwr;
Pan fu’n y gogledd, meddynt,
Rhod ar Ysgót rhydraws gynt.Gall mai at Dŵr Llundain y cyfeirir yn y llinell gyntaf uchod a dengys yr ail gwpled fod Gruffudd wedi ymladd yn yr Alban. Diau iddo gymryd rhan mewn brwydr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, ond ni ddaethpwyd o hyd i’w enw eto. Ar sail yr ychydig sy’n hysbys amdano, awgrymir yn betrus ei fod yn fyw c.1450 (gwyddys ei fod yn fyw oddeutu’r un adeg â Siôn Hanmer, a oedd yn ei flodau c.1438–c.1468).
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1971–2), ‘The Extent of Anglesey, 1352’, AAST: 192–3
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Pratt, D. (1975), ‘Grant of Office of Keeper of Parks in Bromfield and Yale, 1461’, TCHSDd, 24: 203–5
Pratt, D. (1994), ‘The Parkers of Clocaenog’, TCHSDd 43: 116–20
Rogers, M. (1992), ‘The Welsh Marcher Lordship of Bromfield and Yale 1282–1485’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])
Canodd Guto ddwy gerdd i Siôn Hanmer, sef y naill yn foliant (cerdd 75) a’r llall i ofyn am gyllell hela ar ei ran gan Ruffudd ap Rhys o Iâl (cerdd 76). Cerdd ofyn yw’r unig gerdd arall y ceir sicrwydd iddi gael ei chanu i Siôn, sef cywydd a ganodd Gutun Owain ar ei ran i ofyn march gan Ruffudd ap Rhys o Ddinmael (GO cerdd IX). Ymddengys mai Rhys Goch Glyndyfrdwy a ganodd gywydd i ŵr o’r enw Siôn Hanmer i ofyn am filgi ar ran gŵr o’r enw Siancyn ab Ieuan, ond nid yw’n eglur ai’r un ydoedd â noddwr Guto (Jenkins 1921: 83; GTP xxvii). Felly hefyd yn achos cywydd a ganodd Tudur Aled i ŵr o’r enw Siôn Hanmer i ofyn am ŵn ar ran Gutun Wilcog o’r Wyddgrug (TA cerdd CXXI). At hynny, enwir Siôn, noddwr Guto, mewn cywydd a ganodd Hywel Cilan i hanner brawd Siôn, sef Gruffudd, ac i berthynas arall agos iddo, Rhosier ap Siôn (GHC XXV.29–32).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Hanmer’ 1, ‘Puleston’; WG2 ‘Puleston’ C1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai
Gwraig gyntaf Siôn Hanmer ap Syr Dafydd Hanmer oedd Marged ferch Dafydd Ddu o Lwynderw. Ganed Siôn Hanmer a roes ei nawdd i Guto yn sgil ail briodas ei dad, gydag Efa ferch Dafydd o’r Llai. Roedd yn nai i’r enwog Owain Glyndŵr. Er nad oedd Siôn yn perthyn yn agos i uchelwyr eraill a roes eu nawdd i Guto, gwelir bod ei ŵyr, Edward, a’i wyres, Siân, wedi priodi disgynyddion i ddau o’i noddwyr, sef Tomas Salbri o Leweni a Rhosier Pilstwn o Emral. Enw tad yng nghyfraith Siôn oedd John Parr.
Ei hynafiaid
Roedd Siôn yn ddisgynnydd i Syr Tomas de Macclesfield, a fu’n swyddog dan Edward I ac a ymsefydlodd yng nghwmwd Maelor Saesneg yn sir y Fflint (ByCy 315). Ymddengys i’r teulu fabwysiadu enw pentref Hanmer yn y cwmwd hwnnw fel cyfenw (WATU 87; GGLl 264). Yr enwocaf o’r Hanmeriaid yn yr Oesoedd Canol oedd Syr Dafydd Hanmer, taid Siôn Hanmer. Ym Mehefin 1377 fe’i penodwyd yn serjeant of laws yn llys y brenin, swydd o gryn statws (Morris and Fowler 1895–1909: 60). Ceir cyfeiriadau llenyddol ato fel barnwr, yn arbennig yng nghywydd enwog ‘y cwest’ gan Ruffudd Llwyd (GGLl cerdd 10.1, 4n). Gall mai ei gorffddelw ef a welir yn eglwys Gresffordd (Huws 2003: 50).
Cafodd Syr Dafydd Hanmer a’i wraig, Angharad ferch Llywelyn Ddu, dri mab, sef Siôn (neu Siencyn), Phylib a Gruffudd, ac un ferch, Marged, a briododd Owain Glyndŵr yn 1383. Cefnogodd Gruffudd a Phylib wrthryfel Owain ar droad y bymthegfed ganrif ac, o’r herwydd, Siôn oedd y prif etifedd pan fu farw’r tad. Fodd bynnag, ymddengys fod Siôn yntau wedi cefnogi achos Owain, oherwydd fe’i gwasanaethodd fel cennad ym Mharis yn 1404 ac yn 1411 (Charles 1972–3: 16; Davies 1995: 138, 187, 192). Cofnodir arfbais Siôn a’i ddisgynyddion ar ei sêl yn 1404: ‘a shield, couche, two lions passant guardant in pale. Crest: helmet in profile. Branches on either side of the helmet’ (DWH i, 204).
Ei yrfa
Bu farw Siôn Hanmer ap Syr Dafydd Hanmer yn 1429 (Hanmer 1877: 52–3). Yng nghasgliadau Harold T. Elwes a stad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir nifer o gyfeiriadau at ŵr neu wŷr o’r enw de Hanmere, yn aml fel tystion mewn gweithredoedd i ryddhau tir. Enwir John de Hanmere fel seneschal Maelor (sef distain) yn 1419 ac yn 1425 (LlGC Harold T. Elwes rhif 76, 77), ac mae’n bur debygol mai’r Siôn Hanmer uchod yw hwnnw. Yn 1438, enwir ei fab, Siôn Hanmer arall, fel distain. Y Siôn hwnnw a roes ei nawdd i Guto. Ac eithrio rhai blynyddoedd, ymddengys mai ef oedd distain Maelor hyd ei farwolaeth c.1480 (ceir y cyfeiriad olaf ato ar 3 Chwefror 1480 yn LlGC Harold T. Elwes rhif 105). Yn ôl Hanmer (1877: 54), bu farw ar 16 Mawrth 1480. Enwir Wiliam Stanley fel distain Maelor mewn achos yn y flwyddyn honno, ac ymddengys mai mab Siôn, Wiliam Hanmer, a enwir fel ei ddirprwy. Roedd distain yn gyfrifol am gyfraith a threfn mewn cwmwd arbennig, a’r tebyg yw bod Siôn a’i fab, Wiliam, fel ei daid, Syr Dafydd Hanmer, wedi derbyn addysg ym myd y gyfraith. Yn wir, enwir y tad a’r mab yn natganiadau rheithgor beilïaeth Marford ar 19 Hydref 1467 (Pratt 1988: 51, 52).
Tystia’r gerdd fawl a ganodd Guto iddo fod Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer yn filwr o fri. Mae’n bosibl iddo ddechrau ar ei yrfa filwrol ym myddin Richard dug Iorc yn Ffrainc yn 1441 (75.28n). Er na cheir ei gyfenw yn rhestr y milwyr a deithiodd i Ffrainc yn y flwyddyn honno, mae’n bosibl y gellir ei uniaethu â saethydd o’r enw John of Halton (TNA_E1O1_53_33). Fodd bynnag, gan iddo gael ei enwi fel tyst mewn achos cyfreithiol ym Maelor ar 20 Mai 1441 mae’n annhebygol iddo deithio i Ffrainc yn 1441. Gall fod yn arwyddocaol mai Rhosier Pilstwn ac nid Siôn a enwir fel distain Maelor mewn achos a gynhaliwyd ar 17 Hydref 1440 (LlGC Harold T. Elwes rhif 1686). Erbyn Rhyfeloedd y Rhosynnau, ochri â phlaid y Lancastriaid a wnaeth Siôn Hanmer, a daeth yn un o’u harweinwyr amlycaf dan arweiniad Siasbar Tudur yng ngogledd Cymru. Yn ôl Evans (1995: 63), fe’i penodwyd gan y frenhines yn 1453 ‘to bring certain people before the king’s Council to answer certain charges.’ Enwir Siôn a Rhosier Pilstwn fel y ddau a oedd i arwain y Lancastriaid yn y gogledd yn ystod chwedegau’r bymthegfed ganrif (ibid. 87). Y tebyg yw mai ef a enwir fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun ym mis Gorffennaf 1461, pan dderbyniodd gomisiwn ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Rhosier ap Siôn Pilstwn, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51). Bu Siôn yn gyfrifol am amddiffyn castell Dinbych yn erbyn yr Iorciaid yn 1461 ac fe’i cosbwyd yn ddiweddarach gan yr Iorcydd pybyr, John Howard dug Norfolk, fel y dengys llythyr a ysgrifennwyd gan y dug ar 1 Mawrth 1463: ‘The men’s names that be impeached are these – John Hanmer, William his son, Roger Puleston, and Edward ap Madog’ (ibid. 90). Yn yr un flwyddyn llosgwyd tŷ Siôn i’r llawr gan John Howard ac arglwydd Powys (Hanmer 1877: 54). Ond er gwaethaf ei golled, parhaodd yn ffyddlon i achos y Lancastriaid. Yn 1468 fe’i henwir ymhlith y milwyr a fu’n gwarchod castell Harlech rhag byddin yr Iorciaid dan arweiniad Wiliam Herbert.
Halchdyn a’r Llai a gysylltir yn bennaf â Siôn, sef stadau a etifeddodd yn 1427 pan orfu i’w dad drosglwyddo ei diroedd i’w feibion yn sgil ei ran yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Drwy ei fam, Efa, y daeth y stadau hynny i feddiant teulu’r Hanmeriaid. Roedd Efa’n ferch i Ddafydd ap Goronwy, prif fforestydd Maelor Gymraeg ac Iâl. Yn y gerdd fawl a ganodd Guto i Siôn, cyfeirir ato fel gŵr o Haltun (76.3n), sef naill ai Halchdyn neu bentref Haulton ym mhlwyf Bronington, y ddau ym Maelor Saesneg. Gwraig Siôn oedd Angharad (neu Ancareta) ferch John Parr (neu Barre). Roedd ei mam, Alice, yn chwaer i ŵr o’r enw Siôn Talbod, ond nid yw’n eglur a oedd yn perthyn i noddwr Guto, Siôn Talbod, ail iarll Amwythig. Fodd bynnag, mae cyswllt y teulu â theulu Talbod yn dyst i statws cymdeithasol uchel Siôn Hanmer a’i deulu. Ymddengys bod ei fab, Wiliam, wedi ymgartrefu yn y Llai.
Llyfryddiaeth
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Hanmer, J. (1877), A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire out of the Thirteenth into the Ninteenth Century (London)
Huws, B.O. (2003), ‘Rhan o Awdl Foliant Ddienw i Syr Dafydd Hanmer’ Dwned, 9: 43–64
Jenkins, A. (1921), ‘The Works of Tudur Penllyn and Ieuan Brydydd Hir Hynaf’ (M.A. Cymru)
Morris, G.J. and Fowler, R.C. (1895–1909), Calendar of the Patent Rolls Preserved in the Public Record Office: Richard II, vol. 1, A.D. 1377–1381 (London)
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53