Chwilio uwch
 

Rhys Grythor, fl. c.1480–1520

Fel y dengys ei enw, enillai Rhys Grythor ei fywoliaeth drwy ganu’r crwth. Ychydig sy’n hysbys amdano. Enwir dau ŵr a allai fod yn Rhys yn rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd, y naill yn llaw Gutun ei hun, Rys Grythor Vain, a’r llall gan law ddiweddarach, Rrysyn Grythor (Huws 2004: 83, 87). Y tebyg yw mai’r cyntaf yw’r Rhys a drafodir yma, oherwydd gwneir yn fawr o’i feinder corfforol mewn cyfres o englynion ansicr eu hawduraeth a ganwyd i’w ddychan (cerdd 122). Yn wir, fe’i gelwir yn Rhys fain yn y gerdd honno (122.5). Os ef yw’r gŵr hwn, roedd yn fyw ac yn ennill bywoliaeth fel crythor erbyn 1499, sef dyddiad tebygol llunio’r rhestr wreiddiol gan Gutun (Huws 2004: 81). Fel y nododd Huws (ibid. 83), ceir enw Rys grythor ar restr Gruffudd Hiraethog o raddedigion eisteddfod gyntaf Caerwys, a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 1523, ac fe’i henwir fel un o’r disgiblion disgyblaidd graddedig (Bowen 1952: 130). Yn dilyn y rhestr fer o’r disgiblion disgyblaidd ceir y nodyn hwn: ond hynny gwrthod i graddio a wnaethant. Camddehonglwyd y nodyn hwnnw yn CTC 328, Miles (1983: 165–6) ac ap Gwilym (1978: 44) fel cyfeiriad at amharodrwydd y beirdd a enwir i dderbyn gradd mor isel. Yr hyn a ddywedir mewn gwirionedd yw bod beirdd eraill wedi ceisio am radd yn yr eisteddfod ond bod yr awdurdodau wedi gwrthod eu graddio. Os yr un yw’r Rhys Grythor a enwir yn 1523 a’r gŵr a enwir gan Gutun, mae’n debygol y byddai’n gymharol hen pan gynhaliwyd yr eisteddfod yng Nghaerwys. Tybed a fyddai’n arferol, chwaethach yn dderbyniol, i ŵr oedrannus dderbyn gradd isel mewn cerdd dafod? Rhaid ystyried y gallai fod mwy nac un Rhys Grythor yn byw ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg.

Mae’n sicr fod mwy nac un yn byw pan gynhaliwyd ail eisteddfod Caerwys yn 1567/8, sef Rhys Grythor o Lansannan, Rhys Grythor o Gerrig-y-drudion a Rhys Grythor Hiraethog (Bowen 1952: 133). At yr olaf y cyfeirir yn Jones (1890: 100) ac yn ap Gwilym (1978: 44), sy’n ei uniaethu â’r Rhys Grythor a enwir yn 1523. Nid un o’r tri Rhys hyn a enwir yn y gyfres o englynion uchod gan fod gŵr o’r enw Dafydd yn abad yn abaty Maenan pan y’i canwyd, ac ni bu’r un Dafydd yn abad yno wedi 1513. Nid ef ychwaith, felly, yw’r Rhys Grythor y canodd Wiliam Cynwal gywydd dychan i Siôn Tudur i ofyn amdano (Huws 1998: 73) nac ychwaith yr un a ddychanwyd gan y ddau fardd hynny a chan feirdd eraill yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg (yn wahanol i’r hyn a nodir yn CTC 328–9 a Miles 1983: 164–89). Nododd Huws (2004: 83) yr enwir gŵr o’r enw Rhys Grythor mewn cerdd gan Dudur Goch Brydydd a elwir ‘Cywydd tin y glêr’. Enwir dau fardd arall yn y cywydd hwnnw y torrwyd eu henwau gan Gutun Owain ar ei restr yn 1499, sef Tomas Celli a Siôn Cingsiws. Mae’n debygol eu bod yn gyfoeswyr i Rys (rhoir c.1550 fel dyddiad blodeuo Tudur Goch yn ByCy Ar-lein s.n. Gutun Goch Brydydd, ond nodir ansicrwydd), a’r tebyg yw mai’r Rhys a drafodir yma a enwir yng nghywydd Tudur Goch.

Ar sail yr wybodaeth uchod, ynghyd â dyddiadau posibl yr Abad Dafydd ab Owain (yn ôl pob tebyg) y gobeithiai Rhys dderbyn clogyn yn rhodd ganddo, ymddengys fod Rhys yn ei flodau yn negawdau olaf y bymthegfed ganrif a degawdau cyntaf y ganrif nesaf. Ymddengys mai yn Nyffryn Clwyd a’r gororau yr oedd ei gynefin (122.17n a 26n).

Llyfryddiaeth
ap Gwilym, I. (1978), Y Traddodiad Cerddorol yng Nghymru (Abertawe)
Bowen, D.J. (1952), ‘Graddedigion Eisteddfodau Caerwys, 1523 a 1567/8’, LlCy 2: 129–34
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o Wŷr wrth Gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Jones, M.O. (1890), Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (Caerdydd)
Miles, B.E. (1983), ‘Swyddogaeth a Chelfyddyd y Crythor’ (MA Cymru [Aberystwyth])