Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Rheinallt ap Rhys Gruffudd, fl. c.1450

Canodd Guto gywydd i ofyn march gan Faredudd ab Ifan Fychan ar ran Rheinallt ap Rhys Gruffudd (cerdd 39). Ni wyddys ddim mwy amdano nag a ddywedir yn y cywydd ac ni ddaethpwyd o hyd i’w ach. O ran ei ddyddiadau, ni ellir ond awgrymu ei fod yn fyw c.1450.

Gwybodaeth amdano
Yn ôl y gerdd, roedd Rheinallt yn geifn (21) ac yn nai (71) i Faredudd ab Ifan, er na ddylid pwyso gormod ar hyn i ddiffinio perthynas wirioneddol Rheinallt â Maredudd (gw. 71n). Awgrymir gan y geiriau Troellog a ddaw i’r Trallwng (70) ei fod yn byw yn y Trallwng (gw. y nodyn).