Chwilio uwch
 

Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares, fl. c.1482–m. 1504

Canodd Guto gywydd gofyn am walch i Huw Bwlclai ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 60). Canwyd yr unig gerdd arall iddo gan Lewys Môn, sef cerdd fawl (GLM cerdd I). Canwyd y ddwy gerdd pan oedd Huw yn ddirprwy gwnstabl castell Conwy.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bulckley’ 2, ‘Marchudd’ 6, WG2 ‘Iarddur’ 5D, E; L. Dwnn: HV ii: 91–2. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Huw Bwlclai o Fiwmares

Drwy ei fam, Elen ferch Gwilym o’r Penrhyn, roedd Huw’n perthyn i nifer fawr o noddwyr Guto yng Ngwynedd. Roedd yn nai i Wiliam Fychan o’r Penrhyn ac i Robert Trefor o’r Waun, ac yn gyfyrder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac i Risiart Cyffin, deon Bangor. At hynny, drwy briodas ei chwaer, Sioned, roedd yn frawd yng nghyfraith i Huw Lewys o Brysaeddfed. Nid yw enw ei wraig yn hysbys.

Ei yrfa
Roedd Huw Bwlclai’n byw ym Miwmares ym Môn, ond hanai’r teulu a’r cyfenw o Cheadle yn swydd Gaer (60.14n). Ymgartrefodd y teulu ar yr ynys oddeutu 1452–3 pan benodwyd tad Huw, Wiliam Bwlclai, yn ddirprwy gwnstabl castell Biwmares (Carr 1982: 218; ByCy 51–2). Priododd Wiliam Elen ferch Gwilym o’r Penrhyn, yr uchelwr mwyaf grymus yn ei ddydd yng Ngwynedd, a bu’r uniad yn allweddol o ran sefydlu awdurdod teulu’r Bwlcleiod yng Nghymru (Jones 1961: 3).

Goroesodd rhywfaint o wybodaeth am feibion Wiliam ac Elen, sef Rhisiart, Roland a Huw. Penodwyd Rhisiart yn archddiacon Môn tua’r flwyddyn 1500 a daliodd y swydd honno hyd ei farwolaeth yn 1525, a phenodwyd Roland (fl. c.1460 hyd at 10 Gorffennaf 1537) yn gwnstabl castell Biwmares ar 4 Gorffennaf 1502 (Breese and Wynne 1873: 122). Cyfeiria Guto a Lewys Môn at Huw Bwlclai fel dirprwy gwnstabl castell Conwy (60.17; GLM I.45–6). Yn wahanol i Harlech, cadwodd y Goron reolaeth ar gastell Conwy drwy gydol Rhyfeloedd y Rhosynnau. Yn 1482 enwir Huw Bwlclai yn ddirprwy gwnstabl i’r cwnstabl Edward Woodville mewn dogfen yng nghasgliad castell y Waun (‘Chirk Castle’ rhif 10744). Gall mai’r un oedd yr Edward hwnnw â brawd Elizabeth Woodville, gwraig Edward IV (y ddogfen honno yw’r unig dystiolaeth mai ef oedd cwnstabl y castell yn 1482). Lai na blwyddyn yn ddiweddarach ymddengys ei enw mewn llythyr a anfonwyd at Wiliam Bwlclai gan gyngor y Goron, lle gofynnir i Wiliam geisio dwyn perswâd ar ei fab, Huw, i drosglwyddo’r castell i ofal dug Buckingham (Jones 1961: 5; Evans 1995: 121). Ond nid oedd Huw am gydymffurfio â’r drefn newydd, ac ar 16 Mai 1483 penodwyd dug Buckingham yn gwnstabl newydd y castell gan Richard III. Yn ei gerdd i Huw, mae Lewys Môn yn awgrymu bod yr anghydfod hwnnw wedi parhau am [d]air blynedd mewn trwbl ennyd (GLM I.30). Fodd bynnag, mae’n debygol fod Huw wedi cadw ei swydd fel dirprwy gwnstabl y castell hyd tua 1490. Bu farw ei dad y flwyddyn honno a nodir statws Huw fel dirprwy gwnstabl Conwy yn ei ewyllys (Carr 1982: 220). Yn wir, awgryma Jones (1961: 6) iddo gyflawni’r swydd hyd ei farwolaeth yn 1504.

Llyfryddiaeth
Breese, E. and Wynne, W.W.E. (1873), Kalendars of Gwynedd (London)
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, D.C. (1961), ‘The Bulkeleys of Beaumaris, 1440–1547’, AAST: 1–20