Chwilio uwch
 

Ieuan Deulwyn, fl. c.1460–88

Roedd Ieuan Deulwyn yn un o brif feirdd de Cymru yn ystod y bymthegfed ganrif. Canodd Guto englyn marwnad iddo ar y cyd â Dafydd Nanmor (cerdd 54). O’i gymharu â Dafydd, ychydig iawn o sylw a roed iddo hyd yn hyn. Bardd o gyffiniau Caerfyrddin ydoedd, er y gall fod ganddo gyswllt â Chydweli (ID viii–ix), a bu’n clera tai uchelwyr yng Nghymru gyfan, yn cynnwys Prysaeddfed ym Môn a Rhaglan yng Ngwent. Roedd yn fardd serch o bwys a cheir cipolwg diddorol ar wleidyddiaeth y cyfnod mewn ymryson a fu rhyngddo a Bedo Brwynllys o Frycheiniog yn llys Syr Rhisiart Herbert. Ymhellach, gw. ID; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan Deulwyn; Gruffydd 1922: 42–5.

Dyddiad ei farw
Am drafodaeth lawn ar y pwnc hwn, gw. y nodyn ar Ddafydd Nanmor. Digon yw nodi yma nad ar seiliau cadarn y ceisiodd Ifor Williams ddyddio rhai o gerddi Ieuan yn ID ix–xi (fel y cyfeddyf ei hun), ond nid ymddengys y gellir dyddio cerdd ganddo wedi c.1488.

Llyfryddiaeth
Gruffydd, W.J. (1922), Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl)