Hywel Dafi, neu Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys, oedd gwrthwynebydd Guto’r Glyn mewn dau ymryson, sef cerddi 18a ac 18 a cherddi 20 a 20a. Ychydig a wyddys i sicrwydd amdano, oherwydd, yn syml iawn, ni chyhoeddwyd astudiaeth fanwl o’i waith hyd yn hyn. Golygwyd ambell gerdd yma a thraw, ond ni chasglwyd ei waith cyfan at ei gilydd erioed. (Mae Dr A.C. Lake ar hyn o bryd yn paratoi golygiad o waith Hywel Dafi, i’w gyhoeddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.) Gan hynny ni wyddys na dyddiadau na chylch nawdd Hywel yn fanwl gywir. Ceir y drafodaeth fwyaf diweddar ar Hywel Dafi gan Johnston (2005: 254–5).
Bro
Ceir cerddi gan Hywel o’r Gogledd yn ogystal â’r De, ond yn y De-ddwyrain y gweithiodd fwyaf. Roedd cysylltiad agos rhyngddo a theuluoedd Herbert a Fychan: yn wir, mae Guto’n ei gyhuddo o dreulio’r cyfan o’i amser yn Rhaglan (cerdd 20), ond gorddweud y mae Guto yma. Credir bod Hywel yn frodor o Frycheiniog (Johnston 2005: 254n102).
Dyddiadau
Amhosibl pennu dyddiadau Hywel Dafi nes y cesglir ei holl waith ynghyd. Mae’n debygol fod ei ymrysonau â Guto’r Glyn yn perthyn i’r 1430au neu’r 1440au. Roedd Morgan ap Rhosier, noddwr cerddi 18a ac 18, yn ei flodau 1417–47/8. Gellir dyddio cerddi 20 a 20a i’r cyfnod cyn 1454 os cywir y dyb fod mam Wiliam Herbert wedi marw yn y flwyddyn honno. Yn y ByCy Ar-lein rhoddir Hywel Dafi yn ei flodau c.1450–c.1480.
Ei waith
Mae dybryd angen golygu gwaith Hywel Dafi. Fel y noda Johnston (2005: 254), ef yw’r ‘bardd pwysicaf na chafwyd astudiaeth gyflawn ar ei waith eto’. Un rheswm dros ei ystyried yn fardd o bwys yw swmp mawr y corff o waith a briodolir iddo: rhestrir 157 o gerddi yn MCF (2011). Hyd yn oed os yw hyd at hanner y rhain yn ddyblygion, fel sy’n wir yn gyffredin am gofnodion MCF, gallwn awgrymu bod dros 70 o gerddi Hywel Dafi ar glawr. Mae’r dyrnaid o’i gerddi a olygwyd hyd yn hyn yn awgrymu ei fod yn fardd ffraeth, deallus, deheuig ac amryddawn, un a ganodd rychwant mawr o genres gwahanol. Pwynt arall sydd o bwys yw’r ffaith fod cynifer o’i gerddi ar glawr yn ei law ei hun yn Pen 67 (Huws 2000: 97).
Llyfryddiaeth
Huws, D. (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)