Cerdd 48 yw’r unig gerdd a ddiogelwyd i Ieuan ab Einion o’r Cryniarth yn y llawysgrifau. Fe’i molir ynghyd â’i wraig, Angharad ferch Dafydd, a’u hwyth plentyn. Canodd Lewys Môn gywydd marwnad i wyres Ieuan, ail Angharad ferch Dafydd (GLM cerdd XLIV), a fu’n briod ag un o noddwyr Guto, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 21, ‘Edwin’ 1, 10, 12, 14, 15, ‘Osbwrn’ 1, 2. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Ieuan mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Ieuan ab Einion o’r Cryniarth
Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i’r bardd enwog, Ieuan ap Rhydderch (gw. GIRh).
Ei yrfa
Disgrifiwyd Ieuan ab Einion gan Carr (1961–4: 292) fel un o wŷr blaenaf Meirionnydd wedi gwrthryfel Owain Glyndŵr ac fe’i canmolir yn neilltuol gan Guto am ei gywirdeb (48.1, 22) wrth geisio hyrwyddo heddwch a gwastrodi elfennau digyfraith mewn cyfnod o gythrwfl ac aflywodraeth mawr. Ceir y cofnod swyddogol cyntaf amdano yn 1399 pan oedd yn un o siedwyr Meirionnydd. Yn 1414 roedd yn un o ffermwyr trethi buddiannau’r Goron yn Edeirnion, ac yn 1432 roedd yn siedwr drachefn a pharhaodd yn y swydd honno am dair blynedd (Carr 1961–4: 293).
Er mai yn y Cryniarth roedd Ieuan yn byw, perthynai hefyd i deulu Corsygedol, Ardudwy, a chrybwyllir y cysylltiad hwn â Gwynedd sawl gwaith gan Guto, megis mewn cerddi eraill i’r un teulu (gw. 48.8n). Trwy briodi ag Angharad ferch Dafydd, etifeddes yr Hendwr yn yr un plwyf, ychwanegodd y cartref hwnnw at ei feddiannau. Ymddengys fod Ieuan mewn cryn oed pan ganodd Guto iddo, oherwydd cyfeirir ato fel Noe hen (62), ac efallai iddo farw yn y 1450au (gw. nodyn cefndir cerdd 48).
Ychydig a wyddys am ei wraig, Angharad, ac eithrio’r hyn a ddysgwn o’r gerdd. Sylwer, er hynny, fod Guto’n uchel ei ganmoliaeth i dras y ferch hon, a oedd yn uwch neu gyfuwch â’i gŵr (48.10), a’i fod yn priodoli cymeriad cryf a dylanwadol iddi gan na chaniatâi i Ieuan ddwyn eiddo’r diniwed (17–18). Yr enwocaf o blant Ieuan ac Angharad oedd Dafydd a ymladdodd gyda thri o’i frodyr, Gruffudd, Tomas a Siôn, dros blaid Lancastr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau (gw. 47n, 52n). Canmolir y chwe mab yn uchel (er na ddywedir dim neilltuol am Ruffudd, 52) ond nid enwir y ddwy ferch ac nis canmolir ond yn anuniongyrchol gan ddweud eu bod, fel y plant eraill, yn deg (61) ac yn gyweithas (63).
Fel y sylwodd Carr (1961–4: 187–8, 299), roedd Edeirnion mewn sefyllfa unigryw yn rhan ogleddol y dywysogaeth yn dilyn trefniant Edward I, oherwydd yn 1284, yn gyfnewid am ildio iddo wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, caniataodd Edward i arglwyddi Edeirnion gadw eu hawliau a’u breintiau etifeddol. O ganlyniad, arweinwyr yr ardal hon oedd yr arglwyddi Cymreig olaf o waed brenhinol i lywodraethu yn nhir eu hynafiaid a pharhasant felly am dair canrif eto, er mai edwino’n raddol yn fân ysgwieriaid a ffermwyr hamdden fu eu rhan. Serch hynny, mae’n amlwg fod digon o egni a gwroldeb yn aros yn nheulu Ieuan ab Einion pan gyfarchodd Guto hwy.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301