Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 15 llawysgrif. Fersiwn sy’n cynnwys 64 llinell a geir ym mhob copi ac eithrio BL 14976 sy’n cynnwys 62 llinell. Ni cheir gwahaniaethau mawr rhwng y testunau a bernir eu bod oll yn tarddu o’r un gynsail yn y pen draw. Dyddiad y copi hynaf yw tua 1570, sef llawysgrif Wy 1 a gopïwyd gan Thomas Wiliems. Ymddengys iddo gamgopïo llinell 10 yn llwyr a darllen breichwyn ni bu wr wychach; mae’r darlleniad brigyn ni bu wr rywiogach yn rhagori o ran ystyr, gw. 10n. Ymddengys iddo wneud camgymeriad gan iddo nodi’r darlleniad ‘cywir’ uwchben y llinell.
Perthyn BL 14978, Pen 104 a Llst 122 i’r un grŵp, sef X1 yn y stema. Dyma dair llawysgrif gyda chysylltiadau â Môn (arwyddocaol, o bosibl, o gofio mai Môn oedd cartref y noddwr, Huw Bwlclai). Ar y cyfan, bychan iawn yw’r amrywiadau a gellir eu hystyried yn wallau copïo (e.e. 14, 33, 53 a 56). Nid oes digon o dystiolaeth, fodd bynnag, i ddangos fod y naill yn gopi o’r llall er mai BL 14978 sydd â’r testun cynharaf o’r gerdd.
Ar sail eu darlleniadau o linellau 5, 17, 38 a 43 awgrymir bod BL 14894 a Brog I.6 yn rhannu’r un ffynhonnell, sef X2 yn y stema, a bod LlGC Mân Adnau 1206D yn gopi o Brog I.6. Ni cheir gwahaniaethau amlwg a gellir gweld mai ymgais i estyn hyd y llinell neu i arbed sillaf yw’r prif reswm dros yr amrywiadau. Ymddengys i gopïydd anhysbys BL 14894 ddilyn ambell i ddarlleniad mwy unigryw yn ei destun ef, gw. 4 a 45. Mae’n debygol ei fod yn dibynnu ar ei gof gan fod ei ddarlleniad o 4 yn debyg iawn i linell mewn cerdd gan Lewys Môn i’r un noddwr.
Ar yr olwg gyntaf, mae’n amlwg fod fersiwn BL 14976 dipyn yn wahanol i’r testunau uchod. Ni cheir y cwpled 39–40 ac mae’r amrywiadau yn fwy niferus, gw. 2, 23, 30, 38, 50, 61 a 64. Fodd bynnag, ‘cywirwyd’ darlleniadau allweddol llinellau 2, 30, 33 a 61, o bosibl gan law ddiweddarach, ac ymddengys fod y darlleniadau gwreiddiol yn agosach at ddarlleniad gweddill y llawysgrifau. Dilynir y ‘cywiriadau’ hynny’n ddeddfol gan gopïydd Pen 152, sy’n dangos ei fod yn copïo o BL 14976, ac mae’n debygol mai BL 14976 yw sail testun GGl. Saif J 137 hefyd ar wahân, ond mae’n cytuno weithiau â darlleniadau BL 14976, yn arbennig yn achos 1, 7, 19, 23, 34 a 61. Cynhwysir y llinellau coll o destun BL 14976 yn J 137, a chan fod J 137 yn hŷn na thestun BL 14976 awgrymir eu bod yn tarddu o’r un ffynhonnell, sef X3, ond i BL 14976 golli’r cwpled.
Trawsysgrifiadau: Wy 1, BL 14978 a J 137.
1 moli’r gwŷdd Sef darlleniad pob llawysgrif ac eithrio X3 moli gwydd. Awgryma’r gynghanedd fod angen cynnwys y fannod yma.
2 merch a chŵn Ceir peth amrywio yn nhrefn y geiriau oherwydd y tebygrwydd rhwng y geiriau merch a meirch. Dilynir X1 ac X2 sy’n darllen merch yma, gthg. meirch yn Wy 1 a BL 14976.
4 Môn a dwy Arfon Unigryw yw’r llinell hon yn BL 14894 sef meinwr chwyrn mon ar ych ol. Mae’n bosibl iawn i’r copïydd gymysgu â llinell o waith Lewys Môn a ganodd i’r un noddwr, gw. GLM I.4 Môn ar eich ôl, meinwr chwyrn.
5 Huw o Ladin Darlleniad X2 yw hy o Ladin ond gellir awgrymu i’r copïydd gamddeall y ffurf fel talfyriad o’r enw priod Huw ac i hynny arwain at y darlleniad llwgr hy.
7 Huw Bwlclai, Walchmai wedd Ymddengys i hyd y llinell achosi problemau i’r copïwyr yma ac i’r amrywiadau canlynol ddigwydd, o bosibl, oherwydd mai chwesill oedd hyd y llinell yn y gynsail (drwy nam, efallai). Camddeallwyd yr ystyr yn X1 sy’n cynnwys y cysylltair yn huw a bwlklai ac yn BL 14894 sef huw ap bwlklai, gthg. Huw Bwlklai yn y gweddill. O ran ail hanner y llinell, ni chefnogir y darlleniad o wedd yn Wy 1 nac vn wedd yn BL 14976 gan weddill y llawysgrifau sydd oll yn darllen walchmai wedd. Cesglir felly mai llinell chwesill oedd hon yn y gynsail.
10 Ceir llinell go wahanol yma gan Wy 1, sef breichwyn ni bv wr wychach. Ond mae’r darlleniad cywir wedi ei nodi uwchben y llinell, a hynny, fe ymddengys, gan yr un llaw.
11 benadurwaed Sef darlleniad Wy 1, X1 a BL 14894. Mae Brog I.6 yn darllen ben awdyrwaed ac X3 yn rhoi benn awdyrwayd (J 137) a bennawdvr waed (BL 14976). Ymddengys fod yr ystyr penadur ‘pennaeth’ a gwaed yn fwy synhwyrol, sef disgrifiad o Huw Bwlclai fel un o waed uchelwr.
14 o’r Biwmares Dilynir X2 ac X3 sy’n darllen or yma, gthg. ir yn Wy 1 ac y yn X1.
16 henieirll, llew o’n Sef darlleniad Wy 1 ac X3, gthg. heiniar lleon yn X1 ac X2.
17 Cwnstabl wyd, cynnwys dy blaid Mae’r llinell hon yn wythsill yn X2 sy’n darllen wyd yn. Cymysglyd yw’r darlleniad sy’n perthyn i X3, sef J 137 wyd yn ond gthg. wyd yn BL 14978 a rhydd X1 hefyd y darlleniad wyd gan hepgor yn. Tybed felly i’r llinell hon fod yn wythsill yn y gynsail?
19 Y sydd o ferch, a’i swydd fu Dilynir darlleniad Wy 1, X1 ac X2 a darllen y sydd. Dyma hefyd ddarlleniad X3, fe ymddengys, a dilynir hynny gan J 137, ond gthg. BL 14976 sy’n darllen sydd o ferch, a’i swydd a fu (sef darlleniad GGl).
20 o’r saith Dilynir darlleniad X2 ac X3 yma sy’n darllen or saith, gthg. o saith yn Wy 1 ac ai saith yn X1. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau yma felly.
23 Ni bu lai clod Bwlclai Hen Dyma ddarlleniad Wy 1, J 137, X1 ac X2 (gyda’r cywiriad nibvlai yn BL 14978 a ni bxfvxlai klod bwcklai od hen yn J 137). BL 14976 yw’r unig gopi felly gyda’r darlleniad nid llai clod hardd Fwcleiod hen (sef yr hyn a geir yn GGl). Profir hefyd mai’r ffurf Bwlclai yn hytrach na Bwclai yw cyfenw’r noddwr yn y gerdd.
25 gwreiddiau y gŵr Ceir darlleniad cymysglyd gan Wy 1: a gwreiddie ry gwr a wyddwn.
30 o doir i’r drin Sef darlleniad Wy 1, J 137, X1 (ac eithrio Llst 122) ac X2. Ceid ambell i amrywiad e.e. doy ir yn X2: ymgais, o bosibl, i geisio ‘gwella’ y gynghanedd. Rhydd BL 14976 ddarlleniad unigryw od dair ir drin (a derbynnir y ‘cywiriad’ yn Pen 152 a GGl).
33 edn Sef darlleniad Wy 1, X2 ac X3. Rhydd X1 y gair dyn ond mae edn ‘aderyn’ yn drosiad cyffredin am y noddwr yn enwedig mewn cywydd gofyn am walch.
37 mae i chwi Nid yw’r gynghanedd yn gywir yn Wy 1 sy’n darllen mae yma i chwi a chywydd, ac mae’r llinell yn rhy hir gan X2.
38 gâr Ymranna’r llawysgrifau: mae Wy 1 a BL 14976 yn darllen gar hael hael a gar hely hydd ac X1 ac X2 yn darllen gar hael a gar hela hydd. At hynny, ceir mân amrywiadau eraill, e.e. mae BL 14894 yn darllen gŵr hael a J 137 yn rhoi’r darlleniad ansicr gar hael haelhael a gar hel hydd. Mae’r gynghanedd o blaid darlleniad Wy 1 a BL 14976 er bod hynny’n ailadrodd hael a gâr o fewn yr un llinell. Yn ychwanegol, unsill yw hely ond efallai i’r copïwyr ei ddiwygio a darllen hela ac, o ganlyniad, fod arnynt angen arbed sillaf yn rhan gyntaf y llinell. Dilynir Wy 1 a BL 14976 yma, felly.
39–40 Ni cheir y cwpled hwn yn BL 14976 (ac nid yw’r llinellau wedi eu cynnwys yn GGl) ond mae’r cwpled ym mhob copi arall. O ran dilyniant, nid yw hepgor y cwpled yn amharu ar yr ystyr gan fod y bardd yn cyfeirio at Rhisiart Cyffin yn y cwpled blaenorol a’r un dilynol. Ond mae’r disgrifiad o’r aderyn fel un â phig cam yn ddigon ystyrlon ac mae’r ffaith fod y llawysgrifau hynaf yn cynnwys y cwpled yn profi fod y cwpled yn y gynsail.
41 dad art a’i dyd Mae’r llinell hon yn rhy fyr ym mhob llawysgrif: yn sgil hynny, ynghyd ag ystyr y cwpled, awgrymir bod angen diwygio’r llinell a chynnwys a’i. Deellir dad art yn ddisgrifiad o Rhisiart Cyffin a dyd yn ffurf trydydd unigol presennol mynegol y ferf ‘dodi’.
43 y gosawg Rhydd X2 y cysylltair a ar ddechrau’r llinell hon.
45 ar fwlch Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio BL 14894 sy’n darllen eurwalch.
50 na chyw Dilynir darlleniad J 137, X1 ac X2; BL 14976 yn unig sy’n darllen na chryr hoew. Ymddengys i Wy 1 gamgopïo yma: rhydd y darlleniad anystyrlon o na chorieirchryr na chyw ryr hwyad.
53 dau bigog Darlleniad Wy 1, X2 ac X3; rhydd X1 ddarlleniad unigryw yma, sef dwy bigod. Ni cheir pigod yn GPC ond efallai ei fod yn amrywiad ar pigoden, gw. GPC 2801 d.g. pigyn1.
56 a’i unllaw Mae BL 14894 ac X3 yn darllen a’i unllaw, gthg. X1 sy’n darllen o’i unllaw a Wy 1 ar vnllaw.
61 canlyn oes Awgryma’r llawysgrifau mai calyn oedd yn y gynsail yma: dyma ddarlleniad X1 ac X2, ond mae’r gynghanedd yn anghywir. Diddorol mai darlleniad gwreiddiol J 137 hefyd oedd calyn ond cafodd ei newid gan law ddiweddarach: kalyn{kai yn ol} a cheir peth dryswch hefyd gan gopïydd BL 14976 kai /n/ xlxxxs ol oes, ymgais, o bosibl, i geisio ‘cywiro’ y llinell. Mae’r ddwy ffurf, calyn a canlyn yn digwydd ym marddoniaeth y cyfnod a chan fod y llawysgrif hynaf, Wy 1, yn darllen canlyn, derbynnir hynny yma.
64 euro Ni chynhwysir y fannod yn y llawysgrifau hynaf, sef Wy 1, J 137 ac X2 a dilynir hynny yma, gthg. X1 a BL 14976 sy’n darllen euro’r.
Cywydd a ganwyd i Huw Bwlclai, dirprwy gwnstabl castell Conwy, ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor, i ofyn am walch yw hwn. Roedd rhoi aderyn, megis hebog neu walch, yn gyffredin iawn rhwng uchelwyr a’i gilydd yn ystod y bymthegfed ganrif, gw. Huws 1998: 54 a Diddordebau Uchelwyr: Hela: Heboca. Geilw Guto yr aderyn yn osawg unwaith ac yn walch deirgwaith ond nid yw’r beirdd yn gyson o gwbl wrth enwi’r adar hyn a rhaid dibynnu ar y disgrifiad i ganfod ai’r gwalch Marthin neu’r hebog tramor a erchir (gw. Williams 2009: 60 a Jenkins 2000: 256–7). Yn ôl Guto, mae’r aderyn i’w weld ar ben tŵr, fel yr hebog tramor (44–5), a gall y pwyslais ar faintioli ewinedd yr aderyn (46, 47) awgrymu mai hebog tramor a ddarlunnir. Medd Oggins (2004: 11) am ddull yr hebog o ladd: ‘a falcon’s foot is more like a fist to deliver a terrible blow, the short-wing’s feet are like great ice-tongs with semicircular claws nearly an inch long.’ Gellir ystyried hefyd mai mewn ardal heb lawer o goed ynddi y byddai’r hebog tramor yn hoff o gynefino, tebyg iawn i Ynys Môn yn y cyfnod hwn lle’r oedd cartref Huw Bwlclai (hoffwn ddiolch i A.H. Williams am ei sylwadau wrth geisio canfod y math o aderyn a erchir yn y cywydd hwn). Ond mae disgrifiad Guto, ar y cyfan, yn un hynod o fyr, a phrif nod y cywydd yw canmol milwriaeth a gallu rhyfelgar Huw Bwlclai (am ddisgrifiadau gan feirdd eraill sy’n gofyn am weilch, gw. 39n, 49n a 56n).
Canolbwyntir yn y rhan gyntaf ar allu milwrol Huw Bwlclai, ei achau a’i gysylltiadau teuluol pwysig. Yn ôl Guto, roedd gan Huw luoedd o filwyr yn ei ddilyn, o Fôn a dwy Arfon. Datgelir ei statws uchel o linell 17 ymlaen wrth iddo nodi mai Huw yw dirprwy gwnstabl castell Conwy. Molir ei achau hefyd, yn gyntaf ar ochr ei dad ac yna ar ochr ei fam, gan nodi’r cysylltiad ag Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn (ewythr i Huw ac un o noddwyr Guto, gw. cerddi 56 a 57 a’r nodyn ar Wiliam Fychan ap Gwilym). Hanai teulu Huw o barwniaid (15) a henieirll (16), fel y dywed y bardd, sy’n ei wneud ef yn brigyn (10) o fôn derwen ac iddi sail gadarn iawn o ran statws a chyfoeth. Cloir y rhan hon trwy ganmol ei ddewrder wrth ryfela, boed hynny ar farch neu ar droed, ar dir neu ar fôr. Digon cyffredin ym marddoniaeth y cyfnod yw trosi’r noddwr yn wahanol adar: caiff Huw yma ei alw’n edn tiriawn (33) ac yn griffwnd (34), rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn y rhan nesaf.
Cyflwynir Rhisiart Cyffin ar ddechrau’r rhan nesaf (37–42). Mae’n perthyn i Huw trwy waed, mae’n debyg, gan y gelwir ef yn gâr iddo. Wedyn canolbwyntir ar y gwalch. Ei grafangau anferth a ddisgrifir yn gyntaf, crafangau a all hela pob math o adar: aderyn y bwn, gwyddau, y crëyr a chyw yr hwyaden. Â’r bardd rhagddo i ddyfalu’r aderyn a rhoi nodweddion dynol iddo: mae’n ddewr, mae ganddo law ac ewinedd ac fe’i cymherir i grafanc rhyfelwr. Yn wir, cymherir Huw â’r aderyn: mae’r ddau yn deg ac yn dirion, yn fawr o ran maint ac yn ddewr. Mae hyd yn oed eu dull o ladd ac ymosod yn debyg yn ôl y bardd (51–4). Yr hyn a gaiff Huw yn gyfnewid am y rhodd yw’r pwynt nesaf: byddai’n derbyn clod uchel iawn ac am gyfnod hir pe bai’n cyflwyno’r gwalch yn rhodd i Risiart, yn ôl y bardd. Y clod mwyaf, fe ymddengys, fyddai derbyn yr un statws â Wiliam Bwlclai, a oedd yn deilwng o fod yn farchog.
Dyddiad
Gellir dyddio’r gerdd i’r cyfnod y bu Huw Bwlclai yn ddirprwy gwnstabl castell Conwy, sef o tua 1482 hyd at o leiaf 1490.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XCVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 77% (49 llinell), traws 9% (6 llinell), sain 14% (9 llinell).
1 gwŷdd Ceir sawl ystyr i gwŷdd yn GPC 1753: gall olygu coed, llinach neu waywffyn. Oherwydd y cyfeiriadau eraill at goed a hela yma, cymerir mai coed, hynny yw y goedwig neu’r fforest lle helid gyda gweilch a hebogau, a olygir yma.
2 cynydd Sef heliwr neu geidwad y cŵn, gw. GPC 803 d.g. cynydd. Ef a ganai’r corn hela, cf. 99.45–6 O bydd cynydd a’i cano / Organ fawr i gŵn yw fo. Ymhellach, gw. Diddordebau Uchelwyr: Hela: Helgwn.
3 Meistr Huw Huw Bwlclai, mab i Wiliam Bwlclai. Gall meistr olygu person ifanc. Roedd meistr hefyd yn derm am noddwr secwlar, cf. 41 lle mae’r bardd yn galw Rhisiart Cyffin hefyd yn feistr (eglwysig).
3 mwstrio heol Benthyciad o’r Saesneg muster yw mwstrio, gw. GPC 2514 d.g. mwstrio ‘cynnull (milwyr), i’w harolygu neu i’w trefnu i’r frwydr’. Gall mwstrio heol gyfeirio’n syml at allu Huw Bwlclai i drefnu milwyr i frwydro ar yr heolydd. Neu, yn fwy penodol, gall heol fod yn gyfeiriad at glos neu gwrt: cwrt castell Conwy, o bosibl, lle roedd Huw yn ddirprwy gwnstabl.
4 Môn a dwy Arfon Sef Môn a chantref Arfon gan fod Arfon yn ymrannu’n ddau gwmwd, sef Is Gwyrfai ac Uwch Gwyrfai, gw. WATU 7. Roedd tad Huw yn ddirprwy gwnstabl castell Biwmares ac yn meddu ar diroedd helaeth ym Môn. Roedd ei fam yn ferch i Wilym ap Gruffudd o’r Penrhyn, teulu â thiroedd yn y ddwy sir, cf. 57.53 Tir Arfon, tir Môn, tai’r medd (i Wiliam Gruffudd o’r Penrhyn).
5 Hywel Ymddengys fod yr enwau Hywel a Huw yn cael eu harfer am yr un dyn, cf. TA XXXVIII.71–2 a GHD cerdd 3.
7 Huw Bwlclai Ymddengys i Huw Bwlclai ddilyn ei dad gan ddefnyddio’r enw Bwlclai fel cyfenw. Cafwyd sawl amrywiad o ran sillafu’r enw yn y bymthegfed ganrif a mabwysiedir y ffurf hon ar sail tystiolaeth y llawysgrifau, ymhellach gw. 23n (testunol).
7 Gwalchmai Sef Gwalchmai fab Gwyar, un o farchogion y brenin Arthur, gw. TYP3 367–71 a WCD 303–5.
8 Gwynedd Nodir cyswllt Huw â Gwynedd yma ac yn 13. Nid yw’n syndod fod Guto eisiau pwysleisio llinach frodorol ei fam a hanai o Wynedd.
11 penadurwaed Sef cyfuniad o penadur ‘rheolwr, pennaeth, arglwydd, uchelwr’ a gwaed, gw. GPC 2729–30. Un o waed uchelwyr, felly.
12 Stanlai Ail wraig Gwilym ap Gruffudd o’r Penrhyn oedd Jonet, neu Sioned, merch Syr William Stanley o Hooton, yn swydd Gaer. Roedd Elen, mam Huw, yn ferch iddynt, gw. Bowen 2002: 60 a Huw Bwlclai.
12 nos daed Amrywiad ar y cyfarchiad nos da neu noswaith dda.
14 Biwmares Hanai’r Bwlcleiaid o Cheadle yn swydd Gaer yn wreiddiol, gan ymgartrefu ym Miwmares tua 1452–3 pan ddaeth Wiliam Bwlclai yn ddirprwy gwnstabl castell Biwmares. Enw eu cartref ym Miwmares oedd yr Hen-blas (gw. Edwards 1937: clviii–clxii). Roedd yn dŷ neuadd sylweddol a adeiladwyd, fe ymddengys, yn chwarter olaf y bymthegfed ganrif ac mae peth o’r olion i’w gweld hyd heddiw. Symudodd y teulu i’r plasty enwog o’r enw Baron Hill yn yr ail ganrif ar bymtheg ac aeth yr Hen-blas yn adfail.
16 llew Trosiad i bwysleisio dewrder y noddwr yw llew yma ac yn 22 isod (yn hytrach na chyfeiriad herodrol).
17–18 cwnstabl / Caer Gonwy Gelwir Huw Bwlclai yn gwnstabl yma, ond fe ymddengys mai dirprwy gwnstabl ydoedd. Roedd Huw wedi ei benodi’n ddirprwy gwnstabl castell Conwy erbyn 1482, gw. Huw Bwlclai a Jones 1961: 5.
23 Bwlclai Hen Sef tad Huw, Wiliam Bwlclai Hen, cf. GLM 1.15 Wiliam hen.
24 Urien Sef Urien Rheged, brenin yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif.
28 d’ewythr Wiliam Ewythr Huw Bwlclai ar ochr ei fam oedd Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn. Roedd yn is-siambrlen Gwynedd o 1457 i 1463 a bu farw ychydig cyn mis Medi yn 1483.
29 alarch elin Trosiad am y march yw alarch elin yma. Mae cymharu march i alarch yn ddelwedd gyffredin gan y Cywyddwyr a’r ergyd yma yw bod osgo pen yr anifail yn y ffrwyn wrth ei dynnu’n ôl fel siâp alarch.
34 griffwnd Sef anifail chwedlonol, benthyciad o’r Saesneg Canol griffun, gw. OED Online s.v. griffin. Fel arfer roedd ganddo ben, gylfin, adenydd a chrafangau eryr, ond corff llew. Mae’n drosiad cymharol gyffredin am ‘ymladdwr grymus’, gw. DN 159–61 a cf. GSC 35.3n.
35 awdurfin Cyfuniad o awdur, sef ‘creawdwr, lluniwr; noddwr, arweinydd’, a min ‘gwefus, ceg’; cyfeirir at awdurdod lleisiol ei noddwr yn sgil ei swydd fel dirprwy gwnstabl.
38 câr Ymddengys fod Rhisiart Cyffin yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd ap Robin o Gochwillan. Roedd Elen, mam Huw, yn nith i Robin, gw. Huw Bwlclai. Mae’n debygol, felly, fod câr yma yn golygu perthynas trwy waed.
39 pig cam Disgrifiad cyffredin o’r aderyn yn y cywyddau gofyn am weilch, cf. cywydd gofyn gosog i Huw Lewis o Brysaeddfed gan Ieuan Deulwyn, gw. ID 40 Ei big cam fel bwa y’i cair, / Ac ewinedd fel genwair.
40 ffawcner Nis ceir yn GPC. Ymddengys ei fod yn fenthyciad o’r Saesneg ‘falconer’, sef un sy’n hela gyda gweilch neu un sy’n ymwneud â hebogyddiaeth, gw. OED Online s.v. falconer. Mae’n bosibl fod hyn yn cadarnhau mai hebog tramor a ddisgrifir yma.
40 Ffecnam Ymddengys mai enw lle yn Lloegr a feddylir yma, sef Feckenham yn swydd Gaerwrangon lle roedd coedwig enwog yn ystod yr Oesoedd Canol, gw. British History Online.
41–2 Meistr Risiart … / Cyffin Rhisiart Cyffin, deon Bangor (gw. 55n) o bosibl mor gynnar â 1474, a hyd at 1492. Yn ogystal â’r gerdd hon cadwyd pedair cerdd arall iddo o waith Guto, sef cerddi 58, 59, 61 a 108, oll yn gerddi gofyn neu ddiolch. Canodd beirdd eraill gerddi dychan iddo hefyd.
41 tad art Disgrifiad o Risiart Cyffin fel un a oedd yn awdurdod ar ddysg yr ysgolion neu, yn fwy penodol, y saith gelfyddyd freiniol a ddysgid yn ysgolion yr Oesoedd Canol, gw. GPC 211. At hynny, caiff ei alw’n Meistr Rhisiart yma hefyd, sy’n ategu’r awgrym ei fod yn ŵr dysgedig (cf. 58.5, 59.3, 24, 61.11).
41 dyd Trydydd unigol presennol mynegol ‘dodi’, sef ‘datgan’ neu ‘roi allan’, fe ymddengys, gw. GPC 1069 d.g. dodaf.
43 gosawg Benthyciad o’r Saesneg, gw. OED Online s.v. goshawk. Dyma un o’r enwau a ddefnyddia’r bardd yn y cywydd hwn am yr aderyn; caiff ei alw hefyd yn walch (39, 45 a 57). Y gwahaniaeth mwyaf rhwng y ddau yw bod gan y gosawg adenydd byrion a’r gwalch adenydd main a hir. Dengys Williams 2009: 65 nad oedd y beirdd yn gyson o hyd ynglŷn â’r amrywiol enwau ar yr adar hyn gan ei gwneud yn anodd i ni wahaniaethu rhyngddynt.
44 perc Benthyciad o’r Saesneg perch yn ôl GPC 2768, sef ‘clwyd adar, esgynbren, cawell’, cf. DG.net 44.57 Mawr yw’r secl yt a berclwyd (am yr ehedydd). Byddai disgwyl i gastell fel castell Conwy feddu ar yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘mews’, sef stablau arbennig i’r adar ysglyfaethus. Oddi mewn i’r stablau hyn yn aml roedd perciaid (perches) i’r adar, sef math o glwydi i’r adar orffwyso arnynt (Oggins 2004: 22).
45 bwlch tŵr Er ei bod hi’n bosibl fod y bardd yn chwarae gyda’r ymadrodd Saesneg ‘hawk of the tower’, sef math o hediad a wneir wrth hela, gw. OED Online s.v. tower, n.1 a Cummins 1988: 187–8, mwy tebygol yw bod y bardd yn cyfeirio at un o dyrau’r castell yma.
46 maneg Gwisgid maneg drwchus ar un llaw wrth heboga i atal crafangau’r aderyn rhag brifo’r llaw. Yn ôl cyfraith Hywel Dda byddai’r hebogydd yn derbyn croen yr hydd yn yr hydref a chroen yr ewig yn y gwanwyn i wneud maneg, gw. Jenkins 2000: 267–8.
48 gwaed i’r gwellt Topos a gysylltir yn bennaf â’r byd rhyfelgar gan y Cynfeirdd a’r Gogynfeirdd, gw. e.e. CLlH XI.52 Ar wyneb y gwellt y gwaet (Canu Heledd) a GMB 11.39 nid heb waed ar wellt (Gwalchmai ap Meilyr). Defnyddia’r bardd ddelweddau arwrol wrth ddisgrifio’r aderyn, gw. 51–4n.
49–50 y bwn neu ŵydd … / … crŷr, na chyw yr hwyad Dyma’r adar gwylltion y mae’r gwalch yn eu hela er mwyn i’r hebogydd eu bwyta, cf. GOLlM 44.22, 33–4, 39–40, 55–6 a GLl 24.44–9.
51–4 Yma mae’r bardd yn cymharu pig a llaw neu grafanc y gwalch i law rhyfelwr. Mae’n bosibl mai siâp maneg milwr a feddylir yma gan y byddai maneg felly’n crymu ychydig fel pig ac fel ewinedd yr aderyn. Digon cyffredin oedd delweddu’r aderyn fel arfwisg, cf. GOLlM 2.51–2 Tritho dur yn ei lurig; / trwyn cam yn trywanu cig. Ond dichon mai prif nod y gymhariaeth (a estynnir yn y cwpled nesaf) yw tebygrwydd yr aderyn i law rhyfelwr pan fo’r naill yn lladd mewn helfa a’r llall mewn brwydr. Hynny yw, mae dwrn Huw, sef ei arf wrth iddo ryfela, yn debyg i big a chrafanc yr aderyn, sef arfau’r gwalch pan fo’n lladd adar gwylltion.
52 gŵr o ryfel Delweddir yr aderyn fel rhyfelwr yma sy’n ddelwedd gyffredin iawn yn y cywyddau gofyn am weilch, cf. GLl 24.22 Marchog yw mawr uwch y gwynt.
54 dwrn Huw Gw. 51–4n.
55 deon Sef Rhisiart Cyffin a oedd yn ddeon Bangor o c.1472 i 1492.
56 Oedd grynllwyth gŵr a’i unllaw Cynrychioli pwysau a maint mawr yr aderyn a wneir gyda crynllwyth, cf. ID 41 os gossawg heb ysgyssaw / a gaf yn llwyth ar gefn llaw; TA CXIV.76 …llwyth fy llaw.
59 coed y Glyn Mae’n bosibl iawn fod y bardd yn cyfeirio at goedwig neu barc penodol yma, un cyfagos i’r fan lle datganwyd y cywydd. Ond gan ei fod yn enw mor gyffredin, nid yw’n hawdd gwybod yn union pa un sy’n arwyddocaol i’r noddwyr neu i’r bardd.
62 clod deuwr Er y gall hwn fod yn gyfeiriad cyffredinol, mae’n bosibl fod y bardd yn sôn o hyd am ddau ŵr arbennig sydd eisoes wedi eu crybwyll yn y cywydd, sef Wiliam ap Gwilym, ewythr Huw Bwlclai (gw. 28n) a Wiliam Bwlclai, ei dad.
63–4 gair Wiliam Bwlclai … / euro Bwlclai arall Mynegir dymuniad yma i weld Huw Bwlclai yn cael ei urddo’n farchog. Rhydd arall yr argraff yma bod Wiliam ei dad wedi derbyn yr anrhydedd hwnnw, ond ni cheir unrhyw dystiolaeth fod yr un o Fwlcleiaid y bymthegfed ganrif a oedd yn byw yng Nghymru wedi ei urddo’n farchog. Er enghraifft, pan enwir ef yn 1488–9 (sef blwyddyn cyn ei farwolaeth) yn CPR (Edward IV, 121), nodir ei enw fel ‘William de Bulkeley senior’, heb roi statws marchog iddo.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (2002), ‘Y Canu i Gwilym ap Gruffudd (m. 1431) o’r Penrhyn a’i fab Gwilym Fychan (m. 1483)’, Dwned, 8: 59–78
Cummins, J. (1988), The Hound and the Hawk: The Art of Medieval Hunting (London)
Edwards, J.G. (1937), An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey (London)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Jenkins, D. (2000), ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, T.M. Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Jones, D.C. (1961), ‘The Bulkeleys of Beaumaris, 1440–1547’, AAST: 1–20
Oggins, R.S. (2004), The Kings and their Hawks, Falconry in Medieval England (Yale)
Williams, A.H. (2009), ‘Y Cywyddwyr a’r Gweilch’, Dwned, 15: 67–92
This is a cywydd for Huw Bulkeley, the deputy constable of Conwy castle, requesting a hawk on behalf of Rhisiart Cyffin, dean of Bangor. The gift of a hawk or a falcon was a familiar gift among the gentry during the fifteenth century, see Huws 1998: 54 and Noblemen’s Interests: Hunting: Falconry. Guto calls the bird a gosawg once and a gwalch three times, but the poets are very inconsistent in naming these birds and it is necessary to rely on their descriptions to distinguish between a goshawk (Accipiter gentilis) and a peregrine falcon (Falco peregrinus) (see Williams 2009: 60 and Jenkins 2000: 256–7). According to Guto the bird is seen on top of a tower, as expected with the peregrine falcon (44–55), and the emphasis on the size of its claws (46–7) also suggests that it is a falcon. Oggins (2004: 11) describes how the falcon kills other birds: ‘a falcon’s foot is more like a fist to deliver a terrible blow, the short-wing’s feet are like great ice-tongs with semicircular claws nearly an inch long.’ Furthermore, the peregrine falcon is most likely to inhabit an area lacking trees, an area similar to Anglesey in this period, the home of Huw Bulkeley (I would like to thank A.H. Williams for his comments while trying to uncover the type of bird in question in this poem). However, in general, Guto’s description of the bird is very short and the main focus is on Huw Bulkeley’s skills as a military hero (for similar descriptions by other poets in poems to request a hawk or a falcon, see 39n, 49n and 56n).
The focus of the first section is on Huw Bulkeley’s skills as a solider, his lineage and his important family connections. According to Guto, Huw has an army of soldiers under him, from Môn (‘Anglesey’) and from dwy Arfon (‘the two parts of Arfon’). His high position is revealed from line 17 onwards when Guto notes that Huw is the deputy constable of Conwy castle. His lineage is also praised, first on his father’s side and then on his mother’s side, noting the connection with Wiliam Fychan ap Gwilym of Penrhyn (Huw’s uncle and one of Guto’s patrons, see poems 56 and 57 and Wiliam Fychan ap Gwilym). Huw’s stock derives from ‘barons’ and ‘old earls’, which makes him a ‘branch’ from the trunk of an oak, with a solid foundation in terms of status and wealth. Lastly, Guto gives praise to Huw’s bravery and military ability, be it on horse or on foot, on land or on water. A common metaphor is to portray the patron as a bird: he is a ‘gentle bird’ (33) and a ‘griffin’, a foretaste of what will come in the next section.
Guto addresses Rhisiart Cyffin in the next section (37–42), who is, presumably, a blood relative of Huw Bulkeley (câr; see 38n), before concentrating on the hawk. The first description is of its huge claws, claws that could hunt all sorts of wild birds: a bittern, a goose, a heron, a chick and a duck. He goes on to endow the bird with human features: the hawk is brave, with hands and nails as big as a soldier’s ‘claw’. Indeed, Guto seems to compare the bird’s qualities with those of Huw Bulkeley: each is praised for their fairness, gentleness and bravery. Even their method of killing is similar according to the poet (51–4). Guto’s promise to Huw Bulkeley – if he will give the hawk to Rhisiart – is everlasting fame. Of course, the greatest fame of all, as Guto notes, would be to receive the same fame as Huw’s father, Wiliam Bulkeley, who was worthy of being knighted.
Date
This poem can be dated to the period when Huw Bulkeley was the deputy constable of Conwy castle from around 1482 until at least 1490.
The manuscripts
This poem occurs in 15 manuscripts. The earliest copy appears in Wy 1 by Thomas Wiliems which seems to be a good copy of the poem and possibly the closest one to the earliest version of the poem. BL 14978, Pen 104 and Llst 122 are manuscripts which have connections with Anglesey and are very similar to each other. The connection with Anglesey could be significant as Beaumaris in Anglesey was the home of the patron. However, there are some transcribing errors which have unfortunately affected some of the readings. BL 14894 and Brog I.6 seem to derive from the same source. There are no clear variations in comparison to the other copies, but in BL 14894 there are some readings which might have been influenced by a copyist who depended on his memory. BL 14976 is very different to the manuscripts already mentioned. Lines 39–40 are lost and there are much more variant readings, presumably added by a later hand. However, on closer inspection, the original readings behind these later ‘corrections’ appear to be in agreement with the other copies. J 137 also derives from the same source but seems to be a better copy than BL 14976 (there are no lost lines).
Previous edition
GGl poem XCVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 77% (49 lines), traws 9% (6 lines), sain 14 % (9 lines).
1 gwŷdd There are several meanings to gwŷdd in GPC 1753: ‘wood’, ‘lineage’ or ‘spears’. In regards to the other references to trees and hunting at the beginning of this poem, ‘wood’ or ‘trees’ is the most likely meaning.
2 cynydd A huntsman, see GPC 803 s.v. cynydd, and one who blows the hunting horn, cf. 99.45–6 O bydd cynydd a’i cano / Organ fawr i gŵn yw fo ‘If a huntsman should blow it / he’s the dogs’ great organ’; see also Noblemen’s Interests: Hunting: Hounds.
3 Meistr Huw Huw Bulkeley, son of Wiliam Bulkeley. The title meistr ‘master’ could mean a young lad. Meistr was also a term for a secular patron, cf. 41 where the poet calls Rhisiart Cyffin a meistr for other reasons.
3 mwstrio heol A borrowing from the English muster, see GPC 2514 s.v. mwstrio and OED Online s.v. muster, n.1, ‘An act of calling together soldiers, sailors, prisoners.’ The phrase mwstrio heol ‘mustering soldiers on the road’ could simply mean that Huw Bulkeley was able to gather men or soldiers to fight on the roads. More specifically, the poet could be referring to a close or a court, quite possibly the court of Conwy castle where Huw was a deputy constable.
4 Môn a dwy Arfon Anglesey and the two commotes of Arfon, Is Gwyrfai and Uwch Gwyrfai, see WATU 7. Wiliam Bulkeley was the deputy constable of Beaumaris castle and owned many lands in Anglesey. Huw Bulkeley’s mother was also a daughter of a wealthy landowner: Gwilym ap Gruffudd of Penrhyn, a family with lands in the two shires, cf. 57.53 Tir Arfon, tir Môn, tai’r medd ‘land of Arfon, land of Anglesey, the mead houses’ (to Wiliam Gruffudd of Penrhyn).
5 Hywel ‘Hywel’ and ‘Huw’ seem to be used interchangeably, cf. TA XXXVIII.71–2 and GHD poem 3.
7 Huw Bwlclai It is probable that Huw Bulkeley copied his father in using ‘Bulkeley’ as a surname. There are many different spellings of the name in the fifteenth century; this form is adopted here on the evidence of the manuscripts.
7 Gwalchmai Gwalchmai son of Gwyar, one of King Arthur’s knights, see TYP3 367–71 and WCD 303–5.
8 Gwynedd Huw’s connection with Gwynedd is noted here and below (13). Unsurprisingly, Guto wants to highlight the lineage of Huw’s mother who was a descendant of a native family of Gwynedd.
11 penadurwaed For penadur ‘ruler, chief, lord, nobleman’, see GPC 2729–30. One of noble blood.
12 Stanlai The second wife of Gwilym ap Gruffudd of Penrhyn was Jonet, or Sioned, daughter of Sir William Stanley of Hooton, Cheshire. Elen, Huw’s mother, was their daughter, see Bowen 2002: 60 and Huw Bulkeley.
12 nos daed A variant on the greeting nos da ‘good night’ or noswaith dda‘good evening’.
14 Biwmares The Bulkeleys originally came from Cheadle in Cheshire and settled in Beaumaris in about 1452–3 when Wiliam Bulkeley became the deputy constable of Beaumaris castle. Their home at Beaumaris was a house called Hen-blas (see Edwards 1937: clviii–clxii). It was a grand hall-house built in the second quarter of the fifteenth century and some of its remains are still visible today. In the seventeenth century, the Bulkeleys moved to the famous manor house, Baron Hill, and Hen-blas became a derelict.
16 llew The metaphor llew ‘lion’ is used here and in line 22 to emphasize the patron’s bravery (rather than being a heraldic reference).
17–18 cwnstabl / Caer Gonwy Huw Bulkeley is called a ‘constable’ here, although he was actually only a deputy constable. By 1482, Huw was appointed the deputy constable of Conwy castle, see Huw Bulkeley and Jones 1961: 5.
23 Bwlclai Hen The father of Huw was Wiliam Bulkeley Hen or ‘Senior’, cf. GLM 1.15 Wiliam hen ‘old Bulkeley’.
24 Urien Urien Rheged, a king in the Old North in the sixth century.
28 d’ewythr Wiliam Huw Bulkeley’s uncle on his mother’s side was Wiliam Fychan ap Gwilym of Penrhyn. He was the sub-chamberlain of Gwynedd from 1457 to 1463 and he died a couple of months before September in 1483.
29 alarch elin A metaphor for the horse. Comparing a horse to a swan is a frequent image by the Cywyddwyr. Here the poet compares the shape of the horse with its head held back by the bridle to the shape of a swan.
34 griffwnd A borrowing from the Middle English griffun, see OED Online s.v. griffin ‘A fabulous animal usually represented as having the head and wings of an eagle and the body and hind quarters of a lion’. In Welsh poetry it is a familiar metaphor for a strong fighter, see DN 159–61 and cf. GSC 35.3n.
35 awdurfin A combination of awdur ‘creator, maker; patron, leader’ and min ‘lips, mouth’. Guto refers to the authoritative voice of his patron (being a deputy constable).
38 câr It is possible that Rhisiart Cyffin was a cousin of Wiliam ap Gruffudd ap Robin of Cochwillan. Elen, Huw’s mother, was Robin’s niece, see Huw Bulkeley. It is likely, therefore, that câr here could mean a blood relative.
39 pig cam Poets requesting a hawk often describe the crooked beak, cf. the poem to request a goshawk for Huw Lewis of Prysaeddfed by Ieuan Deulwyn, ID 40 Ei big cam fel bwa y’i cair, / Ac ewinedd fel genwair ‘His crooked beak is like a bow, / and his claws are like a fishing-rod.’
40 ffawcner Presumably, this is borrowed from the English ‘falconer’, see OED Online s.v. falconer ‘one who hunts with falcons, one who follows hawking as a sport’. This could suggest that the bird being described in this poem is a peregrine falcon.
40 Ffecnam A place name called Feckenham in the county of Worcester where there was once a famous forest in the Middle Ages, see British History Online.
41–2 Meistr Risiart … / Cyffin Rhisiart Cyffin, dean of Bangor (see 55n), possibly as early as 1474 and until 1492, he died on 13 August 1502. Guto composed four other poems to him: poems 58, 59, 61 and 108, which are all request poems or poems of thanks.
41 tad art A description of Rhisiart Cyffin as a tad ‘father’ of art, one who had learned the seven subjects forming the trivium (grammar, logic and rhetoric) and the more advanced quadrivium (arithmetic, geometry, music and astronomy) in the Middle Ages, see OED Online s.v. art n.1 and GPC 211. He is also called mastr Rhisiart, another indication that he was well educated (cf. 58.5, 59.3, 24, 61.11).
43 gosawg Borrowed from the English, see OED Online s.v. goshawk ‘a large short-winged hawk’. This is one of the names that the poet uses in this poem for the bird; it is also called a gwalch (39, 45 and 57). The main difference between the two species are the short wings of the goshawk and the long, narrow wings of the falcon. In his article, Williams (2009: 65) demonstrates how the poets are very inconsistent in naming the two birds, which makes it very difficult to distinguish between them.
44 perc See OED Online s.v. perch ‘a horizontal bar provided as a resting place for a hawk, domestic fowl, or tame bird’, cf. DG.net 44.57 (‘The Skylark’) Mawr yw’r secl yt a berclwyd ‘The firmament is your great perch.’ Presumably, Conwy castle would have had special stables called ‘mews’ for birds of prey and inside these there would have been perches for the birds to rest (Oggins 2004: 22).
45 bwlch tŵr Although this may be a play on the English term ‘hawk of the tower’, namely a kind of flight the bird would make when hunting, see OED Online s.v. tower, n.1 and Cummins 1988: 187–8, it is more likely that Guto is referring to one of the castle’s towers here.
46 maneg In falconry a thick glove is worn on one hand to stop the bird’s claws from hurting it. According to the laws of Hywel Dda, the falconer would receive the hide of a stag in the autumn and the hide of a hart in the spring from which to make gloves, see Jenkins 2000: 267–8.
48 gwaed i’r gwellt A topos which is usually associated with fighting in the works of the Cynfeirdd and Gogynfeirdd, see e.g. CLlH XI.52 and GMB 11.39. The poet deliberately uses heroic images to describe the bird, see 51–4n.
49 y bwn neu ŵydd … /… crŷr, na chyw yr hwyad Guto lists wild birds hunted by the hawk, cf. GOLlM 44.22, 33–4, 39–40, 55–6 and GLl 24.44–9.
51–4 Here the poet compares the beak and the claw of the hawk to the hand of a soldier. It is possible that this comparison was inspired by the shape of a soldier’s glove (the gauntlet) which was curved like a beak or claw. A very familiar image was to compare the bird with armour, cf. GOLlM 2.51–2. However, the main point of the comparison here (which is extended in the next couplet) is the similarity between the hawk’s method of killing while hunting and the soldier’s method of killing in battle. That is, Huw’s fist (or weapon) is similar to the weapons used by the hawk when killing wild birds, i.e. the beak and the claw.
52 gŵr o ryfel There are numerous images of falcons and hawks as warriors or fighters in poems to request and to give thanks for birds, cf. GLl 24.22 Marchog yw mawr uwch y gwynt ‘he is a great knight above the wind’.
54 dwrn Huw See 51–4n.
55 deon Rhisiart Cyffin was the dean of Bangor from c.1472 to 1492.
56 Oedd grynllwyth gŵr a’i unllaw The weight and size of the bird is represented by the word crynllwyth, cf. ID 41 yn llwyth ar gefn llaw ‘a load on the back of my hand’; TA CXIV.76 llwyth fy llaw ‘load on my hand’.
59 coed y Glyn It is quite possible that the poet is referring to a nearby forest or park here, or somewhere significant to either Rhisiart Cyffin, Huw Bulkeley or even the poet himself. However, being such a common name it is impossible to suggest a location.
62 clod deuwr This is most likely a general reference, although the poet could still be thinking of two special men that he has already mentioned, Wiliam ap Gwilym, Huw Bulkeley’s uncle (see 28n), and Wiliam Bulkeley, his father.
63–4 gair Wiliam Bwlclai … / euro Bwlclai arall The poet expresses the common wish to see his patron, Huw Bwlclai, knighted. The adjective arall ‘other’ seems to suggest that his father had received that honour, but there is no evidence that any of the Welsh Bulkeleys had been knighted in the fifteenth century. For example, when Wiliam Bulkeley is named in 1488–9 (the year before his death) in CPR (Edward IV, 121) he is referred to as ‘William de Bulkeley senior’, without giving him the status of a knight.
Bibliography
Bowen, D.J. (2002), ‘Y Canu i Gwilym ap Gruffudd (m. 1431) o’r Penrhyn a’i fab Gwilym Fychan (m. 1483)’, Dwned, 8: 59–78
Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Cummins, J. (1988), The Hound and the Hawk: The Art of Medieval Hunting (London)
Edwards, J.G. (1937), An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey (London)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Jenkins, D. (2000), ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, T.M. Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Jones, D.C. (1961), ‘The Bulkeleys of Beaumaris, 1440–1547’, AAST: 1–20
Oggins, R.S. (2004), The Kings and their Hawks, Falconry in Medieval England (Yale)
Williams, A.H. (2009), ‘Y Cywyddwyr a’r Gweilch’, Dwned, 15: 67–92
Canodd Guto gywydd gofyn am walch i Huw Bwlclai ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 60). Canwyd yr unig gerdd arall iddo gan Lewys Môn, sef cerdd fawl (GLM cerdd I). Canwyd y ddwy gerdd pan oedd Huw yn ddirprwy gwnstabl castell Conwy.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bulckley’ 2, ‘Marchudd’ 6, WG2 ‘Iarddur’ 5D, E; L. Dwnn: HV ii: 91–2. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Drwy ei fam, Elen ferch Gwilym o’r Penrhyn, roedd Huw’n perthyn i nifer fawr o noddwyr Guto yng Ngwynedd. Roedd yn nai i Wiliam Fychan o’r Penrhyn ac i Robert Trefor o’r Waun, ac yn gyfyrder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac i Risiart Cyffin, deon Bangor. At hynny, drwy briodas ei chwaer, Sioned, roedd yn frawd yng nghyfraith i Huw Lewys o Brysaeddfed. Nid yw enw ei wraig yn hysbys.
Ei yrfa
Roedd Huw Bwlclai’n byw ym Miwmares ym Môn, ond hanai’r teulu a’r cyfenw o Cheadle yn swydd Gaer (60.14n). Ymgartrefodd y teulu ar yr ynys oddeutu 1452–3 pan benodwyd tad Huw, Wiliam Bwlclai, yn ddirprwy gwnstabl castell Biwmares (Carr 1982: 218; ByCy 51–2). Priododd Wiliam Elen ferch Gwilym o’r Penrhyn, yr uchelwr mwyaf grymus yn ei ddydd yng Ngwynedd, a bu’r uniad yn allweddol o ran sefydlu awdurdod teulu’r Bwlcleiod yng Nghymru (Jones 1961: 3).
Goroesodd rhywfaint o wybodaeth am feibion Wiliam ac Elen, sef Rhisiart, Roland a Huw. Penodwyd Rhisiart yn archddiacon Môn tua’r flwyddyn 1500 a daliodd y swydd honno hyd ei farwolaeth yn 1525, a phenodwyd Roland (fl. c.1460 hyd at 10 Gorffennaf 1537) yn gwnstabl castell Biwmares ar 4 Gorffennaf 1502 (Breese and Wynne 1873: 122). Cyfeiria Guto a Lewys Môn at Huw Bwlclai fel dirprwy gwnstabl castell Conwy (60.17; GLM I.45–6). Yn wahanol i Harlech, cadwodd y Goron reolaeth ar gastell Conwy drwy gydol Rhyfeloedd y Rhosynnau. Yn 1482 enwir Huw Bwlclai yn ddirprwy gwnstabl i’r cwnstabl Edward Woodville mewn dogfen yng nghasgliad castell y Waun (‘Chirk Castle’ rhif 10744). Gall mai’r un oedd yr Edward hwnnw â brawd Elizabeth Woodville, gwraig Edward IV (y ddogfen honno yw’r unig dystiolaeth mai ef oedd cwnstabl y castell yn 1482). Lai na blwyddyn yn ddiweddarach ymddengys ei enw mewn llythyr a anfonwyd at Wiliam Bwlclai gan gyngor y Goron, lle gofynnir i Wiliam geisio dwyn perswâd ar ei fab, Huw, i drosglwyddo’r castell i ofal dug Buckingham (Jones 1961: 5; Evans 1995: 121). Ond nid oedd Huw am gydymffurfio â’r drefn newydd, ac ar 16 Mai 1483 penodwyd dug Buckingham yn gwnstabl newydd y castell gan Richard III. Yn ei gerdd i Huw, mae Lewys Môn yn awgrymu bod yr anghydfod hwnnw wedi parhau am [d]air blynedd mewn trwbl ennyd (GLM I.30). Fodd bynnag, mae’n debygol fod Huw wedi cadw ei swydd fel dirprwy gwnstabl y castell hyd tua 1490. Bu farw ei dad y flwyddyn honno a nodir statws Huw fel dirprwy gwnstabl Conwy yn ei ewyllys (Carr 1982: 220). Yn wir, awgryma Jones (1961: 6) iddo gyflawni’r swydd hyd ei farwolaeth yn 1504.
Llyfryddiaeth
Breese, E. and Wynne, W.W.E. (1873), Kalendars of Gwynedd (London)
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, D.C. (1961), ‘The Bulkeleys of Beaumaris, 1440–1547’, AAST: 1–20
Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo: diolch am bwrs (cerdd 58); diolch am baderau (cerdd 59); gofyn gwalch gan Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares ar ran Rhisiart (cerdd 60); gofyn teils gan Risiart ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan (cerdd 61); gofyn wyth ych ar ran Rhisiart gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris (cerdd 108); diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ac i Risiart am wella briw (cerdd 109). Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled: awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun: cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn: ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill: cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).
Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor
Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.
Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.
Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118