Phylib ap Gwilym Llwyd oedd noddwr cerdd 30.
Achres
Ceir ach Phylib ap Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri yn WG2 ‘Barry’ 3. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Phylib mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter
Awgryma Bartrum yn betrus fod Gwilym Llwyd, tab Phylib, yn fab i Wilym Llwyd arall a oedd yn ei dro’n fab i Gerallt Barri. Mae cerdd Guto’n awgrymu bod hyn yn annhebygol: yn 30.11–16 olrheinir ach Phylib yn y dull arferol ac ni sonnir ond am un Gwilym Llwyd. Gelwir Phylib yn ŵyr Gerallt (30.16). Mae’n wir y gall ŵyr gyfeirio at orwyr, ond mae’r ffordd yr eir o’r mab i’r tad yn awgrymu mai’r taid a ddylai gael ei grybwyll nesaf, ac felly mai ‘ŵyr’ yw ystyr ŵyr yma. Brawd oedd Phylib, felly, i Fawd, mam Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd ym Mactwn, un arall o noddwyr cynnar Guto’r Glyn.
Ei fro
Dysgwn gan Guto fod Phylib yn byw rywle yn Nyffryn Gwy, yng nghyffiniau Talgarth (30.10, 24), ac ymddengys mai yn Nhrefgwnter yr oedd ei gartref (30.48). Enw fferm ryw filltir i’r gorllewin o Dalgarth yw Tregunter heddiw (SO 135339), a chynt roedd yno blasty a ddymchwelwyd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif (Gunter 1988–9: 47–8). Yn 1524, pan wnaed goruchwyliad o diroedd Harri Mil (m. 1522), ŵyr Harri Gruffudd, roedd Trefgwnter yn eu plith (Richardson and Hubbard 2010). Gwerth y tiroedd oedd £4. Dywed Richardson a Hubbard mai fel gwaddol Mawd y daeth Trefgwnter i feddiant teulu Harri Mil. Nid yw dyddiad priodas Mawd a Gruffudd ap Harri yn hysbys, ond roedd mab y ddau, Harri Gruffudd, yn ddigon hen i fod yn dyst i grant gyda’i dad yn 1425. Mae’n bosibl, felly, fod Phylib yn byw yn Nhrefgwnter gyda chaniatâd Gruffudd neu Harri, ac yn wir ei fod yn ddeiliad iddynt.
Ymddengys fod gan Phylib diroedd mewn lle o’r enw Maleiniog hefyd (30.56). Lleolid y faenor hon ar ddwy lan afon Gwy, yn agos i Laneigon a’r Gelli (Dawson 1918: 308–10). Melinog yw’r faenor mewn rhai ffynonellau ac ar fap William Rees (1932), lle lleolir hi rhwng y Clas-ar-wy a Llowes (SO 1840); Melynog yw’r ffurf yn WATU 155. Nid yw’n eglur a yw hyn yn ddigon i gyfrif am y ffaith fod Guto’n galw Phylib yn eryr Llowes (30.41), ynteu a oedd tiroedd pellach gan Phylib yn y lle hwnnw. Yn 1524 roedd Melinog ymhlith y tiroedd a adawsid gan Harri Mil (Richardson and Hubbard 2010). Ei werth oedd 53s 4d. Yn ôl y cyfeiriadau hyn perthynai Trefgwnter a Melinog i arglwyddiaeth Talgarth Seisnig. Erys Trefgwnter ym mhlwyf Talgarth ei hun hyd heddiw, ond nid yw cysylltiad Melinog â’r arglwyddiaeth yn eglur.
Ei ddyddiadau
Gan fod testun cerdd 30 yn Pen 57 (c.1440), rhaid ei bod wedi ei canu cyn hynny, yn y 1430au yn ôl pob tebyg. Ni allwn roi dyddiadau mwy pendant i Phylib na floruit yn y 1430au, felly.
Llyfryddiaeth
Dawson, M.L. (1918), ‘Notes on the History of Glasbury’, Arch Camb (sixth series) xviii: 279–319
Gunter, G.W. (1988–9), ‘The Descent of Tregunter’, Brycheiniog xxiii: 47–8
Rees, W. (1932), South Wales and the Border in the Fourteenth Century (Southampton)
Richardson, R.E. and Hubbard, S. (2010), ‘Parry Lands in 1524, 1543, 1544 & 1545’, yn http://www.blancheparry.co.uk/pdf/property_of_blanches_family.pdf