Molir Siôn Dafi yng ngherdd 41. Un gerdd arall yn unig iddo a oroesodd, sef cywydd dychan gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GDLl cerdd 79).
Achres
Ni ddaethpwyd o hyd i Siôn Dafi yn achresi Bartrum. Dywed Guto ei fod yn disgyn o hil Eunudd (41.9) ac o Iorwerth … / Foel (11–12). Roedd gŵr o’r enw Siôn (neu John) ap Dafydd Goch, a anwyd tua 1430, yn ddisgynnydd i Iorwerth Foel ab Ieuaf Sais ac yn perthyn i gangen o’r llwyth yn ardal Llansanffraid-ym-Mechain (WG2 ‘Mael Maelienydd’ 3A), nid nepell o Felwern (gw. isod). Ond mae’n annhebygol mai Siôn Dafi, noddwr Guto, ydoedd gan na ellir ei olrhain i ŵr o’r enw Eunudd.
Ei yrfa
Yn ôl Dafydd Llwyd o Fathafarn, hanai Siôn Dafi o Felwern (Saesneg, Melverley) ger Croesoswallt yn swydd Amwythig (GDLl 79.52, 60; 41.29n). Y digwyddiad mwyaf trawiadol yn ei yrfa yw’r un y sonnir amdano yng ngherdd Guto iddo, sef torri ymaith ei law am fwrw Sais. Yn ôl Siâms Dwnn, yn ei raglith i’w destun o’r gerdd yn llawysgrif Llst 53, mewn kwrt y dyrnodd Siôn Dafi y Sais. Ni ddywedir ble roedd y llys, ond yn wyneb cysylltiadau Siôn Dafi â Llundain (41.4, 8, 16), mae’n deg tybio mai yno ydoedd. Cadarnheir y dystiolaeth hon ac ychwanegu ati yn The Great Chronicle of London (Thomas and Thornley 1938: 198), lle dywedir, yn fuan ar ôl cyfeirio at goroni Edward IV yn frenin ar 19 Mehefin 1461:
In the monyth of Julii ffolowyng oon namyd John davy a walshman strak a man wythyn the kyngys palays at westmynstyr wherffor In august ffolowyng he was browgth unto the standard In Chepe and upon a ffryday beyng markett dye, his hand was there strykyn off …
Ym mhalas y brenin yn Westminster, fis Gorffennaf, 1461, felly, y bwriodd Siôn Dafi y Sais, ac adeg cynnal marchnad yn Chepe, ryw ddydd Gwener ym mis Awst o’r un flwyddyn, y torrwyd ymaith ei law. Ni wyddys pam yn union y bu i Siôn weithredu fel y gwnaeth. Cyfeirir yn rhai o’r llawysgrifau at y gerdd fel Cywydd y llaw arian, ac awgryma geiriau’r gerdd Llew aur yn dwyn llaw arian (17) fod Siôn Dafi wedi derbyn llaw osod yn hytrach na bod y gair arian yn dynodi haelioni. Cyfeiria Dafydd Llwyd, yntau, at ‘unllawrwydd’ Siôn (GDLl 79.57–62).
Gellir lloffa rhai ffeithiau eraill am Siôn Dafi. Cesglir ar sail llinellau 7, 19, 33 a 49 yng ngherdd Guto ei fod yn un o filwyr Edward IV. Dywed Dafydd Llwyd yn ei gerdd ddychan iddo ei fod wedi haeru’n gelwyddog iddo (sef Dafydd) oganu’r brenin (GDLl 79.24–8). Yn Evans (1995: 93) rhoddir rhestr o Gymry a ddiogelwyd yn Neddf Ailgychwyn (Act of Resumption) 1464–5, ac yn eu plith John Davy trwy flwydd-dal o £20 o Drefaldwyn. Diau mai’r un gŵr oedd hwn â’r John Davy a gafodd grantiau yn Nhrefaldwyn yn sgil y Senedd a gynhaliwyd yn 1467–8, pryd y diogelwyd buddiannau nifer mawr o ddilynwyr Cymreig Edward IV (ibid. 101 a 40n). Rhaid crybwyll hefyd y John Davy a gynorthwyodd Alexander Iden, siryf newydd swydd Gaint, i ddal y gwrthryfelwr o Sais John Cade ar 12 Gorffennaf 1450 ac a gafodd bardwn, er nad yw’n eglur am beth (Griffiths 2004: 616, 620, 655; sylwer bod un o noddwyr Guto, Mathau Goch, wedi ei ladd yn Llundain yn ystod gwrthryfel Cade). Ai gwaith y John Davy hwn yn dal Cade a’i debyg yw arwyddocâd yr hyn a ddywed Guto yn llinell 25 Dy law hir yn dal herwyr? Gall yn wir mai’r un gŵr â gwrthrych y cywydd yw’r sawl y cyfeirir ato yn y ffynonellau hyn. Amlwg iddo dreulio peth amser yn Lloegr ac yn Llundain, lle preswyliai yn Siêp yn noddi’n hael ac yn yfed yn helaeth (4, 8, 16 a’r nodyn, 20).
Ceir ymgais gan Saunders Lewis (1981: 118–19) i adlunio peth o hanes Siôn Dafi wrth drafod gyrfa Guto, ac wrth wynebu’r cwestiwn trwy ba gamau y cosbwyd Siôn a chan bwy, cyflwyna’r ddamcaniaeth fod William Neville, iarll Caint a Stiward Teulu’r Brenin, gan ddilyn un o hoff ddifyrion ieirll Lloegr, wedi manteisio ar absenoldeb Edward IV i gosbi Siôn Dafi am ei fod yn ffefryn gan y brenin.
Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Griffiths, R.A. (2004), The Reign of Henry VI (Sparlford)
Lewis, S. (1981), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, Gwynn ap Gwilym (gol.), Meistri a’u Crefft: Ysgrifau Llenyddol gan Saunders Lewis (Caerdydd)
Thomas, A.H. and Thornley, I.D. (1938) (eds.), The Great Chronicle of London (London)