Chwilio uwch
 

Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn, fl. c.1406–48

Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 83) i Ruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr. Diogelwyd tair cerdd arall iddo:

  • cywydd mawl gan Hywel Cilan, GHC cerdd I;
  • cywydd marwnad gan Hywel Cilan, ibid. cerdd II;
  • cywydd marwnad gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, GHS cerdd 28.

At hynny, canodd Hywel Swrdwal gywydd mawl anacronistaidd i or-orhendaid Gruffudd, sef Meurig ap Pasgen, a’i ddau frawd yntau (GHS cerdd 17). Ceir rhai cywyddau mawl i’w feibion:

  • i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd Fychan gan Hywel Cilan, GHC cerdd IV;
  • i Ddafydd Llwyd gan fardd dienw, Salisbury 2006: cerdd Atodiad;
  • i Lywelyn ap Gruffudd Fychan, GHC cerdd VI.

Canodd Hywel Cilan gywydd mawl i ŵyr Gruffudd, Gruffudd Penrhyn ap Llywelyn (GHC cerdd VII). Ymhellach ar y canu i’r teulu, gw. Roberts 1980: 70–3.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 10, 11, ‘Gwyn ap Gruffudd’ 3; WG2 ‘Gwyn ap Gruffudd’ 3C. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn

Fel y gwelir, roedd Gruffudd yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, sef Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn. At hynny, roedd ei wraig, Mali ferch Iolyn, yn gyfnither i ddau o noddwyr eraill Guto, sef Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch a Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt.

Ei yrfa
Roedd Gruffudd yn byw yn y Collfryn yng nghwmwd Deuddwr, rhan o arglwyddiaeth Powys. Mae tystiolaeth iddo fod yn fwrdais yn y Trallwng yn 1406 ac yn Llanfyllin yn 1448, a daliai dir ym Mechain Uwch Coed (GHS 206). Ar sail ei ryfelgarwch (nodwedd a grybwyllir yng ngherddi’r beirdd) a rhai cyfeiriadau ynddynt sy’n awgrymu cysylltiad rhwng ei deulu ac Owain Glyndŵr, dichon iddo ef ac un o’i feibion, Llywelyn, ymladd dros arglwydd Sycharth (Salisbury 2006: 143). Ymddengys iddo farw rywdro’n gynnar yn ail hanner y bymthegfed ganrif (GHS 206).

Llyfryddiaeth
Roberts, R.L. (1980), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Drefaldwyn’ (M.A. Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])