Y llawysgrifau
Dau gopi sydd. Ceid y gerdd hon yn wreiddiol yn Pen 57 (c.1440), llawysgrif gyfoes â gyrfa gynnar Guto’r Glyn ei hun, ond rhwygwyd y ddalen a bellach ni ellir darllen ond llythrennau olaf pob llinell. Yn ffodus gwnaeth John Jones, Gellilyfdy, gopi o’r testun yn Pen 312, cyn i’r ddalen gael ei difrodi, ac ar hwnnw y seiliwyd y testun golygedig.
O ran synnwyr, gellid dadlau bod y gerdd yn gyflawn fel y saif. Ond byddai’n eithriadol o fyr yng nghyd-destun gwaith Guto’r Glyn, a hefyd ni cheir priodoliad wrth ei chwt yn Pen 312, sy’n awgrymu nad oedd un ar waelod y tudalen yn Pen 57 ychwaith. Diau i ddalen neu ragor fynd ar goll ar ôl y ddalen rwygedig. Gadawodd John Jones dudalen wag ar ôl ei adysgrif ef o’r gerdd yn Pen 312, fel petai’n gobeithio dod o hyd i’r gweddill rywbryd.
Defnyddiodd John Jones c, d, l, p, r, u a dotiau odanynt i gynrychioli ch, dd, ll, ph, rh ac w. Er hwylustod rhoddwyd y llythrennau modern yn eu lle yn y trawsysgrifiad ac yn y dyfyniadau ohono isod.
Trawsysgrifiadau: Pen 57, Pen 312.
11 ieirll ei hŷn Derbyniwyd darlleniad y llawysgrif, sef Ieirll y hyn. Nid oes angen ei ddiwygio fel y gwnaed yn GGl2 ieirll [y]w hyn (rhoddwyd y bachau o amgylch y llythyren anghywir). Yr ystyr, debyg, fyddai ‘ieirll yw’r rhain’. Defnyddir hyn (lluosog) yn enwol o bryd i’w gilydd, gw. WG 296, ond yn orgraff John Jones disgwylid hynn. Nid oes wybod, wrth gwrs, beth yn union a oedd ar y darn colledig yn Pen 57.
19 hwyr Pen 312 hwy[ ]. Mae’r gynghanedd a’r ystyr yn gwarantu hwyr.
20 hawddamor Pen 312 h[ ]ddamor.
Cywydd mawl i Harri Gruffudd (Harri Ddu, &c.) o’r Cwrtnewydd, Bacton, yw hwn, un anghyflawn, yn ôl pob tebyg, gan ei fod mor fyr. Mae’n agor gyda’r dechneg gyffredin o ddatgan bwriad i ymweld â’r noddwr (Lewis 2009: 150). Nid oes rhaid dehongli’r agoriad yn llythrennol, a diau mai yn y Cwrtnewydd, cartref Harri ei hun, y datganwyd y cywydd. Yna rhydd y bardd ach Harri yn ôl i’w hen daid, gan enwi tad ei fam hefyd. Angorir Harri yn ei gynefin yn Nyffryn Aur, Euas. Ei gyflwyno ei hun a wna’r bardd yng ngweddill y darn, gan ei alw ei hun yn brifardd i Harri Gruffudd (gw. llinell 16n).
Dyddiad
1430au. Mae’r ffaith fod copi o’r cywydd gynt yn Pen 57, llawysgrif o c.1440, yn dangos iddo gael ei ganu yn gynnar yng ngyrfa Guto’r Glyn, ac efallai ei fod yn gynharach na’r un o’r cywyddau eraill a ganodd ar gyfer Harri. Mae’n debygol hefyd fod yr arddull sangiadol a thoredig yn nodweddiadol o ganu cynnar Guto’r Glyn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXVI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 20 llinell, yn anghyflawn yn ôl pob tebyg.
Cynghanedd: croes 75% (15 llinell), traws 10% (2 linell), sain 15% (3 llinell).
2 llys Mewn Cymraeg Canol gellid rhoi enw cyrchfan yn syth ar ôl berf a oedd yn ymwneud â symud, wedi ei dreiglo, a heb yr arddodiad i, gw. TC 227–8.
2 Euas Cwmwd sy’n gorwedd ar lethrau dwyreiniol y Mynydd Du, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gyda dyfodiad y Normaniaid daeth Euas yn un o arglwyddiaethau’r Mers (Ewyas Lacy). Fe’i hymgorfforwyd bron i gyd yn swydd Henffordd yn dilyn Deddf Uno 1536. Yn y cyfnod hwn perthynai rhan o’r arglwyddiaeth i Iarll Warwick a rhan arall i Richard, dug Iorc. Daliai Harri Ddu swyddi yn yr arglwyddiaeth ac ymddengys ei fod yn byw yn rhannol yn Longtown, canolfan yr arglwyddiaeth. Ond roedd ei brif gartref, y Cwrtnewydd yn Nyffryn Aur, eisoes yn swydd Henffordd, er bod y beirdd yn dal i ystyried yr ardal honno’n rhan o Euas.
5 hynwyf ofeg Enghraifft o sangiad amwys. Gellid ‘araith sionc’, yn cyfeirio at y gerdd ei hun, neu at leferydd Harri. Gellid hefyd ‘bwriad nwyfus’, yn disgrifio bwriad y bardd i enwi Harri.
8 Bactwn Bacton, plwyf yn Nyffryn Aur, swydd Henffordd. Yma roedd y Cwrtnewydd, cartref Harri.
8 Ector Hector, mab Priaf, brenin Caerdroea, a’r prif arwr a ymladdai ar ochr gwŷr y ddinas honno yn y chwedlau a gysylltid â chyrch y Groegiaid yn ei herbyn. Roedd y chwedlau hyn yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.
9 ynni annerch Sangiad arall, yn debyg iawn i’r sangiad a geir yn 5, a chyda rhychwant tebyg iawn o ystyron.
10 gorwyr Treiglir enw cyffredin mewn cyfosodiad ag enw priod, gw. TC 122. Diau fod hynny’n digwydd hefyd mewn cyfres o gyfosodiadau fel a geir yma. Ond hawliai’r beirdd y rhyddid i dreiglo cytsain gyntaf ymadrodd newydd, yn enwedig ar ddechrau llinell.
10 aerwy ar serch Delwedd amwys: gall fod Harri’n cael ei ddarlunio fel coler addurniadol ar serch, neu fel llyffethair arno, hynny yw, mae’n feistr ar serch. Dewiswyd y dehongliad cyntaf yn yr aralleiriad, gan fod beirdd y bymthegfed ganrif yn sylwi’n aml ar y coleri addurnedig a wisgai eu noddwyr yn arwydd o’u statws fel marchogion neu ysgwieriaid neu o’u teyrngarwch i’r Goron.
11 ieirll Defnydd ffigurol o’r gair am arglwyddi mawr.
12 glan Aur Safai llys Harri, y Cwrtnewydd, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd. Tardda’r enw Cymraeg Aur o’r enw Saesneg Dore (yntau o’r Ffrangeg), sydd yn ei dro yn deillio o gamddeall yr enw Cymraeg gwreiddiol (sef Dŵr).
13–14 Gwilym … / Llwyd Tad mam Harri.
15 herod Gw. GPC 1858. Mae’r union ystyr yn aneglur, ond mae a wnelo rywsut â swyddogaeth bardd. Mae Guto’n adleisio’r cwpled hwn yn ei gywydd yn cwyno am gybydd-dod Harri, cf. 35.23n.
16 prifardd Unwaith eto, nid yw’n eglur a oes ystyr dechnegol i hyn. Dichon y gallai noddwr benodi un bardd yn brifardd, beth bynnag oedd union oblygiadau hynny.
18, 20 hydd Delwedd boblogaidd iawn am noddwr, nid yn unig oherwydd bod yr hydd yn cynrychioli balchder gwrywaidd, ond hefyd yn sgil y gred fod yr hydd yn byw am amser maith.
19 gwyliau Sonia’r beirdd yn aml am ymweld â’u noddwyr ar adeg gwyliau, yn enwedig y Nadolig, y Pasg a’r Sulgwyn.
Llyfryddiaeth
Lewis, B.J. (2009), ‘Genre and the Praise of Place in Late Medieval Wales’, yn Stefan Zimmer (ed.), Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses, ii: Philologie (Mainz am Rhein), 147–58
This is a praise poem for Henry Griffith of Newcourt, Bacton (alias Harri Gruffudd, Harri Ddu, &c.). It is very short and probably incomplete. It opens with a common opening gambit, the poet announcing his intention to visit his patron, cf. Lewis 2009: 150. There is no need, therefore, to take the opening lines literally; the poem was surely declaimed at Newcourt, Henry’s home. Guto gives Henry’s ancestry back to his great-grandfather, and also names his mother’s father. Henry is firmly placed in his locality, the Golden Valley of Ewyas. In the remaining lines the poet introduces himself, describing himself as Henry Griffith’s prifardd (‘chief poet’, see line 16n).
Date
1430s. Since the poem was once in Pen 57 (c.1400), it must have been composed early in Guto’s career, and is perhaps the earliest of his poems for Henry Griffith. The disjointed style, with many sangiadau, may also point to an early date.
The manuscripts
There are two copies. Sadly, the copy in Pen 57 (c.1440) has been almost entirely lost, for the page on which the poem is written has been torn out, leaving a stub on which only the final few letters of each line can be read. Fortunately John Jones of Gellilyfdy made a transcript of the text in Pen 312, before the page was damaged, and his copy is the basis for this edition.
This poem might conceivably be complete as it stands, at least to judge from the content. But it is remarkably short compared with Guto’r Glyn’s other poems, and there is no attribution at the end, which suggests that there was also no attribution at the bottom of the now damaged page in Pen 57. It looks very much as though the poem once continued on a now lost leaf or leaves after the torn one. This opinion was probably shared by John Jones, who left an empty page after his copy in Pen 312. No doubt he hoped to recover more of the poem someday.
Previous edition
GGl poem LXXVI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 20 lines, probably incomplete.
Cynghanedd: croes 75% (15 lines), traws 10% (2 lines), sain 15% (3 lines).
2 llys Middle Welsh allows a noun referring to a destination to occur lenited after a verb of motion, without the need for a preposition such as i ‘to’, see TC 227–8.
2 Euas Ewyas or Ewias, a commote which lies on the eastern slopes of the Black Mountains, on the border between Wales and England. With the coming of the Normans Ewyas became a Marcher lordship, generally called Ewyas Lacy. Most of it was incorporated into Herefordshire under the Act of Union of 1536. In our period part of the lordship belonged to the earl of Warwick, and part to Richard, duke of York. Henry Griffith held offices in the lordship and appears to have resided at times in Longtown, the caput or centre of the lordship. But his main home, Newcourt in the Golden Valley, already belonged to Herefordshire proper, though the poets continued to think of the Golden Valley as a part of Euas.
5 hynwyf ofeg A good example of an ambiguous sangiad, or phrase inserted into a line without a syntactical link to the main sentence. It could be translated as ‘lively speech’, referring to the poem itself, or to Henry’s verbal skill. But it could also be rendered ‘intent full of excitement’ or suchlike, referring forwards to the poet’s intention to name Henry.
8 Bactwn Bacton, a parish in the Golden Valley, Herefordshire. Here was Henry’s home, Newcourt.
8 Ector Hector, the son of Priam, king of Troy, the chief hero who appears on the side of the Trojans in the legends of the Greek assault upon Troy. These stories were extremely popular during the Middle Ages.
9 ynni annerch Another sangiad, very similar in its range of meanings to the one in line 5. Literally ‘an address of vigour’, or the like, it could refer to the poem, or to Henry’s lively conversation.
10 gorwyr A common noun is lenited in apposition to a proper noun, see WS 42–3, and this surely applies too in a series of appositions, as here. In any case the poets allowed themselves the freedom to lenite the first word of a new phrase, especially at the beginning of a line.
10 aerwy ar serch An ambiguous image: maybe Henry is being depicted as a decorative collar worn by love, or as a halter around the neck or a fetter binding love’s feet: that is to say, he is master of love, his prisoner. In the translation, ‘collar’, is deliberately ambiguous, but it is worth noting that the poets repeatedly notice the decorative collars worn by their patrons in the fifteenth century. These were marks of status (as knights or esquires) and of loyalty to the Crown.
11 ieirll ei hŷn Following the manuscript Ieirll y hyn. There is no need to emend, as in GGl2, to ieirll [y]w hyn (sic; the square brackets have been printed around the wrong letter). This would presumably mean ‘these men are earls’. It is true that the plural hyn is occasionally used as a pronoun, rather than qualifying a noun, see WG 296, but in John Jones’s orthography we would expect hynn. Of course we cannot know precisely what orthographical form was on the lost leaf of Pen 57, from which John Jones was copying.
11 ieirll Here figurative for ‘lords’, not literally ‘earls’.
12 glan Aur Henry Griffith’s home, Newcourt, lay on the banks of the river Dore (Aur) in Herefordshire. The Welsh name Aur, which means ‘gold’, derives from the English (or directly from the French) name Dore, which itself arose from a Norman misunderstanding of the original Welsh name, Dŵr (‘water’).
13–14 Gwilym … / Llwyd The father of Henry’s mother.
15 herod Literally ‘herald’, see GPC 1858. The precise significance is unclear, but it has something to do with the duties of a poet. Guto echoes this line in his later poem of complaint about Henry’s meanness, cf. 35.23n.
16 prifardd Once again, it is unclear whether this has a more technical meaning. It appears that a patron could appoint for himself a prifardd (‘chief poet’), whatever the precise implications of this were.
18, 20 hydd The stag is a common image for the patron, not only as a representative of male pride, but also because it was believed that stags lived for a very long time.
19 gwyliau The poets often refer to visiting their patrons at festivals, especially at Christmas, Easter and Whitsun.
19 hwyr Pen 312 has hwy[ ], thanks to John Jones’s over-acidic ink wearing through the paper. Both cynghanedd and meaning make hwyr certain.
20 hawddamor Pen 312 h[ ]ddamor, also easily restorable.
Bibliography
Lewis, B.J. (2009), ‘Genre and the Praise of Place in Late Medieval Wales’, yn Stefan Zimmer (ed.), Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses, ii: Philologie (Mainz am Rhein), 147–58
Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd
Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).
Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).
Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.
Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:
1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106) 1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108) 1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109) 1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau) 1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233) 1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123) 1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2) 1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3) 1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118) 1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3) 1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456 1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132) 1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132) 1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3) 1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133) 1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34) 1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.
Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.
Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawgDyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.
Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)