Chwilio uwch
 

Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn, fl. c.1444–m. 1461/2

Dafydd Cyffin ab Iolyn yw gwrthrych cerdd 94, sef cywydd mawl. Dim ond un gerdd arall iddo a oroesodd, sef cywydd mawl gan Hywel Cilan (GHC cerdd XVI). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain (84.5–6n), a chanodd Hywel Cilan gywydd mawl i nai Dafydd, Ieuan ap Hywel (GHC cerdd XVII).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7, 8, 9, 10, 11, ‘Gwenwys’ 1, 2; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9D. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Ddafydd mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn

Yn ogystal â Hywel a Mali, roedd gan Ddafydd frodyr a chwiorydd eraill: Madog, Maredudd, Marged, Mawd, Ieuan a Llywelyn. Gwelir ei fod yn perthyn i nifer o noddwyr Guto. Roedd yn frawd yng nghyfraith i Ruffudd Fychan o’r Collfryn ac yn gefnder i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ac i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt. At hynny, roedd yn gefnder i dadau dau o noddwyr Guto, sef Gruffudd ab Ieuan Fychan, tad Dafydd Llwyd o Abertanad, a Hywel ap Morus, tad Maredudd ap Hywel o Groesoswallt. Nid yw’n eglur o’r achresi pwy oedd ei fam. Yn wir, nid yw’r achresi’n eglur ychwaith ynghylch pwy oedd mam ei dad. Nodir bod Iolyn yn fab i Ieuan Gethin naill ai drwy ei briodas â’i wraig gyntaf neu’r ail, y ddwy o’r enw Marged ferch Llywelyn. Geilw Guto ei noddwr yn Urddol o ganol Gwennwys (94.45), ond ni ddaethpwyd o hyd i gyswllt teuluol rhwng llinach Dafydd a Gwennwys (neu Garadog Wennwys) ac eithrio drwy drydedd wraig Ieuan Gethin, sef Marged ferch Ieuan. Roedd honno’n orwyres i Wennwys, a’r tebyg yw mai hi oedd mam Iolyn.

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn aelod o dylwyth amlganghennog a dylanwadol yng nghwmwd Cynllaith a chymydau cyfagos Nanheudwy a Mochnant Is-Rhaeadr, ac roedd llawer o’r tylwyth yn swyddogion gweinyddol yn arglwyddiaeth y Waun.

Gellir dilyn rhai o gamau gyrfa Dafydd, diolch i waith Huws (2008: 90–3), a rhoddir crynodeb ohoni yma. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen lle cafodd yrfa lwyddiannus. Roedd yno erbyn 1444, lle graddiodd yn Faglor yn y Gyfraith Ganon a’r Gyfraith Sifil, ac ar 10 Ebrill 1454 dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Gyfraith Ganon. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru fe’i penodwyd yn un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun, lle derbyniodd gomisiwn ym mis Gorffennaf 1461 ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Rhosier ap Siôn Pilstwn, Siôn Hanmer, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51n). Ymddengys iddo weithredu fel swyddog cyfreithiol i lys esgob Llanelwy (94.41n, 42n). Yn ogystal â bod yn gyfreithiwr, daliai reithoriaeth eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac fel person y lle hwnnw byddai ganddo hefyd ofal eglwys Llangedwyn, un o gapeli’r fam-eglwys yn Llanrhaeadr. Roedd yn ei fedd cyn 28 Ebrill 1462, dyddiad penodi ei olynydd, John Segden, yn rheithoriaeth eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Diau y gellir gweld ynddo enghraifft o’r uwchgarfan bwerus honno o glerigwyr a chanddynt radd M.A. a ddisgrifiwyd gan Williams (1976: 314) fel ‘the aristocracy of graduates, most of them graduates in the faculties of law, who formed the corps of skilled administrators without whose specialized services the work of neither Church nor State could be carried on’.

Llyfryddiaeth
Huws, B.O. (2008), ‘Dafydd Cyffin (m. 1462): Un o Noddwyr Guto’r Glyn’, LlCy 31: 90–103
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (2nd ed., Cardiff)