Dywed Guto iddo ganu tri chywydd ar ddeg i Hywel ab Ieuan Fychan (91.47–8), ond tair cerdd nodedig yn unig sydd wedi goroesi yn y llawysgrifau:
Canwyd yr unig gerdd arall a oroesodd i Hywel gan Ieuan ap Gruffudd Leiaf (Huws 2007: 127–33), sef cywydd arall ar achlysur ailadeiladu Moeliwrch. Canodd Hywel Cilan gywydd mawl i ddau o’i feibion, Ieuan a Hywel (GHC cerdd XV). Rhoes brawd i daid Hywel, sef Hywel Cyffin, deon Llanelwy, ei nawdd i Iolo Goch (GIG cerdd XIX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Aleth’ 1, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10C. Yng nghywydd Hywel Cilan i ddau o feibion Hywel yn unig y ceir tystiolaeth fod ganddo fab o’r enw Hywel. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch
Yn ôl achresi Bartrum, roedd Hywel yn fab i Ieuan Fychan o’i briodas gyntaf â Gwenhwyfar ferch Hywel. Priododd Ieuan Fychan ddwy wraig arall, sef Gwenhwyfar ferch Ieuan a Thibod ferch Einion, ac o’r drydedd briodas y ganed Gruffudd, tad Dafydd Llwyd o Abertanad (roedd Hywel yn ewythr iddo). Yn yr un modd, priododd taid Hywel, Ieuan Gethin, o leiaf deirgwaith, a hanner brawd ydoedd Ieuan Fychan i Iolyn a Morus, tadau i ddau uchelwr arall a roes eu nawdd i Guto, sef Dafydd Cyffin o Langedwyn a Sieffrai Cyffin o Groesoswallt. Roedd Dafydd a Sieffrai yn gefndryd i Hywel.
Ei deulu a’i yrfa
Roedd Hywel yn aelod o un o deuluoedd mwyaf blaenllaw y gororau i’r gorllewin o dref Crosoeswallt yn ystod y bymthegfed ganrif. Roedd nifer helaeth y tai uchelwrol yn yr ardal naill ai’n eiddo i un o ddisgynyddion niferus Ieuan Gethin neu’n arddel perthynas deuluol â hwy. Roedd tywysogion Powys ymhlith hynafiaid amlycaf Ieuan Gethin ac roedd y traddodiad o noddi beirdd wedi parhau’n ddi-dor ym Mhowys Fadog er canrifoedd (ar arfau’r teulu, gw. DWH i: 105–6, ii: 93).
Diddorol nodi bod enw gŵr o’r enw Yeuan Gethin wedi ei gofnodi fel saethwr ym myddin John dug Lancastr rhwng 1372 ac 1374 (TNA E101/32/26). Gall mai Ieuan Gethin ei hun a adeiladodd lys Moeliwrch ar lethrau dwyreiniol y Gyrn yng nghyffiniau Llansilin ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Huws 2001: 12; 2007: 106–7, 113–14). Roedd ei fab, Ieuan Fychan, yn ddigon hen i ddal swyddi yn arglwyddiaeth y Waun yn nau ddegawd olaf y ganrif honno, megis rhingyll cwmwd Cynllaith yn 1386–7 a phrif fforestydd y cwmwd rhwng 1390 ac 1392 (ibid. 97). Yn y flwyddyn 1386 gwnaed asesiad o eiddo mudol Ieuan Gethin, ei frawd, Dafydd, a’i ddau fab, Ieuan Fychan a Gruffudd (o’r Lloran Uchaf), a cheir enw Ieuan Fychan ar ddogfen arall yn yr un flwyddyn yn un o bedwar a orchmynnwyd i ddwyn gŵr o’r enw Dafydd Fychan ap Dafydd i gyfraith (ibid. 98–9, 117). Erbyn 1397–8 roedd Ieuan Fychan yn brif ynad y cwmwd a’i frawd, Gruffudd, yn rhingyll cwmwd Mochnant, swydd y ceir tystiolaeth fod Ieuan yntau wedi ei dal hefyd rywdro (ibid. 100; am Forus, ei frawd arall, gw. Sieffrai Cyffin).
Roedd grym a dylanwad y teulu ar gynnydd pan roesant eu cefnogaeth i wrthryfel eu cymydog, Owain Glyndŵr, yn 1400, a gall mai’n rhannol yn sgil rhai o’r cyfrifoldebau yr oedd gofyn iddynt ymgymryd â hwy y troesant yn erbyn y Goron (Huws 2007: 100). Roedd Ieuan Fychan a Gruffudd ei frawd yn bresennol yng Nglyndyfrdwy ar 15 Medi 1400 pan gyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru. Deil Huws (2001: 7) eu bod wedi parhau’n deyrngar i’r achos ‘am rai blynyddoedd wedyn’, o bosibl hyd at 1407 (Huws 2007: 100–1). Fforffedwyd tir ac eiddo Ieuan Fychan yn 1400 yn sgil ei gefnogaeth i’r gwrthryfel (ymddengys ei fod yn rhaglaw Abertanad ar y pryd, HPF iv: 194, vi: 126–7), ac mae’n debygol iawn fod ei lys ym Moeliwrch wedi ei losgi ym mis Mai 1403, pan ddaeth byddin o Saeson i Gymru er mwyn dinistrio cartrefi Owain yn Sycharth ac yng Nglyndyfrdwy (Huws 2007: 106). Fodd bynnag, mae’n eglur fod Ieuan Fychan wedi llwyddo i ailfeddiannu ei diroedd yn fuan wedi’r gwrthryfel gan ei fod yn cael ei enwi fel un o brif ynadon cwmwd Mochnant yn 1408–9 a’i fod, erbyn 1416–17, wedi cymryd meddiant ar dir gŵr o’r enw Einion Talbant yn yr un cwmwd (ibid. 100; 2001: 7).
Yn 1408–9 y daw enw ei fab, Hywel, i’r amlwg fel un o ddau ynad Cynllaith ac fe’i enwir eto yn 1416–17 fel rhingyll y cwmwd hwnnw (ibid. 7–8; 2007: 100). A chymryd bod Hywel yn ddigon hen i ddal swydd yn 1408, mae’n ddigon tebygol ei fod dros ei ddeugain oed pan ddechreuodd Guto ganu yn nhridegau’r bymthegfed ganrif, a gall fod y canu iddo’n perthyn i c.1430–50. Dengys tystiolaeth y cywydd a ganodd Guto ar achlysur ailadeiladu Moeliwrch mai Ieuan Fychan a ddechreuodd y gwaith hwnnw a bod Hywel wedi ei gwblhau. Ymddengys bod y beirdd wedi cyfeirio at wraig Hywel fel Elen Felen o Foeliwrch (92.25n Elen). Mae’n eglur fod bri ar ymwneud Guto â Moeliwrch ymhlith beirdd eraill a noddwyd yno, megis Huw Arwystl, yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg (Huws 2007: 123–4).
Llyfryddiaeth
Huws. B.O. (2001), ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul), 1–32
Huws. B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137