Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 22 llawysgrif a gopïwyd dros gyfnod sy’n ymestyn o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’r amrywiadau a geir yn nhestunau’r llawysgrifau hyn o’r gerdd yn fawr nac yn niferus, a diau eu bod i gyd yn tarddu o un gynsail ysgrifenedig. Ar yr un pryd, fodd bynnag, ymddengys fod llawer o groesddylanwadu wedi bod yn hanes trosglwyddiad y gerdd, fel mai anodd yw disgrifio cydberthynas y testunau yn llawn. Yr un yw trefn y llinellau ynddynt, ac eithrio yn achos Brog I. 2; hefyd, mae’r rhan fwyaf o Llst 155 yn eisiau, ac mae LlGC 3021F yn brin o dair llinell.
Mae’r llawysgrifau i gyd yn perthyn i ogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Ymranna’r rhan fwyaf o’r testunau yn dri phrif grŵp, sef X1 (‘Cynsail Dyffryn Conwy’), X2 ac X3 ond ceir pum math arall nad ydynt yn dangos perthynas ddigon agos â’r lleill i allu eu cyplysu â hwy, sef LlGC 17114B, Ba (M) 2, Brog I.2, Llst 155, Llst 53. Mae hyn yn neilltuol o wir am Brog I.2 a dichon mai effaith trosglwyddiad llafar yw’r achos.
Ceir y testunau pwysicaf yn llawysgrifau’r cyfnod cyn 1600, ac o’r rhain dewiswyd LlGC 17114B, LlGC 8497B, Ba (M) 2, Brog I.2 yn sail i’r testun golygyddol, a chyflwynir trawysgrifiadau ohonynt.
Trawysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B, Ba (M) 2, Brog I.2.
6 yn iach Felly hefyd Salisbury 2006: 46. Gthg. GGl 5.6 ac OBWV 132 yn wir, darlleniad nas ceir yn y llawysgrifau cynharaf.
7 llawer rhaw Felly hefyd Salisbury 2006: 46, er gofyn hefyd ai llaw a rhaw a ddylid ei ddarllen. Gthg. GGl ac OBWV 132 llaw a rhaw. llawer rhaw a geir yn llawysgrifau LlGC 17114B, Ba (M) 2 (llaw ar haw), Brog I.2, a llaw a rhaw yn X1. Mae llaw a rhaw yn achosi ‘gormod odlau’ gan fod y gair acennog llaw yn odli â’r brifodl (gw. CD 300–1). Gellid dadlau mai ymgais yw llawer rhaw i ‘gywiro’ hyn a bod i llaw a rhaw, felly, statws y lectio difficilior. Fodd bynnag, ni welwyd enghraifft arall o ‘ormod odlau’ o’r math hwn yng ngwaith Guto. O ran synnwyr, gellid dadlau bod llawer rhaw yn gweddu’n well i’r cyd-destun gan y byddai llawer o bobl yn torri bedd i Lywelyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y bardd.
17 mawr acw Felly hefyd GGl ac OBWV 132, ond gthg. Salisbury 2006: 47 mawr yw acw. O’r testunau a ddefnyddiwyd ar gyfer y testun golygyddol, testun llawysgrif LlGC 17114B yn unig a rydd mawr akw ond fe’i ceir hefyd mewn llawysgrifau eraill o’r un cyfnod, megis LlGC 6681B a Llst 155. Efallai mai fel ymgais i gyflenwi berf i frawddeg ddi-ferf y dylid ystyried y darlleniad mawr yw acw yn y llawysgrifau, ond hawdd yw deall yma ferf nas mynegwyd.
19 Benwyn hil Yn GGl a Salisbury 2006: 47, nis dodir rhwng comas ond mae angen trin y geiriau fel sangiad, fel y gwneir yn OBWV 132.
19 am na bai’n Gthg. Salisbury 2006: 47 na bai yn, darlleniad nas ceir ond yn Ba (M) 2 ymysg llawysgrifau ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg.
23 am Gthg. o yn GGl; OBWV 132; Salisbury 2006: 47. Am yw darlleniad y ddwy lawysgrif gynharaf, sef LlGC 17114B a LlGC 8497B (er mai gan gvddiaw y’i dilynir yn y gyntaf), ac o a geir yn y lleill. Gellir dilyn yr ansoddair gweddw gan yr arddodiad o neu am (gw. GPC 1614 am enghreifftiau). Gellid dadlau yn erbyn defnyddio’r un arddodiad ddwywaith o fewn yr un cwpled, ond gwahanol yw ei ystyr yn y ddau achos a gwna Guto beth tebyg â’r arddodiad tros yn 15–16.
25–6 Yn GGl ac OBWV 133, cyfetyb trefn y llinellau i 26, 25 yn y golygiad hwn, er na cheir y drefn honno yn yr un o’r llawysgrifau.
25 yw Yn Brog I.2 ceir y darlleniad ywr, sy’n rhoi cynghanedd gyflawn (ar y fannod o flaen serch, cf. 4 y serch a 22 yw’r gerdd). Ond nid yw’r testun hwn ymysg y goreuon, ac ni cheir y darlleniad yn yr un o’r llawysgrifau eraill. Diogelach, felly, yw ystyried yr -r yn egwyddor yn berfeddgoll a darlleniad Brog I.2 yn ymgais i ‘gywiro’r’ gynghanedd.
25 serch Yn GGl ni ddodir coma ar ei ôl, gan beri i egwyddor sôn ddibynnu arno, ond ni cheir cystal synnwyr.
26 yw Arwystl, gwŷdd Gthg. GGl ac OBWV 133 arwestl y gwŷdd. Yn LlGC 17114B yn unig y ceir y darlleniad hwn (er na nodir y llawysgrif hon yn GGl 14, diau y’i defnyddiwyd yn ogystal â’r lleill a nodir yno) ond ni rydd synnwyr boddhaol. Yn Salisbury 2006: 47 darllenir Arwystl y gwŷdd irion gan ofyn ai arwestl y dylid ei ddarllen.
48 Rhufain Yn GGl ac OBWV 133 ni cheir coma ar ei ôl, ond gwell o ran synnwyr yw ei gynnwys, megis yn Salisbury 2006: 48 (5.48).
62 allor faenor Dyma (allawr vaenawr) yw darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ar sail y traddodiad i Adda Fras gael ei gladdu yn abaty Maenan (gw. 60n (esboniadol)), gellir cynnig mai’r lle hwnnw a olygir wrth faenor, ac yn hyn o beth dylid sylwi ar y darlleniad allor vaenan a geir yn LlGC 17114B (er y dengys y gynghanedd ei fod yn anghywir) a hefyd mewn dwy lawysgrif o chwarter cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, sef LlGC 6681B a Pen 121. Diddorol hefyd yw sylwi ar y darlleniad amgen yn yr un llawysgrif ar gyfer vaenan, sef fynor, a nodwyd gan law arall yno ond nas ceir yn y llawysgrifau eraill. Ystyr allor fynor fyddai ‘allor farmor’, darlleniad sy’n rhoi synnwyr purion (a cf. a ddywedir am Lywelyn ab y Moel yn 48, Marmor yn y côr a’i cudd). Posibilrwydd arall fyddai deall maenor yn gyfuniad o maen ‘carreg’ a’r hen derfyniad lluosog -awr, ond ni nodir y ffurf yn GPC 2306 d.g. maen1.
62 a’i Gthg. ei yn GGl; OBWV 134; Salisbury 2006: 49. Nis ceis ond yn un o’r llawysgrifau diweddarach, sef Llst 53 (i).
65 i’r crefydd Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau; felly hefyd Salisbury 2006: 49 (5.65). Gthg. GGl ac OBWV 134 i grefydd, darlleniad a geir yn LlGC 17114B yn unig ymysg y llawysgrifau cynnar.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil Cymru [Aberystwyth])
Marwnad yw’r cywydd myfyrgar a thawel hwn i Lywelyn ab y Moel, y bardd, herwr a charwr hynod ei yrfa, ar achlysur ei farw a’i gladdu ym mynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell. Naturiol tybio mai pennaeth y fynachlog a noddodd y gerdd, a dichon yn hawdd mai’r Tad Griffri ydoedd hwnnw (gw. llinellau 53–8n).
Mae darfod claddu Llywelyn mewn mynachlog yn enghraifft arall o ŵr blaenllaw yng Nghymru’r Oesoedd Canol, yn dywysog, uchelwr neu fardd, yn cael ei ddodi i orffwys yn nhir tŷ crefydd. Yn yr un modd, claddwyd Guto’r Glyn yn abaty Glyn-y-groes. Awgrymodd G. Williams (1976: 385), a’i ddilyn gan J.E.C. Williams (1997: 211), i Guto ddiweddu ei ddyddiau yno fel corodïydd (Saesneg corrodiary) – sef, yng ngeiriau D.J. Bowen, ‘un o’r rhai a oedd naill ai wedi prynu lle iddynt eu hunain mewn mynachlog gogyfer â’u blynyddoedd olaf, neu wedi eu dewis gan y gymuned i’w hamgeleddu fel dull o fynegi eu gwerthfawrogiad o’u gwasanaeth yn y gorffennol’ (1995: 154); ac er y gellir anghydweld â’r farn honno (Bowen 1995: 154–5, 169–70; Davies 2000: 107–8), mae E. Salisbury wedi cymhwyso’r syniad i Lywelyn ab y Moel. Meddai, ‘yn ystod ei flynyddoedd olaf gellir awgrymu’n betrus i Lywelyn gael ei dderbyn yn gorodïydd yn abaty Ystrad Marchell’ (2006: 100). Pa beth bynnag yn union a fu, mae’n amlwg fod cysylltiad agos rhwng Llywelyn ab y Moel a’r abaty hwn.
Mae’r cywydd hefyd yn codi cwestiynau ynghylch natur perthynas Guto’r Glyn â Llywelyn ab y Moel. Fel y sylwodd S. Lewis (1976: 82), mae cyfeiriad Guto at y Tad Griffri yn gweinyddu sagrafen olew ac angen i Lywelyn yn awgrymu bod Guto yn bresennol gyda Llywelyn yn ei awr olaf a bod felly ryw gysylltiad arbennig rhyngddynt. Ar ôl dweud am Lywelyn, ‘Yr oedd ei ddewrder yn ddihareb a’i farchogaeth beiddgar. Roedd ei ddigrifwch yr un mor enwog; canodd gywyddau gogan a’i gymryd ei hunan yn destun. Mae hyn oll yn drawiadol debyg i dueddiadau Guto’r Glyn’ (Lewis 1976: 82), awgryma Lewis (1976: 82) ei fod ‘yn ymwelydd go fynych yn Ystrad Marchell cyn iddo fynd yno i farw ddiwedd Ionawr 1440, a bod ei esiampl ef yn fardd ac yn filwr ac efallai ei wersi ef mewn cerdd dafod wedi dylanwadu’n fwy na dim ar yrfa Guto’r Glyn’. Mae’n amlwg oddi wrth ei farwnad iddo fod gan Guto feddwl mawr o Lywelyn fel bardd a’i fod yn ei ystyried yn awdurdod ar ei grefft (gw. 39–40, 47–8, 51–2 yn enwedig), ac mae un o’i gerddi cynharaf yn cynnwys adleisiau geiriol digamsyniol o gywydd Llywelyn i’r tafod: gw. cerdd 7, yn enwedig llinellau 13–24, a GSCyf cerdd 12 passim. Yn achos 7.16 Cleddau cerdd celwyddawg coch ceir yr un llinell yn union ag yn GSCyf 12.62. Ymhellach, gw. Salisbury 2007: 151. Sylwer hefyd fod B.O. Huws (2007: 122) yn cyfeirio at Lywelyn fel ‘hen athro barddol’ Guto.
O gofio mor hynod oedd Llywelyn ab y Moel ar sawl cyfrif, mae’n ddiddorol edrych pa rai o’i nodweddion a gaiff sylw gan Guto yn y farwnad. Y peth a bwysleisir yn bennaf yw ei ragoriaeth fel bardd a’r golled i gerdd dafod yn sgil ei farwolaeth. Er cyfeirio at ei ddewredd diarhebol fel milwr (5) a’i gefnogaeth i Owain (35), sef Owain Glyndŵr, a Meredudd (37), ei fab, efallai, caiff ei filwriaeth lai o sylw hyd yn oed na’i ragoriaeth fel carwr. Ond yn hyn o beth nid oedd Guto yn wahanol i feirdd eraill y cyfnod wedi methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr, gan gynnwys Llywelyn ab y Moel ei hun (gw. Llywelyn ab y Moel). I lawer, cyfnod ydoedd o ymaddasu i amgylchiadau newydd Cymru a ffarwelio â rhai o ddyheadau dyfnaf y gorffennol.
Dyddiad
Diau mai yn fuan wedi marw Llywelyn ym mis Chwefror 1440, sef adeg y Pasg, y canwyd y gerdd (gw. 70n).
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd V; Salisbury 2006: 46–5, 176–88.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 37% (26 llinell), traws 27% (19 llinell), sain 27% (19 llinell), llusg 9% (6 llinell).
1 Ystrad Marchell Neu Strata Marcella, sef mynachlog Sistersaidd ger y Trallwng, sir Drefaldwyn; ymhellach, gw. CLC2 811–12.
2 a’u cell Y tebyg yw mai at gelloedd y mynaich yn y fynachlog y cyfeirir.
3 gan hannerch Roedd y syniad o garwr yn mynych gyfarch y ferch a ddenai ei fryd yn rhan o ieithwedd y canu serch; cf. 10 Llyfr annerch; GC 6.1 Wythgant annerch, ddawnserch ddyn. Ar yr h yn hannerch, effaith y trwynoli yn sgil colli’r -t yn cant, gw. TC 137.
4 saith gelfyddyd y serch Cyfeiriad trosiadol at Lywelyn ab y Moel yw saith gelfyddyd a ffordd arall o ddweud ei fod yn dra chelfydd fel awdur serch ac / neu fel carwr. Ar y rhif saith yn dynodi perffeithrwydd neu gyflawnder, gw. GSCyf 16.1n. Siawns hefyd nad oes yma chwarae ar y term y saith gelfyddyd (sef gramadeg, rhethreg, rhesymeg, rhifyddeg, cerddoriaeth, meintoniaeth a seryddiaeth, pynciau cyrsiau’r Trivium a’r Quadrivium canoloesol) gan y byddai bri y pynciau hynny yn cyfateb yn ffafriol i enwogrwydd Llywelyn fel carwr.
6 ni chwardd Topos yn y canu marwnad; cf., e.e., GC 2.10 O’i orchudd neb ni chweirdd.
9 nid llawen Môn Pam y cyfeirir at Fôn? Hyd y gwyddys, nid oedd gan Lywelyn ab y Moel berthynas achyddol â’r fro honno. Mae’n debyg mai achub y blaen ar y llinell nesaf a wna’r sangiad Llyfr annerch llawforynion, ac awgryma hynny gyswllt rhwng tristwch Môn ac ymweliadau carwriaethol gan Lywelyn â hi, hynny yw, â’i merched ifainc. Os felly, cf. 31–2 Clywed y mae merched Môn / Cloi derw am serch clod Euron lle awgrymir eto gyswllt rhwng merched yr ynys a serch – serch Llywelyn tuag at Euron (gw. 32n) yn yr achos hwn.
10 llyfr annerch Gw. 3n.
12 eurych i gariad Cf. GMBen 1.2 Merch lân, mi eurych ei chlod.
17 y Main Trefddegwm ym mhlwyf Meifod yng nghantref Mechain, gw. 18n; Roberts 1956–8: 182; WATU 152; GSCyf 76.
18 Mechain Cantref yng ngogledd Powys, gw. WATU, 154. Roedd gan Lywelyn gysylltiadau teuluol yno ar ochr ei fam, ac yng nghwmwd Deuddwr ar ffin ddeheuol Mechain, gw. GSCyf 77.
19 Penwyn hil Maredudd Benwyn, Llanwnnog, taid Llywelyn ab y Moel, fe ymddengys, gw. GSCyf 75.
19 am na bai’n hen Cynigiwyd mai 1395–1400 hyd Chwefror 1440 oedd blynyddoedd Llywelyn ab y Moel, gw. IGE2 lvii–viii; GSCyf 77. Gan hynny, buasai rhwng 40 a 45 oed yn marw, oedran y gellid efallai ei ystyried yn gymharol ifanc hyd yn oed wrth safonau’r Oesoedd Canol. Rhaid cofio, er hynny, ei bod yn ystrydeb gan y beirdd yn eu marwnadau i resynu bod yr ymadawedig wedi marw’n ifanc ac mae’n anodd gwybod pa mor llythrennol y dylid deall cyfeiriadau o’r fath; weithiau gall mai’r ystyr yw bod y farwolaeth wedi bod yn annisgwyl; gw. GC 99, 2.115n a cf. 72.49n.
20 Sulien Y tebyg yw mai Sulien ap Caradog a olygir, sef archddiagon Powys yn y ddeuddegfed ganrif, a oedd yn gysylltiedig â phlwyf Meifod yng nghantref Mechain (gw. 18n), gw. GSCyf 76. Am ei ach, gw. WG1 ‘Llawr Grach’ 1.
24 bwa gwawd Cf. 31.61–2 Bid dy enw, bywyd hoywner, / Bwa clod, tra fo byw clêr; 18.25–6 Prisio Morgan ap Rosier / Y bu ar glod, bwa’r glêr. Defnyddid bwa weithiau’n ffigurol i ddynodi gallu, gw. GPC 350 1 (a); cf. y defnydd o gordd yn 33.
26 Arwystl Ffurf ar Arwystli, cantref yng ngogledd Powys (gw. WATU 7–8), bro enedigol Llywelyn ab y Moel.
27–8 Cf. marwnad Guto i Einion ap Gruffudd ap Rhys o Lechwedd Ystrad yn Llangywer, 42.45–6 Mai na chog yma ni chair / Nac eos yn Llangywair!
28 Llwyn-onn Cartref Llywelyn ab y Moel ym mhlwyf Llanwnnog, yn ôl pob tebyg; gw. y nodyn canlynol a Lloyd 1934–41: 126.
28 Llanwnnog Fe’i disgrifir yn WATU 141 fel plwyf yn Arwystli. Fodd bynnag, os oedd Llwyn-onn ym mhlwyf Llanwnnog, chwithig yw sôn am eos a chog yn peidio â symud o gartref yn y plwyf i’r plwyf lle roedd y cartref eisoes. Tybed, felly, ai eglwys (yr enwyd y plwyf ar ei hôl) a olygir?
32 Euron Cariad Llywelyn ab y Moel, gw. GSCyf 81–2, 138. Os oedd merched Môn mor ymwybodol o farwolaeth Llywelyn fel carwr Euron (cf. hefyd 9n), yr esboniad mwyaf naturiol ar hynny yw fod Euron yn dod o Fôn. Ar y llaw arall, dywed Haycock (2003: 174), ‘ni welaf fod modd dod i’r casgliad hwnnw ar sail cyfeiriad Guto’r Glyn’, ond ni fanylir.
33 gordd Gw. 24n a cf. defnydd Guto o’r gair bwyall ynglŷn â’r bardd Llawdden yn 37.47–8 Llawdden â’i fwyell eiddaw / Ni âd gwŷdd deunydd llei daw. Yn GPC 358 (b) fe’i hesbonnir fel ffigur am ‘fedr a chelfyddyd farddonol berffeithiedig’.
33 berw Yn yr ystyr arbennig ‘cyffro neu ysbrydoliaeth farddonol’, gw. GPC 275 (c); Davies 2000: 112.
34 celynnen A oedd llwyni neu goed celyn ar bwys y bedd?
35 bronfraith Owain Mae’n debygol iawn fod Llywelyn ab y Moel wedi ymladd ar ochr Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel, gw. GSCyf 78–9, 135–6. Gan ei fod hefyd yn fardd, nid syn yw ei alw’n fronfraith; cf. yr hyn a ddywedir yn Bromwich 1986: 77 am Ddafydd ap Gwilym: ‘To him, birds were natural poets in their own right, singing in the court of the woods as he did in human courts, and indeed, praising God in the service of their song.’
37 Meredudd Mae dau brif bosibilrwydd, sef i. Maredudd Fychan o Arddfaelog, uchelwr gwlatgar y canodd Llywelyn ab y Moel ar ei aelwyd; ii. Maredudd fab Owain Glyndŵr, a arweinodd wrthryfel ei dad hyd 1421 pryd yr ildiodd i’r Goron. Gan fod Guto’r Glyn yn galw Llywelyn yn bronfraith Owain ac yn awdur Meredudd bron ar yr un gwynt, efallai mai’r ail sydd fwyaf tebygol; gw. GSCyf 80–1.
38 Cf. GRhGE 1.28 Tyfod, marmor côr a’i cudd.
40 gwên Cf. Rhys Goch Eryri yn ei ymryson â Llywelyn, GRhGE 8.19–20 Gwyddost yn falch, walch o wên, / Deall hyn o beth dien.
41 Iolo Iolo Goch, un o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg a phrif safon y beirdd a’i dilynodd.
42 Gruffudd Gruffudd Gryg.
42 Dafydd Dafydd ap Gwilym.
42 ynn Hoff yw Guto o ddefnyddio arddodiaid a rhagenwau yn y person cyntaf lluosog, a’r esboniad mwyaf naturiol yw ei fod, yn unol â’i gymeriad cymdeithasgar, cwmnigar, yn meddwl am ei gynulleidfa neu ei gyd-feirdd (y ‘glêr’), neu’r ddau, yn ôl yr achlysur a’r amgylchiadau; cf. 63 ein tŷ ni.
44 dynion Efallai mai pobl, yn gyffredinol, a ymwnâi â cherdd dafod a olygir.
46 afalau Mair Cyfeiriad prin iawn. Yn ôl Salisbury 2006: 183, efallai y dylid ei uniaethu â’r hyn a elwir yn Saesneg yn Lady Apple, sef ‘hen fath o goeden afalau a oedd efallai’n dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid’.
48 Disgrifiadau o ragoriaeth Llywelyn fel bardd a geir yn y llinell hon. Ar y defnydd ffigurol o Pab, gw. GPC 2662; cf. 31.17–18 Pennaeth wyd – pwy ni’th edwyn? – / Pab du yn euro pob dyn. Wrth llyfr, yr hyn a olygir yw llyfr o awdurdod, gw. GPC 2256 (b).
50 Yr ergyd yw nad oes unrhyw fardd arall mwyach yr haedda ei farddoniaeth ei hanrhydeddu megis yr haeddai cerddi Llywelyn ab y Moel.
50 gwra Ar yr ystyr ‘talu gwrogaeth’, gw. GPC 1695 (2); gthg. yr ystyron a drafodir yn GGl 321.
51 priod Bernir mai ‘gwir berchennog’ neu’n syml, ‘perchennog’, yw’r ystyr fwyaf tebygol yma, cf. GPC 2894 d.g. priod fel enw (d) lle nodir yr enghraifft hon; GCBM i, 3.211–12, Prydyd 6yf rac Prydein dragon, / Pria6t kerd [‘perchen y gelfyddyd’], cadeir prydydyon. Mae’n bosibl hefyd, fel y dadleua Salisbury (2006: 98–9), fod yma gymhwysiad i gerdd dafod o syniad y beirdd am y bardd fel priod ei noddwr, ond ymddengys hynny’n llai tebygol; ar y syniad, gw. Mac Cana 1988: 79–85; Breeze 1997: 272–5; Owen 1996: 92–102; Huws 2001: 19–20.
51 hy Roedd hyfder yn un o nodweddion cymeriad Llywelyn ab y Moel a’i farddoniaeth, gw. GSCyf 16.1–2n, 17.1n.
53–8 Yma try Guto i gyfarch y Tad Griffri i ddiolch iddo am weinyddu sagrafen olew ac angen i Lywelyn ab y Moel. Mae’n naturiol tybio bod Griffri yn bresennol pan ddatganodd Guto’r farwnad, ac mae’r sylw amlwg a roddir iddo yma yn awgrymu mai ef oedd noddwr y gerdd a phennaeth yr abaty. Ar y defnydd o’r enw tad ynglŷn ag abad, cf. 7.1–2 Af â mawl a fo melys / O’r tud yr wyf i’r Tad Rys (sef yr Abad Rhys). Yn Williams 1970–2: 190 nid enwir ond un abad ar fynachlog Ystrad Marchell yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif, sef John, dan y flwyddyn 1406.
54–6 Cyfeirir at yr hanes apocryffaidd ‘Ystoria Adda’. Yn ôl hwn, pan oedd Adda ar fin marw, anfonodd ei drydydd mab, Seth, at angel ym mharadwys i gyrchu’r olew trugared a adawsai Duw iddo pan alltudiwyd ef oddi yno. Rhoddodd yr angel iddo tri gronyn o geudawt aval, gan ddweud wrtho dot titheu y tri gronyn hynn o dan wreidon y davawt ef, ac onadunt y kyuodant teir gwialen, gw. Williams and Jones 1876–92: ii, 244–5. Cyffelybir yr hyn a wnaeth Seth dros ei dad i’r olew a roddodd Griffri i Lywelyn ab y Moel, gw. 58n.
58 ail olew Wrth olew golygir sagrafen olew ac angen (neu’r ‘eneiniad olaf’) a weinyddir yn Eglwys Rhufain i gleifion sydd mewn perygl o farw. Fe’i gelwir yn ail am fod y bardd yn synio am wasaneth Seth (54) fel yr enghraifft gyntaf o’r ddefod.
60 Adda Fras Bardd brudiol a gladdwyd yn abaty Maenan, yn ôl traddodiad; gw. 110.63n.
62 maenor Gw. 62n (testunol).
63 ein tŷ ni Cf. 42n. Os cywir y dehongliad yno, yr hyn y mae Guto yn ei feddwl yma yw ‘y tŷ (crefyddol) lle yr ydym bawb yn awr yn bresennol’. Yn ôl Roberts 1947: 38, roedd y beirdd ‘yn arfer y geiriau “fy nghartref” neu “fy nhref”, nid am eu trigfa bersonol hwy lle y cartrefent gyda’u gwragedd, ond yn hytrach am gartref y noddwr a’u croesawai ar y pryd’, a chynnwys hefyd enghreifftiau gyda’r lluosog ein, megis ein tref neu ein gwlad, ibid. 38–9. Cymer Lewis (1976: 82) y geiriau hyn yn arwydd bod cysylltiad arbennig rhwng Guto’r Glyn a Llywelyn ab y Moel, h.y., yn gyfeiriad at y ddau hyn yn unig; ond er ei bod yn debygol fod perthynas arbennig rhyngddynt (gw. uchod), yng ngoleuni defnydd Guto o ymadroddion eraill cyffelyb yn ei waith nid yw’r geiriau ein tŷ ni yn ateg ddiogel i ddamcaniaeth Lewis.
70 yr ŵyl Un o’r tair gŵyl (sef y Nadolig, y Pasg a’r Sulgwyn) pan wahoddid y beirdd gan bendefigion i’w llysoedd. Yn ôl Ifor Williams, IGE2 lviii, gŵyl y Pasg a olygir yma.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1995), ‘Guto’r Glyn a Glyn-y-groes’, YB XX: 149–82
Breeze, A. (1997), ‘Poet and Patron in The Praise of Tenby’, SC xxxi: 272–5
Bromwich, R. (1986), Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym (Cardiff)
Davies, J.W. (2000), ‘ “Hybu’r Galon rhwng yr Esgyrn Crin”: Cywydd “Cysur Henaint” Guto’r Glyn’, Dwned, 6: 95–127
Haycock, M. (2003), ‘Cadair Ceridwen’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd), 148–75
Huws, B.O. (2001), ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul), 1–32
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr’, Dwned, 13: 98–137
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Lloyd, J.E. (1939–41), ‘Gwaith Guto’r Glyn’, B x: 126–7
Mac Cana, P. (1988), ‘The Poet as Spouse of his Patron’, Ériu, xxxix: 79–85
Owen, M.E. (1996), ‘Noddwyr a Beirdd’, M.E. Owen a B.F. Roberts (goln.), Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban (Caerdydd ac Aberystwyth), 92–102
Roberts, E. (1956–8), ‘Cywydd Marwnad Llywelyn ab y Moel’, B xvii: 182–3
Roberts, T. (1947), ‘Guto’r Glyn’, Y Llenor, xxvi: 34–40
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2007), ‘Tair Cerdd Dafod’, Dwned, 13: 139–68
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, J.E.C. (1997), ‘Guto’r Glyn’, A.O.H. Jarman and Gwilym Rees Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature ii: 1282–c.1550, revised by Dafydd Johnston (second ed., Cardiff), 197–221
Williams, R. and Jones, G.H. (1876–92) (eds.), Selections from the Hengwrt MSS (2 vols., London)
This calm and reflective cywydd is an elegy for Llywelyn ab y Moel, the poet, outlaw and lover who led such a remarkable career, on the occasion of his death and burial at the Cistercian monastery of Strata Marcella. It is natural to suppose that the head of the abbey was the patron of the poem, and he could easily have been Father Griffri (see 53–8n).
Llywelyn’s burial at a monastery is another example of a prominent medieval Welshman, whether prince, aristocrat or poet, being laid to rest in the grounds of a religious house. Guto’r Glyn was likewise buried at Valle Crucis abbey. G. Williams (1976: 385) has suggested, followed by J.E.C. Williams (1997: 211), that Guto ended his days there as a corrodiary – namely, one who had either purchased a place for himself at a monastery for his closing years, or had been chosen by the community to be cared for as an expression of thanks for past service (Bowen 1995: 154); and although one may disagree (Bowen 1995: 154–5, 169–70; Davies 2000: 107–8), E. Salisbury has applied the same idea to Llywelyn ab y Moel, suggesting tentatively that he was received in his last years to Strata Marcella abbey as a corrodiary (2006: 100). Whatever the case may be, there was clearly a close link between Llywelyn ab y Moel and this monastery.
The poem also raises questions regarding the nature of the relationship between Guto’r Glyn and Llywelyn ab y Moel. As S. Lewis (1976: 82) has observed, Guto’s reference to Father Griffri administering the sacrament of extreme unction to Llywelyn suggests that Guto was present with Llywelyn in his last hour and that there was therefore some special bond between them. After stating of Llywelyn, ‘His bravery and bold horsemanship were proverbial. His humour was equally famous; he sang satirical cywyddau, taking himself as subject; All this is strikingly similar to Guto’r Glyn’s tendencies’ (Lewis 1976: 82), Lewis (1976: 82) suggests that he was ‘a frequent visitor of Strata Marcella before going there to die at the end of January 1440, and that his example as a poet and soldier and perhaps his instructions in poetic craft influenced Guto’r Glyn’s career more than anything’. It is clear from his elegy that Guto thought very highly of Llywelyn as a poet and that he considered him an authority on his craft (see 39–40, 47–8, 51–2 especially), and one of his early poems contains unmistakable echoes of Llywelyn’s poem to the tongue: see poem 7, especially lines 13–24, and GSCyf poem 12 passim. In the case of 7.16 Cleddau cerdd celwyddawg coch exactly the same line occurs in GSCyf 12.62. Further, see Salisbury 2007: 151. Note also that B.O. Huws (2007: 122) refers to Llywelyn as ‘Guto’s old bardic teacher’.
Considering how remarkable Llywelyn ab y Moel was on several accounts, it is interesting to see which of his qualities receive attention from Guto in the elegy. What is chiefly emphasized is his excellence as a poet and the loss suffered by poetry as a result of his death. Although reference is made to his proverbial valour as a soldier (5) and his support for Owain (35), namely Owain Glyndŵr, and Meredudd (37), possibly his son, his military prowess receives less attention even than his feats as a lover. But in this respect Guto was no different from other poets of the period, Llywelyn ab y Moel himself included (see Llywelyn ab y Moel). For many it was a period of readjustment to the new situation in Wales and bidding farewell to some of the deepest aspirations of the past.
Date
The poem was no doubt sung shortly after Llywelyn’s death in February 1440 at Easter (see 70n).
The manuscripts
The poem has been preserved, mostly complete, in 22 manuscripts copied between the second half of the sixteenth century and the nineteenth century. The variations are not great or numerous, and the texts can no doubt be traced to a common written exemplar. At the same time, however, there appears to have been much cross-influence so that the full relationship of the texts is not easily defined. The manuscripts all have links with north and mid Wales, with none of south Walian origin. The texts divide into three main groups, with five other types which are not sufficiently similar to be closely linked to any one of them. This is particularly true of Brog I.2 and is perhaps due to an element of oral transmission. The most important texts are those prior to 1600 and of these LlGC 17114B, LlGC 8497B, Ba (M) 2, Brog I.2 have been chosen as a basis for the edited text.
Previous editions
GGl poem V; Salisbury 2006: 46–5, 176–88.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 37% (26 lines), traws 27% (19 lines), sain 27% (19 lines), llusg 9% (6 lines).
1 Ystrad Marchell Strata Marcella, the Cistercian monastery near Welshpool, Montgomeryshire; further, see NCLW 694.
2 a’u cell Probably an allusion to the monks’ cells.
3 gan hannerch The notion of a lover frequently greeting the woman of his fancy was part of the diction of love poetry; cf. 10 Llyfr annerch; GC 6.1 Wythgant annerch, ddawnserch ddyn ‘Eight hundred greetings, from a generous man’. On the h in hannerch, the nasalizing effect of losing the -t in cant, see TC 137.
4 saith gelfyddyd y serch Saith gelfyddyd is a metaphorical allusion to Llywelyn ab y Moel as a skilled love poet and/or lover. On the use of saith ‘seven’ to denote perfection or fullness, see GSCyf 16.1n. There is probably also play on the term y saith gelfyddyd ‘the seven arts’ (namely grammar, rhetoric, logic, arithmetic, music, geometry and astronomy, the subjects of the medieval Trivium and Quadrivium) since the prestige of those subjects would correspond favourably to Llywelyn’s fame as a lover.
6 ni chwardd A topos in elegiac poetry; cf., e.g., GC 2.10 O’i orchudd neb ni chweirdd ‘nobody laughs because of his burial’.
9 nid llawen Môn Why the reference to Anglesey? As far as is known, Llywelyn ab y Moel had no genealogical connection with the island. It may be, rather, that the sangiad anticipates the next line Llyfr annerch llawforynion, which suggests a link between the sadness of Anglesey and the loss of Llywelyn’s amatory visits to its young maidens. If so, cf. 31–2 Clywed y mae merched Môn / Cloi derw am serch clod Euron where a link is again suggested between the women of the island and love – Llywelyn’s love for Euron (see 32n) in this case.
10 llyfr annerch See 3n.
12 eurych i gariad Cf. GMBen 1.2 Merch lân, mi eurych ei chlod ‘a fair girl, I am the fashioner of her fame.’
17 y Main A township in the parish of Meifod in Mechain, see 18n; Roberts 1956–8: 182; WATU 152; GSCyf 76.
18 Mechain A cantref in northern Powys, see WATU, 154. Llywelyn had family connections there on his mother’s side and in the commote of Deuddwr on the southern boundary of Mechain, see GSCyf 77.
19 Penwyn hil Maredudd Benwyn, Llanwnnog, apparently the grandfather of Llywelyn ab y Moel, see GSCyf 75.
19 am na bai’n hen Llywelyn ab y Moel’s lifespan is considered to be 1395/1400 to February 1440, see IGE2 lvii–viii; GSCyf 77. He would therefore have been between 40 and 45 on his death, an age which could perhaps be considered young even by medieval standards. However, it should be remembered that the poets commonly lament the early death of their patrons in their elegies and it is difficult to know how literally such allusions should be taken; the sense could sometimes be that the patron has died before his time; see GC 99, 2.115n and cf. 72.49n.
20 Sulien Probably Sulien ap Caradog, archdeacon of Powys in the twelfth century, who had connections with the parish of Meifod in the cantref of Mechain (see 18n), see GSCyf 76.
24 bwa gwawd Cf. 31.61–2 Bid dy enw, bywyd hoywner, / Bwa clod, tra fo byw clêr ‘May your name endure, you who live the life of a merry lord, / bow of fame, while poets live’; 18.25–6 Prisio Morgan ap Rosier / Y bu ar glod, bwa’r glêr ‘he has evaluated Morgan ap Roger, bow of the bards, / in praise-poetry’. Bwa can sometimes be used figuratively to denote power, see GPC 350 1 (a); cf. the use of gordd in 33.
26 Arwystl A variant of Arwystli, a cantref in northern Powys (see WATU 7–8), Llywelyn ab y Moel’s native region.
27–8 Cf. Guto’s elegy to Einion ap Gruffudd ap Rhys from Llechwedd Ystrad in Llangywer, 42.45–6 Mai na chog yma ni chair / Nac eos yn Llangywair! ‘In May neither cuckoo nor nightingale / will be found here in Llangywer!’
28 Llwyn-onn Probably the home of Llywelyn ab y Moel in the parish of Llanwnnog; see the following note and Lloyd 1934–41: 126.
28 Llanwnnog It is described in WATU 141 as a parish in Arwystli. However, if Llwyn-onn was in the parish of Llanwnnog, it is strange to speak of a nightingale and cuckoo not moving from a home in the parish to the parish where the home already was. One wonders therefore whether it is a church (from which the parish took its name) that is meant.
32 Euron Llywelyn ab y Moel’s sweetheart, see GSCyf 81–2, 138. If the women of Anglesey were so conscious of Llywelyn’s death as Euron’s lover (cf. also 9n), the most natural explanation is that Euron hailed from Anglesey. On the other hand, Haycock (2003: 174) states, ‘I see no way of reaching that conclusion on the basis of Guto’r Glyn’s allusion’, but nothing further is said.
33 gordd See 24n and cf. Guto’s use of the word bwyall with reference to the poet Llawdden in 37.47–8 Llawdden â’i fwyell eiddaw / Ni âd gwŷdd deunydd llei daw ‘Llawdden with his axe – / he doesn’t leave timber for material wherever he alights.’ In GPC 358 (b) it is explained as a figure for ‘skill and perfected poetic art’.
33 berw In the special sense of ‘poetic inspiration’, see GPC 275 (c); Davies 2000: 112.
34 celynnen Were there holly bushes or trees by the grave?
35 bronfraith Owain There is good reason to believe that Llywelyn ab y Moel fought on Owain Glyndŵr’s side during the uprising, see GSCyf 78–9, 135–6. As he was also a poet, it is not surprising that he is called a thrush (bronfraith); cf. what is stated in Bromwich 1986: 77 of Dafydd ap Gwilym: ‘To him, birds were natural poets in their own right, singing in the court of the woods as he did in human courts, and indeed, praising God in the service of their song.’
37 Meredudd There are two possibilities: i. Maredudd Fychan of Garddfaelog, a patriotic aristocrat at whose residence Llywelyn ab y Moel recited poetry; ii. Maredudd, son of Owain Glyndŵr, who led his father’s uprising till 1421 when he capitulated to the Crown. As Guto’r Glyn calls Llywelyn bronfraith Owain and awdur Meredudd almost in the same breath, maybe the latter Maredudd is the more likely; see GSCyf 80–1.
38 Cf. GRhGE 1.28 Tyfod, marmor côr a’i cudd ‘sand, the marble of a sanctuary covers him’.
40 gwên Cf. the words of Rhys Goch Eryri in his contention with Llywelyn, GRhGE 8.19–20 Gwyddost yn falch, walch o wên, / Deall hyn o beth dien ‘You know proudly, brave fighter with a smile, / how to understand this fine matter.’
41 Iolo Iolo Goch, one of the greatest poets of the fourteenth century and the chief standard of excellence for successive poets.
42 Gruffudd Gruffudd Gryg.
42 Dafydd Dafydd ap Gwilym.
42 ynn Guto is fond of using prepositions and pronouns in the first person plural, and the most natural explanation is that, in keeping with his sociable and companionable personality, he is thinking of his audience or his fellow-poets (the clêr), or both, according to the occasion and the circumstances; cf. 63 ein tŷ ni.
44 dynion Perhaps people, generally, who were involved in poetry are meant.
46 afalau Mair A very rare allusion. According to Salisbury 2006: 183, it should perhaps be identified with the English Lady Apple, an ancient kind of apple tree which perhaps dated back to Roman times.
48 This line is a description of Llywelyn’s excellence as a poet. On the figurative use of Pab, see GPC 2662; cf. 31.17–18 Pennaeth wyd – pwy ni’th edwyn? – / Pab du yn euro pob dyn ‘You are a chieftain – who does not recognize you? – / a black-haired pope giving gold to every man.’ Llyfr is often used figuratively of someone who is authoritative, see GPC 2256 (b).
50 The import is that there is no other poet now whose poetry deserves to be honoured as Llywelyn’s poems deserved to be.
50 gwra On the sense ‘pay tribute’, see GPC 1695 (2); contrast the meanings discussed in GGl 321.
51 priod The sense ‘true owner’, or simply ‘owner’, is considered most likely here, cf. GPC 2894 s.v. priod as a noun (d) where this example is included; GCBM i, 3.211–12, Prydyd 6yf rac Prydein dragon, / Pria6t kerd, cadeir prydydyon ‘I am a bard before the prince of Britain, / owner of the art, head of bards.’ It is also possible, as Salisbury (2006: 98–9) argues, that there is an application here to poetry of the poets’ notion of the poet as the spouse of his patron, but that appears less likely; on this idea, see Mac Cana 1988: 79–85; Breeze 1997: 272–5; Owen 1996: 92–102; Huws 2001: 19–20.
51 hy Boldness was one of the characteristics of Llywelyn ab y Moel’s personality and poetry, see GSCyf 16.1–2n, 17.1n.
53–8 Here Guto turns to address Father Griffri in order to thank him for administering the sacrament of extreme unction to Llywelyn ab y Moel. It is natural to suppose that Griffri was present when Guto sang the elegy, and the conspicuous attention given to him here suggests that he was the patron of the poem and the head of the abbey. On the use of tad with reference to an abbot, cf. 7.1–2 Af â mawl a fo melys / O’r tud yr wyf i’r Tad Rys ‘I will take praise which will be sweet / from the region where I am to Father Rhys’ (i.e., Abbot Rhys). In Williams 1970–2: 190 only one abbot of Strata Marcella is named in the first half of the fifteenth century, under the year 1406.
54–6 A reference to the apocryphal tale ‘Ystoria Adda’ (‘The Story of Adam’). When Adam was about to die, he sent his third son, Seth, to an angel in paradise to fetch the olew trugared ‘oil of mercy’ which God had left for him on his expulsion from paradise. The angel gave him tri gronyn o geudawt aval ‘three seeds from the core of an apple’, telling him dot titheu y tri gronyn hynn o dan wreidon y davawt ef, ac onadunt y kyuodant teir gwialen ‘place the three seeds under the roots of his tongue, and from them there will arise three rods’, see Williams and Jones 1876–92: ii, 244–5. What Seth did for his father is compared to the oil which Griffri gave to Llywelyn ab y Moel, see 58n.
58 ail olew By olew is meant the sacrament of extreme unction administered in the Church of Rome to the sick when in danger of dying. It is called ail because Guto is thinking of gwasaneth Seth (54) as the first example of the ritual.
60 Adda Fras A prophetic poet who, according to the poets, was buried in Maenan abbey; see 110.63n.
63 ein tŷ ni Cf. 42n. If the interpretation there is correct, what Guto means here is ‘the (religious) house where we are all now gathered’. According to Roberts 1947: 38, the poets used the words fy nghartref / fy nhref ‘my home’ not for their personal residence where they lived with their wives, but rather for the home of the patron who welcomed them on the occasion, and she also includes examples with the plural ein ‘our’, as in ein tref ‘our home / town’ or ein gwlad ‘our country’, ibid. 38–9. Lewis (1976: 82) takes these words as a sign of a special relationship between Guto’r Glyn and Llywelyn ab y Moel, i.e., as a reference to these two only; but although there is likely to have been a special relationship between them (see above), in view of Guto’s use of other similar phrases in his work the words ein tŷ ni do not give sufficient support to Lewis’s interpretation.
70 yr ŵyl One of the three feasts (namely Christmas, Easter and Whitsun) when the poets were invited by the aristocracy to their halls. According to Ifor Williams, IGE2 lviii, Easter is meant here.
Bibliography
Bowen, D.J. (1995), ‘Guto’r Glyn a Glyn-y-groes’, YB XX: 149–82
Breeze, A. (1997), ‘Poet and Patron in The Praise of Tenby’, SC xxxi: 272–5
Bromwich, R. (1986), Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym (Cardiff)
Davies, J.W. (2000), ‘ “Hybu’r Galon rhwng yr Esgyrn Crin”: Cywydd “Cysur Henaint” Guto’r Glyn’, Dwned, 6: 95–127
Haycock, M. (2003), ‘Cadair Ceridwen’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd), 148–75
Huws, B.O. (2001), ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul), 1–32
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr’, Dwned, 13: 98–137
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Lloyd, J.E. (1939–41), ‘Gwaith Guto’r Glyn’, B x: 126–7
Mac Cana, P. (1988), ‘The Poet as Spouse of his Patron’, Ériu, xxxix: 79–85
Owen, M.E. (1996), ‘Noddwyr a Beirdd’, M.E. Owen a B.F. Roberts (goln.), Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban (Caerdydd ac Aberystwyth), 92–102
Roberts, E. (1956–8), ‘Cywydd Marwnad Llywelyn ab y Moel’, B xvii: 182–3
Roberts, T. (1947), ‘Guto’r Glyn’, Y Llenor, xxvi: 34–40
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2007), ‘Tair Cerdd Dafod’, Dwned, 13: 139–68
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, J.E.C. (1997), ‘Guto’r Glyn’, A.O.H. Jarman and Gwilym Rees Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature ii: 1282–c.1550, revised by Dafydd Johnston (second ed., Cardiff), 197–221
Williams, R. and Jones, G.H. (1876–92) (eds.), Selections from the Hengwrt MSS (2 vols., London)
Canodd Guto gywydd marwnad i Lywelyn ab y Moel (cerdd 82), neu Lywelyn ab y Moel o’r Pantri, a rhoi iddo ei enw llawn. Mae’n bosibl mai ef oedd athro barddol Guto. Nid oes ar gadw o’i waith ond deg o gerddi y gellir yn hyderus eu cyfrif yn rhai dilys, sef naw cywydd a chyfres o dri englyn. Yr unig noddwr y gellir ei gysylltu’n agos ag ef yw Syr Wiliam ap Tomas o Raglan. Roedd ei fab, Owain ap Llywelyn, yntau’n fardd (gw. GOLlM).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bod Hen’ 1, 2, ‘Moel y Pantri’; GSCyf 75–6; Bartrum 1963–4: 108. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yn y farwnad a ganodd Guto i Lywelyn.
Mewn un llawysgrif yn unig, sef Wy 143–4, 876–8, y ceir yr wybodaeth am daid Llywelyn ar ochr ei dad (nid enwir Moel y Pantri fel mab i Faredudd Benwyn yn achresi Bartrum). At hynny, yn y llawysgrif honno enwir mab arall i Lywelyn o’r enw Guto Moel, ond mae’n ddigon posibl mai ei frawd oedd hwnnw. Ar deulu ei fab, Owain ap Llywelyn, y diogelwyd cyfran o’i waith fel bardd, gw. WG2 ‘Moel y Pantri’ A.
Ei yrfa
Roedd Llywelyn yn fardd, herwr a charwr hynod ei yrfa. Y tebyg yw iddo gael ei fagu yn ardal Llanwnnog yn Arwystli, ac roedd ganddo gysylltiadau cryf hefyd, ar ochr ei fam, â phlwyf Meifod yng nghwmwd Mechain. Bu’n ymladd ar ochr Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel ac mae amryw o’i gerddi yn adlewyrchu mewn ffordd gyffrous a chofiadwy ei flynyddoedd fel herwr. Roedd ganddo hefyd gariad enwog o’r enw Euron. Wedi methiant y gwrthryfel, newidiodd ei liw gwleidyddol, fel llawer Cymro arall, a cheir ef yn canu i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, gŵr na fuasai’n bleidiol i Owain. Bu farw ym mis Chwefror 1440 a’i gladdu ym mynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell. Ar ei fywyd a’i waith, gw. GSCyf.
Llyfryddiaeth
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146