Chwilio uwch
 
47 – Marwnad Syr Bened, person Corwen
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Mi a welais, mau wylaw,
2Freuddwyd oer, i fardd y daw:
3Torri cledd, dewredd i’m dwrn,
4Yn ei said ar nos Sadwrn.
5Y cleddau, pan ei claddwyd,
6Oedd capten o ŵr llên llwyd.
7Trewis Duw dyrnod trist iawn,
8Torri dwrn tir Edeirniawn,
9Bwrw yn y llawr Brân a Llŷr,
10Braw Corwen, bwrw cyw eryr,
11Bwrw sylfaen a blaen y blaid,
12Bwrw synnwyr holl bersoniaid.
13Mawr yw’r cwyn yn holl Wynedd,
14Myned Syr Bened i’r bedd,
15A mwy yw’r cwyn, marw eu câr,
16Yn Nhegeingl, chwedl anhygar.
17Ddoe’r oedd ym wahodd ar ŵr,
18Heddiw mae fy ngwahoddwr?
19Heddiw’r oedd wahodd yr ŵyl,
20Hon yr awron yw’r arwyl.
21Mae’r gruddiau yn donnau dŵr,
22Môr glas am yr eglwyswr.

23Eryr crefyddwyr, cryf oedd,
24Ac un Edn Llwch Gwin ydoedd;
25Caterwen côr Sulien Sant,
26Cawr ffriwlwyd fal corff Rolant.
27Cryf fu angau crafangawg,
28Gwympo’r holl gampau yrhawg.
29Nis bwriodd ansyberwyd
30Gŵr o gorff yn Lloegr i gyd.
31Och finnau na chaf yno
32Ddewi i’w gyfodi fo,
33Neu Feuno yn fyw unwaith
34Na roes hwn yn un o’r saith!
35Gweled Syr Bened, pe bai
36Yn iach, a’m llawenychai.
37Curad aur y côr od aeth,
38Corwen, gwae ni rhag hiraeth!
39Er pan aeth, gwaeth ydyw’r gwŷr,
40A phrinnach offerenwyr.
41Yr hael erioed ni ffaeliodd,
42A chwedi’r hael ni chaid rhodd.
43Llawn fu amner pob clerwr,
44A lledr gwag oll wedi’r gŵr.
45Duw lwyd, pam na roud ei law
46I un arall i’n euraw?
47Ifor Hael pan fu farw’r haf
48A roes law i Rys Leiaf.
49Marw fu Ifor yng Nghorwen,
50A thorri llys athro llên.
51Pwy er Mair a gadeiriwn?
52Pwy sydd hael? Piau swydd hwn?
53A phwy a rydd ar ffair wen
54Yr ail sâl ar ŵyl Sulien?
55Ni wnâi ef yno ’n ei waith
56Ond rhannu punt ar unwaith.
57Duw a wnêl, rhag dwyn aliwn,
58Ynn gael llew hael yn lle hwn.
59Odid fyth, er däed fo,
60Ynn gael dyn unglod yno.

1Gwelais, achos fy wylo yw hyn,
2freuddwyd anhyfryd, daw i fardd:
3torri cledd, ffynhonnell dewrder i’m dwrn,
4yn ei garn ar nos Sadwrn.
5Pan gladdwyd y cledd,
6roedd yn arweinydd o ysgolhaig duwiol.
7Rhoddodd Duw ddyrnod trist iawn
8trwy dorri dwrn tir Edeirnion,
9bwrw i’r llawr Frân a Llŷr,
10achos braw i Gorwen, bwrw cyw eryr,
11bwrw cynhaliwr ac arweinydd y dorf,
12bwrw doethineb yr holl bersoniaid.
13Mawr yw’r gŵyn yn holl Wynedd
14oherwydd mynd Syr Bened i’r bedd,
15a mwy yw’r gŵyn, oherwydd marw eu câr,
16yn Nhegeingl, newyddion oer.
17Ddoe roedd i mi wahoddiad at ŵr,
18heddiw ble mae fy ngwahoddwr?
19Ar gyfer heddiw roedd gwahoddiad yr ŵyl,
20yr ŵyl hon bellach yw’r cynhebrwng.
21Mae’r gruddiau yn donnau o ddŵr,
22môr glas o ddagrau sydd oherwydd yr eglwyswr.

23Yn eryr crefyddwyr, roedd yn gryf,
24ac Aderyn Llwch Gwin rhagorol ydoedd;
25pendefig cadarn eglwys Sulien Sant,
26cawr llwyd ei wedd â chorff fel Rolant.
27Nerthol fu angau crafangog,
28oherwydd dymchwel yr holl gampau o hynny allan.
29Ni fwriodd anghwrteisi
30ŵr o gorff fel ei gorff ef yn Lloegr oll.
31Gwae finnau na chaf yno
32Ddewi i’w atgyfodi ef,
33neu Feuno i’w godi’n fyw unwaith
34na chyfrifodd hwn yn un o’r saith!
35Byddai gweld Syr Bened,
36pe bai’n ddianaf, yn fy llonni.
37Os yw curad ardderchog eglwys Corwen
38wedi mynd, gwae ni rhag hiraeth!
39Er pan aeth, gwaeth eu byd yw’r gwŷr,
40a phrinnach yw’r offeiriaid.
41Ni fethodd y gŵr hael erioed,
42ac wedi marw’r gŵr hael ni cheid rhodd.
43Llawn fu pwrs pob bardd,
44a lledr gwag oedd wedi marw’r gŵr.
45O Dduw bendigaid, pam na roddet ei nawdd
46i arall i’n cyfoethogi?
47Ifor Hael pan fu farw yn yr haf
48a drosglwyddodd nawdd i Rys Leiaf.
49Bu farw Ifor yng Nghorwen,
50a chwalu llys meistr dysg.
51I bwy er Mair y rhoddwn gadair?
52 Pwy sy’n hael? Pwy biau swydd hwn?
53A phwy a rydd mewn ffair wych
54yr ail rodd ar ŵyl Sulien?
55Ni wnâi ef yno wrth ei orchwyl
56ond rhannu punt ar unwaith.
57Boed i Dduw, rhag dod ag estron,
58beri i ni gael gwron hael i gymryd lle hwn.
59Go brin, er cystal fo,
60y cawn ddyn o’r un bri ag ef byth.

47 – Elegy for Sir Benet, parson of Corwen

1I beheld, mine is the weeping,
2an unlovely dream, it comes to a poet:
3the breaking of a sword, source of strength for my fist,
4at the hilt on Saturday night.
5When the sword was buried,
6he was a leader and pious scholar.
7God struck a very sad blow with his fist
8by smashing the fist of the land of Edeirnion,
9he struck to the ground Brân and Llŷr,
10he struck down an eagle’s young, cause of alarm to Corwen,
11he struck down the supporter and leader of the throng,
12struck down the wise man of all the parsons.
13Great is the lament throughout Gwynedd
14because of Sir Benet’s going to the grave,
15and greater is the lament, on account of their kinsman’s death,
16in Englefield, horrid news.
17Yesterday I received a man’s invitation,
18today where is my inviter?
19For today was the invitation to the feast,
20this feast is now the funeral.
21The cheeks are waves of water,
22a blue sea on account of the churchman.

23An eagle of the religious, he was strong,
24and an outstanding Bird of Llwch Gwin;
25stout nobleman of the church of St Sulien,
26giant of grey mien with a body like Roland’s.
27Clawed death was strong,
28striking down all the feats thenceforth.
29Rudeness has not struck down
30a man of such physique as his in the whole of England.
31Woe is me that I shall not have there
32St David to resurrect him,
33or St Beuno, who did not count him one of the seven,
34to raise him to life once!
35To see Sir Benet, were he unscathed,
36would fill me with joy.
37If the excellent curate of the church of Corwen
38has gone, woe to us the longing after him!
39Since he departed, the men are worse off,
40and the priests scarcer.
41The generous man never failed,
42and after his death no gift was received.
43Full was every poet’s purse,
44and empty is the leather after the man’s death.
45O blessed God, why won’t you give his patronage
46to another to enrich us?
47When Ifor Hael died in the summer,
48he passed on his patronage to Rhys Leiaf.
49Ifor died in Corwen,
50shattering the court of a master of learning.
51To whom, for Mary’s sake, shall we give a chair?
52Who is generous? Whose is this man’s ministry?
53And who will give us at a splendid fair
54the second gift on St Sulien’s feast?
55He would while engaged there
56simply share a pound at once.
57May God, in case a foreigner be placed,
58bring it about that we have a generous hero to succeed him.
59Scarcely will we ever have a man,
60however good, of equal renown.

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn tair llawysgrif. Mae’r gynharaf, sef Pen 152, yn llaw Robert Vaughan, nid cyn 1654, a’r ail, BL 12230, yn gopi gan ei fab Gruffudd. Fel arfer, mae’n bosibl adnabod ffynhonnell Robert Vaughan ar gyfer ei destunau o waith Guto (John Davies, Mallwyd, yn bennaf) ond ni wyddys o ble y cododd y testun hwn. Mae ei ansawdd yn lled dda. Copi arall, diweddarach, yw LlGC 428C o Pen 152. Seiliwyd y testun golygyddol ar destun Pen 152.

Trawsysgrifiad: Pen 152.

stema
Stema

6 capten  Pen 152 cadpen, enghraifft o eirdarddu ffug (cad a pen), mae’n debyg, ond benthyciad yw capten o’r Saesneg captain, GPC 421.

17 ddoe ’r oedd ym wahodd  Pen 152 Ddoe yr oedd im wadd. Mae hyn yn gywir fel y saif ond gthg. 19 Heddiw ’r oedd wahodd lle ceir ffurf fer y fannod a’r ffurf lawn gwahodd. Y tebyg yw mai Ddoe yr oedd im wahodd ar ŵr oedd y darlleniad yn wreiddiol a bod copïwr wedi ei throi’n seithsill trwy fyrhau wahodd yn wadd yn lle troi yr yn ’r. Nodir GGl gwadd yn GPC 1562.

19 heddiw  Yn y cyd-destun gellir ei ddehongli i olygu ‘ar gyfer heddiw’ ond tybed, er hynny, nad ddoe (os felly, ddoe yr oedd i gael llinell seithsill) oedd y darlleniad gwreiddiol? Fel hyn byddai’r cwpled yn canlyn yn fwy naturiol ar y gwrthgyferbyniad rhwng doe a heddiw a geir yn y cwpled blaenorol.

19 yr ŵyl  Felly Pen 152. Yn GGl dehonglir yr yn i’r ond er bod hynny’n bosibl, nid yw’n gyson ag orgraff Pen 152, a gellir sôn am ‘wahoddiad yr ŵyl’ yn yr ystyr ‘gwahoddiad i’r ŵyl’.

26 Rolant  Pen 152 Roland. Diwygir er mwyn yr odl (ceir y ffurf Roland yn ogystal â Rolant yn y farddoniaeth).

29–30  Er bod modd cael synnwyr o’r cwpled (gw. yr aralleiriad), mae gwneud rhywun yn wrthrych berf ac enw haniaethol (ansyberwyd) yn oddrych iddi yn anarferol, ac nid yw’r ymadrodd Gŵr o gorff rywfodd yn taro deuddeg. Mae’n bosibl fod rhywbeth wedi mynd o’i le yn nhrosglwyddiad y rhan hon o’r gerdd ond anodd fyddai cynnig diwygiad.

42 chaid  Gthg. GGl chaed.

45 roud  Felly Pen 152. Gthg. GGl roed ond rhydd ail berson unigol amherffaith dibynnol rhoddi, sef rho(dd)ud, synnwyr purion.

53 ar  Felly Pen 152. Gthg. GGl er. Cf. GDG3 49.1–2 Rhai o ferched y gwledydd, / Sef gwnân ar ffair, ddiddan ddydd. Ar yr ystyr hon i ar, gw. GPC2 402 (f).

Cywydd marwnad yw’r gerdd hon i Syr Bened, person Corwen, a fu farw yn 1464. Mae iddi ddwy ran. Yn gyntaf (llinellau 1–22), gresynir at waith Duw yn bwrw i lawr y fath wron ac arweinydd cadarn a dysgedig gan ddisgrifio’r holl alar a dagrau ar ei ôl. Yn yr ail ran (23–60), dyhea’r bardd am weld Syr Bened ar dir y byw eto a chael noddwr o Gymro arall o gyffelyb haelioni yn olynydd iddo, er cydnabod y byddai’n annhebygol y câi’r dymuniad hwnnw ei wireddu.

Dyddiad
1464 neu’n fuan wedyn.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXV.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 47% (28 llinell), traws 25% (15 llinell), sain 20% (12 llinell), llusg 8% (5 llinell).

5 pan ei  Ffurf lafarog y rhagenw mewnol a ddilynai'r cysylltair pan (Pen 152 pan y), gw. GMW 53, 56.

8 Edeirniawn  Cwmwd ym Meirionnydd a gynhwysai Gorwen, lle trigai Syr Bened, gw. WATU 63, 266.

9 Brân  Y cawr chwedlonol Bendigeidfran fab Llŷr Llediaith (gw. y nodyn nesaf) sydd yn amlwg yn ail gainc y Mabinogi, gw. WCD 51–2; TYP3 290–2.

9 Llŷr  Llŷr Llediaith, tad Brân (gw. y nodyn blaenorol) ac arwr y cyfeirir ato’n fynych gan y beirdd, gw. WCD 421–2; TYP3 418–21.

13–16  Cf. 82.13–18 Mawr yw anaf cerdd dafawd, / Mawr os gwir marw eos gwawd / … / ... / Cwyn mawr acw yn y Main / A mwy uchod ym Mechain.

15–16 câr, / Yn Nhegeingl  Roedd Tegeingl yn un o bedwar cantref y Berfeddwlad (y lleill oedd Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd) a daeth yn 1284 yn rhan o sir y Fflint, gw. CLC2 697; WATU 202, 324. Roedd gan Syr Bened berthnasau yno ar ochr ei fam.

17 ar  Ar y defnydd hwn o’r arddodiad yn dynodi symudiad tuag at, gw. GPC 402, 2 (b).

19 yr ŵyl  Gallai’r geiriau fod yn adferfol hefyd. Os felly, yr ystyr yn llawn fyddai ‘gwahoddiad (i ymweld â Syr Bened) adeg yr ŵyl.’ Cyfeirir at un o’r tair gŵyl arbennig pan fyddai’r beirdd yn ymweld â’u noddwyr, sef y Nadolig, y Pasg a’r Sulgwyn.

24 Edn Llwch Gwin  Ar y creaduriaid chwedlonol Adar Llwch Gwin, gw. 48.53–4n. Defnyddir y term, yn yr unigol, megis yma, am arwr.

25 côr Sulien Sant  Roedd eglwysi Corwen yn sir Feirionnydd a’r Cwm yn sir y Fflint wedi eu cysegru iddo, gw. 43.5–7n.

26 Rolant  Arwr brwydr Roncesvalles yn chwedlau Siarlymaen.

28 yr holl gampau  Sef y Saith Gamp Deuluaidd, gw. 40.13n.

32 Dewi i’w gyfodi  Cyfeirir at waith Dewi Sant yn cyfodi o farw’n fyw Magnus, unig fab gwraig weddw, gw. Sharpe and Davies 2007: 144; Evans 1959: 16; GIRh 8.77n. Nis henwir yn y fuchedd Gymraeg, gw. Evans 1959: 14.

33–4 Beuno … / … saith  Sant pwysig o’r bumed i’r chweched ganrif a gysylltir yn bennaf â Chlynnog Fawr, sir Gaernarfon, gw. CLC2 45; LBS i: 208–21. Roedd traddodiad ei fod, yn ystod ei fywyd, wedi codi chwe pherson o farw’n fyw ac y byddai ryw ddydd yn codi seithfed, ibid. 221.

47 Ifor Hael  Ifor ap Llywelyn, cyfaill a noddwr enwog Dafydd ap Gwilym a aeth yn ddiarhebol ymysg y beirdd am safon ei nawdd, gw. CLC2 361–2.

48 Rhys Leiaf  Awgryma Ifor Williams, GGl2 331, mai Rhys (sef Rhys ap Meredudd ab Owain), noddwr y bardd Dafydd Nanmor, a olygir. Ceir ei ach yn WG1 ‘Gwynfardd’ 2, WG2 ‘Gwynfardd’ 2 (A1), ond ni elwir ef yno yn Rhys Leiaf. Ni welwyd ychwaith neb o’r enw Rhys Leiaf yn yr achau.

57 rhag dwyn aliwn  Hynny yw, rhag i Sais gael ei benodi yn olynydd i Syr Bened. Sais, er hynny, sef Roger Cheshire, a’i dilynodd, gw. Syr Bened.

Llyfryddiaeth
Evans, D.S. (1959) (gol.), Buchedd Dewi (Caerdydd)
Sharpe, R. and Davies, J.R. (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St David’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 107–55

This cywydd is an elegy for Sir Benet, parson of Corwen, who died in 1464. It consists of two parts. First (lines 1–22), regret is expressed at God’s action in striking down such a stalwart and learned hero and leader and it is accompanied by a description of all the grief and tears following his death. In the second part (23–60), the poet yearns to see Sir Benet on the land of the living again and to have another Welshman who will be a patron of like generosity to succeed him, although the improbability of the latter being fulfilled is acknowledged.

Date
1464 or soon afterwards.

The manuscripts
The poem has been preserved in three manuscripts. The earliest, Pen 152, is in the hand of Robert Vaughan, not before 1654, while the second, BL Add 12230, is a copy by his son Gruffudd. Vaughan’s source is not known, however the quality of the text quality is quite good.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem XXXV.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 47% (28 lines), traws 25% (15 lines), sain 20% (12 lines), llusg 8% (5 lines).

5 pan ei  The conjunction pan was followed by the syllabic form of the infixed pronoun (Pen 152 pan y), see GMW 53, 56.

8 Edeirniawn  A commote in Meirionnydd which included Corwen, where Sir Benet lived, see WATU 63, 266.

9 Brân  The mythical giant Bendigeidfran fab Llŷr Llediaith (see the next note) who is prominent in the second branch of the Mabinogi, see WCD 51–2; TYP3 290–2.

9 Llŷr  Llŷr Llediaith, father of Brân (see preceding note) and a hero mentioned frequently by the poets, see WCD 421–2; TYP3 418–21.

13–16  Cf. 82.13–18 Mawr yw anaf cerdd dafawd, / Mawr os gwir marw eos gwawd / … / ... / Cwyn mawr acw yn y Main / A mwy uchod ym Mechain ‘Great is the injury to poetic art, / great if true the passing of the nightingale of song. / ... / ... / There is great mourning in Main / and more above in Mechain’.

15–16 câr, / Yn Nhegeingl  Tegeingl (or Englefield) was one of the four cantrefs of the Perfeddwlad (the others were Rhos, Rhufoniog and the Vale of Clwyd) and it became part of the county of Flint in 1284, see NCLW 219; WATU 202, 324. Sir Benet had relatives there on his mother’s side.

17 ar  On the use of this preposition to denote movement towards, see GPC 402, 2 (b).

19 yr ŵyl  These words could be adverbial as well. If so, the meaning in full would be ‘an invitation (to visit Sir Benet) at the time of the feast’. Reference is made to one of the three special feasts on which the poets would visit their patrons, namely Christmas, Easter and Whitsun.

24 Edn Llwch Gwin  On the mythical creatures the Birds of Llwch Gwin, see 48.53–4n. The term is used, in the singular, as here, for a hero.

25 côr Sulien Sant  The churches of Corwen in Merionethshire and of Cwm in Flintshire were dedicated to him, see 43.5–7n.

26 Rolant  The hero of the battle of Roncesvalles in the Charlemagne cycle of tales.

28 yr holl gampau  Namely the Seven Household Feats, see 40.13n.

32 Dewi i’w gyfodi  A reference to the action of St David raising Magnus, the only son of a widow, from death to life, see Sharpe and Davies 2007: 144; Evans 1959: 16; GIRh 8.77n. He is not named in the Welsh life, see Evans 1959: 14.

33 Beuno … / … saith  An important saint from the fifth to sixth century associated chiefly with Clynnog Fawr, Caernarfonshire, see NCLW 46; LBS i: 208–21. There was a tradition that he had, during his life, raised six persons from death to life and that some day he would raise a seventh, ibid. 221.

47 Ifor Hael  Ifor ap Llywelyn, the celebrated friend and patron of Dafydd ap Gwilym remembered by the poets for the quality of his patronage, see NCLW 347.

48 Rhys Leiaf  Ifor Williams suggests, GGl2 331, that Guto is referring to Rhys (Rhys ap Meredudd ab Owain), the patron of the poet Dafydd Nanmor. His pedigree can be found in WG1 ‘Gwynfardd’ 2, WG2 ‘Gwynfardd’ 2 (A1), but he is not called Rhys Leiaf there. I have not seen either anyone called Rhys Leiaf in the genealogies.

57 rhag dwyn aliwn  I.e., in case an Englishman be appointed successor to Sir Benet. It was an Englishman nonetheless, Roger Cheshire, who succeeded him, see Sir Benet.

Bibliography
Evans, D.S. (1959) (gol.), Buchedd Dewi (Caerdydd)
Sharpe, R. and Davies, J.R. (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St David’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 107–55

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Syr Bened ap Hywel, person Corwen, 1439–65

Syr Bened ap Hywel, person Corwen, fl. c.1439–65

Top

Gellir cysylltu pum cerdd â Syr Bened: awdl fawl gan Guto (cerdd 43); cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened i farchnadoedd yn Lloegr (cerdd 44); cywydd gan Dudur Penllyn sy’n ymateb i’r cywydd porthmona uchod, lle dychenir Guto (cerdd 44a); cywydd gan Guto sy’n ymateb i’r cywydd uchod, lle dychenir Tudur Penllyn (cerdd 45); cywydd marwnad gan Guto (cerdd 47). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrunio (84.7n).

Achres
Er na cheir sicrwydd llwyr ynghylch ach Syr Bened, y tebyg yw, ar sail achresi Bartrum, ei fod yn fab i ŵr o’r enw Hywel ap Gruffudd o Lygadog yn Edeirnion. Dywed Guto fel hyn am ei hynafiaid (43.37–40):Y gŵr o Ronwy, geirwir ynad,
Ac o ryw Cadell, gorau ceidwad,
Ac ŵyr i Lywarch, gwir oleuad,
Ac Ithel Felyn a’i hŷn a’i had.Fel y gwelir isod, gellir olrhain y Syr Bened y ceir ei enw yn yr achresi yn ôl i’r pedwar gŵr a enwir gan Guto. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘12’, ‘13’, ‘14’, ‘41’, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3; WG2 ‘Einudd’ 9A, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Syr Bened mewn print trwm.

lineage
Achres Syr Bened ap Hywel, person Corwen

Fodd bynnag, Benedict ap Grono a enwir fel person Corwen yn 1439 (gw. isod). Tybed a oedd enw tad Syr Benet yn anhysbys i’r sawl a gofnododd yr wybodaeth ond ei fod yn gyfarwydd ag awdl Guto iddo, lle’i gelwir yn Hydd o garennydd Gronwy ac yn ŵr o Ronwy (43.36–7), ac i’r cofnodwr hwnnw gymryd mai dyna oedd enw tad y person? At hynny, rhaid cydnabod ei bod braidd yn annisgwyl fod Guto’n rhoi sylw yn ei gerdd i hynafiaid Syr Bened ar ochr ei fam yn unig, ac yntau’n disgyn o linach ddigon urddasol ar ochr ei dad hefyd.

Daethpwyd o hyd i un gŵr arall o’r enw Bened yn yr achresi, sef Bened ab Ieuan ap Deio o Langar yn Edeirnion (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 8). Fel y gŵr uchod, drwy ei fam disgynnai Bened ab Ieuan o ŵr o’r enw Gronwy a gellir olrhain ei ach i Lywarch Hen ac i Gadell Ddyrnllug. Ond mae’n bur annhebygol mai Syr Bened ydyw gan nad enwir ef felly yn yr ach a chan na ellir ei gysylltu ag Ithel Felyn.

Ei yrfa
A dilyn dull Bartrum o rifo cenedlaethau, ganed Syr Bened c.1430. Yn Thomas (1908–13, ii: 144), dan y flwyddyn 1439, ceir yr enw Benedict ap Grono fel Sinecure Rector yng Nghorwen. Yn ôl Thomas (ibid. 148) a CPR (358), bu farw rywbryd yn 1464 a phenodwyd caplan o’r enw Roger Cheshire i’w olynu fel person yr Eglwys ar 1 Ionawr 1465. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r wybodaeth honno’n cyd-fynd â’r hyn a geir yn yr achresi. Ond gan mor brin yr enw, mae’n annhebygol fod gŵr arall o’r enw Bened yn berson Corwen yn ystod y bymthegfed ganrif, ac mae’r dyddiadau c.1439–65 yn cyd-daro’n agos iawn â’r hyn a ddisgwylid yn achos Syr Bened.

Ceir rhai cyfeiriadau eraill at ŵr neu wŷr o’r enw Bened a allai gyfeirio at Syr Bened: Ceir rhai cyfeiriadau yng nghronfeydd data gwefan SoldierLME (www.medievalsoldier.org) at filwr o’r enw Benedict neu Benet Flyn(t). Yn 1429 aeth Benedict Flynt i ryfela yn Ffrainc dan y capten Henry Fenwick; ar 21 Awst 1431 aeth Benet Flyn fel bwasaethwr troed ac aelod o osgordd bersonol yn y maes dan gapteiniaeth Mathau Goch i warchae Louviers (yn Normandi); ac yn 1439 aeth Benedict Flynt fel gŵr arfog dan gapteiniaeth Syr Thomas Gray a chadlywyddiaeth John Huntingdon, iarll Huntingdon, i wasanaethu mewn byddin sefydlog yn Acquitaine. Y tebyg yw mai’r un gŵr yw Benedict a Bened y cofnodion hyn (cf. y cyfeiriad uchod at Syr Bened fel Benedict ap Grono). Ond gan ei bod yn debygol mai gŵr o Edeirnion oedd Syr Bened, yn hytrach na o sir y Fflint, mae’n annhebygol mai ato ef y cyfeirir yn y cofnodion milwrol hyn, er mor nodedig yw cyfeiriadau Guto a Thudur Penllyn at faintioli corfforol a milwriaeth Syr Bened (43.6n, 30n). Yng nghasgliad Bettisfield (rhif 380) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir dogfen sy’n cofnodi i farchog o’r enw John Hanmer, ar 2 Mehefin 1449, roi manor Halton, ynghyd â thiroedd yn nhreflannau Bronington ym Maelor Saesneg a Gredington ym Maelor Gymraeg, i Benet Come, clerc a rheithor Corwen, ac eraill ym mhresenoldeb tystion. Dylid crybwyll hefyd Benedictus Com(m)e neu T(h)ome, notari cyhoeddus o esgobaeth Llanelwy y ceir ei enw wrth ddogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd ger bron Siôn Trefor, esgob Henffordd, yn y blynyddoedd 1391, 1393 a 1395 (Capes 1914: 52, 67, 70, 102, 285). Os Benedictus Come yn hytrach na Tome oedd gwir enw y gŵr hwn (hawdd oedd cymysgu’r llythrennau c a t), ai Syr Bened ydoedd? Os e, o gofio iddo farw yn 1464, mae’n rhaid ei fod wedi byw i oedran mawr, hyd yn oed os dechreuodd yn ei swydd mor gynnar ag yn ei ugeiniau. Fel arall, dichon mai rhywun o’r enw Benedictus Tome neu ynteu rhyw Benedictus Come arall (er mor anghyffredin yr enw) a ysgrifennodd y dogfennau hyn. Ym mynegai Capes, ystyrir Benedictus Come yr un gŵr â Benedict Corner, Benedict Gomme a Benedict Edine. Fodd bynnag, cysylltir Benedict Corner â bywoliaethau Eastnor, Benedict Gomme â bywoliaethau Eastnor a Stoke Lacy a Benedict Edine â bywoliaeth Colwall, y cwbl yn swydd Henffordd (ibid. 180, 185, 189, 212, 214, 215, 217). Crybwyllir un Iankyn’ ap Sir Benet mewn rhestr o ddisgyblion yn Pen 356 a fu, yn ôl pob tebyg, yn derbyn addysg mewn ysgol Sistersaidd elfennol – a oedd efallai dan adain abaty Dinas Basing – yn y bymthegfed ganrif (Thomson 1982: 78). Ai mab i Syr Bened oedd hwn? Os felly, nis ceir yn yr achresi.

Diau fod Syr Bened yn ŵr da ei fyd. Fel nifer o ddeoniaid gwledig ei gyfnod, derbyniai incwm am fagu defaid a’u gwerthu yn ogystal â chyflog person. Gellir ei gymharu â Syr Siôn Mechain, person Llandrunio, a oedd hefyd yn ŵr eglwysig ac wedi ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid. Nid bychan oedd cyflog person eglwysig yn y cyfnod hwn ychwaith, ac ymddengys fod deoniaid gwledig fel Syr Bened yn llawer hapusach eu byd yn ariannol na chlerigwyr plwyfol (Smith 2001: 289). Ceir cryn dystiolaeth i brofi mai’r eglwys yng Nghorwen oedd yr eglwys gyfoethocaf yn Edeirnion ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r gorffddelw o’r esgob Iorwerth Sulien (c.1340–50) yno i’w gweld o hyd (Smith 2001: 225; cf. eglwys Tywyn, ibid. 264–4, 289). Yng nghanol y bymthegfed ganrif byddai’r eglwys yng Nghorwen yn parhau i fod ar ben ei digon a dichon fod cryn statws i’w pherson. At hynny, deil yr achresi (gw. uchod) fod Syr Bened yn ficer Llanfair yn ogystal â pherson Corwen, er nad yw’n eglur pa Lanfair a olygir.

Llyfryddiaeth
Capes, W.W. (1914) (ed.), The Register of John Trefnant, Bishop of Hereford (A.D. 1389–1404) (Hereford)
Smith, J.B and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St Asaph (Oswestry)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)