Y llawysgrif
Ceir y cywydd hwn mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 3051D sy’n gysylltiedig â’r Berth-ddu, Arfon. Ni wyddys enw’r copïydd a enwir X123 yn RepWM; dechreuodd ef ei waith nid yn hwyrach na 1579. Mae’r testun yn lled dda ond ceir rhai llinellau afreolaidd o ran hyd, sy’n annodweddiadol o waith arferol Guto.
Trawsysgrifiad: LlGC 3051D.
5 dala Felly LlGC 3051D. Mwy arferol fyddai dal(y) ond efallai mai awydd i gael llinell seithsill sy’n gyfrifol am y ffurf.
10 nad aeth LlGC 3051D na daeth, camraniad.
12 ba radd od LlGC 3051D baraddod (a cf. GGl). Ni welwyd enghraifft o’r ffurf nac (os treiglad ydyw) o paraddod, felly dichon mai enghraifft arall o gamraniad sydd yma (cf. 10n). Ar ba radd, cf. 9 ba gwd, 55 Pa lun … pa les. Yn Salisbury 2006: 67 rhennir y gair yn Bar addod ond heb gynnig ystyr.
13 bwria’, haea’ LlGC 3051D bwria haya.
17 dur a Felly LlGC 3051D, ond yn GGl darllennir Durir.
26 osgl LlGC 3051D ysgl (cf. GGl), ffurf anhysbys. Yn Salisbury 2006: 144 fe’i diwygir yn ysgâl ‘llestr, cwpan …’ (GPC 3831) gan awgrymu y gall mai rhest i ddal gwaywffon a olygir, ond gellir amau a ddefnyddid y gair yn yr ystyr hon. Apelir yno hefyd at y ffaith fod ysgâl yn gwneud y llinell yn seithsill, ond ceir llinellau chwesill eraill yn y cywydd (13, 25, 39, 45, 64). Ar osgl … ysgŵl, cf. GOLlM 6.15 Osgl wydr ar ysgŵl ydwyd.
29 Cynog LlGC 3051D cynnog (a cf. GGl). Ceir cynnog yn amrywiad ar cynnogn, a byddai’r ystyr ‘gwrthwynebwr, gelyn’ (gw. GPC 796 (c)) hefyd yn gweddu i’r cyd-destun. Crybwyllir Cynog Sant yn 12.4, I riain rywiog y cân, myn Cynog. Cf. Salisbury 2006: 68, 144.
30 ’dduned LlGC 3051D ddvned. Fel y dywedir yn GGl 365, gallai gynrychioli adduned neu eidduned. Dewiswyd y cyntaf yn yr aralleiriad ond gellid yr ail hefyd (‘dymuniad, dyhead ..’, GPC 1189).
34 Wlasgód LlGC 3051D w las god a gw. 34n (esboniadol). Derbynnir dehongliad Salisbury 2006: 68, 144 (ond ar yr hyn a ddynodir yn union, gw. 34n (esboniadol)). Yn GGl 365, mewn nodyn cymysglyd, darllenir Wlas god gan ddadlau ei fod yn golygu ‘sachaid o wlân’ ac yn llysenw ar bobl Woolascott neu Woolaston yn swydd Amwythig, eithr gan golli golwg ar y ffaith mai Cymreigiad o Woolascott sydd yma.
38 ymgynhennu LlGC 3051D yngynhennvi, gwall amlwg.
42 pand LlGC 3051D pan (a GGl; Salisbury 2006: 68) ond cf. 48 pand trwstan.
42 trawsa’ LlGC 3051D trowsa. Dilynir orgraff y llawysgrif yn GGl; Salisbury 2006: 68.
44 gri a ‘mersi!’ LlGC 3051D gria mersi. Yn GGl derbynnir y darlleniad hwn gan ddisgrifio’r geiriau fel ffurf, yn ôl pob tebyg, ar graunt merci, grammercy (‘mawr ddiolch’, o’r Hen Ffrangeg trwy’r Saesneg Canol, gw. GPC 1524 dan gramersi). Ond mae angen rhannu’r darlleniad yn dri er mwyn y gynghanedd fel bod gri yn odli â mersi (onid ystyrir hi’n gynghanedd wreiddgoll, sy’n annhebygol). Gwneir hyn yn Salisbury 2006: 68, Gri Ah! mersi!, ond gwell deall yr ail elfen fel y cysylltair. Gan nad mersi ‘diolch’ megis yn gramersi sydd yma, gellir ei ddeall yn yr ystyr ‘trugaredd’ (gw. GPC 2436) sy’n gweddu’n well i’r cyd-destun.
49 cyd bai LlGC 3051D cyd I bai. Diwygir er mwyn y synnwyr a hyd y llinell.
53 yn LlGC 3051D An. Diwygir er mwyn y synnwyr, cf. GGl.
54 trywanu LlGC 3051D trawanv, ffurf amrywiol, gw. GPC 3646.
57–8 araith, / … caith LlGC 3051D araeth … caeth. Fel y dywedir yn GGl 365, prin y gall araeth sefyll am araith a chyngir ei ddiwygio yn arfaeth, ond ni cheir cystal synnwyr felly a daw’r f berfeddgoll dan yr acen.
62 â Yn GGl trinnir A LlGC 3051D fel cysylltair ond gwell yw ei drin fel arddodiad i’w gydio wrth ymwasg.
64 diwrnod Felly LlGC 3051D. Gellid ei ddiwygio trwy ddefnyddio’r ffurf deirsill diwarnod / diwyrnod er mwyn hyd y llinell.
Canwyd y cywydd i Ruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn yng nghwmwd Deuddwr, rhan o arglwyddiaeth Powys. Thema’r cywydd yw camp Gruffudd yn gwarchod ei bobl trwy drechu Sais o swydd Amwythig – Woolascott o bosibl (gw. 34n) – a ddaethai gyda’i lu i’r cylch i ormesu’r trigolion. Ymddengys nad oedd y bardd yn bresennol ei hun ar yr achlysur, er cymaint yr hoffasai fod, a bod ei ddisgrifiad wedi ei seilio ar dystiolaeth Gruffudd Fychan (gw. 49–54n). Pleser o’r mwyaf iddo hefyd fuasai mwynhau’r atgof o fod wedi dal dilynwyr y Sais (gw. 55–8n). Mae’r gerdd yn nodedig am ei bod yn cynnwys disgrifiad anarferol o fanwl o ddau farchog yn ymwan ac ni welwyd dim tebyg iddi yn hyn o beth. Mae hi hefyd yn nodedig o ran ei chasineb rhyfelgar agored at Saeson a gellir synhwyro yma beth o ysbryd gwrthryfel Owain Glyndŵr. (Diddorol yw cofio bod Gruffudd Fychan arall, sef Syr Gruffudd Fychan o Gegidfa, yn gymydog agos i’r gŵr o Ddeuddwr a’i fod yntau hefyd, mae’n debyg, yn ymwanwr profiadol. Cymerodd ran mewn twrnamaint â Sais, Syr Christopher Talbot, yng nghastell Cawres gan ei ladd â’i waywffon, er iddo dalu am hynny â’i fywyd pan ddienyddiwyd ef yn 1447 (GLGC 619).)
Mewn un llawysgrif yn unig, a honno’n gymharol hwyr (ar ôl c.1579) y ceir y cywydd, felly ni ellir bod yn gwbl hyderus mai gwaith Guto ydyw. Ceir yma rai pethau nad ydynt yn nodweddiadol o drwch cerddi Guto: i. mae’r arddull yn sangiadol ac aml gymalog, megis yn rhai o gerddi cynnar Guto (e.e., cerddi 15, 30); ii. mae’r gynghanedd sain (38%) yn fwy niferus na’r groes (33%), patrwm a welir yn nwy o gerddi cynnar Guto (cerddi 1, 3); iii. ceir cynifer â phump o gynganeddion sain gadwynog (15, 23, 27, 30, 51) a dwy gynghanedd sain drosgl (31, 46); iv. ceir ynddi chwech o linellau chwesill (13, 25, 26, 39, 45, 64), ond ni ellir profi mai’r bardd yn hytrach na chopïw(y)r a oedd yn gyfrifol am y rhain; v. mae’r gwrth-Seisnigrwydd rhyfelgar, agored yn eithriadol er nad yn amhosibl ei gysoni ag osgo arferol Guto. Pe dymunid dadlau nad gwaith Guto mo’r gerdd hon, mae E. Salisbury (2006: 143) wedi tynnu sylw at ei thebygrwydd o ran y rhyfelgarwch a ddisgrifir ynddi i gywydd moliant Hywel Cilan i’r un gwrthrych (GHC cerdd I) a’r un yn union yw llinell olaf y ddwy gerdd. Dichon y dangosai astudiaeth o grefft Hywel Cilan debygrwydd pellach, ond fel y saif pethau ar hyn o bryd, nid oes digon o reswm dros wrthod y priodoliad i Guto, a gellir darganfod cyfochrebau i’r rhan fwyaf o elfennau ‘gwahanol’ y gerdd yn ei waith cynnar, hyd yn oed os na ellir dweud yr un peth am y gwrth-Seisnigrwydd.
Dyddiad
Mae crefft ac arddull y gerdd – ac yn enwedig flaenoriaeth y gynghanedd sain – yn ogystal â chyfnod ei gwrthrych Gruffudd Fychan, yn awgrymu’n gryf hanner cyntaf y bymthegfed ganrif ond ychydig sydd ynddi a fyddai’n gymorth i’w hamseru’n fanylach. O’r hyn sy’n hysbys am ddyddiadau’r beirdd a ganodd i deulu’r Collfryn, cesglir i’w cerddi i gyd gael eu canu yn ystod y 1430au a’r 1440au (Salisbury 2006: 143) ac mae’r sôn am ymladd Saeson yn awgrymu’r 1430au.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XXXVI; Salisbury 2006: 67–9, 143–5.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 33% (22 llinell), traws 21% (14 llinell), sain 38% (26 llinell), llusg 8% (6 llinell).
1 sir Sef swydd Amwythig a ffiniai â gogledd-ddwyrain Maesyfed.
4 Nudd geindwyll Roedd Nudd ap Senyllt, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–76, 464–65; WCD 509. Efallai mai’r rheswm y cyffelybir y Sais iddo yw er mwyn gwrthgyferbynnu’n fwy effeithiol y haelioni y dylai fod yn ei ddangos â’i geindwyll.
5 dal co’ Ar yr ymadrodd, gw. GPC 882.
9 cwd merydd Ar ystyron cwd a merydd, gw. GPC 635, 2438 dan merydd1. Mae blas dilornus iddynt yma, cf. 40 lle gelwir y Sais yn tew fonwm, ond anodd pennu eu hunion ystyr. Os ‘sachaid’ (gw. yr aralleiriad) yw ystyr cwd yma, efallai mai llond sach o gnawd a olygir.
13 Mae’r llinell yn fyr o sillaf. Gellid ennill sillaf o ddarllen Bwria’ a hea’.
14 Cywesgir iddo a’i yn ddeusill i gael llinell seithsill.
15–18 Gruffudd … / Fychan … / … / Deuddwr Hoffai’r beirdd alw Gruffudd yn Gruffudd Fychan Deuddwr, efallai i wahaniaethu rhyngddo a Syr Gruffudd Fychan o Gegidfa; gw. uchod a GHS 205–6.
18 Deuddwr Y cwmwd ym Mhowys, ger cymer afonydd Efyrnwy a Hafren, lle safai’r Collfryn, gw. WATU 57, 264.
23 heb amwyll claim Ymddengys mai’r ergyd yw na adawai Gruffudd Fychan i falchder yn ei hawliau a’i statws ei arwain i weithredu’n fyrbwyll neu’n ffôl.
25 Mae’r llinell yn fyr o sillaf oni chyfrifir eithr yn ddeusill.
26 osgl Os hwn yw’r darlleniad cywir (gw. 25n (testunol)), ymddengys fod y bardd yn gweld tebygrwydd rhwng blaen miniog gwaywffon a chyrn carw.
26 Mae’r llinell yn fyr o sillaf, oni chyfrifir osgl neu gwayw yn ddeusill.
29 Cynog Mab hynaf Brychan Brycheiniog a sant, gw. LBS ii: 264–71; ByCy 84; GDEp 88–91. Ym Mrycheiniog yn bennaf y coffeir ef ond ceir eglwysi dan ei nawdd mewn mannau eraill hefyd, gan gynnwys eglwys Llangynog ger Llanfyllin ychydig i’r gogledd o gwmwd Deuddwr. Mae’n debyg mai’r hyn a oedd flaenaf ym meddwl y bardd wrth gyffelybu Gruffudd Fychan iddo oedd y stori am y sant yn achub bywyd mab gwraig weddw rhag cawr canibalaidd trwy ei ddodi ei hun yn lle’r mab a lladd y cawr trwy gymorth dwyfol.
34 Wlasgód Ymddengys mai ffordd gwta sydd yma o ddynodi rhywun o Woolascott – oni bai bod y bardd yn chwarae ar yr enw gan olygu (yn ddilornus) ‘cod (cf. 9, 63 [c]wd) o Woolascott’. Fel arall, mwy naturiol fyddai deall Wlasgód yn gyfenw ar y marchog o Sais neu’n rhan o deitl, ond ni welwyd neb o’r enw hwnnw. Ar Woolascott, trefgordd yng nghyffiniau Amwythig, gw. GGl 365.
34 Alis Yr enw a ddefnyddid gan y Cymry am fam y Saeson. Cyfeirir atynt hefyd fel plant Alis, a chyfystyron yw Plant Ronwen a Phlant Hors (cf. 67 hil Hors); gw. WCD 11, 559, a cf. 24.51–2 Os gwir i blant Alis gau, / Draeturiaid, dorri tyrau.
39 o’i grwm Ymddengys mai’r hyn a ddisgrifir yw ystum corff Gruffudd Fychan wrth iddo bwyso ymlaen ar gefn ei farch wrth ruthro tuag at ei elyn â’i waywffon wedi ei hanelu ato.
39 Mae’r llinell yn fyr o sillaf, oni chyfrifir gwayw yn ddeusill.
42 trawsa’ fur Ar y treiglad meddal yn dilyn gradd eithaf yr ansoddair, gw. TC 52.
45 bwrw Gruffudd Fychan yw’r goddrych.
45 Mae’r llinell yn fyr o sillaf. Gellid ystyried bwrw yn ddeusill ond sylwer ei fod yn unsill yn y llinell ddilynol.
45–6 ail … / … trydydd Sef dau farchog arall.
53 gwaywLyr Cyffelybir Gruffudd Fychan i Lŷr Llediaith, tad Bendigeidfran o’r Mabinogi. Cyfeirir at Lŷr weithiau yn y farddoniaeth ynglŷn â’i lid, megis yma; gw. TYP3 418–21.
55 pa … pa Gthg GGl lle deellir hwy fel geirynnau gofynnol a cf. 9, 12.
56 gwŷr y potes Llysenw ar Saeson Amwythig, efallai, GGl 365.
57 eurych araith Cyfeiriad gan Guto ato’i hun.
58 Ceseilier co’ ym yn unsill ar gyfer hyd y llinell.
60 tâl Fe’i deellir i olygu person, trwy gydgymeriad.
63 cwd Sylwer mai enw benywaidd yw yma. Enw gwrywaidd yn unig yw yn ôl GPC 635 d.g. cwd1.
64 Mae’r llinell yn fyr o sillaf.
66 y Collfryn Cartref Gruffudd Fychan yng nghwmwd Deuddwr.
67 hil Hors Gw. 34n.
68 Fel y sylwir yn GHC 51, yr un llinell yn union a geir yn cloi cerdd I yno.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])
This cywydd was sung to Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr of Collfryn in the commote of Deuddwr which formed part of the lordship of Powys. The theme is Gruffudd’s achievement in protecting his people by defeating an Englishman from Shropshire – possibly Woolascott (see 34n) – who had come with his men to the neighbourhood to oppress the inhabitants. It appears that the poet was not present himself on the occasion, much as he would have liked to be, and that his description is based on Gruffudd Fychan’s testimony (see 49–54n). It would also have given him the greatest pleasure to enjoy the recollection of having caught the Englishman’s followers (see 55–8n). The poem is noteworthy in that it includes an unusually full description of jousting and no other one like it in this respect is known to the editor. It is also noteworthy for its open, militant enmity towards the English and it is possible to sense in this some of the spirit of Owain Glyndŵr’s uprising. (It is interesting to recall that another Gruffudd Fychan, namely Sir Gruffudd Fychan of Guilsfield, was a close neighbour of the man from Deuddwr and that he also seems to have been a skilled jouster. He took part in a tournament with an Englishman, Sir Christopher Talbot, at Cause Castle, killing him with his spear, although he paid for that with his life when executed in 1447 (GLGC 619).)
The poem has been preserved in only one, relatively late manuscript (after c.1579), so there is some uncertainty regarding the authorship. There are some features which are not typical of the majority of Guto’s poems: i. the style is characterised by sangiad and multiple clauses, as in some of Guto’s early poems (e.g., poem 15, 30); ii. the cynghanedd sain (38%) is more frequent than the cynghanedd groes (33%), a pattern which is seen in two of Guto’s early poems (poem 1, 3); iii. there are as many as five instances of cynghanedd sain gadwynog (15, 23, 27, 30, 51) and two of cynghanedd sain drosgl (31, 46); iv. there are six hexasyllabic lines (13, 25, 26, 39, 45, 64), but it cannot be proved that it was the poet rather than a scribe / scribes that was responsible for these; v. the militant, unmitigated sentiment against the English is exceptional. If one chose to argue that this poem is not Guto’s, E. Salisbury (2006: 143) has drawn attention to the similarity in respect of its militancy to Hywel Cilan’s praise to the same subject (GHC poem I), and the closing line is identical in both cases. A study of Hywel Cilan’s craft might reveal further similarity, but presently there is not sufficient reason for rejecting the ascription to Guto, and parallels can be adduced to most of the poem’s ‘different’ elements in his early work, even if the same cannot be said of the bitter anti-English sentiment.
Date
The craft and style of the poem – and especially the dominance of the cynghanedd sain – as well as the period of its subject Gruffudd Fychan, strongly suggests the first half of the fifteenth century but there is little in it that would help to fix a more precise date. From what is known of the dates of the poets who sang to the family of Collfryn, the conclusion has been drawn that their poems were all sung during the 1430s and 1440s (Salisbury 2006: 143) and the talk of fighting the English suggests the 1430s.
The manuscript
As already mentioned, the poem has been preserved in only one manuscript, namely LlGC 3051D associated with Berth-ddu, Arfon. The scribe’s name is unknown and he began his work not later than 1579. The text is of middling quality and has some six-syllable lines.
Previous editions
GGl poem XXXVI; Salisbury 2006: 67–9, 143–5.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 33% (22 lines), traws 21% (14 lines), sain 38% (26 lines), llusg 8% (6 lines).
1 sir Shropshire, which bordered on the north-east of Radnorshire.
4 Nudd geindwyll Nudd ap Senyllt, together with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and was considered by the poets a standard of generosity, see TYP3 5–76, 464–65; WCD 509. Perhaps the reason the Englishman is compared to him is to contrast more effectively the generosity which he should be showing with his ceindwyll.
5 dal co’ On the phrase, see GPC 882.
9 cwd merydd On the meanings of cwd and merydd, see GPC 635, 2438 s.v. merydd1. They have a derogatory feel here, cf. 40 where the Englishman is called tew fonwm, but it is difficult to fix their exact meaning. If ‘sackful’ (see the translation) is the meaning of cwd here, perhaps a sackful of flesh is meant.
13 The line is a syllable short. Bwria’ a hea’ would provide the extra syllable.
14 iddo a’i are to be compressed to two syllables to obtain a line of seven syllables.
15–18 Gruffudd … / Fychan … / … / Deuddwr The poets liked to call Gruffudd Gruffudd Fychan Deuddwr, perhaps to differentiate between him and Sir Gruffudd Fychan of Guilsfield; see above and GHS 205–6.
18 Deuddwr The commote in Powys, by the confluence of the rivers Efyrnwy and Hafren, where Collfryn was located, see WATU 57, 264.
23 heb amwyll claim The import, apparently, is that Gruffudd Fychan would not let pride in his entitlements and status lead him to act rashly or foolishly.
25 The line is short of a syllable, unless eithr is given two syllables.
26 osgl Apparently the poet sees a similarity between the sharp tip of a spear and the antlers of a stag.
26 The line is a syllable short unless either osgl or gwayw are given two syllables.
29 Cynog The eldest son of Brychan Brycheiniog and a saint, see LBS ii: 264–71; DWB 91–2; GDEp 88–91. He is remembered chiefly in Brycheiniog but churches dedicated to him are found in other places too, including the church of Llangynog near Llanfyllin a little to the north of the commote of Deuddwr. Probably what was foremost in the poet’s mind when comparing Gruffudd Fychan to Cynog was the story about the saint saving the life of a widow’s son from a cannibalistic giant by putting himself in the place of the son and killing the giant by divine assistance.
34 Wlasgód Apparently a shortened way of denoting someone from Woolascott – unless the poet is playing on the name, intending it (disparagingly) to mean a ‘sackful (cf. 9, 63 cwd) from Woolascott’. Otherwise, it would be more natural to take Wlasgód as the surname of the Englishman or as part of his title, but I have been unable to find anyone of that name. On Woolascott, a township in the Shropshire area, see GGl 365.
34 Alis The name used by the Welsh for the mother of the English, who are often called plant Alis ‘children of Alis’. Synonymous with plant Alis are Plant Ronwen and Plant Hors (cf. 67 hil Hors); see WCD 11, 559, and cf. 24.51–2 Os gwir i blant Alis gau, / Draeturiaid, dorri tyrau ‘If it’s true that Alice’s treacherous children, / the traitors, have felled men who were towers.’
39 o’i grwm Apparently a description of Gruffudd Fychan’s posture as he leans forward on the back of his steed while charging at his enemy with spear pointed.
39 The line is a syllable short, unless gwayw is given two syllables.
42 trawsa’ fur On the lenition following the superlative degree of the adjective, see TC 52.
45 bwrw The subject is Gruffudd Fychan.
45 The line is a syllable short. Bwrw could be disyllabic but it is monosyllabic in the following line.
45–6 ail … / … trydydd Two other combatants.
53 gwaywLyr Gruffudd Fychan is likened to Llŷr Llediaith, father of Bendigeidfran of the Mabinogi. Llŷr is sometimes alluded to in the poetry in connection with his wrath, as here; see TYP3 418–21.
55 pa … pa Contrast GGl where these words are taken as interrogatives and cf. 9, 12.
56 gwŷr y potes Perhaps a nickname for the English of Shrewsbury, GGl 365.
57 eurych araith A reference by Guto to himself.
58 The words co’ ym are to be compressed to give the line seven syllables.
60 tâl It is taken to mean a person by synecdoche.
63 cwd A feminine noun here; however GPC 635, s.v. cwd1, has it as a masculine noun only.
64 The line is a syllable short.
66 y Collfryn Home of Gruffudd Fychan in the commote of Deuddwr.
67 hil Hors See 34n.
68 As observed in GHC 51, exactly the same line concludes poem I there.
Bibliography
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])
Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 83) i Ruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr. Diogelwyd tair cerdd arall iddo: cywydd mawl gan Hywel Cilan, GHC cerdd I; cywydd marwnad gan Hywel Cilan, ibid. cerdd II; cywydd marwnad gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, GHS cerdd 28. At hynny, canodd Hywel Swrdwal gywydd mawl anacronistaidd i or-orhendaid Gruffudd, sef Meurig ap Pasgen, a’i ddau frawd yntau (GHS cerdd 17). Ceir rhai cywyddau mawl i’w feibion: i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd Fychan gan Hywel Cilan, GHC cerdd IV; i Ddafydd Llwyd gan fardd dienw, Salisbury 2006: cerdd Atodiad; i Lywelyn ap Gruffudd Fychan, GHC cerdd VI. Canodd Hywel Cilan gywydd mawl i ŵyr Gruffudd, Gruffudd Penrhyn ap Llywelyn (GHC cerdd VII). Ymhellach ar y canu i’r teulu, gw. Roberts 1980: 70–3.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 10, 11, ‘Gwyn ap Gruffudd’ 3; WG2 ‘Gwyn ap Gruffudd’ 3C. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn
Fel y gwelir, roedd Gruffudd yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, sef Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn. At hynny, roedd ei wraig, Mali ferch Iolyn, yn gyfnither i ddau o noddwyr eraill Guto, sef Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch a Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt.
Ei yrfa
Roedd Gruffudd yn byw yn y Collfryn yng nghwmwd Deuddwr, rhan o arglwyddiaeth Powys. Mae tystiolaeth iddo fod yn fwrdais yn y Trallwng yn 1406 ac yn Llanfyllin yn 1448, a daliai dir ym Mechain Uwch Coed (GHS 206). Ar sail ei ryfelgarwch (nodwedd a grybwyllir yng ngherddi’r beirdd) a rhai cyfeiriadau ynddynt sy’n awgrymu cysylltiad rhwng ei deulu ac Owain Glyndŵr, dichon iddo ef ac un o’i feibion, Llywelyn, ymladd dros arglwydd Sycharth (Salisbury 2006: 143). Ymddengys iddo farw rywdro’n gynnar yn ail hanner y bymthegfed ganrif (GHS 206).
Llyfryddiaeth
Roberts, R.L. (1980), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Drefaldwyn’ (M.A. Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])