Y llawysgrifau
Ceir yr awdl hon mewn 13 copi a godwyd rhwng canol yr unfed ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ni cheir llawer o amrywio rhwng y testunau a gellir tybio eu bod yn tarddu i gyd o un gynsail ysgrifenedig. Mae llawysgrifau’r gerdd i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Ymddengys fod Pen 82, BL 14971 [i], BL 14971 [ii], Pen 99 yn tarddu’n annibynnol o’r gynsail gyffredin. (Dryll yw BL 14971 [i] sy’n cyfateb i linellau 49–66 o’r gerdd; fe’i gosodwyd ar gam gan John Jones, Gellilyfdy, yn ddiwedd i cerdd 110 a rhoi croes fawr trwy’r testun wedyn ar ôl i’r camgymeriad ddod i’r amlwg.) Copïau yw Gwyn 4, Pen 77, LlGC 3049D o ‘Gynsail Dyffryn Conwy’ (X). Ni ellir diffinio perthynas testun Pen 221 â’r testunau eraill yn fanylach gan mai cwpled cyntaf y gerdd yn unig a gadwyd.
Yn ôl Harries 1959–60: 275–6, rhagflaenir testun BL 14971 [i] gan arwydd arbennig, sef cylch bychan a dot yn ei ganol, a dywed John Jones, Gellilyfdy, ei fod yn ei ddefnyddio er mwyn dynodi cerddi a godwyd o law yr awdur ei hun. Ymddengys, felly, fod y testun hwn o’r awdl wedi ei godi o gynsail y tybiai John Jones ei bod yn llaw Guto’r Glyn.
Nid yw’r testunau yn amrywio llawer o ran safon gyffredinol eu darlleniadau. Seiliwyd y testun ar destunau Pen 82, Gwyn 4, Pen 77, LlGC 3049D a BL 14971 [i].
Trawsysgrifiadau: Pen 82, Gwyn 4, Pen 77, LlGC 3049D, BL 14971 [i].
1 ein gwlad Yn Pen 82 ceir y darlleniad an gwledd nad yw ond enghraifft o orgraff hŷn nag eiddo William Salesbury. Er hynny, yn dilyn diwedd y testun yno ceir llinell gyntaf y gerdd eto yn y ffurf Prelad ar yn gwlad an gwledd oglwyd sy’n dangos bod y copïwr yn barnu ei fod wedi gwneud camgymeriad.
5 Mael Dyma ddarlleniad Pen 82 (a cf. GGl). Mel, sy’n amlwg yn wallus, a geir yn X.
16 a’n Gellid ystyried hefyd a Pen 82. Rhoddai gystal synnwyr (gan wneud holl Wynedd yn ddibynnol ar lluniaeth), er mai an a geir yn yr holl lawysgrifau eraill.
19 cwrw carw a geir yn Pen 77 ond ni wedda cystal i’r cyd-destun ac nis ceir yn unman arall.
20 mal aml a geir yn Pen 82 ond nis ceir yn unman arall a disgwylid y rhagenw perthynol ar ei ôl.
21 i’n Pen 82 in, Gwyn 4 in yny, Pen 77, LlGC 3049D yn, BL 14971 [i] im. Disgwylid i yn Pen 77, LlGC 3049D gynrychioli ynn (‘inni’) ond nid yw synnwyr na rhediad y llinell cystal felly ac mae’r rhagenw genidol lluosog yn in Pen 82, Gwyn 4 yn fwy tebygol na’r un unigol yn BL 14971 [i].
28 tant sant a geir yn Gwyn 4 a Pen 77 (ond nid yn LlGC 3049D) ond ni rydd gynghanedd.
29 â ’n oed deuwr Pen 82 a n oetevwr, Gwyn 4, Pen 77, LlGC 3049D a yn oed deûwr. Ymddengys mai’r darlleniad llawn fuasai a â yn oed deuwr ond hepgorwyd y rhagenw perthynol (fel y gwneir yn aml yn y farddoniaeth) a byrhau’r arddodiad yn er mwyn hyd y llinell. Amwys yw GGl â’n oed deuwr gan y gellir yn hawdd ddeall yr â yn arddodiad sy’n dibynnu ar Un a’r ’n yn ffurf gywasgedig ein, ond tywyll fyddai ystyr gweddill y llinell felly.
31 â’i Dyma ddarlleniad Pen 82 a Gwyn 4. Ceir oi yn Pen 77 a LlGC 3049D ond ni rydd gystal synnwyr.
39 gwir oleuad Ceir peth amrywio yn y llawysgrifau: Pen 82 gwyr o levad, Gwyn 4 goraû leûad, Pen 77, BL 14971 [i] gwir oleûad. Mae’n amlwg fod olevad wedi ei gamrannu’n o levad yn Pen 82 (a cf. Pen 99 gwir o levad), ac unigryw yw darlleniad Gwyn 4 ac ni rydd ystyr foddhaol lle gwedda gwir oleuad Pen 77, BL 14971 [i] yn burion.
42 elyn leyn a geir yn yr holl lawysgrifau, ac eithrio Pen 82, a chan fod y cyd-destun yn erbyn ei ystyried yn enghraifft o Lëyn (o Llëyn, ffurf gynharach ar ‘Llŷn’), gwna’r llinell yn fyr o sillaf. Darlleniad Pen 82 yw alyn, ac er bod yr a â llinell drwyddi (oherwydd, fe ymddengys, i’r copïwr sylwi bod alyn yn digwydd yn nes ymlaen yn y llinell), eto cyn hynny roedd y gair yn ddeusill a gallai’r a fod yn gamgymeriad am e. Derbynnir, felly, ddiwygiad GGl, sy’n rhoi synnwyr purion.
49 ynn bu giliad in bv giliad a geir yn Pen 82, X, a cf. Pen 99 in bv{g} eiliad; ni bv giliad a geir yn BL 14971 [i], BL 14971 [ii]. Mae tystiolaeth y llawysgrifau yn gryfach o blaid y darlleniad cyntaf gan fod tair ffrwd annibynnol yn ei roi yn erbyn dwy ffrwd annibynnol ar gyfer ni bv giliad; yn llai pwysig ond nid yn ddibwys, mae Pen 82 ac X hefyd yn hŷn na BL 14971 [i] a BL 14971 [ii]. Yn GGl darllenir i’n bugeiliad ond ni cheir bugeiliad yn y llawysgrifau (ymyrraeth gan law arall sy’n gyfrifol am yr g yn narlleniad Pen 99); ymhellach, ym mhob un o’r llawysgrifau ceir bwlch rhwng bv a giliad, sy’n awgrymu’n gryf mai dau air, nid un, oedd y darlleniad gwreiddiol.
55 wenllad Dyma ddarlleniad X (ffurf fenywaidd gwynllad). Gellid hefyd ystyried winllad Pen 82 a BL 14971 [i], sy’n debyg o ran ystyr (‘â digonedd o win yn llifo’, GPC 1665).
56 i Fordaf Dyma ddarlleniad Pen 82 a’r rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ivor da a geir yn X (ond ceir yn LlGC 3049D hefyd yr amrywiad i vorda), camgymeriad a wnaed trwy gamrannu’r geiriau.
Llyfryddiaeth
Harries, W.G. (1959–60), ‘Copi o Lyfr Awdlau John Jones, Gellilyfdy’, Cylchg LlGC xi: 273–6
Awdl i Syr Bened, person Corwen, yw’r gerdd hon. Moli yw’r prif nod a chaiff Syr Bened ei wala o glod am ei nawdd grymus i wŷr eglwysig, ei urddas a’i achau, ei haelioni di-ball tuag at bobl a beirdd o Wynedd gyfan ac o Deifi hyd Gaer ac am ei gefnogaeth i’r tlodion. Sonnir hefyd am ei filwriaeth a’i faintioli corfforol. Heblaw bod yn wrthrych y gerdd hon, saif Syr Bened yn ogystal yng nghefndir y tair cerdd nesaf (44, 44a, 45) a cheir marwnad iddo (47).
Dyddiad
Roedd Syr Bened yn rheithor segurswydd (sinecure rector) yn 1439 a bu farw rywbryd yn 1464.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXX.
Mesur a chynghanedd
Awdl, 66 llinell.
Cynghanedd (heb gyfrif ail linell englyn unodl union): croes 62% (41 llinell), traws 9% (6 llinell), sain 23% (15 llinell), llusg 2% (1 llinell).
Cenir yr awdl ar y mesurau canlynol: dau englyn unodl union, englyn proest chwe llinell, englyn unodl union, englyn proest chwe llinell, englyn unodl union, englyn proest pedair llinell, englyn unodl union a chyhydedd naw ban a genir ar yr odl ad. Mae cyrch-gymeriad yn cysylltu dechrau pob englyn a dechrau’r cyhydedd naw ban â diwedd yr englyn blaenorol, a chyrcha diwedd yr awdl ei dechrau.
1–2 Clwyd … Ddyfrdwy, / … Gonwy … Gynwyd Dwy afon fawr, Clwyd a Dyfrdwy, a dwy dref, Conwy a Chynwyd, sy’n diffinio’n fras yr ardal lle roedd Syr Bened yn enwog fel prelad, sef y Berfeddwlad (gw. 65n) a Phowys Fadog.
2 Cynwyd Trefgordd Cynwyd Fawr neu Gynwyd Fechan, neu’r ddwy ynghyd, ym mhlwyf Llangar, Edeirnion, ychydig i’r de-orllewin o Gorwen, gw. WATU 55, 266.
5–7 Sulien – a Mael, / … eglwys Gorwen; / … y Cwm Roedd eglwysi Corwen yn sir Feirionnydd a’r Cwm yn sir y Fflint wedi eu cysegru i Sulien a Mael, gw. LBS iii: 400, iv: 204. Ynglŷn â chysylltiad Syr Bened â’r Cwm (gw. WATU 52, 324), roedd ganddo berthnasau ar ochr ei fam yn sir y Fflint, fel y tystia marwnad Guto iddo, 47.15–16 A mwy yw’r cwyn, marw eu câr, / Yn Nhegeingl, chwedl anhygar; ac ystyrier hefyd y sangiad trasau cymen sy’n dilyn Tros y Cwm yn 6 a’r cyfeiriad ato yn 54 fel angelystor Tegeingl. Dichon fod y ffaith i ddwy eglwys wahanol nad oeddynt yn agos at ei gilydd gael eu cysegru i’r un pâr o saint yn awgrymu bod y plwyfi wedi eu cyfuno’n un fywoliaeth. Fodd bynnag, mae’n bosibl hefyd mai’r drefgordd o’r enw y Cwm yng Ngwyddelwern ger Corwen (gw. WATU 51) a olygir yma.
6 milwr Cf. 47 Yn filwr a thŵr o wneuthuriad, 53 a gŵr mewn cad, a 47.3 Torri cledd, dewredd i’m dwrn, 5 Y cleddau, pan ei claddwyd, 44a.5 Curig Corwen (ar gysylltiadau milwrol Curig Sant, gw. GLl 14.58n). Awgryma’r cyfeiriadau hyn yn gryf fod Syr Bened wedi gwasanaethu fel milwr (gw. Syr Bened).
7 trasau cymen Cyfeiriad, fe ymddengys, at uchel achau Syr Bened yn y Cwm (yn Nhegeingl).
10 y Ddeheuwlad Awgryma hyn fod pobl – beirdd, mae’n debyg – o dde Cymru hefyd yn ymweld â Syr Bened. Ceir mynych gyfeiriadau yn y farddoniaeth at noddwyr yn denu beirdd o ogledd i dde neu o dde i ogledd Cymru; cf. 25 o Deifi – i Gaer.
12 Tri Hael Sef Nudd ap Senyllt, Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, ‘Tri Hael’ Ynys Prydain. Cyfeiriai’r beirdd atynt yn aml fel safon o haelioni, gw. TYP3 5–7, 464–6; WCD 483, 509, 623–4.
27 hyd Geri Cwmwd ar y ffin â Lloegr oedd Ceri, gw. WATU 41, 255. Fel y dywed Bromwich (1972: 19), ymddengys mai ffordd o ddweud ‘cyn belled â Chlawdd Offa’ yw hyd Geri.
29 Hynny yw, bydd Syr Bened yn byw i oedran mawr.
30 nerth anian Arthur Cf. 47 Yn filwr a thŵr o wneuthuriad, 47.26 Cawr ffriwlwyd fal corff Rolant, 44a.2 Samson ar wŷr cryfion Cred, 10 Dewraf, cryfaf o’r crefydd. Mae’n bur eglur oddi wrth y cyfeiriadau hyn fod Syr Bened yn ddyn mawr a chydnerth o gorff.
32 Ifor Ifor ap Llywelyn (‘Ifor Hael’), noddwr enwog Dafydd ap Gwilym (fl. 1340–80), gw. ByCy 390; GDG3 xxxix; CLC2 361–2. Yn sgil canu Dafydd iddo, tyfodd yn ddihareb am haelioni.
34 Glyndyfrdwy Cwmwd ac arglwyddiaeth a gynhwysai Gorwen, gw. WATU 77.
36 Gronwy Gw. y nodyn nesaf.
37–40 Gronwy … / … Cadell … / … Lywarch … / … Ithel Felyn Olrheinir tras Syr Bened. Ymhellach, gw. Syr Bened.
42 O elyn estron Alun Ystrad Roedd Ystrad Alun yn gwmwd i’r gogledd-orllewin o Wrecsam a gynhwysai’r Wyddgrug ac a gyffyrddai â chyffiniau deheuol Tegeingl, gw. WATU 226, 324. Ynghyd â Phenarlâg a’r Wyddgrug, ffurfiai arglwyddiaeth a roddwyd i Thomas Stanley yn 1443. Ergyd y cyfeiriad yw nad oes croeso ar aelwyd Syr Bened i bobl o arglwyddiaeth Seisnig fel hon, enghraifft o wrthseisnigrwydd; cf. GLGC 181.11–12 Ni châr Melienydd araith / un Sais nac un as o’i waith.
43 fu’r Disgwylid (y) bu’r; cf. 56 I Fordaf eilwaith fu’r dyfaliad a gw. TC 305.
47 tŵr Fe’i defnyddir yn aml yn ffigurol am arweinydd neu ryfelwr cadarn, GPC 3660 (b), ond teimlir yma ei fod hefyd yn disgrifio maintioli corfforol Syr Bened (ar hyn, gw. 30n).
48 gwelediad Gall hefyd olygu ‘canfyddiad’, gw. GPC 1626 (b) ond mae’r ystyr honno’n llai tebygol yma.
51 Rolant Arwr brwydr Roncesvalles yn chwedlau Siarlymaen.
52 trychant Hynny yw, llawer o bobl.
53 Garmon Sant (c.378–448) ac esgob Auxerre a ymwelodd â Phrydain yn 429 a 447 i ymladd Pelagiaeth ac i arwain y Brythoniaid mewn brwydr fuddugoliaethus yn erbyn y Pictiaid a’r Sacsoniaid, gw. ODCC3 671; CLC2 267; WCD 269–72. Efallai nad damwain yw ei enwi yma oherwydd ymhlith yr eglwysi yr honnir eu bod wedi eu cyflwyno iddo roedd eglwysi Llanarmon-yn-Iâl, Llanarmon Dyffryn Ceiriog a Llanarmon Mynydd Mawr ym Mhowys Fadog ac felly yn yr un ardal o Gymru â Chorwen.
53 y Cwm Gw. 5–7n.
54 angelystor Tegeingl Un o bedwar cantref y Berfeddwlad (gw. 65n) a ddaeth yn 1284 yn rhan o sir y Fflint, gw. CLC2 697; WATU 202, 324. Cf. cyfeiriad Tudur Penllyn at Syr Bened, 44a.56, fel arglwydd y Cwm.
55 Ifor Gw. 32n.
56 fu’r Ar y gystrawen, gw. 43n.
56–8 Mordaf … / … Rhydderch … / … Nudd Y Tri Hael, gw. 12n.
58 Edeirnion Cwmwd ym Meirionnydd a gynhwysai Gorwen, gw. WATU 63, 266.
59 adeilad Anodd gwybod ai adeiladu materol ynteu adeiladu ysbrydol (Saesneg ‘edification’) a olygir. Os yr olaf, gw. GPC2 39 (b).
62 diwedd englyn Cyffelyba Guto Syr Bened i ddiwedd englyn ond nid yw’n hawdd gweld beth yn union yw’r pwynt cymhariaeth. Yn ei linell olaf y ceir ergyd yr englyn cyfan a gofyn hynny am gryn bwyso a mesur, neu ddoethineb, cf. Parry Owen 2010: 11, 17 (llinellau 27–9 a’r nodiadau arnynt). Efallai, felly, mai fel rhywun sicr a doeth ei farn y mae Guto yn meddwl am ei noddwr.
62 deuddengwlad Tebyg mai rhif ystrydebol sydd yma yn hytrach na chyfeiriad at ddeuddeg gwlad benodol, ffordd arall o ddweud ‘llawer o wledydd’ (gan gadw’r gynghanedd mewn cof).
63 dan egoriad Anodd yw pennu ystyr yr ymadrodd. Ceir enghreifftiau eraill o agoriad (amrywiad ar egoriad) gan Guto: 56.63–4 Piau’r gaer? Pwy’r egoriad? / Pwy’n glo ar bob pen i’n gwlad; 57.1–4 Y gŵr mawr a egyr Môn / Wrth osod ei phorthwysion, / Agoriad y teirgwlad da, / Agor ym y gaer yma; 73.29–30 Ygoriad i’n gwlad i glêr / A thre’r Hold, athro’r haelder; 17.9–10 Agoriad wyd ar Gaerdyf / A’i chlo addwyn a’i chleddyf. Yn y rhain ymddengys mai rhywun sy’n agor ei ddrws neu ei gartref i’r beirdd a olygir, rhywun sy’n eu gwahodd neu’n eu croesawu. Os felly, gellir deall dan egoriad i olygu bod Guto yn derbyn croeso neu nawdd Syr Bened.
65 y Berfeddwlad Cantrefi Rhos, Rhufoniog, Dyffryn Clwyd a Thegeingl, yr ardal rhwng Powys a Gwynedd y daethpwyd i’w galw hefyd yn Wynedd Is Conwy, gw. Lloyd 1911: 239–42.
Llyfryddiaeth
Bromwich, R. (1972), Tradition and Innovation in the Poetry of Dafydd ap Gwilym (Caerdydd)
Lloyd, J.E. (1911), A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London)
Parry Owen, A. (2010), ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, LlCy 33: 1–31
This poem is an awdl to Sir Benet, parson of Corwen. Praise is the main objective and Sir Benet receives his fill of it for his powerful patronage to churchmen, his distinction and pedigree, his unstinting generosity towards people and poets from the whole of Gwynedd and from the river Teifi to Chester and for his support of the poor. Mention is also made of his military activities and physical stature. Apart from being the subject of this poem, Sir Benet also figures in the background of the three following poems (44, 44a, 45) and there is an elegy composed for him (47).
Date
Sir Benet was sinecure rector in Corwen in 1439 and he died sometime in 1464.
The manuscripts
The poem has been preserved in 13 copies written between the mid-sixteenth and the nineteenth century. There is not much variation between the texts and they probably all derive from a single written exemplar. The manuscripts all have associations with north and mid Wales, with none of south Walian origin.
Pen 82, BL 14971 [i], BL 14971 [ii], Pen 99 apparently stem independently from the common exemplar. Gwyn 4, Pen 77 and LlGC 3049D are copies of the lost ‘Conwy Valley Exemplar’ (X). The relationship of the Pen 221 text of the poem cannot be precisely determined as it consists of only a couplet.
According to Harries 1959–60: 275–6, the text of BL 14971 [i] is preceded by a special sign, namely a small circle with a dot at its centre, and John Jones, Gellilyfdy, states that he uses it to denote poems transcribed from exemplars in the author’s own hand. It appears, therefore, that this text of the ode was copied from one which John Jones supposed was in the hand of Guto’r Glyn.
The texts do not vary much in the general quality of their readings. The editorial text is based on Pen 82, Gwyn 4, Pen 77, LlGC 3049D and BL 14971 [i].
Previous edition
GGl poem XXX.
Metre and cynghanedd
Awdl, 66 lines.
Cynghanedd (not counting the second lines of englynion unodl union): croes 62% (41 lines), traws 9% (6 lines), sain 23% (15 lines), llusg 1.5% (1 line).
The poem contains the following metres: two englynion of the unodl union type, a six-line englyn proest, an englyn unodl union, a six-line englyn proest, an englyn unodl union, a four-line englyn proest, an englyn unodl union and a cyhydedd naw ban rhyming in ad. Cyrch-gymeriad links the beginning of each englyn and the beginning of the cyhydedd naw ban with the end of the preceding englynion, and the end of the awdl answers its beginning.
1–2 Clwyd … Ddyfrdwy, / … Gonwy … Gynwyd Two large rivers, the Clwyd and the Dee, and two towns, Conwy and Cynwyd, roughly define the area where Sir Benet was famous as a prelate, namely the Perfeddwlad (see 65n) and Powys Fadog.
2 Cynwyd The township of Cynwyd Fawr or Cynwyd Fechan, or both together, in the parish of Llangar, Edeirnion, a little south-west of Corwen, see WATU 55, 266.
5–7 Sulien – a Mael, / … eglwys Gorwen; / … y Cwm The churches of Corwen in Meirionnydd and of Cwm in Flintshire were dedicated to Sulien and Mael, see LBS iii: 400, iv: 204. Regarding Sir Benet’s connections with Cwm (see WATU 52, 324), he had relatives on his mother’s side in Flintshire, as Guto’s elegy for him shows, 47.15–16 A mwy yw’r cwyn, marw eu câr, / Yn Nhegeingl, chwedl anhygar ‘and greater is the lament, on account of their kinsman’s death, / in Tegeingl, horrid news’; and consider also the sangiad, namely trasau cymen, which follows Tros y Cwm in 6 and the reference to him in 54 as angelystor Tegeingl. The dedication of two different churches at a distance from each other to the same pair of saints may suggest that the parishes had been combined into a single living. However, it is also likely that the township called Cwm in Gwyddelwern by Corwen (see WATU 51) is meant here.
6 milwr Cf. 47 Yn filwr a thŵr o wneuthuriad, 53 a gŵr mewn cad, and 47.3 Torri cledd, dewredd i’m dwrn ‘the breaking of a sword, source of strength for my fist’, 5 Y cleddau, pan ei claddwyd ‘When the sword was buried’, 44a.5 Curig Corwen ‘the St Curig of Corwen’. On St Curig’s military associations, see GLl 14.58n. These references strongly suggest that Sir Benet had served as a soldier, see Sir Benet.
7 trasau cymen Apparently a reference to Sir Benet’s distinguished lineage at Cwm (in Tegeingl).
10 y Ddeheuwlad This suggests that people – probably poets – from south Wales also visited Sir Benet. There are frequent references in the Welsh poetry of the period to patrons attracting poets from north to south, or from south to north, Wales; cf. 25 o Deifi – i Gaer ‘from the river Teifi to Chester’.
12 Tri Hael Nudd ap Senyllt, Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, the ‘Three Generous Men’ of the Island of Britain. The poets frequently refer to them as a paradigm of generosity, see TYP3 5–7, 464–6; WCD 483, 509, 623–4.
27 hyd Geri Ceri was a commote on the border with England, see WATU 41, 255. As Bromwich (1972: 19) says, hyd Geri ‘as far as Ceri’ appears to be a way of saying as far as Offa’s Dyke.
29 I.e., Sir Benet will live to a great age.
30 nerth anian Arthur Cf. 47 Yn filwr a thŵr o wneuthuriad, 47.26 Cawr ffriwlwyd fal corff Rolant ‘giant of grey mien with a body like Roland’s’, 44a.2 Samson ar wŷr cryfion Cred ‘Samson of Christendom’s mighty’, 10 Dewraf, cryfaf o’r crefydd ‘the bravest, the strongest in religion’. It is evident from these references that Sir Benet was a man of large and powerful stature.
32 Ifor Ifor ap Llywelyn (‘Ifor Hael’), the famous patron of Dafydd ap Gwilym (fl. 1340–80), see DWB 414; GDG3 xxxix; NCLW 347. As a result of Dafydd’s praise of him, he was regarded as a pattern of generosity.
34 Glyndyfrdwy A commote / lordship which included Corwen, see WATU 77.
36 Gronwy See the next note.
37–40 Gronwy … / … Cadell … / … Lywarch … / … Ithel Felyn Sir Benet’s pedigree is traced. Further, see Sir Benet.
42 o elyn estron Alun Ystrad Ystrad Alun, or Molesdale, was a commote north-west of Wrexham which included Mold and touched the southern part of Tegingl, see WATU 226, 324. It formed Ystrad Alun, together with Hawarden and Mold, a lordship given to Thomas Stanley in 1443. The point of the reference is that there is no welcome on Sir Benet’s hearth for people from an English lordship like this, an example of anti-English sentiment; cf. GLGC 181.11–12 Ni châr Melienydd araith / un Sais nac un as o’i waith ‘Maelienydd does not love the speech / of any Englishman or one bit of his work’.
43 fu’r One would expect (y) bu’r; cf. 56 I Fordaf eilwaith fu’r dyfaliad and see TC 305.
47 tŵr It is frequently used for a leader or stout warrior, GPC 3660 (b), but one senses here that it describes Sir Benet’s physical stature (on this, see 30n).
48 gwelediad It can also mean ‘perception’, see GPC 1626 (b), but that sense is less likely here.
51 Rolant The hero of the battle of Roncesvalles in the Charlemagne cycle.
52 trychant I.e., many people.
53 Garmon A saint (c.378–448) and bishop of Auxerre who visited Britain in 429 and 447 to fight Pelagianism and to lead the Britons in a victorious battle against the Picts and Saxons, see ODCC3 671; CLC2 267; WCD 269–72. It is perhaps no accident that he is named here, for among the churches said to be dedicated to him were those of Llanarmon-yn-Iâl, Llanarmon Dyffryn Ceiriog and Llanarmon Mynydd Mawr in Powys Fadog, which were in the same region of Wales as Corwen.
53 y Cwm See 5–7n.
54 angelystor Tegeingl Tegeingl (Englefield) was one of the four cantrefs of the Perfeddwlad (see 65n) which became part of Flintshire in 1284, see NCLW 219; WATU 202, 324. Cf. Tudur Penllyn’s reference to Sir Benet, 44a.56, as arglwydd y Cwm ‘lord of Cwm’.
55 Ifor See 32n.
56 fu’r On the construction, see 43n.
56–8 Mordaf … / … Rhydderch … / … Nudd The ‘Three Generous Men’, see 12n.
58 Edeirnion A commote in Meirionnydd which included Corwen, see WATU 63, 266.
59 adeilad It is difficult to know which kind of building is meant – material or spiritual (i.e., ‘edification’). If the second, see GPC2 39 (b).
62 diwedd englyn Guto likens Sir Benet to the end of an englyn but the exact point of comparison is not clear. The punch line of an englyn occurs in its final line, and this calls for much calculation, or wisdom, cf. Parry Owen 2010: 11, 17 (lines 27–9 and accompanying notes). Guto is therefore perhaps thinking of his patron as someone possessed of sure and wise judgement.
62 deuddengwlad The number twelve is probably stereotypical here rather than a reference to twelve specific countries, i.e., another way of saying ‘many countries’ (while also keeping in mind the requirements of the cynghanedd).
63 dan egoriad It is difficult to determine the meaning of the expression. Other instances of agoriad (a variant of egoriad) occur in Guto’s work: 56.63–4 Piau’r gaer? Pwy’r egoriad? / Pwy’n glo ar bob pen i’n gwlad ‘Who owns the fort? Who is the key? / Who is a lock on every part of our land?’, 57.1–4 Y gŵr mawr a egyr Môn / Wrth osod ei phorthwysion, / Agoriad y teirgwlad da, / Agor ym y gaer yma ‘The great man who provides access to Anglesey / by providing her ferrymen, / key to the three good lands, / give me access to the fort here’, 73.29–30 Ygoriad i’n gwlad i glêr / A thre’r Hold, athro’r haelder ‘minstrels’ key to our land / and to the town of Holt, the generosity’s master’, 17.9–10 Agoriad wyd ar Gaerdyf / A’i chlo addwyn a’i chleddyf ‘You are the key to Cardiff / and its splendid lock and its sword’. In these it appears that the meaning is someone who opens his door or home to the poets, someone who invites or welcomes them. If so, dan egoriad may be taken to mean that Guto receives the welcome or the patronage of Sir Benet.
65 y Berfeddwlad The cantrefs of Rhos, Rhufoniog, Dyffryn Clwyd and Tegeingl, the region between Powys and Gwynedd which also came to be known as Gwynedd Is Conwy, see Lloyd 1911: 239–42.
Bibliography
Bromwich, R. (1972), Tradition and Innovation in the Poetry of Dafydd ap Gwilym (Caerdydd)
Harries, W.G. (1959–60), ‘Copi o Lyfr Awdlau John Jones, Gellilyfdy’, Cylchg LlGC xi: 273–6
Lloyd, J.E. (1911), A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London)
Parry Owen, A. (2010), ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, LlCy 33: 1–31
Gellir cysylltu pum cerdd â Syr Bened: awdl fawl gan Guto (cerdd 43); cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened i farchnadoedd yn Lloegr (cerdd 44); cywydd gan Dudur Penllyn sy’n ymateb i’r cywydd porthmona uchod, lle dychenir Guto (cerdd 44a); cywydd gan Guto sy’n ymateb i’r cywydd uchod, lle dychenir Tudur Penllyn (cerdd 45); cywydd marwnad gan Guto (cerdd 47). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrunio (84.7n).
Achres
Er na cheir sicrwydd llwyr ynghylch ach Syr Bened, y tebyg yw, ar sail achresi Bartrum, ei fod yn fab i ŵr o’r enw Hywel ap Gruffudd o Lygadog yn Edeirnion. Dywed Guto fel hyn am ei hynafiaid (43.37–40):Y gŵr o Ronwy, geirwir ynad,
Ac o ryw Cadell, gorau ceidwad,
Ac ŵyr i Lywarch, gwir oleuad,
Ac Ithel Felyn a’i hŷn a’i had.Fel y gwelir isod, gellir olrhain y Syr Bened y ceir ei enw yn yr achresi yn ôl i’r pedwar gŵr a enwir gan Guto. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘12’, ‘13’, ‘14’, ‘41’, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3; WG2 ‘Einudd’ 9A, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Syr Bened mewn print trwm.
Achres Syr Bened ap Hywel, person Corwen
Fodd bynnag, Benedict ap Grono a enwir fel person Corwen yn 1439 (gw. isod). Tybed a oedd enw tad Syr Benet yn anhysbys i’r sawl a gofnododd yr wybodaeth ond ei fod yn gyfarwydd ag awdl Guto iddo, lle’i gelwir yn Hydd o garennydd Gronwy ac yn ŵr o Ronwy (43.36–7), ac i’r cofnodwr hwnnw gymryd mai dyna oedd enw tad y person? At hynny, rhaid cydnabod ei bod braidd yn annisgwyl fod Guto’n rhoi sylw yn ei gerdd i hynafiaid Syr Bened ar ochr ei fam yn unig, ac yntau’n disgyn o linach ddigon urddasol ar ochr ei dad hefyd.
Daethpwyd o hyd i un gŵr arall o’r enw Bened yn yr achresi, sef Bened ab Ieuan ap Deio o Langar yn Edeirnion (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 8). Fel y gŵr uchod, drwy ei fam disgynnai Bened ab Ieuan o ŵr o’r enw Gronwy a gellir olrhain ei ach i Lywarch Hen ac i Gadell Ddyrnllug. Ond mae’n bur annhebygol mai Syr Bened ydyw gan nad enwir ef felly yn yr ach a chan na ellir ei gysylltu ag Ithel Felyn.
Ei yrfa
A dilyn dull Bartrum o rifo cenedlaethau, ganed Syr Bened c.1430. Yn Thomas (1908–13, ii: 144), dan y flwyddyn 1439, ceir yr enw Benedict ap Grono fel Sinecure Rector yng Nghorwen. Yn ôl Thomas (ibid. 148) a CPR (358), bu farw rywbryd yn 1464 a phenodwyd caplan o’r enw Roger Cheshire i’w olynu fel person yr Eglwys ar 1 Ionawr 1465. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r wybodaeth honno’n cyd-fynd â’r hyn a geir yn yr achresi. Ond gan mor brin yr enw, mae’n annhebygol fod gŵr arall o’r enw Bened yn berson Corwen yn ystod y bymthegfed ganrif, ac mae’r dyddiadau c.1439–65 yn cyd-daro’n agos iawn â’r hyn a ddisgwylid yn achos Syr Bened.
Ceir rhai cyfeiriadau eraill at ŵr neu wŷr o’r enw Bened a allai gyfeirio at Syr Bened: Ceir rhai cyfeiriadau yng nghronfeydd data gwefan SoldierLME (www.medievalsoldier.org) at filwr o’r enw Benedict neu Benet Flyn(t). Yn 1429 aeth Benedict Flynt i ryfela yn Ffrainc dan y capten Henry Fenwick; ar 21 Awst 1431 aeth Benet Flyn fel bwasaethwr troed ac aelod o osgordd bersonol yn y maes dan gapteiniaeth Mathau Goch i warchae Louviers (yn Normandi); ac yn 1439 aeth Benedict Flynt fel gŵr arfog dan gapteiniaeth Syr Thomas Gray a chadlywyddiaeth John Huntingdon, iarll Huntingdon, i wasanaethu mewn byddin sefydlog yn Acquitaine. Y tebyg yw mai’r un gŵr yw Benedict a Bened y cofnodion hyn (cf. y cyfeiriad uchod at Syr Bened fel Benedict ap Grono). Ond gan ei bod yn debygol mai gŵr o Edeirnion oedd Syr Bened, yn hytrach na o sir y Fflint, mae’n annhebygol mai ato ef y cyfeirir yn y cofnodion milwrol hyn, er mor nodedig yw cyfeiriadau Guto a Thudur Penllyn at faintioli corfforol a milwriaeth Syr Bened (43.6n, 30n). Yng nghasgliad Bettisfield (rhif 380) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir dogfen sy’n cofnodi i farchog o’r enw John Hanmer, ar 2 Mehefin 1449, roi manor Halton, ynghyd â thiroedd yn nhreflannau Bronington ym Maelor Saesneg a Gredington ym Maelor Gymraeg, i Benet Come, clerc a rheithor Corwen, ac eraill ym mhresenoldeb tystion. Dylid crybwyll hefyd Benedictus Com(m)e neu T(h)ome, notari cyhoeddus o esgobaeth Llanelwy y ceir ei enw wrth ddogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd ger bron Siôn Trefor, esgob Henffordd, yn y blynyddoedd 1391, 1393 a 1395 (Capes 1914: 52, 67, 70, 102, 285). Os Benedictus Come yn hytrach na Tome oedd gwir enw y gŵr hwn (hawdd oedd cymysgu’r llythrennau c a t), ai Syr Bened ydoedd? Os e, o gofio iddo farw yn 1464, mae’n rhaid ei fod wedi byw i oedran mawr, hyd yn oed os dechreuodd yn ei swydd mor gynnar ag yn ei ugeiniau. Fel arall, dichon mai rhywun o’r enw Benedictus Tome neu ynteu rhyw Benedictus Come arall (er mor anghyffredin yr enw) a ysgrifennodd y dogfennau hyn. Ym mynegai Capes, ystyrir Benedictus Come yr un gŵr â Benedict Corner, Benedict Gomme a Benedict Edine. Fodd bynnag, cysylltir Benedict Corner â bywoliaethau Eastnor, Benedict Gomme â bywoliaethau Eastnor a Stoke Lacy a Benedict Edine â bywoliaeth Colwall, y cwbl yn swydd Henffordd (ibid. 180, 185, 189, 212, 214, 215, 217). Crybwyllir un Iankyn’ ap Sir Benet mewn rhestr o ddisgyblion yn Pen 356 a fu, yn ôl pob tebyg, yn derbyn addysg mewn ysgol Sistersaidd elfennol – a oedd efallai dan adain abaty Dinas Basing – yn y bymthegfed ganrif (Thomson 1982: 78). Ai mab i Syr Bened oedd hwn? Os felly, nis ceir yn yr achresi.
Diau fod Syr Bened yn ŵr da ei fyd. Fel nifer o ddeoniaid gwledig ei gyfnod, derbyniai incwm am fagu defaid a’u gwerthu yn ogystal â chyflog person. Gellir ei gymharu â Syr Siôn Mechain, person Llandrunio, a oedd hefyd yn ŵr eglwysig ac wedi ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid. Nid bychan oedd cyflog person eglwysig yn y cyfnod hwn ychwaith, ac ymddengys fod deoniaid gwledig fel Syr Bened yn llawer hapusach eu byd yn ariannol na chlerigwyr plwyfol (Smith 2001: 289). Ceir cryn dystiolaeth i brofi mai’r eglwys yng Nghorwen oedd yr eglwys gyfoethocaf yn Edeirnion ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r gorffddelw o’r esgob Iorwerth Sulien (c.1340–50) yno i’w gweld o hyd (Smith 2001: 225; cf. eglwys Tywyn, ibid. 264–4, 289). Yng nghanol y bymthegfed ganrif byddai’r eglwys yng Nghorwen yn parhau i fod ar ben ei digon a dichon fod cryn statws i’w pherson. At hynny, deil yr achresi (gw. uchod) fod Syr Bened yn ficer Llanfair yn ogystal â pherson Corwen, er nad yw’n eglur pa Lanfair a olygir.
Llyfryddiaeth
Capes, W.W. (1914) (ed.), The Register of John Trefnant, Bishop of Hereford (A.D. 1389–1404) (Hereford)
Smith, J.B and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St Asaph (Oswestry)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)