Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn deg llawysgrif. Mae pob copi yn debyg iawn i’w gilydd ac awgryma’r darlleniad anghywir win yn llinell 30 eu bod oll yn tarddu o un gynsail wallus. Perthyn copïau Wmffre Dafis (LlGC 3056D a Brog I.2) a Pen 99 yn agos i’w gilydd. Perthyn C 4.101 a Pen 198 hefyd yn agos i’w gilydd (collwyd llinellau 39–40 ynddynt), ac er mai copi diweddar iawn yw Pen 198, mae’n rhagori ar C 4.101 mewn mannau. Saif LlGC 2030B ychydig ar wahân. Rhoddwyd ystyriaeth i bob un o’r copïau hyn, ond diystyrwyd y copïau sy’n tarddu ohonynt. Nid oedd y gynsail mewn cyflwr gwych. Ymddengys fod llinellau 30, 60, 68 a 72 yn wallus ynddi, ac efallai 16.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3056D, LlGC 2030B, Pen 198.
1 fu LlGC 2030B yw, yn y copïau eraill fu.
9 arwydd Felly C 4.101, Pen 198, LlGC 2030B; gthg. arglwydd yng nghopïau Wmffre Dafis ac yn Pen 99. O ran yr ystyr, arwydd yw’r darlleniad y mae’n rhaid ei dderbyn.
16 roswydd Felly pob llawysgrif ond Pen 99, lle cywirwyd y darlleniad hwn yn ryswydd. Mae’n demtasiwn gref derbyn ryswydd yma. Ni cheir enghraifft o roswydd yn ôl GPC 3097 tan ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Ar y llaw arall, defnyddia Hywel Dafi y gair rhyswydd i gynganeddu â Syr Rhosier, gw. GPC 3143. Hefyd mae rhyswydd ‘mangoed’ yn well o ran ystyr. Yn yr Oesoedd Canol rheolid y rhan fwyaf o’r coedwigoedd ar gyfer cynhyrchu pren adeiladu ar y naill law, a chynnud tân ar y llall. Tueddid i neilltuo’r coed derw ar gyfer y cyntaf o’r rhain, a gadael iddynt dyfu’n aeddfed cyn eu cwympo: dyma, felly, yr arglwyddi a gwympwyd ar eu hanterth yma. Byddai’r mangoed, y rhyswydd, ar y llaw arall, yn cael eu tocio’n rheolaidd ar gyfer cynnud tân, ond byddent yn tyfu’n ôl toc, fel mae meibion Syr Rhosier Fychan yn tyfu yn awr. Gw. Rackham 2002: 8–10, 67. Ond yn wyneb unfrydedd y llawysgrifau, rhaid cadw roswydd. Nid oes sail yn y llawysgrifau ar gyfer GGl 150 yswydd.
17 â gwaed Felly pob llawysgrif ond C 4.101 o goed. Gweddai’r darlleniad olaf hwn yn dda yn y cyd-destun, gan y sonnir am eilwydd yn 18. Ond gan fod a gwaed yn Pen 198 a’r copïau eraill, rhaid mai dyna a geid yng nghynsail C 4.101 a Pen 198 a hefyd yn y gynsail gynharach sydd y tu ôl i’r copïau i gyd. Gwelliant ar ran copïydd C 4.101, mae’n debygol, yw o goed.
19 iarll Felly’r llawysgrifau ond LlGC 3056D arglwydd, na ellir ei dderbyn o ran hyd y llinell na’r gynghanedd.
30 lin Llawysgrifau win. Nid yw hyn yn rhoi synnwyr na chynghanedd gywir. Diwygir yn lin, sy’n foddhaol ar y ddau gyfrif. Hawdd fyddai i lin droi’n win dan ddylanwad y gyfatebiaeth gynganeddol â weilch yn hanner cyntaf y llinell. Sylwodd copïwyr Pen 99 a C 4.101 ar y broblem a newid aml yn am, ond er bod hynny’n gwella’r gynghanedd, nid yw’r ystyr yn foddhaol.
34 a’r Mae pob copi yn cynnig ar. Er hynny, mae’r ystyr yn aneglur ac mae’n demtasiwn diwygio hyn yn er.
35 twrment Darlleniad yr holl lawysgrifau. Fe’i dehonglir yn amrywiad ar torment1, gw. GPC 3530 a 3662. Yn GGl 151 diwygiwyd ef yn torment.
37 och Felly’r llawysgrifau. Ni ellir dehongli och yn o + ’ch, oherwydd nid oedd yn arferol defnyddio’r rhagenwau mewnol mewn ystyr dderbyniol erbyn amser Guto’r Glyn, gw. GMW 57, a bid a fo am hynny, ceir ywch yn nes ymlaen yn y llinell. Yn GGl 151 diwygiwyd yn o, gan droi’r gynghanedd groes yn gynghanedd draws. Gwir na fyddai’n syndod i o wreiddiol droi yn och er mwyn cael cynghanedd gyflawnach, ond gan fod darlleniad y llawysgrifau yn ddealladwy ac yn rhoi cynghanedd gywir, mae’n rhaid ei dderbyn. Ebychiad digon negyddol yw och gan mwyaf, ond gwedda hynny yma. Mae’r bardd yn bradychu cryn anesmwythyd ynglŷn ag ymarweddiad yr iarll newydd.
40 yr Felly LlGC 3056D, Pen 99; gthg. ar Brog I.2 a LlGC 2030B. Ni cheir llinellau 39–40 yn C 4.101 a Pen 198. O ddilyn yr ail ddarlleniad gellid A’th roi eilwaith ar olwyn, ond ergyd delwedd olwyn ffawd yw bod pawb eisoes ar yr olwyn drwy’r amser.
46 deiroes Felly’r llawysgrifau ac eithrio C 4.101 hiroes (cf. GGl 151).
56 air … er Felly C 4.101 a Pen 198; eir yw’r gair cyntaf yn LlGC 2030B; Pen 99 a chopïau Wmffre Dafis er … er, a ddilynwyd yn GGl 151. Byddai ailadrodd er ychydig yn chwithig yma. Gellid ei dderbyn o gymryd mai flodeuyn yn 55 yw gwrthrych ennill (‘cenhedla dithau flodeuyn o fab’, gw. GPC 1216 (2) am yr ystyr ‘cenhedlu’). Ond mae derbyn air o C 4.101 a Pen 198 yn creu cwpled esmwythach o dipyn, ac fe’i hategir gan LlGC 2030B eir. Dichon mai eir a oedd yn y gynsail: hawdd fyddai i hwnnw droi’n er.
57 gado Felly’r llawysgrifau. Ffurf ail unigol orchmynnol y ferf gadawaf yw hon, ac -aw wedi troi’n -o, nid berfenw. Nid oes sail yn y llawysgrifau ar gyfer Cado GGl 151.
60 aerwya’r Ymddengys fod y darlleniad yn llwgr ym mhob llawysgrif: LlGC 3056D, Brog I.2 a Pen 99 arwya/r, C 4.101 ar wyra, Pen 198 ar wyer, LlGC 2030B arwyar. Dichon mai arwyar oedd yn y gynsail wallus. Nid yw ar wyar yn rhoi synnwyr da. Cynnig GGl 151 Iarll hydr ar wŷr a lladron, diwygiad nad yw’n argyhoeddi o ran ystyr. Gwell fyddai cael rhyw ferf yn y modd gorchmynnol yma, a’r diwygiad sy’n ymgynnig yw aerwya’r. Gwir na nodir enghraifft o’r ferf hon yn GPC2 91 cyn 1707, ond digon hawdd fyddai ei bathu o’r enw aerwy a ddefnyddir gan Guto yn 24.34.
68 bordir LlGC 3056D brodvr, Brog I.2 brodir, Pen 99 a LlGC 2030B brodyr, C 4.101 bradxxyr (ni allaf ddarllen na’r llythyren wreiddiol na’r cywiriad yn hyderus), Pen 198 brodîr. Nid yw’n sicr pa beth a geid yng nghynsail gyffredin y copïau hyn, efallai brodyr, sef y darlleniad a dderbyniwyd yn GGl 151 (ond yn GGl 343 awgrymir darllen bordor yma ar gyfer y gynghanedd). Yn sicr mae’r gynghanedd yn mynnu gwrthod pob un o’r darlleniadau hyn, er y byddai brodir neu bradwyr (ond go brin brodyr) yn rhoi synnwyr da. Gwell derbyn bod rhyw ffurf ar y gair Saesneg border yma. Nodir bordir a bordor, border, bordr fel dau air gwahanol yn GPC 301. Dewiswyd bordir yn y testun golygedig oherwydd tebygrwydd y llinell hon i enghraifft gan y bardd Hywel Dafi yn Pen 67, 67 llwyn o gaer llion a gaid / llawr bordir llv herberdyaid. Cywydd i Harri Mil, etifedd Harri Gruffudd o Euas yw hwn, ac felly ychydig yn ddiweddarach na chywydd Guto yn ôl pob tebyg (gw. Harri Gruffudd).
72 Siesu Dyma’r orgraff yn Pen 99; Iesv a geir yn y copïau eraill. Gall fod I neu J yn y gynsail yn cyfleu’r un sain ag a geir yn Pen 99 beth bynnag, ond bid a fo am hynny, mae’r gynghanedd yn mynnu cael Siesu yma.
73 ddialwr Treiglir y gair yn Pen 99, C 4.101 a Pen 198 ond nid yn y copïau eraill, ac felly’n ôl pob tebyg nid yn y gynsail. Mae treiglad yn arferol ar ôl y ffurf orchmynnol bydd yn ôl TC 314.
Llyfryddiaeth
Rackam, O. (2002), Trees and Woodland in the British Landscape (second edition, London)
Cywydd yw hwn i Wiliam Herbert, ail iarll Penfro. Ymddengys fod meibion Syr Rhosier Fychan o Dretŵr yn bresennol hefyd (llinellau 29–30). Ar ddechrau’r cywydd mae’r bardd yn rhyfeddu wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau erchyll y cyfnod 1469–71, yn enwedig marwolaeth yr iarll cyntaf yn 1469 a dienyddiad Syr Rhosier Fychan ym Mai 1471. Cymherir y ddau frad hyn ag enghraifft nodedig arall o dwyll y Saeson (gw. 3–5n), a phriodolir yr helbul i ddicter Crist. Yna mae’r bardd yn taro nodyn mwy gobeithlon, gan nodi bod Wiliam Herbert a Syr Rhosier ill dau wedi gadael etifeddion pybyr. Anogir yr iarll ifanc (roedd tuag 16 oed adeg canu’r cywydd hwn) i ddial ar wŷr Fforest y Ddena. Efallai y bu i’r rhain ryw ran ym marwolaeth Syr Rhosier. Yn sgil brwydr fuddugoliaethus Tewkesbury anfonodd Edward IV ef i Gas-gwent i ddal Siasbar Tudur. Diau, felly, ei fod wedi mynd drwy’r Fforest ar ei ffordd yno, a gallwn ddyfalu bod rhywrai yno rywsut wedi helpu Siasbar i gael gafael ar Syr Rhosier a’i ddienyddio yng Nghas-gwent. Ar y llaw arall mae Hywel Swrdwal yn crybwyll gwŷr y Fforest (GHS 7.46) fel petaent â rhyw ran yn nhranc Wiliam Herbert I. Mae’r ddau fardd yn cystwyo Caerloyw hefyd (34; GHS 7.50). Ymddengys, felly, fod gwreiddiau’r elyniaeth rhwng cylch yr Herbertiaid a gwŷr swydd Gaerloyw yn mynd yn ôl yn bellach na 1471.
Digon dryslyd i ni heddiw, heb wybodaeth fanwl o’r digwyddiadau, yw’r modd y mae Guto yn gwibio rhwng annog yr iarll i ddial marwolaeth ei dad a’i ewythr a dathlu’r gosb a dalwyd eisoes gan y drwgweithredwyr. Noda Guto fod y dial ar y bradwyr eisoes wedi digwydd (23–4). Nid yw’n eglur beth a olygir yma: go brin y cyfeirir at fuddugoliaethau Edward yn Barnet a Tewkesbury, oherwydd digwyddodd y rhain cyn marwolaeth Syr Rhosier, ac fe awgryma 35–6 mai rhyw ddial ar ôl y farwolaeth honno a ddisgrifir. Bid a fo am hynny, ymddengys nad yw’r dial yn ddigon i ryngu bodd y bardd, ac mae’n deisyfu gweld rhagor (29–36).
Yna mae’r cywair yn newid yn sylweddol a throir i gynghori’r iarll ifanc ynglŷn â’i ymddygiad cyffredinol. Mae Guto’n lleisio cryn anesmwythyd am draha a phenrhyddid ei noddwr, gan ei annog i ystyried enghraifft iarll Warwick, a laddwyd ym mrwydr Barnet, fel achos o arglwydd trahaus a gosbwyd yn haeddiannol. Awgrymir bod yr iarll yn rhy gaeth i gyngor gwŷr ifainc penboeth (57–8). Wedi’r rhybuddion digon diflewyn-ar-dafod hyn, mae Guto yn gorffen drwy frolio Herbert a’i berthnasau a thrwy fynegi ei hyder y bydd Edward IV yn rhoi iddynt y wobr y maent yn ei haeddu, sef awdurdod dros ardal y ffin. Mae’r cwpled olaf yn atgoffa’r iarll am yr angen am ddial unwaith yn rhagor. Mae’r gerdd yn dystiolaeth werthfawr i’r ffaith fod problemau’r 1470au – diffyg awdurdod Wiliam Herbert, yr helyntion y bu gan yr Herbertiaid ran fawr yddynt ac a arweiniodd yn y diwedd at eu hymddieithriad oddi wrth Edward IV – yn cael eu rhag-weld mor gynnar â 1471.
Dyddiad
Ar ôl marwolaeth Syr Rhosier Fychan ym Mai 1471. Gan fod y bardd yn edrych ymlaen at yr Ystwyll (32), dichon mai amser Nadolig 1471/2 y’i canwyd.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LVI; Lewis 1982: cerdd 37.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 74 llinell.
Cynghanedd: croes 49% (36 llinell), traws 28% (21 llinell), sain 22% (16 llinell), llusg 1% (1 llinell).
1 tair blynedd 1469–71.
3 cyllyll Cyfeirir at ‘Brad y Cyllyll Hirion’, digwyddiad chwedlonol y ceir y cnewyllyn ohono eisoes yn yr ‘Historia Brittonum’ yn y nawfed ganrif. Yn oes Gwrtheyrn, gwahoddwyd pendefigion y Brythoniaid i wledd gyda’r Saeson dan arweiniad Hengest. Cuddiodd y Saeson gyllyll yn eu hosanau, a phan oedd y Brythoniaid yn gloddesta tynnodd y Saeson eu cyllyll a’u lladd hwy i gyd. Ymddengys mai Sieffre o Fynwy oedd y cyntaf i leoli’r brad yng Nghaersallog. Am fersiwn Cymraeg Canol o’r hanes, gw. Parry 1937: 118–19.
6 un twyll Yr arfer yw treiglo unrhyw enw ar ôl un yn yr ystyr ‘tebyg, cyffelyb’, gw. TC 39 a’r nodyn godre yno, lle awgrymir darllen dwyll yn y llinell hon (fel yn Brog I.2). Mae’n wir fod Guto yn cynganeddu nd ac nt (gw. CD 219), ond mae’r llawysgrifau o blaid cadw t- ac nid yw’n bosibl diwygio’r ffurf gyfatebol unbrad yn llinell 8 (ond gw. 7–8n isod).
6 Castell Gwent Cas-gwent, lle dienyddiwyd Syr Rhosier Fychan gan Siasbar Tudur yn 1471.
7–8 ti, / … unbrad Cyfeiria ti at y brad yng Nghas-gwent, a dywedir mai brwydr Banbri’n unig oedd yn gyffelyb iddo. Yn ramadegol gallai ti gyfeirio ymlaen at Banbri, a gellid aralleirio 8 yn ‘Ni fu brad erioed ond Banbri’. Byddai hynny’n fwy cyson â’r diffyg treiglad yn unbrad (gw. 6n). Ond mae’r ystyr yn anodd ei derbyn yng ngoleuni dicter y bardd am ladd Syr Rhosier Fychan.
8 Banbri Brwydr Banbri (Banbury) neu Edgecote yn swydd Northampton, 24 Gorffennaf 1469. Ar ôl y frwydr dienyddiwyd Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, a’i frawd Syr Rhisiart Herbert, dau o noddwyr pwysicaf Guto.
13 bro Deirgwent Cyfrifai’r beirdd dair Gwent, gw. Evans 2008: 283–4. Y tebyg yw mai arglwyddiaethau Cas-gwent, Brynbuga (gyda Chaerllion) a’r Fenni yw’r rhain. Ymddengys fod Trefynwy a’r Tri Chastell heb eu cyfrif yn ôl y dull hwn. Cf. 69n.
17 Dafydd Gam Marchog o Aberhonddu a laddwyd ym mrwydr Agincourt yn 1415. Ef oedd taid Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, a Syr Rhosier Fychan, ar ochr eu mam, Gwladus Gam. Gwaed Dafydd Gam, felly, sydd gan yr Herbertiaid a’r Fychaniaid fel ei gilydd.
21 Fforest y Dên Fforest y Ddena, yng ngorllewin swydd Gaerloyw ac yn agos i’r ffin rhwng Gwent a Lloegr.
22 Rhonwen Merch Hengest, gw. 3n. Priododd â Gwrtheyrn yn ôl y chwedl. Ystyr cyff Rhonwen yw ‘Saeson’.
23 troes tâl Mae’r bardd yn newid yn sydyn i’r amser gorffennol. Efallai ei fod yn cyfeirio at fuddugoliaethau Edward IV yn 1471 yn Barnet a Tewkesbury, ond mwy tebygol yw cyfeiriad at ryw ddial a gafwyd ar ôl lladd Syr Rhosier Fychan. Diau fod llei treisiwyd dy wŷr yn cyfeirio at Loegr yn gyffredinol. Os felly, brwydr Edgecote fyddai ym meddwl y bardd yn benodol. Ond gall mai rhyw ddigwyddiad arall a goffeir.
25–6 Meistr Tomas … / Mab Rhosier Mab hynaf Syr Rhosier Fychan, gw. DNB Online s.n. Vaughan family. Noddai’r beirdd yn helaeth.
27 gwerin … wŷr At filwyr cyffredin y mae gwerin yn cyfeirio, felly dichon mai milwyr uwch eu statws yw gwŷr yma, sef y gwŷr arfog (Saesneg ‘men-at-arms’), gw. 4.42n.
29 achau Godwin Hawliai’r Herbertiaid eu bod yn disgyn o Godwin ‘iarll Cernyw’, gw. WG1 ‘Godwin’ 1.
30 aml weilch Dafydd Gam Sef yr Herbertiaid a’r Fychaniaid gyda’i gilydd, gw. 17n.
32 Fforestwyr Trigolion Fforest y Ddena, cf. 21n.
32 ffair Ystwyll 6 Ionawr yw Ystwyll, felly dyma awgrym fod y cywydd wedi ei ganu rywbryd yn ystod tymor y Nadolig.
33 galanas Gelyniaeth yn sgil lladd perthynas waed yw galanas, gw. GPC 1373.
34 a’r gwŷr a las Mae’n anodd deall hyn: ai ffordd gryno iawn o ddweud ‘ac [i’r man lle] y lladdwyd y gwŷr’? Efallai y dylid diwygio yn er gwŷr a las.
40 yr olwyn Olwyn ffawd, delwedd gyfarwydd iawn yn yr Oesoedd Canol. Mae pawb, yr uchel a’r isel eu byd, ar yr olwyn, sy’n troi’n ddisyfyd a bwrw’r rhai da eu byd i’r gwaelod. Rhybudd yn erbyn balchder bydol ydyw.
43–4 balchder … / … Brytaniaid Cred gyffredin yn yr Oesoedd Canol (a rannwyd gan Gymry a Saeson fel ei gilydd) oedd mai cosb oddi wrth Dduw am falchder y Brythoniaid oedd dyfodiad y Saeson i’r ynys a’r ffaith eu bod yn teyrnasu yn Llundain.
50 Warwig Richard Neville, iarll Warwick, a fuasai’n gyfrifol am ddienyddio tad gwrthrych y gerdd hon yn 1469. Lladdwyd ef ym mrwydr Barnet, 14 Ebrill 1471.
53 Penbrwg Defnyddir y ffurf Saesneg er mwyn y gynghanedd.
53 Morgannwg Roedd Morgannwg wedi perthyn i iarll Warwick, a oedd bellach yn farw. Y tebyg yw ei bod eisoes yn asgwrn cynnen rhwng dau frawd y brenin, sef George, dug Clarence, a Richard, dug Iorc, gw. Pugh 1971: 199–200. Efallai fod Guto’n gweld llygedyn o obaith y gallai Wiliam Herbert II chwarae rhyw rôl yno.
53 garllaw Hafren Ai Gwent a olygir?
62 dilyd Berfenw yn unig yn ôl GPC 1015 d.g. dilynaf, ond nodir enghreifftiau o’r ffurf fel trydydd unigol presennol yn G 354 d.g. dilit2.
63 gofal Gair amwys, gw. GPC 1428 am y gwahanol ystyron. Y tebyg yw ei fod yn cyfeirio yma at yr hyn y mae’r Cymry a Saeson y Gogledd am ei weld (sef heddwch a chyfiawnder o dan Edward IV, gw. y llinellau nesaf). Gall hefyd mai ‘gofid’ yw’r ystyr, yn uno Cymru a Gogledd Lloegr, felly, yn eu dioddefaint yn ystod helbulon 1469–71. Neu gellid hefyd gofal yn yr ystyr ‘gofalu, gwarchodaeth’, a bersonolir yn yr iarll ifanc.
64 Mae’r Nordd a Chymru yn un Sylw trawiadol o gofio mai o ogledd Lloegr y daeth gwrthryfelwyr 1469. Mae’r bardd yn pwysleisio bod gogledd Lloegr bellach, fel Cymru, yn ufudd i Edward IV.
65 tair talaith Cyfeiriad tebygol at deitl swyddogol Edward IV, Edwardus Dei gratia rex Angliae et Franciae, dominus Hiberniae (Edward drwy ras Duw brenin Lloegr a Ffrainc, arglwydd Iwerddon). Gall talaith olygu’r tir a reolir yn ogystal â’r benwisg sy’n dynodi’r rheolwr, gw. GPC 3426–7. Llai tebygol yw Lloegr, Cymru a’r Alban, neu dair rhanbarth Cymru (Gwynedd, Powys a Deheubarth).
67 plant Ganed mab i Edward IV ar 2 Tachwedd 1470, tra oedd yntau ar ffo ar y Cyfandir a’i wraig yn noddfa San Steffan, gw. Ross 1974: 166. Ganed ei ail fab yn 1473 (Ross 1974: 248). Gan fod y cywydd yn sôn yn benodol am y tair blynedd 1469–71, diau fod plant yn cynnwys merched hynaf Edward, Anne a Cecily, a aned yn 1466 a 1469 (Ross 1974: 6).
68 bordir Benthyciad o’r Saesneg border, gw. GPC 301.
69 Dwywent Gellid rhannu Gwent yn ddau gantref, sef Is Coed ac Uwch Coed, yn ogystal â chyfrif tair Gwent fel yn llinell 13.
71–2 Llwyth yr Israel … / Llwyth Siesu Yr ergyd yw eu bod yn dra niferus, fel deuddeg llwyth Israel y Beibl, ond hefyd eu bod wedi cael ffafr Duw, fel yr oedd yr Israeliaid.
74 d’ewythr Syr Rhosier Fychan, hanner brawd i dad yr iarll (anwybydder y nodyn yn GGl 343 sydd wedi drysu rhyngddo a’r Syr Rhosier Fychan a fu farw yn 1415).
Llyfryddiaeth
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Parry, J.J. (1937) (ed.), Brut y Breninedd: Cotton Cleopatra Version (Cambridge, Massachussetts)
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
This is a poem for William Herbert, the second earl of Pembroke. It appears that the sons of Sir Roger Vaughan of Tretower were also present (lines 29–30). At the beginning of the poem Guto marvels in recalling the awful events of the years 1469–71, especially the death of the first earl in 1469 and the execution of Sir Roger Vaughan in May 1471. These two betrayals are compared with another noteworthy example of English treachery (see 3–5n) and the whole miserable business is attributed to Christ’s anger. Then the poet strikes a more hopeful note, observing that both William Herbert and Sir Roger have left worthy heirs. The young earl (he was about 16 years old at the time) is urged to exact revenge against the men of the Forest of Dean. It may be that they had some part in Sir Roger’s death. Following the victory at Tewkesbury Edward IV sent him to apprehend Jasper Tudor at Chepstow. He must surely, therefore, have passed through the Forest on his way, and we may guess that somebody there must have helped Jasper Tudor to get hold of Sir Roger and execute him at Chepstow. On the other hand the poet Hywel Swrdwal mentions the ‘men of the Forest’ (GHS 7.46) as if they had some part in the fall of William Herbert I. Both poets also attack Gloucester (34; GHS 7.50). It seems, therefore, that the enmity between the Herbert affinity and the men of Gloucestershire goes back further than 1471.
For modern readers, faced with a lack of detailed knowledge of these events, the way in which the poet alternates between urging the young earl to vengeance for the death of his father and uncle and celebrating the revenge which the wrongdoers have already suffered is quite confusing. Guto notes that some vengeance has already been exacted (23–4). It is unclear what he means here: probably not Edward’s victories at Barnet and Tewkesbury, for these occurred before Sir Roger Vaughan’s death, and 35–6 suggest that what is being described is some other vengeance after the death. Whatever the case, it appears not to be enough to satisfy the poet, who yearns to see more (29–36).
Next the tone changes noticeably and Guto turns to counselling the young earl as to his general behaviour. Guto voices no little discomfort here about the earl’s arrogance and lack of restraint, urging him to think about the earl of Warwick, who was killed at Barnet, as an example of a lord whose overbearing pride was justly punished. There is a suggestion that the earl is too beholden to the advice of headstrong young men (57–8). After these fairly plain-spoken warnings, Guto concludes by praising Herbert and his kin and expresses his conviction that Edward IV will reward them with the prize which they deserve, namely authority over the border region. The final couplet again urges the earl to remember the unfinished business of revenge. This poem is valuable evidence that the problems of the 1470s – William Herbert’s lack of authority and the Herberts’ involvement in disturbances, which would lead to an estrangement between them and Edward IV – were being foreseen as early as 1471.
Date
After the death of Sir Roger Vaughan in May 1471. Since the poet looks forward to Epiphany (32), it was probably performed about Christmas 1471/2.
The manuscripts
This poem is found in ten manuscripts. All the copies are very similar and there is a shared error in 30 (win for lin) which indicates that they all derive from a shared, faulty exemplar. Humphrey Davies’s copies (LlGC 3056D and Brog I.2) and Pen 99 belong closely together. C 4.101 and Pen 198 also belong closely together (both have lost lines 39–40), and although Pen 198 is a very late witness, it is superior to C 4.101 in places. LlGC 2030B stands slightly apart. Each of these copies was considered, but the rest all derive from them and were ignored. The exemplar itself was not perfect: it appears that lines 30, 60, 68 and 72 were faulty, and perhaps 16 too.
Previous editions
GGl poem LVI; Lewis 1982: poem 37.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 74 lines.
Cynghanedd: croes 49% (36 lines), traws 28% (21 lines), sain 22% (16 lines), llusg 1% (1 line).
1 tair blynedd The three years are 1469–71.
3 cyllyll This is a reference to the ‘Treachery of the Long Knives’, a legendary happening whose core is already related in the ninth-century ‘Historia Brittonum’. In the time of Vortigern, the chiefs of the Britons were invited to a feast with the Saxons led by Hengest. The Saxons concealed knives in their socks, and when the Britons were feasting, they drew their knives and killed all of them. It seems that Geoffrey of Monmouth was the first to locate the event in Salisbury. For a medieval Welsh telling of the tale, see Parry 1937: 118–19.
6 un twyll It is normal to lenite any noun following un in the meaning ‘like, similar’, see TC 39 and the footnote there which suggests reading dwyll in this line (as in Brog I.2). True, Guto accepts nd and nt as a correspondence in cynghanedd (see CD 219), but the manuscripts favour keeping t- and it is not possible to emend the comparable form unbrad in line 8 (but see 7–8n below).
6 Castell Gwent Chepstow, the ‘castle of Gwent’; the Welsh name has now been shortened to Cas-gwent. Here Sir Roger Vaughan was executed by Jasper Tudor in 1471.
7–8 ti, / … unbrad ti refers to the treachery at Chepstow, and only Banbury is said to be equivalent. Grammatically ti could refer forwards to Banbri, and line 8 might mean ‘There was never any betrayal except Banbury’. That would be easier to reconcile with the lack of lenition in unbrad (see 6n). But the meaning is hardly compatible with the poet’s rage over the death of Roger Vaughan.
8 Banbri The battle of Banbury or Edgecote in Northamptonshire, 24 July 1469. After the battle William Herbert, first earl of Pembroke, and his brother Sir Richard Herbert, were executed. They were two of Guto’s most important patrons.
13 bro Deirgwent The poets counted three Gwents, see Evans 2008: 283–4. These are probably the lordships of Strigoil (or Chepstow), Usk (with Caerleon) and Abergavenny. Monmouth and the Three Castles appear to be outside this scheme. Cf. 69n.
17 Dafydd Gam A knight of Brecon killed at the battle of Agincourt in 1415. He was the grandfather of William Herbert, first earl of Pembroke, and Sir Roger Vaughan, through their mutual mother, Gwladus Gam. So both Herberts and Vaughans have the blood of Dafydd Gam.
21 Fforest y Dên The Forest of Dean, in west Gloucestershire and close to the border between Gwent and England.
22 Rhonwen Hengest’s daughter, see 3–5n. She married Vortigern according to the story. Cyff Rhonwen means ‘the English’.
23 troes tâl The poet unexpectedly switches to the past tense, perhaps referring to Edward IV’s victories in 1471 at Barnet and Tewkesbury, but more likely to some kind of vengeance exacted following the death of Sir Roger Vaughan. The phrase llei treisiwyd dy wŷr ‘in the place where violence was inflicted on your men’ probably covers England in general. If so, the specific reference would be to the battle of Edgecote (8n). But perhaps quite another event is meant.
25–6 Meistr Tomas … / Mab Rhosier The eldest son of Sir Roger Vaughan, see DNB (Online) s.n. Vaughan family. He was an important patron of Welsh poetry.
27 gwerin … wŷr gwerin refers to common soldiers, so gwŷr here probably refers to higher ranking ones, the ‘men-at-arms’, see 4.42n.
29 achau Godwin The Herberts claimed descent from a certain Godwin ‘earl of Cornwall’, see WG1 ‘Godwin’ 1.
30 aml weilch Dafydd Gam The Herberts and Vaughans together, see 17n.
32 Fforestwyr The inhabitants of the Forest of Dean, cf. 21n.
32 ffair Ystwyll Epiphany is 6 January, so this poem may well have been performed at some point in the Christmas season.
33 galanas Emnity which arises as a result of the murder of a kinsman, blood-feud, see GPC 1373.
34 a’r gwŷr a las This is hard to understand: is it a very abbreviated way of saying ‘and [to the place where] the men were killed’? Perhaps we should emend to er gwŷr a las ‘for the sake of men who were killed’.
40 yr olwyn The wheel of fortune, a very familiar image in the Middle Ages. Everyone, both high and low, is on the wheel, and it turns without warning to cast the prosperous down to the bottom. It is a warning against worldly pride.
43–4 balchder … / … Brytaniaid It was commonly believed in the Middle Ages (by both the Welsh and the English) that the coming of the English to the island and their rule in London came about as a divine punishment for the pride of the Britons.
50 Warwig Richard Neville earl of Warwick, who had been responsible for the execution of the father of the man addressed in this poem in 1469. He was killed at the battle of Barnet, 14 April 1471.
53 Penbrwg An approximation of the English form Pembroke is used to achieve cynghanedd.
53 Morgannwg Glamorgan had belonged to the earl of Warwick, who was now dead. It is likely that it was already a bone of contention between the king’s two brothers, George, duke of Clarence, and Richard, duke of York, see Pugh 1971: 199–200. Perhaps Guto has some hope that William Herbert II might play a role there.
53 garllaw Hafren Does ‘by the Severn’ refer to Gwent?
62 dilyd Only a verbal noun according to GPC 1015 s.v. dilynaf, but examples of it as a third singular present form are noted in G 354 s.v. dilit2.
63 gofal Ambiguous, see GPC 1428 for the various meanings. Here it most likely refers to what the Welsh and the Northern English desire to see (that is peace and justice under Edward IV, see the next lines). It might also mean ‘anxiety’, thus uniting Wales and Northern England in the sufferings of the years 1469–71. Or gofal might mean ‘care’ in the sense of ‘caring, protecting’, personified in the young earl.
64 Mae’r Nordd a Chymru yn un A striking sentiment when we recall that the rebels of 1469 came from the north of England. The poet emphasizes that northern England, like Wales, is now once more obedient to Edward IV.
65 tair talaith Probably a reference to Edward IV’s official style, Edwardus Dei gratia rex Angliae et Franciae, dominus Hiberniae (Edward by the grace of God king of England and France, lord of Ireland). Talaith can refer to a land as well as the diadem or crown which denotes its ruler, see GPC 3426–7. Less likely are England, Wales and Scotland, or the three regions of Wales (Gwynedd, Powys and Deheubarth).
67 plant A son was born to Edward IV on 2 November 1470, while he was in exile on the Continent and his wife was in sanctuary at Westminster, see Ross 1974: 166. His second son was born in 1473 (Ross 1974: 248). Since the poem refers specifically to the three years 1469–71, plant (plural) must include Edward’s eldest daughters, Anne and Cecily, who were born in 1466 and 1469 (Ross 1974: 6).
68 bordir A borrowing of English border, see GPC 301.
69 Dwywent Gwent could be divided into two cantrefs, Is Coed and Uwch Coed, as well as the threefold division metioned in 13.
71–2 Llwyth yr Israel … / Llwyth Siesu The point is that they are very numerous, like the twelve tribes of Israel mentioned in the Bible, but also that they have received divine favour like the Israelites.
74 d’ewythr The uncle is Sir Roger Vaughan, half-brother of the earl’s father (ignore the note in GGl 343 which confuses him with the Sir Roger Vaughan who died in 1415).
Bibliography
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Parry, J.J. (1937) (ed.), Brut y Breninedd: Cotton Cleopatra Version (Cambridge, Massachussetts)
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Dyma wrthrych cerdd 25, sef cywydd mawl a ganwyd c.1471 i ŵr ifanc nad oedd eto wedi dod i oed lawn. Cyn hynny roedd Hywel Swrdwal wedi canu iddo ar achlysur ei urddo’n farchog (GHS cerdd 6). Yn y 1470au derbyniodd fawl gan Ieuan Deulwyn (Lewis 1982: cerdd 36) a Llywelyn ap Morgan (Bryant-Quinn 2010: cerdd 1). Dan nawdd Wiliam hefyd y canodd Tomas Derllys ei gywydd mawl i Went (Lewis 1982: cerdd 40). Mae dadl gref dros ddeall Lewis 1982: cerdd 17 yn fawl i’r ail iarll hefyd, yn hytrach nag i’w dad, a gellid deall GDLl cerdd 48 yn gerdd i’r naill neu’r llall. Ar y llaw arall, mae cerdd arall gan Guto (rhif 28) yn cyfarch gŵr y gellir ei adnabod fel brawd anghyfreithlon i’r ail iarll, nid yr iarll ei hun fel y tybiwyd gan olygyddion GGl.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Godwin’ 8A1 ac A4. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Wiliam Herbert, ail iarll Penfro
Wiliam oedd mab cyfreithlon hynaf Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro. Ei daid oedd Syr Wiliam ap Tomas. Ei fam oedd Ann Herbert, merch Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd. Roedd Syr Water Herbert yn frawd iau iddo, a Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi yn frawd hŷn, ond anghyfreithlon.
Ei gartref
Trigai yng nghartref ei dad, sef castell Rhaglan.
Ei yrfa
Ganed Wiliam yn 1455, fel y dengys tystiolaeth yr inquisitio ar farwolaeth ei dad yn 1469, lle nodir bod Wiliam yn 14 oed ar y pryd (Thomas 1994: 73n1; Thomson 1921). Ar 1 Medi 1466 fe’i hurddwyd yn farchog gan Edward IV yn Windsor (GHS 151) ac yna priododd Mary Woodville, chwaer y frenhines. Derbyniodd y teitl ‘arglwydd Dunster’ (Thomas 1994: 45). Porthladd yng Ngwlad-yr-haf yw Dunster a fuasai ym meddiant tad Wiliam ers rhai blynyddoedd.
Yng Ngorffennaf 1469 dienyddiwyd iarll cyntaf Penfro yn sgil brwydr Edgecote/Banbury. Etifeddodd Wiliam Herbert y teitl ac fe’i cydnabuwyd yn iarll Penfro yn syth, fel y gwelir mewn dogfennau cyfoes (Thomas 1994: 74). Eto, roedd Wiliam dan oed ar yr adeg beryglus hon, wrth i wŷr a oedd yn elyniaethus i’w dad ac i deulu ei wraig ymgiprys am reolaeth dros y deyrnas yn ystod y cyfnod 1469–71. Dim ond ar ôl brwydrau Barnet a Tewkesbury (1471) y gallai Wiliam deimlo’n ddiogel yn ei safle eto, ac i’r flwyddyn hon y perthyn cerdd 25, sy’n gresynu am ddigwyddiadau erchyll y tair blynedd hyn.
Buasai tad Wiliam, yr iarll cyntaf, i bob pwrpas yn rheolwr Cymru gyfan ar gyfer Edward IV. Ni lwyddodd yr ail iarll i adennill safle a statws ei dad, ac yn sgil hyn mae haneswyr wedi bod yn drwm eu llach arno, gan ei gyhuddo o fod yn llesg, yn llipa neu’n afreolus (e.e., Griffiths 1972: 158). Awgrymwyd hefyd fod iechyd Wiliam yn fregus, gwendid a allai gyfrif am yr hyn a ystyrir yn ddiffyg egni ac ymroddiad ar ei ran (Thomas 1994: 73). Mae lle i ddadlau bod y feirniadaeth hon yn adlewyrchu disgwyliadau afresymol. Nid oedd yr amgylchiadau a oedd wedi ffafrio dyrchafiad yr iarll cyntaf bellach yn bod. Roedd gafael Edward IV ar yr orsedd yn sicrach o dipyn na chynt. Dymchwelwyd grym teulu Neville ac nid oedd rhaid bellach eu gwrthbwyso. Yn bennaf oll, roedd etifedd gan Edward. O hyn ymlaen byddai tywysog Cymru, ac yn wyneb hynny mae’n anodd gweld sut y gallai iarll Penfro weithredu mor rhydd ag y gwnaethai ei dad yn y 1460au. Mewn gwirionedd, dibynnai grym yr iarll cyntaf yn llwyr ar ffafr y brenin, ac yn y 1470au newidiodd y brenin yn raddol o bwyso ar iarll Penfro i ymddiried fwyfwy mewn cnewyllyn o wŷr a amgylchynai’r tywysog ifanc. Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio yw bod grym eithriadol yr iarll cyntaf yn anorfod wedi ennill gelynion iddo ef a’i deulu (cf. Wiliam Herbert). Unwaith bod awdurdod arall wedi ymddangos yng Nghymru, sef cyngor y tywysog, roedd yn anochel y byddai’r sawl a dramgwyddwyd gan yr iarll cyntaf yn ymgasglu o gwmpas y ffocws newydd. I ba raddau y bu Wiliam Herbert ei hun yn gyfrifol am golli ffafr Edward, anodd barnu, ond roedd gwrthdaro rhyngddo ef a chyngor y tywysog bron yn anochel, waeth pa mor ddeheuig oedd ef yn wleidyddol. Ac os gorfodwyd y brenin i ddewis rhwng Wiliam Herbert a chynghorwyr ei fab ei hun, go brin y byddai’n dewis cefnogi’r iarll ifanc. Etifeddiaeth anodd a gafodd Wiliam Herbert gan ei dad.
Croniclwyd cwymp graddol Wiliam Herbert gan D.E. Lowe (1976–8). Yn 1473, pan fu diddymiad cyffredinol o grantiau’r brenin (Saesneg resumption), nid eithriwyd y swyddi a etifeddasai’r iarll ifanc gan ei dad (ibid. 293–4). Er na chollodd y swyddi hyn yn syth, eto i gyd dyma arwydd cryf nad oedd y brenin yn barod i ymddiried ynddo fel yn ei dad. Yn fuan ar ôl hynny ceir tystiolaeth fod aelodau o deulu Herbert yn codi anrhefn yn ne Cymru (Ross 1974: 195; Thomas 1994: 77; DNB Online s.n. Herbert, William). Erbyn hyn rhwygwyd y cynghrair agos rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, a fuasai mor llwyddiannus yn y 1460au (Griffiths 1993: 35). Bu cymod o ryw fath rhwng Herbert a’r brenin yn 1475, pan aeth Wiliam Herbert i Ffrainc ym myddin y brenin, ac y caniatawyd iddo dderbyn ei etifeddiaeth lawn (Thomas 1994: 78). Fodd bynnag, ni roddodd hyn derfyn ar y broblem, a gwaethygu a wnaeth perthynas Herbert â’r brenin. Yn 1479, o’r diwedd, gorfodwyd Herbert i ildio’r teitl iarll Penfro a derbyn iarllaeth Huntingdon yn ei le. Gwaharddwyd ef a’i frawd Water rhag dod i Gymru am flwyddyn gyfan (Bryant-Quinn 2010: 62–3 a n31).
Daeth tro ar fyd dan Risiart III (1483–5). Yn sgil cwymp dug Buckingham roedd ar Risiart angen cefnogwr a allai gadw trefn yng Nghymru (Griffiths 1993: 37). Trodd at Wiliam Herbert, a briododd ei ferch anghyfreithlon, Katherine Plantagenet, yn 1484 (Thomson 1921: 270). Mae agwedd Herbert at Harri Tudur yn ansicr, ond ymddengys fod ei frawd Water wedi ymladd drosto ar faes Bosworth yn 1485 (Griffiths 1993: 41–2).
Bu farw Wiliam Herbert ar 16 Gorffennaf 1490 (DNB Online s.n. Herbert, William).
Llyfryddiaeth
Bryant-Quinn, M.P. (2010), ‘ “Aur yw pris y wisg”: Llywelyn ap Morgan a’r Grog yn Aberhonddu’, Dwned, 16: 51–91
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lowe, D.E. (1976–8), ‘The Council of the Prince of Wales and the Decline of the Herbert Family during the Second Reign of Edward IV (1471–1483)’, B xxvii: 278–97
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Thomson, C.H. (1921), ‘William Herbert Earl of Huntingdon’, Notes and Queries (twelfth series), part viii: 270–2