Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, fl. c.1461–m. 1483

Roedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol yn un o noddwyr amlycaf Meirionnydd yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif. Cerdd Guto yw’r unig farwnad iddo (cerdd 52), ond canwyd nifer o gerddi iddo gan feirdd eraill, megis Tudur Penllyn, a ganodd iddo bedair cerdd:

  • cywydd mawl, GTP cerdd 2;
  • cerdd i Ruffudd ac i’w frawd, Elisau, ar y cyd, ibid. cerdd 3;
  • cerdd i un o’i gartrefi, sef y Tŷ Gwyn yn Abermo, ibid. cerdd 16;
  • cerdd i erchi tarw ar ei ran, ibid. cerdd 32.

At hynny, canodd Hywel Cilan gerdd i ofyn cymod gan Ruffudd ac Elisau (GHC cerdd XXVI), a chanodd Deio ab Ieuan Du yntau gywydd cymod i Ruffudd ac i Rys ap Maredudd o’r Tywyn (GDID cerdd I). Rhoddir cryn sylw i Elisau yng nghywydd Guto i Ruffudd, a’r tebyg yw iddo ef hefyd ei noddi (canwyd cerddi iddo gan Gutun Owain a Thudur Aled, GO cerdd XLII; TA cerdd LXXXIX). Gwraig Gruffudd oedd Mawd ferch Syr John Clement, disgynnydd i Syr Sieffre Clement a dderbyniodd diroedd yn Nhregaron gan Edward I. Cawsant nifer o blant, ond ymddengys mai Wiliam Fychan, a ymsefydlodd yng Nghilgerran yn sir Aberteifi, a barhaodd â’r traddodiad teuluol o noddi beirdd. Canodd Tudur Aled gywydd iddo i ddiolch am farch glas (TA cerdd CVIII). Ymhellach, gw. Hughes 1968–9: 137–51.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Osbwrn’ 1, 1 A1 ac A2, ‘Cydifor ab Gwaithfoed’ 3, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5 a ‘Clement’ 1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol

Perthynai Gruffudd Fychan i linach Osbwrn Wyddel. Drwy briodas ei daid, Einion, â Thangwystl ferch Rhydderch, roedd ganddo gyswllt â theulu llengar Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Ddyffryn Aeron. Priododd ei dad, Gruffudd ab Einion, yntau ferch o deulu nodedig, sef Lowri ferch Tudur Fychan, nith i Owain Glyndŵr yn llinach yr hen dywysogion. Ail wraig Gruffudd ab Einion oedd Mali ferch Ieuan Llwyd, a chawsant ferch o’r enw Annes.

Ei yrfa
Bu Gruffudd a’i frawd Elisau yn dal swyddi blaenllaw ym Meirionnydd. Roedd Gruffudd yn rheithiwr yn ystod teyrnasiad Harri VI a daliodd Elisau yntau’r un swydd yn 1448. At hynny, roedd Elisau’n rhaglaw cwmwd Penllyn yn 1472. Rhoir y sylw pennaf yn y cerddi a ganwyd i Ruffudd i’w gefnogaeth i blaid Lancastr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Bu’n amddiffyn castell Harlech gyda’i gefnder, Dafydd ab Ieuan, rhwng 1461 a 1468 (Evans 1995: 86). Ymddengys iddo gynorthwyo Siasbar Tudur drwy ganiatáu iddo ddefnyddio ei gartref yn y Tŷ Gwyn yn Abermo fel man dirgel i lanio ac i ddianc (ibid. 91–2; GTP cerdd 16). At hynny, mae’n bosibl fod Siasbar ac efallai Harri Tudur wedi aros yng nghartref arall Gruffudd yng Nghorsygedol (Thomas 1990: 7). Cafodd Gruffudd bardwn gan Edward IV am ei ran yn y gwaith o gadw Harlech yn erbyn yr Iorciaid yn 1468 (Evans 1995: 100–1; Hughes 1968–9: 139). Fodd bynnag, cyfeirir at farwolaeth Edward IV yn y farwnad a ganodd Guto i Ruffudd yn y flwyddyn 1483, ac ni chyfeirir at ei ran yn y rhyfeloedd cartref. Er gwaethaf ei deyrngarwch ffyddlon i Siasbar ac i’w nai, Harri Tudur, bu farw Gruffudd cyn i Harri Tudur ddychwelyd i Brydain a threchu Rhisiart III yn 1485. Ymhellach gw. Maes y Gad: Rhyfeloedd y Rhosynnau: Cymru a’r Rhyfeloedd.

Mae’n amlwg fod Elisau yn fyw o hyd pan fu farw Gruffudd. Yn wir, nodwyd blwyddyn marwolaeth Elisau ar ddalen yn Llyfr Gwyn Rhydderch, a gysylltir â hendaid Gruffudd ac Elisau, Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron. Gall fod y llawysgrif wedi dod i feddiant eu nain, Tangwystl, pan fu farw Rhydderch (Huws 1991: 19–22). Awgryma Thomas (1990: 5) mai Corsygedol oedd cartref Llyfr Gwyn Rhydderch am y rhan fwyaf o’r bymthegfed ganrif. Ymgartrefodd Elisau yn y Maerdy, sef, o bosibl, Maerdy-mawr yng Ngwyddelwern. Mae’r adeilad hwnnw bellach wedi ei ddymchwel (Smith 2001: 436 a 453).

Mab Gruffudd, sef Wiliam Fychan, a etifeddodd Gorsygedol, ond ymddengys mai yng Nghilgerran y bu ef yn byw yn sgil ei benodi’n gwnstabl castell Cilgerran yn 1509. Awgryma Thomas (1990: 9) fod y swydd honno’n adlewyrchu gwerthfawrogiad teulu’r Tuduriaid o gefnogaeth ei dad, Gruffudd, i’w hachos.

Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Hughes, A.L. (1968–9), ‘Rhai o Noddwyr y Beirdd yn Sir Feirionnydd’, LlCy 10: 137–205
Huws, D. (1991), ‘Llyfr Gwyn Rhydderch’, CMCS 21: 19–22
Roberts, H.D.E. (1968–9), ‘Noddwyr y Beirdd yn Aberteifi’, LlCy 10: 76–109
Smith, P. (2001), ‘Houses c.1415–c.1642’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 422–506
Thomas, M.Rh. (1990), ‘Fychaniaid Corsygedol’, Cylchg CHSFeir 11: 1–15
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628