Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 14 llawysgrif a godwyd dros gyfnod sy’n ymestyn o ddegawd olaf yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’r amrywiadau geiriol yn eu testunau o’r gerdd yn fawr nac yn niferus, a’r un drefn llinellau a geir ynddynt, heb ddim bylchau. Gellir olrhain y testunau i gyd i un gynsail ysgrifenedig. Mae llawysgrifau’r gerdd i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Mae’r gerdd braidd yn fyr (48 llinell) o’i chymharu â’r rhan fwyaf o gerddi Guto. Braidd yn ddi-nod yw hi hefyd wrth y rheini a heb fod yn nodweddiadol iawn o waith y bardd hwn, er nad oes dim ynddi ychwaith sy’n gwahardd credu mai ef a’i cyfansoddodd. Cofier hefyd nad yw’r dystiolaeth ar gyfer awduraeth y gerdd hon o’r cryfaf gan ei bod yn dibynnu’n llwyr ar dystiolaeth Wmffre Dafis a oedd hefyd yn byw wedi oes Guto.
Ceir tri phrif destun o’r gerdd, pob un yn cynrychioli’r un teip ac yn llaw Wmffre Dafis, sef LlGC 3056D, Brog I.2 a Gwyn 1. Ac eithrio J 101, sy’n gopi o Brog I.2, tardda’r holl destunau eraill o gopi Gwyn 1, fel y dangosir yn y stema. O’r rhain, y rhai gorau yw LlGC 3056D, Gwyn 1, Pen 99, ond apeliwyd mewn mannau at dystiolaeth Brog I.2 hefyd.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3056D, Gwyn 1, Pen 99, Brog I.2.
1 caewyd kûddiwyd a geir yn LlGC 3056D, a cf. Gwyn 1 kuddiwydCaewyd, ond dengys y gynghanedd mai caewyd sy’n gywir.
3 brut brûd, sef y ffurf yn diweddu yn -d, a geir yn y llawysgrifau a cf. CM 204 brad, ond t a ofynnir gan y calediad yn Bwriwyd Hywel yn hanner cyntaf y llinell. Un esboniad posibl ar hyn yw bod cynsail y gerdd wedi ei chodi o gynsail wahanol ei horgraff lle defnyddid -t i ddynodi seiniau d a t. Trowyd bwriwyt, felly, yn bwriwyd gan wybod yr yngenid y -d yn t oherwydd yr h a’i dilynai, eithr pan ddaethpwyd at brut, dan ddylanwad y d yn bwriwyd trowyd y -t yn fecanyddol a difeddwl yn d gan golli golwg ar ei sain. Os cywir yr esboniad hwn, ymddengys fod yma hefyd enghraifft o wall yng nghynsail y gerdd a drosglwyddwyd i’r testunau eraill.
5 o’i Dyma ddarlleniad LlGC 3056D, Brog I.2 a Gwyn 1, ond gellid hefyd ystyried darlleniad Pen 99 i (‘ei’).
8 am ar a geir yn LlGC 3056D, Brog I.2 a Gwyn 1, ond gwell yw am Pen 99 o ran synnwyr a chynghanedd (cf. GGl). Gallai copïwr Pen 99 fod wedi codi’r darlleniad o destun arall a gynhwysai ddarlleniad cywir y gerdd neu ei gynnig fel ei ddiwygiad ei hun; cf. nodyn ar 33.
12 Dyfolwern Yn GGl dodir coma ar ei ôl ond mwy naturiol yw cymryd Dyfolwern yn enidol yn dibynnu ar nerth dau filwr.
20 yma’r â’r Gthg. GGl yma yw’r. Yn nhestun Brog I.2 yn unig, nad yw’n un o’r testunau gorau, y ceir y darlleniad hwn (ac ni restrir y testun yn GGl ychwaith), ac er y rhydd ystyr burion, gellir cynnig darlleniad sy’n fwy cyson â thystiolaeth y llawysgrifau eraill. Ceir yma /r/ yn LlGC 3056D a Gwyn 1, ac yma /a/ r yn Pen 99. Ymddengys fod y ferf â wedi colli yn y ddau gyntaf a’r geiryn ’r yn yr olaf, a gellir cyfuno’r ddau er mwyn cael cystrawen a synnwyr cyflawn.
29 a Gthg. GGl na, nas ceir yn yr un o’r testunau ac nad oes mo’i angen er mwyn y synnwyr.
32 pedair colon Ceir pedair yn LlGC 3056D a Brog I.2, ond pedwar yn Gwyn 1 a’r llawysgrifau sy’n tarddu ohono. Yr olaf a ddarllenir yn GGl ond gofynnir hefyd, ibid. 328, ai pedair colon a ddylid ei ddarllen. Yn ôl GPC 544 d.g. colofn, mae’n enw benywaidd neu wrywaidd (benywaidd yn bennaf), ac o’r enghreifftiau eraill o colo(f)n ynglŷn â cherdd dafod neu gerdd dant, y ffurfiau benywaidd tair a pedair yn unig a welwyd (gw. hefyd GLl 6.74n; GSDT 12.14n) a’r tebyg yw mai pedair oedd darlleniad cynsail y gerdd. Os felly, rhyfedd sut y cafwyd pedwar yn Gwyn 1. A oedd wedi ei ysgrifennu fel y rhif 4 cyn i gopïwr ei droi’n ddifeddwl yn pedwar heb sylwi digon ar yr enw a’i dilynai?
33 nwy Ceir hwy yn LlGC 3056D, mwy yn Gwyn 1 a Pen 99, ond yn yr olaf ceir hefyd yr amrywiad nwy. Dyma, yn sicr, a ofynnir gan y gynghanedd a rhydd synnwyr purion; er na ddigwydd yn y testunau eraill, fe’i derbynnir yma, megis yn GGl. Ar arwyddocâd testunol y gwelliant, cf. 8n. Ar nwy, amrywiad ar nwyf, gw. GPC 2600 d.g. nwyf1.
40 Doeth … od aeth … Ceir a ddoeth … aeth yn y llawysgrifau ond nid atebir yr dd ac nid yw’r ystyr yn gwbl foddhaol. O ddiwygio fel hyn (er yn bur fentrus), ceir cynghanedd dda a rhydd y cwpled well synnwyr fel rhan gyntaf cymal amod sy’n ymestyn hyd at 42.
45 i’r Dyma ddarlleniad LlGC 3056D, Gwyn 1 (a Brog I.2); Ir a geir yn Pen 99, cf. GGl2.
47 llawen a gaid llawena gaid yw darlleniad LlGC 3056D a Gwyn 1. Ceir llawen gaid yn Pen 99 ond gwna’r llinell yn fyr o sillaf. Teimlir, er hynny, mai mwy naturiol yw llawen a gaid, megis yn Brog I.2 (a GGl); cf. GLl 6.25 Llyna gyrff llawen a gaid.
Marwnad yw’r cywydd hwn i Hywel ab Owain ap Gruffudd o ardal Llanbryn-mair yng nghwmwd Cyfeiliog (de Maldwyn). Mae hi dipyn yn fyrrach na’r arfer ond ffurfia uned foddhaol ynddi’i hun ac ni chafwyd lle i gredu bod dim ohoni ar goll. Mae strwythur y gerdd yn syml, gyda Guto’n canmol Hywel am ei rinweddau a’i amryfal ddoniau a swyddogaethau ac yn terfynu trwy ddymuno’n dda i’w fab Dafydd fel olynydd iddo.
Dyddiad
Ychydig o benllinynnau sydd i ddyddio’r gerdd. Yn ôl Bartrum (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 43), perthynai Hywel ab Owain i’r genhedlaeth a anwyd tua 1400 ac nid oes awgrym yn y gerdd iddo farw cyn ei amser. Yn betrus iawn, felly, cynigir c.1450–75 fel adeg ei chanu.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXVI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 48 llinell.
Cynghanedd: croes 75% (36 llinell), traws 13% (6 llinell), sain 10% (5 llinell), llusg 2% (1 llinell).
2 caer bridd Roedd delweddu bedd fel caer neu lys neu ystafell yn gyffredin yn y farddoniaeth.
3 brut Owain Ar y darlleniad brut, gw. 3n (testunol). Gan mai ystyr brut yw ‘cronicl, hanes’ (GPC 334), cynigir ei ddeall yma yn ffigurol am rywun gwybodus, dysgedig, efallai mewn hanes neu achau; cf. y modd y defnyddir llyfr, llyfr canon, llyfr dwned am rywun sy’n awdurdod dysgedig (gw. GPC 2256). Yn llinell 28 ceir y ffurf arall, wahanol ei hystyr fel arfer, brud ‘darogan’ (GPC 334). Sylwer mai tad Hywel a olygir wrth Owain yma.
6 ych bannog Hynny yw, rhywun nerthol.
7 tyrfa mawr Er mai enw benywaidd yw tyrfa bob amser (gw. GPC 3682), ceidw mawr y gysefin yma yn dilyn yr orffwysfa, gw. TC 55.
8 Mair o’r bryn Chwaraeir ar enw Llanbryn-mair.
10 Meilir Sef gorhendaid Hywel ab Owain, gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 42.
11 Darn o Fathafarn a’i thŵr Plasty ym mhlwyf Llanwrin, pum milltir a hanner i’r gogledd-ddwyrain o Fachynlleth, oedd Mathafarn (gw. GGLl 1.1n, 4n; GGl 327) a chartref y brudiwr enwog Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd. Ai dweud y mae Guto yma fod gan Hywel ab Owain beth (darn) o ddawn farddonol y bardd mawr ([t]ŵr) Dafydd Llwyd?
12 Dyfolwern Tafolwern yw’r ffurf heddiw, ond ni raid ystyried Dyfolwern yn ffurf dreigledig; gw. GGl 327. Trefgordd ydoedd ychydig i’r gorllewin o Lanbryn-mair, gw. WATU 200.
13 saith gamp Sef y Saith Gamp Deuluaidd, gw. GPC 404 d.g. camp1. Yn D, tua’r diwedd, fe’u disgrifir gan John Davies fel: 1 Barddoniaeth, 2 Canu telyn, 3 Darllain Cymraeg, 4 Canu cywydd gan dant, 5 Canu cywydd pedwar, ac accenu. 6 Tynnu arfau. 7 Herodraeth.
14 ŵyr Ieuan Llwyd Gw. Hywel ab Owain ap Gruffudd.
15 maen Cyfeiriad at y gamp o daflu maen; cf. GIRh 3.120 A bwrw maen o’r blaen er blwng.
17–18 Ni thry … / Drosolion Cf. GIRh 3.119 Bwrw acstre ’mhell a’i ellwng. Cf. hefyd yr hyn a ddywed Llawdden am Hywel, GLl 6.11–12 Mae ’n ei fraich ddeufaich o ddur, / Mae nerth megis mewn Arthur. Ni all neb bellach, wedi marw Hywel ab Owain, drin trosolion megis y gwnâi ef.
19 hedlif Ffurf ferrach ehedlif, gw. GPC 1184.
21 dŵr Noe Ar hanes Noa a’r Dilyw, gw. Genesis 6.11–18.
24 Crych a llyfn.
26 chwe llan Tebyg mai eglwysi plwyfi Cemais, Darowen, Llanbryn-mair, Llanwrin, Machynlleth a Phenegoes, y cwbl o fewn cwmwd Cyfeiliog, a olygir, gw. WATU 54, 259.
26–8 Mae’r llinellau hyn yn dwyn i gof yn drawiadol gywydd ansicr ei awduraeth sy’n honni bod yn farwnad i Einion ap Seisyllt, arglwydd a drigai yn Rhwng Dyfi a Dulas yn ail hanner y ddeuddegfed ganrif, ond sydd mewn gwirionedd yn perthyn i’r bymthegfed neu’r unfed ganrif ar bymtheg; gw. GGrG At.i.35–8 Gwae’r chwe llan, gwyddan’ i gyd, / Gwae filoedd mewn gofalfyd, / Machynlleth am ei chanllaw / A’i llew-was drud y’i llas draw. Sylwer yn enwedig ar y geiriau chwe llan a Machynlleth am ei chanllaw. Mae’r ddwy farwnad hefyd yn ymwneud â’r un ardal a diddorol yw gweld un yn adleisio’r llall fel hyn. Cf. hefyd 79.1n.
27–8 Machynllaith … / … braw Ffordd arall o ddweud Mwy oedd braw Machynllaith am ei chanllaw. Hen ffurf Machynlleth yw Machynllaith.
28 medd y brud Cyfeirir, o bosibl, at ryw broffwydoliaeth hysbys a oedd eisoes wedi ei datgan am drigolion Machynlleth.
29 crwth a thelyn Cf. a ddywed Llawdden am Ddafydd, un o frodyr Hywel, GLl 6.15, Impyn â thelyn ni thau, ac am y brawd arall Llywelyn, ibid. 6.23–4, Cywydd serch i ferch a fyn, / A thalm ar grwth a thelyn.
31 organ Cf. disgrifiad Llawdden o Hywel a’i ddau frawd, GLl 6.28, fel organau gwŷr Gwynedd.
32 pedair colon Ym maes cerdd dafod a cherdd dant, ystyr colon yn ôl GPC 544 (d.g. colofn) yw ‘prif fesur, prif ran neu gangen, mesur neu ran sylfaenol’. Awgryma llinellau 29 a 31 mai am gerdd dant yn bennaf y meddylir yma (cf. hefyd 38 a chanu), ac yn ôl GSDT 12.14n, ‘Gwybod y pedair colofn, yn hytrach na thair o’r colofnau’n unig, oedd yn rhannu’r penceirddiaid telyn oddi wrth y sawl a enillodd ariandlws.’
39 cyfraith Hywel Sef cyfraith frodorol Cymru a gysylltid ag enw’r brenin Hywel Dda. Dengys hyn a 43 brawdwr fod cyfreitha hefyd yn rhan o waddol Hywel ab Owain.
42 rhoi Dafydd Mab Hywel oedd Dafydd. Yn ôl WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 43 (C), roedd yn perthyn i’r drydedd genhedlaeth ar ddeg a anwyd tua 1430 ac yn unig fab. Wrth roi yr hyn a olygir yw ei roi’n olynydd i’w dad.
43 brawdwr Gw. 39n.
44 teirgwlad Anodd yw gwybod at beth yn union y cyfeirir. Un posibilrwydd yw mai cyfystyr yw teirgwlad â tair talaith, sef Gwynedd, Powys a Deheubarth; cf. disgrifiad Llawdden o Hywel a’i frodyr, GLl 6.46, fel Teirw teilwng y tair talaith a gw. y nodyn cyfatebol. Os felly, dichon mai gair arall am Gymru yw teirgwlad (o synio amdani fel uned ac iddi dair rhan). Byddai’r esboniad hwn yn gweddu i rai o’r enghreifftiau eraill o’r gair a geir gan Guto.
Gellir cynnig deongliadau eraill hefyd. Dichon mai tiriogaethau a ffiniai â Chyfeiliog sydd dan sylw, ac yma mae mwy nag un posibilrwydd. Ffiniai hanner gogleddol Cyfeiliog â thywysogaeth Gwynedd, arglwyddiaeth Mawddwy (un o arglwyddiaethau’r Mers) a thiriogaeth Powys Wenwynwyn. Neu gellid cynnig cantref Arwystli a chwmwd Caereinion a ffiniai ill dau â Chyfeiliog ac a lenwai, gyda’r olaf, y rhan fwyaf o Bowys Wenwynwyn. Os felly, yn y naill achos neu’r llall, y syniad yw nid fod Dafydd ap Hywel yn llywodraethu’r rhain ond eu bod hwy yn ei amgylchynu.
45 r wreiddgoll.
This cywydd is an elegy for Hywel ab Owain ap Gruffudd from the vicinity of Llanbryn-mair in the commote of Cyfeiliog (southern Montgomeryshire). It is somewhat shorter than usual but nonetheless forms a satisfactory whole and there are no indications that it is incomplete. The poem is straightforward in structure, with Guto praising Hywel for his virtues and various gifts and functions and ending by wishing well to his son Dafydd as successor.
Date
There are few clues to fix a date for the poem. According to Bartrum (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 43), Hywel ab Owain was of the generation born around 1400 and there is no indication in the poem that he died prematurely. One could, therefore, suggest c.1450–75 as the time when it was addressed.
The manuscripts
This cywydd has been preserved in 14 manuscripts transcribed between the last decade of the sixteenth century and the nineteenth century in north and central Wales. The verbal variations in the texts of the poem are neither great nor numerous, and the line sequence the same without any gaps. They can be derived from a single written exemplar.
The poem is rather short for one of Guto’s compositions. It is also rather undistinguished by comparison and not very typical of his work, although there is nothing in it either that precludes his being the author. It should be borne in mind too that the evidence for the authorship of the poem is not of the strongest as it depends entirely on that of the copyist Humphrey Davies.
There are three main texts, each one representing the same type and in the hand of Humphrey Davies, namely LlGC 3056D, Brog I.2 and Gwyn 1. With the exception of J 101, which is a copy of Brog I.2, all the other texts derive from Gwyn 1. The best texts are LlGC 3056D, Gwyn 1, Pen 99 and these are the basis of the edited text, but occasional use was also made of Brog I.2 and BL 31056.
Previous edition
GGl poem XXVI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 48 lines.
Cynghanedd: croes 75% (36 lines), traws 13% (6 lines), sain 10% (5 lines), llusg 2% (1 line).
2 caer bridd Imaging a grave as a fort or court was common in the Welsh poetry of the period.
3 brut Owain As the meaning of brut is ‘chronicle, history’, GPC 334, it is taken figuratively here for someone knowledgeable, learned, perhaps in history or genealogy; cf. how llyfr, llyfr canon, llyfr dwned are used for someone who is a learned authority, see GPC 2256. In line 28 the other form, usually different in meaning, brud ‘prediction, prophecy’ (GPC 334), occurs. Note that it is Hywel’s father who is meant by Owain here.
6 ych bannog I.e., somebody physically powerful.
7 tyrfa mawr Although tyrfa is invariably a feminine noun (GPC 3682), mawr resists lenition here since that was permissible following the last word before the caesura, see TC 55.
8 Mair o’r bryn A play on the name Llanbryn-mair.
10 Meilir The great-great-grandfather of Hywel ab Owain, see WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 42.
11 Darn o Fathafarn a’i thŵr Mathafarn was a mansion in the parish of Llanwrin, five and a half miles to the north-east of Machynlleth (see GGLl 1.1n, 4n; GGl 327) and home of the famous vaticinator Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd. Is Guto saying that Hywel ab Owain has a portion (darn) of the poetic gift of the great poet (tŵr) Dafydd Llwyd?
12 Dyfolwern Tafolwern is the modern form, Dyfolwern is not necessarily a mutated form; see GGl 327. It was a township a little to the west of Llanbryn-mair, see WATU 200.
13 saith gamp The Saith Gamp Deuluaidd (‘Seven Household Feats’), see GPC 404 s.v. camp1. In D, towards the end, they are described by John Davies as: 1 Barddoniaeth, 2 Canu telyn, 3 Darllain Cymraeg, 4 Canu cywydd gan dant, 5 Canu cywydd pedwar, ac accenu, 6 Tynnu arfau, 7 Herodraeth ‘1 Poetry, 2 Playing the harp, 3 Reading Welsh, 4 Singing a cywydd to the accompaniment of the harp, 5 Singing a cywydd of four, and singing to the accompaniment of the harp, 6 Removing armour, 7 Heraldry’.
14 ŵyr Ieuan Llwyd See Hywel ab Owain ap Gruffudd.
15 maen A reference to the athletic feat of hurling a stone; cf. GIRh 3.120 A bwrw maen o’r blaen er blwng ‘And hurling a stone ahead to others’ annoyance’.
17–18 Ni thry … / Drosolion Cf. GIRh 3.119 Bwrw acstre ’mhell a’i ellwng ‘Hurling a bar far and releasing it’; also what Llawdden says of Hywel, GLl 6.11–12 Mae ’n ei fraich ddeufaich o ddur, / Mae nerth megis mewn Arthur ‘There is a double weight of steel in his arm, / There is strength like Arthur’s.’ Nobody, after Hywel ab Owain’s death, can wield bars as he could.
19 hedlif The shorter form of ehedlif, see GPC 1184.
21 dŵr Noe On the story of Noah and the Flood, see Genesis 6.11–18.
24 The cynghanedd contains the fault crych a llyfn.
26 chwe llan The churches of the parishes of Cemais, Darowen, Llanbryn-mair, Llanwrin, Machynlleth and Penegoes, all within the commote of Cyfeiliog, are probably meant, see WATU 54, 259.
26–8 These lines are strikingly reminiscent of a cywydd of uncertain authorship which purports to be an elegy for Einion ap Seisyllt, a ruler who dwelt in Rhwng Dyfi a Dulas in the second half of the twelfth century, but which in reality dates to the fifteenth or sixteenth century; see GGrG At.i.35–8 Gwae’r chwe llan, gwyddan’ i gyd, / Gwae filoedd mewn gofalfyd, / Machynlleth am ei chanllaw / A’i llew-was, drud y’i llas draw ‘Woe to the six churches, they all feel the blow, / Woe to the thousands in an anxious world, / Machynlleth because of its mainstay / And its leonine young man, cruelly was he struck down yonder.’ Note in particular the words chwe llan and Machynlleth am ei chanllaw. Both elegies are also concerned with the same locality and it is interesting to see the one echoing the other like this. Cf. also 79.1n.
27–8 Machynllaith … / … braw Another way of saying Mwy oedd braw Machynllaith am ei chanllaw ‘Greater was the shock of Machynlleth because of its sustainer.’ Machynllaith is an old form of Machynlleth.
28 medd y brud Possibly a reference to some well-known prophecy which had already been made regarding the inhabitants of Machynlleth.
29 crwth a thelyn Cf. what Llawdden says of Dafydd, one of Hywel’s brothers, GLl 6.15, Impyn â thelyn ni thau ‘A scion who does not cease from the harp’, and of the other brother Llywelyn, ibid. 6.23–4, Cywydd serch i ferch a fyn, / A thalm ar grwth a thelyn ‘He desires a love cywydd for a maiden, / and an interval on the crowd and harp.’
31 organ Cf. Llawdden’s description of Hywel and his two brothers, GLl 6.28, as organau gwŷr Gwynedd ‘organs of the men of Gwynedd’.
32 pedair colon In the field of poetry and music, the meaning of colon according to GPC 544 (s.v. colofn) is ‘principal metre, principal part or division, fundamental metre or part’. Lines 29 and 31 suggest that it is music mainly that is meant here (cf. also 38 a chanu) and, according to GSDT 12.14n, it was proficiency in four colofn rather than in only three that distinguished the master-bards of the harp (penceirddiaid telyn) from those who won a silver ornament (ariandlws).
39 cyfraith Hywel The native law of Wales associated with the name of the king Hywel Dda. This and 43 brawdwr show that litigation too was part of Hywel ab Owain’s patrimony.
42 rhoi Dafydd Dafydd was Hywel’s son. According to WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 43 (C), he was of the thirteenth generation, born c.1430, and an only son. Rhoi here suggests presenting him as his father’s successor.
43 brawdwr See 39n.
44 teirgwlad It is difficult to know what exactly is being referred to. One possibility is that teirgwlad is synonymous with tair talaith ‘three provinces’, namely Gwynedd, Powys and Deheubarth; cf. Llawdden’s description of Hywel and his brothers, GLl 6.46, as Teirw teilwng y tair talaith ‘The worthy bulls of the three provinces’ and see the corresponding note. If so, teirgwlad may be another word for Wales (conceived of as a tripartite unit). This explanation would be consistent with some of the other instances of the word in Guto’s work.
Other interpretations may be offered too. It may be that territories bordering on Cyfeiliog are meant, and here there is more than one possibility. The northern half of Cyfeiliog was bordered by the principality of Gwynedd, the lordship of Mawddwy (one of the Marcher lordships) and the territory of Powys Wenwynwyn. Or one could suggest the cantref of Arwystli and the commote of Caereinion which bordered on Cyfeiliog and which, together with the last, filled most of Powys Wenwynwyn. If so, in either case, the idea is not that Dafydd and Hywel rule these but are surrounded by them.
Hywel ab Owain yw gwrthrych cerdd 40 sy’n ei farwnadu. Ceir marwnad arall iddo gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GDLl cerdd 57) a chanodd Llawdden gywydd mawl iddo ynghyd â’i ddau frawd, Dafydd a Llywelyn (GLl cerdd 6). At hynny, canodd Dafydd ap Hywel Swrdwal gywydd mawl i Ddafydd, mab Hywel (GHS cerdd 34), a chanodd Siôn Ceri gywydd mawl i un o feibion Dafydd, sef Wmffre (GSC cerdd 29). Ymhellach, gw. Roberts 1965: 93.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 42, 43, ‘Seisyll’ 2; WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 43C. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Hywel mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Hywel ab Owain o Lanbryn-mair
Fel y gwelir, drwy ei fam, Efa ferch Llywelyn Gogof, roedd Hywel yn gefnder i Sieffrai Cyffin, gŵr arall a roes ei nawdd i Guto.
Ceir gŵr arall ag enw tebyg i dad Hywel ab Owain yn byw yn ardal Llanbryn-mair tua’r un adeg, sef Owain Fychan ap Gruffudd ab Ieuan Llwyd, a ddisgynnai o lwyth Seisyll o Feirionnydd (WG1 ‘Seisyll’ 3) ac a folir gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 199). Parodd y tebygrwydd hwn beth dryswch, oherwydd cymerodd Ifor Williams (GGl 327), ar sail llinell 14 o gerdd Guto, fe ymddengys, lle disgrifir Hywel ab Owain fel ŵyr Ieuan Llwyd, fod yr Ieuan Llwyd hwn yn daid i Hywel ab Owain a bod Owain Fychan ap Gruffudd ab Ieuan Llwyd yn ŵyr arall iddo. Ond taid Hywel ab Owain oedd Gruffudd, a cheir Ieuan Llwyd fel enw ei hendaid. Gorwyr, felly, nid ŵyr, i’w gyndad Ieuan Llwyd oedd Hywel, ac ŵyr i ŵr arall a chanddo’r un enw oedd Owain Fychan. Nid oedd gan Owain Fychan ychwaith fab o’r enw Hywel, rheswm pellach dros beidio â’i gysylltu ag ach Hywel. Tebyg mai deall ŵyr yn llythrennol yn hytrach nag yn yr ystyr fwy llac ‘disgynnydd’ a arweiniodd Ifor Williams, yn y lle cyntaf, i gymysgu’r ddwy ach. Parheir y dryswch yn GLGC 617, lle dywedir bod Llawdden wedi canu i dri mab Owain Fychan ap Gruffudd ap Ieuan Llwyd (ap Llywelyn), ond meibion oeddynt i Owain ap Gruffudd ab Ieuan ap Meilyr, ac un mab a oedd gan Owain Fychan a hwnnw’n dwyn yr enw Ieuan Llwyd. Er hynny, mae llawer yn gyffredin rhwng cywydd Lewys Glyn Cothi i Owain Fychan a cherddi Llawdden a Guto i feibion Owain ap Gruffudd, megis y cyfeiriadau at gerddoriaeth, miri a milwriaeth. Nid yw hyn yn syndod o gofio mor agos at ei gilydd y trigai’r ddau dylwyth, ac efallai fod y cerddi hefyd yn adlewyrchu chwaeth a diwylliant yr ardal yn gyffredinol.
Ei yrfa
Yn ôl achresi P.C. Bartrum, roedd Hywel yn byw yn ‘Y Gelli Dywyll, Llanbryn-mair’. Ni welwyd lle o’r enw Y Gelli Dywyll yn yr ardal honno, er cael digon o enghreifftiau mewn mannau eraill (ArchifMR d.g. Gelli Dywyll), ond dengys y disgrifiad ohono fel eryr braisg Mair o’r bryn (40.8) mai yn ardal Llanbryn-mair yng nghwmwd Cyfeiliog y trigai, ac awgryma’r cyfeiriadau at Fathafarn (11) a Dyfolwern (12) fod ei ddylanwad yn ymestyn ymhellach. Canmola Guto ef, ymysg pethau eraill, fel milwr, mabolgampwr, cerddor a chyfreithiwr.
A dilyn achresi Bartrum, perthynai Hywel i’r genhedlaeth a anwyd tua 1400. Anodd yw gwybod pryd y bu farw ond gellir awgrymu’r cyfnod 1450–75. Disgynnai, ar ochr ei dad, o Owain Cyfeiliog, tywysog nerthol de Powys yn y ddeuddegfed ganrif, noddwr beirdd ac o bosibl bardd ei hun; ac yng nghartref tad Hywel yn Rhiwsaeson ger Llanbryn-mair roedd traddodiad o noddi beirdd. Yn ei gywydd moliant trawiadol gofiadwy i Hywel a’i ddau frawd, Llywelyn a Dafydd (gw. uchod), canmola Llawdden y tri yn neilltuol am eu hoffter o gerdd dafod a cherdd dant yn ogystal ag am eu milwriaeth a’u campau corfforol, a thebyg iawn yn hyn o beth yw canmoliaeth Guto yntau i Hywel.
Mae’n bosibl, fel yr awgrymodd Ifor Williams (GGl 348), mai’r un gŵr ydyw â’r Hywel ab Owain a grybwyllir gan Guto mewn cerdd ddychan i Ddafydd ab Edmwnd (66.45–6). Roedd Dafydd wedi digio’r beirdd ac anoga Guto wŷr gwahanol barthau Cymru i’w hela. Mae’r ffaith ei fod yn crybwyll Hywel ab Owain rhwng Llawdden a’r beirdd Gruffudd ap Dafydd Fychan a Syr Rhys o Garno (43–50) yn awgrymu’n gryf mai bardd oedd Hywel, yntau, a chyfetyb hyn i’r hyn a ddywed Guto yn ei gerdd am ei ddiddordebau diwylliannol. Ymhellach, mae ei anogaeth i Hywel i beidio â gadael Dafydd i mewn i Bowys yn dangos y gall mai yng Nghyfeiliog yr oedd yr Hywel hwn yn byw.
Llyfryddiaeth
Roberts, E. (1965), Braslun o Hanes Llên Powys (Dinbych)