Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, 1448/9–1525

Noddwr cerdd 14 oedd Rhys ap Tomas o Abermarlais ym mhlwyf Llansadwrn, sir Gaerfyrddin. Bu’n noddwr hael i nifer fawr o feirdd, megis Lewys Glyn Cothi, Ieuan Deulwyn, Dafydd Llwyd o Fathafarn, Tudur Aled, Lewys Môn, Huw Cae Llwyd, Siôn Ceri a Lewys Morgannwg (GLGC cerdd 15; ID cerddi XXIV, XXXII; GDLl cerddi 7, 50; TA cerddi VII, XII, XIII, XIV; GLM cerdd LXXXVIII; GHCLl cerdd XXXII; GSC cerdd 50; GLMorg cerdd 63). Arno, gw. DNB Online s.n. Sir Rhys ap Thomas.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7, ‘Marchudd’ 15; WG2 ‘Einion ap Llywarch’ 7 A3. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Rys mewn print trwm.

stema
Achres Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais

Ei yrfa
Roedd teulu Gruffudd ap Nicolas yn bwerus iawn yn ardal Dyffryn Tywi ac yn gefnogwyr cryf i achos y Lancastriaid, ac yn ôl traddodiad teuluol bu Rhys yn alltud gyda’i dad ym Mwrgwyn ar ôl buddugoliaeth plaid Iorc yn 1461. Roedd Rhys yn un o gefnogwyr pennaf Harri Tudur yng Nghymru, ac fe’i hurddwyd yn farchog ar 25 Awst 1485 am ei ran ym mrwydr Bosworth ar 22 Awst, lle bu’n arwain llu o filwyr o Gymru. Daliodd nifer o swyddi blaenllaw yn llywodraeth Cymru wedyn, gan gynnwys ei benodi’n Siambrlen de Cymru am oes ar 6 Tachwedd 1485 (Griffiths 1972: 162, 189; 1993: 45–6), ond fel milwr profiadol yn bennaf oll y bu’n gwasanaethu’r brenin. Gellir dyddio cywydd Guto ar ôl dyrchafu Rhys yn farchog, a’r tebyg yw ei fod wedi ei ganu ym misoedd olaf 1485 neu yn 1486, cyn i Syr Rhys ymgartrefu yn ei lys newydd yng Nghastell Caeriw yn sir Benfro rywbryd yn y 1490au. Gellir dyddio’r awdl a ganodd Lewys Glyn Cothi i Syr Rhys ar ôl genedigaeth y tywysog Arthur yn 1486 (gw. uchod).

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)