Y llawysgrifau
Ceir testun y gerdd hon mewn tair llawysgrif ar ddeg, a chredir eu bod i gyd i’w holrhain i un gynsail gyffredin. Mae nifer o fân amrywiadau rhwng y testunau, rhai yn codi o’r ffaith nad oedd copïwyr yr unfed ganrif ar bymtheg bob tro yn dangos cywasgiadau, a bu i gopïwyr y ganrif ddilynol drin y llinellau hir mewn dulliau gwahanol er mwyn safoni hyd y llinell (cf., e.e., 26n isod). Nid oes lle i gredu bod y gerdd hon wedi ei chylchredeg yn helaeth ar lafar, os o gwbl. O edrych yn fanylach ar y darlleniadau amrywiol, gwelwn fod y llawysgrifau yn ymrannu’n ddau brif grŵp.
LlGC 17114B
Dyma’r testun hynaf, a cheir copi da iawn ohono yn C 5.167. Hon yw’r unig lawysgrif sy’n cynnwys llinellau 27–30, ac nid oes unrhyw le i gredu eu bod yn annilys. Nodweddir y llawysgrif hon gan ffurfiau llafar a chan ddiffyg cywasgu sillafau.
X1
Credir bod gweddill y llawysgrifau yn tarddu o ffynhonnell goll a elwir X1 yn y stema. Hepgorwyd llinellau 27–30 yn hon. Gallwn ddosbarthu’r llawysgrifau hyn yn dri grŵp, yn tarddu o J 137, LlGC 8497B ac X2.
J 137: Mae’n debygol iawn mai copi o J 137 a geir gan Huw Machno yn C 2.617: cf. y ffurfiau daf (9), ymaf (10), tyf (15), gwelyf (16) yn y ddwy yn unig (a cf. 31n am faeth). Fodd bynnag tuedda’r bardd Huw Machno i geisio gwella darlleniadau a cheir rhai darlleniadau unigryw ganddo yn C 2.617: e.e. at nudd ddafydd yn ddyfal (37) lle ceir amrywiad ar af at dafydd llwyd dyfal yn y gweddill. Cynhwyswyd nifer o ddarlleniadau unigryw’r llawysgrif hon yng ngolygiad GGl (gw. y nodiadau isod), ond bu rhaid eu gwrthod, gan na welir unrhyw le i gredu eu bod yn ddilys.
LlGC 8497B: Dyma destun da a nodweddir gan ambell ddarlleniad unigryw, megis dy lew win (25), vry seilio (35), yno nid oes wall (54). Nid oes yr un o’r llawysgrifau eraill yn gopi o hon.
X2: Gallwn ragdybio bod llawysgrif goll, a elwir X2 yn y stema, yn ffynhonnell uniongyrchol neu anuniongyrchol y llawysgrifau sy’n weddill, sef LlGC 3048D, Pen 78, Bod 1, Pen 100, Pen 152, Llst 133, BL 31092. Nodweddir llawysgrifau’r grŵp hwn gan rai darlleniadau cyffredin (e.e. im seilio (35), mwy ni welaf (50), trwy wiw gennad (66)), gan ddiffyg llinellau 7–8, a chan y drefn 56–55. Copi o Bod 1 a geir yn Pen 100, a chopi o Pen 100 a geir yn Pen 152 a Llst 133, fel y gwelir gan y ffaith eu bod yn dilyn darlleniadau Wmffre Dafis yn Bod 1 yn hytrach na darlleniadau Pen 78 a LlGC 3048D (e.e. blin iawn (11), fy iawn swydd (18), a dau (58)). Gallwn dybio bod testun Pen 78 a LlGC 3048D ychydig yn nes at X2 na Bod 1. Mae C 4.10 yn gopi ffyddlon o LlGC 3048D.
Mae’r union berthynas rhwng Pen 78 a LlGC 3048D braidd yn ansicr, er nad oes unrhyw amheuaeth nad o X2 y mae’r ddwy yn tarddu.
O dderbyn bod yr holl lawysgrifau yn ymrannu’n ddau grŵp sy’n tarddu o ddwy lawysgrif, sef LlGC 17114B a’r llawysgrif goll X1, rhaid ystyried tystiolaeth LlGC 17114B yn gyfwerth â thystiolaeth y gweddill ynghyd. Ond er y gallwn dybio bod LlGC 17114B ychydig yn nes at y gynsail na’r testunau eraill, nid yw’n destun di-fai, fel y gwelir yn arbennig yng nghwpled agoriadol y gerdd. Y tair llawysgrif agosaf at X1 yw J 137, LlGC 8497B ac X2, a llawysgrifau Pen 78 a Bod 1 yn eu tro sydd agosaf at X2. Cadwyd statws y llawysgrifau hyn mewn cof wrth lunio’r testun golygedig.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, J 137, LlGC 8497B, Bod 1, Pen 78.
1 ai meirw Dyma ddarlleniad holl lawysgrifau X1; gthg. LlGC 17114B yn meirw (a’r yn yn ffurf gyntaf luosog yr arddodiad i, mae’n debyg), sy’n rhoi ystyr a chynghanedd lai esmwyth.
1 meirw’r rheini Rhaid cywasgu’n deirsill ar gyfer hyd y llinell, ac efallai mai haws fyddai gwneud hynny o hepgor y fannod, fel y gwneir yn nifer o’r llawysgrifau (cf. LlGC 8497B, Pen 78, J 137, Bod 1, LlGC 3048D): confensiwn yw ei gynnwys.
2 heno Dyma ddarlleniad holl lawysgrifau X1; gthg. LlGC 17114B hwnw, sy’n ddarlleniad posibl, ond gwannach.
4 anynadrwydd Gthg. LlGC 17114B, J 137, LlGC 3048D o anadrwydd. Ni cheir anadrwydd na goanadrwydd yn GPC. Gan fod yma ddwy n yn ateb un yn y gynghanedd, mae’n bosibl fod copïwyr wedi hepgor un ohonynt yn annibynnol ar ei gilydd. Mae’n bosibl hefyd iddynt deimlo bod angen yr arddodiad o yn dilyn rhan yn llinell 3.
7–8 Ni cheir y cwpled hwn yn y llawysgrifau sy’n tarddu o X2 (Pen 78, Bod 1, LlGC 3048D). Dyma’r math o gwpled a gollid yn hawdd – mae’n cynnwys cymhariaeth (ac felly nid yw ei golli yn amharu ar ddatblygiad y cywydd) ac mae hefyd yn cynnwys enw personol a fyddai’n siŵr o fod yn ddieithr erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.
8 Bwtling Dyma’r ffurf gan LlGC 17114B; Bwttlwng a geir yn J 137 ac LlGC 8497B. Dilynir LlGC 17114B, sy’n cytuno â’r ffurf a geir gan Gutun Owain yn ei restr o wŷr wrth gerdd, Rys Butlyng (Huws 2004: 87): gw. ymhellach 8n (esboniadol). Sylwer na cheir calediad yn y llinell hon, b = -b h-.
11–12 Cwpled anodd, gan fod tair ffurf sylfaenol arno yn y llawysgrifau. Yn LlGC 17114B a J 137 ceir Blin yw megis blaen awen / na thav pob anoeth hen, a’r ail linell sillaf yn fyr; cytuna LlGC 8497B ond gan ddarllen anoeth o hen, sy’n datrys hyd y llinell. Yn Pen 78 (cf. LlGC 3048D) darllenwyd blin yw megys blaen awen / yw nathav pob anoeth hen, sy’n ymgais arall i gael nifer cywir o sillafau ond sy’n chwithig oherwydd ailadrodd y cyplad. Os dyna oedd darlleniad X2, diau i Wmffre Dafis addasu’r darlleniad, ac yn Bod 1 ceir ganddo gwpled di-fai o ran ei hyd (er bod y gynghanedd yn wallus yn y llinell gyntaf) – blin iawn megis blaen awen / yw na thav pob anoeth hen. Fodd bynnag, o ran llinell 11 rhaid credu mai fersiwn LlGC 17114B a J 137 a geid yn y gynsail.
Y cwestiwn wedyn yw ai llinell chwesill oedd ail linell y cwpled yn y gynsail honno (nad oedd o reidrwydd, wrth gwrs, yn cytuno â fersiwn Guto)? O edrych ar y dystiolaeth gwelir bod hynny’n debygol iawn – a bod copïydd X2 wedi ychwanegu yw ar ddechrau’r llinell i’w hestyn, a bod Thomas Wiliems, i’r un perwyl, wedi darllen annoeth o hen yn LlGC 8497B a Huw Machno wedi darllen annoeth a hen yn C 2.617 (sef darlleniad GGl). Rhaid gwrthod fersiwn X2, gan fod y cyplad eisoes yn llinell 11, a dilynir yma ddiwygiad LlGC 8497B, heb fawr o argyhoeddiad ei fod yn well na diwygiad Huw Machno yn C 2.617.
14 cadw y dall Unsill yw cadw yn rheolaidd yn y testunau ac felly mae’r llinell fel y’i ceir ym mwyafrif y llawysgrifau – e.e. LlGC 17114B, Pen 78, J 137, Bod 1 cadw dall – sillaf yn fyr. Gallwn dybio mai felly ydoedd yn y gynsail, nad oedd bob tro yn ddi-fai yn achos y gerdd hon, fel y gwelwyd eisoes. Yn LlGC 17114B dilëwyd yw o ddechrau’r llinell a fyddai wedi rhoi cwpled boddhaol o ran cystrawen a hyd llinell; yn LlGC 8497B yn unig ceir y fannod y o flaen dall (y darlleniad a fabwysiadwyd yma a hefyd yn GGl), ac yn LlGC 3048D cywesgir y fannod cadwr dall (gan ddarllen or dydd ar ddiwedd y llinell i osgoi r berfeddgoll).
15 tyngu Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio LlGC 3048D sy’n darllen tevru, gair cyfystyr nad yw’n effeithio ar y gynghanedd.
15 wna Cf. LlGC 17114B, Pen 78, Bod 1, LlGC 3048D; y ferf amherffaith, wnai, a geir yn LlGC 8497B, J 137, C 2.617. Diau mai’r ferf bresennol sy’n gywir yma, cf. llinell 17 Galw ’dd wyf.
17 Galw ’dd wyf f’arglwydd a’i ofyn Darlleniad LlGC 17114B, LlGC 8497B, J 137, ond â’r cywasgiad heb ei ddangos bob tro. Anodd esbonio’r darlleniad tra gwahanol a geir ym mwyafrif llawysgrifau X2, e.e. Bod 1 a LlGC 3048D galw yn fynghof a’i ofyn, darlleniad na rydd cystal ystyr, ond a rydd gynghanedd lusg. Yr unig lawysgrif yn y grŵp hwn sy’n rhoi darlleniad gwahanol yw Pen 78 galw f’arglwydd a’i ofyn. A deimlodd copïydd Pen 78 fod y llinell yn ddiystyr fel ag yr oedd yn X2, a cheisio’i gwella, efallai gan ddilyn patrwm llinell 20 neu gan ddibynnu ar ei gof os oedd yn gyfarwydd â fersiwn arall o’r cywydd? Ceir llinell debyg hefyd yn 115.16 A galw ’dd wyf Arglwydd Ddafydd.
18 yn fy swydd Darlleniad y llawysgrifau i gyd ac eithrio’r llawysgrifau sy’n tarddu o Bod 1 fy iawn swydd, sy’n cael gwared ar y camosodiad a geir yn y gweddill.
18 f’anwes Darlleniad pob llawysgrif (weithiau heb ddangos y cywasgiad), ac eithrio C 2.617 fy naws a LlGC 3048D fy hanes. Mae’n anodd cyfiawnhau darllen fy naws (darlleniad GGl) yma (gw. stema), a rhaid derbyn f’anwes, y darlleniad anos. Gw. 18n (esboniadol).
20 wyf Arglwydd Ddafydd Mae rhai llawysgrifau yn cynnwys y rhagenw blaen fy (fel arfer wedi ei gywasgu) o flaen Arglwydd. Gan fod y gair blaenorol (wyf) yn diweddu ag f, go brin y gellid clywed gwahaniaeth rhwng wy’ f’Arglwydd, wyf Arglwydd neu wyf f’Arglwydd. Cadwyd y rhagenw yn llinell 17.
25 Dy loyw win, dy lawenydd Mae’r llawysgrifau i gyd yn gwbl gytûn o ran y rhagenwau dy … dy, ac eithrio C 2.617 sy’n darllen I loew win ai lyowenydd. Dilyn C 2.617 a wnaeth golygyddion GGl, ond rhaid ei wrthod (er gwaethaf y ffaith mai dyma’r unig fan yn y cywydd lle mae’r bardd yn cyfarch Dafydd) gan fod swm y dystiolaeth yn ei erbyn.
26 Mae’r llinell yn hir o sillaf yn y llawysgrifau cynharaf (e.e. LlGC 17114B a bair y son ar berw y sydd) o bosibl oherwydd yr arfer o gynnwys y o flaen sydd, a bod Wmffre Dafis (Bod 1) yn gywir yn ei hepgor. (Gwelwyd eisoes bod tuedd yn y llawysgrifau cynharaf i beidio â dangos cywasgiadau, neu i gynnwys geirynnau lle nad oes eu hangen.) Yn LlGC 8497B a J 137 hepgorwyd y sillaf ychwanegol drwy hepgor y fannod (a bair sôn), ac yn LlGC 3048D cafwyd y ddau gywasgiad (a bair son ar berw sydd) oherwydd cyfrif berw yn ddeusill mae’n siŵr.
27–30 LlGC 17114B yn unig sy’n cynnwys y ddau gwpled ychwanegol hyn. Anodd iawn eu gwrthod, ac o’u derbyn rhaid cymryd eu bod wedi eu colli mewn llawysgrif gynnar allweddol (megis X1 yn y stema) a oedd yn sail i’r testunau eraill. Maent yn gweddu’n berffaith o ran ystyr: e.e. sonnir yn llinell 26 am y berw a ddaw o enau’r bardd, ac yna yn llinell 27 medd Ni thawaf … Yna esbonnir yn llinell 31 mai tadmaeth (sef yr abad) yw’r hwn y cyfeiriwyd ato yn llinell 30.
31 am faeth Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio J 137 amamaeth a C 2.617 nev famaeth. Mae’r ddau ddarlleniad hyn yn awgrymu’n gryf fod C 2.617 yn gopi o J 137, a bod y bardd Huw Machno (C 2.617) wedi ceisio cywiro cynghanedd ei gynsail drwy adfer y gynghanedd sain.
31 ym a fu Gthg. LlGC 17114B mwya vv. Mae’r holl lawysgrifau eraill yn gytûn parthed y llythrennau, ond yn anghytuno ynglŷn â sut i’w rhannu: LlGC 8497B, LlGC 3048D ym a fu, Pen 78 ym af v, J 137 ym afv, Bod 1 yma fu. Perthnasol hefyd yw sut y dehonglir dechrau’r llinell nesaf: mae LlGC 17114B, Pen 78, Bod 1, LlGC 3048D yn ffafrio ym erioed, a LlGC 8497B a J 137 yn ffafrio yma erioed. O ddarllen yma (e)rioed fel y gwneir yn GGl, rhaid darllen ym a fu yn llinell 31, er mwyn osgoi ailadrodd yr adferf yma; ond byddai darllen yma fu / Ym erioed yn ddarlleniad llawn cystal, ond fod mymryn mwy o dystiolaeth o blaid y cyntaf. Yn sicr mae darlleniad LlGC 17114B hefyd yn gwbl foddhaol, ond bernir bod darlleniad y golygiad, gyda’r cyfeiriad at berthynas y bardd a’r abad, yn rhoi cwpled sy’n cyd-fynd yn well â’r cwpled dilynol: Tadmaeth … ym a fu ac yna Mamaeth yn fy myw …
34 yn teimlo Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio Pen 78 im temlo, Bod 1 ym teimlo, sy’n awgrymu efallai mai dyna oedd darlleniad X2.
35 Af i’w seler fry i’w seilio Felly LlGC 17114B a J 137: rhaid cywasgu fry i’w yn unsill ar gyfer hyd y llinell, fel y gwneir, mae’n debyg, yn LlGC 8497B vry seilio (= ‘fry’i seilio’). Mae cefnogaeth gref i’r darlleniad hwn, ond anodd yw’r ystyr, gw. 31n (esboniadol). Ceir darlleniad unigryw yn C 2.617 af yw seler fav seilio, ond er mai dyma’r darlleniad a dderbynnir yn GGl, ni cheir cefnogaeth iddo yn yr un o’r llawysgrifau eraill. Mae llawysgrifau sy’n tarddu o X2 yn darllen i’m seilio: Bod 1 yw seler af im seilio, a Pen 78 a LlGC 3048D af vw seler im seilio.
36 tra fwy’ Dyma ddarlleniad pob un llawysgrif; gthg. GGl trwy fwy.
37 Af at Dafydd lwyd dyfal Dilynir LlGC 17114B davydd lwyd, ond gthg. 59–60 Dafydd … / Llwyd o Iâl a gw. 59–60n (esboniadol). Ceir peth anghytundeb yn y testunau o ran treiglo Dafydd … dyfal, ond dilynir LlGC 17114B a Bod 1 sy’n cymryd bod yma galediad (cf. 16.34 Lu at Duw o lateion a gw. 111.56n). Yn Bod 1 a LlGC 3048D darllenir lle at dafydd llwyd dyfal, sy’n ategu darlleniad y golygiad, ond a’r newid af → lle yn ymgais i gryfhau’r gyfatebiaeth gytseiniol. (Mae Pen 78 yn darllen af at … gyda’r gweddill.) Unigryw yw C 2.617 at nvdd ddafydd yn ddyfal, y darlleniad a fabwysiadwyd yn GGl, ac mae’n rhaid ei wrthod. Trafodir hyn ymhellach yn y nodiadau esboniadol.
39 Mae … (mwy y’i molwn) Dilynir yma LlGC 17114B, LlGC 8497B a J 137; yn llawysgrifau X2 darllenir y mae … mwy molwn. Mae’r dystiolaeth ychydig yn gryfach felly dros ddarlleniad y golygiad. Gellid dadlau bod Y mae yn rhoi cymeriad llythrennol, ond gan fod y frawddeg yn ymestyn dros y cwpled (cymeriad synhwyrol) nid oes rhaid ailadrodd y llafariad Y-.
40 bwyd Darlleniad LlGC 8497B, LlGC 3048D, a darlleniad gwreiddiol J 137; yn LlGC 17114B (a chywiriad yn J 137) ceir bowyd, sy’n peri bod y llinell yn hir o sillaf; yn Bod 1 y byd, sydd eto’n peri bod y llinell yn rhy hir, a cheir yr un darlleniad yn Pen 78 gan hepgor yn ar ddechrau’r llinell i roi’r hyd cywir, ond gan ddifetha’r gystrawen. Haelioni’r abad yn cynnal gwesteion (y miloedd, 39) sydd dan sylw yma, felly bwyd sy’n rhoi’r ystyr orau.
42 gostiai Y ferf amherffaith a geir ym mhob llawysgrif (ac eithrio LlGC 8497B a gosdio) gyda’r llawysgrifau cynharaf, LlGC 17114B, Pen 78, J 137, yn arddel y ffurf lafar gostie.
42 Lan Egwestl Lan a geir ym mhob llawysgrif; nid oes sail i ddarlleniad GGl Lyn Egwestl. Mae Guto, fel Gutun Owain yntau, yn defnyddio Llan, Llyn a Glyn yn elfennau cyntaf yr enw (cf. GO VIII.6, XIX.36, XX.14, &c.). Mae’n bosibl hefyd fod y bardd yn chwarae ar yr enw ac y dylid deall llan yn enw cyffredin: ‘eglwys wych Egwystl’. Ceir Egwystl ac Egwestl yn y llawysgrifau a chan nad oes ystyriaethau odl, defnyddiwyd y ffurf a geir amlaf ym marddoniaeth Guto.
46 Gwydr a’r plwm yw godre’r plas Darlleniad LlGD 17114B a mwyafrif llawysgrifau X1; LlGC 8497B gwydr a plwm (sy’n amlwg yn wallus, gan na cheir treiglad ar ôl y cysylltair, a’r tebyg yw ddarfod hepgor y fannod wrth gopïo). Hepgorir a’r yn Bod 1 a LlGC 3048D, gan adael y llinell yn fyr, oni chyfrifir gwydr yn ddeusill.
50 am na welaf Gthg. llawysgrifau X2 mwy ni welaf. Mae’r isgymal rheswm yma’n rhoi cwpled cryfach.
53 diwall Darlleniad yr holl lawysgrifau, ac eithrio C 2.617, sy’n ymgais eto gan y bardd-gopïwr Huw Machno i wella’r gynghanedd, drwy geisio cael gwared ar y gynghanedd sain gadwynog. (Dilyn C 2.617 a wna GGl). Ond er ei bod yn gynghanedd brin yng ngwaith Guto, mae’r gynghanedd gadwynog yn sicr yn dderbyniol.
54 ym LlGC 8497B yno; nis ceir yn LlGC 17114B.
55 ar ddwy Bowys Gthg. LlGC 17114B ar y ddwy Bowys, sy’n peri i’r llinell fod yn rhy hir.
55 yw hwn Gthg. LlGC 3048D a wn.
64 i’w roi Darlleniad yr holl lawysgrifau, a gwelir eu bod yn gwahaniaethu gan amlaf rhwng r ac rh. (Yr unig un sydd efallai’n darllen ‘rhoi’ yw Pen 78 Roi, gyda’r briflythyren o bosibl yn arwydd o’r sain ffrwydrol.) Gthg. GGl i’w rhoi.
66 trwy Ei gennad Llwgr yw LlGC 17114B draw ac gad. Derbynnir darlleniad LlGC 8497B a J 137 a diau mai dyna oedd yn X1; atyniadol iawn yw darlleniad llawysgrifau X2 trwy wiw gennad (a dderbynnir yn GGl), ond mae’r dystiolaeth yn wannach drosto, ac mae’n bosibl mai oherwydd tybio bod y llinell yn fyr o sillaf (o gywasgu trwy’i gennad) y newidiwyd ei → wiw.
Llyfryddiaeth
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Cerdd wedi ei chanu gan Guto yn ei henaint yw hon: teimla bellach mai ef yw’r hynaf oll (llinell 2) a phawb o’i gwmpas yn perthyn i genhedlaeth iau. Mae’n sylweddoli beth yw ei wendid: ei barablu diddiwedd am hen ddynion (5–6) sy’n dreth ar amynedd yr ifanc. Achos gofid iddynt hwy yw’r ffaith nad yw ef, fel pob annoeth o hen, yn tewi, a threth bellach arnynt yw gorfod gofalu am hen ddyn dall fel Guto ar hyd y dydd (13–14). Achos gofid arbennig i rai cyson yr abaty (sef y mynaich, yn ôl pob tebyg) yw’r ffaith fod Guto yn galw’n barhaus o’i wely am sylw’r Abad Dafydd (15–20), gan amharu, felly, ar drefn reolaidd y sefydliad.
Un broblem sy’n ein hwynebu yw penderfynu ai’r un yw Arglwydd Ddafydd (20), sef yr Abad Dafydd ab Ieuan, â Dafydd lwyd neu Lwyd (37), a Dafydd … Llwyd o Iâl (59–60). Yr un dyn oeddynt ym marn C.T.B. Davies (CTC 402) ac awgrymodd mai fel ansoddair ‘bendigaid, sanctaidd’ y dylid dehongli llwyd yn hytrach na chyfenw. Ond awgrymodd D.J. Bowen (1995: 177–80) mai cyfeirio a wna Guto yn 59–60 at Ddafydd Llwyd o Fodidris, Iâl, yr oedd ei deulu yn noddwyr pwysig i feirdd yn yr ardal ac y cyfeiriodd Guto ato fel un o’i noddwyr yn 108.31–6. (Nid oedd darlleniad cywir llinell 37 yn hysbys i D.J. Bowen, gan ei fod yn dilyn darlleniad GGl Nudd Dafydd (gw. 37n (testunol).) A derbyn awgrym D.J. Bowen, ymddengys fod Guto yn cyfeirio at bedwar noddwr o’r gogledd-ddwyrain yn y gerdd hon: yr Abad Dafydd ab Ieuan, Dafydd Llwyd o Fodidris yn Iâl, Siôn Trefor (56) a Siôn Edward (57), sef yr un pedwar noddwr yn union ag a enwodd yn y cywydd gofyn ychen i Risiart Cyffin (cerdd 108): Arglwydd … Ddafydd o Lanegwystl (108.13–18); Siôn Trefor o Bentrecynfrig (108.19–24); Siôn Edward … fab Ierwerth (108.25–30) ac yn [b]edwerydd enwodd Dafydd … Llwyd o Iâl fab Tudur (31–6). Gallwn fod yn gwbl hyderus, felly, nad yr un dyn oedd yr Abad Dafydd ab Ieuan â Dafydd Llwyd o Iâl a enwir yn llinellau 59–60. Y dehongliad hwn sy’n rhoi’r ystyr orau i ddiweddglo’r cywydd. Cyfeirir yno at dri phennaeth secwlar, sef Dafydd Llwyd o Iâl a’r ddau Siôn (62), a’r noddwr arall, yr un crefyddol, a fydd yn cael ei wneud yn sant trwy ganiatâd Duw: Y tri phennaeth trwy ffyniant / A’r un sydd i’w roi yn sant / … trwy Ei gennad (63–4, 66). Mae’r diweddglo hefyd yn amlygu hoffter Guto o chwarae â chyfatebiaethau rhifol, ond mae ei dri ac un ef wrth gwrs yn gwneud pedwar, tra bod y tri ac un dwyfol yn gwneud un!
Nid mor hawdd yw penderfynu ai at yr abad neu at Ddafydd Llwyd o Fodidris y cyfeirir yn llinell 37: hynny yw, Dafydd lwyd neu Dafydd Lwyd. (Dilynwyd LlGC 17114B a threiglo’r ansoddair, gw. 37n (testunol).) Yn y rhan hon o’r cywydd, mae’r bardd yn moli’r abad yn benodol fel tadmaeth am faeth (31), a’r abaty fel mam faeth iddo lle gall brofi pethau da’r abad (teml Dduw, yn teimlo’i dda, 34). Dywed ymhellach ei fod yn ymweld â’i seler a’i fwtri ac yna, dan yr un cymeriad geiriol, medd Af at Dafydd lwyd dyfal, / Af i’r nef o fro wen Iâl. Er bod Dafydd lwyd … o fro wen Iâl yn ymddangos fel petai’n amrywiad ar enw’r gŵr o Fodidris, fel y’i ceir yn 59–60 Dafydd Llwyd o Iâl ac yn 108.31–6, chwithig braidd fyddai cyfeiriad ato yma, yng nghanol llinellau o foliant i’r abad. Dehonglir Dafydd lwyd, felly, yn gyfeiriad at yr abad – gyda threiglad meddal i’r ansoddair, yn wahanol i’r epithet yn yr enw priod. Yn 39 dychwela’r bardd i ganmol bwyd yr abad, sef cynnyrch ei seler a’i fwtri, ac mae’r geiriau abad hael yn ei gwneud yn berffaith eglur mai Dafydd yr abad sydd dan sylw. Mewn gwirionedd byddai cael gwared ar 37–8 yn cryfhau’r dilyniant: Af i’w seler fry i’w seilio, / Af tra fwy’, i’w fwtri ’fo; / Mae miloedd … / Yn cael, abad hael, bwyd hwn. Tybed ai cwpled strae yw 37–8, o ryw gerdd arall (efallai i Ddafydd Llwyd o Fodidris) a ychwanegwyd yn gynnar at y gynsail, gan ei fod yn cynnwys yr enw Dafydd ac Iâl ac yn cynnal yr un cymeriad â’r cwpled blaenorol? Boed a fo am hynny, mae’n rhaid i ni ei dderbyn gan ei fod ym mhob copi llawysgrif.
Gallwn dybio bod hon yn un o gerddi mwyaf diweddar Guto, ac mae’n ddigon posibl fod y bardd erbyn hyn yn byw yn y fynachlog, un ai fel corodïydd neu westai parhaol: mae’n bosibl mai cyfeirio at hynny a wna’r gair swydd (18, 22), yn hytrach na chyfeirio at swydd farddol fel y cyfryw. Er cymaint y pwyslais ar ei henaint a’i ddallineb, gallwn fod yn hyderus fod Guto yn parhau i ymweld â noddwyr yn yr ardal, oherwydd ar ôl clera ym Môn, Gwynedd ac yng Ngwent yn y gorffennol, bellach mae’n clera yn nes at adref, meddai: Clera’n nes … / Yma ’n Iâl am na welaf (49–50). Gallwn gymryd nad yw’n gwbl ddall ychwaith, oherwydd mae’n amlwg ei fod yn parhau i fod yn ddigon abl i allu dod o hyd i’w ffordd i seler win yr abad ac i’w fwtri er mwyn manteisio ar eu cynnwys!
Dyddiad
Ar sail y dyb fod hon yn un o gerddi diweddaraf y bardd, awgrymir y dyddiad c.1490. Yn sicr fe’i canwyd cyn marwolaeth Siôn Trefor yn 1493.
Golygiadau a chyfieithiadau blaenorol
GGl cerdd CXIV; CTC cerdd 68; OBWV cerdd 71; Bowen 1957: 23. Ceir cyfieithiad Saesneg yn Loomis and Johnston 1992: 193–5; Clancy 2003: 87–8. Cafwyd ymdriniaeth feirniadol ohoni yn Ruddock 1992; Davies 2000: 95–127.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 62% (41 llinell), traws 23% (15 llinell), sain 15% (10 llinell).
7 megys … Rhys Ar megys, gw. CD 248 a hefyd GPC 2405 lle nodir mai hon (nid megis) oedd y ffurf wreiddiol.
7–8 Rhys … / Bwtling Datgeiniad o Brestatyn a enillodd dafod arian am ddatgan yn eisteddfod Caerfyrddin yng nghanol y bymthegfed ganrif, gw. Huws 2004: 87.
11 megys blaen awen Ar blaen ‘tarddell’, fel arfer am ‘[d]arddell neu geinciau uchaf afon neu nant’, gw. GPC 279; fe’i deellir yn ffigurol yma am ffynhonnell awen, lle mae’r llifeiriant yn rhwydd a’r geiriau’n byrlymu.
13–14 Blinach, oni bai lonydd, / Cadw y dall rhag hyd y dydd Hynny yw, anos yw cadw’r dyn dall yn ddiddig a’r dydd yn ymddangos mor hir iddo. Ar ystyr hyd yma, ‘mor hir, cyhyd, meithed’, sef gradd gyfartal yr ansoddair hir, gw. GPC 1948, lle dyfynnir HMSS i: 126 rac hyt y buassei ef yn gorwed; cf. hefyd Ruddock 1992: 21, ‘gofalu am y dall, a’r dydd mor hir’. Gellid hefyd ddeall hyd yn enw, fel y gwnaethpwyd yn Clancy 2003: 326 ‘Caring for the blind man all day’ (sef ‘for the length of the day’). Mae llonydd yn amwys, oherwydd gallai olygu ‘bodlon’ yn ogystal â ‘heb fod yn symud’.
18 swydd Dichon mai cyfeirio a wna Guto at ei safle fel corodïydd neu westai yn y fynachlog ond gall hefyd mai ei swydd fel bardd sydd ganddo mewn golwg, cf. 22n.
18 anwes Yn GPC2 385 rhestrir dau air anwes (y ddau o bosibl o’r un tarddiad): diffinnir y naill fel ‘y weithred o anwesu, … (gor)hoffter, mympwy, … esmwythyd, cyfleustra’, a’r ail ‘anfodd, anniddigrwydd, digofaint, … cyndynrwydd’. Nid oes yr un enghraifft o’r naill ffurf na’r llall cyn troad yr unfed ganrif ar bymtheg yno, ac mae’r enghreifftiau cynharaf a roddir yn negyddol eu hystyr. (Gwrthodwyd darlleniad GGl naws, 18n (testunol).) Yma dywed Guto fod galw o’i wely am yr abad (f’arglwydd) yn anwes iddo yn ei swydd (hynny yw i Guto), a bod hyn yn achosi blinder i’r mynaich sy’n hoffi trefn (gw. rhai cyson, 21n): gallai ‘anniddigrwydd’ hefyd fod yn bur agos i’w ystyr yma.
18 Cyfatebiaeth n .. f = f .. n.
20 Arglwydd Ddafydd Sef yr Abad Dafydd ab Ieuan. Cyffredin oedd cyfarch abadau fel ‘arglwydd’ (Lladin dominus); cf. 110.15–16 arglwydd / Abad = Lladin dominus abbas.
21 rhai cyson Cyfeiriad at fynaich yr abaty, sef y rhai yr oedd eu bywydau’n seiliedig ar drefn gyson y rheol fynachaidd. Ceir awgrym yma fod tensiwn rhwng mynaich yr abaty a’r rhai, megis Guto a’r corodïaid, a dderbyniai noddfa yno, gan fanteisio’n llawn ar haelioni’r abad. (Mae’n bosibl, hefyd mai cyfeirio a wna Guto at y tri bardd a geisiodd ei ddisodli o’r abaty yng ngherdd 116, ac os felly gellid deall eu bod yn ymwelwyr cyson â’r abaty.)
22 swydd Cf. 18n. Mae’n bosibl mai cyfeirio a wna Guto at ei swydd fel bardd yn y fynachlog, er nad yw’r gair o reidrwydd yn awgrymu swydd neu statws swyddogol, wrth gwrs.
34 teimlo’i dda Credir mai cyfeirio at yr Offeren a wneir yma, ac at ddaioni Duw: cf. 102.25–6 A gwŷr mydr a gramadeg / Yn teimlo Duw mewn teml deg.
35 seler ‘Ystafell … a ddefnyddir i storio nwyddau’, nid o anghenraid o dan y ddaear; cf. OED Online s.v. cellar, n.1, ‘A storehouse or storeroom, whether above or below ground, for provisions’.
35 i’w seilio ‘Gosod (ar) sail neu seiliau, peri adeiladu, sylfaenu, sefydlu’, GPC 3210 d.g. seiliaf1, gydag enghreifftiau mewn cyswllt ffigurol hefyd (megis seilio iaith, serch, &c.). A chymryd bod y seler yn ychwanegiad diweddar i’r fynachlog (a gwyddom fod yr Abad Dafydd wedi bod yn gyfrifol am dipyn o waith ehangu ar y safle) efallai mai cyfeirio at hynny a wna Guto, a’i fod am wneud defnydd o’r seler er mwyn ‘sefydlu’ ei ddefnydd. Yn CTC 402 derbynnir i’m seilio a geir yn rhai o’r llawysgrifau (gw. 31n (testunol)), ac awgrymir mai chwilio am win a wnâi yno ‘i gael sail neu sylfaen cyn dechrau bwyta ac yfed yn y wledd. “Apéritif” a geisiai Guto’n y seler mae’n siŵr.’
Tybed, fodd bynnag, ai ffurf fenthyg o’r Saesneg assail yw seilio yma? Un o ystyron cynnar y ferf honno yw ‘to make trial of, venture on’ (OED Online s.v. assail, v.1, lle ceir enghreifftiau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg). Gellid deall, felly, fod Guto am ymweld â’r seler er mwyn profi ei chynnwys.
37 Dafydd lwyd Sef yr Abad Dafydd ab Ieuan, gw. y nodyn cefndir uchod.
38 Iâl Cyfeiriad at safle’r fynachlog yng nghwmwd Iâl. Wrth farw a chael ei gladdu ar dir y fynachlog credai’r bardd y câi fynediad rhwydd i’r nefoedd: cf. 105.46 (am orweddfan Robert Trefor yn nhir yr abaty) A’i le ’n nef a’i wely ’n Iâl.
41 ystorglych Cyfuniad o ystôr (‘digonedd’, &c., gw. GPC 3338 d.g. stôr) + clych (lluosog cloch); neu gall mai ystor ‘incense’ yw’r elfen gyntaf (gw. ibid. 3864 d.g. ystor). Am glychau Glyn-y-groes, a’u hanes diweddarach, gw. Price 1952: 207–9.
42 Llan Egwestl Un o’r enwau amryfal a ddefnyddia Guto a’i gyfoeswyr am abaty Glyn-y-groes, gw. 105.44n a 113.19n.
46 Gwydr a’r plwm yw godre’r plas Cyfeirir yn ôl pob tebyg at ffenestri, a’r gwydr wedi ei osod mewn plwm. Tybed a oedd y ffenestri’n rhai lliw? Er bod statud Bernard Sant yn y ddeuddegfed ganrif yn gwahardd gwydr lliw, fe’u ceid mewn abatai yn gyffredinol yn yr Oesoedd Canol diweddar, fel yng Nglyn-y-groes: gw. Price 1952: 106; Allen 2009; Marks 1986.
47 clera Môn Er cymryd bod Môn yn wrthrych y ferf clera yma, gellid hefyd ddarllen clera ’Môn, yn gywasgiad o clera ym Môn.
51 hen Fe’i deellir yn enw yma, ‘hen ŵr’.
51 i dyfu haint Dichon mai ‘datblygu, magu’ yw ystyr tyfu yma. Ceir llinell debyg iawn yn 101.49 Od wyf hen i dyfu hoed.
54 dau Siôn Sef Siôn Trefor (56n) a Siôn Edward (57n).
55 sêl ar ddwy Bowys Deellir sêl yn yr ystyr Saesneg ‘seal’ yn ffigurol am Siôn sy’n dod â’r ddwy deyrnas (Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn) ynghyd dan ei awdurdod: gw. GPC 3217 d.g. sêl2. Gellid hefyd ystyried ibid. sêl1 ‘brwdfrydedd’, &c.
56 Siôn Trefor Mab Edward ap Dafydd o Fryncunallt yn y Waun, bellach o Bentrecynfrig, a oedd, yn ôl Guto, yn noddwr pwysig iddo ar ddiwedd ei oes, er na chadwyd ei gerddi iddo: gw. ymhellach 108.22n, 23n. Ymhellach gw. y nodyn cefndir uchod.
57 Siôn Edward Siôn Edward (ab Iorwerth ab Ieuan), o Blasnewydd yn y Waun. Cadwyd un cywydd gan Guto iddo (cerdd 107) lle’r enwir ef a’i wraig Gwenhwyfar. Gw. hefyd y nodyn cefndir uchod.
58 ieirll Teitl a statws uchel yn y drefn Seisnig oedd iarllaeth, felly ai’r pwynt yw fod y ddau Gymro Siôn Edward a Siôn Trefor yn bwysicach ym marn Guto na dau iarll o Loegr?
59–60 Dafydd … / Llwyd o Iâl Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris yn Iâl; gw. y nodyn cefndir uchod.
63–4 Y tri phennaeth … / A’r un sydd i’w roi yn sant Cyfeirio a wna Guto at y tri phennaeth secwlar a enwodd yn 56–60 (Siôn Trefor, Siôn Edward a Dafydd Llwyd o Iâl) a’r un ychwanegol, yr Abad Dafydd, a gâi ei gyflwyno’n sant, drwy ganiatâd Duw (66). Mae cymharu’r tri i dri pherson y Drindod yn gymhariaeth feiddgar iawn, ond eto’n nodweddiadol o hoffter Guto o chwarae ar arwyddocâd rihfau.
Llyfryddiaeth
Allen, J. (2009), ‘Panel of Geometric Grisaille, c.1200–1250’, Vidimus, 29 http://www.vidimus.org/archive/issue_29_2009/issue_29_2009-03.html
Bowen, D.J. (1957), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Bowen, D.J. (1995), ‘Guto’r Glyn a Glyn-y-groes’, YB XX: 149–82
Clancy, J.C. (2003), Medieval Welsh Poems (Dublin)
Davies, C.T.B. (1973), ‘Cerddi’r Tai Crefydd’ (M.A. Cymru [Bangor])
Davies, J.W. (2000), ‘ “Hybu’r galon rhwng yr esgyrn crin”: cywydd “Cysur Henaint” Guto’r Glyn’, Dwned, 6: 95–127
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Marks, R. (1986), ‘Cistercian Window Glass in England and Wales’, C. Norton and D. Park (eds.), Cistercian Art and Architecture in the British Isles (Cambridge) 211–27
Price, G.V. (1952), Valle Crucis Abbey (Liverpool)
Ruddock, G. (1992), ‘ “Cysur Henaint”–II’, Barn, 351 (Ebrill)
This is a poem of an old man: Guto feels that he is the eldest around (line 2 hynaf oll) and that everyone else in his company belongs to a younger generation. He realises what his weakness is: his constant prattling about old men of the past (5–6) which taxes the patience of the young. A particular cause of vexation for them is the fact that he, like pob annoeth o hen ‘every unwise old man’, continues talking endlessly, and has to be looked after and entertained all day long (13–14). The ‘orderly ones’ (21) of the abbey (probably the monks) are annoyed by the fact that Guto calls constantly from his bed for the attention of Abbot Dafydd (15–20), affecting the normal order of the institution.
One problem regarding the poem is deciding whether Arglwydd Ddafydd (20), namely Abbot Dafydd ab Ieuan, is the same person as Dafydd lwyd or Lwyd (37) and Dafydd … Llwyd o Iâl (59–60). C.T.B. Davies (CTC 402) believed that the three references were to the abbot, and suggested that llwyd should be understood as the adjective ‘holy’, rather than as a surname. However, D.J. Bowen (1995: 177–80) suggested that Guto was referring in lines 59–60 to Dafydd Llwyd of Bodidris, Yale, whose family were important patrons of poetry in the region and whom Guto named as one of his patrons in 108.31–6. (The correct reading of line 37 was not available to D.J. Bowen, who followed GGl Nudd Dafydd (see 37n (testunol).) If we accept D.J. Bowen’s suggestion, it seems that Guto is referring to four patrons from the north-east in this poem: Abbot Dafydd ab Ieuan, Dafydd Llwyd of Bodidris in Yale, Siôn Trefor (56) and Siôn Edward (57), the exact same four patrons as he named in his poem requesting oxen on behalf of Rhisiart Cyffin (poem 108): Arglwydd … Ddafydd of Llanegwystl (108.13–18); Siôn Trefor of Pentrecynfrig (108.19–24); Siôn Edward … fab Ierwerth (108.25–30) and fourthly (pedwerydd) he named Dafydd … Llwyd o Iâl son of Tudur (31–6). We can therefore confidently accept that Abbot Dafydd ab Ieuan and Dafydd Llwyd of Yale who is named in lines 59–60 are two different people. This interpretation also provides good sense for the ending of the poem, where Guto names three secular chieftains, Dafydd Llwyd of Yale and dau Siôn ‘two Siôns’ (62), and another patron, the religious one, who will be made a saint through God’s permission: Y tri phennaeth trwy ffyniant / A’r un sydd i’w roi yn sant / … / … trwy Ei gennad ‘three chieftains through prosperity / and the one who is to be made a saint / … / … through His permission’ (63–4, 66). In these final lines we see Guto’s fondness for a play on numbers, although his three plus one makes four, whilst the divine Three and One, referred to in the final line, makes One!
It is unclear, however, whether it is to the abbot or to Dafydd Llwyd of Bodidris that Guto refers in line 37: i.e. Dafydd lwyd or Dafydd Lwyd. (I have followed LlGC 17114B and lenited the adjective, see 37n (testunol).) In this part of the poem, Guto praises the abbot specifically for being tadmaeth am faeth ‘foster-father as regards my nurture’ (31), and the abbey as a foster mother where he can experience the abbot’s bounty (34). He states his intention to visit the cellar and pantry (with lines 35–8 all beginning with the word Af), Af at Dafydd lwyd dyfal, / Af i’r nef o fro wen Iâl ‘I will go to diligent and saintly Dafydd, / I will go to heaven from Yale’s blessed land’ (37–8). Even though Dafydd lwyd … o fro wen Iâl looks like a variation on the name of the man from Bodidris who is named in 59–60 as Dafydd Llwyd o Iâl and in 108.31–6, a reference to him here, in the middle of lines praising the abbot, would be unexpected. Dafydd lwyd, therefore, is taken as a reference to the abbot – with the lenition of the adjective after the personal name. In line 39 Guto returns to praise of the abbot’s food, the produce of his cellar and pantry, and the words abad hael ‘generous abbot’ make it perfectly clear that Guto is referring to Abbot Dafydd here. Removing lines 37–8 would improve the sequence: Af i’w seler fry i’w seilio, / Af tra fwy’, i’w fwtri ’fo; / Mae miloedd … / Yn cael, abad hael, bwyd hwn ‘I will go to his cellar yonder to establish it, / I will go, as long as I live, to his pantry; / Thousands … / receive his food, the generous abbot.’ Are lines 37–8 a stray couplet from another poem (possibly to Dafydd Llwyd of Bodidris) which were added to an earlier version, because they contain the names Dafydd and Iâl and because they start with the same word (Af) as the two preceding lines? In any case, we must accept them here as they occur in every manuscript copy.
We can assume that this was one of Guto’s last poems, and it is quite possible that the abbey was his home by now, in his capacity as corrodiary or a permanent guest. The word swydd (18, 22) may well refer to this capacity, rather than to a bardic role as such. However great the emphasis here on his old age and his failing eyesight, it seems that Guto was not yet confined to the abbey and was still able to visit local patrons: after travelling to Anglesey, Gwynedd and Gwent in the past, he says he now visits those who are closer: Clera’n nes … / Yma ’n Iâl am na welaf ‘now my circuit is closer to home, … / here in Yale, because I cannot see’ (49–50). We can also assume that he was not completely blind, because he’s obviously quite capable of finding his way to the abbot’s wine cellar and pantry to sample their contents!
Date
If we are correct in placing this poem in the final years of Guto’s life, then c.1490 is likely. It was sung before Siôn Trefor’s death in 1493.
The manuscripts
There are thirteen manuscript copies of this poem, and the few variations between them suggest that they derive from a common exemplar. A closer look at their readings suggest they divide into two main groups. In the first is LlGC 17114B (and its copy in C 5.167). Here alone do we have lines 27–30 (these were omitted in GGl). The remaining manuscripts are placed in the second group, all deriving from a lost exemplar, X1, which had omitted lines 27–30. Of these J 137 and its copy by Huw Machno in C 2.617 are closely related. (Huw Machno tends to use his bardic skills to improve his text, and has some unique readings: e.g. at nudd ddafydd yn ddyfal (37) where the rest have af at dafydd llwyd dyfal.) Thomas Wiliems has a good copy in LlGC 8497B, and this seems to be independent of the rest in this group. The remaining manuscripts are closely related, all omitting lines 7–8 and reversing the order of 55–6. Of these Bod 1, Pen 78 and LlGC 3048D are the most important.
The edition is based on the texts in LlGC 17114B, J 137, LlGC 8497B, Bod 1, Pen 78.
Previous editions and translations
GGl poem CXIV; CTC poem 68; OBWV poem 71; Bowen 1957: 23. There is an English translation in Loomis and Johnston 1992: 193–5; Clancy 2003: 87–8. The poem is discussed in Ruddock 1992; Davies 2000: 95–127.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 62% (41 lines), traws 23% (15 lines), sain 15% (10 lines).
7 megys … Rhys For megys, see CD 248 and also GPC 2405 where it is shown that this was the original form (not megis, as today).
7–8 Rhys … / Bwtling A reciter from Prestatyn who won a gold tongue for reciting in the eisteddfod at Carmarthen in the middle of the fifteenth century, see Huws 2004: 87.
11 megys blaen awen For blaen ‘source’, usually of the ‘source or upper reaches of river or stream’, see GPC 279; it is understood figuratively here for the source of the poetic muse, where the words flow freely.
13–14 Blinach, oni bai lonydd, / Cadw y dall rhag hyd y dydd I.e., it is more difficult to keep the blind man content, as the day seems so long for him. For hyd ‘so (very) long’, the equative degree of the adjective hir ‘long’, see GPC 1948, which quotes HMSS i: 126 rac hyt y buassei ef yn gorwed ‘because of how very long he had been lying down’. Hyd could also be taken as a noun, as in Clancy 2003: 326, ‘Caring for the blind man all day’ (i.e. ‘for the length of the day’). Llonydd is ambiguous, as it could mean ‘content’ as well as ‘still, not moving’.
18 swydd Guto is probably referring to his status as corrodiary or guest at the abbey, but he may also be referring to his role as a poet there, cf. 22n.
18 anwes GPC2 385 lists two anwes (both possibly of the same derivation): the first is defined as ‘a caressing, fondling, … fondness, fancy, ease, convenience’ and the second as ‘displeasure, discontent, … obstinacy, stubbornness’. No examples of either are given from before the turn of the sixteenth century, and the earliest tend to be negative in meaning. (GGl naws is rejected on textual grounds.) Guto claims here that calling from his bed for the abbot (f’arglwydd ‘my lord’) is anwes for him (i.e. for Guto), and that this annoys those who like to keep order (see rhai cyson, 21n): ‘uneasiness, discomfort’ could also fit.
18 n .. f are answered by f .. n in the cynghanedd.
20 Arglwydd Ddafydd Namely Abbot Dafydd ab Ieuan. It was usual to address abbots as ‘lord’ (Latin dominus); cf. 110.15–16 arglwydd / Abad = Latin dominus abbas.
21 rhai cyson A reference to the abbey’s monks, the ones whose lives were based on the regular order of the monastic rule. There seems to be a suggestion here that there was tension between the monks and those, like Guto and the corrodories, who received sanctuary at the abbey, taking full advantage of the abbot’s generosity. (It may also be possible that Guto is referring to the three poets who tried to oust him from the abbey in poem 116, in which case rhai cyson could refer to their frequent and constant visits to the abbey.)
22 swydd Cf. 18n. Guto may be referring to his role as poet in the abbey, although it need not refer to a formal status, of course.
34 teimlo’i dda Guto is likely to be referring to the Mass here, and to God’s bounty: cf. 102.25–6 … gwŷr mydr a gramadeg / Yn teimlo Duw mewn teml deg ‘… poets and scholars / who handle God in a fair temple’.
35 seler ‘Cellar, storeroom’ (cf. OED Online s.v. cellar, n.1, ‘A storehouse or storeroom, whether above or below ground, for provisions’).
35 i’w seilio ‘To lay a foundation or foundations, ground, base, establish’, GPC 3210 s.v. seiliaf1, with examples in a figurative sense (referring to language, love, &c.). Guto may be referring to the fact that the cellar was a recent addition to the abbey’s buildings (we know that Abbot Dafydd was responsible for new building work on the site): it was his intention to visit the cellar in order to ‘establish’ its use. In CTC 402, C.T.B. Davies accepts the variant reading i’m seilio given in some manuscripts and suggests that Guto was looking for wine as a base for his forthcoming meal, i.e. an apéritif.
Another possibility is a borrowing from the English assail. Amongst its early meanings are ‘to make trial of, venture on’ (OED Online s.v. assail, v.1, with examples from between the fourteenth century and the sixteenth century). So Guto may have visited the cellar in order to try out its contents.
37 Dafydd lwyd Abbot Dafydd ab Ieuan, see the background note above.
38 Iâl A reference to the location of the abbey in the commote of Yale. By dying and being buried on the abbey’s land, the poet believes he will gain easy access to heaven: cf. 105.46 (of Robert Trefor’s final resting place on the abbey’s land) A’i le ’n nef a’i wely ’n Iâl ‘with his place in heaven and his resting place in Yale’.
41 ystorglych A combination of ystôr (‘plenty’, &c., see GPC 3338 s.v. stôr) + clych (plural of cloch ‘bell’); or the first element could be ystor ‘incense’ (see ibid. 3864 s.v. ystor). For the bells at Valle Crucis and their later history, see Price 1952: 207–9.
42 Llan Egwestl One of the many names Guto and his contemporaries use to refer to Valle Crucis abbey, see 105.44n and 113.19n.
46 Gwydr a’r plwm yw godre’r plas This seems to be a reference to glass windows laid in lead. Even though the statute of St Bernard in the twelfth century forbad the use of coloured glass in Cistercian abbeys, it was widely used in the later Middle Ages: see Price 1952: 106; Allen 2009; Marks 1986.
47 clera Môn Môn is the object of the verb clera here; it would also be possible to read clera ’Môn, as a contraction of clera ym Môn ‘to go on a bardic circuit in Anglesey’.
51 hen A noun here, ‘old man’.
51 i dyfu haint Tyfu probably means ‘develop, nurture’ here. There is a similar line in 101.49 Od wyf hen i dyfu hoed ‘if I’m old enough to nurture longing’.
54 dau Siôn Namely Siôn Trefor (56n) and Siôn Edward (57n).
55 sêl ar ddwy Bowys Sêl ‘seal’ is taken figuratively of Siôn who brings both kingdoms of Powys (Powys Fadog and Powys Wenwynwyn) together under his authority: see GPC 3217 s.v. sêl2. Ibid. sêl1 ‘zeal, enthusiasm’, &c., is also possible.
56 Siôn Trefor The son of Edward ap Dafydd of Bryncunallt, Chirk, but now living in Pentrecynfrig (108.20n), and who, according to Guto, was one of his most important patrons at the end of his life, although none of his poems to him have survived from this period, see 108.22n, 23n. See also the background note above.
57 Siôn Edward Siôn Edward (ab Iorwerth ab Ieuan), of Plasnewydd, Chirk. One poem has survived for him by Guto (poem 107) which names him and his wife Gwenhwyfar. See the background note above.
58 ieirll Earls belonged to the English aristocracy, so is Guto’s point here that his two Welsh patrons, Siôn Edward and Siôn Trefor, were more important to him than two earls from England?
59–60 Dafydd … / Llwyd o Iâl Dafydd Llwyd ap Tudur of Bodidris, Yale; see the background note above.
63–4 Y tri phennaeth … / A’r un sydd i’w roi yn sant Guto is referring to the three secular chieftains he named in lines 56–60 (Siôn Trefor, Siôn Edward and Dafydd Llwyd o Iâl) followed by an additional ‘one’, Abbot Dafydd, who will be presented as a saint, by God’s permission (66). Comparing the three to the three persons of the Trinity is a bold comparison, but is typical of Guto’s fondness of playing on numbers.
Bibliography
Allen, J. (2009), ‘Panel of Geometric Grisaille, c.1200–1250’, Vidimus, 29 http://www.vidimus.org/archive/issue_29_2009/issue_29_2009-03.html
Bowen, D.J. (1957), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Bowen, D.J. (1995), ‘Guto’r Glyn a Glyn-y-groes’, YB XX: 149–82
Clancy, J.C. (2003), Medieval Welsh Poems (Dublin)
Davies, C.T.B. (1973), ‘Cerddi’r Tai Crefydd’ (M.A. Cymru [Bangor])
Davies, J.W. (2000), ‘ “Hybu’r galon rhwng yr esgyrn crin”: cywydd “Cysur Henaint” Guto’r Glyn’, Dwned, 6: 95–127
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Marks, R. (1986), ‘Cistercian Window Glass in England and Wales’, C. Norton and D. Park (eds.), Cistercian Art and Architecture in the British Isles (Cambridge) 211–27
Price, G.V. (1952), Valle Crucis Abbey (Liverpool)
Ruddock, G. (1992), ‘ “Cysur Henaint”–II’, Barn, 351 (Ebrill)
Mae cyfanswm o un ar ddeg o gerddi gan Guto sy’n gysylltiedig â’r Abad Dafydd ab Ieuan wedi goroesi yn y llawysgrifau. Ymddengys mai Dafydd oedd prif noddwr y bardd yn ei henaint. Canodd bum cerdd iddo’n uniongyrchol: dau gywydd mawl (cerddi 112, 117); dwy awdl foliant (cerddi 111, 113); cywydd diolch am fwcled (cerdd 110). Cyfeirir at Ddafydd mewn chwe chywydd arall: cerdd a ganodd Guto i amddiffyn ei le yn abaty Glyn-y-groes lle molir Dafydd (cerdd 116); myfyrdod crefyddol wedi ei ysbrydoli gan gerydd a dderbyniodd gan Ddafydd (cerdd 118); mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell a ganodd Guto ar gais Dafydd, yn ôl pob tebyg (cerdd 115); gofyn ar ran Dafydd i gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos (cerdd 114); gofyn wyth ych gan Ddafydd, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 108); diolch i Ddafydd ac i Risiart Cyffin, deon Bangor, am wella briw (cerdd 109). At hynny, y tebyg yw fod englyn olaf Guto (cerdd 119) wedi ei ganu yng Nglyn-y-groes pan oedd Dafydd yn abad, fel y farwnad a ganodd Gutun Owain ar farwolaeth Guto (cerdd 126; cf. cyfeiriad at Guto yn XXV.9–10). Yn wir, canodd Gutun wyth o gerddi eraill i Ddafydd: pedwar cywydd mawl (GO cerddi XXIV, XXVIII, XXIX, XXX); tair awdl foliant (ibid. cerddi XXV, XXVI, XXVII); awdl-gywydd (ibid. cerdd XXXI). Tudur Aled yw’r unig fardd arall y gellir ei gysylltu â Dafydd. Cyfeiriodd ef ato mewn cywydd a ganodd i ŵr o’r enw Rhys ynghylch rhodd o farch a roes i’r abad (TA cerdd LXIX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 1, 2. Dangosir mewn print trwm y rhai hynny a enwir yn y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd. Gwelir mai prin iawn yw’r cyfeiriadau yn y cerddi at ei hynafiaid.
Achres yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes
Ei yrfa
Mae’n debygol fod Dafydd wedi ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llangollen. Ni cheir enw ei fam yn yr achresi, a hynny’n ôl pob tebyg am iddo gael ei genhedlu y tu allan i briodas. O ganlyniad, bu’n rhaid i Ddafydd, fel ei gyfoeswr, Rhisiart Cyffin, deon Bangor, geisio caniatâd gan y Pab er mwyn ymgymryd â swydd eglwysig. Fe’i gwnaed yn fynach Sistersaidd fel ei dad, Ieuan. Dysgwn o farddoniaeth Guto’r Glyn a Gutun Owain iddo fod ganddo wallt tywyll (110.4 angel du; 112.19 [g]ŵr gloywddu; 113.77 du llawenddoeth; GO XXXI.23).
Yn 1480 olynodd Dafydd ei gyd-noddwr, yr Abad Siôn ap Rhisiart, yn abad Glyn-y-groes ac yn 1485 fe’i penodwyd yn ddirprwy i abadau Sistersaidd Fountains yn swydd Efrog a Woburn yn swydd Rhydwely (Bedfordshire) yn y gwaith o ad-drefnu’r urdd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd gan Harri VII i arwain tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys Gutun Owain a Syr Siôn Leiaf (gw. 116.11–12n), yn y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. Erbyn 1496 roedd hefyd yn warden eglwys blwyf golegol Pedr Sant yn Rhuthun, a chaniatawyd iddo gadw’r swydd honno a’i abadaeth pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy ar 8 Ionawr 1500. Fodd bynnag, esgobaeth fer a gafodd, oherwydd bu farw tua diwedd 1503.
Yn wahanol i’w olynydd yn yr esgobaeth, yr Abad Dafydd ab Owain, ni oroesodd cerddi i Ddafydd o’i gyfnod yn esgob. Ei abadaeth yng Nglyn-y-groes oedd uchafbwynt ei yrfa, i bob diben, ac adlewyrchir ei lwyddiant fel abad yn y cerddi a ganwyd iddo yno. Gwyddys bod yr Abad Dafydd ab Owain, a fu yntau’n abad yn Ystrad-fflur, Ystrad Marchell ac Aberconwy, wedi derbyn addysg yn Rhydychen, ond ni cheir gwybodaeth am addysg Dafydd ab Ieuan. Fodd bynnag, mae’n eglur oddi wrth y farddoniaeth ei fod yn ŵr dysgedig (112.29–30; cerdd 114; GO XXIV.29–30, XXV.19, XXVIII.45) a’i fod yn hyddysg ym myd cerdd dafod a cherdd dant. Geilw Guto ef yn [dd]iwael brydydd â chanddo’r ddawn i gyfeilio fel y telynor enwog, Brido (113.58–60; cf. GO XXIV.39–40, XXVIII.47–52, XXXI.46). Fel y dengys y ffaith iddo siarsio Guto i ganu i Dduw, ymddengys mai’r canu crefyddol oedd ei briod faes: O gwna Dafydd gywydd gwiw, / Ef a’i rhydd i Fair heddiw (118.5–6). Yn anffodus, ni oroesodd dim o’i waith.
Ac yntau’n ŵr cydnerth a fedrai saethu â bwa (GO XXIV.33–6, XXVIII.33–4), y tebyg yw mai ei brif gyfraniad i fywyd y fynachlog oedd ei waith adeiladu. Dywed Guto iddo ail-doi’r abaty gyda phren derw o fryn Hyrddin gerllaw (112.33–4) a chyflogi seiri crefftus i weithio ar rannau eraill o’r adeilad (112.45–56; 113.13–14, 69–73; GO XXVI.62). Mae’n bur debygol mai yn ystod abadaeth Dafydd yr adeiladwyd ystafelloedd newydd yr abad uwchben y gysegrfa a’r cabidyldy, a ddyddir i ail hanner y bymthegfed ganrif (Robinson 2006: 291).
Ymhellach ar Ddafydd, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; CTC cerddi 57–75 a’r drafodaeth arnynt.
Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Nid oes cerdd wedi goroesi gan Guto’r Glyn i Ddafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ger Llandegla yn Iâl, ond wrth ganu i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes yn negawd olaf ei yrfa, dywed wrthym fod Dafydd yn un o’i brif noddwyr ar y pryd. Yn ei gywydd yn gofyn am ychen ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor, gofynna Guto am ddau ych yr un gan bedwar noddwr, sef yr Abad Dafydd, Siôn Edward o Blasnewydd, Siôn Trefor o Bentrecynfrig a Dafydd Llwyd: Dafydd, lliw dydd, Llwyd o Iâl / Dewrder a chlod ei ardal, / Haelaf a gwychaf o’r gwŷr / Ond y tad, oen Duw, Tudur (108.33–6; a’r llinell olaf yn awgrymu o bosibl fod tad Tudur ar dir y byw). Mewn cywydd arall, enwa Guto’r un pedwar noddwr eto, gan gyfeirio’n arbennig at y croeso cynnes a gâi yn llys Dafydd Llwyd: Llys Dafydd, dedwydd yw’r daith, / Llwyd o Iâl, lle da eilwaith (117.59–60).
Cadwyd y cerddi canlynol gan feirdd eraill i Ddafydd Llwyd: cywydd moliant gan Gutun Owain (GO cerdd XL) cywyddau marwnad gan Gutun Owain (ibid. cerdd XLI) a Thudur Aled (TA cerdd LXXIV).
Cadwyd cerddi gan feirdd eraill, fodd bynnag, i ddau o feibion Dafydd Llwyd, Tudur Llwyd a Siôn Llwyd. Dyrchafwyd Siôn yn abad Glyn-y-groes yn dilyn marwolaeth yr Abad Dafydd ab Ieuan yn 1503. Canodd tri bardd farwnad i Dudur Llwyd a fu farw, yn ôl pob tebyg, oherwydd gwenwyn yn y gwaed ar ôl cael fflaw yn ei fys (GLM LXVIII.11–12): Siôn ap Hywel (GSH cerdd 8) Tudur Aled (TA cerdd LXXIX) Lewys Môn (GLM cerdd LXVIII). Cadwyd pedair cerdd i Siôn Llwyd, yr abad: awdl foliant gan Dudur Aled (TA cerdd I; CTC 161) cywydd moliant gan Dudur Aled (ibid. cerdd XXVIII; CTC 167) cywydd ‘I ofyn crythor ac ofni ei gael’ gan un ai Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan neu Siôn Phylib (CTC 158) cywydd moliant gan Lewys Môn (GLM cerdd LXVII; CTC 165).
Achres
Seilir yr achres ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Sandde Hardd’ 10; WG2 ‘Sandde Hardd’ 10A; GO 223. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Llinach Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris
Priododd Dafydd Llwyd â Mallt, aeres Gronw ab Ieuan ap Dafydd Llwyd o Hafod-y-bwch a Bers, yn 1468–9; disgynnai hi o deulu’r Hendwr (GO 223, 225 a Pen 287, 349). Priododd eu mab, Tudur Llwyd, â Chatrin ferch Siôn Edward o Blasnewydd yn y Waun, un o’r pedwar noddwr y cyfeiriodd Guto atynt mewn cerddi ar ddiwedd ei oes, fel y gwelwyd uchod.
Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt
Un gerdd yn unig a gadwyd gan Guto i Siôn Edward o Blasnewydd, y Waun, a’i wraig, Gwenhwyfar ferch Elis Eutun (cerdd 107). Cadwyd pedwar cywydd arall i Siôn yn y llawysgrifau: mawl gan Gutun Owain (GO cerdd LV); marwnad gan Gutun Owain (GO cerdd LVI); mawl i Siôn a’i frawd Ednyfed gan Hywel Cilan (GHC cerdd XXI); mawl i Siôn a’i wraig Gwenhwyfar gan Deio ab Ieuan Du (GDID cerdd 14). Am ganu Tudur Aled i fab Siôn, Wiliam Edwards, gw. Bowen 1992: 137–59. Gwelir o’r nodiadau ar gerdd Guto i Siôn fod ambell i adlais ynddi o gerdd Deio ab Ieuan Du, cerdd a oedd yn perthyn i gyfnod cynharach, yn ôl pob tebyg (gw. isod). Ond nid yw’n ddiogel tybio bod Guto’n adleisio cerdd Deio’n benodol, oherwydd ni wyddom pa faint o gerddi sydd wedi eu colli.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 3, 13, Puleston a WG2 ‘Tudur Trefor’ 13E, 25 A1, ‘Hwfa’ 8G. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Siôn mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Siôn Edward o Blasnewydd
Gwelir bod mab Siôn, Siôn Wyn, yn ŵr i Elsbeth, merch i un o noddwyr Guto, Huw Lewys. At hynny, roedd Jane ferch Siôn yn wraig i Lywelyn ab Ieuan, ŵyr i un arall o noddwyr Guto o Fôn, Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch.
Tybir, ar sail cerdd Hywel Cilan, mai Siôn oedd mab hynaf Iorwerth ab Ieuan (GHC XXI.15–18):Siôn Edward sy newidiwr
Mwnai er gwawd, myn air gŵr.
Ednyfed, dan iau Ifor,
Wrol iawn, ydyw’r ail iôr.Mae ei enw hefyd yn awgrymu mai ef oedd yr hynaf. Tarddeiriau o’r Lladin Johannes yw Siôn ac Ieuan (Morgan and Morgan 1985: 130–8), a gwelir uchod mai Ieuan oedd enw ewythr a thaid Siôn, ill dau’n feibion hynaf. Yn y cenedlaethau i ddod, byddai mwy nag un Siôn neu John Edwards yn fab hynaf yn y teulu (gw. ByCy Arlein s.n. Edwards, Edwardes (Teulu), Chirkland). Siôn Edward neu Siôn Wyn oedd enw mab hynaf Siôn yn ogystal, ac ategir hyn gan y drefn yr enwir y meibion ym marwnad Gutun Owain iddo (GO LVI.38, 40): Siôn Wyn, Wiliam, Edward a Dafydd. (Gwelwyd wrth drafod teulu Edward ap Dafydd fod y beirdd, fel achyddwyr, yn tueddu i enwi plant yn nhrefn eu hoedran.) Mae’n bosibl i Siôn Wyn farw’n weddol ifanc, oherwydd Wiliam oedd arglwydd Plasnewydd pan ganodd Tudur Aled yno (TA cerdd LXIII).
Y canu iddo
Dadleuwyd fod cywydd Guto i Siôn wedi ei ganu ychydig ar ôl ei ddychweliad o frwydr Bosworth yn 1485 (gw. nodyn cefndir cerdd 107). Tystia Guto mewn dwy gerdd a ganodd yn ystod abadaeth Dafydd ab Ieuan yng Nglyn-y-groes (c.1480 ymlaen) mai Siôn oedd un o’i brif noddwyr yn y cyfnod diweddar hwn yn ei yrfa (gw. 108.27–30 a 117.57–8 Siôn Edward, nis newidiaf / Er dau o’r ieirll, i’w dai ’r af). Gan na chyfeirir at Ednyfed, brawd Siôn, gan Gutun Owain, Deio ab Ieuan Du na Guto (a hynny’n ôl pob tebyg am iddo farw’n ifanc a di-blant, Bowen 1992: 142), gallwn dybio bod cywydd Hywel Cilan i’r ddau frawd i’w ddyddio ynghynt na’r cerddi eraill. Cyfeiria Hywel at Siôn ac Ednyfed fel Dau etifedd i feddu / Ar wŷr a thir Iorwerth Ddu (GHC XXI.11–12), ond erbyn i Gutun Owain ganu ei fawl, mae’n amlwg mai Siôn oedd y penteulu: Tir Ierwerth yw’r tav ’r owron. / Tref tad ytt yw’r wlad lydan (GO LV.12–13). Awgryma Gutun ymhellach fod Siôn erbyn hyn wedi dechrau planta: Duw tyved dy etivedd (LV.40). Ymddengys mai cywydd i bâr ifanc hefyd yw cywydd mawl Deio ab Ieuan Du i Siôn a Gwenhwyfar, oherwydd cyfeirir at eu cartref yn y Waun fel Plas Ierwerth ac fel Plas Catrin (GDID 14.45, 46), sef enwau rhieni Siôn (gthg. ibid. 139, lle awgrymir mai cyfeiriad at chwaer Siôn yw Catrin). Efallai y canwyd y gerdd honno’n fuan wedi i Siôn ddod i’w etifeddiaeth lawn ac iddo ef a Gwenhwyfar ymsefydlu fel pâr priod ym Mhlasnewydd. Yn ei farwnad i Siôn ar ddiwedd y ganrif, cyfeiria Gutun Owain at alar ei wyth plentyn: Pedair merched tyledyw (nas henwir, GO LVII.41), a’r pedwar mab (a enwyd uchod).
Gwenhwyfar ferch Elis Eutun
Priododd Siôn â Gwenhwyfar ferch Elis ap Siôn Eutun. Mam Gwenhwyfar oedd Angharad ferch Madog Pilstwn. Cyfeiria Guto, Gutun Owain a Deio ab Ieuan Du ati fel merch Elis (107.23, GO LVI.28, GDID 14.36), ond cyfeiria Deio yn ogystal at ei thaid, Siôn Eutun, a’i nain, Gwenhwyfar ferch Einion ab Ithel, yr enwyd Gwenhwyfar ar ei hôl (GDID 14.40, 41). Mae Guto a Deio ab Ieuan Du hefyd yn chwarae â’r syniad mai Gwenhwyfar oedd enw gwraig y Brenin Arthur, gan gymharu’r lletygarwch ym Mhlasnewydd ag eiddo llys Arthur. Bu farw Gwenhwyfar yn 1520 yn ôl cofnod yn Pen 287, 67.
Plasnewydd
Nid enwir cartref Siôn gan Guto, Gutun Owain na chan Hywel Cilan (er bod Guto a Gutun Owain yn cyfeirio at y lle fel plas, o bosibl wrth chwarae ar yr enw Plasnewydd). Fe’i lleolir gan Guto dan y castell (107.17), a gallwn fod yn hyderus mai ym Mhlasnewydd y trigai, a leolir ychydig islaw castell y Waun yn nhrefgordd Gwernosbynt. Wrth foli mab Siôn, Wiliam Edward, lleola Tudur Aled yntau’r cartref Is y castell (TA LXIII.77), ac mae Lewys Môn yn cadarnhau i sicrwydd mai Plasnewydd oedd enw cartref Wiliam (GLM LXXIV.8 Palis nawoes Plasnewydd).
Esbonia Pratt (1996: 10) fod y safle hwn wedi bod yn gartref i uchelwyr ers oes y tywysogion: ‘This moated site was of quasi manorial status, the home of high-born native Welshmen … who held, or farmed, important administrative positions under both the Welsh princes of Powys Fadog and the English lords of Chirk’. Bu’r llys ym meddiant teulu Siôn ers cenedlaethau. Yn arolwg 1391 o’r Waun nodir bod Iorwerth Ddu (gorhendaid Siôn) a’i frawd Ieuan yn berchen ar drefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 8–9; Pratt 1997: 37). Ar farwolaeth Ieuan ab Adda yn 1448, ‘Ieuan Fychan inherited Pengwern while to Iorwerth ab Ieuan fell the estates in Gwernosbynt and adjacent townships’ (Pratt 1996: 15). Gwnaeth Iorwerth gryn dipyn o waith ailadeiladu ar y cartref, fel y gwnaeth ei ŵyr, Wiliam Edward, yn ddiweddarach ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar bymtheg (ibid. 15–16). Tybed ai yn sgil gwaith un o’r ddau hyn y rhoddwyd yr enw Plasnewydd ar y llys? Fodd bynnag, awgrymodd Pratt (1996: 14–15) y gall mai yn ystod amser Iorwerth Foel, tad Ednyfed Gam, ym mlynyddoedd olaf y drydedd ganrif ar ddeg, y rhoddwyd yr enw hwnnw ar y tŷ, pan dderbyniodd Iorwerth drefgordd Gwernosbynt dan les gan Roger Mortimer.
Gyrfa a dyddiadau
Ceir y cofnod cynharaf at Siôn mewn gweithred wedi ei dyddio 21 Medi 1474, yn cofnodi trosglwyddo tir gan Wiliam Eutun iddo. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif roedd Siôn yn dal swydd fel rysyfwr yn y Waun o dan Syr William Stanley, yn ogystal â swydd prif fforestydd arglwyddiaeth y Waun (Jones 1933: xiv; ByCy Arlein s.n. Edwards, Edwardes (Teulu), Chirkland). Y tebyg yw mai cyfeirio at ddyletswyddau gweinyddol o’r fath a wna Guto wrth ei alw’n Noter gwŷr yn y tair gwart (107.29). Ar 3 Chwefror 1489, ceir dogfen arall yn cofnodi trosglwyddo tir iddo yn nhrefgordd y Waun gan ŵr o’r enw Hywel ap Deicws. Bu farw Siôn yn 1498 (Pen 287, 67), a hynny, yn ôl tystiolaeth Gutun Owain, ar Ddifiau Dyrchafael yn y flwyddyn honno (LVI.10, 25).
Dysg
Gwyddom o dystiolaeth llawysgrifau yn llaw Siôn ei hun fod ganddo ddiddordebau ysgolheigaidd, ac felly byddem yn disgwyl gweld canmol ar ei ddysg yng ngherddi’r tri bardd a ganodd iddo. Fodd bynnag, ei allu i gadw cyfraith a threfn yn swydd y Waun ynghyd â’i letygarwch sy’n cael sylw gan y beirdd. Ac eithrio ei alw’n noter gwŷr (sydd, mewn gwirionedd, yn debygol o fod yn gyfeiriad at ei ddyletswyddau gweinyddol), nid oes unrhyw awgrym ganddynt iddo ymddiddori mewn dysg fel y cyfryw (yn wahanol i ddisgrifiad Guto o ddiddordebau ysgolheigaidd Edward ap Dafydd a’i fab Siôn Trefor (104.25–6, 43–4n), yn ogystal â disgrifiad Gutun Owain o ddysg Robert ap Siôn Trefor, GO XXXVIII.27–34). Yn LlGC 423D ceir gramadeg Lladin wedi ei ysgrifennu gan Siôn yn y 1480au, yn ôl pob tebyg ar gyfer ei fab, Siôn Wyn (gw. RepWM dan NLW 423D). Ychwanegodd Siôn Wyn, yn ei dro, ambell air Saesneg uwchben rhai geiriau Lladin, ac mewn ambell fan arwyddodd ei enw (e.e. Joh[ann]es Wyn[n] a Nomen scriptoris Johannes plenus amoris), a cheir ganddo ymarferion ysgrifennu. Disgrifir cynnwys y llawysgrif hon fel ‘Latin verses giving lists of verbs, glossed extensively in English; verse vocabulary of words for parts of the body, again for house¬hold words, treatise on orthography and grammar’ (Thomson 1979: 105–13). Awgryma Thomson (1982: 77) fod y ddysg hon, a’i phwyslais ar ramadeg a chystrawen, yn nodweddiadol o addysg brifysgol yn y cyfnod, a’i bod i’w chysylltu’n arbennig â gŵr o’r enw John Leylond (m. 1428) o Brifysgol Rhydychen (DNB Online s.n. Leylond, John). Mae’n ddigon posibl fod Siôn wedi derbyn addysg brifysgol o’r fath, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu hynny ac eithrio natur ei ddiddordebau ysgolheigaidd.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1992), ‘I Wiliam ap Siôn Edwart, Cwnstabl y Waun’, YB XVIII: 137–59
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Morgan, T.J., and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
Pratt, D. (1996), ‘New Hall Moated Site, Chirk’, TCHSDd 45: 7–20
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Thomson, D. (1979), A Descriptive Catalogue of Middle English Grammatical Texts (New York)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80