Hywel ab Owain yw gwrthrych cerdd 40 sy’n ei farwnadu. Ceir marwnad arall iddo gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GDLl cerdd 57) a chanodd Llawdden gywydd mawl iddo ynghyd â’i ddau frawd, Dafydd a Llywelyn (GLl cerdd 6). At hynny, canodd Dafydd ap Hywel Swrdwal gywydd mawl i Ddafydd, mab Hywel (GHS cerdd 34), a chanodd Siôn Ceri gywydd mawl i un o feibion Dafydd, sef Wmffre (GSC cerdd 29). Ymhellach, gw. Roberts 1965: 93.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 42, 43, ‘Seisyll’ 2; WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 43C. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Hywel mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Hywel ab Owain o Lanbryn-mair
Fel y gwelir, drwy ei fam, Efa ferch Llywelyn Gogof, roedd Hywel yn gefnder i Sieffrai Cyffin, gŵr arall a roes ei nawdd i Guto.
Ceir gŵr arall ag enw tebyg i dad Hywel ab Owain yn byw yn ardal Llanbryn-mair tua’r un adeg, sef Owain Fychan ap Gruffudd ab Ieuan Llwyd, a ddisgynnai o lwyth Seisyll o Feirionnydd (WG1 ‘Seisyll’ 3) ac a folir gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 199). Parodd y tebygrwydd hwn beth dryswch, oherwydd cymerodd Ifor Williams (GGl 327), ar sail llinell 14 o gerdd Guto, fe ymddengys, lle disgrifir Hywel ab Owain fel ŵyr Ieuan Llwyd, fod yr Ieuan Llwyd hwn yn daid i Hywel ab Owain a bod Owain Fychan ap Gruffudd ab Ieuan Llwyd yn ŵyr arall iddo. Ond taid Hywel ab Owain oedd Gruffudd, a cheir Ieuan Llwyd fel enw ei hendaid. Gorwyr, felly, nid ŵyr, i’w gyndad Ieuan Llwyd oedd Hywel, ac ŵyr i ŵr arall a chanddo’r un enw oedd Owain Fychan. Nid oedd gan Owain Fychan ychwaith fab o’r enw Hywel, rheswm pellach dros beidio â’i gysylltu ag ach Hywel. Tebyg mai deall ŵyr yn llythrennol yn hytrach nag yn yr ystyr fwy llac ‘disgynnydd’ a arweiniodd Ifor Williams, yn y lle cyntaf, i gymysgu’r ddwy ach. Parheir y dryswch yn GLGC 617, lle dywedir bod Llawdden wedi canu i dri mab Owain Fychan ap Gruffudd ap Ieuan Llwyd (ap Llywelyn), ond meibion oeddynt i Owain ap Gruffudd ab Ieuan ap Meilyr, ac un mab a oedd gan Owain Fychan a hwnnw’n dwyn yr enw Ieuan Llwyd. Er hynny, mae llawer yn gyffredin rhwng cywydd Lewys Glyn Cothi i Owain Fychan a cherddi Llawdden a Guto i feibion Owain ap Gruffudd, megis y cyfeiriadau at gerddoriaeth, miri a milwriaeth. Nid yw hyn yn syndod o gofio mor agos at ei gilydd y trigai’r ddau dylwyth, ac efallai fod y cerddi hefyd yn adlewyrchu chwaeth a diwylliant yr ardal yn gyffredinol.
Ei yrfa
Yn ôl achresi P.C. Bartrum, roedd Hywel yn byw yn ‘Y Gelli Dywyll, Llanbryn-mair’. Ni welwyd lle o’r enw Y Gelli Dywyll yn yr ardal honno, er cael digon o enghreifftiau mewn mannau eraill (ArchifMR d.g. Gelli Dywyll), ond dengys y disgrifiad ohono fel eryr braisg Mair o’r bryn (40.8) mai yn ardal Llanbryn-mair yng nghwmwd Cyfeiliog y trigai, ac awgryma’r cyfeiriadau at Fathafarn (11) a Dyfolwern (12) fod ei ddylanwad yn ymestyn ymhellach. Canmola Guto ef, ymysg pethau eraill, fel milwr, mabolgampwr, cerddor a chyfreithiwr.
A dilyn achresi Bartrum, perthynai Hywel i’r genhedlaeth a anwyd tua 1400. Anodd yw gwybod pryd y bu farw ond gellir awgrymu’r cyfnod 1450–75. Disgynnai, ar ochr ei dad, o Owain Cyfeiliog, tywysog nerthol de Powys yn y ddeuddegfed ganrif, noddwr beirdd ac o bosibl bardd ei hun; ac yng nghartref tad Hywel yn Rhiwsaeson ger Llanbryn-mair roedd traddodiad o noddi beirdd. Yn ei gywydd moliant trawiadol gofiadwy i Hywel a’i ddau frawd, Llywelyn a Dafydd (gw. uchod), canmola Llawdden y tri yn neilltuol am eu hoffter o gerdd dafod a cherdd dant yn ogystal ag am eu milwriaeth a’u campau corfforol, a thebyg iawn yn hyn o beth yw canmoliaeth Guto yntau i Hywel.
Mae’n bosibl, fel yr awgrymodd Ifor Williams (GGl 348), mai’r un gŵr ydyw â’r Hywel ab Owain a grybwyllir gan Guto mewn cerdd ddychan i Ddafydd ab Edmwnd (66.45–6). Roedd Dafydd wedi digio’r beirdd ac anoga Guto wŷr gwahanol barthau Cymru i’w hela. Mae’r ffaith ei fod yn crybwyll Hywel ab Owain rhwng Llawdden a’r beirdd Gruffudd ap Dafydd Fychan a Syr Rhys o Garno (43–50) yn awgrymu’n gryf mai bardd oedd Hywel, yntau, a chyfetyb hyn i’r hyn a ddywed Guto yn ei gerdd am ei ddiddordebau diwylliannol. Ymhellach, mae ei anogaeth i Hywel i beidio â gadael Dafydd i mewn i Bowys yn dangos y gall mai yng Nghyfeiliog yr oedd yr Hywel hwn yn byw.
Llyfryddiaeth
Roberts, E. (1965), Braslun o Hanes Llên Powys (Dinbych)