Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 13 llawysgrif sy’n dyddio o chwedegau’r unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymrannant yn ddau fath, sef LlGC 17114B a Pen 99. Ni cheir amrywio mawr rhyngddynt a gellir eu holrhain i gyd i un gynsail ysgrifenedig. Rhagora darlleniadau LlGC 17114B ar eiddo Pen 99 gan amlaf ond nid yn ddieithriad (gw. 42n, 54n). Mae llawysgrifau’r gerdd i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Seiliwyd y testun golygyddol ar LlGC 17114B a Pen 99.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, Pen 99.
5 fy Felly Pen 99; LlGC 17114B y. Gan mai haws fuasai ysgrifennu y (naill ai’r fannod neu dalfyriad o fy) am fy na fy am y, bernir mai fy oedd y darlleniad gwreiddiol.
8 caffo Felly LlGC 17114B; Pen 99 koffa (= coffâ, fe ymddengys), cf. GGl. Rhydd y ddau ddarlleniad synnwyr boddhaol ond lle gall koffa gyfeirio naill ai at Mastr Dafydd (7) neu Westmestr (6), cyfeiria caffo yn ddiamwys at Westmestr (sef y llys), a mwy cydnaws yw hynny â’r thema o Ddafydd Cyffin yn meddiannu adeilad.
12 rent Felly’r rhan fwyaf o’r llawysgrifau ond mae angen d ar gyfer y gynghanedd, fel yn LlGC 5272C a LlGC 6681B rend.
18 yn Felly LlGC 17114B. Ceir i yn Pen 99 ond ni rydd gystal synnwyr.
19 damunwyd Felly LlGC 17114B. Damvniad a geir yn Pen 99 (a cf. GGl) a gellid ei gymryd fel cyfosodiad â’r cwpled blaenorol (yn adleisio 17 a’i damunodd), ond llai naturiol ydyw ac ni cheir cystal synnwyr. Yn GPC 1139, 1588 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o damuniad (er nad oes yn rhaid i hynny olygu na allai’r gair fod wedi bodoli ynghynt).
19 ’m Mynyw Gthg. GGl Mynyw (heb yr arddodiad) ond Pen 152 yn unig a rydd y darlleniad hwnnw.
23 mae capten Felly LlGC 17114B; Pen 99 Mae n gapten. Cf. 21 Mae deunydd, 24 mae nef, 25 Mae … wreichionen lle dynodir bodolaeth pethau. Er y rhydd darlleniad Pen 99 synnwyr purion, defnyddir Mae yn draethiadol ynddo.
25 ei galon LlGC 17114B y galon, Pen 99 i galon. Cymerir mai’r rhagenw blaen oedd y darlleniad gwreiddiol ac mai amwysedd orgraffyddol a achosodd y ddau ddarlleniad gwahanol.
42 sydd fwya’ offisial LlGC 17114B sydd yn offisial ond haws fyddai i’r darlleniad hwn fod yn ymgais i ‘gywiro’ Pen 99 sydd fwya offisial er mwyn hyd y llinell nag i’r ail darddu o ddarlleniad LlGC 17114B.
46 dâl GGl dal ond ceir gwell synnwyr, ac osgoi ailadrodd y ferf dal yn yr un llinell, trwy gymryd mai’r ferf talu sydd yma. Ni ddynodir yr a hir yn y llawysgrifau.
50 dadl neu Felly LlGC 17114B (dadyl ne). Gthg. Pen 99 da deil (a cf. GGl) ond mwy boddhaol a nodweddiadol o iaith achos llys yw darlleniad LlGC 17114B. Gellid yn hawdd fod wedi camddarllen da deil am dadyl gan hepgor ne er mwyn hyd y llinell.
54 oerwr LlGC 17114B evrwr ond amhriodol yw’r ystyr.
58 onid Felly LlGC 17114B; Pen 99 neb ond. O dderbyn darlleniad Pen 99, fodd bynnag, clymir ynghyd yn chwithig ddwy o gystrawennau negyddol y ferf bod sy’n debyg eu ffurf ond yn wahanol eu swyddogaeth, gan fod nid yn dynodi bodolaeth yn 57 (‘Nid oes defod’; cf. hefyd 59) ond yn draethiadol yn 58 (‘Nid yw neb yn ddefod’). Cynigir mai ond oedd y darlleniad gwreiddiol ac i un copïwr (yn gywir) ddefnyddio’r ffurf lawn onid er mwyn hyd y llinell ond i un arall (yn anghywir) ychwanegu neb am yr un rheswm a heb sylweddoli effaith hynny ar y gystrawen.
61 daw’r … ar braw Felly LlGC 17114B; Pen 99 daw … a braw (a GGl), ond ar yr ymadrodd dod ar braw cf. TA CXLI.73 Dyn a ddaw ar braw ger bron – wyf innau a gw. GPC 2869 d.g prawf1.
Cywydd mawl yw hwn i Ddafydd Cyffin o Langedwyn. Thema’r gerdd yw dyfodiad Dafydd Cyffin, fel gŵr dysgedig sydd wedi ennill graddau prifysgol ac â gyrfa addawol o’i flaen, i feddiant y llys gwych a adeiladwyd gan ei hen ewythr Hywel ap Madog Cyffin. Yno mae’n cyflawni amryfal ddyletswyddau, megis gweinyddu’r gyfraith a gofalu am yr eglwysi lleol. Mae’n naturiol tybio mai yn fuan wedi iddo ennill ei gymwysterau yn Rhydychen y meddiannodd y llys. Pwysleisir camp Hywel Cyffin yn codi’r llys, ffawd dda Dafydd yn gweithio yn y fath le a’r tebygrwydd o ran cymeriad a dysg rhwng y ddau ddyn. Ymddengys fod y llys hwn rywle yng nghyffiniau bryngaer Llwyndinas, tua thri-chwarter milltir o Langedwyn (gw. 1n llwyn gwydr yn Llangedwyn, 2n).
Ymranna’r gerdd yn ddwy brif ran. Yn y rhan gyntaf (llinellau 1–36) mae cysgod Hywel Cyffin yn drwm dros y mawl i Ddafydd Cyffin. Yn yr ail ran (37–68), ymroddir i ganmol Dafydd Cyffin yn unig.
Dyddiad
Mae’n naturiol tybio mai yn fuan wedi iddo ennill ei gymwysterau ym Mhrifysgol Rhydychen y symudodd Dafydd Cyffin i’r llwyn gwydr yn Llangedwyn (1), a chan mai rywbryd wedi 10 Ebrill 1454 y dyfarnwyd iddo ei radd uchaf, sef doethuriaeth yn y gyfraith ganon, gellir cynnig nad yn hir wedi hynny y canodd Guto iddo.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XL.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 54% (37 llinell), traws 15% (10 llinell), sain 22% (15 llinell), llusg 9% (6 llinell).
1 llwyn gwydr yn Llangedwyn Mae Llangedwyn yng nghwmwd Mochnant Is Rhaeadr (nid ymhell i’r dwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant), gw. WATU 126, 322. O ran y llwyn gwydr, diau, meddai Huws (2008: 97–8), mai Llwyn Bryndinas (neu Fronydinas), safle hen fryngaer ryw dri-chwarter milltir o Langedwyn, a olygir.
1 gwydr Gallai gyfeirio at wyn disglair gwyngalchog y llys neu at ffenestri. Yn 22.19–20 Cyfryw wydr yn cyfredeg, / Castell fal y dunnell deg, cyfeiria at y ffenestri, gw. ibid.n.
2 llys a’r bont ar y llyn Mae’n bosibl, yn ôl Huws 2008: 97, mai rywle yng nghyffiniau Plas Uchaf, a saif ar ael ddwyreiniol Llwyn Bryndinas, y safai’r llys hwn. Yma, ‘mae modd gweld safle hynafol ychydig i’r dwyrain o’r Plas Uchaf lle y mae tir wedi ei gloddio ar ffurf llwyfan neu fwnt â ffosydd ar un cwr iddo. Ychydig uwchlaw’r safle ceir llyn naturiol â nentydd ffynhonnau’n llifo iddo yn ei ben gorllewinol, ac yn ei ben dwyreiniol nant yn rhedeg ohono i gyfeiriad afon Tanat’, ibid. 98. Fel y sylwir hefyd yno, mae geiriau Guto yn dwyn i gof ddisgrifiad Iolo Goch o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, GIG X.24–5, Mewn eurgylch dwfr mewn argae: / (Pand da’r llys?) pont ar y llyn, a gall mai’r un math o dŷ oedd gan Hywel Cyffin â’r eiddo Owain Glyndŵr, sef adeilad ar domen a ffos o’i chwmpas.
3 llewys Ar yr ystyr hon, gw. GPC 2109; cf. GIG III.41 Llys Ffwg yn llawes y ffordd.
5 fy llew gwinau iach Sangiad yn cyfeirio at Ddafydd Cyffin. Yn GGl, trwy beidio â rhoi coma ar ôl gwnaeth a rhoi coma ar ôl Hywel yn y llinell ddilynol, uniaethir y llew gwinau iach â Hywel Cyffin, ond nid yw’n debygol y buasai Guto yn cyfeirio at ŵr a oedd wedi hen farw yn y fath fodd (roedd Hywel Cyffin yn ei fedd erbyn diwedd 1402, gw. Huws 2008: 93), a gwedda ei ddisgrifiad yn well i ŵr ar dir y byw. Os felly, ymddengys ystyr gwinau yn anghyson â’r pwyslais ar wallt du Dafydd Cyffin yn 63–8. Fodd bynnag, ceir peth tebyg yng nghywydd mawl Guto i Harri Ddu o Euas lle dywedir, yng nghanol yr holl sôn am wallt du y gwrthrych, 33.13–14, Gorau un lliw, graen a llwydd, / Gan ŵr ydiw gwineurwydd, a meddir, ibid. 14n, ‘Y tebyg yw fod y bardd yn canmol gwallt tywyll yn gyffredinol (rhagor gwallt melyn) ac nad yw’n gwahaniaethu rhwng du a brown fel y cyfryw.’
5–6 Dyma ddweud mai Hywel Cyffin a gododd (gwnaeth) y llys a ddisgrifir yn y llinellau blaenorol.
6 Mastr Hywel Sef Hywel Cyffin fab Madog Cyffin, hen ewythr Dafydd Cyffin, a fuasai farw erbyn diwedd 1402, gw. Huws 2008: 93–4. Ni restrir Hywel Cyffin yn WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 8, ond yng nghopi personol P.C. Bartrum ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe’i hychwanegwyd yn frawd i blant eraill Madog Cyffin. Ffynhonnell Bartrum oedd Jones 1965: 40 lle rhestrir Hywel ap Madog ap Cyffin (sef Hywel ap Madog Cyffin) yn ddeon Llanelwy yn y blynyddoedd 1386 a 1401. (Diolchir i Dr B.O. Huws am ei gymorth.) Yn Bowen 1994–5: 228, cymerir mai Hywel ab Ieuan ab Ednyfed Gam, sef taid Dafydd Cyffin o du ei fam, a olygir ond fel y dywed Huws (2008: 93), ‘nid oes dim tystiolaeth fod gan yr Hywel hwnnw o Nanheudwy dir yn Llangedwyn, ac ni welwyd dim tystiolaeth i gyfiawnhau ei alw ef yn “Feistr”, sef Cymreigiad o’r teitl Lladin magister a roid i glerigwr dysgedig a graddedig.’ Fe’i gelwir yn Mastr Hywel gan iddo raddio yn Rhydychen, gw. Huws 2007: 98.
6 Westmestr Westminster. Dyma lle roedd palas brenin Lloegr a’r abaty enwog, y ddau yn safonau o wychder. Mae’n anodd gwybod pa un a oedd flaenaf yn nhrosiad Guto gan fod swydd Dafydd Cyffin yn gymysgedd o ddyletswyddau sanctaidd a secwlar.
7 ufudd ofwy Cyfeirir at ddyfodiad gwylaidd a graslon Dafydd Cyffin i’r llys.
7–12 Ergyd y llinellau hyn yw bod Dafydd Cyffin wedi meddiannu’r llys a godwyd gan Hywel Cyffin, gw. Huws 2008: 93.
9 doctor Er na wyddys a enillodd Hywel Cyffin radd doethur, tra gwyddys i Ddafydd Cyffin lwyddo yn hyn o beth, mae’n fwy naturiol cymryd mai at Hywel y cyfeirir yn y cwpled.
9 llywiwr dectai Mae’r geiriau eu hunain yn dyst i faint cyfoeth Hywel Cyffin fel tirfeddiannwr, gw. Huws 2008: 94.
10 Ni olygir bod Hywel Cyffin wedi adeiladau’r llys gyda lles ei nai mewn golwg, ond bod y llys wedi bod o les i’r nai, wedi iddo ddisgyn i’w ddwylo’n ddiweddarach.
10 nai Sef Dafydd Cyffin, a oedd yn or-nai i Hywel Cyffin. Dadleua D.J. Bowen (1994–5: 228) mai nai Dafydd Cyffin, Ieuan ap Hywel ab Iolyn, a olygir ond dibynna’r dehongliad hwnnw ar gymryd mai Dafydd, nid Hywel, Cyffin yw goddrych y ferf [g]wnaeth (gw. 9n doctor).
11 sant a’i allor Roedd Hywel Cyffin yn offeiriad.
12 rent Nid yr arian a enillodd Hywel Cyffin ei hun ond y drefn ar gyfer derbyn incwm gan denantiaid.
19–20 Cyfeirir at benderfyniad Dewi Sant, yn unol â neges angel yr Arglwydd, i symud o Hen Fynyw yng Ngheredigion i Fynyw (sef Tyddewi) ym Mhenfro, gw. Sharpe and Davies 2007: 120.
20 tref ei fam Roedd Non, mam Dewi, yn ferch Cynyr o Gaer Gawch ym Mynyw, gw. LBS iv: 22–5; ByCy 646; CLC2 538, ac roedd ganddi ffynnon enwog yn agos i Dyddewi; gw. GLGC 168.21–30 lle disgrifir ymweliad noddwraig â hi ac yna â Thyddewi. Cyfeiria Guto at gysylltiad Non â Mynyw hefyd yn ei gywydd i’r Iarlles Ann o Raglan, gw. 26.49–50 Mynyw a wisg, lle mae Non / Garllaw, fantell Gaerllion. Ni sonnir ym Muchedd Dewi o waith Rhygyfarch fod y sant wedi ei arwain at ei fam gan ragluniaeth pan aeth i Fynyw, nac amdano’n byw yn ei chartref wedi iddo fynd yno, ond prif ddiben y geiriau yw hwyluso’r gymhariaeth rhwng Dafydd Cyffin yn mynd o un lle i’w gartref yn y llys a Dewi yn mynd o le arall i gartref ei fam; nid oes rhaid eu deall yn llythrennol (gall, e.e., mai’r ardal lle roedd cartref Non yn hytrach na’r cartref ei hun a olygir). Gwêl Bowen (1994–5: 228) y geiriau [t]ref ei fam yn gyfeiriad at fam Dafydd Cyffin ac yn ateg i’w farn mai ei thad hi a olygir yn 6 (ond gw. 6n).
22 Doewan Nawddsant Llanrhaeadr-ym-Mochnant ger Llangedwyn, gw. LBS ii: 346–7.
23 henwr Sef Hywel Cyffin.
24 mynfyr Arwydd o foeth y llys, cf. 3n.
27–32 Cefndir y cyfeiriadau hyn at ddysg Dafydd Cyffin yw ei yrfa yn Rhydychen.
28 dau Sef Hywel a Dafydd Cyffin.
29 cyfraith Sef y gyfraith ganon (eglwysig) a chyfraith sifil; cf. 31.
29 ieithoedd Sef Lladin, Ffrangeg a Saesneg.
30 art Sef y saith celfyddyd freiniol, un o brif golofnau dysg brifysgol yr Oesoedd Canol, gw. GIRh 141, 3.17n.
31 chwynnu Ymddengys mai didoli un gyfraith oddi wrth y llall a olygir.
33–4 Dymuna Guto ar i Ddafydd Cyffin gael ei urddo’n esgob; cf. GHC XVI.65–6 Pedeiroes, ail Pedr a Siob, / Iddo, a’i wisgo’n esgob.
34 aur gob Cf. GHC XVI.45–6 A chapan o bân beunydd, / A chob aur yn ucha’ bydd.
35 ffon Cymerir mai ffon fagl esgob (Saesneg crozier) a olygir.
40 Pawl Sef Sant Paul y cyffelybir Dafydd Cyffin iddo ar gyfrif disgleirdeb ei ddysg a’i ddawn trafod, mae’n debyg.
40 meudwyaidd Prin y gellid disgrifio Dafydd Cyffin fel meudwy yn rhinwedd ei swyddi cyhoeddus ac efallai fod Guto yn meddwl am ei fywyd preifat o weddi.
41 Llanelwy neu Iâl Fel y dywedir yn Huws 2008: 92, awgrymir gan gwestiwn Guto ‘fod Dafydd, ar gorn ei arbenigedd yn y gyfraith eglwysig mae’n ddiamau, yn gweithredu fel swyddog cyfreithiol i lys Esgob Llanelwy’. Ymddengys fod ganddo swyddogaeth gyfreithiol rywle yng nghwmwd Iâl hefyd.
42 offisial Huws 2008: 92, ‘Nid enw diarwyddocâd yw “offisial” gan Guto, eithr term a ddefnyddid yn benodol am farnwr gweinyddol mewn llys esgobol a wasanaethai gabidwl eglwys gadeiriol. Er nad oedd y sawl a ddaliai swydd offisial o reidrwydd yn glerigwr, fe’i gwelid yn aml yn dal rheithoriaeth neu siantri. Cynigiai ei wasanaeth fel cyfreithiwr a deddfwr mewn materion moesol yn ymwneud â chlerigwyr a gwŷr lleyg fel ei gilydd, a gallai weithredu fel cofrestrydd y cabidwl a goruchwylio llunio ewyllysiau a’u profi. Gallai hefyd fod yn gwrando ar gyhuddiadau yn erbyn offeiriaid gan gywiro a chosbi camweddau yn ôl y galw.’
45 Gwennwys Perthynai Margred ferch Ieuan ap Madog, trydedd wraig Ieuan Gethin, taid Dafydd Cyffin, i lwyth Gwennwys ac roedd hi’n orwyres i Wennwys / Cadwgan Wennwys ei hun o Gegidfa, Maldwyn, gw. WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, ‘Gwenwys’ 1, 2.
47 Iago hael Sef Iago un o’r deuddeg apostol, mab Sebedeus a brawd hŷn Ioan, gw. ODCC3 862; cf. disgrifiad Guto o abad Glyn-y-groes, 113.76, Dinegydd, dawn Iago.
47 Cuhelyn Sef Cuhelyn ap Rhun ab Einion Efell o Gynllaith y disgynnai’r Cyffiniaid ohono, gw. WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7–9.
49 Awstin Heilin Dau berson: y cyntaf yw Sant Awstin o Hippo (354–430), y mwyaf o’r Tadau Eglwysig, gw. ODCC3 129–32, a gŵr y cyffelybir Dafydd Cyffin iddo; yr ail, o bosibl, yw Heilin Ysteilphorch, gŵr a enwir yn LlGC 3032B, 99, fel arweinydd un o Bum Costoglwyth Cymru, gw. RWM i: 49. Ystyrid llwyth Gwennwys hefyd, a grybwyllir yn 45, yn gostoglwyth.
55 Oen difalch yn y dafarn Cf. disgrifiad Iolo Goch o lys Hywel Cyffin, deon Llanelwy, GIG XIX.5–6, Ar feistr Hywel hael yn rhoi’n ystig, / A thefyrn o win aur a thefig.
57 oed dydd Gyda hawl, gan ddiffinio’r math o hawl a olygir.
57–9 Mae’r llinellau hyn yn dystiolaeth huawdl a grymus i faint cyfoeth a dylanwad Dafydd Cyffin yn y cylch.
61 gair Ar yr ystyr gyfreithiol, gw. GPC 1372 (4).
63 du Cyfeirir at liw gwallt Dafydd Cyffin. A barnu oddi wrth y ffordd y chwaraea Guto ar hyn yn y llinellau dilynol, rhaid bod ei wallt yn ddu fel y frân; gw. hefyd 5n.
65 du Llundain Ymddengys mai math o frethyn du a olygir, cf. 64 du o lir, 66 du’r fernagl lle cyfeirir at wrthrychau materol; cf. hefyd Bowen 1957: 35.9–10 Deurudd ysgarlad arael; / Du Llundain, riain, yw’r ael.
66 Fernagl GPC 1269, ‘Llun wyneb Crist (yn ôl y traddodiad) a arhosodd ar y lliain neu’r cadach a roes y Santes Veronica iddo i sychu’r chwys oddi ar ei wyneb ar y ffordd i Galfaria.’ Gw. hefyd ODCC3 1701.
67 Iolyn Sef Iolyn ap Ieuan Gethin ap Madog Cyffin, tad Dafydd Cyffin, gw. WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9.
68 Chwaraea Guto ar ystyron llythrennol a ffigurol gwyn.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1957) (gol.), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Bowen, D.J. (1994–5), ‘Beirdd a Noddwyr y Bymthegfed Ganrif (Rhan II)’, LlCy 18: 221–57
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Huws, B.O. (2008), ‘Dafydd Cyffin (m. 1462): Un o Noddwyr Guto’r Glyn’, LlCy 31: 90–103
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Sharpe, R. and Davies, J.R. (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St David’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 107–55
This is a praise cywydd addressed to Dafydd Cyffin of Llangedwyn. The theme of the poem is Dafydd Cyffin taking into his possession a magnificent court built by his great-uncle Hywel ap Madog Cyffin. Dafydd himself is described as a learned man who has earned university degrees and has a promising career ahead of him. He fulfils various duties there, such as administering the law and caring for the local churches. It is natural to suppose that he occupied the court shortly after gaining his qualifications at Oxford. Emphasis is placed on Hywel Cyffin’s achievement in building the court, Dafydd’s good fortune working in such a place and the similarity in character and learning between the two men. It appears that this court was situated somewhere in the area of Llwyndinas, a hill-fort approximately three-quarters of a mile from Llangedwyn (see 1n y llwyn gwydr yn Llangedwyn, 2n).
The poem can be divided into two main parts. In the first part (lines 1–36), the praise to Dafydd Cyffin is heavily overshadowed by Hywel Cyffin. In the second part (37–68), Dafydd Cyffin alone is the focus of praise.
Date
It is natural to suppose that Dafydd Cyffin moved into the llwyn gwydr yn Llangedwyn (1) shortly after qualifying at Oxford University, and since he was awarded his highest degree – his doctorate in canon law – sometime after 10 April 1454, it may be suggested that Guto sang to him not long afterwards.
The manuscripts
The poem has been preserved in 13 manuscripts dating from the 1560s to the nineteenth century. The texts divide into two kinds, represented by LlGC 17114B and Pen 99. There are no great differences between them and they may all be traced back to a single written exemplar. The readings of LlGC 17114B are mostly better than those of Pen 99. The manuscripts all have links with north and mid Wales with none from south Wales. The edited text is based on LlGC 17114B and Pen 99.
Previous edition
GGl poem XL.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 54% (37 lines), traws 15% (10 lines), sain 22% (15 lines), llusg 9% (6 lines).
1 llwyn gwydr yn Llangedwyn Llangedwyn is in the commote of Mochnant Is Rhaeadr (not far east of Llanrhaeadr-ym-Mochnant), see WATU 126, 322. Regarding the llwyn gwydr, according to Huws (2008: 97–8), it is doubtless Llwyn Bryndinas (or Bronydinas), the site of an old hill-fort some three-quarters of a mile from Llangedwyn.
1 gwydr It could refer to the brilliant hue of the whitewashed court or to windows. In 22.19–20 Cyfryw wydr yn cyfredeg, / Castell fal y dunnell deg ‘the same kind of glass all fitting together, / a castle like that fair barrel’, it refers to the windows, see ibid.n.
2 llys a’r bont ar y llyn It is possible, according to Huws 2008: 97, that this court was somewhere in the area of Plas Uchaf, which stands on the eastern ridge of Llwyn Bryndinas. Here ‘it is possible to see an ancient site a little to the east of Plas Uchaf where the earth has been excavated in the form of a platform or mound with ditches on one side of it. A little above the site is a natural lake with streams from wells flowing into it at its western end, and at its eastern end a stream running from it in the direction of the river Tanat’, ibid. 98 (my translation). As observed there, Guto’s words bring to mind Iolo Goch’s description of Owain Glyndŵr’s court at Sycharth, GIG X.24–5, Mewn eurgylch dwfr mewn argae: / (Pand da’r llys?) pont ar y llyn ‘in a bright circle of water within an embankment: / (isn’t the court fine?) a bridge on the lake’, IGP 10.24–5, and Hywel Cyffin may have had the same kind of house as Glyndŵr’s, an edifice on a mound surrounded by a moat.
3 llewys On this sense, see GPC 2109; cf. GIG III.41 Llys Ffwg yn llawes y ffordd ‘Fulk’s court by the side of the road’, IGP 10.41.
5 fy llew gwinau iach A sangiad referring to Dafydd Cyffin. In GGl, by not placing a comma after gwnaeth and placing one after Hywel in the following line, the llew gwinau iach is identified with Hywel Cyffin, but it is unlikely that Guto would refer to a man who was long dead in such terms (Hywel Cyffin was in his grave by the end of 1402, see Huws 2008: 93), and his description better suits a man in the land of the living. If so, the meaning of gwinau appears inconsistent with the emphasis on the black hair of Dafydd Cyffin in 63–8. However, a similar thing occurs in Guto’s praise cywydd to Henry Griffith of Ewias where it is stated, in the middle of all the talk of his black hair, 33.13–14, Gorau un lliw, graen a llwydd, / Gan ŵr ydiw gwineurwydd ‘The best hue of all, lustre and prosperity, / for a man is swarthiness’; and ibid. 14n, ‘Probably the poet has in mind dark hair in general, in contrast to blond, and is not distinguishing brown from black.’
5–6 We are given to understand that it was Hywel Cyffin who built (gwnaeth) the court described in the preceding lines.
6 Mastr Hywel Hywel Cyffin son of Madog Cyffin, great-uncle of Dafydd Cyffin, who was dead by the end of 1402, see Huws 2008: 93–4. Hywel Cyffin does not appear in WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 8, but in P.C. Bartrum’s personal copy at Aberystwyth University, he has been added as a brother of Madog Cyffin’s other children. Bartrum’s source was Jones 1965: 40 where Hywel ap Madog ap Cyffin (namely Hywel ap Madog Cyffin) is listed as dean of St Asaph in the years 1386 and 1401. (Thanks are due to Dr B.O. Huws for his assistance.) In Bowen 1994–5: 228, it is assumed that Hywel ab Ieuan ab Ednyfed Gam, Dafydd Cyffin’s grandfather on his mother’s side, is meant but as Huws (2008: 93) says (my translation), ‘there is no evidence that Hywel from Nanheudwy had land in Llangedwyn, and there is no known evidence to justify calling him “Meistr”, a Cymricization of the Latin magister given to learned clerics with a degree.’ He is called Mastr Hywel because he graduated at Oxford, see Huws 2007: 98.
6 Westmestr Westminster. This is where the palace of the king of England and the famous abbey were, both standards of magnificence. It is difficult to know which one was foremost in Guto’s metaphor since Dafydd Cyffin’s duties were a mixture of the sacred and the secular.
7 ufudd ofwy A reference to Dafydd Cyffin’s meek and gracious arrival at the court.
7–12 The import of these lines is that Dafydd Cyffin has taken possession of the court built by Hywel Cyffin, see Huws 2008: 93.
9 doctor Although it is not known whether Hywel Cyffin gained a doctorate degree, whereas Dafydd Cyffin is known to have succeeded in this respect, it is more natural to assume that Hywel is meant throughout the couplet.
9 llywiwr dectai The words themselves are testimony to the extent of Hywel Cyffin’s wealth as a landowner, see Huws 2008: 94.
10 The meaning is not that Hywel Cyffin built the court with his nephew’s welfare in view, but that the court has been of benefit to the nephew later, after coming into his possession.
10 nai Dafydd Cyffin, who was Hywel Cyffin’s great-nephew. D.J. Bowen (1994–5: 228) argues that Dafydd Cyffin’s nephew, Ieuan ap Hywel ab Iolyn, is meant but that interpretation depends on assuming that Dafydd, not Hywel, Cyffin is the subject of the verb gwnaeth (see 9n doctor).
11 sant a’i allor Hywel Cyffin was a priest.
12 rent Not the money which Hywel Cyffin himself earned but the procedure for receiving income from tenants.
19–20 A reference to St David’s decision, in accordance with the message of the angel of the Lord, to move from Hen Fynyw in Ceredigion to Mynyw (St David’s) in Pembrokeshire, see Sharpe and Davies 2007: 120.
20 tref ei fam Non, mother of St David, was daughter of Cynyr of Caer Gawch in St David’s, see LBS iv: 22–5; ByCy 646; NCLW 532, and she had a famous well near St David’s; see GLGC 168.21–30 where there is an account of a patroness’s visit to it, and then to St David’s. Guto also refers to Non’s association with St David’s in his cywydd to Countess Ann of Raglan, see 26.49–50 Mynyw a wisg, lle mae Non / Garllaw, fantell Gaerllïon ‘St David’s, where St Non is nearby, / shall wear the mantle of Caerleon.’ In Rhygyfarch’s life of St David there is no mention that the saint was directed to his mother by providence when he went to St David’s, or that he lived at her home after going there, but the main purpose of the words is to facilitate the comparison between Dafydd Cyffin going from one place to his home at the court and St David going from another place to his mother’s home; they need not be taken literally (it is possible, for instance, that the locality where Non had her home rather than the home itself is meant). Bowen (1994–5: 228) takes tref ei fam to be an allusion to Dafydd Cyffin’s mother and support for his opinion that her father is meant in 6 (but see 6n).
22 Doewan Patron saint of Llanrhaeadr-ym-Mochnant near Llangedwyn, see LBS ii: 346–7.
23 henwr Hywel Cyffin.
24 mynfyr A sign of the luxury of the court, cf. 3n.
27–32 The background to these references to Dafydd Cyffin is his career at Oxford.
28 dau Hywel and Dafydd Cyffin.
29 cyfraith Canon (church) law and civil law; cf. 31.
29 ieithoedd Latin, French and English.
30 art The seven liberal arts, one of the main pillars of medieval university education, see GIRh 141, 3.17n.
31 chwynnu Apparently the separation of one kind of law from the other is meant.
33–4 Guto wishes Dafydd Cyffin to be ordained bishop; cf. GHC XVI.65–6 Pedeiroes, ail Pedr a Siob, / Iddo, a’i wisgo’n esgob ‘May he have, second Peter and Job, / four lives and be ordained bishop.’
34 aur gob Cf. GHC XVI.45–6 A chapan o bân beunydd, / A chob aur yn ucha’ bydd ‘With a mantle of ermine daily, / and a golden cope he is highest.’
35 ffon Literally ‘stick’, which can easily be taken in the context to denote a bishop’s crosier.
40 Pawl St Paul to whom Dafydd Cyffin is compared, probably on account of the brilliance of his learning and ability to debate.
40 meudwyaidd Dafydd Cyffin could scarcely be described as a hermit in virtue of his public offices, and Guto is maybe thinking of his private life of prayer.
41 Llanelwy neu Iâl As stated in Huws 2008: 92, it is suggested by Guto’s question ‘that Dafydd, doubtless on the strength of his expertise in church law, is acting as legal officer to the court of the Bishop of St Asaph’. He apparently had a legal function somewhere in the commote of Yale too.
42 offisial Huws 2008: 92 (my translation), ‘The word “offisial” is not one lacking significance for Guto, but a term specifically used for an administrative judge at an episcopal court who served the cathedral chapter. Although the holder of the post was not necessarily a cleric, he was often seen holding a rectorate or chantry. He offered his service as a lawyer and lawmaker in moral matters relating to clergy and laity alike, and he could act as registrar of the chapter and supervise the making and probation of wills. He could also hear accusations against priests, correcting and punishing wrongs as required.’
45 Gwennwys Margred daughter of Ieuan ap Madog, third wife of Ieuan Gethin, grandfather of Dafydd Cyffin, was of the tribe of Gwennwys and great-grand-daughter of Gwennwys / Cadwgan Wennwys himself of Cegidfa, Maldwyn, see WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, ‘Gwenwys’ 1, 2.
47 Iago hael James, one of the twelve apostles, son of Zebedee and elder brother of St John, see ODCC3 862; cf. Guto’s description of the abbot of Valle Crucis, 113.76, Dinegydd, dawn Iago ‘he refuses no one, he of St James’s blessing.’
47 Cuhelyn Cuhelyn ap Rhun ab Einion Efell of Cynllaith from whom the Cyffins were descended, see WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7–9.
49 Awstin Heilin Two persons: the first is St Augustine of Hippo (354–430), the greatest of the Church Fathers, see ODCC3 129–32, and a figure to whom Dafydd Cyffin is compared; the second may be the Heilin Ysteilphorch named in LlGC 3032B, 99 as leader of one of Pum Costoglwyth Cymru ‘Five Plebeian Tribes of Wales’, see RWM i: 49. The tribe of Gwennwys too, mentioned in 45, was one of these.
55 Oen difalch yn y dafarn Cf. Iolo Goch’s description of the court of Hywel Cyffin, dean of St Asaph, GIG XIX.5–6, Ar feistr Hywel hael yn rhoi’n ystig, / A thefyrn o win aur a thefig ‘on generous master Hywel giving diligently, / and taverns of bright abundant [?] wine’, IGP 19.5–6.
57 oed dydd With hawl, defining the kind of hawl meant.
57–9 These lines are eloquent testimony to the extent of Dafydd Cyffin’s wealth and influence in the vicinity.
61 gair On the legal sense, see GPC 1372 (4).
63 du A reference to the colour of Dafydd Cyffin’s hair. Judging by the way Guto plays on this in the following lines, his hair must have been pitch black; see also 5n.
65 du Llundain Apparently, a kind of black cloth is meant, cf. 64 du o lir, 66 du’r fernagl which refer to material objects; cf. also Bowen 1957: 35.9–10 Deurudd ysgarlad arael; / Du Llundain, riain, yw’r ael ‘Two lovely scarlet cheeks; / London black, lady, is the eyebrow.’
66 Fernagl This is explained in GPC 1269 (my translation) as, ‘The form of the face of Christ (according to tradition) which remained on the linen or cloth which St Veronica gave him to wipe the sweat off his face on the road to Calvary.’ See also ODCC3 1701.
67 Iolyn Iolyn ap Ieuan Gethin ap Madog Cyffin, father of Dafydd Cyffin, see WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9.
68 Guto plays on the literal and figurative meanings of gwyn.
Bibliography
Bowen, D.J. (1957) (gol.), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Bowen, D.J. (1994–5), ‘Beirdd a Noddwyr y Bymthegfed Ganrif (Rhan II)’, LlCy 18: 221–57
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Huws, B.O. (2008), ‘Dafydd Cyffin (m. 1462): Un o Noddwyr Guto’r Glyn’, LlCy 31: 90–103
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Sharpe, R. and Davies, J.R. (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St David’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 107–55
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Dafydd Cyffin ab Iolyn yw gwrthrych cerdd 94, sef cywydd mawl. Dim ond un gerdd arall iddo a oroesodd, sef cywydd mawl gan Hywel Cilan (GHC cerdd XVI). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain (84.5–6n), a chanodd Hywel Cilan gywydd mawl i nai Dafydd, Ieuan ap Hywel (GHC cerdd XVII).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7, 8, 9, 10, 11, ‘Gwenwys’ 1, 2; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9D. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Ddafydd mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn
Yn ogystal â Hywel a Mali, roedd gan Ddafydd frodyr a chwiorydd eraill: Madog, Maredudd, Marged, Mawd, Ieuan a Llywelyn. Gwelir ei fod yn perthyn i nifer o noddwyr Guto. Roedd yn frawd yng nghyfraith i Ruffudd Fychan o’r Collfryn ac yn gefnder i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ac i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt. At hynny, roedd yn gefnder i dadau dau o noddwyr Guto, sef Gruffudd ab Ieuan Fychan, tad Dafydd Llwyd o Abertanad, a Hywel ap Morus, tad Maredudd ap Hywel o Groesoswallt. Nid yw’n eglur o’r achresi pwy oedd ei fam. Yn wir, nid yw’r achresi’n eglur ychwaith ynghylch pwy oedd mam ei dad. Nodir bod Iolyn yn fab i Ieuan Gethin naill ai drwy ei briodas â’i wraig gyntaf neu’r ail, y ddwy o’r enw Marged ferch Llywelyn. Geilw Guto ei noddwr yn Urddol o ganol Gwennwys (94.45), ond ni ddaethpwyd o hyd i gyswllt teuluol rhwng llinach Dafydd a Gwennwys (neu Garadog Wennwys) ac eithrio drwy drydedd wraig Ieuan Gethin, sef Marged ferch Ieuan. Roedd honno’n orwyres i Wennwys, a’r tebyg yw mai hi oedd mam Iolyn.
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn aelod o dylwyth amlganghennog a dylanwadol yng nghwmwd Cynllaith a chymydau cyfagos Nanheudwy a Mochnant Is-Rhaeadr, ac roedd llawer o’r tylwyth yn swyddogion gweinyddol yn arglwyddiaeth y Waun.
Gellir dilyn rhai o gamau gyrfa Dafydd, diolch i waith Huws (2008: 90–3), a rhoddir crynodeb ohoni yma. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen lle cafodd yrfa lwyddiannus. Roedd yno erbyn 1444, lle graddiodd yn Faglor yn y Gyfraith Ganon a’r Gyfraith Sifil, ac ar 10 Ebrill 1454 dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Gyfraith Ganon. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru fe’i penodwyd yn un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun, lle derbyniodd gomisiwn ym mis Gorffennaf 1461 ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Rhosier ap Siôn Pilstwn, Siôn Hanmer, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51n). Ymddengys iddo weithredu fel swyddog cyfreithiol i lys esgob Llanelwy (94.41n, 42n). Yn ogystal â bod yn gyfreithiwr, daliai reithoriaeth eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac fel person y lle hwnnw byddai ganddo hefyd ofal eglwys Llangedwyn, un o gapeli’r fam-eglwys yn Llanrhaeadr. Roedd yn ei fedd cyn 28 Ebrill 1462, dyddiad penodi ei olynydd, John Segden, yn rheithoriaeth eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Diau y gellir gweld ynddo enghraifft o’r uwchgarfan bwerus honno o glerigwyr a chanddynt radd M.A. a ddisgrifiwyd gan Williams (1976: 314) fel ‘the aristocracy of graduates, most of them graduates in the faculties of law, who formed the corps of skilled administrators without whose specialized services the work of neither Church nor State could be carried on’.
Llyfryddiaeth
Huws, B.O. (2008), ‘Dafydd Cyffin (m. 1462): Un o Noddwyr Guto’r Glyn’, LlCy 31: 90–103
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (2nd ed., Cardiff)