Y llawysgrifau
Ceir y gerdd hon mewn dwy lawysgrif, sef Pen 57 (c.1440), llawysgrif sy’n cyfoesi â gyrfa gynnar Guto’r Glyn, a Pen 312, adysgrifiad o gerddi o’r llawysgrif honno a wnaeth John Jones, Gellilyfdy. Nid oes unrhyw werth annibynnol i’r ail gopi hwn, sydd hefyd yn anghyflawn oherwydd colli dalennau, felly seiliwyd y golygiad ar y testun yn Pen 57.
Trawsysgrifiad: Pen 57.
13 philer Llawysgrif ffyler. Nid oes enghraifft arall o pyler fel ffurf amrywiol ar piler, cf. GPC 2803, felly cymerir mai amrywiad orgraffyddol pur yw’r y yma.
20 o Cywirwyd hyn i or gan law ddiweddarach, ymddengys, ond nid yw sail y cywiriad yn eglur. O ran y gystrawen o sydd ei angen.
35 ddifeth Llawysgrif diueth. Mae’r gynghanedd a’r gystrawen yn mynnu adfer y treiglad, gw. TC 304–5.
40 yng nghyfedd Llawysgrif ynghyffedd. Nid oes y fath air â cyffedd, hyd y gwyddys, felly deellir yng nghyfedd, sydd hefyd yn atgyfnerthu’r gynghanedd. Ceir hefyd Oeraff am oeraf yn llinell 42 yn y llawysgrif.
49–50 Newidiwyd trefn y ddwy linell hyn yn y testun, gan y brif law yn ôl pob tebyg. Mae’r synnwyr yn gryf o blaid y drefn ddiwygiedig, a mabwysiadwyd hi yn y testun golygedig.
49–50 llawen … llawen Mae’r ailadrodd yn annisgwyl ac efallai fod yma ryw lygriad yn gysylltiedig â threfn anghywir y llinellau yn y llawysgrif.
Adeiladwyd y cywydd mawl hwn i Phylib ap Gwilym Llwyd o gwmpas thema’r daith i ymweld â’r noddwr. Nid yw’n hollol eglur ble y dychmygir i’r bardd fod yn y gerdd, ond a barnu yn ôl y berfau af (llinell 7), treiglaf (45) ac awn (53), mae Guto yn siarad fel petai ar ei ffordd i lys y gwrthrych, neu hyd yn oed yn llys rhywun arall, sef Rhys, abad Ystrad-fflur, yn ôl pob tebyg. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn gyfystyr â dweud mai yno y perfformiwyd y gerdd. Gan mai cerdd o fawl i Phylib ap Gwilym Llwyd ydyw, y tebyg yw ei bod wedi ei datgan yn un o’i gartrefi ef, sef Trefgwnter (48), a bod y daith y mae Guto’n dweud ei fod yn bwriadu ymgymryd â hi eisoes drosodd. Techneg ddigon cyffredin mewn barddoniaeth Gymraeg ganoloesol yw i’r bardd siarad fel petai ar ei daith i dŷ noddwr o hyd (Lewis 2009, 150).
Egyr y gerdd gyda Guto’n cymharu ei weithgarwch ag eiddo’r bardd delfrydol Taliesin wrth iddo wasanaethu Urien Rheged (1–6). Phylib fydd Urien ac Arthur y bardd, meddir (18, 20). Cymherir y llif o westeion sy’n ymweld â’i lys â phererinion yn heidio i Dyddewi (25–8). Yna cawn esboniad ar sefyllfa ddigon dyrys y bardd. Roedd wedi tyngu llw, fe ymddengys, i Phylib y byddai’n ymweld ag ef, ac na fyddai’n mynd i weld yr Abad Rhys o Ystrad-fflur. Ond serch yr addewid a wnaethai Guto, roedd Rhys wedi llwyddo i’w ddenu ato gyda’i berchentyaeth hael. Bellach mae Rhys wedi rhoi caniatâd i Guto deithio ymlaen i Drefgwnter. Nid yw’n eglur ble y gwelsai Guto Phylib a rhoi’r llw iddo: ai ar ryw ymweliad cynharach, ynteu mewn rhyw drydydd lle anhysbys. Cellweirus yw naws y cyfan, fodd bynnag. Mae’r gerdd yn parhau gydag ychwaneg o fawl i Phylib. Awgryma’r ffurfiau person cyntaf lluosog sy’n ymddangos yn ddisymwth yn 53 a 55 fod Guto’n teithio mewn grŵp.
Dyddiad
Mae’r gerdd yn perthyn i’r 1430au. Dyddiad y llawysgrif (c.1440) a dyddiad marwolaeth yr Abad Rhys (1440/1), a grybwyllir fel dyn byw yn y cywydd, yw’r unig ganllawiau, gan nad oes dyddiad mwy pendant ar gyfer y noddwr. Mae dyddiad cynharach na chanol y 1430au yn annhebygol am y rheswm nad oes tystiolaeth fod unrhyw un o gerddi Guto’n rhagflaenu’r cyfnod hwnnw, ond ni ellir bod yn sicr am hyn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XCI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 59% (38 llinell), traws 23% (15 llinell), sain 17% (11 llinell).
1 Taliesin Y bardd delfrydol yn y traddodiad Cymraeg, fel y mae Urien (cf. 4) yn ddelfryd o noddwr. Credid ei fod yn byw yn amser y rhyfeloedd rhwng y Brythoniaid a’r Eingl-Sacsoniaid yng ngogledd Prydain a’i fod yn fardd llys i Urien Rheged.
2 teuluaidd Nid yw’n eglur a oes ystyr dechnegol i’r gair hwn mewn perthynas â barddoniaeth. Sonia ‘Gramadegau’r Penceirddiaid’ am y teuluwr fel math o fardd sy’n is ei statws na phencerdd, ond yn uwch na chlerwr. Ond gwedda’r ystyr gyffredinol ‘cwrtais’ yn burion yma.
4 Urien Urien ap Cynfarch, brenin Rheged, teyrnas a leolid rywle yng ngogledd Prydain yn y chweched ganrif. Cedwir cerddi iddo dan enw Taliesin yn Llyfr Taliesin.
5–6 hylwydd goel, / … hoedl Seirioel Deellir hoedl yn enidol ar ôl coel. Cyffredin oedd i’r beirdd ddymuno hir oes i’w noddwyr yn eu cerddi. Eto, nid oes traddodiad penodol am Seiriol fel sant arbennig o hirhoedlog, ac efallai mai ‘buchedd [foesol]’ Seiriol yw’r ystyr yma. Fodd bynnag, cyfeirio at hyd einioes yn hytrach na’i hansawdd a wna hoedl fel arfer, cf. yr enghreifftiau yn GPC 1883. O ran y gystrawen, posibilrwydd arall fyddai cydio hoedl Seirioel wrth yr enw Urien.
6 Seirioel Seiriol, nawddsant Penmon ym Môn. Am y traddodiadau amdano, gw. LBS iv: 177–80.
9 griffwnt GPC 1531. Creadur chwedlonol a chanddo ben, gylfin, adenydd a chrafangau eryr, ond corff llew. Hoffai’r beirdd gymharu eu noddwyr ag anifeiliaid ffyrnig.
10 Cai Hir Cymeriad chwedlonol, prif gydymaith Arthur yn y traddodiad Cymraeg. Mae cyfeiriadau’r beirdd ato yn gyson gadarnhaol, yn wahanol i’r natur biwis a chwerylgar sy’n ei nodweddu mewn rhamantau Ffrangeg. Gw. WCD 91–4 a TYP3 308–11.
10 Dyffryn Gwy Yn y dyffryn hwn y mae Trefgwnter, cartref Phylib (48n).
11 mab goroff Wilym Gall fod goroff yn goleddfu mab yma yn lle Wilym, er gwaethaf y treiglad. Roedd Guto’r Glyn yn fodlon treiglo enw priod genidol ar ôl mab, cf. 13.14 a TC 108–9, ac efallai fod hynny’n bosibl hefyd lle safai ansoddair rhwng mab ac enw’r tad. Eto, haws yw cydio goroff wrth Wilym.
11–12 Gwilym / Llwyd Gydag enw’r tad, ac nid y mab, y perthyn yr epithet Llwyd, gthg. GGl2 237, lle crewyd y ffurf rithiol Ffylip Llwyd ap Gwilym.
13–14 piler, / … a phiniwn Defnyddiai’r beirdd dermau adeiladu’n helaeth i ddisgrifio’u noddwyr. Sail y delweddau hyn yw bod y noddwyr yn cynnal eu cymdeithas (ac yn enwedig y beirdd) fel y mae rhannau adeilad (colofnau, pileri) yn cynnal y strwythur, neu eu bod yn ben ar y cyfan, fel piniwn yma. Am yr ystyr ‘talcen adeilad’, gw. GPC 2807 d.g. piniwn2.
16 Gerallt Tad tad Phylib.
19 yrthiai GPC 1798 d.g. gyrthiaf. Mae’n anodd esbonio’r treiglad ar ddechrau’r frawddeg. Efallai fod y bardd yn ystyried mai yrthio oedd ffurf gysefin y ferf. Posibilrwydd arall yw cymryd bod y rhagenw perthynol a wedi ei golli o flaen y ferf, a deall Urien yn y llinell flaenorol fel ei ragflaenydd. Nid oes cofnod o’r ferf arthio ‘bloeddio’ cyn diwedd y ddeunawfed ganrif yn ôl GPC2 482, er y rhoddai synnwyr da yma: ‘Bloeddiai Saeson … wrth ormes Arthur’.
19 wrth Gw. GPC 3738 5(b) am yr ystyron ‘ar adeg, ar achlysur’.
20 aerDdeifr Deifr, enw hen deyrnas Eingl-Sacsonaidd sy’n cyfateb yn fras i swydd Efrog heddiw. Defnyddir yr enw am Saeson yn gyffredinol gan y beirdd, ond mae’n addas iawn yma ac ystyried bod Phylib yn cael ei gymharu â’r brenin gogleddol Urien.
24 helgarw Ergyd y cyfansoddair, yn ôl pob tebyg, yw carw sy’n ddigon aeddfed i gael ei hela (ac felly’n fawreddog yr olwg).
24 Talgarth Tref yn sir Frycheiniog. Mae Trefgwnter yn ei chyffiniau.
26 Mynyw Cymherir y llif o bobl sy’n ymweld â llys Phylib â phererinion yn heidio i Dyddewi (Mynyw). Tyddewi oedd un o’r cyrchfannau pererindota mwyaf poblogaidd ym Mhrydain yn yr Oesoedd Canol.
34 Phylib Odla â tyb yma, ond â gwib yn llinellau 27–8. Am odlau tebyg, gw. Bowen 1997: 138–43, yn enwedig 139. Yn ôl CD 248, yngenid y yn sillaf olaf gair fel i lle ceid i neu ei yn y goben. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, ceir y yn y goben: sillefir yr enw yn gyson fel phylib yn nhestun llawysgrif y gerdd, ac eithrio yn y llinell hon, lle ceir ffylyb. Cf. Bowen 1997: 139 am arfer Lewys Glyn Cothi o ysgrifennu y neu i yn sillaf olaf geiriau yn ôl gofynion yr odl. Ymddengys fod cryn ansicrwydd am ansawdd y ac i mewn sillafau olaf diacen erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, a bod y beirdd yn manteisio ar yr ansicrwydd hwnnw er mwyn cael hyd i odlau.
36 Seth Mab Adda ac Efa. Bu fyw am 912 o flynyddoedd yn ôl Genesis 5.8.
37 Rhys Abad Ystrad-fflur a fu farw yn 1440/1. Noddwr amlycaf Guto’r Glyn yn rhan gynnar ei yrfa, a barnu wrth y canu a erys iddo (cerddi 5–9).
37 aur tawdd Sef aur a doddwyd er mwyn cael gwared o bob amhuredd, aur pur.
38 Ystrad-fflur Abaty Sistersaidd yng Ngheredigion, lle yr ymwelai Guto ag ef yn fynych (cf. 37n).
40 yng nghyfedd Gall cyfedd olygu ‘cyd-yfwr’ hefyd, gw. GPC 688, felly byddai ‘fy nghyd-yfwr’ hefyd yn bosibl. Gellid hefyd adfer fy i greu cynghanedd gryfach â fy nghof; ond gan nad oes angen ateb f yma, diogelach yw cadw’r darlleniad fel y mae.
41 Llowes Plwyf yn sir Faesyfed ar lan afon Gwy. Gall mai tiroedd Phylib ym Maleiniog (56n) sy’n ei gysylltu â’r lle hwn.
43 enaid awenydd Gall enaid olygu ‘cyfaill agos’, gw. GPC 1212. Gw. 103.3n.
44 hwn Yn y cyd-destun, rhaid mai’r Abad Rhys yw hwn. Tyngasai Guto na fyddai’n mynd ato ef, ond at Phylib.
47 trwydded Ar ôl darllen 46 naturiol fyddai tybio mai ‘caniatâd’ yw’r ystyr yma, ond yn ôl GPC 3631 ni cheir enghraifft o’r ystyr honno cyn dechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Derbynier ‘perchentyaeth’, felly, sy’n golygu mai Phylib, ac nid Rhys, yw trafn clêr. Croeso cynnes Phylib sy’n denu’r bardd i Drefgwnter.
48 try fi Ynglŷn â defnyddio rhagenw annibynnol yn wrthrych berf nad yw yn y modd gorchmynnol, gw. GMW 49–50. Nid oes sail i’r diwygiad a geir yn GGl 238, sef tra fu. Mae try yn digwydd fel amrywiad ar tra (GPC 3538 d.g. tra3), ond byddai’r amser gorffennol yn ddiystyr yn y cyd-destun. Go brin mai’r ffurf dra hynafol bi (trydydd unigol dyfodol bod) a geir yma ychwaith, cf. WG 348. Yn Llyfr Taliesin y ceir y rhan fwyaf o’r enghreifftiau ohoni.
48 Trefgwnter Deellir bod yr enw mewn cyfosodiad â trefn clared yn y llinell flaenorol. Posibilrwydd arall fyddai ei gymryd yn gyrchfan y ferf try: ‘mae’n fy arwain i Drefgwnter’. Mewn Cymraeg Canol gellid rhoi enw cyrchfan, wedi ei dreiglo’n feddal, ar ôl berf a ddynodai symudiad, heb yr arddodiad i. Ceir ambell enghraifft debygol o’r gystrawen hon yn y bedwaredd ganrif ar ddeg lle na threiglir y cyrchfan, gw. GGMD ii, 1.22n. Trydydd posibilrwydd yma yw bod Trefgwnter yn oddrych y ferf: ‘mae Trefgwnter yn fy arwain’.
Enw fferm ryw filltir i’r gorllewin o Dalgarth yw Tregunter heddiw (SO 135339), a chynt roedd yno blasty a ddymchwelwyd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif (Gunter 1988–9: 47–8).
54 Ifor Ifor ‘Hael’ ap Llywelyn o Wernyclepa, noddwr Dafydd ap Gwilym. Daeth perthynas Ifor â Dafydd yn ddiarhebol ymhlith y beirdd.
56 Maleiniog Lleolid y faenor hon ar ddwy lan afon Gwy, yn agos i Laneigon a’r Gelli (Dawson 1918: 308–10). Melinog yw’r enw arni mewn rhai ffynonellau ac ar fap William Rees (1932), lle nodir hi rhwng y Clas-ar-wy a Llowes (SO 1840).
61 dwyn y bel Cyffredin yn y cyfnod hwn yw sôn am dwyn y bel, cael y bel fel arwydd o ragoriaeth. Mae’n ansicr beth yn union yw bel yn yr ymadroddion hyn: ai’r Saesneg ‘bell’ ynteu ffurf dreigledig pêl? Derbynnir bel yn GSDT 8.9n Dwg y bel fal Llywelyn; GSRh 11.71–2n Rhisiart, nid gwaed rhy isel, / Gwedy yntau, biau’r bel; GDG3 98 (35.3–4) Di-lwch riain dâl uchel, / Er dig i’r byd dygi’r bel. Caiff hyn rywfaint o gefnogaeth yn OED Online s.v. bell, n.1 (III.7.a), lle nodir ymadroddion cyffelyb yn Saesneg yn ymwneud â’r gloch a wisgir gan yr anifail sy’n arwain gyr neu ddiadell. Eto, bêl a dderbynnir yn GDGor 7.79–80 A darfo rhwyfo rhyfel, / Cymry sy yn barnu’r bêl (gw. ibid. 7.80n) ac yn GGl2 233–4 (lxxxix passim), a hefyd yn DG.net 106.4 (yr un gerdd ag a geir yn GDG3). Sylwer, o ran yr enghreifftiau lle mae bel yn odli â gair arall, nad yw rheol trwm ac ysgafn o gymorth i bennu hyd y llafariad, gw. CD 234–5.
61 diany Di + an + hy.
62 dwyn dadl Ansicr. Gall dwyn olygu ‘cynnal’ neu ‘ennill, cipio’, gw. GPC 1129–30 d.g. dygaf, a gall dadl gyfeirio at achos llys, ffrae neu sgwrs, gw. GPC 870. Yn y cyd-destun hwn rhaid mai rhyw fath o fuddugoliaeth a ddisgrifir, yn hytrach na ‘cynnal sgwrs’, ond ymddengys mai dyna yw’r ystyr yn 80.15 Dwyn dadl gyda dyn didwyll.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1997), ‘Pynciau Cynghanedd: Odli I, U ac Y’, LlCy 20: 138–43
Dawson, M.L. (1918), ‘Notes on the History of Glasbury’, Arch Camb (sixth series) xviii: 279–319
Gunter, G.W. (1988–9), ‘The Descent of Tregunter’, Brycheiniog, xxiii: 47–8
Lewis, B.J. (2009), ‘Genre and the Praise of Place in Late Medieval Wales’, Stefan Zimmer (ed.), Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses, ii: Philologie (Mainz am Rhein), 147–58
Rees, W. (1932), South Wales and the Border in the Fourteenth Century (Southampton)
This praise poem for Phylib ap Gwilym Llwyd is constructed around the theme of a journey to visit a patron. It is not entirely clear where the poet is imagined to be in the poem, but to judge from the present-future tense of the verbs af (line 7), treiglaf (45) and awn (53), Guto is speaking as if he were on his way to visit Phylib, or indeed still at another patron’s house, probably that of Rhys, abbot of Strata Florida. This does not, of course, mean that the poem was actually performed there. It is a praise poem for Phylib ap Gwilym Llwyd and so will probably have been declaimed in one of his homes, Tregunter (48), the poet having already completed the journey which he says he intends to undertake. It is a common feature of medieval Welsh poetry for the poet to speak as though he were still on his way to the patron’s house (Lewis 2009: 150).
The poem opens with Guto comparing his own activity with the service of Taliesin, the ideal poet, to Urien of Rheged (1–6). Phylib will be the poet’s own Urien and Arthur, he says (18, 20). The flow of guests visiting Phylib’s court is compared with pilgrims flocking to St David’s (25–8). Then comes an explanation of the poet’s rather convoluted situation. It appears that he had sworn to visit Phylib, and that he would not go to see Abbot Rhys. But the latter had evidently enticed him with his generous hospitality. Now Rhys has given Guto leave to proceed to Tregunter. It is not clear where Guto had seen Phylib and sworn the oath to him: on a previous visit to him, or in some unknown third location? All of this is in any case said quite light-heartedly. The poem concludes with more praise for Phylib. The sudden appearance of the first person plural in lines 53 and 55 suggests that Guto may have been travelling as one of a group.
Date
This poem belongs to the 1430s. The only guides are the date of the manuscript (c.1440) and the date when Abbot Rhys died (1440/1), since he is referred to as a living personage in the poem. The patron himself is not precisely dated. A date for the poem earlier than the mid-1430s is unlikely on the grounds that none of Guto’s work can be shown to be earlier than that time, though this is not a certainty.
The manuscripts
This poem is found in Pen 57 (c.1440), a manuscript written early in Guto’r Glyn’s career, and in Pen 312, a transcript of poems from Pen 57 made by John Jones, Gellilyfdy. This second copy, which is in any case incomplete owing to the loss of some leaves, has no independent value. Accordingly the edition has been based on the text in Pen 57.
Previous edition
GGl poem XCI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 59% (38 lines), traws 23% (15 lines), sain 17% (11 lines).
1 Taliesin The archetypal poet of the Welsh tradition, just as Urien (cf. 4) is the ideal patron. He was believed to have lived during the period of the wars between the Britons and the Anglo-Saxons in northern Britain, and to have been Urien’s court poet.
2 teuluaidd It is unclear whether this word has a technical meaning with regard to poetry. The Welsh bardic grammars discuss the teuluwr as a kind of poet who is of lower status than the pencerdd ‘chief of song/art’, but higher than the clerwr or ‘wandering minstrel’. However, the general meaning ‘courtly’ is quite appropriate here.
4 Urien Urien ap Cynfarch, king of Rheged, a kingdom which lay somewhere in northern Britain in the sixth century. Poems addressed to him are preserved in the Book of Taliesin, attributed to Taliesin.
5–6 hylwydd goel, / … hoedl Seirioel Hoedl is understood as genitive dependent on coel. The poets commonly wish for long life for their patrons in their poems. However, there is no specific tradition that Seiriol was a particularly long-lived saint, so perhaps Seiriol’s ‘[good] life’ is meant here. Nevertheless, hoedl normally refers to length of life rather than how it is lived, cf. the examples in GPC 1883. As regards the syntax, an alternative possibility is to take hoedl Seirioel with the name Urien: ‘Urien, with Seiriol’s upright/long life’.
6 Seirioel Seiriol, the patron saint of Penmon in Anglesey. On the traditions concerning him, see LBS iv: 177–80.
9 griffwnt GPC 1531; OED Online s.v. griffin, n.1. A legendary creature with the head, beak, wings and claws of an eagle, on the body of a lion. The poets liked to compare their patrons with fierce animals.
10 Cai Hir Generally referred to as (Sir) Kay in English. A legendary character who is Arthur’s chief companion in the Welsh tradition. The Welsh poets are consistently complimentary towards him, in contrast to the peevish and quarrelsome personality which he shows in French romances. See WCD 91–4 and TYP3 308–11.
10 Dyffryn Gwy Phylib’s home, Tregunter (48n), lies in the Wye Valley.
11 mab goroff Wilym Goroff may qualify mab rather than Wilym, although the lenition of the latter would normally compel us to associate the preceding adjective with it. But Guto’r Glyn was prepared to lenite a proper noun in a genitive relation after mab, cf. 13.14 and TC 108–9, and perhaps that was also possible when an adjective came between mab and the father’s name. All the same, it is easier to take goroff with Wilym.
11–12 Gwilym / Llwyd The epithet Llwyd belongs with Gwilym, the father, not with Phylib, the son; contrast GGl2 237, where the ghost-form Ffylip Llwyd ap Gwilym is falsely deduced from the text.
13–14 piler, / … a phiniwn The poets often use architectural metaphors to describe their patrons. The basic idea is that the patrons support or maintain their society (especially the poets), in the way that columns, pillars, &c., support a building, or else that they are the pinnacle of their society, as implied by piniwn here. For the meaning ‘gable-end’ of a roof or building, see GPC 2807 s.v. piniwn2.
16 Gerallt Phylib’s father’s father.
19 yrthiai GPC 1798 s.v. gyrthiaf. The lenition at the beginning of the sentence is hard to explain. Perhaps the poet regarded yrthio as the radical form. Another possibility is to assume that the relative pronoun a has been elided before the verb yrthiai, with Urien in the previous line being the antecedent of the relative clause. There is no record of the verb arthio ‘bawl, shout’ before the end of the eighteenth century according to GPC2 482, although it would give good sense here: ‘The English used to shout … under the onslaught of Arthur’.
19 wrth See GPC 3738 5(b) for the meanings ‘on the occasion of, during’.
20 aerDdeifr Deifr, Deira, an early Anglo-Saxon kingdom which corresponded roughly to the Yorkshire of today. The poets use the name for English people in general, but it is particularly apposite here since Phylib is being compared with the northern ruler Urien.
24 helgarw A compound of the verb hela ‘hunt’ + carw ‘stag’. The force is presumably a stag which is mature enough to be hunted (and is therefore of magnificent appearance).
24 Talgarth A town in Breconshire. Tregunter lies nearby.
26 Mynyw St David’s. The throng of people visiting Phylib’s court is compared to pilgrims going to St David’s. In the Middle Ages, St David’s was one of the most popular pilgrimage sites in Britain.
34 Phylib Rhymes with tyb here, but with gwib in lines 27–8. For similar rhymes, see Bowen 1997: 138–43, especially 139. According to CD 248, y has the sound of i in a final syllable where i or ei is found in the penult. However, in this instance we have y in the penult: the name is consistently spelt phylib in the manuscript text of this poem, except in this line, where it is written as ffylyb. Cf. Bowen 1997: 139 for Lewys Glyn Cothi’s habit of writing y or i in the final syllable of words according to what the rhyme requires. It seems that by the end of the Middle Ages the quality of i and y in final unaccented syllables was quite confused, a confusion which the poets exploited in their search for rhymes.
36 Seth Son of Adam and Eve. He lived for 912 years according to Genesis 5.8.
37 Rhys Abbot of Strata Florida who died in 1440/1. He was Guto’r Glyn’s most prominent patron during the early stages of his career, to judge by the poems addressed to him (poems 5–9).
37 aur tawdd Literally ‘melted gold’, i.e. gold which has been melted to remove any impurity, pure gold.
38 Ystrad-fflur Strata Florida, a Cistercian abbey in Ceredigion, visited frequently by Guto (cf. 37n).
40 yng nghyfedd The preposition yn ‘in’ + cyfedd ‘carousal’. cyfedd can also mean ‘fellow-drinker’, see GPC 688, so yng could be for fy ng- here, giving ‘my fellow-drinker’. Accepting that yng = fy ng-, it would furthermore be possible to restore f- to create a stronger cynghanedd with fy nghof; but since there is no requirement to answer f here, it is safer to retain the reading as it is.
41 Llowes A parish in Radnorshire beside the river Wye. Possibly Phylib’s lands in Maleiniog (56n) form the connection between him and Llowes.
43 enaid awenydd Enaid can mean a ‘close friend’, see GPC 1212 and 103.3n.
44 hwn In the context, this must be Abbot Rhys. Guto had sworn not to visit him, but only to go to Phylib.
47 trwydded After reading 46 it would be natural to take this as ‘leave, permission’, but according to GPC 3631 there is no example of that meaning before the early seventeenth century. It is better to accept ‘hospitality’, therefore, which means that Phylib, not Rhys, is the trafn clêr ‘lord of poets’. It is Phylib’s warm welcome which will lure the poet to Tregunter.
48 try fi For the use of an independent pronoun as object of a non-imperative verb, see GMW 49–50. There is no justification for the emendation in GGl 238 to tra fu. try does occur as a variant of tra (GPC 3538 d.g. tra3), but the past tense would be meaningless in the context. It is also very unlikely that we have here the very archaic bi (third singular future of bod), cf. WG 348, for most of the known examples are in the Book of Taliesin.
48 Trefgwnter The name is taken as being in apposition to trefn clared ‘claret hall’ in the previous line. Another possibility would be to take it as the destination after the verb try: ‘it lures me to Tregunter’. In Middle Welsh it was possible to use a noun of destination, lenited, directly after a verb which denoted movement. There are several likely examples of this construction from the fourteenth century where there is no lenition, see GGMD ii, 1.22n. As a third possibility we might take Trefgwnter to be the subject of try: ‘Tregunter lures me’.
There is a farm bearing the name Tregunter about a mile west of Talgarth (SO 135339), and there was formerly a mansion there, demolished in the early twentieth century (Gunter 1988–9: 47–8).
54 Ifor Ifor ‘the Generous’ ap Llywelyn of Gwernyclepa, the patron of Dafydd ap Gwilym. The relationship between Ifor and Dafydd became the archetypal poet-patron relationship in medieval Welsh literature.
56 Maleiniog This manor lay on both sides of the river Wye, near Llanigon and Hay (Dawson 1918: 308–10). It is called Melinog in some sources, which is the form under which it occurs on William Rees’s map (1932), which places it between Glasbury and Llowes (SO 1840).
61 dwyn y bel This expression occurs frequently in this period to mean ‘win/bear supremacy’. It is not absolutely clear what bel is: the English ‘bell’ or a lenited form of pêl ‘ball’? bel, i.e. ‘bell’, is accepted in GSDT 8.9n Dwg y bel fal Llywelyn ‘he bears the bell like Llywelyn’; GSRh 11.71–2n Rhisiart, nid gwaed rhy isel, / Gwedy yntau, biau’r bel ‘Richard, lineage not too ignoble, / After him, bears the bell’; GDG3 98 (35.3–4) Di-lwch riain dâl uchel, / Er dig i’r byd dygi’r bel ‘The spotless maiden with the high forehead / Bears the bell, to the world’s anger’. This is supported by OED Online s.v. bell, n.1 (III.7.a), which notes similar expressions in English referring to the bell worn by the animal which leads a herd or flock. However, bêl is accepted in GDGor 7.79–80 A darfo rhwyfo rhyfel, / Cymry sy yn barnu’r bêl ‘And may the stirring of war cease, / It is the Welsh who judge the ball’ (see ibid. 7.80n) and in GGl2 233–4 (lxxxix passim), and also in DG.net 106.4 (the same poem as in GDG3). Note that, in the cases where bel is in rhyme position, the metrical rule of trwm ac ysgafn is not of any use in determining the length of the vowel, see CD 234–5.
61 diany Di (negative) + an (negative) + hy ‘bold’.
62 dwyn dadl Uncertain. Dwyn can mean ‘hold, maintain’ or ‘win, take’, see GPC 1129–30 s.v. dygaf, and dadl can refer to a court case, an argument or a conversation, see GPC 870. In this context it must refer to some kind of triumph, rather than simply ‘holding conversation’, but the latter appears to be the meaning in 80.15 Dwyn dadl gyda dyn didwyll ‘discussing a matter with the honest’.
Bibliography
Bowen, D.J. (1997), ‘Pynciau Cynghanedd: Odli I, U ac Y’, LlCy 20: 138–43
Dawson, M.L. (1918), ‘Notes on the History of Glasbury’, Arch Camb (sixth series) xviii: 279–319
Gunter, G.W. (1988–9), ‘The Descent of Tregunter’, Brycheiniog, xxiii: 47–8
Lewis, B.J. (2009), ‘Genre and the Praise of Place in Late Medieval Wales’, Stefan Zimmer (ed.), Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses, ii: Philologie (Mainz am Rhein), 147–58
Rees, W. (1932), South Wales and the Border in the Fourteenth Century (Southampton)
Phylib ap Gwilym Llwyd oedd noddwr cerdd 30.
Achres
Ceir ach Phylib ap Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri yn WG2 ‘Barry’ 3. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Phylib mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter
Awgryma Bartrum yn betrus fod Gwilym Llwyd, tab Phylib, yn fab i Wilym Llwyd arall a oedd yn ei dro’n fab i Gerallt Barri. Mae cerdd Guto’n awgrymu bod hyn yn annhebygol: yn 30.11–16 olrheinir ach Phylib yn y dull arferol ac ni sonnir ond am un Gwilym Llwyd. Gelwir Phylib yn ŵyr Gerallt (30.16). Mae’n wir y gall ŵyr gyfeirio at orwyr, ond mae’r ffordd yr eir o’r mab i’r tad yn awgrymu mai’r taid a ddylai gael ei grybwyll nesaf, ac felly mai ‘ŵyr’ yw ystyr ŵyr yma. Brawd oedd Phylib, felly, i Fawd, mam Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd ym Mactwn, un arall o noddwyr cynnar Guto’r Glyn.
Ei fro
Dysgwn gan Guto fod Phylib yn byw rywle yn Nyffryn Gwy, yng nghyffiniau Talgarth (30.10, 24), ac ymddengys mai yn Nhrefgwnter yr oedd ei gartref (30.48). Enw fferm ryw filltir i’r gorllewin o Dalgarth yw Tregunter heddiw (SO 135339), a chynt roedd yno blasty a ddymchwelwyd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif (Gunter 1988–9: 47–8). Yn 1524, pan wnaed goruchwyliad o diroedd Harri Mil (m. 1522), ŵyr Harri Gruffudd, roedd Trefgwnter yn eu plith (Richardson and Hubbard 2010). Gwerth y tiroedd oedd £4. Dywed Richardson a Hubbard mai fel gwaddol Mawd y daeth Trefgwnter i feddiant teulu Harri Mil. Nid yw dyddiad priodas Mawd a Gruffudd ap Harri yn hysbys, ond roedd mab y ddau, Harri Gruffudd, yn ddigon hen i fod yn dyst i grant gyda’i dad yn 1425. Mae’n bosibl, felly, fod Phylib yn byw yn Nhrefgwnter gyda chaniatâd Gruffudd neu Harri, ac yn wir ei fod yn ddeiliad iddynt.
Ymddengys fod gan Phylib diroedd mewn lle o’r enw Maleiniog hefyd (30.56). Lleolid y faenor hon ar ddwy lan afon Gwy, yn agos i Laneigon a’r Gelli (Dawson 1918: 308–10). Melinog yw’r faenor mewn rhai ffynonellau ac ar fap William Rees (1932), lle lleolir hi rhwng y Clas-ar-wy a Llowes (SO 1840); Melynog yw’r ffurf yn WATU 155. Nid yw’n eglur a yw hyn yn ddigon i gyfrif am y ffaith fod Guto’n galw Phylib yn eryr Llowes (30.41), ynteu a oedd tiroedd pellach gan Phylib yn y lle hwnnw. Yn 1524 roedd Melinog ymhlith y tiroedd a adawsid gan Harri Mil (Richardson and Hubbard 2010). Ei werth oedd 53s 4d. Yn ôl y cyfeiriadau hyn perthynai Trefgwnter a Melinog i arglwyddiaeth Talgarth Seisnig. Erys Trefgwnter ym mhlwyf Talgarth ei hun hyd heddiw, ond nid yw cysylltiad Melinog â’r arglwyddiaeth yn eglur.
Ei ddyddiadau
Gan fod testun cerdd 30 yn Pen 57 (c.1440), rhaid ei bod wedi ei canu cyn hynny, yn y 1430au yn ôl pob tebyg. Ni allwn roi dyddiadau mwy pendant i Phylib na floruit yn y 1430au, felly.
Llyfryddiaeth
Dawson, M.L. (1918), ‘Notes on the History of Glasbury’, Arch Camb (sixth series) xviii: 279–319
Gunter, G.W. (1988–9), ‘The Descent of Tregunter’, Brycheiniog xxiii: 47–8
Rees, W. (1932), South Wales and the Border in the Fourteenth Century (Southampton)
Richardson, R.E. and Hubbard, S. (2010), ‘Parry Lands in 1524, 1543, 1544 & 1545’, yn http://www.blancheparry.co.uk/pdf/property_of_blanches_family.pdf