Chwilio uwch
 
62 – Moliant i Ddafydd ap Gwilym o Lwydiarth
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Dilyd henw deiliad hynwyf,
2Dafydd o Ddafydd, ydd wyf.
3Yr oedd batent o’i hendad
4Ym ar dir cyn marw ei dad.
5Ei dai ar ôl a’i dir ym,
6A’r sêl a roes i Wilym.
7Os y glêr a gasgl arian,
8Na chasglent na’m rhent na’m rhan.
9Ni chânt na’m tenant na’m tir
10Na’m trysor oni’m treisir.

11Nid drwg golud Twrcelyn,
12Nid rhan deg ond trwy un dyn.
13Cyweiriad trwm i’r cwrt draw,
14Cael Nudd Twrcelyn iddaw.
15Ni bu le i wan a’i blaid
16Heb rieni barwniaid.
17Cad hil, macwyaid haelion,
18Cynwrig a Meurig ym Môn.
19Llwyth Hywel â’r llath haearn
20A dorrai’r dorch yn dair darn,
21Ierwerth Ddu yn rhoi wrth wyth,
22Ieuan henllwyd frenhinllwyth.
23O molwn ŵr ymlaen neb,
24Moler un milwr wyneb.
25Gŵr cryf a dyf yw Dafydd,
26Gem ar Fôn mam Gymru fydd:
27Gŵr oedd ei dad a garwn,
28Gŵr hawdd ei garu yw hwn.
29Gwnaed y glêr ganiadau glân
30I garw Llwydiarth garllydan.
31Canen’, molen’ y milwr,
32Canwn pei gwelwn y gŵr.
33Canu’r wyf, cynnar yw ym,
34Cyn gweled cenau Gwilym.
35Fy nhrigfan, fy nhiriogaeth
36Ym Môn, lle gorau fy maeth,
37Fy nghartref, fy nghynefin
38Fu dai’r gweilch a fudai’r gwin.

39Ewch â mi i Lannerch-y-medd
40A Llwydiarth oll i adwedd.
41Od af, o deuaf i’w dai,
42Adref unwaith drwy Fenai,
43Nid â fy nghorff drwy’r afon,
44Nid rhaid a’m enaid ym Môn!

1Canlyn enwogrwydd meddiannwr nwyfus,
2sef Dafydd sy’n disgyn o Ddafydd, yr wyf.
3Roedd breinlythyr o law ei daid i mi
4yn rhoi hawl ar dir cyn marw ei dad.
5Rhoddodd ei lys wedyn a’i dir i mi,
6a’r sêl i Wilym.
7Os yw’r glêr yn hel arian,
8na foed iddynt hel na’m tâl na’m cyfran.
9Ni chânt na’m deiliad na’m tir
10na’m trysor oni ormesir fi.

11Nid drwg mo gyfoeth Twrcelyn,
12ni ddaw cyfran deg ond trwy un dyn.
13Diwygiad sylweddol yn y plasty draw
14yw cael Nudd Twrcelyn ar ei gyfer.
15Ni bu lle i’r tlawd a’i deulu
16heb hynafiaid barwniaid.
17Cafwyd hiliogaeth, ysgwieriaid hael,
18Cynwrig a Meurig ym Môn.
19Torrai tylwyth Hywel â’r llath haearn
20y dorch yn dri darn,
21Iorwerth Ddu yn eu rhannu rhwng wyth,
22Ieuan o’r brenhinllwyth hynafol a ffodus.
23Os molwn gŵr yn fwy na neb,
24moler un a chanddo anrhydedd milwr.
25Gŵr cryf ar gynnydd yw Dafydd,
26bydd yn em ar Fôn mam Cymru:
27roedd ei dad yn ŵr a garwn,
28mae hwn hefyd yn ŵr hawdd ei garu.
29Boed i’r glêr wneud caniadau teg
30i garw Llwydiarth praff ei goesau.
31Boed iddynt ganu, boed iddynt foli’r milwr,
32byddwn i’n canu pe bawn yn gweld y gŵr.
33Rwy’n canu, cynnar ydyw i mi wneud hynny,
34cyn gweld cenau Gwilym.
35Fy nhrigfan, fy nhiriogaeth
36ym Môn, lle mae fy nghynhaliaeth orau,
37fy nghartref, fy nghynefin
38fu llys y gwroniaid a gyrchai’r gwin.

39Ewch â mi’r holl ffordd adref
40i Lannerch-y-medd a Llwydiarth.
41Os af, os deuaf i’w lys
42adref unwaith dros afon Menai,
43nid â fy nghorff dros yr afon,
44nid oes rhaid a’m henaid ym Môn!

62 – In praise of Dafydd ap Gwilym of Llwydiarth

1I am pursuing the fame of a spirited landholder,
2namely Dafydd descended from Dafydd.
3There was a letter patent from his grandfather
4for me entitling me to land before his father’s death.
5He gave me his court afterwards and his land,
6and the seal to Gwilym.
7If the bards are collecting money,
8let them not collect either my pay or my share.
9They shall not have either my landholder or my land
10or my treasure unless I be assaulted.

11The wealth of Twrcelyn is not bad,
12a fair share shall not proceed but from one man.
13It is a great improvement for the court yonder
14to have the Nudd of Twrcelyn.
15There was no place for a poor man and his kin
16without the ancestors of barons.
17The stock, generous squires,
18of Cynwrig and Meurig was planted in Anglesey.
19Hywel’s tribe with the iron rod
20cut the torque in three parts,
21Iorwerth Ddu sharing them between eight,
22Ieuan from the ancient and fortunate royal tribe.
23If we praise a man more than anyone,
24let one with a soldier’s honour be praised.
25Dafydd is a strong man on the increase,
26he will be a gem for Anglesey mother of Wales:
27his father was a man whom I loved,
28this is a man easy to love.
29Let the bards compose fair songs
30for the stout-legged stag of Llwydiarth.
31Let them sing, let them praise the soldier,
32I would sing if I saw the man.
33I am singing, it is early for me,
34before seeing the whelp of Gwilym.
35My dwelling place, my territory
36in Anglesey, where my best sustenance is,
37my home, my habitat
38was the court of the heroes who would fetch the wine.

39Take me all the way home
40to Llannerch-y-medd and Llwydiarth.
41If I go, if I come to his court,
42home once across the river Menai,
43my body will not cross the river,
44there is no need with my soul in Anglesey!

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn chwe llawysgrif, un o drydydd chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg (Ystad Mostyn A1), dwy o ail chwarter yr ail ganrif ar bymtheg (LlGC 21248D, Llst 123), un o drydydd chwarter y ddeunawfed ganrif (C 4.110) a dwy o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (C 1.20, LlGC 760D). Testunau annibynnol ar ei gilydd a geir yn Ystad Mostyn A1, LlGC 21248D a C 4.110, ac ymddengys bod y rhain yn tarddu o gynsail gyffredin. Gan fod y testun o leiaf ddeuddeg llinell yn fyrrach na hyd arferol cywyddau Guto, mae’n debyg fod y gynsail honno’n ddiffygiol, ac mae lle i gredu bod ambell ddarlleniad ynddi yn llwgr hefyd (gw. nodiadau 1–2 ac 13 isod). Mae darlleniadau Ystad Mostyn A1 yn rhagori mewn mannau (gw. nodiadau 8, 30 a 38 isod), ac mae’n bosibl bod y ddwy lawysgrif arall un cam yn bellach oddi wrth y gynsail. Mae Llst 123 yn gopi o Ystad Mostyn A1, ac mae’n werthfawr gan fod y ddau gwpled cyntaf yn eisiau yn honno. Seiliwyd y testun golygyddol ar Ystad Mostyn A1, LlGC 21248D a C 4.110.

Trawsysgrifiadau: LlGC 21248D, Ystad Mostyn A1 a C 4.110.

stema
Stema

1–2 hynwyf / … ydd wyf  Dyma ddarlleniad LlGC 21248D; gthg. Llst 123 hennwydd / … y ddwydd, C 4.110 henwyd / … ydd wyd, darlleniadau sydd efallai’n adlewyrchu’r hyn a geid yn y gynsail. Ceir y gair henwydd (gw. GPC 1854) ond nid y ffurf ferfol wydd fel ail berson unigol presennol mynegol bod. O ran ffurf, gallai henwyd fod yn ail berson unigol presennol mynegol y ferf hanfod (gw. GMW 147) ond nid yw’r ystyr yn taro a gwell yw wyf LlGC 21248D yn y cyd-destun nag wyd.

6 a’r  C 4.110 yn unig sy’n cefnogi darlleniad GGl, A’i.

8 na  Felly Ystad Mostyn A1; gthg. LlGC 21248D a C 4.110 Ni. Os darllenir yr ail, gwneir y cymal yn un amodol, ond mwy naturiol yn y cyd-destun yw’r gorchmynnol; cf. 31 Canen’, molen’ y milwr.

13 cyweiriad  Mae darlleniadau’r llawysgrifau i gyd yn anfoddhaol yn y fan hon. Mae hyn yn seiliedig ar LlGC 21248D. Ceir ceidwad trwm yn Ystad Mostyn A1 a C 4.110 (a cf. GGl), a rhydd hynny gynghanedd wallus a llinell fer o sillaf. Ond mae’n debyg mai dyna oedd darlleniad y gynsail, ac mai ymgais i gywiro’r llinell yw darlleniad LlGC 21248D, kair ai waew trwm, sy’n wan o ran synnwyr ac yn gadael cael yn y llinell nesaf yn ddigyswllt. Mentrwyd diwygio, felly, gan adfer cynghanedd a hyd y llinell a rhoi synnwyr boddhaol, sef ‘diwygiad sylweddol i’r llys [yw] cael Nudd Twrcelyn iddo’. Er nad yw cyweiriad yn digwydd yn yr ystyr hon cyn Geiriadur William Salesbury (gyda’r Saesneg ‘reparation’), fe’i ceir yn yr ystyr ‘darparwr’ gan Huw Cae Llwyd, GHCLl III.39.

13 cwrt  Gthg. GGl cwm nad yw yn y llawysgrifau nac yn rhoi cynghanedd.

20 dorrai’r  Gellid dilyn LlGC 21248D a hepgor y fannod. Llwgr yw darlleniad C 4.110 yma, Un dewi ei dorch.

21 yn rhoi  Mae darlleniad LlGC 21248D, iw roi, yn bosibl hefyd, gan gyfeirio at y dorch.

22 Ieuan  LlGC 21248D ievan (cf. Ystad Mostyn A1 Ifan). C 4.110, O fron, a ddilynwyd yn GGl. Ar Ieuan, gw. y nodyn esboniadol cyfatebol.

22 henllwyd  Felly LlGC 21248D ac Ystad Mostyn A1. C 4.110 hen-llin (a cf. GGl). Rhydd darlleniad C 4.110 synnwyr boddhaol, ond gwell dewis tystiolaeth ddiogelach y llawysgrifau eraill.

24 moler un  Felly LlGC 21248D a C 4.110. Yn GGl darllenir Molwn ŵr, cf. Ystad Mostyn A1 molen wr, ond rhydd gynghanedd wallus.

25 cryf a dyf yw Dafydd  Felly LlGC 21248D ac Ystad Mostyn A1 (kry ady). Yn C 4.110 ceir gwyn a dyn adenydd, a dilynwyd hyn yn GGl ond ni rydd gystal synnwyr.

29 ganiadau  Felly LlGC 21248D. Gthg. Ystad Mostyn A1 ganiadu, C 4.110 gam a dŷn glân.

30 garllydan  Felly Ystad Mostyn A1 (cf. GGl gâr llydan). Yn LlGC 21248D a C 4.110 ceir gair llydan, sy’n bosibl o’i ddeall yn gyfeiriad at glod Dafydd, ond hwn yw’r darlleniad anos ac mae’n ddisgrifiad priodol o garw nerthol.

33 canu’r wyf  Mae darlleniad Ystad Mostyn A1, kanv yr wyr, yn ddeniadol gan fod Guto wedi sôn am ei wasanaeth i daid Dafydd ar ddechrau’r cywydd, ond mae’n debyg fod C 4.110 Canu’r wy yn adlewyrchu darlleniad y gynsail (cf. LlGC 21248D kanv wyf), ac mai diwygiad y copïydd oedd wyr.

34 cyn  C 4.110 A, a ddilynir yn GGl ond ni rydd gystal synnwyr gan nad yw Guto wedi gweld Dafydd ap Gwilym eto, cf. cynnar yw ym yn y llinell flaenorol.

35 fy nhiriogaeth  LlGC 21248D a C 4.110 fynhiriogfaeth. Yn narlleniadau y rhain gosodwyd f ar ôl yr g i gyfateb i’r f yn nhrigfan ond cwbl artiffisial yw hynny. Dichon yr yngenid yr f yn nhrigfan yn lledlafarog; cf. 9.45 Dued yw ynys Deifi!

38 gweilch  Dilynir Ystad Mostyn A1 yma yn erbyn LlGC 21248D a C 4.110. At y nawdd a dderbyniai Guto gan dad a thaid Dafydd y cyfeirir.

41 od af, o deuaf  Felly LlGC 21248D a cf. darlleniad Ystad Mostyn A1 Oda odeva. A da o deuaf a geir yn C 4.110 ond ni rydd gystal cystrawen na synnwyr.

Cywydd o fawl yw hwn i Ddafydd ap Gwilym o blasty Llwydiarth yng nghwmwd Twrcelyn, Môn. Ymddengys fod Dafydd yn ifanc ac yn filwr pan ganodd Guto’r cywydd hwn iddo (gw. llinellau 13, 24–6, 31 a cf. Wiliam 1991: 7); o ran hynny, milwr oedd ei dad, yntau, meddai Tudur Penllyn (gw. GTP 23.25–6). Ymddengys hefyd i Guto, yn anghyffredin braidd, ganu cyn gweld Gwilym (33–4).

Mae’r gerdd yn fyr (44 llinell) o’i chymharu â’r rhan fwyaf o gerddi Guto, ac mae’n debyg mai’r rheswm am hynny yw bod cynsail gyffredin y llawysgrifau yn ddiffygiol a bod rhan neu rannau o’r gerdd ar goll.

Dyddiad
Perthynai Dafydd, yn ôl Bartrum, i’r genhedlaeth a anwyd tua 1430, ac fel y dywedwyd, roedd yn ifanc adeg cyfansoddi’r cywydd. Gellir cynnig, felly, mai tua 1450–5 y canodd Guto ef. Byddai hynny’n gyson â’r cyfeiriad at daid Dafydd, oherwydd gwyddys bod hwn yn ei fedd erbyn canu’r cywydd (gw. 3–6) a buasai farw yn Ionawr 1450/1 ar ôl gyrfa hir (Wiliam 1991: 43; Carr 1982: 217).

Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXVI.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 44 llinell.
Cynghanedd: croes 52% (23 llinell), traws 20.5% (9 llinell), sain 20.5% (9 llinell), llusg 7% (3 llinell).

2 Dafydd o Ddafydd  Dull byr o ddweud Dafydd ap Gwilym ap Dafydd.

3 patent  Fe’i hyngenir ‘patend’ ar gyfer y gynghanedd: cf. 22.15 Er meddiant Alecsander.

3–6 Yr oedd batent … / … / … i Wilym  Dywed Guto fod taid (3 hendad) Dafydd ap Gwilym wedi ei freinio (hynny yw, Guto) â thir a thai trwy batent (sef dogfen swyddogol yn rhoi hawl neu fraint, gw. GPC 2701) cyn i Wilym farw ac wedi rhoi sêl (6) y patent i Wilym. Tebyg na ddylid deall dim o hyn yn llythrennol. Fel y dywedir yn GGl 332, ‘Honna Guto iddo gael patent ar dir y taid; mai ef a gafodd yr holl eiddo, ond bod y sêl wedi ei rhoi i’r mab, rhyw arwydd o’i hawl i gyfrannu! Dull arall o ddweud y câi’r bardd a fynnai ganddo.’

9 tenant  Cf. deiliad yn 1.

11 Twrcelyn  Y cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Môn yr oedd Llwydiarth yn brif lys iddo, gw. WATU 216, 257.

12 Nid rhan deg ond trwy un dyn  Hynny yw, un dyn yn unig sy’n rhannu’n deg / yn rhoi’n dda yn Nhwrcelyn, sef Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth.

14 Nudd  Sef Nudd ap Senyllt, a oedd, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–7, 464–6; WCD 509.

15–16 Ni bu … / … barwniaid  Canmolir Dafydd ap Gwilym, mewn dull braidd yn drofaus, am gyflawni dyletswydd uchelwr tuag at y tlodion ac am ei dras.

18 Cynwrig a Meurig  Yn ôl GGl 332, Cynfrig ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth, hen hen hendaid Dafydd ap Gwilym (gw. WG1 ‘Carwed’ 2), a olygir wrth Cynwrig. Ond yn ôl Wiliam 1991: 43, llystad Dafydd ydyw, sef ail ŵr ei fam Elen, gw. WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1). Yn ôl Wiliam hefyd, Meurig ap Llywelyn ap Hwlcyn, ewythr Dafydd, brawd ei fam Elen, yw Meurig. Gellid dadlau, er hynny, mai Meurig Llwyd o Nannau a olygir gan fod Elen yn ddisgynnydd iddo trwy ei mam Mali, gw. WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1), WG1 ‘Iarddur’ 5, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, a chyfeiria Lewys Glyn Cothi at y cyswllt hwn mewn cywydd i Elen i ofyn iddi am huling gwely lle dywed ei bod o frig Meurig tir Meirion (GLGC 227.11). Anodd yw penderfynu ond, yn wyneb arfer gyson y beirdd o enwi hynafiaid eu noddwyr, ymddengys yn fwy tebygol mai Cynwrig ab Iorwerth Fychan a Meurig Llwyd a olygir.

19 llwyth Hywel  Gorhendaid Dafydd ap Gwilym ar ochr ei dad, Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (ar Gynwrig, gw. 18n), gw. WG1 ‘Carwed’ 2. Yn ôl Carr (1982: 216), hwn oedd gwir gychwynnydd llinach Llwydiarth.

19 llath haearn  Efallai mai ‘gwaywffon’ a olygir; cf. 13 [g]wayw. Awgrymir bod traddodiad milwrol yn y teulu (fel, yn wir, y disgwylid yn achos pob teulu uchelwrol), ac yr oedd Dafydd ap Gwilym yn filwr (24, 31). Â’r llinell, cf. 100.6 Llwyth Iarddur, â’r llath hirddu.

20 A dorrai’r dorch yn dair darn  Roedd gan Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (gw. 19n llwyth Hywel) dri mab, Ieuan, Cynwrig a Llywelyn, gw. WG1 ‘Carwed’ 2, ac mae’n debyg fod hyn yn cyfeirio at rannu’r dreftadaeth rhyngddynt. Cadwyn o fetel cyfrodedd a wisgid am y gwddf neu’r fraich oedd torch, ac fe’i defnyddir yma’n ffigurol am etifeddiaeth werthfawr.

20 tair darn  Gwrywaidd yw cenedl darn gan amlaf ond gall fod yn fenywaidd hefyd, gw. GPC 896.

21 Ierwerth Ddu  Iorwerth Ddu ab Iorwerth ap Gruffudd, sef un o gyndeidiau Dafydd ap Gwilym ar ochr ei fam, gw. WG1 ‘Hwfa’ 7, 8. Dau fab a nodir iddo, felly nid yw ‘rhoi wrth wyth’ i’w ddeall yn llythrennol.

22 Ieuan  Hendaid Dafydd ap Gwilym ar ochr ei dad, Ieuan ap Hywel ap Cynwrig, gw. WG1 ‘Carwed’ 2.

25–6 a dyf … / … fydd  Awgryma hyn nad oedd Dafydd wedi gorffen tyfu yn gymdeithasol – neu fynd o nerth i nerth – eto.

26 Môn mam Gymru  Cf. sylw enwog Gerallt Gymro yn y ‘Disgrifiad o Gymru’, Jones 1938: 176, ‘Dywedir megis y gallai mynyddoedd Eryri fod yn ddigon o borfeydd i holl yrroedd Cymru i gyd pes cesglid hwy i’r un man, felly hefyd y gallai ynys Fôn, oherwydd ei ffrwythlondeb mewn cnydau gwenith, ddigoni holl Gymru am amser. Ac felly, arferir dywedyd yn Gymraeg, “Môn, Mam Cymru”.’

39 i  Fe’i llyncir gan mi ond mae’n bosibl nad oedd yno’n wreiddiol gan y ceid cystrawen gyda berfau’n dynodi symudiad lle hepgorid arddodiad a threiglo’r gyrchfan, gw. GMW 19; TC 227–8; GLl 4.33n a cf. 32.1–2 Brysiaf, lle mae browysedd, / Brys mawr, lys Euas y medd. Os felly, gellid ei ddeall yn ymgais gan gopïwr diweddarach i ddiwygio llinell nad oedd ei hystyr yn eglur iddo.

39 Llannerch-y-medd  Canolfan fasnach ger llys Llwydiarth.

44 enaid  Gall olygu ‘cyfaill’ hefyd, megis ynglŷn â noddwr bardd, felly chwaraeir ar ystyron.

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Jones, T. (1938) (cyf.), Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru (Caerdydd)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)

This is a cywydd of praise to Dafydd ap Gwilym of Llwydiarth in the commote of Twrcelyn, Anglesey. It appears that Dafydd was young and a soldier when Guto addressed this poem to him (see lines 13, 24–6, 31 and cf. Wiliam 1991: 7); for that matter, his father too, according to Tudur Penllyn, was a soldier (see GTP 23.25–6). It appears that Guto, rather unusually, sang the poem before seeing Gwilym (33–4).

The poem is short (44 lines) for one of Guto’s poems, and the reason for that is probably that the common source from which the manuscript texts derive was defective and that part or parts of the poem were missing.

Date
According to Bartrum, Dafydd was of the generation born around 1430, and as stated above he was young when the poem was composed. It may be suggested therefore that Guto presented it about 1450–5. That would be in keeping with the reference to Dafydd’s grandfather, who is known to have been in his grave by the time the poem was sung (see 3–6) and who had died in January 1450/1 after a long career (Wiliam 1991: 43; Carr 1982: 217).

The manuscripts
The poem has been preserved in five manuscripts from the seventeenth to the nineteenth centuries which can be derived from a common written exemplar. The edited text is based on the three earliest ones, LlGC 21248D, Llst 123 and C 4.110.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem XXXVI.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 44 lines.
Cynghanedd: croes 52% (23 lines), traws 20.5% (9 lines), sain 20.5% (9 lines), llusg 7% (3 lines).

2 Dafydd o Ddafydd  A brachylogy for Dafydd ap Gwilym ap Dafydd.

3 patent  It is pronounced ‘patend’ for the sake of the cynghanedd: cf. 22.15 Er meddiant Alecsander ‘Not for all the might of Alexander’.

3–6 Yr oedd batent / … / … i Wilym  Guto says that Dafydd ap Gwilym’s grandfather (3 hendad) had invested him (i.e., Guto) with land and houses by means of a patent (an official document conferring an entitlement or privilege, see GPC 2701) before Gwilym died and had given the sêl (6) of the patent to Gwilym. Probably none of this should be understood literally. As stated in GGl 332, ‘Guto claims that he received a patent on the land of his grandfather; that he received the whole property, but that the seal had been given to his son, a sign of his right to give! Another way of saying that the poet could have whatever he wanted from him.’

9 tenant  Cf. deiliad in 1.

11 Twrcelyn  The commote in north-east Anglesey of which Llwydiarth was the chief court, see WATU 216, 257.

12 Nid rhan deg ond trwy un dyn  I.e., only one man shares fairly / gives well in Twrcelyn, namely Dafydd ap Gwilym of Llwydiarth.

14 Nudd  Nudd ap Senyllt, who, together with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and regarded by the poets as a paragon of generosity, see TYP3 5–7, 464–6; WCD 509.

15–16 Ni bu … / … barwniaid  Dafydd ap Gwilym is praised, in a rather clumsy way, for fulfilling an aristocrat’s duty towards the poor and for his lineage.

18 Cynwrig a Meurig  According to GGl 332, Cynwrig signifies Cynfrig ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth, the great-great-great-grandfather of Dafydd ap Gwilym (see WG1 ‘Carwed’ 2). According to Wiliam 1991: 43, however, he is Dafydd’s stepfather, namely the second husband of his mother Elen, see WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1). Also Meurig is to be identified with Meurig ap Llywelyn ap Hwlcyn, uncle of Dafydd, brother of his mother Elen (ibid.). It could nonetheless be argued that Meurig Llwyd of Nannau is meant since Elen was descended from him through her mother Mali, see WG2 ‘Hwfa’ 8 (C1), WG1 ‘Iarddur’ 5, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, and Lewys Glyn Cothi refers to this connection in a cywydd to Elen asking her for a bed cover where he states that she is o frig Meurig tir Meirion ‘sprung from Meurig of the land of Meirion’ (GLGC 227.11). It is difficult to decide which is the case but in view of the poets’ consistent practice of naming their patrons’ forbears, it appears more probable that the poet means Cynwrig ab Iorwerth Fychan and Meurig Llwyd.

19 llwyth Hywel  Dafydd ap Gwilym’s great-great-grandfather on his father’s side, called Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (on Cynwrig, see 18n), see WG1 ‘Carwed’ 2. According to Carr (1982: 216), he was the true founder of the Llwydiarth line.

19 llath haearn  Perhaps ‘spear’; cf. 13 [g]wayw. It is suggested that the family had a military tradition (as, indeed, would be expected in the case of every aristocratic family), and that Dafydd ap Gwilym was a soldier (24, 31). With the line cf. 100.6 Llwyth Iarddur, â’r llath hirddu ‘Iarddur’s tribe, with the long, black spear’.

20 A dorrai’r dorch yn dair darn  Hywel ap Cynwrig ab Iorwerth Fychan (see 19n llwyth Hywel) had three sons, Ieuan, Cynwrig and Llywelyn, see WG1 ‘Carwed’ 2, and this probably refers to the division of the inheritance, represented symbolically by the torque, a traditional ornament of twisted metal worn around the neck or arm.

20 tair darn  The gender of darn is usually masculine but it can also be feminine, see GPC 896.

21 Ierwerth Ddu  Iorwerth Ddu ab Iorwerth ap Gruffudd, one of the ancestors of Dafydd ap Gwilym, see WG1 ‘Hwfa’ 7, 8. Only two sons are recorded, so the reference to dividing between eight is not to be taken literally.

22 Ieuan  Dafydd ap Gwilym’s great-grandfather on his father’s side, Ieuan ap Hywel ap Cynwrig, see WG1 ‘Carwed’ 2.

25–6 a dyf … / … fydd  This suggests that Dafydd had not yet ceased to increase socially or go from strength to strength.

26 Môn mam Gymru  Cf. Gerald of Wales’s famous words in his ‘Description of Wales’, Jones 1938: 176, ‘It is said that, just as the mountains of Snowdonia could supply sufficient grazing for all the herds of Wales if they all gathered to the same place, so too could the isle of Anglesey, because of its fertility in wheat crops, satiate the whole of Wales for a while. And so it is customary to say in Welsh, “Anglesey, Mother of Wales”.’

39 i  It is absorbed by mi but it was possibly not there originally since a construction existed with verbs denoting motion where the preposition was omitted and the object of destination lenited, see GMW 19; TC 227–8; GLl 4.33n and cf. 32.1–2 Brysiaf, lle mae browysedd, / Brys mawr, lys Euas y medd ‘I am hurrying, where there is revelry, / a big hurry, to the court of Ewyas of the mead’. If so, it could be understood as an attempt by a later scribe to emend a line that he did not fully understand.

39 Llannerch-y-medd  A market centre near the court of Llwydiarth.

44 enaid  It can mean ‘friend’ too, as with regard to a patron, so there is a play on meaning.

Bibliography
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Jones, T. (1938) (cyf.), Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru (Caerdydd)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth, 1472–80

Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth, fl. c.1472–80

Top

Un gerdd fawl yn unig (cerdd 62) a gadwyd gan Guto i Ddafydd ap Gwilym, ond cadwyd cerddi iddo gan rai beirdd eraill. Canodd Tudur Penllyn gywydd mawl i Ddafydd lle gofynnir cymod gan ei fam, Elen (GTP cerdd 23), a chanodd Lewys Glyn Cothi awdl farwnad iddo (GLGC cerdd 228). Canodd Lewys gywydd i ofyn huling gwely i Elen (ibid. cerdd 227) a cheir cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd i Elen a’i hail ŵr, Cynwrig ap Dafydd (DE cerdd XLV; ar Gynwrig, gw. Huw Lewys). At hynny, ceir cywyddau marwnad i daid Dafydd, Dafydd ab Ieuan, gan Ddafydd ab Edmwnd a Hywel Cilan (DE cerdd XLI; GHC cerdd XX).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Carwed’ 2, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, ‘Hwfa’ 8, ‘Iarddur’ 5; WG2 ‘Carwed’ 2B, ‘Hwfa’ 8C1. Dangosir mewn print trwm wŷr a enwir gan Guto yn ei gywydd i Ddafydd, a thanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth

Gwelir bod Dafydd yn nai i Huw Lewys o Brysaeddfed ac yn perthyn o bell i Meurig Fychan ap Hywel Selau o Nannau, dau o noddwyr Guto.

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn byw ym mhlasty Llwydiarth yng nghwmwd Twrcelyn yng ngogledd-ddwyrain Môn. Perthynai Llwydiarth i blastai Bodsilin, Bodedern, Prysaeddfed a’r Chwaen yng nghwmwd Llifon yng ngorllewin Môn, gan fod mam Dafydd, Elen, yn ferch i Lywelyn ap Hwlcyn (GGl 323). Buasai hynafiaid Dafydd, o amser ei gyndaid Iorwerth Fychan ab Iorwerth yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn rhaglawiaid a rhingylliaid yn Llwydiarth. Bu Dafydd yn rhingyll yn 1472–3 yn ogystal â ffermio Penrhosllugwy a Nantmawr a thiroedd siêd yn Amlwch y buasai ei daid yn eu ffermio gynt (Carr 1982: 216–17). Bu hefyd yn cyflawni gwasanaeth milwrol (cerdd 62 (esboniadol) a 19n). Ei wraig oedd Efa ferch Rhys o Blasiolyn yn Ysbyty Ifan a Lowri ferch Hywel, a bu iddynt amryw o feibion a merched (GTP 121; Wiliam 1991: 7). Gall mai tua 1480 y bu farw (ibid. 7).

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)