Chwilio uwch
 
21 – Moliant i Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, ar ôl cipio castell Harlech, 1468
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Tri llu aeth i Gymru gynt,
2Trwy Wynedd y trywenynt:
3Llu’r Pil, llu’r Arglwydd Wiliam,
4Llu’r Fepwnt, bu hwnt baham.
5Tair ffordd – clawdd tir Offa hen,
6Siwrnai Wiliam, Sarn Elen
7Arglwydd Herbert a’th gerti
8A’th lu, Duw a’th lywio di!
9Glaw gynt a gâi lu ac ost;
10Hindda weithian pan ddoethost!
11Dewiniais y caud Wynedd
12A dwyn Môn i’r dyn a’i medd.
13Berw Lloegr, pawb a rôi’u llygaid,
14Pe ceisiech Harddlech, o chaid.
15Chwedl bonfras o gas i gyd,
16Blaenfain fu i’r bobl ynfyd;
17Chwedl blaenfain fu’ch train a’ch tro,
18Bonfras arglwydd ar Benfro.
19Ba well castell rhag cysteg
20Ban friwyd wal Benfro deg?
21Bwriaist – ergydiaist godwm –
22Ben Carreg Cennen i’r cwm.
23Ni ddaliawdd ei chlawdd achlân
24Ywch, Harddlech, mwy no chorddlan.
25Ni’th ery na thŷ na thŵr
26Na chan caer na chwncwerwr.
27Tair cad aeth o’r teirgwlad tau
28Trwy Wynedd fal taranau,
29Tair plaid yn gapteniaid tyn,
30Tair mil, nawmil yn iwmyn,
31Dy frodyr, milwyr y medd,
32Dy genedl i doi Gwynedd.
33Dy werin oll, dewrion ŷnt,
34Drwy goedydd dreigiau ydynt.
35Dringai, lle nid elai’r da,
36D’orwyddfeirch dor y Wyddfa.
37Troes dy wŷr mewn tair ystâl
38Trwy weunydd a’r tir anial.
39Tros greigiau mae d’olau di,
40Tir âr y gwnaut Eryri.
41Od enynnaist dân ennyd
42Drwy ladd ac ymladd i gyd,
43Dyrnod anufydd-dod fu
44Dernio Gwynedd a’i dyrnu.
45O bu’r tir, Herbart wrawl,
46Heb gredu, fal y bu Bawl
47(A fu ar ffawt, feiwr ffydd,
48O phaid, ef a gaiff fedydd):
49Chwithau na fyddwch weithian
50Greulon wrth ddynion â thân.
51Na ladd weilch a wnâi wledd ynn,
52Gwynedd, fal Pedr y gwenyn.
53Na fwrw dreth yn y fro draw
54Ni aller ei chynullaw.
55Na friw Wynedd yn franar,
56N’ad i Fôn fyned i fâr,
57N’ad y gweiniaid i gwynaw
58Na brad na lledrad rhag llaw.
59N’ad trwy Wynedd blant Rhonwen
60Na phlant Hors yn y Fflint hen.
61Na ad, f’arglwydd, swydd i Sais,
62Na’i bardwn i un bwrdais.
63Barna’n iawn, brenin ein iaith,
64Bwrw ’n y tân eu braint unwaith.
65Cymer wŷr Cymru’r awron,
66Cwnstabl o Farstabl i Fôn.
67Dwg Forgannwg a Gwynedd,
68Gwna’n un o Gonwy i Nedd.
69O digia Lloegr a’i dugiaid,
70Cymru a dry yn dy raid.

1Aeth tri llu i Gymru gynt,
2drwy Wynedd y trywanasant:
3llu’r Pil, llu’r Arglwydd Wiliam,
4llu Vieuxpont, bu achos fan draw.
5Tair ffordd – clawdd tir Offa hen,
6hynt Wiliam, Sarn Helen –
7Arglwydd Herbert a’th gerti
8a’th lu, boed i Dduw dy arwain!
9Glaw a gâi llu a byddin gynt;
10tywydd braf bellach pan ddaethost ti!
11Darogenais y byddet yn cipio Gwynedd
12ac yn adfer Môn i’r gŵr a’i piau.
13Mae Lloegr yn fwrlwm, byddai pawb yn rhoi ei lygaid,
14pe ymosodet ti ar Harlech, pe cipid hi.
15Gweithgarwch y gŵr cadarn, llawn gelyniaeth lwyr,
16bu’n llym ei fin i’r bobl ynfyd;
17gweithgarwch gŵr llym ei fin fu eich arhosiad a’ch cwrs,
18arglwydd cadarn dros Benfro.
19Pa fudd yw unrhyw gastell yn erbyn cyni
20pan ddrylliwyd mur Penfro deg?
21Bwriaist – peraist godwm ag ergyd –
22ben Carreg Cennen i’r cwm.
23Ni ddaliodd ei chlawdd o gwbl
24yn eich erbyn, clawdd Harlech, mwy nag y gallai corlan.
25Ni all tŷ na thŵr dy wrthsefyll
26na chan caer na choncwerwr.
27Aeth tri llu o’th dair gwlad di
28fel taranau drwy Wynedd,
29tair carfan o gapteiniaid diysgog,
30tair mil, naw mil yn iwmyn,
31dy frodyr, milwyr y medd,
32dy berthnasau, digon i orchuddio Gwynedd.
33Dy filwyr cyffredin oll, maent yn ddewr,
34drwy goedydd maent yn ddreigiau.
35Dringodd dy feirch rhyfel, lle na fentrai gwartheg hyd yn oed,
36fol yr Wyddfa.
37Aeth dy wŷr mewn tair colofn
38drwy weunydd a’r tir anial.
39Mae dy olion di ar greigiau o hyd,
40rhwygaist Eryri nes ei droi fel tir wedi ei aredig.
41Os enynnaist dân unwaith
42wrth ladd ac ymladd yn ddi-baid,
43ergyd yn erbyn anufudd-dod oedd
44darnio a dyrnu Gwynedd.
45Os bu’r tir, Herbert gwrol,
46heb ffydd, fel y bu Paul
47(pwy bynnag a fu ar fai, cystwywr ffydd,
48os paid, fe gaiff fedydd):
49peidiwch chwithau bellach
50â thrin dynion yn greulon â thân.
51Paid â lladd gweilch Gwynedd a wnâi wledd i ni gynt,
52fel Pedr yn lladd y gwenyn.
53Paid â chodi treth yn y fro fan draw
54nad oes modd ei chasglu.
55Paid â difa Gwynedd nes ei bod yn franar,
56paid â gadael i Fôn fynd i gyni,
57paid â gadael y gweiniaid i gwyno
58nac am frad nac am ladrad o hyn ymlaen.
59Paid â gadael i ddisgynyddion Rhonwen ddod drwy Wynedd
60na disgynyddion Horsa yn yr hen Fflint.
61Paid â gadael i Sais gael swydd, fy arglwydd,
62paid â gadael i un bwrdais unigol gael pardwn iddo’i hun.
63Barna’n iawn, brenin ein cenedl,
64bwrw eu braint yn y tân unwaith ac am byth.
65Cymer wŷr Cymru bellach,
66yn gwnstabl o Barnstaple i Fôn.
67Arweinia Forgannwg a Gwynedd,
68gwna bawb yn un rhwng afon Conwy ac afon Nedd.
69Os bydd Lloegr a’i dugiaid yn ffromi,
70bydd Cymru yn dod i’th gefnogi.

21 – In praise of William Herbert of Raglan, first earl of Pembroke, after the capture of Harlech castle, 1468

1Three hosts went to Wales in former times,
2through Gwynedd they forced their way:
3the host of Pil, the host of Lord William,
4the host of Vieuxpont, there was good reason there.
5Three ways – the dyke of ancient Offa’s land,
6William’s journey, Sarn Helen –
7Lord Herbert and your carts
8and your host, may God guide your way!
9Host and army once suffered rain;
10sunshine now that you have come!
11I foretold that you would take Gwynedd
12and restore Anglesey to the one who rightfully possesses it.
13England is in a ferment, every man would give his eyes,
14if you attempted Harlech, if it might be taken.
15The sturdy one’s dealings in undiluted hostility,
16they had a sharp edge for the foolish people;
17your sojourn and your course were the dealings of a sharp-edged man,
18sturdy lord over Pembroke.
19Of what use is any castle to stave off suffering
20when fair Pembroke’s walls have been smashed?
21You cast – you encompassed a fall –
22the top of Carreg Cennen down into the valley.
23Its dyke, Harlech’s, did not stand up at all
24to you, any more than a sheep-fold.
25Neither house nor tower can withstand you
26nor a hundred fortresses nor a conqueror.
27Three divisions went out from your three lands
28through Gwynedd like bolts of thunder,
29three hosts of steadfast captains,
30three thousand, nine thousand yeomen,
31your brothers, warriors of the mead,
32your kinsfolk, enough to cover Gwynedd.
33Your common soldiers, they are all brave,
34they are dragons driving through woods.
35Your battle-horses climbed, where cattle would fear to tread,
36the belly of Snowdon.
37Your men came in three columns
38through moorland and the waste land.
39Your hoofprints are still upon the rocks,
40you churned up Snowdonia into ploughed land.
41If you kindled fire once
42while striking and fighting non-stop,
43the mincing and thrashing of Gwynedd
44was simply a blow struck against disobedience.
45If the land, manly Herbert,
46was faithless, as St Paul once was
47(anyone who has been at fault, a chastiser of the faith,
48if he should desist, he may yet enjoy baptism):
49you too, now, do not inflict
50cruel fire upon men.
51Do not kill the falcons of Gwynedd
52who used to serve us mead, like St Peter the bees.
53Do not exact a tax on the land over there
54which cannot be gathered.
55Do not churn up Gwynedd into fallow-land,
56do not let Anglesey fall into misery,
57do not let the weak lament
58either treachery or theft from now on.
59Do not let Rhonwen’s children roam Gwynedd
60nor the children of Horsa into ancient Flint.
61Do not, my lord, allow any office to an Englishman,
62nor give any burgess his pardon.
63Judge rightly, king of our nation,
64cast their privilege into the fire once and for all.
65Take now the men of Wales,
66constable from Barnstaple to Anglesey.
67Take Glamorgan and Gwynedd,
68make all one from the Conwy to the Neath.
69If England and her dukes are angered,
70Wales will come to your need.

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 48 o lawysgrifau. O’r rhain, dewiswyd 22 yn sail i’r golygiad. Mae’r lleill naill ai’n tarddu o’r 22 hyn neu’n rhy anghyflawn i fod o werth. Nid oes fawr o amrywio o ran na threfn na nifer y cwpledi, ac mae’r rhan fwyaf o’r amrywiadau geiriol yn gymharol fach a dibwys. O’r herwydd, mae’n anodd llunio stema ar gyfer y gerdd hon. Y prif fan lle yr ymwahana’r copïau yw cwpled 47–8, lle mae’r llawysgrifau’n ymrannu yn dri phrif grŵp fel y nodir yn fanylach yn 47–8n: (i) Brog I.1, LlGC 3049D, Pen 77, Gwyn 4, BL 14866 a LlGC 727D; (ii) LlGC 17114B, Pen 137, BL 14978 a C 2.617; (iii) Stowe 959, pum copi Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68, ac efallai Llst 53. Ni ellir rhoi Llst 55 yn yr un ohonynt. Mae achos cryf dros ddadlau bod grŵp (iii) yn tarddu o gynsail gyffredin, ond ni cheir undod yng ngrŵp (i); yn syml, hwy yw’r llawysgrifau na ddioddefodd y llygru y seiliwyd y diffiniadau o (ii) a (iii) arno. Nid wyf yn hyderus fod grŵp (ii), y llawysgrifau a gollodd 47–8, yn ffurfio grŵp dilys ychwaith, gan y gall fod y cwpled anodd hwn wedi ei golli fwy nag unwaith. Mae LlGC 3049D, Pen 77 a Gwyn 4 yn rhannu cynsail, fel y gwnânt yn achos cerddi eraill Guto’r Glyn, a gelwir hwy ‘grŵp Dyffryn Conwy’ isod. Perthyn BL 14866 iddynt, ond o bell. Copi cynnar a gwerthfawr yw Brog I.1, ond digon llwgr mewn mannau. Mae pum copi Llywelyn Siôn (C 5.44, Llst 134, LlGC 970E, LlGC 6511B a LlGC 21290E) bron yn unffurf â’i gilydd. Llinellau dethol o’r testun yn unig a geir yn Llst 55. Ni nodwyd y cywiriadau yn Ba 1267 a ddaeth o gynsail wahanol, gan gynnwys wyth llinell gyntaf y gerdd yn eu crynswth.

Trawsysgrifiadau: Brog I.1, LlGC 3049D, LlGC 17114B, LlGC 16964A.

stema
Stema

1 i  Ceir i yn Brog I.1, grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 727D, LlGC 17114B a C 2.617. Ceir o yn BL 14866, BL 14978, Llst 53, Llst 55, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, Stowe 959, BL 14976 a C 2.68, a drwy yn Pen 137. Ni fyddai aeth o Gymru … trwy Wynedd yn rhoi synnwyr, ond gellid darllen Gymry, hynny yw, aeth tri llu o Gymry drwy Wynedd. Eto annhebygol iawn fyddai galw llu’r Fepwnt yn llu o Gymry gan mai o Loegr y daeth, gw. 4n (esboniadol), felly gwrthodir o yma.

2 trywenynt  Pen 137 tervynynt, C 2.68 Travanynt.

3 llu’r Arglwydd  LlGC 17114B a C 2.68 llv arglwydd, LlGC 16964A yr arglwydd.

4 llu’r  Ni cheir y fannod yn BL 14866, Llst 53 a C 2.68.

4 Fepwnt  Felly Brog I.1, grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 17114B, Pen 137, Llst 53, Stowe 959 a LlGC 16964A. Gthg. BL 14978 a C 2.617 veipwnt (→ feikwnt yn yr olaf), BL 14866, BL 14976 a LlGC 17114B (cywiriad diweddarach) ficwnt, LlGC 727D veikwnt, C 2.68 fevcwnt, Llywelyn Siôn vegwnt. Gwelir bod Fepwnt yn cael ei ategu gan rychwant o lawysgrifau cynnar ac yn y De yn ogystal â’r Gogledd. Nid oes amheuaeth ychwaith nad hwn yw’r lectio difficilior. Hawdd fyddai troi’r enw priod go anhysbys hwn yn ficwnt, veikwnt, &c., a’r tebyg yw y digwyddodd hynny fwy nag unwaith. Ar y llaw arall, mae’n anodd iawn credu y gallai cymaint o lawysgrifau, yn eu plith rhai sydd fel arall yn o wahanol i’w gilydd, droi ficwnt yn fepwnt. Am yr enw priod recherché hwn, gw. 4n (esboniadol).

5 clawdd  Llywelyn Siôn a LlGC 16964A hwnt; cywirwyd klawdd yn hawdd gan law arall yn LlGC 17114B. Yn Stowe 959 ceir tir klawdd yn lle klawdd tir.

5 tir  BL 14978 trir, LlGC 16964A tri.

6 Wiliam  Gthg. LlGC 727D, LlGC 17114B, Pen 137, BL 14978, C 2.617 a LlGC 16964A eilwaith. Mae mwyafrif y llawysgrifau o blaid Wiliam, sy’n rhoi’r ystyr orau: sonia’r bardd am dair ffordd gan enwi dwy ohonynt yn eglur, sef Clawdd Offa a Sarn Helen, ac mae’n rhaid derbyn siwrnai Wiliam er mwyn cael trydedd ffordd. Prin y byddai siwrnai eilwaith yn ddisgrifiad digon penodol i gael ei gyfrif felly, gw. ymhellach y nodyn cefndir (esboniadol). Mae’r llygriad yn un rhyfedd ar yr olwg gyntaf, yn enwedig os bu iddo ddigwydd fwy nag unwaith yn annibynnol, fel y mae rhychwant y llawysgrifau sy’n cynnig eilwaith yn ei awgrymu. Dichon fod rhai copïwyr wedi deall Sarn Elen fel y ffordd adref (siwrnai eilwaith) ar ôl y daith i fyny ar hyd Clawdd Offa.

7 Herbert  Mae’r sillaf olaf yn amrywio. Yn Brog I.1, LlGC 727D, LlGC 17114B, BL 14978, copïau Llywelyn Siôn, BL 14976 a C 2.68 ceir -art, yn BL 14866 -art → -ert, a cheir -ert yn y lleill. Wrth gwrs, mae’r gair hwn yn rhoi odl lusg â gair olaf y llinell, felly mae’r darlleniad yma’n dibynnu ar y gair a ddarllenir yno, sef gerti, gw. isod. Derbyniwyd Herbert, felly, gthg. 45n. Sylwer bod Brog I.1, BL 14866 (cyn ei gywiro), LlGC 17114B a LlGC 16964A yn difetha’r odl.

7 a’th  Stowe 959, BL 14976 a C 2.68 ai, C 5.44 a Llst 134 au, ac yn LlGC 16964A gadawyd gofod gwag.

7 gerti  Gthg. LlGC 727D, BL 14978, Llywelyn Siôn, BL 14976 a C 2.68 barti, LlGC 16964A gartti, a gerti yn y lleill. Mae’r dystiolaeth dros gerti, felly, yn gryf iawn.

8 a’th  LlGC 16964A aeth.

8 lu  Brog I.1 law, C 2.68 luoedd.

8 a’th  C 2.617 ith, LlGC 16964A yth.

8 lywio  Brog I.1, LlGC 17114B, BL 14978, C 2.617 a BL 14976 lwyddo, Pen 137 lowia, Llst 53 welo, Stowe 959 lyddyo, tri o gopïau Llywelyn Siôn liwia (ond liwio yn Llst 34 a LlGC 6511B), C 2.68 lwydd, a lywio yn y lleill. Ceir tystiolaeth lethol mai ffurf y modd dibynnol yn -o a ddylai fod yma, felly, ac o ran y ferf, mae’r gynghanedd yn erbyn dewis unrhyw un o’r ffurfiau yn dd-. Gan hynny, lywio yw’r darlleniad mwyaf tebygol.

9 glaw  LlGC 3049D a Gwyn 4 a glaw (dilewyd a yn LlGC 3049D), Pen 137 a C 2.617 (trwy gywiriad yn yr olaf) galw.

9 gynt  Ba 1267 a BL 14976 a gwynt, C 2.68 gwynt.

9 gâi  Ba 1267 gad.

9 ac ost  Llst 53 o gost.

10 hindda weithian  Stowe 959 hinonn waithon.

10 pan  LlGC 17114B a Pen 137 pen, Llst 53 a.

10 ddoethost  Llst 53 wnaethost, Stowe 959, Ba 1267 a C 2.68 aythost.

11 dewiniais  Gthg. LlGC 3049D dewinias, BL 14978 dewiniav, C 2.617 davioni, Ba 1267 a BL 14976 dewiniaist.

11 y caud  Stowe 959 y kaet, BL 14978, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A i gwnaid, Ba 1267 i kae, C 2.617 gwnavt i, Llst 53 a BL 14976 i kaid (BL 14976 → i kayd), C 2.68 i doe. Mae’r dystiolaeth, ynghyd â’r synnwyr, o blaid y caud.

11 Wynedd  Brog I.1 wnedd.

12 a dwyn  LlGC 16964A o dwyn.

13 berw  Gwyn 4 Pobl, Stowe 959 bwrw, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A Ryw, dim byd yn Ba 1267, C 2.68 a BL 14976 (ond ychwanegwyd berw yn yr olaf, gan y brif law), berw ym mhob copi arall. Derbyniwyd pobl yn GGl 129, ond mae’r llawysgrifau yn amlwg o blaid berw. Y tebyg yw yr ysbardunwyd Ryw gan newid arall a wnaed yn nes ymlaen yn y llinell, gw. isod.

13 Lloegr … llygaid  Treiglwyd y ddau air hyn yn LlGC 727D (o loegr yno), LlGC 17114B, Pen 137 a C 2.617; treiglwyd loegr yn unig yn LlGC 16964A. Ni threiglwyd y ddau air hyn yn y copïau eraill, sef y mwyafrif mawr. Mae’n debygol mai’r defnydd anarferol o’r rhagenw lluosog ’u mewn cysylltiad â pawb a achosodd y broblem yma. Yr arfer yw trin pawb fel ffurf unigol, ond yma mae’n rhaid darllen ’u er mwyn cadw ll- yn llygaid. Fe geir enghreifftiau o drin pawb fel ffurf luosog, gw. WG 307, ac mae’r llawysgrifau yn gryf iawn eu cefnogaeth i Lloegr … llygaid.

13 pawb  Llywelyn Siôn a LlGC 16964A Rai. Yr un oedd y rheswm dros y newid hwn, bid sicr, ag yn y nodyn blaenorol, sef y defnydd anarferol o’r rhagenw lluosog mewn perthynas â pawb. Wedi troi pawb yn Rai, bu’n rhaid newid berw yn Ryw er mwyn achub y gynghanedd.

13 a  LlGC 16964A i, ac yn Stowe 959 ni cheir dim yno.

14 pe  BL 14866 pan (gan dreiglo’r ferf sy’n dilyn), Stowe 959, Ba 1267, Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, BL 14976 a C 2.68 o (gan dreiglo’r ferf yn llaes).

14 ceisiech  Brog I.1 keisiwch, Stowe 959 chaissych.

14 Harddlech  Brog I.1, LlGC 727D, LlGC 17114B, BL 14978, Llst 53, Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, BL 14976 a C 2.68 harlech; harddlech yn y lleill. Nid oes dosbarthiad amlwg yma ac ni rydd y gynghanedd ateb. Mae hynny’n wir hefyd am 24 lle ceir yr enw eto. Dewiswyd y ffurf fwyaf hynafol: mae’n fwy tebygol fod Harddlech wedi ei newid yn Harlech na’r gwrthwyneb.

14 o  Gwyn 4 ni, Ba 1267 i.

14 o chaid  BL 14978 och haid.

15 bonfras  LlGC 3049D a Pen 77 bonbras, Ba 1267 benfras. Ymddengys fod golygyddion GGl wedi darllen benfras yn BL 14866 a C 2.617 (gw. GGl 131), ond nid oeddynt yn gywir yn hynny o beth.

15 o  LlGC 727D ar i, Llst 53 a Llst 134 a.

15 gas  LlGC 16964A glas.

15 i  Nis ceir yn Stowe 959.

16 fu i’r  Ceir y darlleniad hwn yng ngrŵp Dyffryn Conwy a Pen 137. Yn Brog I.1, LlGC 17114B, Llst 55, Stowe 959, Ba 1267, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A ceir vyr (a vyr gan Llywelyn Siôn mewn dau gopi), BL 14866 oedd ir, LlGC 727D ir (ac ychwanegwyd ai o’i flaen), BL 14978 ir, C 2.617 vn or, Llst 53 a fv/r/, BL 14976 a fv, C 2.68 fu. Rhaid cael dwy sillaf yma er mwyn hyd y llinell, ac mae’n hawdd gweld sut y gallai fu i’r gael ei gywasgu a chreu vyr ac yna fv, a newidiwyd eto wedyn mewn rhai copïau er mwyn adfer hyd y llinell. fu i’r sy’n gweddu o ran yr ystyr hefyd.

17–18  Nis ceir yn C 2.617.

17 fu’ch train a’ch tro  Felly Llywelyn Siôn, LlGC 16964A a BL 14976; gthg. Brog I.1 vyr tain ar to, grŵp Dyffryn Conwy a C 2.68 vwch train ach tro, BL 14866 ich train ach tro, LlGC 727D ar drvain dro, LlGC 17114B trai ach tro (→ i’ch train ach tro, llaw wahanol), Pen 137 train ach tro, BL 14978 driain dro, Llst 53 ywch trvain tro, Llst 55 bhv yth drain ath dro, Stowe 959 vych trin ach tro, Ba 1267 fu ych traenio. Mae’r dystiolaeth dros tro yn ddiymwad a’r dystiolaeth dros train yn gryf iawn. Llai sicr yw’r geiriau sy’n eu rhagflaenu, ond ceir tystiolaeth ddigon cryf i dderbyn a’ch o flaen tro. Erys y gair cyntaf yn broblem. Yn y bôn mae’n rhaid dewis rhwng fu’ch ac uwch. Anodd deall uwch yma. Fe geir ywch gan Guto yn amrywiad ar i’ch (e.g. 13.44), a byddai hynny’n rhoi synnwyr yma. Eto mae fu’ch yn rhoi synnwyr da hefyd ac yn cyferbynnu’n dwt â fu yn 16.

18 bonfras  Brog I.1 bonffras.

18 ar  Pen 77, BL 14866 a LlGC 17114B o.

19–20  Yn C 2.68 y drefn yw 20, 19.

19 ba  BL 14978, Llst 53, Stowe 959, Ba 1267, Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, BL 14976 a C 2.68 pa.

19 cysteg  Felly grŵp Dyffryn Conwy, C 2.617 a Llst 55; gthg. Brog I.1 kosd[ ]c, BL 14978, Llst 53 a thri o gopïau Llywelyn Siôn kosteg, a gosteg ym mhob copi arall. Nid yw costeg yn air hysbys: amrywiad orgraffyddol pur ydyw ar gosteg mewn calediad â rhag. Mae mwyafrif mawr y llawysgrifau o blaid gosteg, felly. Eto mae’n anodd gweld bod gosteg yn rhoi synnwyr da yn y cyd-destun, tra ceir synnwyr da o dderbyn cysteg. Byddai’n hawdd i’r naill neu’r llall o’r geiriau hyn gael ei ddisodli gan y llall, mor debyg ydynt, a hynny fwy nag unwaith.

20 ban … Benfro  Ni threiglir y geiriau hyn yn Llst 53, Stowe 959, Ba 1267, copïau Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, BL 14976 a C 2.68. Cf. 19n. Mae’r cymeriad, yn enwedig â llinell 21 lle mae b- yn sicr, o blaid b- yma.

20 friwyd  Gthg. Brog I.1 fyriwyd, grŵp Dyffryn Conwy vwriwyd, LlGC 727D fwryd, Llst 53 a C 2.68 friwed.

20 wal  Gthg. Brog I.1 gwal, Llst 55 a C 2.617 wall, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A walh, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68 vn.

21 bwriaist  Ba 1267 briwaist.

21 ergydiaist  Felly grŵp Dyffryn Conwy, BL 14866, LlGC 727D, LlGC 17114B, Pen 137; gthg. Brog I.1, Llst 55, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A yscydiaist neu esgydiaist, BL 14978 esgvdiaist, Ba 1267, C 2.617, BL 14976 a C 2.68 ysgydwaist, Llst 53 ysgwydddaist. Nid yw’r dewis o ferf yn effeithio ryw lawer ar yr ystyr.

22 Carreg  Llst 53 y gareg, Stowe 959 kaery.

22 Cennen  Brog I.1, Gwyn 4, LlGC 727D, LlGC 17114B, Pen 137, C 2.617 a Ba 1267 kynen, BL 14866 a LlGC 6511B cynnen, BL 14978, Llywelyn Siôn (ac eithrio LlGC 6511B) kymen, Llst 53 hen, BL 14976 keneu, C 2.68 genneg.

22 i’r  Pen 137 i.

23 ei chlawdd achlân  Felly LlGC 727D, LlGC 17114B (cywiriad), Llst 53, Llst 55, BL 14976 a C 2.68; gthg. Brog I.1 naichlawdd nachlan, grŵp Dyffryn Conwy a BL 14866 nai chlawdd achlan, LlGC 17114B nachawdd vwchlan, Pen 137 na clawdd na chlan, BL 14978 a C 2.617 nachlawdd nachlan, Stowe 959 ych lawdd nach lann, Ba 1267 i chlawdd ywchlan, Llywelyn Siôn i chlawdd awch lan, LlGC 16964A i chlawdd achann. Ni ellir derbyn unrhyw un o’r fersiynau sy’n rhoi na o flaen clawdd oherwydd ni cheir gair arall yn nes ymlaen i gyflawni’r gystrawen (na X na Y). Mewn rhai fersiynau ymddengys fod na wedi ei gyfuno â gair olaf y llinell er mwyn diwallu’r angen, ond nid enw mo achlân ac ni cheir y fath enw â clan. Y fersiwn a dderbyniwyd yw’r unig un sy’n rhoi synnwyr.

24 ywch  Felly mwyafrif mawr y llawysgrifau, er y ceir vwch yn LlGC 727D, LlGC 17114B a C 2.617. Rhaid dewis rhwng ywch (= i chi) ac uwch, gradd gymharol uchel, ar sail ystyr, ac mae’r ystyr yn gryf o blaid ywch. Disynnwyr fyddai sôn am glawdd sy’n uwch na’r castell ei hun, ac ni thycia’r ystyr ‘y tu hwnt i Harlech’ ychwaith. Gthg. GGl 129 sy’n darllen uwch.

24 Harddlech … chorddlan  Fel yn achos llinell 14, mae tystiolaeth y llawysgrifau’n amwys yma, ac yn anffodus gall corlan a corddlan ymgyfnewid fel y gall Harlech a Harddlech. Ceir -dd- yng ngrŵp Dyffryn Conwy, BL 14866 a C 2.617, ond nid yn Brog I.1, LlGC 727D, LlGC 17114B, Pen 137 (eto ysgrifennwyd harddlech yn wreiddiol ac yna dilewyd -dd-), BL 14978, Llst 53, Llst 55, Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68; cf. Stowe 959 harddlech … chorlann.

25 ni’th ery  Pen 137 nid ery, Stowe 959, Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, BL 14976 a C 2.68 ny ffery, Ba 1267 ni thru.

27–8  Nis ceir yn LlGC 16964A.

27 tair  Pen 77 gair.

28 taranau  Brog I.1 tyrianav, Llst 53, Stowe 959, Llywelyn Siôn tarianav, BL 14978 y tyranav.

29 yn gapteniaid  Felly Brog I.1, BL 14866, LlGC 727D, LlGC 17114B, BL 14978, C 2.617, Llst 53, Stowe 959, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68; gthg. grŵp Dyffryn Conwy a Llywelyn Siôn yn capteniaid, Pen 137 y capteniaid, LlGC 16964A yn vritaniaid. Byddai dilyn grŵp Dyffryn Conwy a Llywelyn Siôn a darllen ein capteniaid yn rhoi synnwyr da, ond yn wyneb y ffaith fod y darlleniad anos yn gapteniaid i’w gael mewn rhychwant mor eang o lawysgrifau, rhaid ei dderbyn.

29 tyn  Felly’r rhan fwyaf o’r llawysgrifau, ond mewn rhai mae’r calediad wedi tywyllu pethau: Brog I.1 hyn, Gwyn 4, BL 14866, LlGC 727D a C 2.617 yn(n).

30 iwmyn  Stowe 959 ynyn.

31 dy frodyr  Ba 1267 drifrodir.

32 dy  Ba 1267 deg.

32 i doi  LlGC 727D i dai, C 2.617, Ba 1267 a C 2.68 deav, C 5.44, LlGC 970E a BL 14976 Deav a (a ddilynwyd yn GGl).

34 goedydd  Brog I.1 gadoedd.

35 dringai  Llywelyn Siôn drygav, Ba 1267 dymvnai.

35 nid  BL 14978 ni, Stowe 959, Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, Ba 1267 a BL 14976 nad.

35 elai  C 2.617 ay.

35 ’r  Brog I.1 a Ba 1267 y, BL 14978 o, BL 14976 a C 2.68 i, yn C 2.617 a Llst 53 ni cheir dim yno.

36 d’orwyddfeirch  Brog I.1 trwy ddwyfron, LlGC 3049D a Pen 77 dorwyddvarch, LlGC 727D darweddfeirch, BL 14978 dorwydd faith, C 2.617, Llst 55, Stowe 959, Ba 1267, Llywelyn Siôn (ac eithrio Llst 134), BL 14976 a C 2.68 dy Rwyddfeirch, Llst 134 dy wyddfairch, LlGC 16964A dy ryddferch. Gwelir bod y dystiolaeth dros y ffurf luosog yn llethol, ond nid mor sicr yw elfen gyntaf y gair, ai gorwydd neu rhwydd. Eto orwyddfeirch yw’r lectio difficilior a cheir digon o gefnogaeth iddo yn y llawysgrifau.

36 dor  LlGC 727D, BL 14978 a C 2.617 dir, Ba 1267 i dorr.

36 y  Nis ceir yn Llst 55.

36 Wyddfa  Llywelyn Siôn a LlGC 16964A waiddfa.

37–40  Mae’r ddau gwpled hyn yn digwydd yn y drefn 39–40, 37–8 yn GGl 130. Nid ymddengys fod unrhyw sail i hynny yn y llawysgrifau, sy’n unfryd o blaid y drefn a geir yma (ac eithrio’r rhai sydd wedi colli 37–8).

37–8  Nis ceir yn Stowe 959, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68.

37 troes  Felly LlGC 727D, Pen 137, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A; gthg. Brog I.1 toest, grŵp Dyffryn Conwy, BL 14866, LlGC 17114B, BL 14978 a C 2.617 tores, Llst 53 troest. Mae’r dystiolaeth dros torres yn lle troes yn sylweddol, ac fe’i derbyniwyd yn GGl 130, ond serch hynny tila iawn yw’r gefnogaeth i stal yn lle ystal (gw. isod), ac felly byddai derbyn torres yn creu llinell ry hir.

37 mewn  Nis ceir yn Pen 77, wedi ei hepgor er mwyn cael 7 sillaf, bid sicr.

37 ystâl  BL 14866 a BL 14978 stal.

38 weunydd  Felly Brog I.1, grŵp Dyffryn Conwy a BL 14866; gthg. LlGC 727D, LlGC 17114B, Pen 137, BL 14978, C 2.617, Llst 53, Llst 55 a Llywelyn Siôn wynedd. Mae’r dewis yn anodd yma. Mae’r llawysgrifau yn pwyso o blaid Wynedd, ac mae’r cyd-destun (tir anial, greigiau) fel petai’n ffafrio weunydd. Gan fod y bardd yn yr adran hon yn rhestru’r mathau o dir anodd a groesodd Herbert (goedydd, dor y Wyddfa, tir anial, greigiau), gwell yw derbyn weunydd yma. Mae weunydd yn cyfoethogi’r ystyr, tra byddai Wynedd yn cadarnhau’r hyn sy’n amlwg eisoes, sef mai Gwynedd oedd cyrchfan yr ymgyrch.

38 a’r tir  Brog I.1 y tir, BL 14866 tiroedd.

39 greigiau  Brog I.1 greirie.

40 tir âr y gwnaut  Brog I.1 tir a gwevnydd, Pen 137 tiroedd y gwnavt, LlGC 16964A tri ar i gwnaid (→ tir âr y gwneit, llaw arall), Ba 1267 tir ar i gwnied.

41 Od enynnaist dân ennyd  Brog I.1 o damvnaist dim enyd, Ba 1267 O damvnaist damweiniaith, BL 14976 o damynaist damynwaith (cywirwyd gan law arall a roddodd y darlleniad arferol yn ei le), LlGC 16964A or denynaist dan enyd (cywirwyd wedyn drwy ddileu r), C 2.68 da i mynaisd dymvnwaith.

41 ennyd  Stowe 959 vn waith.

42 i gyd  Stowe 959, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68 vyr gwaith (cywirwyd BL 14976 → y gyd, cf. 41n).

44 dernio  Er na nodir y ffurf amrywiol hon ar darnio yn GPC 896, mae mwyafrif y llawysgrifau o’i phlaid; dim ond yn BL 14866, LlGC 727D, Pen 137, BL 14978, C 2.617, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68 y ceir darnio.

44 dyrnu  Brog I.1 darnv.

45 Herbart  Herbart neu Harbart a geir ym mhob copi ond BL 14866, Pen 137, C 2.617, Llst 53 a LlGC 16964A lle ceir Herbert. Gthg. 7n.

46 fal  LlGC 727D, BL 14978, BL 14976 a C 2.68 modd, LlGC 17114B velly.

47–8  Mae’r testun yn llwgr yma ym mhob copi. Ymranna’r llawysgrifau yn dri grŵp: (i) Brog I.1, grŵp Dyffryn Conwy, BL 14866 a LlGC 727D, lle ceir rhyw fersiwn ar y cwpled hwn; (ii) LlGC 17114B, Pen 137, BL 14978 a C 2.617, lle mae’r cwpled yn eisiau; (iii) Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68, lle ceir cwpled ychwanegol o flaen y cwpled hwn. Dim ond y cwpled ychwanegol a geir yn Llst 53, a chan mai nodiadau yn unig a geir yn Llst 55, ni ellir dweud i ba un o’r grwpiau hyn y mae’n perthyn, ond bod y cwpled ychwanegol yn sicr ynddi. Yn Gwyn 4 mae llaw wahanol i law y testun wedi dileu’r cwpled a rhoi’r cwpled ychwanegol yn ei le.

Mae ail linell y cwpled yn ddiogel; rhoddir y mân amrywiadau isod. Fodd bynnag, tywyll iawn yw ffurf llinell 47. Dyma’r amrywiadau: Brog I.1 a vv ore oll iffydd, grŵp Dyffryn Conwy a vv ar ffawd wr or ffydd, BL 14866 a vu ar fai o var fudd, LlGC 727D o bv ar ffawd neb or ffydd, Stowe 959 a BL 14976 y vy ar ffo ve gayff ffydd, Llywelyn Siôn a LlGC 16964A e vy ar ffo ef ai r ffydd, Ba 1267 fe fu ar ffo fe gaiff ffydd, C 2.68 A fo ar ffo feiwr ffydd. Gallwn gasglu mai ffydd yw’r gair olaf ac mai a fu ar, yn ôl pob tebyg, yw’r geiriau cyntaf. Rhaid wrth air unsill yn ff- i gyflawni hanner cyntaf y llinell, ac mae’r llawysgrifau yn cynnig ffawd neu ffo. Aneglur yw ail hanner y llinell ond ei fod yn cynnwys r i ateb ar o’r hanner cyntaf. Nid yw’n eglur a atebir fu, er y disgwylid hynny, efallai. Creu synnwyr ar draul y gynghanedd a wna darlleniadau Brog I.1, Stowe 959, Ba 1267 a BL 14976 ac mae’n rhaid eu gwrthod, tra mae BL 14866 a LlGC 727D wedi llwyddo i greu cynghanedd ac ystyr o fath, ond eto o’u hystyried ochr yn ochr â’r darlleniadau eraill edrychant fel ymgais bwriadol i wella’r llinell. Efallai fod hynny’n wir hefyd am ddarlleniadau Llywelyn Siôn, LlGC 16964A a C 2.68.

Mae’r sefyllfa yn mynd yn waeth o ystyried y cwpled ychwanegol a geir o flaen hwn yng ngrŵp (iii) ac yn lle’r cwpled hwn yn Llst 53. Dyma fersiwn Llst 53:

e fv ar bawl feiav /r/ byd
e ddifeiodd y fowyd.

Nid oes amrywiadau o bwys yn y copïau eraill: Stowe 959 ve vy ar bawl vaier byd / vo ddivaioedd y vywyd; C 2.68 bawb yn lle bawl. Credaf mai dyblygiad o’r cwpled dilys yw’r cwpled hwn. Gwelir bod e fv ar ddechrau’r llinell gyntaf yn adleisio a fu yn y cwpled dilys; bod bawl yng ngorffwysfa’r llinell gyntaf yn cynnwys yr un ddeusain â ffawd yn yr un safle yn y cwpled dilys mewn rhai copïau; bod y darlleniad feiav /r/ yn cynnwys yr union ddwy gytsain y disgwylid eu cael yn ail hanner y llinell yn y cwpled dilys, fel y nodwyd uchod; bod yr odl -yd yn eithaf tebyg i odl y cwpled dilys (-ydd). Nid yw’r ail linell yn debyg i ail linell y cwpled dilys, ond mae’n amlwg fod ei chynnwys wedi ei bennu gan yr angen i gyflawni synnwyr y llinell flaenorol. Os yw hyn oll yn wir, mae’n rhaid gofyn paham y ceir y ddau gwpled mewn rhai copïau. Efallai fod rhywun wedi nodi un cwpled wrth ymyl y ddalen mewn rhyw gynsail goll, a’i fod wedi ei gynnwys yn y testun yn nes ymlaen. Awgrymai hynny fod cynsail gyffredin i grŵp (iii), syniad sy’n cael rhyw faint o ateg gan ddarlleniadau eraill.

Os yw hynny’n wir, mae’n rhaid ystyried llinell gyntaf y cwpled ychwanegol wrth geisio adlunio llinell gyntaf y cwpled dilys. Mae bawl yn ategu ffawd, darlleniad copïau Dyffryn Conwy a LlGC 727D (na cheir y cwpled ychwanegol ynddynt). Gallai feiau /r/ ategu feiwr C 2.68, ond gwaetha’r modd mae lleoliad C 2.68 yn stema’r llawysgrifau yn ei gwneud yn sicr mai diwygiad ar ran y copïydd oedd feiwr ac mai darlleniad tebyg i Ba 1267 a BL 14976, sef (f)e gaiff, a oedd yn ei gynsail. Dylanwadwyd arno gan feiau a ddifeiodd yn y cwpled ychwanegol sy’n rhagflaenu’r cwpled dilys. Eto, ac ystyried yr angen i gael dwy sillaf yn cynnwys f ac r yma, mae’n bosibl fod y copïydd wedi taro ar y ffordd gywir. Yn wir, os feiwr a geid yn y gwreiddiol, fe allai fod wedi ysbarduno feiau yn y cwpled ychwanegol pan luniwyd hwnnw. Gan nad yw’r amrywiadau llawysgrifol yn cynnig unrhyw beth argyhoeddiadol yma, derbynnir feiwr yn y testun, ond gyda phetruster mawr. Anodd hefyd yw deall ergyd ar ffawd, onid yw’n disgrifio Paul wedi iddo dderbyn bendith y ffydd Gristnogol. Er mwyn derbyn hyn mae’n rhaid atalnodi mewn modd sy’n gwneud y gystrawen yn eithaf herciog: fal y bu Bawl / A fu ar ffawd: feiwr ffydd / O phaid, ef a gaiff fedydd ‘fel y bu Paul a gafodd ffyniant: eto, os bydd cystwywr ffydd / yn peidio, fe gaiff fedydd’. Yn ôl GPC 1279 ceir ffawt ‘bai’, benthycair o’r Saesneg fault. Dyfynnir enghreifftiau o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Byddai’n rhoi synnwyr da yma, a hefyd gystrawen rwyddach, ac yn betrus awgrymaf mai dyna a geid yma’n wreiddiol, ond i’r gair anghyffredin hwn beri anhawster i ddatgeiniaid a chopïwyr. Sylwer bod BL 14866 yn cynnwys yr ymadrodd cyfystyr a mwy cyfarwydd ar fai. Os yw’r adluniad hwn o’r llinell yn gywir, hawdd yw gweld sut y’i llygrwyd yn y copïau llawysgrifol: geiriau digon anghyfarwydd yw ffawt a beiwr (GPC 270). Unwaith bod y cwpled wedi ei lygru yn y modd a welir yn y llawysgrifau, y dewis hawsaf i unrhyw un a ddymunai gael synnwyr fyddai ei hepgor, oherwydd mae’r cyfeiriad at yr Apostol Paul yn 46 yn ddigon i gyfleu ystyr y bardd ac i ragbaratoi ar gyfer 49–50. Dyna fydd y rheswm paham y’i collwyd o grŵp (ii). Dilynodd GGl 130 arweiniad BL 14866, heb ateg o unrhyw lawysgrif arall.

48 O phaid, ef a gaiff fedydd  LlGC 727D o ffeidiai kaffai ffedydd, Stowe 959 O ffaid evo gayff vedydd, C 2.68 Ag o ffaid a gaiff fedydd.

50 ddynion  LlGC 16964A weinion.

50 â  Llst 134, LlGC 970E a LlGC 6511B o.

51 a  Nis ceir yn LlGC 17114B.

51 wnâi  Ba 1267 wna.

51 wledd  LlGC 17114B wleddoedd.

52 Gwynedd  Llst 53 gweiniaid, Ba 1267 tro Gwniedd.

52 y  LlGC 727D a, Ba 1267 a BL 14976 ar.

53 yn  BL 14978 a C 2.617 ar.

53 y fro  C 5.44, Llst 134 a LlGC 21290E (cywiriad) vawr, LlGC 970E vav, LlGC 6511B a LlGC 21290E (cyn cywiro) y vav, C 2.68 dy fro.

54 ni  LlGC 727D, BL 14978, Llst 53, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Ba 1267 a BL 14976 na, Pen 137 val na.

54 aller  Pen 137, BL 14978, Stowe 959 a Ba 1267 ellir, C 5.44 a Llst 134 ellych, LlGC 970E, LlGC 6511B a LlGC 21290E allech, C 2.68 allen.

54 chynullaw  Gwyn 4 a C 2.617 gynullaw.

55 friw  Gwyn 4 vwrw.

56 i fâr  Brog I.1, LlGC 17114B, Pen 137, BL 14978, Stowe 959, Ba 1267 a C 2.68 ar far, LlGC 3049D a Pen 77 o var, C 2.617 yn far; ceir i far yn y llawysgrifau eraill. Dim ond ar fâr ac i fâr a gefnogir gan nifer sylweddol o gopïau, ac mae’r gynghanedd o blaid i fâr.

57–8  Nis ceir yn BL 14866.

57 gweiniaid  LlGC 16964A gweinion.

58 na brad  Brog I.1 nadrwc, Llst 53, Llywelyn Siôn, Ba 1267 a LlGC 16964A nad frad.

59 blant  C 2.617 plant.

60 yn  C 2.617 a Ba 1267 vwch.

61 na ad  Cywasgwyd yn Brog I.1, LlGC 727D, LlGC 17114B (cywirwyd yn na ad gan law arall), BL 14978, C 2.617, Llst 53, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn, LlGC 16964A, BL 14976 a C 2.68. Awgryma’r dryswch yn nes ymlaen yn y llinell (gw. isod) fod gwahanol gopïwyr wedi ceisio adfer hyd cywir i’r llinell mewn gwahanol ffyrdd, sy’n awgrymu yn ei dro mai’r ffurf ddigywasgiad na ad a oedd yma’n wreiddiol.

61 f’arglwydd  Llst 53 fy arglwydd, ymgais i gael saith sillaf wedi cywasgu na ad; Ba 1267 Arglwydd.

61 swydd  LlGC 727D a C 2.68 vn swydd, Stowe 959 yn sswydd, LlGC 16964A sydd (cywirwyd gan law arall yn swydd), BL 14976 i swydd. Ymgais i gael nifer gywir o sillafau yn y llinell wedi cywasgu na ad yn nâd (cf. 56, 57, 59) yw’r rhan fwyaf o’r amrywiadau hyn eto.

61 i Sais  BL 14978, C 2.617 i vn sais, Llywelyn Siôn yno i sais, LlGC 16964A yno sais. Unwaith eto, ceisiwyd adfer hyd y llinell wedi cywasgu na ad yn nâd.

63 barna’n  LlGC 17114B branar yn (→ barna yn gan law arall), Pen 137 barna, C 2.617 bran yn, Llst 53 barn.

63 brenin  Brog I.1 barwn.

63 ein  Pen 137 yr, BL 14978 on.

64 bwrw  BL 14866 a bwrw.

64 y  Nis ceir yng ngrŵp Dyffryn Conwy, BL 14866, C 2.617, Llst 53, LlGC 16964A, Ba 1267, BL 14976 a C 2.68. Gellir amau iddo gael ei hepgor er mwyn rheoleiddio hyd y llinell, ond hawdd yw cywasgu yn fel yn BL 14866, LlGC 727D, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn (ac eithrio C 5.44) a BL 14976.

65 ’r awron  C 2.617 irion.

66 o  LlGC 727D a.

66 Farstabl  Achosodd yr enw lle dieithr drafferthion i’r copïwyr. Dilynir Brog I.1, grŵp Dyffryn Conwy, Llst 53 a BL 14976; gthg. BL 14866, Llywelyn Siôn a C 2.68 vastabl (→ varnstabl gan law arall yn BL 14866), LlGC 727D fenabl, LlGC 17114B varnstabl (o varnynstabl), Pen 137 varnynstbl, BL 14978 a C 2.617 fenstabl, Stowe 959 verstabl, LlGC 16964A vyrstabl, Ba 1267 fanstabl.

68 gwna  Brog I.1 a BL 14866 a gwna.

70 Cymru  LlGC 727D y kymry.

Dyma un o gywyddau mwyaf nodedig Guto’r Glyn: mawl a chyngor a gyflwynwyd i Wiliam Herbert tra oedd yn ei anterth. Drwy gipio castell Harlech a gorfodi ei garsiwn ystyfnig i ildio i Edward IV, cafodd Herbert wared o gadarnle olaf y Lancastriaid yn y deyrnas, a chyn pen dim byddai Edward yn ei wobrwyo’n hael am ei wasanaeth drwy ei ddyrchafu’n iarll Penfro. Ymdriniaeth D.H. Thomas (1994: 36–40) â’r ymgyrch yw’r fanylaf a gyhoeddwyd hyd yn hyn, ac o’r gwaith hwnnw y tynnwyd y manylion amdani a grybwyllir isod ac eithrio lle nodir ffynhonnell arall.

Gellir dyddio’r cywydd yn fanwl: perthyn i’r cyfnod byr rhwng cwymp castell Harlech ar 14 Awst 1468 a dyrchafiad Wiliam Herbert yn iarll Penfro ar 8 Medi yr un flwyddyn. Dengys llinellau 23–4 fod y castell yn nwylo Herbert, ond nis enwir yn iarll, peth hollol anghredadwy petasai eisoes wedi ei anrhydeddu. Yr unig Gymro a gawsai iarllaeth o’r blaen oedd Siasbar Tudur, a oedd yn hanner brawd i Harri VI o du ei fam. Yn wir, mae Guto’n galw Herbert yn Arglwydd Herbert ddwywaith (3, 7), sef y teitl uchaf a ddygai cyn cael ei wneud yn iarll (gw. 3n).

Erbyn 1468 castell Harlech oedd yr unig gastell yng Nghymru a Lloegr a oedd yn dal i fod yn nwylo’r Lancastriaid. Yn sgil brwydr Towton (29 Mawrth 1461) disodlodd Edward IV o deulu Iorc y brenin Harri VI o linach Lancastr a deyrnasai (mewn enw) er 1422. Roedd nifer o gadarnleoedd yng ngogledd Lloegr a Chymru yn dal i fod ym meddiant cefnogwyr Lancastr ac roedd Harri VI a’i deulu yn parhau i greu helynt yn Northumberland. Byddai’r trafferthion yng ngogledd Lloegr yn mynnu sylw Edward IV droeon yn ystod y 1460au cynnar (Ross 1974: 45–63), ac mae’n eglur ei fod wedi penderfynu’n gynnar iawn yn ei deyrnasiad y byddai’n ddoeth trosglwyddo’r cyfrifoldeb am Gymru i un unigolyn. Trodd at un o’i gefnogwyr pwysicaf yno, sef Wiliam, Arglwydd Herbert, bonheddwr o Raglan yn arglwyddiaeth Brynbuga. Drwy gydol y degawd bu’n anrhegu Herbert â theitlau, rhagorfreintiau, anrhydeddau a thiroedd, gan ei ddyrchafu’n uwch nag unrhyw Gymro ers cyn cof, bron. Yn dâl am hyn oll cynhaliodd Wiliam Herbert achos y brenin yng Nghymru. Ei brif gamp oedd meddiannu’r cestyll yn ne Cymru a ddelid gan y Lancastriaid yn 1461. Cipiodd gastell Penfro y flwyddyn honno a chastell Carreg Cennen yn 1462, digwyddiadau y cyfeiria Guto atynt yn 19–22. Dewiswyd eraill i arwain cyrchoedd yn erbyn Harlech, ond ofer fuont: ni lwyddodd neb i ddisodli garsiwn y castell, a oedd dan arweiniaeth Dafydd ab Ieuan ab Einion. O ganlyniad, anodd iawn oedd cynnal awdurdod y brenin yn sir Feirionnydd, ac os gallwn roi coel ar y gerdd hon, roedd cryn wrthwynebiad i Edward yn nwy sir arall y Dywysogaeth yn y Gogledd hefyd, sef sir Fôn (cf. 12) a sir Gaernarfon (cf. 36 Y Wyddfa, 40 Eryri).

Ymddengys mai cynllun gan Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, i lanio yn sir Feirionnydd yn gynnar yn 1468 a brociodd y brenin i awdurdodi un ymdrech arall i gipio’r castell. Y tro hwn penodwyd Wiliam Herbert i arwain y llu. Dengys y cywydd fod byddin Herbert wedi teithio i’r Gogledd mewn tair rhan. Trechwyd Siasbar Tudur gan frawd Wiliam, Rhisiart Herbert, ar ôl i Siasbar losgi tref Dinbych (Ross 1974: 114). Casglwn, felly, mai Rhisiart oedd arweinydd un o’r lluoedd. Wiliam ei hun, wrth gwrs, fyddai wedi arwain un o’r lleill, a dichon mai ei frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, Barwn Ferrers o Chartley, oedd y trydydd cadfridog: ef, wedi’r cwbl, a gydenwyd â Herbert yn y comisiwn a roddodd y brenin iddynt ar 3 Gorffennaf, yn eu hawdurdodi i godi lluoedd er mwyn gwrthwynebu Siasbar Tudur. Ni wyddom fawr mwy am hanes yr ymgyrch, gan mai prin iawn yw’r ffynonellau cyfoes, ac eithrio fod y castell wedi ei ildio rywbryd ar ôl methiant ymgyrch Siasbar Tudur. Nid yw’n sicr pa faint o wrthwynebiad a dderbyniodd byddin Herbert. Y brif ffynhonnell yw’r cronicl a gysylltir yn gyfeiliornus â William Worcester (Stevenson 1864: 791; DNB (Online) s.n. Worcester, William. Ceir mwy o fanylion yn hanes teulu’r Herbertiaid, sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg ac y cedwir copi ohono yn C 5.7, ond mae’n anodd gwirio’r disgrifiadau lliwgar a geir ynddo, ac yn wir mae’n rhaid amau bod dylanwad y gerdd hon arnynt. Mae hynny’n wir hefyd am sylwadau Syr Siôn Wyn o Wydir (Evans 1915: 168–9). Mae’r gerdd hon, ar y llaw arall, yn ffynhonnell gyfoes werthfawr sy’n agos gysylltiedig â Herbert ei hun, a thrafodir ei thystiolaeth yn y nodiadau ar y llinellau unigol. Gresyn, felly, fod rhan gyntaf y gerdd yn arbennig mor anodd ei deall.

Nid cerdd o fawl unplyg mo hon. Mae’n apelio’n daer ar Herbert i arbed pobl Gwynedd rhag ei ddial. Ymddengys fod Guto’n ymddwyn fel llefarydd neu gyfryngwr ar ran boneddigion y wlad (cf. 51–2). Roedd gan Guto nifer fawr o noddwyr yn y Gogledd-orllewin ac mae hefyd yn debygol ei fod ef ei hun yn frodor o Edeirnion yn sir Feirionnydd (gw. cerdd 20), felly gall fod elfen bersonol yn yr ymbiliad. Ond neges fwyaf trawiadol y gerdd yw’r pwyslais ar Gymreictod a’r weledigaeth o Gymru fel un wlad (67–70) mewn gwrthgyferbyniad â Lloegr. Byddai’n ddiddorol gwybod beth oedd ymateb Herbert, gŵr yr oedd ei holl rym a’i awdurdod yn dibynnu ar ffafr brenin Lloegr, i’r llinellau hyn. Maent yn ein hatgoffa fod amgylchiadau gwleidyddol y canu mawl Cymraeg yn gymhleth ac yn ansicr i ni heddiw. Pwy oedd yn gyfrifol am gynnwys cerddi mawl, y noddwr ynteu’r bardd? A oedd Herbert wedi rhoi sêl ei fendith ar yr apêl hon ymlaen llaw, neu a oedd y bardd yn yr achos hwn yn gweithredu dros garfan allanol (gwŷr Gwynedd), neu a oedd yn lleisio neges bersonol? Gall hefyd fod cyfuniad o’r posibiliadau hyn ar waith.

Dyddiad
Rhwng 14 Awst 1468 a dyrchafiad Wiliam Herbert yn iarll Penfro ar 8 Medi yr un flwyddyn.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XLVIII; Lewis 1982: cerdd 14. Golygiad electronig gan Helen Fulton, gw. www.medievalchester.ac.uk/texts/reading/wp_08.html [darllenwyd 22 Ionawr 2010].

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 37% (26 llinell), traws 24% (17 llinell), sain 36% (25 llinell), llusg 3% (2 linell).

1 tri llu  Pwy yw’r rhain? Gallwn gymryd mai Wiliam Herbert yw yr Arglwydd Wiliam, arweinydd yr ail lu, gw. 3n. Y cwestiwn i’w benderfynu yw ai tair rhan byddin Wiliam Herbert yw’r rhain, sef y tair cad, tair plaid a’r tair ystâl a grybwyllir yn 27, 29 a 37, ynteu byddin Herbert yn ei chrynswth a dau lu o’r gorffennol y cymherir ymgyrch Herbert â’u camp. Os y tri llu cyfoes a ffurfiodd fyddin Herbert yw’r rhain, rhaid mai enwau cyfoeswyr Wiliam Herbert yw’r Pil (3) a’r Fepwnt (4), a’u bod yn arweinwyr ar y ddwy golofn arall. Fodd bynnag, ni lwyddais i ddod o hyd i’r enwau hyn yn unman mewn perthynas ag ymgyrch 1468 nac unrhyw ymgyrch arall yn y bymthegfed ganrif. Gwyddys i sicrwydd mai Rhisiart Herbert, brawd Wiliam, a arweiniodd un o’r lluoedd yn 1468, gan y dywed croniclwr dienw mai Rhisiart a orchfygodd Siasbar Tudur, ger Dinbych yn ôl pob tebyg, cyn cwymp castell Harlech (Thomas 1994: 38; Stevenson 1864: 791 Dominus Herbert … per fratrem suum devicit in campo dictum Jasper). Nid yw’r enwau y Pil nac y Fepwnt yn cyfeirio ato ef, hyd y gellir barnu. Ni cheir goleuni o ddarllen ficwnt (= viscount) ychwaith, fel a geir mewn rhai llawysgrifau. Teitl anghyffredin oedd is-iarll yn Lloegr yn y bymthegfed ganrif. Fe’i cyflwynwyd gan Harri VI yn 1440, gw. OED Online s.v. viscount, ond unwaith yn rhagor ni cheir sôn am unrhyw is-iarll yn cymryd rhan yn yr ymgyrch yn erbyn Harlech. Awgryma Helen Fulton mai Rhisiart Herbert a olygir, ond mae OED Online l.c. yn disgrifio viscount yn yr ystyr ‘son or younger brother of a count’ fel ‘continental usage’, ac fel y dadleuwyd uchod, nid oedd Wiliam Herbert eto wedi ei urddo’n iarll, y radd sy’n cyfateb i’r ‘count’ cyfandirol. Mae’r llawysgrifau hefyd yn gryf iawn o blaid Fepwnt, gw. 4n (testunol). Ar y llaw arall, gellir adnabod un Fepwnt hanesyddol a allai wneud y tro, gw. isod. Triawd o luoedd hanesyddol yw’r tri llu aeth i Gymru gynt, felly, a llu Wiliam Herbert wedi ei ddyrchafu’n anrhydeddus i’w plith.

1 i Gymru  Mae’n bur debygol y byddai lluoedd Herbert wedi mwstro rywle yn y Gororau, oherwydd arweiniai wŷr o’r siroedd Seisnig yn ogystal â gwŷr o’r arglwyddiaethau yng Nghymru, gw. Thomas 1994: 38.

1 gynt  Gall y gair hwn gyfeirio at hanes diweddar iawn, felly nid yw’n faen tramgwydd o ran deall mai llu 1468 yw’r ail lu a grybwyllir.

2 Trwy Wynedd y trywenynt  Ceir yr un llinell yn y cywydd i’r eira sydd ymhlith apocryffa Dafydd ap Gwilym, gw. DGA 41.23. Yno mae’n disgrifio plu eira’n disgyn yng Ngwynedd.

3 llu’r Pil  Cyfeiriad hollol dywyll. Yn GPC 2215 d.g. llu awgrymir bod llu’r pil yn dynodi ‘a proverbial band of marauders’ a bod pil yn tarddu o’r Saesneg Canol pile ‘to pillage, plunder’, gw. OED Online s.v. peel, v.1. Mae llu’r Pil yn ymadrodd hysbys, o leiaf ymhlith y beirdd, oherwydd fe’i ceir ddwywaith gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn a hefyd gan Siôn Ceri, ond nid yw eu cyfeiriadau’n taflu unrhyw oleuni arno (GDLl 47.25–6 Llu’r Pîl, ai llai ŵyr paham / Lle’r êl â’i hollwyr Wiliam; ibid. 51.43–4 Bwyd ormod i bedeirmil, / A llawer pen fal Llu’r Pîl; GSC 39.43–4 Ac o wraidd y gaer eiddil / Dryllio’r porth draw, a llu’r Pil (efallai y dylid hepgor y coma a darllen â llu’r Pil)). Ymddengys fod llu’r Pil yn yr enghreifftiau hyn yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol i ddynodi llu mawr iawn, a’i fod yn wreiddiol yn enw ar lu hanesyddol neu chwedlonol penodol. Mae hynny’n cryfhau’r achos dros ddehongli tri llu yn dri llu hanesyddol yn hytrach nag yn dair rhan byddin Wiliam Herbert, cf. 1n. Fe allai ymgyrch Wiliam fod wedi mynd yn ddigon o ddihareb i gael ei chrybwyll gan y beirdd eraill hyn, ac ni ellir profi bod yr un o’r cyfeiriadau eraill at llu’r Pil yn gynharach na 1468, ond go brin y byddai un rhan o fyddin Herbert wedi ennill cymaint o fri â hynny, yn enwedig un nad arweiniwyd ganddo ef. Llu o’r gorffennol, felly, yw llu’r Pil, fel hefyd llu’r Fepwnt (gw. 4n). Berf yw peel ‘to plunder, pillage, spoil’ yn Saesneg, nid enw, gw. OED Online s.v. peel, v.1, ac nid yw dehongliad petrus GPC 2215 ‘the host of pillage’ yn argyhoeddi. Ceir digon o eiriau tebyg eraill yn Saesneg, gydag ystyron megis ‘stake, palisade; small castle or tower; shovel, baker’s shovel’, gw. OED Online s.v. peel, n.1, peel, n.2, ond anodd meddwl am unrhyw ymgyrch hanesyddol a weddai i’r un o’r rhain. Gall hefyd fod y gair Cymraeg yn tarddu o pill neu pile, gyda rhychwant o ystyron eraill. Ond gan fod enw priod ynghlwm wrth y ddau lu arall a grybwyllir (llu’r Arglwydd Wiliam, llu’r Fepwnt), y tebyg yw mai enw priod yw Pil hefyd ac rwyf yn ei sillafu â phriflythyren o’r herwydd. Am y fannod gydag enwau priod, megis cyfenwau, gw. TC 3–4, GMW 26. Dichon mai cyfenw Saesneg neu Ffrangeg yw Pil, megis Fepwnt sy’n Gymreigiad o (de) Vieuxpont. Tyn GDLl 203 sylw at yr enw lle Y Pîl ym Morgannwg, ond unwaith eto ni cheir unrhyw gysylltiad hysbys rhwng y lle hwnnw ac ymgyrch milwrol yn erbyn Gwynedd. Awgrymodd Saunders Lewis (1976: 95n3) mai byddin Harold Godwinson oedd llu’r Pil. Ymosododd Harold ar Gymru yn 1063 a dymchwel grym Gruffudd ap Llywelyn, yr unig frenin o Gymro i reoli Cymru gyfan yn yr Oesoedd Canol. Yn ôl Gerallt Gymro cododd Harold golofnau ar draws Cymru i ddathlu ei fuddugoliaeth, ac un o ystyron pile yn Saesneg yw ‘colofn’, gw. OED Online s.v. pile, n.1. Nid yw hyn yn argyhoeddi yma – yn un peth, disgwylid lluosog pil.

Posibilrwydd arall yw cyfeiriad at Pill, sir Benfro. Ymosododd Llywelyn Fawr o Wynedd ar briordy Pill yn 1220, gw. Ludlow et al. (2002), 46. Gwaetha’r modd, nid ymosodiad ar Wynedd oedd hwn.

Yn olaf, mae’n werth crybwyll brwydr Piltown (Baile an Phoill yn Wyddeleg), swydd Kilkenny, Iwerddon. Cymerodd le yn 1462 yn rhan o Ryfeloedd y Rhosynnau, felly gallai fod yn ddigon hysbys i Guto a’i gynulleidfa. Roedd yn frwydr nodedig am nifer y rhai a laddwyd. Eto, nid oes awgrym fod neb o Gymru wedi bod â rhan ynddi. Gw. Curtis 1938: 326.

3 yr Arglwydd Wiliam  Rhoddwyd y teitl hwn i Wiliam Herbert yn 1461 (Thomas 1994: 24), a dyma’r teitl a ddygodd nes derbyn yr iarllaeth ym mis Medi 1468. Gwrthodir barn Saunders Lewis (1976: 95) mai Gwilym Gwncwerwr yw hwn. Heb sôn am chwithdod galw brenin yn Arglwydd, ni chredir bod Gwilym wedi mynd ar gyfyl Gwynedd (cf. Lloyd 1911: 393). Menter breifat, i bob pwrpas, oedd goresgyniad cyntaf Gwynedd gan y Normaniaid a adlewyrchir yn Llyfr Domesday (1087). Fe’i harweiniwyd gan Hugh Fras, iarll Caer, a Robert o Ruddlan. Ar y llaw arall, fe arweiniodd y Brenin Gwilym II un ymgyrch yn erbyn Gwynedd yn 1095 (Lloyd 1911: 405), ond go brin mai ef yw Arglwydd Wiliam yma. Mae’n werth hefyd nodi ymgyrch Edward I yn erbyn gwrthryfelwyr 1294, pan aeth tri llu i Gymru, un ohonynt dan arweiniad William Beauchamp, iarll Warwick (Smith 2009: 51–3). Fodd bynnag, nid oes unrhyw sôn am neb o’r enw y Pil neu’r Fepwnt mewn perthynas ag ymgyrch 1294.

4 y Fepwnt  Robert de Vieuxpont, ffefryn i’r brenin John a enwir ddwywaith ym ‘Mrut y Tywysogion’ (gw. Lloyd 1911: 638–9). Ceir y ffurf Robert Vepwnt yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o’r Brut a hefyd yn ‘Brenhinoedd y Saeson’; Robert Vipwnt yw’r ffurf yn Peniarth 20 (Jones 1941: 158; 1955: 194; 1971: 206). Fe’i hapwyntiwyd yn stiward y brenin ym Mhowys a daliodd gastell Mathrafal yn erbyn lluoedd Llywelyn Fawr yn 1212. Bu’n rhaid i’r brenin ddod i’w achub, a sonia’r Brut am y brenin yn arwain diruawr lu (Jones 1955: 194, &c.). Y tebyg yw mai hwn yw llu’r Fepwnt. Mae’r ail gyfeiriad at Fepwnt (Jones 1955: 194, &c.) yn nodi ei fod wedi crogi gwystl o Gymro. Mae’n broblem nad Vieuxpont a arweiniodd y diruawr lu. Problem fwy eto yw nad oes arwydd fod y llu hwn wedi mynd i Wynedd. Ond go brin fod dau ŵr o’r enw Fepwnt mewn llenyddiaeth Gymraeg Canol. Daeth llinach Robert de Vieuxpont i ben tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg. Tirfeddianwyr yn Westmorland, gogledd Lloegr, oedd ei deulu. Ni chrybwyllir ef mewn perthynas â Chymru eto.

Mae’n anodd iawn deall paham y dewisodd Guto gynnwys cyfeiriad mor dywyll yma. Os oedd yn rhaid meddwl am fyddinoedd enwog a ymosododd ar Wynedd, ni fyddai prinder dewis. Beth am ymgyrchoedd Edward I, er enghraifft, neu Harri II, neu Edwin o Northumbria yn y seithfed ganrif, neu gwymp Harlech ei hun i Harri tywysog Cymru yn 1409 ar ôl methiant gwrthryfel Glyndŵr? Yn wir, mae’r cyfeiriad mor chwithig fel ei bod yn demtasiwn gwrthod Robert de Vieuxpont a chwilio am Fepwnt arall. Ond ni lwyddais i ddarganfod un.

4 paham  Am ei ddefnyddio’n enwol, gw. GPC 2669.

5 tair ffordd  Mae rhediad yr ystyr yn droellog yn 5–8. Byddai’n naturiol disgwyl i’r tair ffordd gyfateb i’r tri llu a ddisgrifir yn 1–4, ond ymddengys yn hytrach eu bod yn cyfeirio ymlaen at luoedd Herbert yn benodol. Ni fyddai problem, wrth gwrs, petai modd deall y tri llu fel tri rhaniad byddin Herbert, ond rwyf eisoes wedi rhoi rhesymau dros wrthod hynny (gw. uchod). Cymerir, felly, fod 5–8 yn ffurfio brawddeg, ac y gweddiir ar Dduw i arwain lluoedd Herbert yn ddiogel ar hyd y tair ffordd. Mae’r bardd yn chwarae gydag amser yn rhan gyntaf y gerdd, gan gymryd arno fod yr ymgyrch ar gerdded a’r canlyniad heb ei bennu eto, cf. 13–14. Ond mae 23–4 yn dangos bod castell Harlech wedi cwympo eisoes.

Ceir un posibilrwydd arall, fodd bynnag, sef bod y tair ffordd hyn yn gysylltiedig â’r tri llu mewn gwirionedd, a bod clawdd Offa a Sarn Elen yn dynodi’r ffyrdd yr aeth llu’r Pil a llu’r Fepwnt i Wynedd. Os felly, ni allwn fod yn sicr eu bod yn berthnasol i’r tair rhan a ffurfiodd fyddin Wiliam Herbert wedi’r cwbl.

5 clawdd tir Offa hen  Codwyd Clawdd Offa yn yr wythfed ganrif ar y ffin rhwng Mersia, teyrnas y Brenin Offa, a’r teyrnasoedd Cymreig. Sonnir, felly, am lwybr ar hyd y ffin neu drwy rannau gorllewinol swydd Henffordd a swydd Amwythig.

6 siwrnai Wiliam  Er mwyn cael tair ffordd, mae’n rhaid trin y geiriau hyn i ddynodi ffordd arall, nid mewn cyfosodiad â Sarn Elen. Hynny yw, nid ar hyd Sarn Helen yr aeth Wiliam Herbert ei hun i’r Gogledd, ond rhyw ffordd anhysbys arall. Gallwn fentro bod y llu dwyreiniol, yr un a aeth ar hyd Clawdd Offa, dan arweiniad Rhisiart Herbert, oherwydd mai ef a orchfygodd Siasbar Tudur ar ôl i Siasbar losgi tref Dinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gw. 1n. Rhaid bod Herbert wedi mynd ar hyd rhyw ffordd rhwng y ddau lu hyn. Posibilrwydd arall yw bod Herbert wedi mynd mewn llong, oherwydd yn sicr byddai gosod castell Harlech dan warchae yn golygu bod angen llongau arno.

6 Sarn Elen  Sarn Elen neu Sarn Helen, yr hen ffordd Rufeinig ar hyd gorllewin Cymru o Gaerfyrddin i afon Conwy. Cysylltir y ffordd hon ag enw Elen yn y chwedl ‘Breuddwyd Macsen Wledig’, gw. BrM2 lxv, lxxxi, 8. Mewn cywydd i noddwr yn Ninbych mae Tudur Aled yn honni bod Sarn Elen dan ei sang o bobl yn heidio i’w dŷ, gw. TA XXV.49.

9 glaw gynt  Methodd sawl ymgais i gipio castell Harlech cyn ymgyrch Wiliam Herbert, gw. Ross 1974: 120. Nid oes rhaid deall y cyfeiriad yn llythrennol fel y gwnaeth rhyw sylwebydd a ysgrifennodd wrth ymyl y ddalen yn BL 14866 pan doeth mongym[   ] i faelawr ac i bode[     ] dyfrdwy y [       ] seisnig. Meddwl yr oedd am ddigwyddiad yn ystod gwrthryfel Glyndŵr a goffawyd mewn cywydd nodedig gan Fadog ap Gronw Gethin, gw. Evans 1988.

11 dewiniais  Mae Guto’n chwarae’r bardd brudiol yma, gan awgrymu, felly, mai Herbert yw’r mab darogan.

12 dyn a’i medd  Edward IV sy’n meddu ar Wynedd.

14 pe … o  Mae trefn yr elfennau yn 13–14 yn astrus. Mae’r cymal amodol o chaid i’w ddeall gyda pawb a rôi’u llygaid, ac mae pe ceisiech Harddlech i’w gymryd yn amod pellach. O’u had-drefnu: rhoddai pawb eu llygaid pe cipid castell Harlech, petai Herbert yn rhoi cynnig arni.

14 Harddlech  Castell a adeiladwyd gan Edward I yn sgil goresgyniad Gwynedd yn 1282–4. Mae’r safle, ar frig bryn serth ar lan y môr, yn ei wneud yn anodd iawn i’w oresgyn. Nid oedd Morfa Harlech, y tir gwastad sydd heddiw yn gwahanu’r castell oddi wrth y môr, yn bodoli yn yr Oesoedd Canol.

15–18 Chwedl bonfras … / … / … Benfro  Mae’r pedair llinell hyn yn astrus. Ansoddair sy’n disgrifio paladr cydnerth gwaywffon yw bonfras, cf. GLMorg 43.9 wayw bonfras, GSC 41.53 Tor wayw bonfras trwy Benfro, a cheir blaenfain yn disgrifio llafn dagr yn GRhG 5.48 Lem flaenfain fal adain edn. Cyfosodir, felly, gadernid a llymder, ill dau yn gyneddfau i’w canmol mewn gwaywffon fel mewn dyn. Ceir enghraifft go debyg gan Lewys Môn sydd hefyd yn cyplysu’r gair bonfras a’r syniad o lafn gyda’r gair chwedl, GLM XXV.9–10: Blaen y chwedl, blin awch, ydoedd: / ban fu roi sawd bonfras oedd. Nid yw ystyr chwedl yn eglur yn llinell Lewys Môn nac yng nghywydd Guto’r Glyn. Mae’n arbennig o anodd deall chwedl bonfras fel cyfuniad. Yn GPC 846–7 d.g. chwedl1 nodir yr ystyron disgwyliedig (‘stori, hanes, … newydd, adroddiad’) a hefyd ‘mater(ion), achos(ion); gweithred(oedd)’. Y ffordd leiaf trafferthus o’i ddehongli yw derbyn yr ail ystyr a deall bonfras yn enwol, fel cyfeiriad at Herbert, yn hytrach nag yn ansoddair yn goleddfu chwedl. Felly ‘gweithgarwch y gŵr cadarn’ yw chwedl bonfras. Gall hefyd fod chwedl bonfras yn golygu ‘newyddion am y gŵr cadarn’, a bod y bardd yn sôn naill ai am effaith y newyddion fod Herbert ar ei ffordd ar y garsiwn (y ‘bobl ynfyd’) neu effaith y newyddion fod Harlech wedi syrthio ar gefnogwyr Lancastr (y bobl ynfyd eto) yn gyffredinol. Deellir chwedl blaenfain yn 17 mewn modd tebyg, a blaenfain yn enwol yn hytrach nag fel ansoddair yn goleddfu chwedl: ‘gweithgarwch gŵr llym ei fin’, felly, ond nid amhosibl ‘newyddion a frathai’n llym’.

18 Penfro  Buasai tiroedd yr arglwyddiaeth ym meddiant Wiliam Herbert er 1461 (Thomas 1994: 24). Nid yw’r cyfeiriad hwn yn golygu, felly, fod Herbert eisoes yn iarll Penfro pan ganwyd y gerdd hon.

19 ba well  Am yr ystyr ‘pa fudd yw?’ neu ‘beth yw diben?’, cf. TA LXVIII.42 Pa well dysg heb y pwyll da?; GLMorg 10.3 pa well ymladd?; 18.19–20 Pa well urddas? Pell orddwy. / Pa les meirch i’r palis mwy?; HCLl XXVIII. 46 Pa well i hael pallu hwn? Mae’r bardd yn awgrymu bod cwymp Penfro i Wiliam Herbert wedi dangos na all unrhyw gastell ei wrthsefyll. Posibilrwydd arall yw bod ba well castell yn golygu ‘pa gastell gwell?’, gan awgrymu mai Penfro oedd y castell gorau oll.

20 Penfro  Ildiwyd y castell i Herbert ar 30 Medi 1461, gw. Thomas 1994: 25–6.

22 Carreg Cennen  Castell yn sir Gaerfyrddin sy’n sefyll ar fryn uchel nodedig. Fe’i delid gan Domas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, ar ran Harri VI. Ildiwyd y castell i Wiliam Herbert erbyn 1 Mai 1462 ac yna dinistriwyd ei amddiffynfeydd gan weithlu o 500, gw. Griffiths 1993: 28. Dyma esbonio’r cyfeiriad at ben y castell yn cael ei hyrddio i lawr i’r cwm.

23 ei chlawdd  Rhaid mai at Harlech y cyfeirir, cf. 24. Nid yw’n sicr beth yw’r clawdd yma, ai ffos y castell, ai ei fur, gw. GPC 491.

25 ery  Am aros yn yr ystyr ‘gwrthsefyll, gwrthwynebu’, gw. GPC2 461 (c).

27 teirgwlad  Ansicr: cyfeiriad penodol neu amhenodol?

29 yn gapteniaid  Nid yn llythrennol: sonnir am filwyr o statws uwch na’r iwmyn (30) a’r werin (33).

30 tair mil, nawmil  Unwaith eto mae’r gystrawen yn anodd i’w dilyn. Ai tair mil oedd rhif y capteniaid (beth bynnag mae hynny yn ei olygu, cf. 29n), a nawmil rhif y milwyr eraill (iwmyn)? Ceid felly gyfanswm o 12,000. Rhydd y croniclwr cyfoes y nifer 10,000 ar gyfer llu Herbert (gw. Thomas 1994: 38; Stevenson 1984: 791 cum numero decem milium armatorum). Fel sy’n gyffredin mewn disgrifiadau o frwydrau yn yr Oesoedd Canol, mae’r nifer nid yn unig yn amrywio’n ddirfawr o ffynhonnell i ffynhonnell, ond hefyd yn anghredadwy o uchel ym mhob un.

31 dy frodyr  Gwyddys bod Rhisiart Herbert wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch. Roedd Siôn Herbert a Rhosier Fychan o Dretŵr, sef brawd a hanner brawd Wiliam Herbert, yn aelodau o’r comisiwn a apwyntiwyd gan y brenin ym mis Gorffennaf 1469 i ymgodymu â’r sefyllfa yng ngogledd Cymru, felly dichon eu bod hwythau wedi eu cynnwys yma hefyd. Gw. Thomas 1994: 38.

33 gwerin  Yn yr ystyr ‘milwyr cyffredin’, cf. 3.52 Gwerin gwlad Dolffin.

35 da  Gwartheg oedd y prif anifeiliad a gedwid yn Eryri hyd y ddeunawfed ganrif, ac roeddent i’w cael hyd yn oed yn y mannau uchaf, gw. Roberts 1959: 317–18. Ergyd y gymhariaeth yw bod Herbert wedi gyrru ei feirch rhyfel yn uwch na’r gwartheg hyd yn oed.

36 y Wyddfa  Nid yw’r ffynonellau cyfoes yn dweud rhyw lawer am ymgyrch Herbert ac eithrio’r ddwy ffaith foel fod Siasbar Tudur wedi ei drechu mewn brwydr ar ôl iddo losgi tref Dinbych, a bod castell Harlech wedi syrthio wedyn (tystiolaeth y croniclwr dienw, Stevenson 1864: 791). Mae’n anodd gweld bod angen dringo’r Wyddfa er mwyn mynd o Ddinbych i Harlech, ond os oedd Herbert yn erlid ffoaduriaid ar y ffordd i’r castell, efallai iddo ddilyn llwybr anunion tuag yno. Fel arall, gall fod y bardd yn sôn am anrheithio Gwynedd fel cosb yn sgil cwymp Harlech.

40 tir âr  Hynny yw, mae olion meirch a cherti byddin Herbert wedi torri wyneb caregog tir Eryri yn rhychau fel cwysi mewn cae wedi ei aredig.

40 gwnaut  -ud oedd terfyniad gwreiddiol yr ail unigol amherffaith, ond pan ddilynid y ffurf gan y rhagenw di fe galedid y ddwy d yn t. Ymledodd y t wedyn i’r ffurf ferfol hyd yn oed lle na cheid y rhagenw yn ei dilyn, efallai mor gynnar â’r bedwaredd ganrif ar ddeg (GMW 121).

46 Pawl  Cyfeiriad at yr hanes enwog yn y Beibl (Actau ix). Bu Paul (Saul) yn erlid y Cristnogion cynnar yn greulon, ond, tra oedd yn teithio i Ddamascus, cafodd weledigaeth o’r Iesu yn gofyn iddo paham y mynnai erlid ei bobl. Trodd Paul i’r ffydd Gristnogol wedyn. Dyma un o’r enghreifftiau enwocaf oll yn y traddodiad Cristnogol o bechadur yn troi’n grediniwr. Awgryma’r bardd yma y gallai Gwynedd droi i’r wir ffydd (sef dod yn deyrngar i Edward IV) yn yr un modd. Sylwer mor rhwysgfawr yw’r gymhariaeth ymhlyg rhwng Herbert a Duw, ill dau â’r gallu i faddau i ddrwgweithredwyr.

47 a fu ar ffawt  Mae 47–8 yn hynod o lwgr yn y llawysgrifau, gw. 47–8n (testunol), ac ni ddylid pwyso’n drwm ar y dehongliad a gynigir. Yn ffodus nid yw 47–8 ond yn datblygu’r gymhariaeth rhwng Gwynedd a Paul a wyntyllwyd eisoes yn 45–6, ac felly nid yw’r ansicrwydd yma’n tarfu gormod ar ein dealltwriaeth o’r gerdd.

52 Pedr y gwenyn  Cf. GO LI.11–12 Val pedyr hen am y gwenyn / Vv’r modd i’n lladdodd vallyn; cyfeiriad arall yn TA XXVI.46–8 ac un arall gan Lywelyn ap Hywel ab Ieuan ap Goronwy, gw. yr ymdriniaeth yn GO 272–3. Nid yw’r chwedl am Bedr yn lladd gwenyn wedi goroesi, hyd y gwyddys.

55 branar  Braenar, tir a adawyd heb ei drin, yma tir diffaith.

59 plant Rhonwen  Sef y Saeson. Arweinwyr chwedlonol y Saeson a ymsefydlodd ym Mhrydain yn y bumed ganrif oedd dau frawd, Hengest a Horsa, a wahoddwyd i’r tir gan Wrtheyrn. Rhonwen oedd merch Hengest yn ôl y chwedl, ac ymserchodd Gwrtheyrn ynddi, gw. WCD 559 a J.E.C. Williams 1964–6: 301–3.

60 Hors  Horsa, brawd Hengest.

60 y Fflint  Tref yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

62 bwrdais  Rhywun sy’n byw mewn bwrdeistref ac yn dwyn rhagorfraint yno (cf. 64). Saeson oedd trigolion gwreiddiol y rhan fwyaf o fwrdeistrefi Cymru, gan iddynt gael eu sefydlu yn sgil gorchfygu’r wlad. Mae’r llinell hon yn awgrymu bod Guto’r Glyn yn ystyried trigolion y trefi fel estroniaid o hyd.

63 iaith  Gall olygu ‘iaith’ a ‘cenedl’ yn y cyfnod hwn.

66 Barstabl  Barnstaple, ar arfordir gogleddol Dyfnaint. Roedd gan Herbert diroedd yn Nyfnaint, gw. Thomas 1994: 30, ond ni wyddys am gysylltiad penodol rhyngddo a Barnstaple. Mwy tebygol yw bod Barnstaple yn cynrhychioli arfordir Dyfnaint: hynny yw, mae Herbert yn ben ar Fôr Hafren yn ogystal â Chymru gyfan.

67 Morgannwg a Gwynedd  Dau begwn Cymru, y De-ddwyrain a’r Gogledd-orllewin. Buasai Herbert yn rymus iawn yn y De ers dechrau’r chwedegau, a chyda chwymp Harlech nid oedd neb bellach yn y Gogledd a allai ei wrthsefyll ychwaith.

68 o Gonwy i Nedd  Hynny yw, o’r Gogledd i’r De. Mae afon Conwy yn cyrraedd y môr ar arfordir gogleddol Cymru, ac afon Nedd ar arfordir y De.

Llyfryddiaeth
Curtis, E. (1938), A History of Medieval Ireland from 1086 to 1513 (second ed., London)
Evans, D.H. (1988), ‘An Incident on the Dee during the Glyn Dŵr Rebellion?’, TCHSDd 37: 5–40
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Jones, T. (1941) (gol.), Brut y Tywysogyon: Peniarth MS. 20 (Caerdydd)
Jones, T. (1955) (ed.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes: Red book of Hergest Version (Cardiff)
Jones, T. (1971) (ed.), Brenhinedd y Saesson or The Kings of the Saxons (Cardiff)
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lloyd, J.E. (1911), A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London)
Ludlow, N.D., Ramsey, R.S.F. and Schlee, D.E. (2002), ‘Pill Priory, 1996–1999: Recent Work at a Tironian House in Pembrokeshire’, Medieval Archaeology: Journal of the Society for Medieval Archaeology, 46: 41–80
Roberts, R.A. (1959), ‘Ecology of Human Occupation and Land Use in Snowdonia’, Journal of Ecology, 47: 317–23
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith, G.R. (2009), ‘The Penmachno Letter Patent and the Welsh Uprising of 1294–5’, CMCS 58 (Winter): 49–67
Stevenson, J. (1864) (ed.), Letters and Papers Illustrative of the Wars of the English in France during the Reign of Henry VI, ii.2 (London)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1964–6), ‘Ronwen: Rhawn Gwynion’, B xxi: 301–3

This is one of Guto’r Glyn’s most remarkable poems: praise and advice offered to William Herbert while he was at the zenith of his power and fame. By capturing Harlech castle and compelling its stubborn garrison to yield to Edward IV, Herbert removed the last Lancastrian stronghold in the kingdom, and before long Edward would reward him generously for his service by raising him to the earldom of Pembroke. Thomas 1994: 36–40 is the most detailed account of the campaign published to date, and the details given below are drawn from it unless another source is indicated.

The poem is precisely datable: it belongs to the brief period between the fall of Harlech to William Herbert on 14 August 1468 and his elevation to the earldom of Pembroke on 8 September of the same year. Lines 23–4 show that the castle was by now in Herbert’s hands, but he is not called earl, an entirely inconceivable circumstance if he had already received the honour. The only Welshman given an earldom before Herbert had been Jasper Tudor, who was half-brother to Henry VI on his mother’s side. Guto could not have failed to mention Herbert’s promotion had it already occurred. Indeed, he twice calls him Arglwydd Herbert ‘Lord Herbert’ (3, 7), the highest title which he had received before becoming an earl (see. 3n).

By 1468 Harlech was the only castle in Wales or England which was still held by the Lancastrians. Following the battle of Towton (29 March 1461) Edward IV of York replaced King Henry VI of Lancaster who had ruled (in name) since 1422. Several strongholds in Wales and northern England remained in the hands of Lancastrian supporters and Henry VI and his family were still at large, raising revolt in Northumberland. The troubles in the north of England demanded Edward’s attention several times during the early 1460s (Ross 1974: 45–63), and it is clear that Edward decided early on in his reign that it would be wise to concentrate responsibility for Wales in the hands of one man. He turned to one of his most prominent supporters in Wales, William, Lord Herbert, a gentleman of Raglan in the lordship of Usk. Throughout the decade he continued to grant Herbert titles, privileges, honours and lands, raising him higher than more or less any native Welshmen in living memory. In return for this William Herbert upheld the king’s cause in Wales. His biggest achievement was to capture the castles which the Lancastrians held in 1461. He took Pembroke castle in that year and Carreg Cennen in 1462, events which Guto mentions in 19–22. Other men were chosen to lead attacks on Harlech, but they failed: no-one could dislodge the garrison, which was led by Dafydd ab Ieuan ab Einion. As a consequence, it was very difficult to uphold royal authority in Merionethshire, and if we can believe this poem, there was a good deal of opposition to Edward in the other two shires of the northern Principality as well, Anglesey (cf. 12) and Caernarfonshire (cf. 36 Y Wyddfa, 40 Eryri).

It appears that it was a plan by Jasper Tudor, Henry VI’s half-brother, to land in Merionethshire early in 1468 which provoked the king to order yet another attempt to capture Harlech. This time it was William Herbert who was appointed commander. The poem shows that Herbert’s army went north in three divisions. Jasper Tudor was defeated by William’s brother, Richard Herbert, after Jasper had burnt the town of Denbigh (Ross 1974: 114). We conclude, therefore, that Richard led one of the three divisions. William himself, of course, would have led one of the others, and surely his brother-in-law, Walter Devereux, Barron Ferrers of Chartley, was the third general: he, after all, had been jointly named with Herbert in the commission which the king gave them on 3 July, authorizing them to raise forces to meet Jasper Tudor. We know little else about the campaign, since the contemporary sources are poor, except that the castle was surrendered sometime after the victory over Jasper; it is not clear how much opposition Herbert actually faced. The chief source is a chronicle attributed to William Worcester (Stevenson 1864: 791), though the attribution is wrong, see DNB (Online) s.n. Worcester, William. There are more details in the Herbert family history, which dates from the seventeenth century and is preserved in C 5.7, but it is difficult to verify its colourful descriptions, and indeed there must be a strong suspicion that they were influenced by this poem. That is also true of the comments of Sir John Wyn of Gwydir (Evans 1915: 168–9). On the other hand, this poem itself is a valuable contemporary witness deriving from Herbert’s own inner circle; the notes below discuss its testimony. It is a shame that the opening lines are so difficult to understand.

This is not a straightforward praise-poem: it is also an impassioned appeal to Herbert to spare the people of Gwynedd from his vengefulness. Guto behaves like a spokesman or intermediary for the gentry of the country (cf. 51–2). He had many patrons in the northwest and it is also likely that he himself was a native of Edeirnion in Merionethshire (see poem 20), so there may be a personal involvement in the plea. But the poem’s most striking message is its emphasis on Welshness and its vision of Wales as a single country (67–70) in opposition to England. It would be intriguing to know how Herbert, a man whose authority depended entirely on the favour of the king of England, responded to these lines. They remind us that the political circumstances of Welsh praise-poetry were complex and are not always recoverable by us today. Who was responsible for what praise-poems had to say, the patron or the poet? Had Herbert authorised this appeal beforehand, or was the poet in this instance working for an outside party (the men of Gwynedd), or was he making a personal intervention? These possibilities are not mutually exclusive.

Date
Between 14 August 1468 and Herbert’s elevation to the earldom of Pembroke on 8 September of the same year.

The manuscripts
This poem is found in 48 manuscripts. Of these, 22 were chosen as a basis for the edition. The others either derive from these 22 or are too incomplete to be of value. Neither the order nor the number of couplets varies greatly, and most of the verbal variants are relatively small and trivial. For this reason it is difficult to draw up a stemma for this poem. The chief point of divergence is in 47–8, where the manuscripts fall into three groups, as is noted in more detail in 47–8n: (i) Brog I.1, LlGC 3049D, Pen 77, Gwyn 4, BL 14866 and LlGC 727D; (ii) LlGC 17114B, Pen 137, BL 14978 and C 2.617; (iii) Stowe 959, Llywelyn Siôn’s five copies, LlGC 16964A, Ba 1267, BL 14976 and C 2.68, and perhaps Llst 53. Llst 55 cannot be assigned to a group. There is a strong case for arguing that the copies in group (iii) derive from a common exemplar, but group (i) does not constitute a unity, being merely those copies which have not suffered the corruptions by which groups (ii) and (iii) are defined. I am not confident that group (ii), the manuscripts which do not have 47–8, forms a valid group either, since this difficult couplet may have been lost more than once. LlGC 3049D, Pen 77 and Gwyn 4 share an exemplar, as they do in the case of other poems by Guto’r Glyn. BL 14866 is more distantly related to them. Brog I.1 is an early and valuable copy, though corrupt enough in places. Llywelyn Siôn’s five copies (C 5.44, Llst 134, LlGC 970E, LlGC 6511B and LlGC 21290E) are almost identical to one another. Llst 55 contains only selected lines.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem XLVIII; Lewis 1982: poem 14. Electronic edition by Helen Fulton, see www.medievalchester.ac.uk/texts/reading/wp_08.html [accessed 22 January 2010].

Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 37% (26 lines), traws 24% (17 lines), sain 36% (25 lines), llusg 3% (2 lines).

1 tri llu  Who or what are these? We may assume that Arglwydd Wiliam, the leader of the second host mentioned, is William Herbert, see 3n. The question to be decided is: are the three hosts three divisions of William Herbert’s army, i.e. the tair cad, tair plaid and tair ystâl which are mentioned in 27, 29 and 37, or alternatively Herbert’s army taken as a whole and two hosts from the past with whose exploits Herbert’s campaign is being compared? If they are the three parts of Herbert’s army, then Y Pil (3) and Y Fepwnt (4) must be the names of contemporaries of William Herbert, i.e. the leaders of the other two divisions. However, I have not been able to find these names recorded anywhere in relation to the campaign of 1468 or indeed at any point in the fifteenth century. We know for certain that Richard Herbert, William’s brother, led one of the 1468 hosts, since an anonymous chronicler cronicler notes that it was Richard who defeated Jasper Tudor, apparently near Denbigh, before the fall of Harlech castle (Thomas 1994: 38; Stevenson 1864: 791 Dominus Herbert … per fratrem suum devicit in campo dictum Jasper). The names Y Pil and Y Fepwnt do not refer to him, so far as we can tell. Reading fiwcnt (= viscount), which is found in some copies, brings no improvement. Viscount was an unusual title in fifteenth-century England. It was introduced by Henry VI in 1440, see OED Online s.v. viscount, but there is no mention of any viscount taking part in the Harlech campaign. Helen Fulton suggests that Richard Herbert is meant, but OED Online l.c. describes viscount in the sense of ‘son or younger brother of a count’ as a ‘continental usage’, and as was argued above, William Herbert had not yet been raised to the earldom, the rank which corresponds to the continental ‘count’, so his brother would not yet be a viscount. Furthermore, the manuscripts strongly favour Y Fepwnt, see the textual note. On the other hand, there is one historical Fepwnt who might suffice, see below. The tri llu aeth i Gymru gynt are, therefore, three historical armies, with William Herbert’s host honourably counted among their number.

1 i Gymru  It is very likely that Herbert’s host would have mustered somewhere in the English border counties, since they contained men from those areas as well as from the Welsh lordships, see Thomas 1994: 38.

1 gynt  This word can refer to the very recent past, so it is not a difficulty in the way of understanding the 1468 army as the second one in the list.

2 Trwy Wynedd y trywenynt  The exact same line is found in the poem to the snow which is among Dafydd ap Gwilym’s apocrypha, see DGA 41.23. There it describes snowflakes falling in Gwynedd.

3 llu’r Pil  A completely obscure reference. In GPC 2215 s.v. llu it is suggested that llu’r pil denotes ‘a proverbial band of marauders’ and that pil derives from Middle English pile ‘to pillage, plunder’, see OED Online s.v. peel, v.1. Llu’r Pil was a well-known expression, at least among the poets, for we find it twice in poems by Dafydd Llwyd of Mathafarn and again in one by Siôn Ceri, but they cast no light on the meaning (GDLl 47.25–6 Llu’r Pîl, ai llai ŵyr paham / Lle’r êl â’i hollwyr WiliamLlu’r Pîl, do any fewer than that know the reason why / Wherever William goes with all his men?’; ibid. 51.43–4 Bwyd ormod i bedeirmil, / A llawer pen fal Llu’r Pîl ‘Too much food for four thousand, / And many a head like Llu’r Pîl’; GSC 39.43–4 Ac o wraidd y gaer eiddil / Dryllio’r porth draw, a llu’r Pil (I suggest removing the comma here and reading â llu’r Pil: translate ‘And from the root of the feeble fortress / Smashing the gate there with Llu’r Pil’). The common thread in these examples seems to be that llu’r Pil refers figuratively to a very large host; originally it was presumably the name of a historical or legendary army. That strengthens the case for taking tri llu as three historical hosts rather than three parts of William Herbert’s army, cf. 1n. William Herbert’s campaign might have become proverbial enough to be mentioned by these poets, and indeed it is not possible to prove that any of these references to llu’r Pil predates 1468, but it is highly unlikely that a mere single division of Herbert’s army would have become so famous, especially one not led by Herbert himself. Llu’r Pil must be another historical host, like llu’r Fepwnt (see 4n). Peel is an English verb meaning ‘to plunder, pillage, spoil’, and not a noun, see OED Online s.v. peel, v.1 and the tentative suggestion in GPC 2215 ‘the host of pillage’ does not convince. There are plenty of similar words in English with meanings such as ‘stake, palisade; small castle or tower; shovel, baker’s shovel’, see OED Online s.v. peel, n.1, peel, n.2, but it is hard to think of a historical campaign which would fit any of these. Another possibility is that the Welsh derives from pill or pile, which offer another swathe of meanings. However, since the other two hosts involve proper nouns (llu’r Arglwydd Wiliam, llu’r Fepwnt), Pil too is probably a proper noun and for that reason I spell it with a capital initial. For the use of the definite article with proper nouns, such as surnames, see TC 3–4 and GMW 26. Pil is probably an English or French surname, just as Fepwnt is a Cymricization of (de) Vieuxpont. GDLl 203 suggests the place name Y Pîl in Glamorgan (Pyle), but there is no known link between Pyle and any military campaign against Gwynedd. Saunders Lewis (1976: 95n3) suggested that llu’r Pil is the army of Harold Godwinson. Harold attacked Wales in 1063, smashing the power of Gruffudd ap Llywelyn, the only medieval Welsh king who ever ruled all of Wales. According to Gerald of Wales, Harold erected pillars throughout Wales to mark his victory, and ‘pillar’ is indeed a possible meaning of pile in English, see OED Online s.v. pile, n.1. This does not convince either – for one thing, we would expect the plural of pil.

Another possibility is Pill, Pembrokeshire. Llywelyn the Great of Gwynedd attacked Pill priory in 1220, see Ludlow et al. (2002), 46. Unfortunately, this was not an attack on Gwynedd.

Finally, it is worth mentioning the battle of Piltown (Baile an Phoill in Irish), county Kilkenny, Ireland. It took place in 1462 as a part of the Wars of the Roses, so it might have been well known to Guto and his audience. The battle was noted for the high number of casualties. However, there is no suggestion that anyone from Wales took part. See Curtis 1938: 326.

3 yr Arglwydd Wiliam  William Herbert became a lord in 1461 (Thomas 1994: 24), and that was his title until he was made an earl in 1468. The opinion of Saunders Lewis (1976: 95) that the reference is rather to William the Conqueror should be rejected. Not to mention the awkwardness of referring to a king merely as Arglwydd, William is not believed ever to have gone near Gwynedd (cf. Lloyd 1911: 393). The initial Norman conquest of Gwynedd, as seen in Domesday Book (1087), was essentially a private enterprise led by Hugh the Fat, earl of Chester, and Robert of Rhuddlan. On the other hand King William II did campaign against Gwynedd in 1095 (Lloyd 1911: 405), but Arglwydd Wiliam is most unlikely to be him here. It is worth noting that Edward I campaigned against Welsh rebels in 1294, when three hosts did indeed go to Wales, one of them led by William Beauchamp, earl of Warwick (Smith 2009: 51–3). However, no-one called Y Pil or Y Fepwnt is recorded in 1294.

4 y Fepwnt  Robert de Vieuxpont, a favourite of King John who is twice named in ‘Brut y Tywysogion’ (see Lloyd 1911: 638–9). The Red Book of Hergest version of the Brut contains the form Robert Vepwnt, as does ‘Brenhinoedd y Saeson’; in Peniarth 20 the form is Robert Vipwnt (Jones 1941: 158; 1955: 194; 1971: 206). He was appointed royal steward in Powys and held the castle of Mathrafal against the hosts of Llywelyn the Great in 1212. King John was forced to rescue him, and the Brut says that the king led a diruawr lu ‘enormous host’ (Jones 1955: 194, &c.). This is surely llu’r Fepwnt. The second reference to Vieuxpont in the Brut (Jones 1955: 194, &c.) notes his hanging of a Welsh hostage. It is awkward that Vieuxpont is not the leader of the diruawr lu. It is even more awkward that there is no indication that that host went to Gwynedd. Nevertheless, it is hard to believe that there could be two men called Fepwnt in medieval Welsh literature. Robert de Vieuxpont’s line died out around the mid thirteenth century. They were landowners in Westmorland in the north of England. There are no other references to their being involved with Wales.

Why on earth should Guto include such an obscure reference here? If he had to think of armies which had invaded Gwynedd, he was spoilt for choice. What about Edward I, for example, or Henry II, or Edwin of Northumbria in the seventh century, or the fall of Harlech itself to Henry prince of Wales in 1409 after the failure of Glyndŵr’s revolt? Indeed, the reference is so bizarre that it is tempting to reject Robert de Vieuxpont and look for another Fepwnt. But I cannot find one.

4 paham  For its use as a noun, see GPC 2669.

5 tair ffordd  The meaning is rather involved in 5–8. It would be natural to expect the tair ffordd to match the tri llu described in 1–4, but it seems rather that they point forwards to Herbert’s armies in particular. This would not be a problem, of course, if it were possible to take the tri llu as three divisions of Herbert’s army, but I have already given reasons for rejecting that (see above). 5–8 are therefore taken as forming a sentence together, a prayer to God to lead Herbert’s armies safely along the three routes. The poet is playing with time in the first half of the poem, imagining that the campaign is not yet over, cf. 13–14. But 23–4 confirm that Harlech castle has indeed fallen.

There is another possibility, however, namely that the three routes are in fact associated with the three hosts, and that clawdd Offa and Sarn Elen denote the ways that llu’r Pil and llu’r Fepwnt went to Gwynedd. If so, we cannot be certain that they are related to the three divisions of William Herbert’s army after all.

5 clawdd tir Offa hen  Offa’s dyke was constructed in the eighth century along the border between Mercia, the kingdom of Offa, and the Welsh kingdoms. The reference here must be to a route along the border or through the western parts of Herefordshire and Shropshire.

6 siwrnai Wiliam  In order to have three routes, these words must be taken as referring to another, unknown route, not as being in apposition to Sarn Elen. That it, Sarn Elen was not William Herbert’s own route to the north. We can guess that the easternmost division, the one which followed Offa’s dyke, was the one led by Richard Herbert, since it was Richard Herbert who defeated Jasper Tudor after Jasper had burnt the town of Denbigh in north-east Wales, see 1n. Herbert must have followed some other route between Sarn Elen and the dyke. Alternatively he may had sailed there by ship: a siege of Harlech castle would certainly require a naval force.

6 Sarn Elen  Sarn Elen or Sarn Helen, the old Roman road through west Wales from Carmarthen to the river Conwy. The tale ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ connects this route with the name of Elen, see BrM2 lxv, lxxxi, 8. In a poem to a patron in Denbigh Tudur Aled asserts that Sarn Elen overflows with people heading for his house, see TA XXV.49.

9 glaw gynt  Several attempts to take Harlech castle had failed before William Herbert’s campaign, see Ross 1974: 120. There is no need to take the reference to rain literally as did one anonymous commentator who wrote by this line in the margin of BL 14866 pan doeth mongym[   ] i faelawr ac i bode[     ] dyfrdwy y [       ] seisnig ‘when Montgomery came to Maelor and the Dee drowned the English [hosts]’. He was thinking of a well-known incident during the Glyndŵr rebellion which was memorialized in a fine poem by Madog ap Gronw Gethin, see Evans 1988.

11 dewiniais  Guto is taking on the role of a prophetic poet here, thereby implying that Herbert might be seen as the Mab Darogan, the prophesied deliverer of the Welsh.

12 dyn a’i medd  Edward IV is owner of Gwynedd here.

14 pe … os  The order of the elements in 13–14 is abstruse. The conditional clause o chaid should be taken with pawb a rôi’u llygaid, and pe ceisiech Harlech is a further condition. Re-arranged: everyone would give his eyes if Harlech castle were taken, should Herbert attempt it.

14 Harddlech  A castle built by Edward I following the conquest of Gwynedd in 1282–4. The site, on a steep hill at the coast, makes it very difficult to assault. Morfa Harlech, the extent of flat land which today lies between the castle and the sea, did not exist in the Middle Ages.

15–18 Chwedl bonfras … / … / … Benfro  These four lines are difficult. bonfras contains bôn ‘stem, stock, base, foundation’ + bras ‘shout, thick, strong’. It is used to describe the strong shaft of a spear, cf. GLMorg 43.9 wayw bonfras ‘stout-shafted spear’, GSC 41.53 Tor wayw bonfras trwy Benfro ‘shatter a stout-shafted spear through Pembroke’, while blaenfain describes the blade of a dagger in GRhG 5.48 Lem flaenfain fal adain edn ‘sharp and narrow-pointed like the wing of a bird’. What we have here is a juxtaposition of strength and sharpness, both qualities to be praised in a spear as in a man. There is a quite similar example by Lewys Môn which also connects the word bonfras with the idea of a blade along with the word chwedl, GLM XXV.9–10: Blaen y chwedl, blin awch, ydoedd: / ban fu roi sawd bonfras oedd ‘He was the foremost in the business, a fierce cutting edge: / when it was a case of making an attack, he was strong’. The meaning of chwedl is vague in Lewys Môn’s line and in Guto’r Glyn’s poem, especially the force of the combination chwedl bonfras. In GPC 846–7 s.v. chwedl1 the usual meanings are given (‘story, account, … news, report’), but also ‘matter(s); action(s)’. The least difficult way of arriving at some kind of sense is to accept the last meaning and take bonfras as a noun, referring to Herbert, rather than as an adjective qualifying chwedl, thus yielding ‘the actions of the strong man’ for chwedl bonfras. Otherwise chwedl bonfras could mean ‘news concerning the strong man’, the poet talking either about the effects of the news that Herbert is on his way upon the garrison (the pobl ynfyd) or the effects of the news of Harlech’s fall upon the Lancastrians in general (the pobl ynfyd again). Chwedl blaenfain in 17 is similarly understood, taking blaenfain as a noun rather than as an adjective qualifying chwedl: ‘the actions of a man whose edge is sharp’. However, ‘news which bites harshly’ is possible.

18 Penfro  The lands of the lordship of Pembroke had been in William Herbert’s hands since 1461 (Thomas 1994: 24). The reference does not oblige us, therefore, to assume that Herbert had already received the earldom.

19 ba well  For the meaning ‘what use is?’ or ‘what is the point (of)?’, cf. TA LXVIII.42 Pa well dysg heb y pwyll da? ‘What use is learning without proper discernment?’; GLMorg 10.3 pa well ymladd?; ‘What is the point of fighting?’; 18.19–20 Pa well urddas? Pell orddwy. / Pa les meirch i’r palis mwy? ‘What use is honour? Widespread oppression. What use is bringing horses to the palisade any more?’; HCLl XXVIII. 46 Pa well i hael pallu hwn? ‘What use to a noble man is this man’s death?’ The poet is suggesting that the fall of Pembroke to William Herbert has shown that no castle can withstand him. Another possibility is that ba well castell? means the same as pa gastell gwell?, i.e. ‘what better castle?’, suggesting that Pembroke was the best of castles.

20 Penfro  The castle surrendered to Herbert on 30 September 1461, see Thomas 1994: 25–6.

22 Carreg Cennen  A castle in Carmarthenshire with a very prominent hilltop position. It had been held by Thomas and Owain, sons of Gruffudd ap Nicolas, against Edward IV. It had surrendered to William Herbert by 1 May 1462 and then it was slighted by a workforce of 500, see Griffiths 1993: 28. That explains the reference here to the pen (‘top’) of the castle being hurled down into the valley.

23 ei chlawdd  This must belong to Harlech, cf. 24, though what is referred to is unclear, whether a ditch or a wall, see GPC 491.

25 ery  For the meaning ‘withstand’, see GPC2 461 (c).

27 teirgwlad  Uncertain: a particular reference or a generalized number?

29 yn gapteniaid  Not literal: the reference is to soldiers of higher status than the iwmyn (30) and the gwerin (33).

30 tair mil, nawmil  Once again the sense is difficult to follow. Are the tair mil the same as the capteniaid (whatever that means, cf. 29n), and the nawmil the other soldiers (iwmyn)? That would mean a total of 12,000. The contemporary chronicler gives a figure of 10,000 for Herbert’s army (see Thomas 1994: 38; Stevenson 1984: 791 cum numero decem milium armatorum). As is common in medieval descriptions of battles, the figures do not merely vary greatly from source to source, but are also implausibly high in each one.

31 dy frodyr  Richard Herbert took part in the campaign, as is well known. John Herbert and Roger Vaughan of Tretower, that is another of William Herbert’s brothers and a half-brother of his, were named as members of the commission appointed by the king in July 1469 to deal with the situation in north Wales, so it is probably they who are intended here. See Thomas 1994: 38.

33 gwerin  For the meaning ‘common soldiers’, cf. 3.52.

35 da  The chief animals kept in Snowdonia were cattle as far as the eighteenth century, and they wandered even to the highest parts, see Roberts 1959: 317–18. The point of the comparison is that Herbert has driven his warhorses even higher than cattle could reach.

36 y Wyddfa  The contemporary sources have little to say about the campaign except for the two bare facts that Jasper Tudor was defeated in battle after he had burnt Denbigh, and that Harlech castle fell after that (testimony of the anonymous chronicler, see Stevenson 1864: 791). It is hard to see any need to climb Snowdon in travelling from Denbigh to Harlech, but if Herbert were pursuing fugitives from the earlier battle, possibly his route to the castle was a circuitous one. Otherwise, the reference may be to a general punishment of Gwynedd following the fall of Harlech.

40 tir âr  That is, the marks left by Herbert’s horses and carts have torn up the rocky surface of Snowdonia like furrows in a ploughed field.

40 gwnaut  -ud was the original second singular imperfect ending, but when it was followed by the pronoun di the two d’s would be devoiced to t. Later the t spread to the verbal form even when the pronoun was absent, perhaps as early as the fourteenth century (GMW 121).

46 Pawl  A reference to the famous story in the Bible (Acts ix). Paul (Saul) was a cruel persecutor of the early Christians, but once, while he was travelling to Damascus, he saw a vision of Jesus asking him why he was persecuting his people. Paul converted to Christianity. This is one of the most famous examples in the Christian tradition of a sinner’s conversion. The poet is suggesting here that Gwynedd could turn to the true faith (i.e. loyalty to Edward IV) in like fashion. Note how bold is the implied comparison between Herbert and God, both able to forgive evildoers.

47 a fu ar ffawt  47–8 are extremely corrupt in the manuscripts and the interpretation offered here is uncertain. Fortunately 47–8 do little but elaborate on the comparison between Gwynedd and Paul which was already begun in 45–6, and so the uncertainty does not do too much damage to our understanding of the poem.

52 Pedr y gwenyn  Cf. GO LI.11–12 Val pedyr hen am y gwenyn / Vv’r modd i’n lladdodd vallyn ‘Like ancient Peter with the bees / Was the way it has killed us like so’; there is another reference in TA XXVI.46–8 and another by Llywelyn ap Hywel ab Ieuan ap Goronwy, see discussion in GO 272–3. The tale of how St Peter killed the bees has apparently not survived.

55 branar  Land left fallow, here wasted land.

59 plant Rhonwen  The English. Two brothers, Hengest and Horsa, were the legendary leaders of the English who settled in Britain in the fifth century. They were invited into Britain by Vortigern. Rhonwen was the name of Hengest’s daughter according to the story, and Vortigern fell in love with her, see WCD 559 and J.E.C. Williams 1964–6: 301–3.

60 Hors  Horsa, brother of Hengest.

60 Y Fflint  A town in north-east Wales.

62 bwrdais  A burgess, an inhabitant of a borough (chartered town) who enjoys rights there (cf. 64). The original inhabitants of most Welsh borough towns were English, since they had been founded following conquest of the land. This line suggests that Guto’r Glyn still considered the townsmen to be foreigners.

63 iaith  Can mean ‘language’ and ‘nation’ in this period.

66 Barstabl  Barnstaple, on the north coast of Devon. Herbert held lands in Devon, see Thomas 1994: 30, but it is not known whether he had a connection with Barnstaple. More likely Barnstaple simply represents the Devon coast: that is, Herbert controls the Bristol channel as well as all of Wales.

67 Morgannwg a Gwynedd  The two extremes of Wales, the north-west and the south-east. Herbert had wielded great power in the south since the early 1460s, and with the fall of Harlech there was no one to resist him in the north either.

68 o Gonwy i Nedd  That is, from north to south. The Conwy reaches the sea on the coast of north Wales, and the Neath on the south coast.

Bibliography
Curtis, E. (1938), A History of Medieval Ireland from 1086 to 1513 (second ed., London)
Evans, D.H. (1988), ‘An Incident on the Dee during the Glyn Dŵr Rebellion?’, TCHSDd 37: 5–40
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Jones, T. (1941) (ed.), Brut y Tywysogyon: Peniarth MS. 20 (Caerdydd)
Jones, T. (1955) (ed.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes: Red book of Hergest Version (Cardiff)
Jones, T. (1971) (ed.), Brenhinedd y Saesson or The Kings of the Saxons (Cardiff)
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lloyd, J. E. (1911), A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London)
Ludlow, N.D., Ramsey, R.S.F. and Schlee, D.E. (2002), ‘Pill Priory, 1996–1999: Recent Work at a Tironian House in Pembrokeshire’, Medieval Archaeology: Journal of the Society for Medieval Archaeology, 46: 41–80
Roberts, R.A. (1959), ‘Ecology of Human Occupation and Land Use in Snowdonia’, Journal of Ecology, 47: 317–23
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith, G.R. (2009), ‘The Penmachno Letter Patent and the Welsh Uprising of 1294–5’, CMCS 58 (Winter 2009): 49–67
Stevenson, J. (1864) (ed.), Letters and Papers Illustrative of the Wars of the English in France during the Reign of Henry VI, ii.2 (London)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1964–6), ‘Ronwen: Rhawn Gwynion’, B xxi: 301–3

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, 1423–m. 1469

Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, c.1423–m. 1469

Top

Wiliam Herbert oedd noddwr amlycaf Guto’r Glyn. Rhwng 1445, pan fu farw ei dad, a’i farwolaeth yntau yn 1469, enillodd le digyffelyb iddo’i hun yng ngweinyddiaeth de Cymru, ac yn ystod y 1460au ef oedd prif gefnogwr y Brenin Edward IV yng Nghymru gyfan. Roedd ei nawdd i farddoniaeth yn gymesur â’i uchelgais wleidyddol. Ef oedd noddwr yr ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi a gynhaliwyd yn Rhaglan (cerddi 20 a 20a) a gwrthrych dau gywydd mawl (cerddi 21 a 23). Mae’r farwnad a ganodd Guto i’w goffáu yn 1469 (cerdd 24) ymhlith cerddi mwyaf teimladwy’r bardd. Canodd llawer o feirdd eraill i Wiliam Herbert: Dafydd Llwyd Mathafarn (GDLl cerddi 28 a 54, efallai 48), Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 111 a 112), Hywel Swrdwal (GHS cerddi 4, 5 a 7) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Lluniodd Huw Cae Llwyd farwnad i Wiliam a’i frawd Rhisiart ar y cyd (HCLl cerdd 4). Byddai meibion y ddau frawd yn eu tro yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn. Ar nawdd yr Herbertiaid yn gyffredinol, gw. Lewis 1982.

Rhaid diystyru dwy gerdd y dywedir yn gyfeiliornus eu bod wedi eu canu i Wiliam Herbert. Awdl i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, ac yn bennaf oll i fab hwnnw, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, yw HCLl cerdd 2. Awgrymir mai mab Wiliam Herbert o Raglan yw gwrthrych cerdd a olygwyd gan Lewis (1982: cerdd 17 a gw. Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro), nid Herbert ei hun: mae’r gerdd fel petai’n ymateb i’r tyndra a gododd rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, yn y 1470au, a cheir cyfeiriad tebygol at farwolaeth Wiliam Herbert yn llinell 46. Ceir ansicrwydd ynghylch un gerdd arall: gallai GDLl cerdd 48 fod yn gywydd i Wiliam neu i’w fab.

Achres
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Godwin’ 8. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

lineage
Achres Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro

Wiliam Herbert oedd mab hynaf Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, yntau’n ŵr a groesawodd Guto’r Glyn i’w gartref. Ei fam oedd Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu. Roedd ganddo nifer o frodyr a chwiorydd, cyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Yr amlycaf oedd ei frawd cyfreithlon iau, Rhisiart Herbert. Ail ŵr i Wladus oedd Syr Wiliam ap Tomas, ac roedd ganddi feibion o’i phriodas gyntaf â Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn. Y meibion hyn, sef Water (Watgyn), Tomas a Rhosier Fychan, oedd hanner brodyr yr Herbertiaid a chefnogwyr ffyddlon iddynt.

lineage
Teulu Wiliam Herbert o Raglan

Noddwyd Guto gan dri o feibion Wiliam, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, Water Herbert a mab anghyfreithlon, sef Wiliam Herbert o Benfro.

Ei gartrefi
Rhestrir y tai a fuasai ym meddiant Syr Wiliam ap Tomas yn 19.21–6. Aeth Colbrwg, ger y Fenni, i Risiart Herbert, a delid Tro ger Trefynwy gan Domas Herbert, brawd arall, cyn mynd i ddwylo Wiliam Herbert (Bradney 1991–4, 2.2: 162). Rhoddodd Herbert Dretŵr i’w hanner brawd Rhosier Fychan; roedd Rhosier yn byw yno erbyn 1457 (Ralegh-Radford 1960: 16). Ond daliodd Herbert ei afael ar brif gartref ei dad, sef castell Rhaglan, ac yno y trigai hyd ei farwolaeth. Roedd Syr Wiliam ap Tomas wedi dechrau noddi gwaith adeiladu mawr yn Rhaglan, a pharhaodd ei fab i gynnal y gwaith. Ceir ansicrwydd ai Wiliam Herbert ynteu ei dad a gododd y tŵr mawr (Emery 1975: 162–4, 167; Newman 2000: 490; Kenyon 2008: 114n69) ond yn sicr Wiliam Herbert a oedd yn gyfrifol am droi’r castell yn gartref gwirioneddol fawreddog drwy ailadeiladu’r ystafelloedd byw (ibid. 109).

Ei yrfa hyd 1461
Y prif bwyntiau yn unig a gaiff sylw yn y nodyn hwn, oherwydd mae gyrfa Wiliam Herbert yn ddeunydd llyfr sylweddol. Dyma ŵr a gododd o fod yn fonheddwr lleol i fod yn arglwydd a wysid i sesiynau’r Senedd ac a ddyrchafwyd, yn y pen draw, yn iarll, y Cymro cyntaf o waed llawn i dderbyn yr anrhydeddau hyn.

Ganed Wiliam Herbert o ail briodas ei dad, ac felly rhwng 1420 a marwolaeth Wiliam ap Tomas yn 1445. Awgryma R.A. Griffiths y dyddiad c.1423 (DNB Online s.n. Herbert, William). Mae’n bosibl ei fod yn farsiandïwr yn gynnar yn ei yrfa (Thomas 1994: 13 ac ibid. n3 yn enwedig). Yn sicr byddai ganddo yn nes ymlaen ddiddordebau sylweddol yn y fasnach ar hyd afon Hafren (Evans 1915: 75). Aeth i Ffrainc ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn hyn o beth roedd yn dilyn ôl traed ei dad, a oedd wedi gwasanaethu Richard, dug Iorc, yn Normandi. Yn 1449 roedd Herbert yn gapten ar dref Carentan, ynghyd â’r milwr enwog o Gymro, Mathau Goch. Bu’n rhaid iddynt ildio’r dref i’r Ffrancwyr, a oedd erbyn hynny ar fin rhoi ergyd farwol i rym y Saeson yn Normandi (ibid. 75–6). Ymladdwyd y frwydr fawr olaf yn Formigny, 15 Ebrill 1450. Er bod Herbert wedi llwyddo i achub bywyd Mathau Goch ar faes y gad (cadarnheir hynny gan Lewys Glyn Cothi, GLGC 111.27–8), eto fe’i daliwyd ef ei hun gan y Ffrancwyr, a bu’n rhaid talu’n ddrud am ei ryddid (DNB Online s.n. Herbert, William).

Yn Awst 1449, yn ôl yng Nghymru, roedd Herbert wedi priodi Ann Devereux (Defras yn Gymraeg), merch i Sir Walter Devereux (Water Defras), tirfeddiannwr sylweddol yn swydd Henffordd (Thomas 1994: 13). Trwy’r briodas hon cryfhawyd dylanwad Herbert yn ardal Henffordd, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf gwelir Herbert a Devereux yn gweithredu fel cynghreiriaid agos. Bu farw Walter Devereux yn 1459, ond parhau a wnaeth y berthynas agos rhwng y ddau deulu: gadawodd fab, a elwid hefyd Walter Devereux ac a oedd yr un mor ffyddlon i’w frawd yng nghyfraith ac y buasai’i dad (DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Ffurfiodd teuluoedd Herbert, Devereux a Fychan glymblaid gref a dylanwadol a ddaeth i lywodraethu dros arglwyddiaethau de-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos swyddi Henffordd a Chaerloyw. Disgrifir hwy fel ‘the Devereux-Herbert gang’ gan un hanesydd sydd wedi astudio’u gweithgareddau aflywodraethus yn swydd Henffordd yn ystod y 1450au (Herbert 1981: 107). Fel deiliaid a chefnogwyr Richard, dug Iorc, roedd yn anochel y caent eu tynnu i mewn i’r gwrthdaro rhwng y dug a llys y Brenin Harri VI yn y 1450au. Ar 10 Hydref 1452 derbyniodd Herbert bardwn cyffredinol, arwydd ei fod wedi cefnogi’r dug yn erbyn plaid y llys: eisoes yng Ngorffennaf y flwyddyn honno cyhuddwyd Sir Walter Devereux o deyrnfradwriaeth (Thomas 1994: 15; DNB Online s.n. Devereux, Walter). Ymddengys fod plaid y llys wedi ceisio denu Wiliam oddi wrth Richard, dug Iorc. Urddwyd ef yn farchog yn ystod y Nadolig, 1452 (DNB Online s.n. Herbert, William), yn fuan ar ôl i Siasbar Tudur, hanner brawd y brenin, gael ei wneud yn iarll Penfro. I’r cyfnod Tachwedd/Rhagfyr 1452 y perthyn y gerdd gyntaf hysbys i Herbert, sef GLGC cerdd 111, sy’n fawr ei chanmoliaeth i deyrngarwch Herbert tuag at Siasbar a’r Goron.

Ni pharhaodd y teyrngarwch hwn yn hir. Yn fuan ailgyneuwyd y gynnen, a hynny ar stepen drws Wiliam Herbert yn ne Cymru. Richard Neville, iarll Warwick, oedd biau arglwyddiaeth fawr Morgannwg, a gwasanaethai Herbert fel siryf yno drosto. Roedd yr iarll yntau’n gynghreiriad i Richard, dug Iorc. Yn 1453 cyhuddwyd Herbert o amddiffyn yr arglwyddiaeth drwy rym arfau yn erbyn dug Somerset a’i hawliai iddo’i hun gyda chefnogaeth plaid y llys (Pugh 1971: 196). Daeth arwydd arall o benderfynoldeb didrugaredd Wiliam Herbert ym mis Mawrth 1456, pan lofruddiwyd ei hanner brawd, Watgyn Fychan, yn Henffordd. Arweiniodd Herbert a Walter Devereux lu o gefnogwyr i Henffordd, gan feddiannu’r dref drwy rym a gorfodi’r awdurdodau yno i grogi’r dynion euog yn y man a’r lle. Canwyd cywydd gwaedlyd gan Hywel Swrdwal i goffáu’r digwyddiadau hyn ac yn galw am ddial Watgyn (GHS cerdd 23; Evans 2006). Ond chwarae bach oedd hyn o’i gymharu â digwyddiadau Awst 1456. Erbyn hynny roedd yr ymgiprys rhwng dug Iorc a’r llys yn cyrraedd penllanw. Arweiniodd Syr Wiliam Herbert a Sir Walter Devereux lu o wŷr arfog i dde-orllewin Cymru. Bu iddynt feddiannu castell Caerfyrddin yn enw dug Iorc a charcharu Edmwnd Tudur, hanner brawd y brenin, cyn cipio castell Aberystwyth hefyd (Thomas 1994: 15). Erbyn mis Hydref roedd Herbert yn codi llu arall yn arglwyddiaethau’r De-ddwyrain (ibid. 16n2). Er i Herbert gael ei garcharu dros dro yn Nhŵr Llundain, buan y maddeuwyd iddo (Ebrill/Mai 1457, gw. ibid. 16–17). Wedi hynny, ymddengys iddo dynnu’n ôl o’r gwrthdaro rhwng dug Iorc a’r llys brenhinol, ac mae’n debygol mai dyna sut y llwyddodd i gadw ei safle a’i swyddi ar ôl i’r dug ac iarll Warwick gael eu dyfarnu’n deyrnfradwyr ar ddiwedd 1459.

Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1460. Daliwyd Harri VI yn sgil brwydr Northampton a daeth iarll Warwick yn feistr ar y sefyllfa. Comisiynwyd Herbert a Devereux i gynnal achos plaid Iorc yng Nghymru (Thomas 1994: 20). Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd Herbert o blaid Edward, mab y dug, ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd byddin Siasbar Tudur (DNB Online s.n. Herbert, Wiliam). Aeth gydag Edward i Lundain a bu’n bresennol pan ddyrchafwyd ef yn frenin (Thomas 1994: 23; buasai dug Iorc ei hun farw yn Rhagfyr 1460). Wedyn fe’i dilynodd i ogledd Lloegr i wynebu’r Lancastriaid. Ymladdodd ym mrwydr dyngedfennol Towton (29 Mawrth 1461), fel y cadarnheir gan Lewys Glyn Cothi, sy’n sôn amdano’n ymladd yn Efrog (GLGC 112.33; mae safle’r frwydr yn swydd Efrog).

Goruchafiaeth yng Nghymru: 1461–9
I bob pwrpas dyrchafodd y brenin newydd Wiliam Herbert yn brif gynrychiolydd iddo yn ne Cymru. Afraid rhestru’r holl swyddi a roddodd i Herbert: digon yw nodi bod y brenin yn ystod y 1460au wedi rhoi i Herbert bob swydd o bwys a oedd ar gael iddo yn yr ardal hon. Ar 8 Mai 1461 gwnaed Herbert yn ustus, yn siambrlen, yn stiward ac yn brif fforestydd Deheubarth Cymru am oes (Thomas 1994: 24). Dyma roi yn ei feddiant diroedd y Goron yn ne-orllewin Cymru. Tua’r un pryd cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd Siasbar Tudur, sef iarllaeth Penfro, yn y De-orllewin (ibid.). Ym mis Medi cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd dug Buckingham yng Nghymru gan fod etifedd y teitl dan oed. Roedd dwy arglwyddiaeth fawr a chyfoethog yn eu plith, sef Brycheiniog a Gwynllŵg neu Gasnewydd (Thomas 1994: 25). Eisoes ym mis Gorffennaf 1461 fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Herbert. Dyrchafwyd Walter Devereux yn Farwn Ferrers of Chartley ar yr un pryd (Griffiths 2008: 266; DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Roedd safle Herbert yn y De-ddwyrain yn gadarn, ond os dymunai wireddu’r pwerau a ddyfarnwyd iddo yn y Gorllewin, lle buasai Edmwnd a Siasbar Tudur yn cynnal achos Harri VI, byddai’n rhaid iddo ymladd drostynt. Ar 30 Medi ildiodd castell Penfro iddo ef a Walter Devereux (cf. 21.19–20). Yno y daeth mab ifanc Edmwnd Tudur, Harri, i ofal Herbert (Thomas 1994: 25–6). Ar 16 Hydref trechasant Siasbar Tudur ym mrwydr Twthill, y tu allan i dref Caernarfon (Ross 1974: 49). Bu ymgyrchu eto yn 1462, y tro hwn yn erbyn Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, a ddaliai gastell Carreg Cennen. Erbyn Mai 1462 ildiodd y castell i Risiart Herbert a Rhosier Fychan a difawyd ei amddiffynfeydd (Griffiths 1993: 28), buddugoliaeth y cyfeiria Guto ati yn 21.21–2.

Yn Chwefror 1462 grantiwyd tiroedd helaeth iawn i Herbert, gan gynnwys popeth a berthynai i iarllaeth Penfro a hefyd i arglwyddiaeth Gŵyr (tra oedd yr etifedd cyfreithiol dan oed). Hefyd grantiwyd Harri Tudur yn ward iddo. Talodd fil o bunnau am y grant olaf hwn, sy’n dangos nid yn unig mor werthfawr oedd Harri, ond hefyd mor fawr oedd adnoddau Herbert erbyn hynny (Thomas 1994: 28). Cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn at bresenoldeb Harri Tudur yn y llys yn Rhaglan, ac at fwriad Herbert i drefnu priodas rhyngddo a’i ferch, mewn cywydd a ganwyd rywdro yn y 1460au (GDLlM cerdd 28). Ym mis Mawrth derbyniwyd Herbert yn aelod o Urdd y Gardas (Thomas 1994: 28). Yn yr haf daeth yn arglwydd Crucywel (ibid. 29). Yn ystod gaeaf 1462–3 roedd Herbert a Devereux gyda’r brenin yng ngogledd Lloegr, yn wynebu ymgais gan y Lancastriaid i godi gwrthryfel yno (ibid.). Gwobrwywyd Herbert eto, y tro hwn â thiroedd yng Ngwlad-yr-haf, Dyfnaint a Suffolk (ibid. 30).

Roedd 1463 yn arwyddocaol hefyd am estyn awdurdod Herbert i ogledd Cymru: ym mis Mehefin rhoddwyd sir Feirionnydd yn ei ofal (ibid.). Ond damcaniaethol oedd yr awdurdod hwn, oherwydd arhosodd castell Harlech ym meddiant garsiwn a oedd yn ffyddlon i Harri VI, ac roedd y milwyr hyn yn gweithredu’n rhydd ar draws y sir. Mae’n debygol mai rywdro yn 1463/4 y canwyd GLGC cerdd 112, awdl fawreddog i Wiliam Herbert sy’n canmol ei wasanaeth yng ngogledd Lloegr, ei awdurdod yng Ngwynedd a’i fwriad i ymuno â’r Brenin Edward ar groesgad. Ni wireddwyd yr olaf, ond mae’n adlewyrchu’r sôn mynych a fu yn y blynyddoedd hyn am y posibilrwydd y byddai Edward yn arwain croesgad (Hughes 2002: 182–3).

Yn 1465 dyrchafwyd Rhaglan yn arglwyddiaeth y Mers, yn annibynnol felly ar Frynbuga (Thomas 1994: 32): dyma’r tro diwethaf i frenin Lloegr greu arglwyddiaeth o’r fath (DNB Online s.n. Herbert, William). Yn 1466 cafodd Herbert diroedd helaeth yn swydd Gaerloyw (Thomas 1994: 33–4). Rhwng 1465 a 1467 derbyniodd hefyd y swyddi pwysicaf yn yr arglwyddiaethau a berthynai i Edward IV fel iarll y Mars (Brynbuga, Buellt ac eraill: ibid. 34; Griffiths 2008: 267). Ym mis Medi 1466 priododd mab Wiliam Herbert â Mary Woodville, chwaer y frenhines (Thomas 1994: 45). Dathlwyd y briodas yn Windsor a’r seremoni i urddo’r gŵr ifanc yn farchog gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 6).

Ehangwyd rôl Herbert yn y Gogledd yn 1467. Meddiannodd arglwyddiaeth Powys tra oedd yr etifedd dan oed (Thomas 1994: 34). Apwyntiwyd ef hefyd yn ustus y Gogledd (ibid. 35). Yn olaf, cafodd feddiant o arglwyddiaethau Dinbych, Ceri, Cedewain a Threfaldwyn (ibid.).

Yn 1468 daeth gyrfa Herbert i uchafbwynt. Roedd castell Harlech wedi bod yn ddraenen yn ystlys y brenin byth ers ei ddyfodiad i’r orsedd. Yn 1468, o’r diwedd, awdurdododd Edward ymgyrch a fyddai’n rhoi terfyn ar wrthsafiad ystyfnig y garsiwn. Herbert a apwyntiwyd i arwain yr ymgyrch, a bu’n llwyddiant disglair, oherwydd ildiodd y castell ar 14 Awst 1468. Mae cerdd 21 yn dathlu’r achlysur hwn, fel hefyd cywydd Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Yn wobr am ei wasanaeth cafodd Herbert fraint nad oedd unrhyw Gymro o waed llawn eto wedi ei derbyn: iarllaeth. Dyrchafwyd ef yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468. I flwyddyn olaf bywyd Wiliam Herbert, ar ôl iddo gael ei ddyrchafu, y perthyn cerdd 22 a 23. Tua’r un pryd, yn 1468, y daeth Herbert yn berchennog llawn ar arglwyddiaeth Gŵyr a phrynodd hefyd arglwyddiaeth Cas-gwent (Smith and Pugh 1971: 259).

Y ffrae gyda Richard Neville, iarll Warwick, a marwolaeth Wiliam Herbert
Go brin y gallai neb godi yn y byd i’r graddau y gwnaeth Wiliam Herbert heb ennill gelynion. Ei elyn pennaf oedd Richard Neville, iarll Warwick. Ef oedd prif gefnogwr Edward IV a dibynnai’r brenin newydd yn drwm arno. Rheolai’r iarll ogledd Lloegr dros y brenin mewn modd cyffelyb i Herbert yng Nghymru. Asgwrn y gynnen rhwng y ddau oedd y dylanwad mawr a enillodd Herbert ar y brenin, grym cynyddol Herbert yng Nghymru (lle roedd iarll Warwick yntau’n dirfeddiannwr o bwys) a’r berthynas agos rhwng Herbert a theulu’r frenhines, a ystyrid gan iarll Warwick yn fygythiad i’w ddylanwad ef. Yn 1469 cododd cefnogwyr iarll Warwick wrthryfel yng ngogledd Lloegr. Gwysiwyd Herbert o dde Cymru i wynebu byddin y gwrthryfelwyr, a oedd yn anelu tua’r de. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu’r ddwy fyddin ger pentref Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Lewis 2011: 103–6). Ar ôl ymladd yn ddewr, trechwyd llu Herbert. Lladdwyd Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, ar faes y gad, a daliwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Aethpwyd â hwy i Northampton, ac ar 27 Gorffennaf dienyddiwyd Wiliam Herbert. Erys ar glawr gopi o’r atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd ar fore’r diwrnod hwnnw (Thomas 1994: 109–10). Claddwyd Wiliam Herbert yn abaty Tyndyrn (am lun o’r beddrod cyn ei ddinistrio, gw. Lord 2003: 262). Canwyd marwnadau iddo gan Guto’r Glyn, Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd a Dafydd Llwyd Mathafarn.

Asesiad
Mae’n anodd pwyso a mesur arwyddocâd Wiliam Herbert ar gyfer y beirdd Cymraeg. Cred ddigon cyffredin ymhlith haneswyr yw eu bod wedi trin Herbert fel arwr i’w genedl (e.e. Ross 1974: 78 ‘in contemporary Welsh literature, where he appears as a national hero’). O ddarllen y cerddi sy’n ei ganmol, hawdd yw cytuno. Mae Hywel Swrdwal, er enghraifft, yn annog ei gynulleidfa i sylweddoli cymaint o fendith yw cael arglwydd o Gymro sy’n siarad Cymraeg yn lle’r Sais arferol (GHS 4.49–56). Ac, ar awr anterth grym Herbert yn 1468, mae Guto’r Glyn yn cyflwyno gweledigaeth y gellir ei galw’n un genedlaethol: dylai Herbert uno Cymru o un pen i’r llall o dan ei arweiniad (21.65–70). Yn sicr, taniwyd dychymyg y beirdd hyn gan rychwant awdurdod Herbert a’i agosrwydd at y brenin. Mae ysbryd Sieffre o Fynwy yn cyniwair drwy awdl Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 112) lle darlunnir Herbert yn rheoli Cymru yn uniongyrchol o dan awdurdod y Brenin Edward IV, yr olrheinir ei ach yn ôl i frenhinoedd Brythonig Prydain.

Roedd y weledigaeth hon yn realistig, ond dim ond i’r graddau y cydnabyddid bod grym Herbert yn deillio, yn y pen draw, o’i berthynas â’r brenin. Er bod y beirdd yn annog Herbert i wrthsefyll y Saeson (e.e. 21.65–70), ni chlywir gair am herio’r Goron ei hun. Gweledigaeth Sieffre o Fynwy – Lloegr, Cymru a’r Alban, tair gwlad yn ffurfio un deyrnas o dan un goron, ac arglwyddi eilradd ond anrhydeddus yn rheoli Cymru a’r Alban o dan awdurdod y goron honno – yw cyd-destun y breuddwydion hyn. Rhaid cofio hyn wrth ddarllen geiriau Guto’r Glyn, yn annog Herbert i estyn am ‘y dalaith’ (23.58; cf. GDLl 28.4), sef nod tywysog Cymru. Un cymeriad nas enwir byth yn y canu i Herbert yw Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ennill awdurdod yng Nghymru a oedd hyd yn oed yn ymylu ar y grym a gynullodd Herbert. Y rheswm, yn ddiau, oedd bod ei wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn tynnu’n hollol groes i ddull Wiliam Herbert o ennill grym personol drwy aros yn gyson deyrngar i’w frenin. Wedi’r cwbl, bu taid Wiliam Herbert, Syr Dafydd Gam, yn un o elynion pennaf Owain.

Os ‘arwr cenedlaethol’ oedd Wiliam Herbert yng ngolwg y beirdd, felly, roedd hynny’n wir o fewn cyfyngiadau syniadau gwleidyddol y cyfnod. Ac roedd ochr arall i’r geiniog. Mae taerineb Guto’r Glyn wrth ymbil ar Herbert i arbed Gwynedd rhag ei ddicter (cerdd 21) yn awgrymu pa mor greulon y gallai Herbert fod. Mewn cenedlaethau diweddarach byddai storïau’n cylchredeg am yr anrheithio didrugaredd a ddioddefodd Gwynedd yn ystod ymgyrch 1468 (Evans 1915: 168–9). Mae’n amhosibl, wrth gwrs, i ni dreiddio o dan yr wyneb a gofyn sut yn union y teimlai gwŷr megis Lewys Glyn Cothi a Dafydd Llwyd Mathafarn, a fuasai’n gefnogwyr selog i’r Tuduriaid a theulu Gruffudd ap Nicolas, wrth iddynt ymlwybro draw i Raglan yn ystod y 1460au. Y tebyg yw ei bod yn sylfaenol amhosibl i fardd proffesiynol ennill bywoliaeth yn ne Cymru yn y degawd hwnnw heb gydnabod goruchafiaeth Herbert a’r cwlwm o deuluoedd a’i cefnogai. Ceir awgrym o hyn gan y bardd Llywelyn ap Gutun (GLlGt 15.5–6):Nid rhydd man ym Morgannwg
Os diawl Gwent sy’n dala gwg.Diau mai Herbert yw ‘diawl Gwent’, fel yr awgryma’r golygydd. Cofiwn fod Lewys Glyn Cothi wedi ffoi ar herw i Feirionnydd ar ddechrau’r 1460au. Yn ei awdl fawl i Herbert mae Lewys yn sôn am hawl Herbert i roi pardwn i’r rhai a oedd wedi gwrthwynebu Edward IV (GLGC 112.84). Erbyn 1463/4, ac awdurdod Herbert yn dechrau ymledu dros afon Dyfi, mae’n amlwg y bu’n rhaid i Lewys blygu’r glin i arglwydd Rhaglan. Mae’n dra phosibl fod GLGC cerdd 112 yn rhan o’r pris y bu’n rhaid i Lewys dalu i ennill pardwn.

Mae rhai o’r cerddi a ganwyd i Herbert fel petaent yn rhoi’r argraff fod eu hawduron yn ymdrechu’n lew i argyhoeddi eraill o fanteision ei oruchafiaeth. Mae awdl Hywel Swrdwal (GHS cerdd 4) yn enghraifft wiw o hyn, a GLGC cerdd 112 (e.e., llinellau 13–16). Maent hefyd yn sôn am wrthwynebwyr iddo. Gwir fod yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ yn gyffredin mewn canu mawl Cymraeg, ond yn y cerddi i Herbert mae’r gwrthwynebwyr yn cael sylw annisgwyl ac mae pwyslais arbennig ar yr ofn y mae Herbert yn ei hennyn yn ei elynion (ibid. 112.29–32). Parhau y mae’r thema yn y marwnadau. Mae Hywel Swrdwal yn cydnabod y gallai Herbert fod yn drwm i rai (GHS 7.67). Sonia Dafydd Llwyd am ei ryfeddod fod Herbert yn ymddwyn mor rhwysgfawr, fel petai’n ymerawdwr (GDLl 54.57–8), ac mae’n ymbil ar ei gynulleidfa i faddau i Herbert am ei falchder a gweddïo dros ei enaid.

Mae’r canu ar gyfer y ‘national hero’ Wiliam Herbert yn ein hatgoffa nad yw gwaith y beirdd canoloesol yn fonolith. Yn hytrach, mae’n amrywio o fardd i fardd ac yn adlewyrchu gwahaniaethau barn. Mae hefyd yn rhan o ddisgwrs gwleidyddol ei ddydd, a’i syniadau am genedligrwydd yw rhai’r bymthegfed ganrif, nid heddiw.

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991–4, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1904–33), A History of Monmouthshire, ail argraffiad (London (1–3.1), Cardiff (3.2–4), Cardiff and Aberystwyth (5))
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2006), ‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19: 42–72
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Hughes, J. (2002), Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Pugh, T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ralegh-Radford, C.A. (1960), ‘Tretower: The Castle and the Court’, Brycheiniog, 6: 1–50
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith. J.B. and Pugh, T. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)