Y llawysgrifau
Ceir y gyfres englynion hon mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 1553A. Mae’r testun yn lled dda ond ymddengys ei fod hefyd yn llwgr mewn mannau.
Trawsysgrifiad: LlGC 1553A.
9 digofau Gw. 9n (esboniadol) digofau; ynteu ai gwall sydd yma am ogofau?
9 sy ful LlGC 1553A svfyl. Fe’i trinnir yn ddau air er mwyn y synnwyr a chynghanedd y gair cyrch.
11 glaif LlGC 1553A glif, ffurf anhysbys, felly diwygir. Posibilrwydd arall fyddai darllen glo, ffurf dreigledig clo. Ar y term clo cont ‘chastity belt or girdle’, gw. GPC 501. Os felly, gellid ychwanegu f at ro’ i osgoi odli â glo a’i hystyried yn berfeddgoll.
25 gwlydd LlGC 1553A glwydd, ffurf anhysbys, a diwygir. Rhestrir dau gwlydd yn GPC 1686–7, y naill yn ansoddair a’r llall yn enw, ond enw sydd ei angen yma. Ymhellach, gw. 25n (esboniadol).
Cyfres o naw englynion unodl union yw’r gerdd hon, ac ynddi mae Tudur Penllyn yn ateb y beirdd a oedd wedi ei wneud yn gyff clêr ar y testun fod blaidd wedi mynd â’i geilliau (gw. cerddi 46, 46a). Sylwer yn arbennig ar ei anogaeth i’r beirdd eraill i wisgo [l]lodrau (llinell 4) ac i beidio mynd y ffordd yr aethai ef Heb ladd o gŵn a bleiddiau (36). (Dywed Tudur hefyd mewn cyfres arall o englynion fod sôn wedi bod ym mhlastai Nannau yn Llanfachreth a’r Rug ger Corwen iddo gael ei anafu yn ei glun gan flaidd, gw. GTP 36.II.5–8.) Crybwylla naw o’r beirdd wrth eu henwau, sef Guto, Robert, Hywel, Siôn Rheinallt, Gutun Owain, Gutun o Arfon, Siôn Conwy, Dafydd, Deio Bŵl, a chyfeirir at Ieuan ap Tudur Penllyn fel y gwas sy fab i minnau (10) – cyfanswm o ddeg. Ac eithrio Guto’r Glyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn, nid yw cerddi’r un o’r beirdd hyn ar yr achlysur hwn wedi goroesi. Yn ei olygiad o’r gerdd yn GTP 36.VII, ni chynhwysodd Thomas Roberts englynion dau, tri ac wyth oherwydd eu barnu’n ‘ddi-fudd’; er hynny, maent yn rhan o’r gerdd a phwysig yw’r cyfeiriadau at Guto, ei was Rhys ac Ieuan yn yr ail a’r trydydd englyn.
Dywedir yn rhaglith LlGC 1553A fod Tudur Penllyn wedi canu’r gerdd yn neithiar dafydd amrhedydd fychan. Enwir gŵr o’r enw Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd yn WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 29 (C1) a anwyd tua 1430 ac roedd ei deulu yn hanu o Faelienydd ac yn gysylltiedig â Llananno a Garddfaelog. Nid yw’n amhosibl ychwaith mai at ei dad y cyfeiria Guto yn ei foliant i Rosier ap Siôn Pilstwn (74.35n). Dichon, felly, mai yn nhŷ Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd y datganodd Tudur Penllyn ei gerdd.
Dyddiad
Rhwng c.1465 a c.1485 (gw. cerdd 46).
Golygiad blaenorol
GTP cerdd 36.VII.
Mesur a chynghanedd
Cyfres o naw englyn unodl union, 36 llinell, wedi eu canu ar y brifodl -au.
Cynghanedd (gan hepgor ail linell yr englynion o’r cyfrif): croes 22% (6 llinell), traws 41% (11 llinell), sain 30% (8 llinell), llusg 7% (2 llinell).
1 rhybudd Fel y saif, enw ydyw a gellir synnwyr ohono felly, ond mwy naturiol yw ei drin fel berfenw. Yn GPC 3124 d.g. rhybuddiaf, 1615 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r amrywiad rhybudd.
4 lladron Cyfeiriad at fleiddiaid, fe ymddengys, yn hytrach nag at y beirdd.
5 Guto Sef Guto’r Glyn (a ddychanodd Dudur, gw. cerdd 46).
6 tair caill Cymerir mai’r [rh]efr a llygaid gefrau yn y llinell nesaf a olygir. Gellir eu cyffelybu i geilliau gan eu bod yn grwn.
7 gefrau Fe’i deellir yn ffurf luosog gafr. Ni nodir y ffurf hon yn GPC 1370 ond dichon fod dylanwad ffurfiau fel gefryn a geifr arni.
8 Rhys dy was Yma yn unig y dysgwn fod gan Guto was o’r enw Rhys.
8 fal rhostio au Aneglur iawn yw eu cyswllt â gweddill yr englyn.
9 Robert Ni wyddys pwy oedd y bardd hwn.
9 digofau Ffurf anhysbys, ond ceir di-gof (gw. G 159), a cofau fel un o ffurfiau lluosog cof (G 159; GPC 536), felly mae’r gair yn ddichonadwy.
10 y gwas sy fab i minnau Sef Ieuan ap Tudur Penllyn, a ddychanodd Dudur, gw. cerdd 46a.
11 glaif Fe’i deellir yn ffigurol am gal.
13–15 Hywel ... / ... / Cilan Un o fân feirdd y bymthegfed ganrif ydoedd yn canu cerddi o safon dda yn y dull traddodiadol. Hanai o Gilan, Llandrillo, ger y Bala, ac roedd yn ei flodau rhwng 1435 a 1470. Priodolir 27 cerdd iddo a bron y cwbl yn gywyddau mawl a marwnad. Canai i foneddigion gogledd-ddwyrain Powys yn bennaf – teuluoedd Crogen, Maesmor, y Rug, Peniarth, y Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr a Moelyrch. Lancastriaid oedd ei noddwyr ond ymddengys nad ymddiddorai lawer yn helyntion gwleidyddol ei ddydd. Yn ôl dwy gyfres o englynion dychan gan Gutun Owain, GO LXIV.5–8, LXV.9–12, roedd yn ddyn bychan o gorff. Gw. GHC; CLC2 354–5.
13 dan glochau – ystaen Cyffelybir sain canu bardd weithiau i glychau; cf., e.e., GDC 14.8 Nodiau clau clych, eurwych arwydd (Y Proll). Mae’n debyg fod y defnydd o’r gair ystaen yn ddifrïol gan y byddai clychau tun yn swnio’n anhyfryd.
14 estyn ei weflau Ffordd o ddweud, efallai, fod gan Hywel Cilan wefusau ymwthiol; cf. llysenwau megis Gweflyn a Sefnyn.
16 moelcen Dyddiad yr enghraifft gyntaf a restrir yn GPC 2475 yw 1603.
17 cwcwallt Siôn Rheinallt Ai’r un gŵr ydyw â’r Siôn Rhys Rheinallt o Lwyncynddel a restrir yn MFGLl 3733 a MCF? Priodolir dwy gerdd iddo sy’n gysylltiedig ag ardal Llanelltud a Nannau. Ar berthynas gystrawennol cwcwallt â Siôn Rheinallt, cf. 21n.
17 arennau gwiber Hynny yw, natur gwiber.
19 Gutun Owain Bardd ac uchelwr o Landudlyst yn y Traean yn arglwyddiaeth Croesoswallt a flodeuai 1450–98, gw. Gutun Owain.
20 culwas Tebyg mai bychanol yw grym gwas yma; cf. 33 [g]weision.
20 glasbysau Cyfuniad o glas a pysau. Nid yw’r ail elfen yn hysbys ond gellir ei deall fel ffurf luosog amgen ar pys.
21 Arfon Gutun Gall mai’r un bardd ydyw â’r Gutun ... Goch ... o Gwchwillan a grybwyllir yn GTP 36.II.15–16. Lleolir Cochwillan ym mhlwyf Llanllechid ger Bangor yn Arfon. Er bod ystyr y geiriau’n ddigon eglur, nid felly eu cystrawen. Cymerir mai cystrawen ‘hydref ddail’ sydd yma ond â’r enw priod Gutun heb ei dreiglo. Os felly, cf. GTP 2.37 Meirionnydd Ruffudd, mae’r wyd?, uchod 17n cwcwallt Siôn Rheinallt.
21 dan Defnyddir yr arddodiad efallai i olygu bod Gutun â’i ddwylo ar y cyrn.
22 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf.
23–4 Siôn ... / Conwy Fe’i crybwyllir hefyd yn GTP 36.V.5. Nis rhestrir yn MFGLl na MCF.
24 gwau Sef gwau neu gyfansoddi cerdd, mae’n debyg, cyfeiriad efallai at y gerdd roedd wedi ei llunio i destunio Tudur Penllyn.
25 Dafydd Dafydd ap Maredudd ap Tudur o Dregynon o bosibl, a grybwyllir yn GTP 36.III.1, 4 (a gw. y nodyn). Priodolir cerddi iddo yn MFGLl 3733 a MCF.
25 Mae’r llinell yn rhy fyr o sillaf.
26 Deio Bŵl Bardd o Blwy Doewan, sef Llanrhaeadr ym Mochnant, gw. GTP 131. Nis rhestrir yn MFGLl na MCF.
27 merchedau Ffurf luosog ddwbl, gw. GPC 2432.
28 troi o stad Hynny yw, ei ysbaddu.
30 cydiad Dyddiad yr enghraifft gyntaf o’r gair a restrir yn GPC 663 yw 1588, ond gellid yn hawdd ei ffurfio o’r ferf cydio.
32 Sylwer bod angen cywasgu â â i gael saith sillaf.
This poem is a series of nine englynion unodl union where Tudur Penllyn answers the poets who had made him a cyff clêr (‘minstrels’ butt of satire’) on the theme that the wolf has taken his testicles (see poems 46, 46a). Note in particular his exhortation to the other poets to wear llodrau (line 4) and not to go the way he had gone Heb ladd o gŵn a bleiddiau (36). (Tudur also says in another series of englynion that there had been talk in the mansions of Nannau in Llanfachreth and Rug by Corwen that he had been injured in his groin by a wolf, see GTP 36.II.5–8.) He names nine of the poets: Guto, Robert, Hywel, Siôn Rheinallt, Gutun Owain, Gutun o Arfon, Siôn Conwy, Dafydd, Deio Bŵl; Ieuan ap Tudur Penllyn is referred to as the gwas sy fab i minnau (10), thus making a total of ten. Except in the case of Guto’r Glyn and Ieuan ap Tudur Penllyn, none of the poems sung by these poets on the occasion has survived. In his edition of the poem in GTP 36.VII, Thomas Roberts did not include the second, third and eighth stanzas because he judged them to be of no value; they are nonetheless part of the poem and the references to Guto, his servant Rhys and Ieuan in the second and third stanzas are important.
It is stated in the preface of LlGC 1553A that Tudur Penllyn sang the poem at the neithiar of dafydd amrhedydd fychan (‘the wedding-feast of Dafydd ap Maredudd Fychan’). A man called Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd is named in WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 29 (C1); he was born c.1430 and his family came from Maelienydd and had links with Llananno and Garddfaelog. It is not inconceivable either that it is to his father that Guto refers in his praise of Rhosier ap Siôn Puleston (74.35n). It may, therefore, have been in the house of Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd that Tudur Penllyn sang his poem.
Date
Between c.1465 and c.1485 (see poem 46).
The manuscripts
The poem has been preserved in 1 manuscript only, namely LlGC 1553A. The text is fairly good but it appears that it is also corrupt in places.
Previous edition
GTP poem 36.VII.
Metre and cynghanedd
Nine englynion unodl union, 36 lines, on the main rhyme -au.
Cynghanedd (not counting the second line of the englynion): croes 22% (6 lines), traws 41% (11 lines), sain 30% (8 lines), llusg 7% (2 lines).
1 rhybudd As it stands, it is a noun and makes sense as such, but it is more natural to treat it as a verbal noun. In GPC 3124 s.v. rhybuddiaf, 1615 is the date of the example of the variant rhybudd noted there.
4 lladron Apparently signifying wolves rather than the poets.
5 Guto I.e., Guto’r Glyn (who satirized Tudur, see poem 46).
6 tair caill It is assumed that the [rh]efr a llygaid gefrau in the next line are meant here. They can be likened to testicles as they are round.
7 gefrau It is understood as the plural form of gafr. This form is not noted in GPC 1370 but it could have been influenced by forms such as gefryn and geifr.
8 Rhys dy was It is only here that we learn that Guto had a servant called Rhys.
8 fal rhostio au Their relationship to the rest of the stanza is very unclear.
9 Robert It is not known who this poet was.
9 digofau An unknown form, but di-gof (‘without memory’) occurs (see G 159), and cofau as one of the plural forms of cof (‘memory’) (G 159; GPC 536), so the form is possible.
10 [y] gwas sy fab i minnau I.e., Ieuan ap Tudur Penllyn who satirized Tudur, see poem 46a.
11 glaif It is understood figuratively for a penis.
13–15 Hywel ... / ... / Cilan He was one of the minor poets of the fifteenth century, singing poems of a good standard in traditional style. He hailed from Cilan, Llandrillo, near Bala, and flourished between 1435 and 1470. There are 27 poems attributed to him, nearly all of them cywyddau of praise and elegy. He sang chiefly to the aristocracy of north-east Powys – the families of Crogen, Maesmor, Rug, Peniarth, Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr and Moelyrch. His patrons were supporters of the house of Lancaster but apparently the political struggles of his age did not interest him much. According to two series of englyn stanzas by Gutun Owain, GO LXIV.5–8, LXV.9–12, he was of small physical stature. See GHC; NCLW 342.
13 dan glochau – ystaen The sound of a poet’s song is sometimes likened to bells; cf., e.g., GDC 14.8 Nodiau clau clych, eurwych arwydd ‘and the high sounds of bells, excellent and splendid sign’ (Y Proll). The use of the word ystaen is probably derogatory since tin bells would sound unpleasant.
14 estyn ei weflau Possibly a way of saying that Hywel Cilan had protruding lips; cf. nicknames such as Gweflyn and Sefnyn.
16 moelcen The date of the first example listed in GPC 2475 is 1603.
17 cwcwallt Siôn Rheinallt Is this the Siôn Rhys Rheinallt of Llwyncynddel listed in MFGLl 3733 and MCF? Two poems are ascribed to him which are associated with the vicinity of Llanelltud and Nannau. On the syntactical relationship of cwcwallt with Siôn Rheinallt, cf. 21n.
17 arennau gwiber I.e., the nature of a viper.
19 Gutun Owain A poet of gentry stock who hailed from Dudleston in the lordship of Oswestry and whose floruit was 1450–98, see Gutun Owain.
20 culwas The second element (g)was probably has a derogatory force here; cf. 33 [g]weision.
20 glasbysau This is understood as a combination of glas and pysau. The second element is otherwise unattested but can be understood as an alternative plural form of pys.
21 Arfon Gutun Perhaps the same poet as the Gutun ... Goch ... o Gwchwillan mentioned in GTP 36.II.15–16. Cochwillan is located in the parish of Llanllechid by Bangor in Arfon. Although the meaning of the words is clear enough, their syntax is not. It may be that we have here a case of the inverted genitive construction but with the personal name Gutun left unlenited. If so, cf. GTP 2.37 Meirionnydd Ruffudd, mae’r wyd? ‘Gruffudd of Meirionnydd, where are you?’, above 17n cwcwallt Siôn Rheinallt.
21 dan The preposition is used perhaps to signify that Gutun has his hands on the horns.
22 The line is too long by a syllable.
23–4 Siôn ... / Conwy He is also mentioned in GTP 36.V.5. He is not listed in MFGLl or MCF.
24 gwau I.e., to knit or compose a poem, probably, with reference perhaps to the poem that he had fashioned to ridicule Tudur Penllyn.
25 Dafydd Perhaps Dafydd ap Maredudd ap Tudur of Tregynon who is mentioned in GTP 36.III.1, 4 (and see the note). A poem is ascribed to him in MFGLl 3733 and MCF.
25 The line is too short by a syllable.
26 Deio Bŵl A poet from Plwy Doewan, namely Llanrhaeadr ym Mochnant, see GTP 131. He is not listed in MFGLl or MCF.
27 merchedau A double plural form, see GPC 2432.
28 troi o stad I.e., castrated.
30 cydiad The date of the first instance of the word listed in GPC 663 is 1588, but it could easily be formed from the verb cydio.
32 Note that it is necessary to elide â â to give seven syllables.
Cyfeirir yn ddirmygus tuag at Dudur Penllyn yng ngherdd 44, cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened, person Corwen, i farchnadoedd yn Lloegr. Atebodd Tudur gyda chywydd yn dychan Guto ac yn ei gyhuddo o dwyllo Syr Bened (cerdd 44a), a chanodd Guto gywydd arall i’w amddiffyn ei hun (cerdd 45). Ceir hefyd ddwy gyfres o englynion yn dychanu Tudur gan Guto (cerdd 46) a chan ei fab, Ieuan ap Tudur Penllyn (cerdd 46a), yn ogystal â chyfres arall o englynion gan Dudur yn ei amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn yr englynion hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.
Achres
Olrheiniai Tudur ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.
Fel y gwelir, roedd Tudur yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.
Ei yrfa
Roedd Tudur yn fardd rhagorol ac yn uchelwr cefnog o Gaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd. Priodolir 35 o gerddi iddo a rhai cyfresi o englynion. Moli a marwnadu, annerch, gofyn, cymodi a dychan a welir ynddynt. Roedd hefyd yn amaethwr a gadwai ddefaid ac ŵyn ac yn berchen gwartheg a cheffylau. Porthmonai’r defaid a’r ŵyn gan werthu eu gwlân, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi 44, 44a a 45. Canai i uchelwyr yng ngogledd a de Cymru ond, ac yntau’n fardd a ganai ar ei fwyd ei hun, mae’n debygol mai fel ymweliadau cyfeillgar yn hytrach nag fel achlysuron clera i gynnal ei hun y dylid gweld y teithiau hyn. Ei brif noddwyr oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, Rheinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug a Dafydd Siencyn o Nanconwy. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau cefnogai’r Lancastriaid, ond canodd hefyd i rai o’r Iorciaid. Roedd ei wraig Gwerful Fychan, ei fab Ieuan ap Tudur Penllyn a’i ferch Gwenllïan hwythau’n prydyddu (ar Wenllïan, gw. GGM 3–4; Johnston 1997). Fel beirdd ‘amatur’ eraill, nad oeddynt mor gaeth i gonfensiynau cerdd dafod, ceir ffresni ac amrywiaeth mwy na’r arfer yng ngherddi Tudur, gyda champ ar ei ddisgrifiadau a min ar ei ddychan. Ymhellach, gw. GTP (xiii am ei ddyddiadau); Roberts 1942: 141–51; idem 1943: 27–35; ByCy Ar-lein s.n. Tudur Penllyn; GIBH 3, cerddi 1–3, At iii–v a’r sylwadau arnynt.
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1997), ‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, 3: 27–32
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35