Roedd Sieffrai Cyffin yn un o noddwyr pwysicaf Guto yn y Mers. Er ei bod yn debygol fod Sieffrai wedi noddi nifer o feirdd, pum cerdd iddo gan Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi iddo yn y llawysgrifau:
Canodd Tudur Aled gywydd mawl i Edward Trefor a’i wraig, Ann Cyffin ferch Sieffrai (TA cerdd 51 a llinellau 43–56 yn arbennig). Molwyd Lewys Cyffin ap Siôn, ŵyr i frawd Sieffrai, mewn cywydd gan Huw ap Dafydd (GHD cerdd 20) a chanodd Wiliam Llŷn gywydd marwnad iddo (Stephens 1983: 327; nis ceir yn WLl).
Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng Sieffrai Cyffin a gŵr arall o’r un enw a fu’n abad Aberconwy yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg (Williams 1970–2: 188, 196; idem 2001: 295). I’r Abad Sieffrai Cyffin y canodd Tudur Aled awdl fawl (TA cerdd 27). Yn Lowe (1921: 272), honnir bod ‘Geoffrey Kyffin’ yn abad Aberconwy yn 1450, camgymeriad am 1550, yn ôl pob tebyg.
Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ac Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F2, 11 A3. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Fel y gwelir, roedd Sieffrai’n hanner ewythr i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt ac yn hanner cefnder i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn ac i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Roedd yn hanner cefnder i Ruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad hefyd, sef gŵr Gweurful ferch Madog a thad Dafydd Llwyd. At hynny, roedd Sieffrai’n perthyn o bell i Siôn Eutun o Barc Eutun ac i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.
Yn y goeden achau isod dangosir teulu Sieffrai ei hun. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, 27, ‘Seisyll’ 2, WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B, 66r–67r wrth ymyl copi o gerdd 97 yn llaw Thomas Wiliems.
Teulu Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Eiddo John Davies yw’r wybodaeth ynghylch priodas Catrin ferch Sieffrai a gŵr o’r enw Edward ap Dafydd ab Edmwnd, y pencerdd o blwy hanmer. Ni nodir yn achresi Bartrum fod mab gan y bardd, Dafydd ab Edmwnd, eithr merch yn unig, sef Marged, ond gall fod y cof amdano wedi pylu yn sgil y ffaith na bu iddynt ddim plant (WG1 ‘Hanmer’ 2; sylwer bod cyfeiriad at ŵr o’r enw Hopgyn ap Dafydd ab Edmwnd yn ibid. ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2). At hynny, dywed Davies fod merch anhysbys Sieffrai a briododd Syr Tomas Cinast wedi marw yn ddi blant. Priododd merch arall iddo, Ann, ag Edward Trefor ap Siôn Trefor, constable castell y drewen yn ôl Davies. Dywed bod Ales ferch Sieffrai wedi cael perthynas gydag un o noddwyr Guto, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ac wedi cenhedlu vn plentyn ohono ef ond ni bu hi ddim yn briod. Cafodd Ales ferch a fu farw’n ifanc (Griffiths 1993: 64, 270).
Priododd Sieffrai ddwywaith, yn gyntaf â Siân ferch Lawrence Stanstry (yr hon a elwyd y saesnes goch o gent yn ôl Davies) ac wedyn ag Ann o deulu arglwyddi Strange o’r Cnwcin. Nododd Gruffudd Hiraethog yn Pen 176, 357 (c.1552), mai merch oedd Ann i John arglwydd Strange, a’r un oedd ei farn wreiddiol yn Pen 134, 380 (c.1550–8), cyn iddo newid ei feddwl: Ann fh’ chwaer sion arglwydd ystraens. Ategir y diwygiad ddwywaith gan Wiliam Llŷn yn Pen 139, i, 64–5 (c.1567–77), ac er iddo nodi ar dudalen 66 fod Ann yn ferch i John, diwygiwyd yr wybodaeth honno maes o law (gan Wiliam ei hun yn ôl pob tebyg): nid gwir fry am blant argl’ straens chwaer oedd wraic sieffre kyffin i iohn y diweddaf or arglwydde straens. Yn ôl Wiliam olynwyd John, yr olaf o arglwyddi Strange Cnwcin drwy waed, gan ei ferch, Sian, a briododd George arglwydd Stanley, mab iarll cyntaf Derbi. Ategir yr wybodaeth honno yn Kidd and Williamson (1990: P 1075), lle dywedir mai Joan (Siân) oedd unig ferch John. Seiliwyd yr achres isod ar ibid. ac ar wybodaeth ddiwygiedig y llawysgrifau.
Teulu Ann ferch Richard arglwydd Strange
Ei deulu a’i yrfa
Roedd Sieffrai’n ŵyr i Ieuan Gethin ac felly’n aelod o deulu Cymreig mwyaf dylanwadol y gororau i’r dwyrain o’r Berwyn yn ystod y bymthegfed ganrif. Y tebyg yw mai drwy gyswllt Guto ag aelodau eraill o’r teulu hwnnw (megis Hywel ab Ieuan Fychan) y dechreuodd dderbyn nawdd gan Sieffrai yn y lle cyntaf. Roedd cyfenw Sieffrai yn enw teuluol a ddefnyddiwyd gyntaf gan ei hendaid, Madog Cyffin. Yn ôl Griffith (1998: 196), mabwysiadodd Madog y cyfenw o’r enw lle Cyffin yn Llangedwyn (gw. GPC 730 d.g. cyffin ‘ffin, goror’) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a’i dad, Madog Goch. Roedd tad Sieffrai, Morus ab Ieuan Gethin, yn ynad cwmwd Mochnant Is-Rhaeadr yn ystod nawdegau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ei enw mewn cofnod arall yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr (Huws 2007: 97–8, 117n77). Roedd yn fyw yn 1445 ac yn gysylltiedig â Chroesoswallt (CPR 1441–6, 397–8). Dywed Guto fod Morus wedi teithio i dref Aras yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ac i Brwsia yn yr Almaen (96.25–6), o bosibl ar bererindod (gw. y nodyn isod ar bererindod ei fab). Ar arfau herodrol Sieffrai a’i deulu, gw. DWH ii: 93–4.
Roedd Guto’n canu i Sieffrai cyn Tachwedd 1465, oherwydd oddeutu dechrau’r mis hwnnw bu farw Dafydd Llwyd o Abertanad a’i wraig, Catrin, o haint y nodau. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn i Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98) lle cyfeirir at gwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt (98.16, 22). Gwyddys ei fod yn un o feilïaid y dref yn 1463 ac yn berchen ar dir yno ar 29 Medi 1465 (Huws 2007: 122n93; DWH ii: 93). Ni ellir profi bod Sieffrai’n gwnstabl y dref yn ogystal ag yn feili yn 1463, nac ychwaith ei fod yn parhau i fod yn gwnstabl yn 1465, ond fe ymddengys hynny’n debygol. Canodd Syr Rhys gerdd ddychan i Guto pan oedd yn fwrdais yng Nghroesoswallt (cerdd 101a) a chyfeirir at y dychan hwnnw yng nghywydd mawl Guto i Sieffrai ac i Siân, ei wraig gyntaf (97.25–8). Yng ngherdd Syr Rhys enwir Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes, c.1455–c.1480. Yn ei gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai, cyfeiria Guto at y bwrdeisiaid a ddioddefai pe na bai Sieffrai’n gwnstabl, ac yn y llinellau nesaf defnyddir y rhagenw personol cyntaf lluosog ein i ddisgrifio pwysigrwydd Sieffrai yn y dref (98.19–26). Yr awgrym cryf yw bod y bardd ei hun yn fwrdais yn y dref pan ganwyd y gerdd rywdro cyn Tachwedd 1465, ac felly mae’n bur debygol fod Syr Rhys yntau wedi canu ei gerdd ddychan i Guto oddeutu’r un adeg, pan oedd Siôn yn abad. Mae’n gymharol eglur, felly, y gellir lleoli Sieffrai yng Nghroesoswallt yn hanner cyntaf y 1460au.
Cyfeiriwyd eisoes at y cywydd mawl a ganodd Guto i Sieffrai ac i’w wraig gyntaf, Siân. Yn Pen 176 dywed Gruffudd Hiraethog fod Sieffrai wedi priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, yn 1467, ond dywed yn Pen 134 mai Syr Peter Newton a Siân, merch hynaf Sieffrai ac Ann, a briododd y flwyddyn honno. A chymryd nad oedd Gruffudd yn hau dyddiadau yn ôl ei fympwy, mae’n eithriadol o annhebygol fod y ddwy briodas wedi eu cynnal yn yr un flwyddyn, felly ym mha lawysgrif yr aeth ar gyfeiliorn? A chymryd y byddai Siân ferch Sieffrai dros ddeg oed o leiaf yn priodi, os dilynir Pen 134 mae’n rhesymol tybio y byddai wedi ei geni cyn c.1457 a bod ei rhieni, felly, wedi priodi erbyn canol y pumdegau. O ganlyniad, byddai’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig gyntaf cyn c.1452 a chasglu bod Guto yn fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny. Er nad yw hynny’n gwbl amhosibl, mae dyddiad diweddarach yn llawer mwy tebygol yn sgil swm y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, ynghyd â’r ffaith fod Guto’n aml yn cyfeirio ato’i hun fel gŵr oedrannus yn y cerddi sy’n ymwneud â Chroesoswallt (97.26; 101.20, 47–50; 101a.31–6, 40, 55, 60; 102.1–4, 7, 49–50). Cesglir, felly, mai ail briodas Sieffrai a gynhaliwyd yn 1467 yn hytrach na phriodas ei ferch, ac felly mae’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a Siân cyn y flwyddyn honno.
Nodir yn GGl 347 i Sieffrai farw yn 1509, ond ei ferch, Ann, mewn gwirionedd, a fu farw’r flwyddyn honno (Griffith 1998: 254; HPF iv: 84). Roedd yn fyw ar 11 Mawrth 1475 (Jones 1933: 93), pan gafodd ei enwi’n dyst i weithred i ryddhau tir yng Ngwernosbynt a’i alw’n Seneschal of Chirkesland. Er nad oedd rhyw lawer o wahaniaeth mewn rhai achosion rhwng dyletswyddau cwnstabl a dyletswyddau distain (ibid. xxxiii), mae cyswllt y swydd ag arglwyddiaeth y Waun yn awgrymu’n gryf nad yr un ydoedd â swydd cwnstabl prif dref arglwyddiaeth Croesoswallt. Y tebyg yw bod Sieffrai, felly, wedi symud o Groesoswallt erbyn y flwyddyn honno, a gall mai yn sgil priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, y daeth i gyswllt â byd y gyfraith. Gwysiwyd brawd Ann, John arglwydd Strange, i’r senedd yn Llundain o 1446 i 1472 (Kidd a Williamson 1990: P 1075).
Yn Pen 139, i, 64, dywed Wiliam Llŷn i ail wraig Sieffrai, Ann, ailbriodi ar ôl i Sieffrai farw, a hynny â Sr’ tomas mytyn. Ar waelod dalen 66 yn y llawysgrif honno ceir nodyn gan y bardd Rhys Cain (a ysgrifennwyd c.1604), lle cyfeirir at Ann ac at y ferch a gafodd gyda Sieffrai, Siân:
Ann mitton vcho a Ioan mrch ac et
Sieffrey kyffin oeddynt vyw yr ail
vlwyddyn o deyrnasiad hari 7
mae’r weithred gyda ni Ric Blodwell.
Dengys cywydd mawl anolygedig Rhys Cain i Risiart Blodwel ap Siôn Blodwel fod Rhisiart wedi bod yn swyddog o bwys yn nhref Croesoswallt ac yn weithgar yn atgyweirio’r gaer yno (LlGC 11986B, 33). Ac yntau a’i wraig, Marged, yn ddisgynyddion i Fadog Cyffin ac yn byw yn y fwrdeistref, nid yw’n syndod efallai fod dogfen yn ymwneud â theulu Sieffrai yn ei feddiant (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 45; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 42G, 45B). Fe’i hysgrifennwyd rhwng 22 Awst 1486 a 21 Awst 1487, a gellir casglu nad oedd Sieffrai’n fyw y flwyddyn honno. Bu farw, felly, rywdro rhwng 1475 a 1486/7 (bu farw ei hanner brawd, Hywel, yn 1481, gw. Pen 75, 5).
Sylwer bod Rhys Cain yn cyfeirio at Siân fel et[ifedd] Sieffrey kyffin yn y nodyn uchod. Yn wahanol i’w frodyr nid ymddengys i linach Sieffrai barhau yn sgil ei fab. Un mab i Sieffrai a nodir yn yr achresi, sef Harri Cyffin, a cheir ansicrwydd ynghylch pwy oedd ei fam. Gall mai mab anghyfreithlon ydoedd, oherwydd ni chyfeirir ato o gwbl mewn fersiwn o achau Sieffrai a gofnodwyd yn LlGC 8497B, 66r–67r (gw. uchod), a gall fod a wnelo hynny â’r ffaith na cheir yn yr un llawysgrif awgrym i Harri briodi na chael plant. Mae’n ddigon posibl ei fod yntau, fel ei dad, wedi marw erbyn 1486/7, a hynny naill ai’n ddietifedd neu heb iddo gael ei gydnabod fel etifedd ei dad. Fel y gwelir o’r llawysgrifau achyddol uchod o waith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, yn sgil teuluoedd yr uchelwyr a briododd ferched Sieffrai (a Siân wraig Peter Newton yn benodol efallai) y diogelwyd y cof am ei linach.
Ei fro
Yn ôl achresi Bartrum a chywydd a ganodd Huw ap Dafydd i Lewys Cyffin, ŵyr i frawd Sieffrai, Wiliam ap Morus, ymgartrefodd y gangen honno o deulu Morus yn llys Gartheryr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant (GHD 20.8, 37). Yn nhref Croesoswallt yr ymgartrefodd Sieffrai. Ceir ei enw yn yr ail safle ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i fab, Harri, a nifer o’i feibion-yng-nghyfraith ac aelodau o’i deulu estynedig (archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau eraill a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dyst gwerthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Saesnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).
Ei bererindod
Rywdro tua’r flwyddyn 1460, yn ôl pob tebyg, aeth Sieffrai ar bererindod i Rufain a Jerwsalem. Cyfeirir yn frysiog at y daith ar ddechrau cywydd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, lle nodir ei fod wedi ymweld ag eglwys Sant Pedr yn ninas y Fatican cyn teithio i borthladd Jaffa yn Israel ac ymweld ag eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem (97.1–10). Mae’n hynod o debygol fod Guto’n cyfeirio at yr un daith mewn cywydd arall a ganodd i Sieffrai. Er na sonnir am y bererindod yn y gerdd honno, dywedir bod Sieffrai wedi teithio dros y sianel i Ffrainc a thrwy Fyrgwyn i Wlad Groeg ac Affrica (96.27–30). A chlymu’r cyfeiriadau yn y ddwy gerdd at ei gilydd, ymddengys fod Sieffrai wedi teithio drwy Fyrgwyn er mwyn croesi mynyddoedd yr Alpau. Yn ôl Olson (2008: 19–20), roedd tair prif ffordd yn croesi’r Alpau yn yr Oesoedd Canol. Mae’r ffaith fod Lewys Glyn Cothi, pan deithiodd yntau ar bererindod i Rufain, wedi dilyn yr hyn a elwid ‘y ffordd Almaenig’ yn awgrymu y gall fod Sieffrai yntau wedi croesi’r mynyddoedd o’r un cyfeiriad. Dywed Lewys ei fod wedi teithio (o Fôn, efallai) i Frabant a Fflandrys ac i lawr ar hyd dyffryn afon Rhein i Fyrgwyn. Oddi yno teithiodd drwy’r Almaen a Swabia (ardal yn ne-orllewin yr Almaen heddiw) i Lombardi yng ngogledd yr Eidal (GLGC 90.11–16). Fel yn achos pererin arall o’r enw William Wey (1405/6–76; DNB Online s.n. William Wey), a aeth ar bererindod i Rufain ac i Jerusalem yn 1458, nid yw’n eglur ym mhle’n union y croesodd Lewys na Sieffrai yr Alpau, ond mae’n bosibl eu bod wedi teithio drwy Fwlch Sant Gotthard (Olson 2008: 20), Bwlch Reschen neu fwlch arall yng ngorllewin Awstria heddiw (Davey 2010: 113).
Rhydd y manylion a gofnododd William Wey ynghylch ei bererindod syniad go dda o’r profiadau a gafodd Sieffrai oddeutu’r un adeg, megis hyd y daith a chyngor wrth ymwneud â brodorion mewn gwahanol wledydd. Fel mwyafrif y pererinion a fynnai deithio i Jerwsalem yn ystod yr Oesoedd Canol, aeth Wey i Fenis er mwyn dod o hyd i long a’i cludai i borthladd Jaffa. Ymddengys fod Sieffrai, fel Wey, wedi ymweld â Rhufain yn gyntaf cyn teithio i Fenis, lle byddai pererinion yn aml yn gorfod disgwyl am wythnosau neu fisoedd am long addas ac yna am amgylchiadau ffafriol i godi angor. O Fenis byddai llongau’r pererinion yn hwylio ar hyd y Môr Canoldir gan oedi o bosibl ar ynysoedd megis Creta a Chyprus (cf. cyfeiriad Guto at Roeg) cyn cyrraedd Jaffa. Oddi yno byddai’r pererinion yn cerdded neu’n marchogaeth i ddinas Jerusalem. Yn wahanol i Wey, nid ymddengys bod Sieffrai wedi dychwelyd yn syth eithr ei fod wedi ymweld ag Affrica hefyd, sef yn ôl pob tebyg yr Aifft. Mae’n bosibl ei fod wedi ymweld ag Alecsandria ar ei fordaith adref neu wedi teithio i Fynydd Sinai hyd yn oed. Am fap o daith Wey, gw. Davey 2010: 20–1.
Llyfryddiaeth
Davey, F. (2010), The Itineraries of William Wey (Oxford)
Griffith, J.E. (1998), Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (third ed., Wrexham)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff)
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Kidd, C. and Williamson, D. (1990) (eds.), Debrett’s Peerage and Baronetage (London)
Lowe, W.B. (1912), The Heart of Northern Wales (Llanfairfechan)
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Stephens, Roy (1983), ‘Gwaith Wiliam Llŷn’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)