Chwilio uwch
 

Gruffudd ap Rhys o Iâl, fl. c.1450

Gofynnwyd i Ruffudd ap Rhys am gyllell hela mewn cywydd a gyfansoddodd Guto ar ran Siôn Hanmer (cerdd 76). Hon yw’r unig gerdd a oroesodd i Ruffudd.

Achres
Gan mai prin yw’r wybodaeth ynghylch ach Gruffudd yn y cywydd a ganodd Guto iddo, yn betrus y cynigir yr achres isod, a seiliwyd ar WG1 ‘Llywarch ap Brân’ 5, ‘Sandde Hardd’ 10, ‘Sandde Hardd’ 10 (A) a BL 14976, 99r.

stema
Achres Gruffudd ap Rhys o Iâl

Hanai’r teulu o Fôn a chysylltir Hywel, hendaid Gruffudd, â Choedan ym mhlwyf Llanfechell (gw. y cyfeiriadau at yr ynys yn 76.6, 18). Ei orhendaid oedd Tudur ap Gruffudd, gŵr a gefnodd ar y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 ac a dderbyniodd raglawiaeth Talybolion yn wobr am ei wasanaeth (Carr 1982: 198). Roedd Hywel o Goedan yn briod â Gwenhwyfar ferch Madog o’r Hendwr yn Llandrillo, gwraig y canodd Gronw Gyriog farwnad iddi. Dywed Gronw fod Gwenhwyfar wedi ei chladdu yng nghangell tŷ’r Brodyr Llwydion yn Llan-faes, sy’n amlygu statws uchel y teulu (GGrG cerdd 2). Enwir Tudur, mab Hywel a Gwenhwyfar a thaid i Ruffudd ap Rhys, yn stent Môn a gynhaliwyd yng Nghoedan ar 21 Medi 1352 (Carr 1971–2: 192–3).

Rhieni Gruffudd ap Rhys oedd Rhys ap Tudur o Fôn a Gwerful ferch Ieuan Llwyd o Iâl. Ni ddiogelwyd unrhyw wybodaeth am ei dad, ond pwysleisir ei ddewrder a’i filwriaeth gan Guto (76.12). Yn GGl 351, honnir bod Gruffudd yn ŵr o Lanferres, ond ni chrybwyllir hynny yng ngherdd Guto. Fodd bynnag, yng nghopi BL 14976 o’r gerdd ceir y nodyn canlynol mewn llaw ddiweddarach: O’r Gruffydd yma y daw Sion Lewis ap Dafydd Llwyd ap Gruff ap Rys o Lanferres yn Ial. O ganlyniad, mae’n bosibl mai yno yr oedd cartref Gruffudd, ac mai drwy deulu ei fam yr ymgartrefodd yno (yn ôl WG1 ‘Llywarch ap Brân’ 5, ymsefydlodd ei frawd, Siencyn, ym Maentwrog a Thrawsfynydd yn Ardudwy). Ni nodir disgynyddion i Ruffudd yn achresi Bartrum. O ddilyn yr achres honno, gwelir bod Gruffudd yn disgyn o’r un llinach â Llwydiaid Bodidris yn Llandegla, teulu enwog o noddwyr. Canodd Gutun Owain gywydd i Dudur ab Ieuan Llwyd, ewythr Gruffudd (GO cerdd XL), a chanodd Tudur Aled, Lewys Môn, Siôn ap Hywel a Gruffudd Hiraethog gerddi i Ddafydd Llwyd ap Tudur a’i ddisgynyddion.

Ei yrfa
Ychydig iawn sy’n hysbys am yrfa Gruffudd ap Rhys ac eithrio’r hyn a geir yng ngherdd Guto. Dywed yn eglur fod Gruffudd yn ŵr o Iâl a’i fod yn ben-fforestwr (76.13) yn yr ardal honno, sef yr ardal a gysylltir â theulu ei fam. Mae’n ddigon posibl fod perchnogi tir mewn ardal arbennig yn rhan o’r tâl a roed i fforestwr (Pratt 1994: 116–17). Yn ôl Pratt, gofalai’r pen-fforestwr am yr holl goedwigoedd a pharciau o fewn yr arglwyddiaeth, ond ar ôl gwrthryfel Owain Glyndŵr, prin y gwelid Cymro brodorol yn y fath swydd. Â rhagddo i fanylu: ‘Beneath [the chief forester] came three Welsh foresters, responsible for the parks in each of the three bailiwicks of Marford, Wrexham, and Yale and subordinate to these again, the parker or keeper for each individual park or warren.’ Er bod enwau nifer o benaethiaid fforestydd Brwmffild a Iâl yn hysbys, ni ddaethpwyd o hyd i enw Gruffudd (Pratt 1975: 203–4). Mae’n fwy tebygol, felly, mai un o’r fforestwyr bychain oedd Gruffudd ac mai gormodiaith yw ei alw’n ben-fforestwr.

Cafodd Gruffudd yrfa filwrol hefyd yn ôl Guto (76.17–20):

Pan oedd draw’r taraw ’n y tŵr,
Paun Môn fu’r pen-ymwanwr;
Pan fu’n y gogledd, meddynt,
Rhod ar Ysgót rhydraws gynt.

Gall mai at Dŵr Llundain y cyfeirir yn y llinell gyntaf uchod a dengys yr ail gwpled fod Gruffudd wedi ymladd yn yr Alban. Diau iddo gymryd rhan mewn brwydr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, ond ni ddaethpwyd o hyd i’w enw eto. Ar sail yr ychydig sy’n hysbys amdano, awgrymir yn betrus ei fod yn fyw c.1450 (gwyddys ei fod yn fyw oddeutu’r un adeg â Siôn Hanmer, a oedd yn ei flodau c.1438–c.1468).

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1971–2), ‘The Extent of Anglesey, 1352’, AAST: 192–3
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Pratt, D. (1975), ‘Grant of Office of Keeper of Parks in Bromfield and Yale, 1461’, TCHSDd, 24: 203–5
Pratt, D. (1994), ‘The Parkers of Clocaenog’, TCHSDd 43: 116–20
Rogers, M. (1992), ‘The Welsh Marcher Lordship of Bromfield and Yale 1282–1485’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])