Chwilio uwch
 

Llywelyn ap Gutun, 1430/40–c.1500

Bardd-delynor oedd Llywelyn ap Gutun a ganodd gerdd ddychan i Guto yn honni iddo foddi ym Malltraeth ym Môn (cerdd 65a). Seilir yr wybodaeth isod ar ragymadrodd GLlGt gyda golwg ar yr hyn a ddywed Guto am Lywelyn yn y gerdd ateb a ganodd iddo (cerdd 65).

Achres
Ni cheir ach Llywelyn yn yr achresi, ond gellir llunio’r achres seml isod ar sail yr hyn a nodir amdano wrth droed ei gerddi mewn llawysgrifau a’r hyn a ddywed Llywelyn ei hun yn ei gerddi:

stema
Achres Llywelyn ap Gutun

Gwyddys fod ganddo fab o’r enw Gruffudd am iddo ganu cywydd marwnad ingol iddo (GLlGt cerdd 1).

Ei gartref a’i ddyddiadau
Yn y cywydd ateb a ganodd Guto iddo lleolir cartref Llywelyn ym Melwern (65.53), sef plwyf a phentref, o bosibl, i’r de o Groesoswallt yn swydd Amwythig. Llifa afon Efyrnwy i afon Hafren nid nepell i’r dwyrain o’r fan ger y ffin fodern rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llywelyn ei hun a Lewys Môn yn cadarnhau ei leoliad.

Cynigir rhwng 1430 ac 1440 fel cyfnod geni Llywelyn. Mae’r dyddiadau hyn yn cyd-fynd â’r hyn a ddywed Guto amdano yn ei gywydd ateb, lle gelwir Llywelyn yn was gwych a mab (65.10, 48). At hynny, geilw Guto ei hun yn lledrith hen (32) ac fe’i gelwir gan Lywelyn yn [g]apten yr henfeirdd (65a.45). Yr hyn a gyflëir yn y ddwy gerdd yw bod Llywelyn rywfaint yn iau na Guto ac felly’n fwy cymwys i’w herio ac i dynnu ei goes am fod yn henwr. Ymddengys iddo farw’n fuan wedi troad yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ei yrfa
Fel y nodwyd eisoes ac fel y gwneir yn eglur yng nghywydd ateb Guto, roedd Llywelyn yn delynor yn ogystal â bardd. Ategir y ffaith honno gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn a Syr Dafydd Trefor, a dywed Griffith (1913: 246) ei fod yn ‘chwareuydd ar y crwth, a chrythor teuluaidd’ i Ddafydd Llwyd. Yn ôl rhai llawysgrifau roedd Llywelyn yn ‘delynor Llwydiarth’, ac mae’n bosibl mai at lys Llwydiarth ger Llannerch-y-medd ym Môn y cyfeirir (65.19n). Mae’n debygol mai’r grefft o ganu telyn a ddysgodd Llywelyn gyntaf, a hynny gan ei dad, o bosibl, cyn iddo fynd ymlaen i ddysgu cerdd dafod.

Roedd ei statws fel telynor yn ei osod ar wahân i drwch y beirdd proffesiynol a ganai’n bennaf gerddi mawl i uchelwyr er mwyn ennill bywoliaeth. Ni cheir yr un gerdd fawl wrth enw Llywelyn eithr nifer fawr o gerddi dychan ac ymryson. Mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith y gallai ddibynnu, i raddau helaeth, ar ei ddawn i ganu’r delyn a’i yrfa fel porthmon er mwyn dod â dau ben llinyn ynghyd, ond adlewyrcha hefyd ei gymeriad cynhennus ei hun. Fel y dywed Daniel (GLlGt 6) ‘[g]ellid disgrifio’r hyn a gesglir am ei yrfa fel cyfres o wrthdrawiadau.’ Gwrthdarodd Llywelyn â Dafydd Llwyd o Fathafarn ar o leiaf dair achlysur: pan fu’n ymrysona ag ef a Gwerful Mechain; pan fu’n ymrysona eto ag ef ynghylch cymhortha defaid (lle cyfeirir at y bardd-offeiriad Syr Rhys); a phan anfonwyd Llywelyn gan Ddafydd ar siwrnai seithug i Ynys Enlli.

Roedd Llywelyn yn un o griw niferus o feirdd a oedd yn arddel cyswllt â chartref Dafydd Llwyd ym Mathafarn, ac awgrymir mai drwy ei ymwneud yno â Dafydd y daeth i gyswllt â Guto ac ag Owain ap Llywelyn ab y Moel (canodd Llywelyn gywydd i ofyn sbectol ar ei ran ac i ofyn am un iddo ef ei hun). Ond gan mai tenau yw cyswllt Guto ac Owain â Mathafarn, tybed ai haws derbyn mai at aelwydydd noddwyr mewn rhannau eraill o’r wlad y daeth i gyswllt â hwy? Mae’n bosibl mai ym Môn y cyfarfu Guto gyntaf, ac yno y canodd y ddau eu cerddi dychan i’w gilydd. Ym Môn neu Arfon hefyd y daeth Llywelyn i wrthdrawiad â Rhisiart Cyffin, deon Bangor, gŵr y canodd iddo dri chywydd dychan ynghylch dau ddigwyddiad. Anghytundeb ynghylch cymhortha defaid ym Môn oedd y naill ac ymgiprys am ferch o Fôn o’r enw Alswn oedd y llall. Ar achlysur arall bu trigolion Gwynedd yn hael wrtho pan deithiodd y wlad yn hel ŵyn i’w gwerthu er mwyn talu dirwy ym Meirionnydd. Priodol cloi’r nodyn hwn â sylwadau Daniel amdano (GLlGt 11, 14):

Wrth edrych ar yrfa Llywelyn ap Gutun, y mae’n drawiadol mor wahanol ydoedd i eiddo beirdd hysbys eraill y cyfnod yn gyffredinol. Y mae clwm o resymau yn cyfrif am hyn. Yn un peth, yr oedd yn arfer sawl dull gwahanol er mwyn ennill ei fywoliaeth, sef canu’r delyn, prydyddu a chymhortha, a hynny er gwaethaf y ffaith mai’r cyntaf oedd ei wir broffes. Yn ail … yr oedd â’i fryd i raddau mwy na’r cyffredin ar fywyd goludog a moethus. Yn olaf, yr oedd yn ŵr egnïol, eofn a checrus. Dyma gymeriad anghonfensiynol, lliwgar ac unigolyddol … Efallai nad cystal ei grefft â’i ddychymyg, a cheir llawer o linellau anodd eu dehongli ganddo, ond, megis amryw o feirdd eraill a ganai ar eu bwyd eu hunain, ychwanegodd liw a diddordeb at gerdd dafod swyddogol ei ddydd ac nid yn fuan yr anghofir y bersonoliaeth ymwthgar a chyffrous.

Llyfryddiaeth
Griffith, R. (1913), Llyfr Cerdd Dannau: Ymchwiliad i Hanes Hen Gerddoriaeth a’r Dulliau Hynaf o Ganu (Caernarfon)