Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Ann Herbert, iarlles Penfro, fl. c.1449–m. 1486

Ann Herbert oedd noddwraig cerdd 26, yr unig gerdd hysbys a ganwyd iddi, sef cywydd o gysur ar ôl marwolaeth ei gŵr.

Ei hach a’i theulu
Merch Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd, oedd Ann (DNB Online s.n. Devereux, Walter). Roedd ei theulu’n un dylanwadol yn yr ardal honno. Yn 1449 priododd Wiliam Herbert o Raglan (WG1 ‘Godwin’ 8), uchelwr o Gymro a drigai yng nghastell Rhaglan yn arglwyddiaeth Brynbuga (yn sir Fynwy heddiw). Roedd y briodas hon yn gam pwysig ymlaen yng ngyrfa Wiliam Herbert: sicrhaodd y byddai ganddo rwydwaith o gynghreiriaid a chefnogwyr yn swydd Henffordd. Drwy’r 1450au a’r 1460au bu cydweithio agos rhwng teulu Devereux a’r Herbertiaid, ill dau’n ddeiliaid ac yn bleidwyr i Richard, dug Iorc, ac wedyn i’w fab Edward IV. Bu farw tad Ann yn 1459, ond parhaodd y berthynas agos rhwng y ddau deulu. Roedd brawd Ann, Walter Devereux, yn agos gysylltiedig â Wiliam Herbert yn ei ymdrechion i ennill teyrngarwch de Cymru i’r brenin. Pan ddyrchafwyd Herbert yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468 (Thomas 1994: 40) daeth Ann Herbert yn iarlles Penfro (yn yr achres isod dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Ann mewn print trwm a thanlinellir enwau ei noddwyr).

stema
Achres Ann Herbert, iarlles Penfro

Ei meibion
Ganed meibion a merched i Ann Herbert a’i gŵr. Ganed yr hynaf, Wiliam, ail iarll Penfro, tua 1455 (Thomas 1994: 73n1). Yr ail fab oedd Water Herbert. Byddai’r ddau, gydag amser, yn noddwyr i Guto’r Glyn, ond pan fu farw Wiliam Herbert yn annhymig yn 1469, roedd y ddau fab dan oed. Mab arall a fagwyd ar aelwyd Ann Herbert oedd Harri Tudur, mab Edmwnd Tudur a Margaret Beaufort. Pan gipiodd Wiliam Herbert gastell Penfro yn enw Edward IV yn 1461, meddiannodd y bachgen ifanc a mynd ag ef i Raglan. Yn 1462 grantiodd y brenin ef yn ward i Herbert am daliad o fil o bunnau (ibid. 28). Pan ddaeth Harri’n frenin yn 1485, cofiodd am ei fam faeth a’i thrin â pharch (Griffiths and Thomas 1985: 58–9).

Ceir llun cyfoes adnabyddus o Wiliam Herbert a’i wraig yn penlinio o flaen Edward IV, mewn llawysgrif a fwriadwyd ar gyfer ei chyflwyno i’r brenin. Atgynhyrchwyd y llun yn Lord (2003: 260).

Yr helyntion ar ôl marwolaeth ei gŵr
Dienyddiwyd Wiliam Herbert ar 27 Gorffennaf 1469, yn sgil brwydr aflwyddiannus Edgecote (Banbury), tra oedd ar anterth ei rym a’i ddylanwad. Mae’n rhaid fod hyn yn ergyd drom i Ann Herbert a’i theulu, a bod diogelwch ei meibion ifainc yn destun gofid mawr iddi wrth iddi weld gelynion Herbert yn ymgiprys am reolaeth y deyrnas. Ar 23 Tachwedd 1469 rhoddwyd holl eiddo ei gŵr yng ngofal Ann Herbert gan fod yr ail iarll o dan oed; cadarnhawyd y grant ym mis Mai 1470 (Thomas 1994: 97). Yn ei ewyllys olaf, a wnaed ar 16 Gorffennaf 1469, ymddiriedodd Herbert iddi ‘the chief rule in performing my will and to be one of my executors’ (ibid. 107–8). Ceir tystiolaeth ddogfennol (ibid. 97) fod Ann Herbert yn gofalu am ystadau ei mab yn 1470. Ymddengys iddi ddychwelyd i fyw i gartref ei theulu yn Weobley, o leiaf am beth amser, lle gallai’i brawd ei hamddiffyn (DNB Online s.n. Devereux, Walter). Erbyn Mai 1471, ar ôl brwydrau Barnet a Tewkesbury, gallai Ann a’i meibion deimlo’n esmwythach. Lladdwyd y pen gelyn, iarll Warwick, ym mrwydr Barnet, a bellach roedd safle Edward IV yn ddiogel. Mae’n debygol mai i’r cyfnod hwn y perthyn cerdd 26, sef i gyfnod o obaith ar ôl trychinebau 1469–71. Ni wyddom a fedrai Ann ddeall Cymraeg, ond yn sicr erbyn 1471 roedd wedi treulio dros ugain mlynedd yn Rhaglan, llys lle siaredid Cymraeg yn aml a lle roedd beirdd Cymraeg yn ymwelwyr cyson. Byddai’n ymwybodol, gan hynny, o swyddogaeth y beirdd a phwysigrwydd y weithred o roi nawdd iddynt, hyd yn oed os na ddeallai ei hun bob gair o’u cerddi.

Yn yr atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd Wiliam Herbert ar fore ei ddienyddiad, mae’n sôn am lw a dyngodd Ann wrtho i aros yn ddiwair ar ôl ei farwolaeth. Ymddengys ei bod wedi cadw ei haddewid, oherwydd sonia Guto yn 26.45 am arwyddion allanol yr addewid hwnnw, sef y fodrwy a’r fantell a wisgid gan weddwon a oedd wedi ymrwymo i ddiweirdeb.

Yn ôl ewyllys Wiliam Herbert, rhoddwyd arglwyddiaeth Cas-gwent ym meddiant Ann hyd ei marwolaeth (Thomas 1994: 107; Griffiths 2008: 248; Robinson 2008: 310). Bu farw c.18 Awst 1486 (Robinson 2008: 329n8).

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 241–79
Griffiths, R.A. and Thomas, R.S. (1985), The Making of the Tudor Dynasty (Stroud)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Robinson, W.R.B. (2008), ‘The Early Tudors’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 309–36
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)