Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 16 llawysgrif, ond ychydig ohonynt sydd o werth wrth lunio’r testun. Ceir dau gopi yn llaw Wmffre Dafis, sef LlGC 3056D a Brog I.2, bron yn unffurf â’i gilydd, a chopi hynod debyg yn BL 14976. Y pedwerydd copi yn y grŵp hwn yw LlGC 16B, a gopïwyd o gynsail gyffredin y grŵp. Lle cytuna’r rhain fe’u gelwir yn ‘grŵp X1’ isod. Ceir copi cynnar ond anghyflawn o’r gerdd yn Pen 60 (c.1510) yn llaw y bardd Ieuan ap Huw Cae Llwyd, a chopi anghyflawn arall yn Pen 84 (ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg). Gan fod Pen 84 yn dechrau yn union lle mae Pen 60 yn gorffen, a barnu wrth destun grŵp X1, ymddengys ei bod yn cynrychioli’r un gynsail â Pen 60, cynsail a rannwyd yn ddwy ran cyn i’r testun yn y naill na’r llall o’r llawysgrifau hyn gael ei gopïo. Mae’r holl gopïau eraill yn tarddu o’r rhai a enwyd eisoes ac fe’u diystyrwyd. Seiliwyd y golygiad, felly, ar grŵp X1 a Pen 60/Pen 84. Nid yw’r darlleniadau yn wahanol iawn i’w gilydd, ond mae chwe llinell ychwanegol yn Pen 60/84 nas ceir yng ngrŵp X1.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3056D, LlGC 16B, Pen 60, Pen 84.
1 f’arglwyddwawr Felly grŵp X1 (ond LlGC 16B varglwydd vawr); Pen 60 argl6ydd6a6r. Mae’n amhosibl bod yn sicr a oedd y rhagenw yn y gynsail, ond cf. 9 fy nêr.
2 ai cwmensment Grŵp X1; gthg. Pen 60 achomensment. Mae angen ai neu fe gollid y gwrthgyferbyniad rhwng gwledd a cwmensment, ac mae angen hynny er mwyn pwysleisio bod gwledd Wiliam Herbert gymaint yn fwy na gwledd arferol. Hon yw’r unig enghraifft o cwmensment a restrir yn GPC 641 ac ni ellir bod yn sicr am natur y llafariad gyntaf.
7–8 Yn Pen 60 yn unig y ceir y cwpled hwn. Gan fod 5–6 yn rhoi enw cyntaf y noddwr, priodol yw cwblhau’r cyfarchiad drwy roi ei gyfenw yn y cwpled sy’n dilyn. Dichon y neidiodd llygad copïydd cynsail grŵp X1 o ar- yn 7 i ar- yn 9.
9 â’i ai neu ay yw darlleniad pob llawysgrif. O ran yr ystyr mae’n demtasiwn ei ddiwygio’n o’i, ond gan fod modd cael rhyw synnwyr, gwell yw ymatal.
11 ieirll Felly pob copi ond LlGC 3056D, lle ceir iarll, fel yn GGl 135.
17–18 Yn Pen 60 yn unig.
19 bod Pen 60 bob.
22 Mair LlGC 16B a Pen 84; mawr yn y lleill. Ac ystyried y berthynas agos rhwng y tair llawysgrif sy’n cynnig mawr, y ffaith fod LlGC 16B yn tarddu o’u cynsail hwy, a’r ffaith fod cynsail y rhain oll yn annibynnol ar Pen 84, mae’n rhaid derbyn Mair. Nid yw’n fai cael yr un llafariad (neu ddeusain) dan yr acen yn yr orffwysfa a’r brifodl, cf. CD 303–4.
23 yni Pen 84 en i, ffurf orgraffyddol dderbyniol ar yni; gthg. grŵp X1 oni. Digwydd oni fel amrywiad ar yni hefyd, gw. GPC 2648 d.g. oni2. Nid yw’n debygol mai oni1 ‘os na’ a geir yma, oherwydd disgwylid y modd mynegol ar ei ôl, nid y dibynnol fel a geir yn arferol gydag yni.
24 drec Felly pob copi ond BL 14976, lle ceir drak, a dderbyniwyd yn GGl 135.
24 a’u Llawysgrifau ai. Maent yn unfryd o ran peidio â threiglo dryg-honsel na drec, felly rhaid derbyn y rhagenw lluosog yma a deall bod y bardd yn meddwl am y Saeson a gynrychiolir gan enw Hengest. Mae ar yn LlGC 16B yn awgrymu bod y copïydd yno wedi sylwi ar yr anghysondeb a diwygio.
24 dryg-honsel Felly BL 14976 a LlGC 16B; dryc k6nnsell yn Pen 84; drwg honsel yng nghopïau Wmffre Dafis.
25 f’un Felly Pen 84 a BL 14976, ond gan fod vn ym mhob copi arall yng ngrŵp X1 rhaid cymryd bod copïydd BL 14976 wedi diwygio ei gynsail er mwyn y gynghanedd a’r ystyr. Mae Pen 84 yn cadarnhau ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir.
31 yn Pen 84 en; gthg. LlGC 16B, BL 14976 a Brog I.2 yn, LlGC 3056D /n/. Disgwylid cywasgu yn ar ôl mae, fel yn y copi olaf hwn, ond mae angen sillaf ar gyfer hyd y llinell. Ar y llaw arall, go brin y disgwylid rhagenw yma. Gwell derbyn, felly, fod cywasgiad yn wedi ei atal. Gall, wrth gwrs, fod gair unsill wedi ei golli o ganol y llinell ac y bu’n rhaid i’r copïwyr adfer sillaf. Yn wreiddiol, efallai, ceid rhywbeth fel Y mae’n ddug, ŵr main ei ddant. Ond rhy fentrus fyddai derbyn hynny yn y testun golygedig.
35, 36 o Dilynir grŵp X1 yn erbyn Pen 84 lle ceir i [= ei] yn y ddwy linell. Nid yw’n effeithio ar yr ystyr.
38 ei i ym mhob llawysgrif ond LlGC 16B o. Gthg. 31, 32.
39 o rhoed Grŵp X1; gthg. Pen 84 od aeth.
47 o gledd Pen 84 a glaif. Nid yw’r gynghanedd yn caniatáu derbyn hyn.
49 Dduw … Ddwywent Treiglir y ddau air yn Pen 84 a BL 14976, a’r un cyntaf yn unig yn LlGC 16B. Ni threiglir y naill na’r llall yng nghopïau Wmffre Dafis.
49 erglyw Mae’r darlleniad gwallus ergly, a geir ym mhob copi yng ngrŵp X1, yn dangos cydberthynas y grŵp yn loyw.
51–2 Yn Pen 84 yn unig. Ni cheir rheswm da dros eu gwrthod, a hawdd fyddai colli cwpled mewn cyfres ar y cymeriad geiriol nid.
52 nid Llawysgrif ni. Yn ramadegol mae rhaid wrth nid yma.
57 bu rhyw Ceir n berfeddgoll yn ail hanner y llinell (benrhaith) a ‘chywirwyd’ hyn yn LlGC 3056D a BL 14976 drwy ychwanegu vn o flaen rhyw.
Canwyd y cywydd mawl hwn i Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, rywdro yn ystod misoedd olaf ei yrfa. Dyma gyfnod pryderus pan welwyd mwyfwy o arwyddion o anfodlonrwydd gydag Edward IV, y brenin yr oedd ei ffafr wedi codi Herbert i’r entrychion (gw. llinellau 9–14n). Dechreua’r gerdd drwy ganmol gwledd a gynhaliwyd gan Herbert, yn Rhaglan, bid sicr, er na ddywedir hynny’n hollol ddiamwys. Fe’i cymherir â gwleddoedd chwedlonol y gorffennol: gwledd Caswallon ar ôl curo Iwl Cesar, gwledd y Preutur Siôn yn India, a gwledd Arthur cyn cychwyn allan i oresgyn Rhufain (1–8). Ymddengys fod Herbert yntau wedi cychwyn allan i ryfela yn dilyn y wledd hon, fel yr awgryma Guto yn 9–14. Eto mae’r bardd yn pwysleisio mai ffrwgwd digon di-nod oedd hwn mewn gwirionedd, ac na allai’r Saeson wrthwynebu ei arwr ef. Ni wyddom gefndir y digwyddiad hwn yng Nghaerloyw, ond yn ei sgil mae Herbert bellach wedi mynd i Lundain, i drafod â’r brenin yn ôl pob tebyg. Mynega Guto ei bryderon am ddiogelwch Herbert ymhlith y Saeson twyllodrus (17–26), ac yn wyneb y ffaith y byddai Herbert yn cael ei ddienyddio gan ei elynion yng Ngorffennaf 1469, mae geiriau’r bardd yn dwyn arwyddocâd pwysfawr. Eto, gorddramateiddio fyddai ceisio dyddio’r gerdd hon yn union i drothwy ymgyrch Banbury/Edgecote ym mis Gorffennaf 1469 a arweiniodd at ddienyddio Herbert. I gyfarfod cyngor yn Llundain y mae Herbert wedi mynd (17), nid i frwydro yn erbyn byddin o wrthryfelwyr yng nghanolbarth Lloegr. Yng ngweddill y gerdd mae’r bardd yn ymwrthod â’i bryder ac yn dathlu goruchafiaeth Herbert i’r eithaf. Mae Herbert yn haeddu ei alw’n ddug, nid yn iarll, gan mor rymus ydyw (27–8). Mae’n well na phawb arall (ac eithrio’r brenin!) ym mhob agwedd ar y bywyd uchelwrol (29–34). Ef yw Rolant yn gwasanaethu Siarlymaen, sef Edward (35–6). Ef yw prif gynorthwyydd, cynghorydd a chefnogwr Edward (37–44). Wedyn mae Guto yn gweddïo am i Dduw warchod Herbert ac yn cloi gyda rhagor o ganmoliaeth iddo. Mae’r deisyfiad olaf – fod Herbert yn gwisgo talaith tywysog Cymru – yn adlewyrchu ei awdurdod cwbl eithriadol drwy Gymru benbaladr.
Nid yw’r cywydd yn bradychu pwy a’i comisiynodd os nad oedd Herbert yn bresennol i’w glywed, fel yr awgryma’r testun. Efallai fod rhywun neu rywrai o blith teulu neu gefnogwyr Wiliam Herbert yn teimlo’r angen i galonogi ei wŷr yn wyneb y pryderon a oedd yn amlwg ar gynnydd. Neu fe all fod Herbert yn bresennol wedi’r cwbl: nid bod y sefyllfa yn y cywydd yn llwyr ddychmygol, ond efallai fod Herbert ar fin cychwyn am Lundain a bod y bardd yn dychmygu sut y bydd yntau’n teimlo wrth aros i Herbert ddychwelyd. Os felly, rhaid gweld hwn yn gywydd sy’n cynghori Herbert i gymryd gofal yno yn gymaint ag fel cywydd mawl.
Dyddiad
Rhwng dyrchafiad Wiliam Herbert yn iarll ym mis Medi 1468 a’i ddienyddiad ym mis Gorffennaf 1469.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd L; Lewis 1982: cerdd 19.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 58 linell.
Cynghanedd: croes 53% (31 llinell), traws 22% (13 llinell), sain 14% (8 llinell), llusg 10% (6 llinell).
2 cwmensment Rhoddir ‘dechrau, cychwyniad’ yn GPC 641. Ac ystyried bod Wiliam Herbert wedi cychwyn allan ar ryw neges (gw. 17), gallai hynny dycio. Eto yn OED Online s.v. commencement, n. (2a), nodir bod commencement yn enw ar seremoni raddio rwysgfawr, yn enwedig yng Nghaer-grawnt, a bod y gair hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ffigurol, cf. ibid. (2b). Dyrchafwyd Herbert yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468 (Thomas 1994: 40). Rhaid bod y cywydd hwn wedi ei ganu rhwng y dyddiad hwnnw a marwolaeth Herbert ym mis Gorffennaf 1469, ysbaid o lai na blwyddyn. Byddai’n rhesymol credu bod y gair cwmensment wedi ei ddethol yma oherwydd bod y wledd yn dathlu dyrchafiad Herbert yn iarll.
3 gwledd … Gaswallawn Caswallon (Cassivellaunus) oedd brenin Prydain pan ymosododd Iwl Cesar ar yr ynys yn ôl ‘Historia Regum Britanniae’ Sieffre o Fynwy. Ar ôl gorchfygu Cesar cynhaliodd wledd anferth lle lladdwyd deu ugein mil o wartheic, a chan mil o deueit, ac o amryv genedloed adar y savl ny ellit y rif, a dec mil ar ugeint o amryv genedloed bvystuilet gvyllt (BD 49; Reeve and Wright 2007: 75).
5 Ieuan Y Preutur Siôn neu Ieuan Fendigaid, brenin ac offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn teyrnasu yn ddi-baid yn India, gw. Edwards 1999 am ymdriniaeth fanwl. Credid ei fod wedi ysgrifennu llythyr at y pab. O ran ei wledd, dyma a ddywedir yn y cyfieithiad Cymraeg Canol o’r llythyr hwn: ef a vwytta beunyd ar yn bord ni dec mil ar hugeint o dynyon heb a el ac a del o westeion (Edwards 1999: 10).
9 Arthur … wledd Disgrifir y wledd hon yn ‘Historia Regum Britanniae’ Sieffre o Fynwy, gw. Reeve and Wright 2007: 208–22. Fe’i cynhaliwyd yng Nghaerllion-ar-Wysg, ac yno penderfynodd y Brythoniaid ymosod ar Rufain.
9 â’i wledd Yn betrus deellir â’i yn hytrach nag a’i. Aeth Arthur gyda’i wledd, hynny yw, gyda’r holl gynulliad a fuasai yno i Rufain.
11 Caerloyw Ni wyddys pa ddigwyddiad a ddisgrifir yn llinellau 11–18. Rhaid ei fod wedi digwydd yn eithaf diweddar, ac felly’n ôl pob tebyg ar ôl i Wiliam Herbert gael ei ddyrchafu’n iarll. Noda Charles Ross: ‘In the latter half of 1468 Edward’s troubles again multiplied. The realm was filled with reports of intrigue, disaffection and Lancastrian conspiracies’ (Ross 1974: 122). Er nad yw Ross yn cyfeirio at Gaerloyw yn benodol, dyna gyd-destun tebygol y llinellau hyn.
13 dull Am yr ystyr gw. GPC 1098 (b).
14 cyffredin Hynny yw, yn ymwneud â’r bobl gyffredin, y commoners. Ond dichon fod y bardd yn chwarae hefyd â’r ystyr ‘cyffredinol, helaeth’.
17–18 Dyfnaint / … i Gaer-gaint Nid ymddengys fod arwyddocâd penodol i’r enwau lleoedd hyn o ran y digwyddiadau y sonnir amdanynt yn 11–18. Yn hytrach, yr ergyd yw ‘o un pen i Loegr i’r llall’.
20 gŵr y god Rhydd GPC 1694 ddwy ystyr, sef ‘wealthy and generous man; treasurer’ a ‘tramp, pedlar, packman; bogey’. Mae’r cyfuniad yn digwydd yn achlysurol yn y farddoniaeth, ond mae’n anodd pennu’r ystyr bob tro. Fe’i ceir am angau yn GGDT 4.2, ac ategir y dyb mai rhywbeth brawychus ydyw gan GHC VIII.13–14 Gŵr hygar wrth ei garwyr, / Gŵr y god wrth Gaer a’i gwŷr. Dyma fersiwn o’r topos tra chyffredin ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ ac mae’n rhaid fod gŵr y god yn rhywbeth cryfach o lawer yn y cwpled hwn na ‘trysorydd’ neu ‘rhoddwr arian’: bu mewn gwirionedd wrthdaro gwaedlyd rhwng noddwr Hywel Cilan, Rheinallt ap Bleddyn, a gwŷr Caer. Naturiol yw tybio bod y gair yn dwyn ystyr gref yn llinell Guto hefyd. Rhoddais ‘bwgan’ yn yr aralleiriad, gan ddilyn ail ddiffiniad GPC, ond tybed a oes cysylltiad â’r gêm a elwir broch yng nghod (GPC 330 d.g. broch1)? Yn y gêm hon rhoddid daeargi mewn sach a’i guro â ffyn. Ceir cyfeiriad enwog iawn ati yn y chwedl ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, lle rhoir Gwawl fab Clud mewn sach a’i daro â ffyn nes ei fod yn ildio Rhiannon i Bwyll, gw. PKM 16–17.
21 atunt i Lundain Cynghanedd lusg; am ateb -nt â -nd, gw. CD 219, lle y nodir mai mympwy ychydig o feirdd a flodeuai ganol y bymthegfed ganrif oedd hyn, a rhoddir enghreifftiau o waith Guto’r Glyn a Hywel Dafi.
22 argelwch GPC2 451 ‘lle o’r neilltu, cilfach, cuddfan, noddfa, lloches’. Fe’i deellir yn ffigurol yma am nawdd Mair.
24 Heinsiest Hengest, un o’r ddau frawd y credid eu bod wedi arwain y Saeson i Brydain. Roedd Hengest yn enwog am fradychu penaethiaid y Brythoniaid drwy eu gwahodd i wledd ac yna eu lladd yn ddirybudd. Gw. Reeve and Wright 2007: 134, 135.
24 a’u Rhaid bod y bardd yn meddwl am y Saeson a gynrychiolir gan enw Hengest.
24 dryg-honsel Am honsel, gw. GPC 1897 ‘rhodd (yn enw. un a roddir fel arwydd o ewyllys da neu er sicrhau ffafr’). Nid cyd-ddigwyddiad yw’r defnydd o air benthyg Saesneg yma. Am y gair Saesneg, gw. OED Online s.v. handsel/hansel, n.
25 llygad Delwedd gyffredin am arweinydd, gw. GPC 2761 (c).
28 plant Rhonwen Sef y Saeson. Rhonwen oedd merch Hengest yn ôl y chwedl, gw. WCD 559 a Williams 1964–6: 301–3.
31 dug Nid yn llythrennol: dywedir bod grym Wiliam Herbert yn ei osod uwchlaw lefel iarll.
32 meddiant Gall olygu ‘cyfoeth’ a ‘grym, awdurdod’, gw. GPC 2398. Wrth gwrs prin fod modd gwahaniaethu rhwng y ddwy ystyr hyn yn yr Oesoedd Canol.
37 wynebwr GPC 3744 ‘gŵr sy’n dwyn clod ac anrhydedd’ a hefyd ‘gwrthwynebwr’. Gallai’r ddau dycio yma.
39–40 Siarlmaen … / Rolant Daeth Rolant yn enwog fel arwr y gerdd Ffrangeg ‘Chanson de Roland’, sy’n disgrifio sut y lladdwyd Rolant wrth frwydro’n ddewr mewn brwydr yn Roncesvalles (ar y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen) a sut y dialwyd ei farwolaeth gan ei arglwydd, Siarlymaen. Gw. YCM2 a Rejhon 1983. Ceir yr un gymhariaeth rhwng Edward IV a Wiliam Herbert ar y naill law, a Siarlymaen a Rolant ar y llall, gan Lewys Glyn Cothi (GLGC 112.105–6).
45 cwnsel Cynyddodd dylanwad Wiliam Herbert yn llys y brenin yn sgil priodas ei fab â chwaer y frenhines yn 1466, gw. Ross 1974: 78n2.
50 gatwo … Ector Am y gynghanedd, gw. CD 212.
50 Ector Hector, mab Priaf, brenin Caerdroea, a’r prif arwr a ymladdai ar ochr gwŷr y ddinas honno yn y chwedlau a gysylltid â chyrch y Groegiaid yn ei herbyn. Yr oedd y chwedlau hyn yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.
57 penrhaith n berfeddgoll.
58 y dalaith Dïadem neu goron tywysog Cymru, gobaith uchelgeisiol a beiddgar i’w leisio. Cf. y traethawd ‘Enwau Ynys Prydain’ a olygwyd yn TYP3 246: Sef y dylyir y daly 6rthi [sef ym Mhrydain]: Coron a Their Taleith. Ac yn Llundein g6isga6 y Goron, ac ym Penryn Rionyt yn y Gogled vn o’r Taleithieu, ac yn Aberfra(6) yr eil, ac yg Kerni6 y dryded. Aberffraw oedd sedd symbolaidd tywysogion Gwynedd/Cymru.
Llyfryddiaeth
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Rejhon, A.C. (1984) (ed.), Cân Rolant: The Medieval Welsh Version of the Song of Roland (Berkeley)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1964–6), ‘Ronwen: Rhawn Gwynion’, B xxi: 301–3
This praise poem was composed for William Herbert, first earl of Pembroke, sometime during the final months of his career. This was an anxious period when more and more signs were to be seen of discontent with Edward IV, the king whose favour had elevated Herbert to great heights (see lines 9–14n). The poem begins by praising a feast held by Herbert, at Raglan for sure, though that is not stated with complete clarity. It is compared with legendary feasts of the past: the feast of Caswallon after defeating Julius Caesar, the feast of Prester John in India, and Arthur’s feast before he set out to conquer Rome (1–8). It appears that Herbert too had set out for war following his feast, as Guto suggests in 9–14. Yet the poet emphasises that this was a fairly trivial encounter and that the English were no match for his hero. We do not know the background to this event in Gloucester, but in the aftermath Herbert has now proceeded to London, in all likelihood to hold discussions with the king. Guto expresses his fears for Herbert’s safety among the treacherous English (17–26), and in the light of the fact that Herbert was indeed beheaded by his enemies in July 1469, the poet’s words acquire ominous significance. Yet it would be overdramatic to try to date this poem to the very eve of the Banbury/Edgecote campaign of July 1469 which led to Herbert’s death. Herbert has gone to a council in London (17), not to confront an army of rebels in the English Midlands. In the remainder of the poem Guto leaves behind his fears and celebrates Herbert’s supremacy to the limits. Herbert deserves to be called a duke, not an earl, because he is so powerful (27–8). He is better than everyone else (except the king!) in every aspect of the aristocratic lifestyle (29–34). He is Roland serving Edward’s Charlemagne (35–6). He is Edward’s chief assistant, counsellor and supporter (37–44). Then Guto prays to God to protect Herbert and closes with more praise for him. The final desire – that Herbert should wear the diadem of the prince of Wales – reflects his unparalleled authority throughout Wales.
The poem does not reveal who commissioned it, assuming that Herbert was not himself present to hear it, as the poem implies. Perhaps someone from among his family or retainers felt the need to encourage his men in the face of the concerns which were clearly mounting. Or it may be that Herbert was indeed present: not that the poetic situation was wholly imaginary, but perhaps he was about to set off for London and the poet imagines himself in the situation of awaiting Herbert’s return. If so, the poem should be seen not merely as a praise poem but as a piece of advice to Herbert to watch his back while away from home.
Date
Between September 1468, when William Herbert was raised to the earldom, and his execution in July 1469.
The manuscripts
This poem occurs in 16 manuscripts, but few of them are of value for editing the text. There are two copies in the hand of Humphrey Davies, LlGC 3056D and Brog I.2, which are all but identical, and a very similar copy in BL 14976. The fourth copy in this group is LlGC 16B, which derives from the group’s common ancestor. There is an early but incomplete copy of the poem in Pen 60 (c.1510) in the hand of the poet Ieuan ap Huw Cae Llwyd, and another incomplete one in Pen 84 (second half of the sixteenth century). Since Pen 84 begins precisely where Pen 60 leaves off, to judge by the text in the other copies, it seems that these two represent one exemplar which must have become divided before either Pen 60 or Pen 84 was copied. All the other copies derive from those already named and are worthless. The edited text was therefore based on the four related manuscripts and Pen 60/84. The readings do not differ greatly but there are six extra lines in Pen 60/84.
Previous editions
GGl poem L; Lewis 1982: poem 19.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 58 lines.
Cynghanedd: croes 53% (31 lines), traws 22% (13 lines), sain 14% (8 lines), llusg 10% (6 lines).
2 cwmensment GPC 641 offers simply ‘commencement’. Given that William Herbert has departed on some mission (see 17), that might be acceptable. But in OED Online s.v. commencement, n. (2a), is given as the name of a ‘great ceremony’ where degrees are conferred, especially in Cambridge, and there are also examples where the word is used figuratively for a large and important assembly. Herbert was made earl of Pembroke on 8 September 1468 (Thomas 1994: 40). This poem must have been composed between then and his death in July 1469, a period of less than a year. It would be reasonable to assume that the word cwmensment was chosen because the feast was a celebration of Herbert’s elevation to the earldom.
3 gwledd … Gaswallawn Caswallon (Cassivellaunus) was king of Britain when Julius Caesar attacked it according to Geoffrey of Monmouth’s ‘Historia Regum Britanniae’. After defeating Caesar he held an enormous feast where they killed ‘forty thousand cows, a hundred thousand sheep, innumerable birds of different species and also a collection of thirty thousand woodland beasts of every kind’ (Reeve and Wright 2007: 74, 75).
5 Ieuan Prester John, a legendary king and priest who was believed to rule without end in India, see Edwards 1999 for a detailed study. He was held to have written a letter to the pope. Regarding his feast, this is what the Middle Welsh translation of the letter has to say: ef a vwytta beunyd ar yn bord ni dec mil ar hugeint o dynyon heb a el ac a del o westeion ‘thirty thousand men eat daily at our table, not counting any guests who come and go’ (Edwards 1999: 10).
9 Arthur … wledd Arthur’s feast is described in the ‘Historia Regum Britanniae’ of Geoffrey of Monmouth, see Reeve and Wright 2007: 208–22. It was held at Caerleon, and there the Britons decided to attack Rome.
9 â’i wledd Hesitantly I read â’i rather than a’i. Arthur went with his feast, that is, with the whole assembly, to Rome.
11 Caerloyw It is not known what event is described in lines 11–18. It must have occurred quite recently, in all probability after William Herbert became an earl. Charles Ross notes: ‘In the latter half of 1468 Edward’s troubles again multiplied. The realm was filled with reports of intrigue, disaffection and Lancastrian conspiracies’ (Ross 1974: 122). Although Ross does not refer to Gloucester specifically, this is the likely context for these lines.
13 dull For the meaning see GPC 1098 (b).
14 cyffredin I.e. having to do with commoners. But the poet is probably also playing with the meaning ‘common, extensive’.
17–18 Dyfnaint / … i Gaer-gaint These places do not seem to have been speicifically involved in the events described in 11–18. Rather, the meaning is ‘from one side of England to the other’.
20 gŵr y god Literally ‘the man of the bag/purse’. GPC 1694 gives two definitions: ‘wealthy and generous man; treasurer’; and ‘tramp, pedlar, packman; bogey’. The phrase occurs occasionally in the poets, but its meaning is not always certain. It refers to death in GGDT 4.2, and that it meant something greatly to be feared is supported by GHC VIII.13–14 Gŵr hygar wrth ei garwyr, / Gŵr y god wrth Gaer a’i gwŷr ‘A kindly man to his friends, / The man of the bag to Chester and its men’. This is a version of the extremely common topos ‘strong to the strong, weak to the weak’ and gŵr y god in this couplet must therefore be something far stronger than a treasurer or a moneylender: there was indeed a bloody feud between Hywel Cilan’s patron, Rheinallt ap Bleddyn, and the men of Chester. We would expect the word to have a strong meaning in Guto’s line as well. I translate ‘bogey’, as in the second definition offered by GPC, but might the phrase have something to do with the game called broch yng nghod ‘badger in the bag’ (GPC 330 s.v. broch1)? This involved putting a badger in a bag and beating it with sticks. There is a very well-known reference in the tale of ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, where Gwawl fab Clud is bagged up and thrashed until he yields Rhiannon to Pwyll, see PKM 16–17.
21 atunt i Lundain Cynghanedd lusg; on answering -nt with -nd, see CD 219, where it is described as a whim on the part of certain poets around the middle of the fifteenth century, with examples by Guto’r Glyn and Hywel Dafi.
22 argelwch GPC2 451 ‘secluded place or spot, hiding-place, refuge, sanctuary, retreat’. Here it is understood figuratively for the Virgin’s protection.
24 Heinsiest Hengest, one of the two brothers who were thought to have led the Saxons to Britain. Hengest was famous for treachery, having invited the British nobles to a feast and then had them slaughtered without warning. See Reeve and Wright 2007: 134, 135.
24 a’u The poet must be thinking about the English (plural) under the name Hengest.
24 dryg-honsel For honsel, see GPC 1897 ‘gift (esp. one given as a token of good will or to secure a favour)’. It is not coincidental that Guto should use this English loan-word here. For the English word, see OED Online s.v. handsel/hansel, n.
25 llygad Literally ‘eye’, a common image for a leader, see GPC 2761 (c).
28 plant Rhonwen The English. Rhonwen was Hengest’s daughter according to the story, see WCD 559 and Williams 1964–6: 301–3.
31 dug Herbert is not literally a duke: the poet is saying that his authority sets him above any other earl.
32 meddiant This can mean ‘wealth’ and also ‘power, authority’, see GPC 2398. Of course the distinction is scarcely meaningful in the Middle Ages.
37 wynebwr Literally ‘man of face’ or ‘face man’, see GPC 3744 which offers ‘man of honour’ and also ‘opponent’. Both could be relevant here.
39–40 Siarlmaen … / Rolant Roland became famous as the hero of the French poem ‘Chanson de Roland’, which describes how he was killed while fighting bravely in a battle at Roncesvalles (on the border between France and Spain) and how his death was avenged by his lord Charlemagne. See YCM and Rejhon 1983. The same comparison between Edward IV and William Herbert on the one hand, and Charlemagne and Roland on the other, is made by Lewys Glyn Cothi (GLGC 112.105–6).
45 cwnsel William Herbert’s influence at court increased after the marriage of his son to the queen’s sister in 1466, see Ross 1974: 78n2.
50 gatwo … Ector For the cynghanedd, see CD 212.
50 Ector Hector, the son of Priam king of Troy, the chief hero who appears on the side of the Trojans in the legends of the Greek assault upon Troy. These stories were extremely popular during the Middle Ages.
57 penrhaith n berfeddgoll.
58 y dalaith The diadem or coronet of the prince of Wales, an ambitious and daring hope to raise. Cf. the tract ‘Enwau Ynys Prydain’ edited in TYP3 246: Sef y dylyir y daly 6rthi: Coron a Their Taleith. Ac yn Llundein g6isga6 y Goron, ac ym Penryn Rionyt yn y Gogled vn o’r Taleithieu, ac yn Aberfra(6) yr eil, ac yg Kerni6 y dryded ‘There should be held therein [in Britain] a Crown and Three Coronets. The Crown should be worn in London, and one of the Coronets at Penrhyn Rhionydd in the North, the second at Aberffraw, and the third in Cornwall’. Aberffraw was the symbolic seat of the princes of Gwynedd/Wales.
Bibliography
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Rejhon, A.C. (1984) (ed.), Cân Rolant: The Medieval Welsh Version of the Song of Roland (Berkeley)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1964–6), ‘Ronwen: Rhawn Gwynion’, B xxi: 301–3
Wiliam Herbert oedd noddwr amlycaf Guto’r Glyn. Rhwng 1445, pan fu farw ei dad, a’i farwolaeth yntau yn 1469, enillodd le digyffelyb iddo’i hun yng ngweinyddiaeth de Cymru, ac yn ystod y 1460au ef oedd prif gefnogwr y Brenin Edward IV yng Nghymru gyfan. Roedd ei nawdd i farddoniaeth yn gymesur â’i uchelgais wleidyddol. Ef oedd noddwr yr ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi a gynhaliwyd yn Rhaglan (cerddi 20 a 20a) a gwrthrych dau gywydd mawl (cerddi 21 a 23). Mae’r farwnad a ganodd Guto i’w goffáu yn 1469 (cerdd 24) ymhlith cerddi mwyaf teimladwy’r bardd. Canodd llawer o feirdd eraill i Wiliam Herbert: Dafydd Llwyd Mathafarn (GDLl cerddi 28 a 54, efallai 48), Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 111 a 112), Hywel Swrdwal (GHS cerddi 4, 5 a 7) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Lluniodd Huw Cae Llwyd farwnad i Wiliam a’i frawd Rhisiart ar y cyd (HCLl cerdd 4). Byddai meibion y ddau frawd yn eu tro yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn. Ar nawdd yr Herbertiaid yn gyffredinol, gw. Lewis 1982.
Rhaid diystyru dwy gerdd y dywedir yn gyfeiliornus eu bod wedi eu canu i Wiliam Herbert. Awdl i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, ac yn bennaf oll i fab hwnnw, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, yw HCLl cerdd 2. Awgrymir mai mab Wiliam Herbert o Raglan yw gwrthrych cerdd a olygwyd gan Lewis (1982: cerdd 17 a gw. Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro), nid Herbert ei hun: mae’r gerdd fel petai’n ymateb i’r tyndra a gododd rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, yn y 1470au, a cheir cyfeiriad tebygol at farwolaeth Wiliam Herbert yn llinell 46. Ceir ansicrwydd ynghylch un gerdd arall: gallai GDLl cerdd 48 fod yn gywydd i Wiliam neu i’w fab.
Achres
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Godwin’ 8. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro
Wiliam Herbert oedd mab hynaf Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, yntau’n ŵr a groesawodd Guto’r Glyn i’w gartref. Ei fam oedd Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu. Roedd ganddo nifer o frodyr a chwiorydd, cyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Yr amlycaf oedd ei frawd cyfreithlon iau, Rhisiart Herbert. Ail ŵr i Wladus oedd Syr Wiliam ap Tomas, ac roedd ganddi feibion o’i phriodas gyntaf â Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn. Y meibion hyn, sef Water (Watgyn), Tomas a Rhosier Fychan, oedd hanner brodyr yr Herbertiaid a chefnogwyr ffyddlon iddynt.
Noddwyd Guto gan dri o feibion Wiliam, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, Water Herbert a mab anghyfreithlon, sef Wiliam Herbert o Benfro.
Ei gartrefi
Rhestrir y tai a fuasai ym meddiant Syr Wiliam ap Tomas yn 19.21–6. Aeth Colbrwg, ger y Fenni, i Risiart Herbert, a delid Tro ger Trefynwy gan Domas Herbert, brawd arall, cyn mynd i ddwylo Wiliam Herbert (Bradney 1991–4, 2.2: 162). Rhoddodd Herbert Dretŵr i’w hanner brawd Rhosier Fychan; roedd Rhosier yn byw yno erbyn 1457 (Ralegh-Radford 1960: 16). Ond daliodd Herbert ei afael ar brif gartref ei dad, sef castell Rhaglan, ac yno y trigai hyd ei farwolaeth. Roedd Syr Wiliam ap Tomas wedi dechrau noddi gwaith adeiladu mawr yn Rhaglan, a pharhaodd ei fab i gynnal y gwaith. Ceir ansicrwydd ai Wiliam Herbert ynteu ei dad a gododd y tŵr mawr (Emery 1975: 162–4, 167; Newman 2000: 490; Kenyon 2008: 114n69) ond yn sicr Wiliam Herbert a oedd yn gyfrifol am droi’r castell yn gartref gwirioneddol fawreddog drwy ailadeiladu’r ystafelloedd byw (ibid. 109).
Ei yrfa hyd 1461
Y prif bwyntiau yn unig a gaiff sylw yn y nodyn hwn, oherwydd mae gyrfa Wiliam Herbert yn ddeunydd llyfr sylweddol. Dyma ŵr a gododd o fod yn fonheddwr lleol i fod yn arglwydd a wysid i sesiynau’r Senedd ac a ddyrchafwyd, yn y pen draw, yn iarll, y Cymro cyntaf o waed llawn i dderbyn yr anrhydeddau hyn.
Ganed Wiliam Herbert o ail briodas ei dad, ac felly rhwng 1420 a marwolaeth Wiliam ap Tomas yn 1445. Awgryma R.A. Griffiths y dyddiad c.1423 (DNB Online s.n. Herbert, William). Mae’n bosibl ei fod yn farsiandïwr yn gynnar yn ei yrfa (Thomas 1994: 13 ac ibid. n3 yn enwedig). Yn sicr byddai ganddo yn nes ymlaen ddiddordebau sylweddol yn y fasnach ar hyd afon Hafren (Evans 1915: 75). Aeth i Ffrainc ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn hyn o beth roedd yn dilyn ôl traed ei dad, a oedd wedi gwasanaethu Richard, dug Iorc, yn Normandi. Yn 1449 roedd Herbert yn gapten ar dref Carentan, ynghyd â’r milwr enwog o Gymro, Mathau Goch. Bu’n rhaid iddynt ildio’r dref i’r Ffrancwyr, a oedd erbyn hynny ar fin rhoi ergyd farwol i rym y Saeson yn Normandi (ibid. 75–6). Ymladdwyd y frwydr fawr olaf yn Formigny, 15 Ebrill 1450. Er bod Herbert wedi llwyddo i achub bywyd Mathau Goch ar faes y gad (cadarnheir hynny gan Lewys Glyn Cothi, GLGC 111.27–8), eto fe’i daliwyd ef ei hun gan y Ffrancwyr, a bu’n rhaid talu’n ddrud am ei ryddid (DNB Online s.n. Herbert, William).
Yn Awst 1449, yn ôl yng Nghymru, roedd Herbert wedi priodi Ann Devereux (Defras yn Gymraeg), merch i Sir Walter Devereux (Water Defras), tirfeddiannwr sylweddol yn swydd Henffordd (Thomas 1994: 13). Trwy’r briodas hon cryfhawyd dylanwad Herbert yn ardal Henffordd, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf gwelir Herbert a Devereux yn gweithredu fel cynghreiriaid agos. Bu farw Walter Devereux yn 1459, ond parhau a wnaeth y berthynas agos rhwng y ddau deulu: gadawodd fab, a elwid hefyd Walter Devereux ac a oedd yr un mor ffyddlon i’w frawd yng nghyfraith ac y buasai’i dad (DNB Online s.n. Devereux, Walter).
Ffurfiodd teuluoedd Herbert, Devereux a Fychan glymblaid gref a dylanwadol a ddaeth i lywodraethu dros arglwyddiaethau de-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos swyddi Henffordd a Chaerloyw. Disgrifir hwy fel ‘the Devereux-Herbert gang’ gan un hanesydd sydd wedi astudio’u gweithgareddau aflywodraethus yn swydd Henffordd yn ystod y 1450au (Herbert 1981: 107). Fel deiliaid a chefnogwyr Richard, dug Iorc, roedd yn anochel y caent eu tynnu i mewn i’r gwrthdaro rhwng y dug a llys y Brenin Harri VI yn y 1450au. Ar 10 Hydref 1452 derbyniodd Herbert bardwn cyffredinol, arwydd ei fod wedi cefnogi’r dug yn erbyn plaid y llys: eisoes yng Ngorffennaf y flwyddyn honno cyhuddwyd Sir Walter Devereux o deyrnfradwriaeth (Thomas 1994: 15; DNB Online s.n. Devereux, Walter). Ymddengys fod plaid y llys wedi ceisio denu Wiliam oddi wrth Richard, dug Iorc. Urddwyd ef yn farchog yn ystod y Nadolig, 1452 (DNB Online s.n. Herbert, William), yn fuan ar ôl i Siasbar Tudur, hanner brawd y brenin, gael ei wneud yn iarll Penfro. I’r cyfnod Tachwedd/Rhagfyr 1452 y perthyn y gerdd gyntaf hysbys i Herbert, sef GLGC cerdd 111, sy’n fawr ei chanmoliaeth i deyrngarwch Herbert tuag at Siasbar a’r Goron.
Ni pharhaodd y teyrngarwch hwn yn hir. Yn fuan ailgyneuwyd y gynnen, a hynny ar stepen drws Wiliam Herbert yn ne Cymru. Richard Neville, iarll Warwick, oedd biau arglwyddiaeth fawr Morgannwg, a gwasanaethai Herbert fel siryf yno drosto. Roedd yr iarll yntau’n gynghreiriad i Richard, dug Iorc. Yn 1453 cyhuddwyd Herbert o amddiffyn yr arglwyddiaeth drwy rym arfau yn erbyn dug Somerset a’i hawliai iddo’i hun gyda chefnogaeth plaid y llys (Pugh 1971: 196). Daeth arwydd arall o benderfynoldeb didrugaredd Wiliam Herbert ym mis Mawrth 1456, pan lofruddiwyd ei hanner brawd, Watgyn Fychan, yn Henffordd. Arweiniodd Herbert a Walter Devereux lu o gefnogwyr i Henffordd, gan feddiannu’r dref drwy rym a gorfodi’r awdurdodau yno i grogi’r dynion euog yn y man a’r lle. Canwyd cywydd gwaedlyd gan Hywel Swrdwal i goffáu’r digwyddiadau hyn ac yn galw am ddial Watgyn (GHS cerdd 23; Evans 2006). Ond chwarae bach oedd hyn o’i gymharu â digwyddiadau Awst 1456. Erbyn hynny roedd yr ymgiprys rhwng dug Iorc a’r llys yn cyrraedd penllanw. Arweiniodd Syr Wiliam Herbert a Sir Walter Devereux lu o wŷr arfog i dde-orllewin Cymru. Bu iddynt feddiannu castell Caerfyrddin yn enw dug Iorc a charcharu Edmwnd Tudur, hanner brawd y brenin, cyn cipio castell Aberystwyth hefyd (Thomas 1994: 15). Erbyn mis Hydref roedd Herbert yn codi llu arall yn arglwyddiaethau’r De-ddwyrain (ibid. 16n2). Er i Herbert gael ei garcharu dros dro yn Nhŵr Llundain, buan y maddeuwyd iddo (Ebrill/Mai 1457, gw. ibid. 16–17). Wedi hynny, ymddengys iddo dynnu’n ôl o’r gwrthdaro rhwng dug Iorc a’r llys brenhinol, ac mae’n debygol mai dyna sut y llwyddodd i gadw ei safle a’i swyddi ar ôl i’r dug ac iarll Warwick gael eu dyfarnu’n deyrnfradwyr ar ddiwedd 1459.
Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1460. Daliwyd Harri VI yn sgil brwydr Northampton a daeth iarll Warwick yn feistr ar y sefyllfa. Comisiynwyd Herbert a Devereux i gynnal achos plaid Iorc yng Nghymru (Thomas 1994: 20). Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd Herbert o blaid Edward, mab y dug, ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd byddin Siasbar Tudur (DNB Online s.n. Herbert, Wiliam). Aeth gydag Edward i Lundain a bu’n bresennol pan ddyrchafwyd ef yn frenin (Thomas 1994: 23; buasai dug Iorc ei hun farw yn Rhagfyr 1460). Wedyn fe’i dilynodd i ogledd Lloegr i wynebu’r Lancastriaid. Ymladdodd ym mrwydr dyngedfennol Towton (29 Mawrth 1461), fel y cadarnheir gan Lewys Glyn Cothi, sy’n sôn amdano’n ymladd yn Efrog (GLGC 112.33; mae safle’r frwydr yn swydd Efrog).
Goruchafiaeth yng Nghymru: 1461–9
I bob pwrpas dyrchafodd y brenin newydd Wiliam Herbert yn brif gynrychiolydd iddo yn ne Cymru. Afraid rhestru’r holl swyddi a roddodd i Herbert: digon yw nodi bod y brenin yn ystod y 1460au wedi rhoi i Herbert bob swydd o bwys a oedd ar gael iddo yn yr ardal hon. Ar 8 Mai 1461 gwnaed Herbert yn ustus, yn siambrlen, yn stiward ac yn brif fforestydd Deheubarth Cymru am oes (Thomas 1994: 24). Dyma roi yn ei feddiant diroedd y Goron yn ne-orllewin Cymru. Tua’r un pryd cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd Siasbar Tudur, sef iarllaeth Penfro, yn y De-orllewin (ibid.). Ym mis Medi cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd dug Buckingham yng Nghymru gan fod etifedd y teitl dan oed. Roedd dwy arglwyddiaeth fawr a chyfoethog yn eu plith, sef Brycheiniog a Gwynllŵg neu Gasnewydd (Thomas 1994: 25). Eisoes ym mis Gorffennaf 1461 fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Herbert. Dyrchafwyd Walter Devereux yn Farwn Ferrers of Chartley ar yr un pryd (Griffiths 2008: 266; DNB Online s.n. Devereux, Walter).
Roedd safle Herbert yn y De-ddwyrain yn gadarn, ond os dymunai wireddu’r pwerau a ddyfarnwyd iddo yn y Gorllewin, lle buasai Edmwnd a Siasbar Tudur yn cynnal achos Harri VI, byddai’n rhaid iddo ymladd drostynt. Ar 30 Medi ildiodd castell Penfro iddo ef a Walter Devereux (cf. 21.19–20). Yno y daeth mab ifanc Edmwnd Tudur, Harri, i ofal Herbert (Thomas 1994: 25–6). Ar 16 Hydref trechasant Siasbar Tudur ym mrwydr Twthill, y tu allan i dref Caernarfon (Ross 1974: 49). Bu ymgyrchu eto yn 1462, y tro hwn yn erbyn Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, a ddaliai gastell Carreg Cennen. Erbyn Mai 1462 ildiodd y castell i Risiart Herbert a Rhosier Fychan a difawyd ei amddiffynfeydd (Griffiths 1993: 28), buddugoliaeth y cyfeiria Guto ati yn 21.21–2.
Yn Chwefror 1462 grantiwyd tiroedd helaeth iawn i Herbert, gan gynnwys popeth a berthynai i iarllaeth Penfro a hefyd i arglwyddiaeth Gŵyr (tra oedd yr etifedd cyfreithiol dan oed). Hefyd grantiwyd Harri Tudur yn ward iddo. Talodd fil o bunnau am y grant olaf hwn, sy’n dangos nid yn unig mor werthfawr oedd Harri, ond hefyd mor fawr oedd adnoddau Herbert erbyn hynny (Thomas 1994: 28). Cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn at bresenoldeb Harri Tudur yn y llys yn Rhaglan, ac at fwriad Herbert i drefnu priodas rhyngddo a’i ferch, mewn cywydd a ganwyd rywdro yn y 1460au (GDLlM cerdd 28). Ym mis Mawrth derbyniwyd Herbert yn aelod o Urdd y Gardas (Thomas 1994: 28). Yn yr haf daeth yn arglwydd Crucywel (ibid. 29). Yn ystod gaeaf 1462–3 roedd Herbert a Devereux gyda’r brenin yng ngogledd Lloegr, yn wynebu ymgais gan y Lancastriaid i godi gwrthryfel yno (ibid.). Gwobrwywyd Herbert eto, y tro hwn â thiroedd yng Ngwlad-yr-haf, Dyfnaint a Suffolk (ibid. 30).
Roedd 1463 yn arwyddocaol hefyd am estyn awdurdod Herbert i ogledd Cymru: ym mis Mehefin rhoddwyd sir Feirionnydd yn ei ofal (ibid.). Ond damcaniaethol oedd yr awdurdod hwn, oherwydd arhosodd castell Harlech ym meddiant garsiwn a oedd yn ffyddlon i Harri VI, ac roedd y milwyr hyn yn gweithredu’n rhydd ar draws y sir. Mae’n debygol mai rywdro yn 1463/4 y canwyd GLGC cerdd 112, awdl fawreddog i Wiliam Herbert sy’n canmol ei wasanaeth yng ngogledd Lloegr, ei awdurdod yng Ngwynedd a’i fwriad i ymuno â’r Brenin Edward ar groesgad. Ni wireddwyd yr olaf, ond mae’n adlewyrchu’r sôn mynych a fu yn y blynyddoedd hyn am y posibilrwydd y byddai Edward yn arwain croesgad (Hughes 2002: 182–3).
Yn 1465 dyrchafwyd Rhaglan yn arglwyddiaeth y Mers, yn annibynnol felly ar Frynbuga (Thomas 1994: 32): dyma’r tro diwethaf i frenin Lloegr greu arglwyddiaeth o’r fath (DNB Online s.n. Herbert, William). Yn 1466 cafodd Herbert diroedd helaeth yn swydd Gaerloyw (Thomas 1994: 33–4). Rhwng 1465 a 1467 derbyniodd hefyd y swyddi pwysicaf yn yr arglwyddiaethau a berthynai i Edward IV fel iarll y Mars (Brynbuga, Buellt ac eraill: ibid. 34; Griffiths 2008: 267). Ym mis Medi 1466 priododd mab Wiliam Herbert â Mary Woodville, chwaer y frenhines (Thomas 1994: 45). Dathlwyd y briodas yn Windsor a’r seremoni i urddo’r gŵr ifanc yn farchog gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 6).
Ehangwyd rôl Herbert yn y Gogledd yn 1467. Meddiannodd arglwyddiaeth Powys tra oedd yr etifedd dan oed (Thomas 1994: 34). Apwyntiwyd ef hefyd yn ustus y Gogledd (ibid. 35). Yn olaf, cafodd feddiant o arglwyddiaethau Dinbych, Ceri, Cedewain a Threfaldwyn (ibid.).
Yn 1468 daeth gyrfa Herbert i uchafbwynt. Roedd castell Harlech wedi bod yn ddraenen yn ystlys y brenin byth ers ei ddyfodiad i’r orsedd. Yn 1468, o’r diwedd, awdurdododd Edward ymgyrch a fyddai’n rhoi terfyn ar wrthsafiad ystyfnig y garsiwn. Herbert a apwyntiwyd i arwain yr ymgyrch, a bu’n llwyddiant disglair, oherwydd ildiodd y castell ar 14 Awst 1468. Mae cerdd 21 yn dathlu’r achlysur hwn, fel hefyd cywydd Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Yn wobr am ei wasanaeth cafodd Herbert fraint nad oedd unrhyw Gymro o waed llawn eto wedi ei derbyn: iarllaeth. Dyrchafwyd ef yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468. I flwyddyn olaf bywyd Wiliam Herbert, ar ôl iddo gael ei ddyrchafu, y perthyn cerdd 22 a 23. Tua’r un pryd, yn 1468, y daeth Herbert yn berchennog llawn ar arglwyddiaeth Gŵyr a phrynodd hefyd arglwyddiaeth Cas-gwent (Smith and Pugh 1971: 259).
Y ffrae gyda Richard Neville, iarll Warwick, a marwolaeth Wiliam Herbert
Go brin y gallai neb godi yn y byd i’r graddau y gwnaeth Wiliam Herbert heb ennill gelynion. Ei elyn pennaf oedd Richard Neville, iarll Warwick. Ef oedd prif gefnogwr Edward IV a dibynnai’r brenin newydd yn drwm arno. Rheolai’r iarll ogledd Lloegr dros y brenin mewn modd cyffelyb i Herbert yng Nghymru. Asgwrn y gynnen rhwng y ddau oedd y dylanwad mawr a enillodd Herbert ar y brenin, grym cynyddol Herbert yng Nghymru (lle roedd iarll Warwick yntau’n dirfeddiannwr o bwys) a’r berthynas agos rhwng Herbert a theulu’r frenhines, a ystyrid gan iarll Warwick yn fygythiad i’w ddylanwad ef. Yn 1469 cododd cefnogwyr iarll Warwick wrthryfel yng ngogledd Lloegr. Gwysiwyd Herbert o dde Cymru i wynebu byddin y gwrthryfelwyr, a oedd yn anelu tua’r de. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu’r ddwy fyddin ger pentref Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Lewis 2011: 103–6). Ar ôl ymladd yn ddewr, trechwyd llu Herbert. Lladdwyd Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, ar faes y gad, a daliwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Aethpwyd â hwy i Northampton, ac ar 27 Gorffennaf dienyddiwyd Wiliam Herbert. Erys ar glawr gopi o’r atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd ar fore’r diwrnod hwnnw (Thomas 1994: 109–10). Claddwyd Wiliam Herbert yn abaty Tyndyrn (am lun o’r beddrod cyn ei ddinistrio, gw. Lord 2003: 262). Canwyd marwnadau iddo gan Guto’r Glyn, Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd a Dafydd Llwyd Mathafarn.
Asesiad
Mae’n anodd pwyso a mesur arwyddocâd Wiliam Herbert ar gyfer y beirdd Cymraeg. Cred ddigon cyffredin ymhlith haneswyr yw eu bod wedi trin Herbert fel arwr i’w genedl (e.e. Ross 1974: 78 ‘in contemporary Welsh literature, where he appears as a national hero’). O ddarllen y cerddi sy’n ei ganmol, hawdd yw cytuno. Mae Hywel Swrdwal, er enghraifft, yn annog ei gynulleidfa i sylweddoli cymaint o fendith yw cael arglwydd o Gymro sy’n siarad Cymraeg yn lle’r Sais arferol (GHS 4.49–56). Ac, ar awr anterth grym Herbert yn 1468, mae Guto’r Glyn yn cyflwyno gweledigaeth y gellir ei galw’n un genedlaethol: dylai Herbert uno Cymru o un pen i’r llall o dan ei arweiniad (21.65–70). Yn sicr, taniwyd dychymyg y beirdd hyn gan rychwant awdurdod Herbert a’i agosrwydd at y brenin. Mae ysbryd Sieffre o Fynwy yn cyniwair drwy awdl Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 112) lle darlunnir Herbert yn rheoli Cymru yn uniongyrchol o dan awdurdod y Brenin Edward IV, yr olrheinir ei ach yn ôl i frenhinoedd Brythonig Prydain.
Roedd y weledigaeth hon yn realistig, ond dim ond i’r graddau y cydnabyddid bod grym Herbert yn deillio, yn y pen draw, o’i berthynas â’r brenin. Er bod y beirdd yn annog Herbert i wrthsefyll y Saeson (e.e. 21.65–70), ni chlywir gair am herio’r Goron ei hun. Gweledigaeth Sieffre o Fynwy – Lloegr, Cymru a’r Alban, tair gwlad yn ffurfio un deyrnas o dan un goron, ac arglwyddi eilradd ond anrhydeddus yn rheoli Cymru a’r Alban o dan awdurdod y goron honno – yw cyd-destun y breuddwydion hyn. Rhaid cofio hyn wrth ddarllen geiriau Guto’r Glyn, yn annog Herbert i estyn am ‘y dalaith’ (23.58; cf. GDLl 28.4), sef nod tywysog Cymru. Un cymeriad nas enwir byth yn y canu i Herbert yw Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ennill awdurdod yng Nghymru a oedd hyd yn oed yn ymylu ar y grym a gynullodd Herbert. Y rheswm, yn ddiau, oedd bod ei wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn tynnu’n hollol groes i ddull Wiliam Herbert o ennill grym personol drwy aros yn gyson deyrngar i’w frenin. Wedi’r cwbl, bu taid Wiliam Herbert, Syr Dafydd Gam, yn un o elynion pennaf Owain.
Os ‘arwr cenedlaethol’ oedd Wiliam Herbert yng ngolwg y beirdd, felly, roedd hynny’n wir o fewn cyfyngiadau syniadau gwleidyddol y cyfnod. Ac roedd ochr arall i’r geiniog. Mae taerineb Guto’r Glyn wrth ymbil ar Herbert i arbed Gwynedd rhag ei ddicter (cerdd 21) yn awgrymu pa mor greulon y gallai Herbert fod. Mewn cenedlaethau diweddarach byddai storïau’n cylchredeg am yr anrheithio didrugaredd a ddioddefodd Gwynedd yn ystod ymgyrch 1468 (Evans 1915: 168–9). Mae’n amhosibl, wrth gwrs, i ni dreiddio o dan yr wyneb a gofyn sut yn union y teimlai gwŷr megis Lewys Glyn Cothi a Dafydd Llwyd Mathafarn, a fuasai’n gefnogwyr selog i’r Tuduriaid a theulu Gruffudd ap Nicolas, wrth iddynt ymlwybro draw i Raglan yn ystod y 1460au. Y tebyg yw ei bod yn sylfaenol amhosibl i fardd proffesiynol ennill bywoliaeth yn ne Cymru yn y degawd hwnnw heb gydnabod goruchafiaeth Herbert a’r cwlwm o deuluoedd a’i cefnogai. Ceir awgrym o hyn gan y bardd Llywelyn ap Gutun (GLlGt 15.5–6):Nid rhydd man ym Morgannwg
Os diawl Gwent sy’n dala gwg.Diau mai Herbert yw ‘diawl Gwent’, fel yr awgryma’r golygydd. Cofiwn fod Lewys Glyn Cothi wedi ffoi ar herw i Feirionnydd ar ddechrau’r 1460au. Yn ei awdl fawl i Herbert mae Lewys yn sôn am hawl Herbert i roi pardwn i’r rhai a oedd wedi gwrthwynebu Edward IV (GLGC 112.84). Erbyn 1463/4, ac awdurdod Herbert yn dechrau ymledu dros afon Dyfi, mae’n amlwg y bu’n rhaid i Lewys blygu’r glin i arglwydd Rhaglan. Mae’n dra phosibl fod GLGC cerdd 112 yn rhan o’r pris y bu’n rhaid i Lewys dalu i ennill pardwn.
Mae rhai o’r cerddi a ganwyd i Herbert fel petaent yn rhoi’r argraff fod eu hawduron yn ymdrechu’n lew i argyhoeddi eraill o fanteision ei oruchafiaeth. Mae awdl Hywel Swrdwal (GHS cerdd 4) yn enghraifft wiw o hyn, a GLGC cerdd 112 (e.e., llinellau 13–16). Maent hefyd yn sôn am wrthwynebwyr iddo. Gwir fod yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ yn gyffredin mewn canu mawl Cymraeg, ond yn y cerddi i Herbert mae’r gwrthwynebwyr yn cael sylw annisgwyl ac mae pwyslais arbennig ar yr ofn y mae Herbert yn ei hennyn yn ei elynion (ibid. 112.29–32). Parhau y mae’r thema yn y marwnadau. Mae Hywel Swrdwal yn cydnabod y gallai Herbert fod yn drwm i rai (GHS 7.67). Sonia Dafydd Llwyd am ei ryfeddod fod Herbert yn ymddwyn mor rhwysgfawr, fel petai’n ymerawdwr (GDLl 54.57–8), ac mae’n ymbil ar ei gynulleidfa i faddau i Herbert am ei falchder a gweddïo dros ei enaid.
Mae’r canu ar gyfer y ‘national hero’ Wiliam Herbert yn ein hatgoffa nad yw gwaith y beirdd canoloesol yn fonolith. Yn hytrach, mae’n amrywio o fardd i fardd ac yn adlewyrchu gwahaniaethau barn. Mae hefyd yn rhan o ddisgwrs gwleidyddol ei ddydd, a’i syniadau am genedligrwydd yw rhai’r bymthegfed ganrif, nid heddiw.
Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991–4, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1904–33), A History of Monmouthshire, ail argraffiad (London (1–3.1), Cardiff (3.2–4), Cardiff and Aberystwyth (5))
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2006), ‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19: 42–72
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Hughes, J. (2002), Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Pugh, T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ralegh-Radford, C.A. (1960), ‘Tretower: The Castle and the Court’, Brycheiniog, 6: 1–50
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith. J.B. and Pugh, T. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)