Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Ieuan ap Gruffudd Leiaf, fl. c.1450–1500

Roedd Ieuan ap Gruffudd Leiaf yn un o fân-feirdd ail hanner y bymthegfed ganrif. Yn ôl MCF priodolir pedwar cywydd ar ddeg a dau englyn iddo a cheir ei enw wrth bedwar cywydd arall y ceir ansicrwydd ynghylch eu hawduraeth. Dwy gerdd yn unig sydd wedi eu golygu, sef englyn dychan (cerdd 93) a ganodd i Guto am na fynnai rannu ei wely â chlerwr isel ei dras (canodd Guto ddau englyn dychan i’w ateb) a chywydd mawl a ganodd i Hywel ab Ieuan Fychan ar achlysur ailadeiladu ei lys ym Moeliwrch (Huws 2007: 127–33). Ceir cyswllt agos rhwng Guto a’r cywydd hwnnw hefyd gan fod ynddo her i Guto i ganu cystal cywydd ag eiddo Ieuan i’r llys newydd (ibid. 128):

Ni ddenwn, ni ddaw yno,
Ynad fardd onid a fo
Â’i barabl wedi’i buraw
A’i fath a’i lath yn ei law.
Myfyr y gwn ymofyn
– Mogeled na ddeued ddyn –
O feirdd at hwn i’w fwrdd tâl
I’r fort â cherdd gyfartal.

   Guto, dyred ac ateb,
Gwybydd nid ar gywydd neb,
Pwy o brydyddion Powys,
Eddyl parch, a ddeil y pwys?

Canodd Guto yntau gywydd mawreddog ar achlysur ailadeiladu llys Hywel (cerdd 90). Ni raid cymryd bod gelyniaeth wirioneddol rhwng y ddau fardd, eithr eu bod yn ddigon cartrefol yng nghwmni ei gilydd i ymhyfrydu yn nhraddodiad anrhydeddus yr herio barddol.

Yn ôl ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Gruffudd Leiaf, canodd Ieuan i aelodau o deulu’r Penrhyn a Nanconwy a chanodd gywyddau ysgafn i dref Aberconwy ac i afon Llugwy am ei rwystro ar ei ffordd i’r Penrhyn.

Achres
Disgynnai Ieuan ar ochr ei dad o Ruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, felly nid oes ryfedd i’w ach gael ei diogelu yn y llawysgrifau. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Gruffudd ap Cynan’ 1, 3–6. Gwelir bod Ieuan yn gefnder i Wladus, mam un o noddwyr Guto, Rhobert ab Ieuan Fychan.

stema
Achres Ieuan ap Gruffudd Leiaf

Hunanbwysigrwydd Ieuan mewn perthynas â’i linach anrhydeddus a roes fod i’r ymryson byr rhyngddo a Guto. Gwrthododd Ieuan rannu gwely â Guto pan oedd lle’n brin yng nghartref rhyw noddwr oherwydd ei fod o dras uwch na’r glêr. Fel y gwelir yn yr achres uchod, perthynai Ieuan i deulu brenhinol Gwynedd drwy ei orhendaid, Dafydd Goch (am gysylltiadau eraill, gw. GILlF 73). Roedd Dafydd Goch yn fab anghyfreithlon i Ddafydd ap Gruffudd a gymerodd deitl Tywysog Cymru am gyfnod byr rhwng marwolaeth ei frawd, Llywelyn, ar 11 Rhagfyr 1282 a’i farwolaeth greulon yntau ar 3 Hydref 1283 (gw. DNB Online s.n. Dafydd ap Gruffudd, ond ni chyfeirir yno at Ddafydd Goch). Carcharwyd dau fab cyfreithlon Dafydd ap Gruffudd, sef Llywelyn ac Owain, ym Mryste am weddill eu hoes, ond parhaodd Dafydd Goch i fyw yng Ngwynedd (Smith 1998: 579, troednodyn 238; ni chyfeirir at Ddafydd Goch yn idem 1986: 390).

Cesglir bod Dafydd Goch wedi cael parhau i fyw yn bennaf gan nad ystyrid ef yn olynydd cyfreithlon i’w dad yn ôl cyfraith Lloegr. Diddorol, felly, yw mai at gyswllt teuluol Ieuan â thywysogion Powys, yn ôl pob tebyg, y cyfeirir gan Guto yn yr englynion a ganodd iddo. Cyfeddyf Guto fod Ieuan yn [f]ab i sgwïer ond deil fod ei linach yn hanfod o Edeirnion – genedl, / O ganol twysogion. Dywed hefyd fod rhan arall o’i ach yn hanfod o gryddion a thurnorion o waed is, o bosibl ar ochr ei fam. Mae cystrawen y paladr yn awgrymu y dylid ystyried y cyfeiriad at dywysogion yn yr un cyd-destun a’r cyfeiriad at dylwyth Edeirnion. At hynny, digwydd yr unig gyfeiriad at Edeirnion ym marddoniaeth beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg mewn cywydd gan Ruffudd Llwyd i Hywel ap Meurig Fychan a Meurig Llwyd ei frawd o Nannau, a oedd yn disgyn o Ruffudd ab Owain ap Bleddyn ab Owain Brogyntyn drwy eu mam (Parry Owen 2008: 80; GGLl 14.41–6):

Hanoedd eu mam, ddinam ddawn,
O deÿrnedd Edeirniawn:
Glân o lin, goleuni lamp,
Gwawr y Rug, gwir oreugamp;
Gorwyr Owain, liwgain lorf,
Brogyntyn, briwai gantorf.

Eiddo tywysogion Powys oedd cwmwd Edeyrnion yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Nid yw’n syndod fod Guto’n gyfarwydd â chefndir brenhinol teuluoedd uchelwrol Edeyrnion yn ystod y bymthegfed ganrif, oherwydd canodd i rai o ddisgynyddion Owain Brogyntyn a oedd yn parhau i fyw yn y cwmwd, megis Ieuan ab Einion o’r Cryniarth. Mae’n annhebygol, o ganlyniad, fod Guto’n cyfeirio at gyswllt teuluol Ieuan â thywysogion Gwynedd eithr at ei gyswllt â thywysogion Powys. Fel y gwelir yn yr achres isod, roedd Ieuan yn disgyn o deulu brenhinol Powys drwy briodas yng nghenedlaethau ei daid, ei hendaid a’i orhendaid. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, 13, 20, 24, ‘Gruffudd ap Cynan’ 5, 6, ‘Hwfa’ 5, 6, ‘Iarddur’ 1, 2, ‘Marchudd’ 5 (nid yw’n eglur pa Angharad oedd yn fam i Ruffudd ap Dafydd Goch, ond gellir olrhain y ddwy’n ôl i Owain Brogyntyn).

stema
Hynafiaid Ieuan ap Gruffudd Leiaf ym Mhowys

Pam, felly, fod Guto wedi dewis cyfeirio at dywysogion Powys? Ar y naill law, gall fod Guto’n ceisio cythruddo Ieuan fwyfwy drwy gyfeirio at ei gyswllt pell â thywysogion Powys yn hytrach nac at ei gyswllt agos â thywysogion Gwynedd. Ar y llaw arall, mae’n bosibl nad oedd disgynyddion Dafydd Goch yn arddel eu cyswllt â thywysogion Gwynedd gan nad oedd hwnnw’n fab cyfreithlon i Ddafydd ap Gruffudd. Yn wahanol i gyfraith Lloegr, mae’n debygol y byddai gan fab a ystyrid yn anghyfreithlon o safbwynt yr Eglwys hawl i etifeddu tiroedd ei dad yn ôl cyfraith Gymreig (Davies 1980: 106–7). Gellid disgwyl, o ganlyniad, y byddai disgynyddion Dafydd Goch yn falch o’u cyswllt â theulu brenhinol Gwynedd. Fodd bynnag, yn ôl Davies (1980: 108) ceir tystiolaeth bod agweddau ffafriol tuag at hawliau meibion anghyfreithlon i’w hetifeddiaeth ar drai erbyn y bymthegfed ganrif. Tybed a oedd Guto’n ymwybodol o’r amwysedd cyfreithiol hwnnw? Mae rhannau o’i gywydd mawl i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch fel pe bai’n awgrymu ei fod (cerdd 91). Os felly, bernir mai’r cyntaf sydd fwyaf tebygol, sef bod Guto’n awgrymu’n gynnil nad oedd cyswllt Ieuan â theulu brenhinol Gwynedd mor anrhydeddus ag y tybid.

Teulu o feirdd
Ceir enw tad Ieuan, Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan, wrth englyn a chywydd yn ôl MCF, ond fe’u priodolir i feirdd eraill yn ogystal, ac nid yw’n eglur a ddiogelwyd unrhyw waith dilys o’i eiddo ef (ar y cywydd, gw. DG.net ‘Apocryffa’ cerdd 91). Priodolir cerddi i feibion Ieuan hefyd, sef Syr Siôn Leiaf a Rhobert Leiaf, ond gan fod yr ail yn cael ei enwi fel Rhobert ap Gruffudd Leiaf mewn rhai llawysgrifau, gall mai brawd ydoedd i Ieuan. Enwodd Guto Syr Siôn Leiaf mewn cywydd i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes (116.11–14):

Syr Siôn, anudon wedy,
Leiaf a roes ei le fry:
Gwnâi dwyll ym, y gwyndyll haidd,
Am ei deiau meudwyaidd.

Diau bod Guto’n cyfeirio at gywydd dychan a ganodd Syr Siôn iddo ef ac i Hywel Grythor a Gwerful Mechain lle molir Rhisiart Cyffin, deon Bangor. Am y cywydd ac ymhellach ar Syr Siôn, gw. Salisbury 2011: 97–118.

Llyfryddiaeth
Davies, R.R. (1980), ‘The Status of Women and the Practice of Marriage in Late-medieval Wales’, D. Jenkins and M.E. Owen (eds.), The Welsh Law of Women (Cardiff), 93–114
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Parry Owen, A. (2008), ‘Mynegai i Enwau Priod yng Ngwaith Beirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg’, LlCy 31: 35–89
Salisbury. E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Smith, J.B. (1986), Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd)
Smith, J.B. (1998), Llywelyn ap Gruffudd, Prince of Wales (Cardiff)