Morgan ap Rhosier oedd noddwr ymryson rhwng Hywel Dafi a Guto’r Glyn (cerddi 18a ac 18). Dysgwn o’r ddau gywydd hyn mai ei enw llawn oedd Morgan ap Rhosier ab Adam, ei fod yn gysylltiedig â Gwenllwg, â Chasnewydd ac efallai â lle o’r enw Y Morfa, a’i fod yn disgyn o’r Cemeisiaid a rhywun o’r enw Raff.
Achres
Ni welir Morgan yn yr achau, ond serch hynny mae’n hawdd ei leoli, oherwydd brawd iddo yn ôl pob tebyg oedd Trahaearn ap Rhosier ab Adam a gofnodir yno (WG1 ‘Adam ab Ifor’ 1 a ‘Maelog’; dangosir y rheini a enwir gan Guto a Hywel Dafi yn eu cywyddau i Forgan mewn print trwm):
Achres Morgan ap Rhosier o Wynllŵg
Ei yrfa
Tad Morgan, felly, oedd Rhosier ab Adam, a oedd yn feili Gwynllŵg yn 1401. Ystyr Gwynllŵg (Wentloog) mewn cofnodion swyddogol yw’r iseldir o gwmpas Casnewydd, yn hytrach na’r cantref cyfan a ymestynnai rhwng afonydd Rhymni ac Wysg, ac efallai fod Hywel Dafi yn defnyddio Gwenllwg (amrywiad ar yr enw) yn yr ystyr gyfyng hon (18a.20n). Roedd brawd Morgan, Trahaearn, yn grwner Gwynllŵg yn 1435–6 ac eto yn 1448–9. Roedd ganddo frawd o’r enw Gwilym hefyd a fu’n feili yn 1409 (Evans 2008: 295–6, 306). Mae Evans (1915: 27n1) yn nodi bod Morgan ei hun yn grwner yno yn 1417. Rhestrir ef a’i frawd Trahaearn yn ddeiliaid rhydd yn arglwyddiaeth Casnewydd yn rholyn sesiynau 1432 (Pugh 1963: 82). Roedd Morgan yn ddirprwy siryf yr arglwyddiaeth hyd 1444 (ibid. 276–7). Fe’i henwir droeon yng nghyfrifon yr arglwyddiaeth am y blynyddoedd 1447–8 (ibid. 203–5, 212, 228). Ar y llaw arall nis henwir yno yn rholyn sesiynau 1476 (ibid. 83–117), sef yn yr un cyd-destun ag y ceir ei enw yn 1432: mae’n debygol y buasai farw cyn 1476, felly, peth nad yw’n syndod o gofio ei fod yn gweithredu fel crwner Gwynllŵg mor gynnar â 1417. Dyma osod dyddiadau Morgan ap Rhosier yn fras yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif.
Ni wyddys beth oedd cysylltiad Morgan â theulu Cemais (Kemeys). Priododd aelodau o’i deulu ef â Chemeisiaid yn y genhedlaeth nesaf (WG1 ‘Adam ab Ifor’ 1; am y teulu ei hun, gw. WG2 ‘Kemeys’ 1–4 a Griffiths 2008: 261–2). Roedd Hywel Cemais yn olynydd iddo yn swydd dirprwy siryf Casnewydd yn 1444 (Pugh 1963: 276–7). Am y Raff y disgynnai Morgan ohono, gw. yr ach uchod ac 18.44n (esboniadol).
Bro
Roedd tir gan dad Morgan ym Machen yn yr ardal a elwir Cyfoeth Maredudd (Evans 2008: 306). Gwelir safle o’r enw Castell Meredydd heddiw ar fap yr Arolwg Ordnans, ychydig i’r dwyrain o bentref Machen (ST 226887). Ni wyddys ble yr oedd Morgan ei hun yn byw. Cyfeiria Hywel Dafi at Y Morfa (18a.19), a ddehonglir yn betrus fel enw lle penodol. Gallai hefyd gyfeirio at ran ddeheuol arglwyddiaeth Casnewydd neu Wynllŵg, a elwid yn Saesneg Wentloog. Mae’r ardal hon ar lan y môr yn isel iawn a rhannau ohoni wedi eu hadennill o’r môr. Dengys y ddogfen a atgynhyrchwyd yn Pugh (1963: 203–5) fod Morgan yn dal tir yn Stow, sydd bellach wedi ei llyncu gan Gasnewydd (cf. Stow Park, ST 303873). Roedd ganddo hefyd dir wrth afon fach o’r enw Nant Melyn, yr hawl i bysgota yn nŵr Ebboth (sef Ebwy, yr afon ei hun, efallai) ac roedd ganddo goedwig mewn lle a elwir Kirkebleyth’ (ibid. 203, 212, 228). Enwir, ibid. 205, ragor o leoedd, sef rhannau o dir arglwydd Casnewydd ei hun, lle roedd Morgan yn denant yn ystod y blynyddoedd cyn 1447/8.
Llyfryddiaeth
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Pugh, T.B. (1963), The Marcher Lordships of South Wales 1415–1536: Select Documents (Cardiff)